Cwt Dafydd Ross

cwt-dafydd-ross-2
Cwt Dafydd Ross, delwedd o archif lluniau Mr Ifor Williams, gynt o fferm Coetmor

Nid Llanberis yw’r unig bentref yng Nghymru a all ymfalchïo fod adeilad ar gopa mynydd yn rhan o’i dreftadaeth. Mae gan Ddyffryn Ogwen hefyd adeilad ar ben un o’i chopaon. Eithr nid yw’r adeilad hanner mor grand â’r adeilad sydd ar gopa’r Wyddfa ac nid yw ychwaith yn cynnig paned o de i’r fforddolion, na thrên i’w gyrraedd. Ar gopa Moel Grach, 976 metr uwch arwynebedd y môr, lleolir cwt Dafydd Ross sy’n adeilad isel, trwsgl a garw ei olwg a adeiladwyd o gerrig bras i ymdoddi i bentwr mawr o feini. Mae cyrraedd ato, yn arbennig am y tro cyntaf, yn union fel camu i fyd hud a lledrith y tylwyth teg neu’r Mabinogi, yn arbennig felly os oes niwlen ysgafn yn ei led guddio. Mae gan y cwt do sinc isel â meini mawr wedi’u pentyrru drosto, ac islaw’r bargod mae un drws yn arwain at gell dywyll a oleuir gan olau egwan o un ffenestr ar y talcen. Ond mewn stormydd gwynt a glaw y gaeaf neu heulwen crasboeth canol haf saif y cwt, sydd dafliad carreg, fwy neu lai, o grib Carnedd Llywelyn ail fynydd uchaf Cymru, yn lecyn delfrydol i’w gyrraedd.

cwt-dafydd-ross-1
Mr Ifor Williams, gynt o Fferm Coetmor a dau gerddwr y tu allan i Gwt Dafydd Ross. Daw’r ddelwedd o archif lluniau Mr Ifor Williams.

Defnyddir Cwt Dafydd Ross heddiw fel caban ymochel i fforddolion y mynydd fel y mae arysgrif ar un o’r meini gerllaw’r drws yn ei nodi, ond yn wreiddiol fe’i hadeiladwyd fel man lle gallai bugeiliaid y fro lochesu. Adroddir mai bugail oedd Dafydd Ross, Sgotyn o ran ei fagwraeth, a gyflogwyd yn fugail yn ardal Ro Wen a Chwm Eigiau yn ystod cyfnod cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd nifer o’i gymheiriaid o’r Alban yn gweithio fel bugeiliaid ar stadau mawr bröydd Eryri. Ef a adeiladodd y cwt yn ôl tystiolaeth tafod leferydd. Yr oedd Cwt Dafydd Ross yn gyrchfan i fugeiliaid mynydd Llanllechid yn arbennig pan fyddid yn hel defaid cynefinoedd Braich Cwm Bychan a Charreg Gath ym mhellafoedd Cwm Caseg. Y cynllun oedd cyrraedd y cwt yn fuan wedi hanner nos ac ymochel yno hyd at doriad gwawr cyn dechrau hel yn gyflym a glân i lawr y gelltydd. Wedi cenedlaethau o ddefnydd aeth y cwt yn adfail hyd nes y penderfynodd nifer fechan o fugeiliaid a cherddwyr lleol, er mawr glod iddynt, ei atgyweirio i’w gyflwr presennol ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Nid cwt Dafydd Ross yw’r unig loches o’i bath ar fynydd Llanllechid. Ar gopa’r Bera safai cwt Jacob a fyddai’n gyrchfan i fugeiliaid ardal Aber a Llanfairfechan yn bennaf, ond a ddefnyddid o bryd i’w gilydd gan fugeiliaid Dyffryn Ogwen yn ogystal. Nid yw hanes y cwt hwn mor llewyrchus a chwt Dafydd Ross a bellach mae’n furddun er iddo roi degawdau o wasanaeth i hen fugeiliaid ucheldir y Carneddau.

eglwys-coetmor
Eglwys Coetmor

Nid cwt Dafydd Ross yw’r unig adeilad yn Nyffryn Ogwen sydd â chysylltiad uniongyrchol â mynyddoedd yr ardal. Mae gan gapel coffa Charles Donald Robertson ym mynwent yr Eglwys yng Nghoetmor gysylltiad llawer mwy syber na’r cwt disylw ar gopa Foel Grach. Ym mis Mawrth 1910 lladdwyd Charles  wrth iddo ddringo ar Glyder Fach ac adeiladwyd y capel syml, ond hynod deimladol, yn 1911 gan ei fam yn goffâd i’w mab. Bachgen o dras eglwysig tra enwog oedd Charles ac adwaenid ei daid a oedd yn un o brif bregethwyr yr Eglwys Anglicanaidd yn ei ddydd, Y Parch F.W. Robertson, fel ‘Robertson of Brighton’.

 

Byddai’n dda clywed gan ddarllenwyr am ragor o adeiladau sydd â chysylltiad uniongyrchol â mynyddoedd yr ardal.

Gwybodaeth gan Dafydd Jones, Fferm Coetmor, Bethesda a Wyn Roberts, Bryn Difyr, Tregarth.

Advertisements

Pentref Tregarth

ardal-tregarth-1768-1
Ardal Tregarth yn 1768: rhan o fap S 2205 Archif Mapiau’r Penrhyn drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Noder ddosbarthiad y caeau bychan a berthyn i’r tyddynnod; Llyn Cororion yn y gongl dde uchaf; Penygroes yn y gwaelod ar y chwith a Waen y Pandy yn y gongl chwith uchaf

O holl bentrefi Dyffryn Ogwen Tregarth yw’r mwyaf digynllun ohonynt oll. Ardal o dyddynnod a bythynnod gwasgaredig yn hytrach na phentref â chanolbwynt iddo oedd Tregarth  ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Eto mae’n ymddangos fod dau begwn yn datblygu, y naill ar ben y bryn ym Mhenygroes a’r llall ar waelod yr allt ym Mhen yr Ala. Prin oedd yr aneddiadau rhyngddynt, sy’n  egluro i raddau pam fod cyn lleied o gynllun yn perthyn i ddatblygiad y pentref.

fig6-tregarth-bryn-c-1
Cynlluniau tyddynnod ardal Tregarth yn 1768 o Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. 60 – Tyddyn y Clawdd; 61 – Tyddyn y Clawdd; 62 – Tregarth; 63 – Tregarth; 64 – Bryn Cocyn

Yn 1768 ar fap Arolwg o Stad y Penrhyn nodwedd arbennig yr ardal oedd fod yno gasgliad o dyddynnod bychan, oll yn llai na phum acer ar hugain eu maint, ar dir ponciog a chorsiog i’r gogledd o ddau begwn Penygroes a Phen yr Ala. Gwasanaethid y  tyddynnod hyn gan ddau lwybr yn arwain o Landygái, un yn mynd i gyfeiriad Penygroes drwy Gerrig Llwydion a’r ail yn mynd tua Phen yr Ala drwy Gororion a’r Gelli.

Prin fod newid wedi bod yn nosbarthiad y tyddynnod ers amser y map. Pery enwau’r mwyafrif ohonynt ac mae nifer fach ohonynt yn parhau’n dyddynnod gweithredol, megis un o’r ddau Dyn Clawdd gwreiddiol. Nodwedd arall i’r patrwm anheddu oedd datblygiad casgliad o fythynnod bychan, y mwyafrif yn llai nag acer eu maint, a’r tai hyn wedi’u cyplysu â gerddi sylweddol eu maint. Roedd y tai hyn wedi’u dosbarthu hyd y graig serth uwchlaw corstir Tanrhiw ac roeddynt wedi’u rhannu i ddwy brif ardal sef ardal Dob gan ddwyn yr enw Tregarth, a’r ardal a arweiniai o Ben y groes i gyfeiriad Chwarel Goch gan ddwyn yr enwau Braich a Thalgae. Dyma felly oedd y patrwm anheddu ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac i raddau helaeth proses o lenwi cydrhwng y bylchau agored a nodweddodd lawer o’r datblygiadau a ddilynodd weddill y ganrif.

tregarth-os-1890
Tregarth yn 1890- rhan o Fap Ordnans cyntaf 6″ i’r filltir. Noder y patrwm llinnynol yn dilyn y ffordd o Benygroes i Ben yr Ala

Chwaraeodd ardal Tregarth ran flaenllaw yn dod â chrefydd i Ddyffryn Ogwen gyda’r gwahanol enwadau yn sefydlu’n answyddogol yn rhai o dyddynnod y gymdogaeth. Ymsefydlodd yr Annibynwyr ym Mherthi Corniog; y Wesleaid ym Mryn Cul a Chaeherfin, a’r Methodistiaid yn y Felin Isaf, Llandygái. Sefydlwyd trefn fwy ffurfiol yn Nhregarth pan adeiladwyd Capel Shiloh ar gyfer enwad y Wesleaid yn 1826 a’i leoli ym Mhen yr Ala, ac yn 1837 sefydlwyd capel Penygroes gan y Methodistiaid Calfinaidd a’i godi yn y pegwn arall ar ben y bryn. Yno hefyd y sefydlwyd tlotai ar gyfer yr anghenus. Oddeutu’r un cyfnod troswyd un o’r llwybrau cynharach yn ffordd ffurfiol i gysylltu’r Ffordd Bost ym Mryn Bella â Phentir yn y gorllewin, cysylltiad a nodir ar y garreg filltir ar ystlys Pont Coetmor. Er bod y ffordd yn arwain drwy Benygroes i Ben yr Ala ac ymlaen i’r Gelli, tueddu i gadarnhau bodolaeth y ddau begwn yn hytrach na chreu undod canolog a wnâi’r ffordd hon, ac erbyn 1853 gyda adeiladu’r Eglwys yn y Gelli yr oedd pegwn  ychwanegol wedi ei ychwanegu at y pentref.

Er cymaint haelioni Edward Gordon Douglas Pennant, yr ‘Hen Lord’, yn noddi adeiladu eglwysi ac ysgolion yn y fro, ni ellir honni fod ganddo ddawn fel cynllunydd pentrefol. Tra bo’r eglwys yn y Gelli ar gwr eithaf y gymuned felly hefyd yr oedd ei benderfyniad i noddi sefydlu ysgol ym Modfeurig yn 1864, dau ddatblygiad nad oedd i gryfhau statws Tregarth fel pentref â chanolbwynt naturiol iddo. Yn yr un modd ni chaniatâi’r ‘Hen Lord’ agor tafarnau ar ei stad a chaewyd tafarn Tyn Clwt, yr agosaf at Dregarth, yn 1888. Prin oedd y ddarpariaeth ar gyfer agor siopau yn y pentref yn ogystal ac mae’n amlwg fod Tregarth yn datblygu i fod yn bentref noswylio yn unig ar gyfer gweithlu Chwarel y Penrhyn.

tregarth-1
Tyn Clawdd a’r Stesion oddeutu 1900 o archif cardiau post Dyffryn Ogwen, drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Y datblygiad nesaf o bwys oedd dyfodiad dwy reilffordd i redeg drwy Dregarth. Y gyntaf oedd y rheilffordd a agorwyd yn 1875 i gysylltu’r chwarel â Porth Penrhyn ym Mangor, a’r ail oedd rheilffordd genedlaethol yr LNWR a agorwyd yn 1884 i wasanaethu rhwng Bangor a Bethesda. Cynlluniwyd llwybr y ddwy i defnyddio gwlypdiroedd gwastad ar y naill ochr i begwn Pen yr Ala, dwy ardal a fyddai’n parhau’n ffiniol i ddatblygiadau pellach yn y pentref. Ym Mhen yr Ala adeiladwyd gorsaf ac ychydig o dai brics coch i reilffordd yr LNWR a datblygwyd glanfa ddinod ar y bont i reilffordd y chwarel. Ar y cyfan, er hynny, cymharol fychan oedd cyfraniad y ddau wasanaeth i grynhoi’r boblogaeth, a chroesffordd i basio drwyddi oedd Pen yr Ala yn hytrach na chanolbwynt i dwf pentrefol mwy cynhaliol.

Ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cam olaf yn natblygiad Tregarth oedd cynllun hynod gynhennus yr Arglwydd Penrhyn i gartrefu gweithwyr a fynnai dorri streic fawr Chwarel y Penrhyn 1900 i 1903. Bryd hynny gwariodd George Sholto Douglas-Pennant hyd at £5000 i adeiladu nifer bychan o dai ym Mhenygroes a theras arbennig rodresgar yn Nhan Rhiw. Creodd hyn gnewyllyn arall digyswllt yn y pentref a chwalu, yn y broses, nifer o hen dyddynnod megis un o’r ddau Dyn Clawdd a Thanrhiw i wneud lle i’r datblygiad newydd. Gellir gwerthfawrogi nodwedd agored a digynllun y pentref yn y pedwar cerdyn post o gyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif a welir yma.

tregarth-4img
Yr oesaf drenau, Tregarth o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Yn y cerdyn uchod tynnir sylw at sefydliadau pwysicaf y pentref gyda nodyn o eglurhad ar gefn y cerdyn, meddai’r sylwebydd yn ei orgraff ddiatalnod wreiddiol — ‘this is the part of the bottom of Tregarth, the X is the Parsonage House the is the Church the O is the station and the M is the chapel and the I is the station master’s house Its a lonely place and the people are all rotten’. Dyna gamargraff a roddai’r cerdyn o breswylwyr y pentref bach hwn ar gerdyn post nad yw’n oes arno enw’r afonydd na’r derbynnydd. Y mae, serch hynny, yn cyfleu anallu ymwelydd di-Gymraeg i gyfathrebu  mewn pentref uniaith Gymraeg a gwahanol i’r hyn a ddisgwyliai ei weld. Mae hefyd yn adlewyrchiad o allu’r trên i agor y pentref bach cymharol ddinod hwn i ddylanwadau estron o’r byd mawr beirniadol tu allan ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Cyfuniad o ffactorau felly – daearyddiaeth; dosbarthiad yr unedau poblog; perchnogaeth y meistri tir a’i hynodrwydd, ac unffurfiaeth alwedigaethol y preswylwyr – a gyfrannodd at ddatblygiad Tregarth i fod yn bentref mor wasgarog yng nghyfnod cynharaf ei ddatblygiad. Pery rhai o’r nodweddion hyn hyd heddiw gan olygu o’r herwydd mai pentref i noswylio ynddo yw Tregarth yr unfed ganrif ar hugain yn bennaf.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Jones,  John Ellis. 2012.  Arysgrif: Nodyn am ddechrau Achos Crefyddol ym Mhentref Tregarth, ger  Bangor, a’i ddiwedd. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 73. tt,28-34.

Large, Frank a Stammers, Mike. 2012.  When the Russians came to Tregarth. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 73. tt. 82-93

Ogwen Teras

ogwen-teras
Ogwen Teras ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw’r ddelwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw  Jones, Parc Moch, Bethesda

Rhwng 1846 ac 1850 rhoddwyd sylw arbennig i ymestyn Stryd Fawr pentref Bethesda i ddilyn ffordd bost Telford tua’r de. Gellir ystyried hwn fel rhan o gynllun bwriadol gan stad y Penrhyn i greu mynedfa fwy urddasol i ganol y pentref. Rhan o’r datblygiad oedd adeiladu rhes o dai tri llawr, tra pharchus, Teras Ogwen a gwesty’r Douglas Arms – y ddau ddatblygiad yn estyniadau crand i’r Stryd Fawr. Yn wynebu Ogwen Teras yr oedd coron mawreddogrwydd y datblygiad sef Capel Jerusalem a adeiladwyd yn 1843 yn deml rwysgfawr ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd yr ardal. Yn ddiweddarach yn 1856 ychwanegwyd eglwys Glanogwen ar ben y bryn gyda’i mynwent gerllaw, ac wrth ei throed yn 1851 ysgol genedlaethol Glanogwen, y ddau ddatblygiad, wrth gwrs, yn perthyn i’r eglwys Anglicanaidd.

ogwen-teras-1
Rhan o fap Johnson o Penybryn yn 1855. Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn PFA/6/173

Rhannwyd y teras ar gytundebau prydles, ac yr oedd y dewis gorau o siopau’r gymdogaeth yn ei wasanaethu. Mae cyfeirlyfr Worrall, un o gyfeirlyfrau masnach cenedlaethol Prydain ar gyfer 1874, yn rhestru’r gwasanaethau a gynigid yn y teras cymharol fyr hwn o 22 tŷ yn unig. Roedd yno fanc; drygist; dau lyfrwerthwr; argraffydd; crydd; pedwar drepar; tri grosar; dau asiant yswiriant; dau eionmyngar ac un teiliwr. Mae cyfrifiad 1871 yn manylu ar bwy oedd y breintiedig a drigai yn y teras. Yno yr oedd meddyg a’i gymhorthydd; pedwar gweinidog yr efengyl; ciwrad; gwerthwr blawd; naw drepar/teiliwr – rhai yn cyflogi gweithwyr ychwanegol ac eraill yn cyfuno hynny â bod yn grosar neu’n eionmyngar; tri gwneuthurwyr esgidiau gydag un yn cyflogi naw dyn; dau ddrygist; un ‘master’ peintar; gwneuthurwr dodrefn; argraffydd; cigydd ac, yn rhyfeddol o ystyried crandrwydd y teras, un chwarelwr. Deiliad Gwesty’r Douglas oedd John Hughes Shephard , ac roedd ef a’i deulu yn hanu’n wreiddiol o Middlesex. Roedd y gwesty yn ogystal yn cynnig gwasanaeth  ‘coaches and omnibuses to and from Bethesda’.

Ogwen Teras, felly, oedd y ffenestr i lwyddiant proffesiynol pentref Bethesda yn ystod cyfnod anterth datblygiad chwarel y Penrhyn yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffynhonnell

Davies, Geraint. ‘Community and Social Structure in Bethesda 1840-70’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , 41,tt. 107-127. 1980.