Y traddodiad corawl yn Nyffryn Ogwen

Dyma erthygl arall gyfranwr gwadd, sef Wyn Thomas sy’n uwch ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Gwelwyd dwy ganolfan gerddorol o bwys yng ngogledd Cymru’r 19eg ganrif, sef Rhosllannerchrugog yn y dwyrain a Bethesda yn y gorllewin. Tra mai’r diwydiant glo ddenodd y boblogaeth i ardal y Rhos, twf aruthrol yn y diwydiant llechi ynghyd â doniau cynhenid trigolion y fro a fu’n ffynhonnell i gyfoeth ac amrywiaeth y traddodiad corawl yn Nyffryn Ogwen.[1]

Cyfeirir yn aml at gyfraniad eithriadol Robert Williams (1791-1828), Cae Aseth, Dyffryn Conwy[2] a symudodd i weithio yn Chwarel Cae Braich y Cafn yn 1819 ac a gyfrannodd i’r bywyd diwylliannol drwy gynnal dosbarthiadau i ddysgu elfennau cerddoriaeth a nodiant i’r trigolion lleol.[3] Yn y man, ystyriwyd ef yn ‘dad canu cysegredig ac eglwysig yr ardal’[4] a bu’n gyfrwng i godi safon canu cynulleidfaol y gymdogaeth. Dylanwadodd ar gyw-gerddorion eraill – rhai fel ‘Eos Llechid’[5], ‘Asaph’,[6] a ‘Gorfinawc o Arfon’[7] – ac yn dilyn ei farwolaeth annhymig sefydlwyd Cymdeithas y Cantorion Crefyddol yng Nghapel y Carneddi fel parhad i’w waith a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd canu corawl a chaniadaeth y cysegr yn ardal Bethesda. Bu’r gymdeithas hon yn llwyddiant ac er y cysylltid hi â’r Methodistiaid Calfinaidd, deuai’r aelodau ynghyd o bob enwad. O ganlyniad, magwyd llinach o gerddorion fel William Owen, Prysgol,[8]  John Parry,[9] David Roberts (‘Alawydd’),[10] a Robert Davies (‘Asaph Llechid’),[11] a fu’n flaengar yn arwain, hyfforddi, cyhoeddi, cyfansoddi ac yn cydlynu gweithgareddau cerddorol y dref. Cymeriadau fel y rhain a osododd sylfeini’r traddodiad ac a barodd i’r bwrlwm cerddorol ym Methesda ddenu sylw bonedd a gwreng yn ddiwahân.

IMG

Wrth i’r Mudiad Dirwestol ennill ei blwyf yng Nghymru yn ystod y 1830au-1840au sefydlwyd nifer o gorau dirwest yn Nyffryn Ogwen (e.e. Côr Dirwestol Braich Melyn a Chôr Dirwest Y Carneddi) a deuai’r rhain ynghyd yn gyson i gyd-orymdeithio a chyd-ganu gyda chorau o ardaloedd Bangor, Llangefni, Llanrug, Pwllheli a.y.b. mewn Cylchwyliau Dirwestol yng Nghonwy (1849) a Chastell Caernarfon (1850).[12] Emynau dirwest, anthemau a detholiad o weithiau cyfarwydd Handel, Haydn, William Croft a Beethoven fyddai’r arlwy gerddorol gan amlaf, ond yn ôl tystiolaeth y wasg, denai’r achlysuron cyhoeddus hyn gynulleidfaoedd niferus yn eu miloedd.

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd yr arfer o gynnal Cylchwyl Gantorol ac Eisteddfod Gerddorol flynyddol ym Methesda wedi ei hen sefydlu a chystadlaethau canu anthemau Cymraeg a Saesneg yn ogystal â chystadlaethau cyfansoddi darnau corawl yn gyffredin. Digwyddiadau fel y rhain fu’n symbyliad i sefydlu corau lleol (ym mhonciau’r chwareli, mewn capeli enwadol ac eglwysi, er enghraifft), i godi safon canu’r gymdogaeth ac a fu hefyd yn ysgogiad i gyfansoddwyr ifanc yr ardal i fwrw eu prentisiaeth. Deuai arwyr y byd cerdd yng Nghymru yno hefyd i feirniadu, a rhai fel Edward Stephen (‘Tanymarian’),[13] John Mills (‘Ieuan Glan Alarch’), Llanidloes,[14] a John Roberts (‘Ieuan Gwyllt),[15] a’u tebyg yn gyfrwng i annog datblygiadau ym myd cerddoriaeth a chanu corawl nas gwelwyd mewn ardaloedd eraill o Gymru bryd hynny.

Denai eisteddfodau niferus y dref gystadleuwyr o bob ardal o ogledd Cymru a Chilgwri a heidiai’r tyrfaoedd i fwynhau cystadlu brwd (a ffyrnig, ar brydiau!) rhwng corau’r gymdogaeth a pharthau eraill y wlad. Yn ystod y 1860au gwelwyd bri mawr ar Eisteddfodau Cymreigyddion Bethesda, tra mai Eisteddfodau Ponciau y Chwarel fu’n boblogaidd yn y 1870au. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Llenyddol yn gyson yng nghapeli’r fro, ond oherwydd gwerth a phwysigrwydd cerddoriaeth yn y gymuned leol rhaid hefyd oedd cynnwys perfformiadau lleisiol a chorawl ynddynt er mwyn sicrhau cefnogaeth fwy na’r cyffredin. Fel dull o feithrin doniau cerddorol yr ifanc, bu Eisteddfodau’r Plant a’r Eisteddfodau Undebol yn fodd o gynnig llwyfan i’r genhedlaeth iau ac yn eu sgil, daeth cyfle pellach i sefydlu corau deulais (Soprano ac Alto) a thri-llais (SSA) ar eu cyfer. Drwy gyfrwng profiadau amheuthun fel y rhain, y cododd unawdwyr a pherfformwyr lleisiol o’r gymuned a ddaeth i enwogrwydd yn ddiweddarach yn y ganrif. Ond rhaid canmol menter a dyfeisgarwch cerddorion Dyffryn Ogwen yn ogystal. Ym 1853, mentrodd William Morris a hanner-cant o aelodau o Gôr Dirwestol Braich Melyn i dalaith Pennsylvania (Unol Daleithiau) i gynnal cyngherddau ac i chwifio baner gerddorol y genedl.[16] Cyn hwylio o ddociau Lerpwl, roedd y cantorion wedi creu’r fath argraff ar drigolion y ddinas, fel y rhoddwyd sylw i Fethesda ar dudalennau’r papurau newydd ac y daeth enw’r dref yn gyfarwydd yn ardaloedd Everton, Toxteth ac Edge Hill. Ond nid cerddoriaeth gan Handel, Mozart a Mendelssohn yn unig glywyd y tu hwnt i’r Iwerydd, yn hytrach lledaenodd poblogrwydd gweithiau corawl ‘Eos Llechid’, ‘Tanymarian’ a J. Ambrose Lloyd ymhlith y Cymry alltud a denwyd sylw cynulleidfaoedd estron i bwysigrwydd a safon neilltuol cerddoriaeth gorawl yn yr ‘hen wlad’.

Fel cymuned Gymreig, lle rhoddwyd parch a blaenoriaeth i’r iaith, tyfodd yr arfer o gyfieithu gweithiau corawl y traddodiad Ewropeaidd o’r Saesneg, Lladin ac Almaeneg i’r iaith Gymraeg. Cyfeirir at ymdrechion Côr Shiloh (Tregarth), er enghraifft, i drosi geiriau’r oratorio Jephtha (Handel) i’r Gymraeg:

Yn sicr, nid oes terfyn ar lafur bechgyn y chwarelau gyda cherddoriaeth.

Y maent yn mynnu cael meistroli holl gampweithiau prif gerddorion y byd,

gan ddechrau gyda Handel – yn enwedig bechgyn Tregarth’.[17]

Yn yr un modd, roedd sicrhau unawdwyr ac arweinyddion o dalgylch Bethesda ar gyfer achlysuron o’r fath yn flaenoriaeth – onid meithrin doniau lleol a’u cefnogi oedd braint y gymuned gyfan? Hyn fu hanes y bariton, David Ffrangcon-Davies,[18] y soprano Megan Telini,[19] ac yn ddiweddarach y mezzo-soprano, Leila Megane.[20] O ganlyniad i’w profiad fel perfformwyr yn Nyffryn Ogwen ynghyd â’u doniau arbennig, daeth llwyddiant i’w rhan ac fe ledaenwyd enw da’r traddodiad ar lwyfannau cerddorol yng Nghymru a’r tu hwnt. Ond deuai ymwelwyr uchel eu parch i Gastell Penrhyn hefyd (e.e. Y Frenhines Victoria ym 1859 a’r Prif Weinidog William Gladstone ym 1861) ac wrth fwynhau diddanwch corau Bethesda a’r cylch, deuai clod ac anrhydedd i’r gymdogaeth gyfan a sylw pellach i gerddoriaeth a cherddorion y fro. Cyfuniad o gantorion o gapeli ac eglwysi’r ardal oedd aelodau Cymdeithas Gorawl Eglwysig Bethesda a than arweiniad Owen Davies (‘Eos Llechid’) rhoddwyd cryn bwyslais ar berfformio gweithiau cysegredig yn y Gymraeg, waeth pwy oedd yn bresennol yn y gynulleidfa. Y Bethesda Glee Society, St. Annes Glee Society a’r Aber and Llanllechid Glee Society fodd bynnag, fyddai’n darparu’r diddanwch cerddorol yn Saesneg.

Wrth i ddylanwadau cerddorol y traddodiad Ewropeaidd gyrraedd gogledd-orllewin Cymru, datblygodd yr arfer o ddarparu cyfeiliant mwy priodol na harmoniwm neu organ ar gyfer canu corawl. Ym mherfformiad y gantata, Gwarchae Harlech (Edward Lawrance) gan y Penrhyn Choral Society cafwyd cerddorfa yn ogystal â band pres (y Penrhyn Royal Brass Band) i gynnal y rhannau lleisiol. I gynulleidfa’r cyfnod, byddai hyn yn brofiad anghyffredin a hynod ddeniadol am mai prin oedd offerynwyr ac ensemblau ‘Clasurol’ o’r fath yn y gymdogaeth bryd hynny. Yn y man, sefydlwyd The Penrhyn String Band a fu’n cynnal cyngherddau’n gyson yn Neuadd y Farchnad (Bethesda) ac a fu’n diddanu’r boblogaeth leol. Drwy gyfrwng eisteddfodau (mawr a mân) a gallu creadigol cerddorion y fro, lluniwyd cyfansoddiadau newydd ar gyfer corau a chymdeithasau corawl y fro e.e. yr oratorio Ystorm Tiberias (Tanymarian) a berfformiwyd gan Gôr Undebol o gantorion gorau’r gymdogaeth dan arweiniad R.J. Jones (‘Garmonydd’). Ond un mudiad rhyngwladol a ddylanwadodd yn fawr ar allu a chyfeiriad cerddorol y Dyffryn oedd Mudiad y Tonic Sol-ffa a ddenodd filoedd i ddysgu nodiant cerddorol newydd yng nghapeli Jerusalem, Gerlan, Tynymaes, Carneddi, Rhiwlas a.y.b., Drwy gyfres o arholiadau canu a thasgau sain-glust, codwyd safon darllen cerddoriaeth yn nalgylch Bethesda yn rhyfeddol. Y Parch Robert Roberts (brawd John Roberts, ‘Ieuan Gwyllt’) fu’n athro cyntaf y grefft ac fe’i dysgai ar yr amod y byddai ei ddisgyblion yn sefydlu dosbarthiadau eraill yn eu cymunedau Cristnogol. I gyd-fynd â datblygiadau o’r fath, tyfodd poblogrwydd y Gymanfa Ganu yn y sir a gyfrannodd ymhellach at godi safon canu cynulleidfaol ac o ganlyniad, deuai unigolion fel David Jenkins,[21] Roland Rogers[22] a Spencer Curwen[23] i ymweld â’r ardal ac i gefnogi’r gwaith. Unigolion fel y rhain gafodd brofiad o weithgarwch corawl mewn ardaloedd y tu hwnt i Sir Gaernarfon, a’u dealltwriaeth hwy o’r maes fu’n sail i’r arloesi corawl a cherddorol ym Methesda.

Cor penrhyn 1893
Cor Meibion y Penrhyn a fu yn cystadlu yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago yn 1893. Mae Edward Broome yr arweinydd ar dde eithaf y llun.

Cyn diwedd y ganrif, roedd The Arvonic Male Voice Choir[24] dan arweiniad Roland Rogers yn teithio i ganolfannau yn Lloegr (e.e. Lerpwl a Huddersfield) i gynnal cyngherddau o gerddoriaeth Gymreig yn ogystal â chystadlu, gyda chryn lwyddiant, yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Iddynt hwy, roedd camu y tu hwnt i Glawdd Offa yn arwydd o hyder a gallu’r côr i wynebu unrhyw her gerddorol a ddeuai o gyfeiriad y traddodiad yn Lloegr. Ond ‘menter enbyd’ i gôr o feibion y fro (The Penrhyn and Dinorwic Choir), dan gyfarwyddyd Edward Broome,[25] oedd teithio i Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Er na ddaeth llwyddiant i ran y cantorion y flwyddyn honno, roedd cyflawni camp o’r fath yn arwydd o obeithion rhyngwladol yr amaturiaid hyn ac yn arwydd o ymrwymiad y gymuned i gefnogi ei cherddorion i eithaf ei gallu.[26] Yn wir, roedd y daith i’r Unol Daleithiau mor bwysig ac arwyddocaol yn hanes yr ardal ac yn hanes cerddoriaeth Cymru benbaladr, fel y cyfrannodd Yr Arglwydd Penrhyn swm o £300 at y costau.[27]

 

 

IMGCor dynion 1900
Cor dynion y streic yn 1900 – un o dri chôr yn Nyffryn Ogwen

Drwy gydol cyfnod y Streic Fawr (1900-1903) bu cerddoriaeth leisiol ac offerynnol yn rhan allweddol o fywyd cymunedol Bethesda. Parhau wnaeth y canu mawl yn y capeli a’r eglwysi, ond cyfrwng codi arian i liniaru anawsterau gweithwyr a theuluoedd y fro, yn bennaf, fu perfformiadau a chyngherddau corawl bryd hynny. Yn wyneb diffyg Undebau Llafur a Gwladwriaeth Les, roedd disgwyl i’r trigolion ddibynnu ar eu hadnoddau a’u gallu cynhenid ond roedd canu a chyd-ganu yn gyfrwng gwerthfawr hefyd i ledaenu neges! Teithiodd dau Gôr Meibion i barthau gwahanol o Gymru a Lloegr i gyngherdda yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hyn, ond y mae hanes ymdrechion Côr Merched y Streic (dan arweiniad Mary Ellen Parry) yn deilwng o ymchwil ac astudiaeth bellach.[28] Y gwragedd hyn a fu’n gefnogol i’w gwŷr, nid yn unig ar eu haelwydydd, ond ym merw’r frwydr am hawliau a thelerau teg, fu hefyd yn barod i deithio a diddanu a chynnal tlodion y fro.[29] Drwy flynyddoedd y Streic, bu cerddoriaeth a gweithgaredd cerddorol yn gyfrwng i uno’r gymuned ddiwylliedig hon.

 

IMG_0002
Cor merched y streic yn 1900, Mae Miss Mary Ellen Parry yr arweinyddes yng nghanol y rhes flaen a Megan Telini ar dde eithaf y rhes ôl

Er gwaethaf y colledion ddaeth yn sgil y Rhyfel Byd cyntaf a’r Dirwasgiad a’i dilynodd yn 20au’r ganrif ddiwethaf, parhaodd y diddordeb mewn canu corawl, cymanfaoedd canu, perfformiadau operatig, eisteddfodau coronog a gwyliau corawl yn Nyffryn Ogwen. Cynyddodd y nifer o gorau plant (e.e. Côr Ysgol y Cefnfaes), daeth perfformiadau o oratorïau crefyddol yn gyffredin yn y capeli (e.e. Judas Maccabeus yng Nghapel Jerusalem) ond yn dilyn anogaeth yr organydd a’r cyfansoddwr, Caradog Roberts (Bangor a Rhosllannerchrugog) sefydlwyd côr meibion unedig a ddaeth yn gonglfaen i weithgaredd cerddorol y gymuned gyfan am flynyddoedd lawer.[30] Enillodd Côr Meibion y Penrhyn ei blwyf ymhlith corau blaengar y genedl a chan ddilyn arfer a threfn y gorffennol, bu’n cystadlu’n gyson, yn teithio’n ddyfal ac yn torri cwys newydd ymhlith corau meibion Cymru’r 20fed a’r 21ain ganrif.[31] Heddiw, er gwaetha’r ffaith nad yw caniadaeth y cysegr fel ag y bu yn nyddiau Diwygiad ’04-05 ac nad oes sôn am Eisteddfod Ponc y Chwarel na Gŵyl Gorawl, fe gododd to o gantorion a chyfansoddwyr o fath gwahanol yn y fro – unigolion a grwpiau poblogaidd sy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y traddodiad llenyddol, sy’n tynnu ar gyfoeth cerddorol y gorffennol ond sydd yn diddanu cynulleidfaoedd ymhell iawn o olwg y Dyffryn.

Wyn Thomas

Dydd Gŵyl Dewi, 2018

[1] R. Merfyn Jones, The North Wales Quarrymen, 1874-1922 (Cardiff: University of Wales Press, 1982)

[2] John William Evans a Sion William Ifan: Cofiant, neu hanes bywyd a marwolaeth Robert Williams, o Gae Aseth, Llanbedr yn Arfon: yr hwn oedd ben cerddor tra rhagorol yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd; hefyd rheolau a threfniadau llywodraethol y cantorion yn Nhapel y Carneddi, Llanllechyd

(Llanrwst: John Jones, 1830).

[3] R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleifaol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948)

[4] Gladys Lloyd Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), 11

[5] Y Parch Owen Davies (‘Eos Llechid’), 1828-1898, Arweinydd y gân am gyfnod o 20 mlynedd yn Eglwys y Plwyf, Llanllechid.

[6] Griffith Rowlands (‘Asaph’), 1807-1889. Cyn-ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth, chwarelwr ac Arweinydd y gân yng Nghapel yr Annibynwyr (Bethesda) am 45 o flynyddoedd.

[7] John Williams (‘Gorfyniawc o Arfon’), 1814-1878. Cyn-ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth ac awdur nifer o erthyglau cerddorol yn Y Gwyddoniadur Cymreig (1889-1896). Treuliodd gyfran sylweddol o’i fywyd yn Lerpwl.  

[8] William Owen (‘Prysgol’), 1813 -1893. Cyfansoddwr yr emyn-dôn ‘Pen Calfaria’, ‘Deemster’ ac ‘Alma’.

[9] John Parry (Y Carneddi), 1808-1838. Chwarelwr a chyfansoddwr tonau.

[10]  David Roberts (‘Alawydd’), 1820-1872. Awdur Gramadeg Cerddorol (1848) a Llyfr y Psalmau (1867) sy’n cynnwys 150 o emyn-donau cynulleidfaol.

[11] Robert Davies (‘Asaph Llechid’), 1834-1858. Cyfansoddwr yr anthem boblogaidd, Dyn a aned o wraig a genid yn aml yng ngwasanaethau angladdol y fro.

[12] Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[13] Edward Jones Stephen (‘Tanymarian’), 1822-1885. Brodor o Faentwrog, gweinidog a chyfansoddwr yr oratorio Gymraeg, Ystorm Tiberius (1885 ac 1887)

[14] John Mills (‘Ieuan Glan Alarch’), 1812-1873. Aelod o deulu cerddorol y Millsiaid o Lanidloes. Awdur Gramadeg Cerddoriaeth (1838)

[15] John Roberts (‘Ieuan Gwyllt’), 1822-1877. Golygydd Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859) a Y Cerddor Cymreig (1861). Bu’n frwd iawn dros boblogeiddio nodiant y sol-ffa yng Nghymru’r cyfnod.

[16] Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[17] Ibid.,

[18] David Thomas Davies (1855 – 1918). Ganwyd ef yn yr Hen Durnpike, Brynllwyd ac ychwanegodd yr enw ‘Ffrangcon’ fel arwydd o’i gyswllt teuluol ag ardal Bethesda. Athro canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol (Llundain) ac awdur y gyfrol The Singing of the Future (Lane, 1905).

[19] Margaret Jane Parry (‘Megan Llechid’ neu ‘Madam Telini’), 1878-1940 – Cantores broffesiynol a fu’n amlwg yn y byd cerddorol yn yr Alban (Caeredin), Llundain ac yn yr Eidal. Bu’n ddisgybl i’r cyfansoddwr, R.S.Hughes, organydd Capel Bethesda.

[20] Margaret Jones (Leila Megane), 1891-1960. gw. Ilid Anne Jones, Leila Megane – anwylyn cenedl (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1999).

[21] David Jenkins (1848-1915), Athro Cerddoriaeth, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Beirniad eisteddfodol, golygydd Y Cerddor ac arweinydd Cymanfaoedd Canu.

[22] Roland Rogers (1847-1927), organydd a chôr-feistr Eglwys Gadeiriol Bangor. Tiwtor cerdd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac athro canu D. Ffrangcon Davies ac R.S. Hughes.

[23] J. Spencer Curwen (1847-1916). Mab John Curwen, sylfaenydd y tonic sol-ffa ym Mhrydain. Cyhoeddwr cerddoriaeth a fu’n gyfrifol am hyrwyddo cystadlaethau corawl ymhlith cantorion amatur yn Lloegr.

[24] Sefydlwyd y côr o gant a phedwar-ugain o leisiau gan ‘Eos Ceraint’, organydd Eglwys St. Anne. Fe’i dilynwyd gan y Dr. Roland Rogers yn 1882. Gw. Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984)

[25] Edward Broome (1868-1932). Brodor o Fanceinion a ddaeth yn organydd cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Bangor ac yn organydd Eglwys y Santes Fair yn y ddinas. Treuliodd gyfran helaeth o’i oes yn byw yng Nghanada.

[26] Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984)

[27] Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[28] Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984), t. 14

[29] ‘Côr Merched y Streic’ – Darlith gyhoeddus gan Brenda Wyn Jones, Bethesda

[30]  Yn 1935 y sefydlwyd Côr Meibion y Penrhyn. Gw. Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984), t. 14

[31]  Côr y Penrhyn, Anthem, Cwmni Sain, Sain SCD 2679

Advertisements

Pont Aberogwen

Pont Aberogwen 2
Pont Aberogwen

Beth yw’r cysylltiad rhwng gwaith dur Penydarren â Dyffryn Ogwen yn 1824? Mae’r ateb i’w gael ar y bont haearn a godwyd yng ngheg yr Afon Ogwen yn Aberogwen. Ar y trawst sy’n wynebu’r môr bathwyd y geiriau ‘Cast at Penydarren Iron Works Glamorganshire MDCCCXXIV’. Ystyrir y bont yn un o nifer fach o rai eithriadol arwyddocaol yn hanes adeiladu pontydd haearn yng Nghymru, os nad y byd. Cyfyd nifer o gwestiynau ynghylch ei bodolaeth yn Aberogwen. Pam fod y bont lle y mae a beth oedd ei swyddogaeth? Pwy oedd yn gyfrifol am ei dyfodiad? Beth oedd y rhesymeg dros ddewis pont haearn yn y lle cyntaf, a sut y daethpwyd â hi i’w safle presennol? Gellir ateb rhai o’r cwestiynau hyn ac awgrymu atebion i rai eraill, ond er mwyn ateb y rhelyw rhaid wrth ymchwil fanwl o’r newydd. Dyma, felly, gynnig un dadansoddiad credadwy, ond heb gadarnhad dogfennol, o’r cefndir i adeiladu’r bont yn Aberogwen.

Etifeddodd George Hay Dawkins Pennant stad y Penrhyn yn 1808 ar farwolaeth ei ewythr Richard Pennant, ond ni symudodd i fyw i blasty’r Penrhyn tan 1816 pan fu farw Anne Susannah, gwraig Richard. George Hay oedd yn gyfrifol am adeiladu’r Castell Penrhyn presennol rhwng 1821 a 1836 a chreu’r parc o’i amgylch gyda’r mur uchel yn ei amgáu. Rhan o’r gweithgaredd hwn oedd codi’r bont yn Aberogwen fel y mae’r dyddiad ar ei hystlys yn awgrymu. Yn y cyfnod rhagarweiniol rhwng 1770 a 1810 yr oedd mwy nag un hen ffordd o droedio rhwng Aber a Bangor. Un oedd Ffordd Domas yn croesi yn uniongyrchol ar draws y penrhyn o Aberogwen i Abercegin gan fynd heibio’n agos at leoliad y plasty. Yr ail oedd drwy Landygái, a hon a ddewiswyd, drwy ymgynghoriad a bargeinio rhwng Pennant a swyddogion Ymddiriedolaeth Ffordd Dyrpeg Sir Gaernarfon yn 1777, i gyrraedd Llandygái dros bont Tal-y-bont.

Mae’n eithaf tebygol fod pont flaenorol, o fath, yn croesi’r afon yn Aberogwen, er na welir hynny yn amlwg ar fap George Leigh o stad y Penrhyn yn 1768. Wedi newid cynllun y ffyrdd byddai dyddiau ei defnyddioldeb wedi eu rhifo. Hynny yw tan 1824. Bryd hynny, mae’n debyg, y cychwynnwyd ar gyfnewidiadau enfawr yn Aberogwen i dorri sianel unionsyth i alluogi Afon Ogwen i lifo i’r Fenai yn ddirwystr gan hepgor ei llwybr dolennog gynt drwy Lyn Celanedd. Ac o benderfynu ymhellach i gynnwys llwybr yr afon hyd at bont Tal-y-bont oddi fewn i ffiniau’r parc, yna byddai’n ofynnol cwblhau’r cynllun drwy adeiladu pont newydd yn Aberogwen. Mae’n eithaf tebygol mai penderfyniad George Hay oedd adeiladu pont haearn ar y safle, ond os mai efe a’i gwnaeth, yna mae’n benderfyniad hynod a dweud y lleiaf, oherwydd yr oedd prif gynllunydd pontydd Prydain, Thomas Telford, hefyd yn gweithio yn Nyffryn Ogwen yn ystod y cyfnod hwn. Cydnabu’r ddau ei gilydd yn dda. Onid George Hay oedd cydymaith ifanc Telford yn archwilio’r llwybr gorau i adeiladu’r ffordd bost drwy Ddyffryn Ogwen yn 1810, ac fe gyflwynodd George Hay dystiolaeth arbennig mewn gwrandawiad o flaen Pwyllgor Dethol y Llywodraeth yn 1817 yn cefnogi cynlluniau ei gyfaill. Gellir damcaniaethu y byddai Telford yn rhy brysur yn cyfarwyddo adeiladu Pont y Borth yn ystod y cyfnod hwn i roi ei sylw i brosiect llai cyhoeddus ei arwyddocâd, ond fel un a oedd eisoes wedi adeiladu pontydd o haearn mae’n bosibl ei fod wedi trafod rhagoriaeth codi pont o’r fath yn Aberogwen.

Y bont haearn agosaf i Aberogwen yw Pont Waterloo a adeiladwyd i groesi Afon Conwy ym Metws-y-coed yn 1816, a’i chynllunydd oedd Telford. Bathwyd y pum trawst i’r bont yng ngwaith haearn William Hazeldine (1763-1840) yn swydd Amwythig yn 1815, a’u cludo ar y ffordd bost newydd i Fetws-y-coed i’w gosod ar y safle. Rai blynyddoedd yn gynharach yr oedd Telford wedi cydweithio â Jessup i adeiladu dyfrbont enwog Froncysyllte, gyda’r cafn haearn wedi ei fathu yn lleol yng ngwaith haearn Plas Kynaston. Felly, yr oedd technoleg bathu ac adeiladu pontydd haearn yn cael ei harfer yn y gogledd ddwyrain yn ystod yr un cyfnod, ac mae’n ddirgelwch paham y dewiswyd adeiladu pont yn Aberogwen a fathwyd yng ngwaith dur Penydarren a oedd gryn gant a hanner o filltiroedd i ffwrdd o’r safle. Efallai bod cyfansoddiad y bont ei hun yn cynnig un ateb.

Lluniwyd y bont o dri thrawst haearn addurnedig, 350 troedfedd (107 medr) eu trawsfesur (diamedr), sy’n cynnal troedffordd gul 8.6 troedfedd (26 medr) o led. Mae’r addurn ar y trawstiau ar ffurf latis cymhleth mewn dwy res, un uwchlaw’r llall, gyda chynllun yr uchaf yn llawer brasach na’r isaf. Yr hyn sy’n nodedig am y bont yw iddi gael ei bathu fel un cyfanwaith perffaith, sy’n adrodd cyfrolau am orchest y crefftwyr a’i bathodd. Eu gallu oedd gweld y cyfanwaith y tu chwith allan, a’i ben i lawr megis, yn y mowld tywod anferth a chymhleth a grëwyd gyda medrusrwydd arbennig i dderbyn yr haearn tawdd, ac yna’r grefft o dywallt y metel i redeg i lenwi pob manylyn yn y mowld cyn iddo oeri a difetha’r holl gynllun. Ystyria un arbenigwr, sydd wedi astudio’r bont yn fanwl, y byddai’r mowld tywod wedi cymryd wythnos i’r ‘patent makers’ ei adeiladu, ac y byddai’n eithriadol anodd yn dechnegol i ailadrodd eu gorchest mewn unrhyw ffowndri fodern heddiw.

Penydarren
Delwedd o waith dur Penydarren

Pont arbennig iawn ei chrefftwaith a dweud y lleiaf, ond sut yn y byd mawr y cludwyd cyfanwaith mor enfawr, trwm a thrwsgl o Benydarren i Aberogwen? Gyda llong o Gaerdydd, bur debyg, ond beth am y daith o 30 milltir rhwng y ffowndri a’r porthladd? Un o bedair ffowndri ym Merthyr oedd Penydarren, ac yr oedd gan y fwyaf a’r pwysicaf ohonynt, gwaith dur Crawshay yng Nghyfarthfa, ei chamlas breifat at ei defnydd. Cytunodd y tair ffowndri arall i adeiladu tramffordd ychydig dros naw milltir o hyd o Ferthyr i Abercynon yn 1802, tramffordd sydd o ddiddordeb oherwydd ei bod yn cydoesi â’r un gymharol a adeiladwyd gan Richard Pennant rhwng chwarel y Penrhyn a phorthladd Abercegin. Mae’n amheus y gellid bod wedi defnyddio’r dramffordd gynnar hon i drosglwyddo llwyth a oedd mor anhylaw, o gofio bod ei llwybr mor droellog a serth ac yn fyr o gyrraedd ei nod yng Nghaerdydd. Serch hynny, er diddordeb pellach, ond amherthnasol i hanes y bont, hon oedd y dramffordd a ddefnyddiwyd i redeg injan stêm Trevethick yn 1804, yr injan stem gyntaf yn y byd a deithiodd y naw milltir rhwng Merthyr ac Abercynon ar gyflymder o bum milltir yr awr i ennill her o £1000 am ei gorchest.

Nid oes rhaid ymhelaethu ymhellach, mae pont Aberogwen lle y mae er gwaethaf pob dirgelwch yn ei chylch. Mae’n rhaid bod manylion penodol ei bodolaeth i’w darganfod yma yng Ngwynedd neu yn ne Cymru, ond am y tro rhaid bodloni ar ddamcaniaethau megis yr uchod hyd oni y daw ffeithiau i’w gwrthbrofi.

Gwybodaeth gan  Griff C. Morris, Rhos y Nant, Bethesda