Ciltwllan

Cyflwynwyd Cristionogaeth i Ddyffryn Ogwen yn gyntaf rhwng y 5ed a’r 7fed ganrif Oed Crist pan ddaeth nifer o genhadon o Ffrainc a Llydaw i sefydlu celloedd mynachaidd yng Ngwynedd, fel ag y gwnaethant mewn rhannau eraill o Gymru. Cofnododd William Williams yn ei lawysgrif am gyflwr Sir Gaernarfon yn 1808 mai brawd a chwaer, Sant Dygai a Santes Llechid, plant Ithel Hael o Lydaw, a sefydlodd y celloedd a ddatblygodd i fod yn briod eglwysi’r ddau blwyf yn Nyffryn Ogwen.

Mewn llawysgrif sy’n dyddio o 1575-6 cofnodir y sefydlwyd yr eglwys gynharaf Llandygái yn ‘Cae Meusyn Glasog’ a oedd hyd at ddau saethiad bwa o’r eglwys bresennol, ond heb nodi i ba gyfeiriad. Yn yr archwiliadau archeolegol a wnaed i’r gorllewin o bentref Llandygái yn 1966-7 darganfuwyd mynwent o fwy na 57 bedd wedi’u trefnu ar echel i’r gogledd o’r dwyrain i gyfateb â chodiad yr haul ar ŵyl y Pasg. Ychydig lathenni i’r de o’r fynwent yr oedd un bedd wedi’i amgáu mewn lloc arbennig. Yn arwyddocaol, mae’r holl safle yn cyfateb i nifer a archwiliwyd yng ngogledd Cymru sy’n dyddio i gyfnod y 5ed i’r 7fed ganrif. Yn yr enghraifft hon er hynny, ni cheir y dystiolaeth angenrheidiol i gysylltu adeilad y lloc neilltuedig â chell wreiddiol y mynach a roddodd ei enw i’r eglwys ym mhentref Llandygái. Mae’n anodd cadarnhau a oedd adeiladau arbennig yn ganolbwynt i addoli a chladdu Cristionogol yng Nghymru yn y Canol Oesoedd Cynnar, er bod tystiolaeth Llandygái yn awgrymu hynny.

Llandygai Eglwyd gynnar
Rhan o gynllun y fynwent a’r lloc gyda’r bedd canolog o’r Canol Oesoedd cynnar yn yr archwiliad archaeolegol yn Llandygái

Yn yr un modd mae tystiolaeth nid annhebyg yn awgrymu fod gan Eglwys Llanllechid hefyd ei safle cynharach. Mae ‘Capel Llechid’ ar dir Plas Uchaf mewn cae a enwir ‘Cae’r Betws’, er bod maint y cae hwn yn Arolwg Penrhyn 1768 yn 35 acer ac, i ychwanegu at y cymhlethdod, fod yno hefyd ddau gae arall sy’n dair acer yr un, a’r ddau yn dwyn yr enw Cae’r Betws Bach. Nodir fod y ‘capel’ wedi ei godi o gerrig o’r Gyrn a’u bod wedi’u hailddefnyddio i adeiladu nid yn unig yr eglwys gyntaf ond hefyd yr ail eglwys yn Llanllechid. Nodir ymhellach i’r cyplau o’r ‘capel’ gael eu defnyddio i adeiladu tŷ gwreiddiol Plas Uchaf a oedd erbyn 1866 meddir yn ysgubor i’r fferm.

Map Anne R Jones
Rhan o Fap Anne R. Jones o ardal Plas Uchaf

Cofnodir hefyd, mewn brawddeg hynod awgrymog gan Hugh Derfel, fod tywodfaen nadd ac esgyrn dynol hefyd wedi’u darganfod ar y safle. Cysylltiad pellach o ddiddordeb yw agosrwydd y safle at ‘Ffynnon Llechid’, lle’r oedd dŵr â rhinweddau iachusol ac, meddai Hugh Derfel mewn cyfeiriad coeglyd, y ‘byddai hen bobl Llanllechid yn arfer a galw am lymaid … pan dybient eu bod ar fin marw’, heb dderbyn efallai fod cysylltiad rhwng dŵr bywiol a’r Eglwys Fore a thraddodiadau paganaidd o gyfnodau llawer cynharach mewn cynhanes.

Nid y ddwy fam eglwys yw’r unig eglwysi cynnar yn Nyffryn Ogwen, oherwydd mae yma nifer o safleoedd eraill a gysylltir â sefydlu crefydd yn yr ardal. Mae o leiaf naw safle o’r math yn y ddau blwyf er mai mewn enw yn unig y mae hynny yn achos nifer ohonynt gan fod eu hadeiladau wedi eu chwalu. Nodweddir y safleoedd gan adeiladau hirsgwar oddeutu 14-16 medr (15-17 llath) eu hyd wrth 7-9 medr (8-10 llath) mewn lled, gyda muriau trwchus o gerrig bras sydd oddeutu hanner medr (2 droedfedd) mewn trwch. Mae safle Ciltwllan yn nodweddiadol ohonynt. Yno mae tri adeilad hirsgwar. Yn ôl traddodiad dynodir un yn safle’r eglwys, a’r trydydd, sydd oddeutu 30 llath i’r gogledd-orllewin o’r cyntaf yn dŷ’r offeiriad. Mae ffurf wreiddiol adeilad yr eglwys bellach yn annelwig, ond nodir ei safle gan lwyfan eang lle safai adeilad ar ffurf llythyren T gyda chôr yn ei ben deheuol.

Eglwys Llanerchyn)
Eglwys Llanerchyn

Mae tri adeilad hefyd ar safle eglwys Llanerchyn a leolir ar lan un o flaen-ffrydiau Afon y Llan i’r dwyrain o Chwarel Bryn Hafod y Wern (cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SH 637690). Mae dau o’r adeiladau hyn yn gyflawn, adeiladau hirsgwar oddeutu 8 medr wrth 5.5 medr (9 wrth 6 llath) mewn maint. Mae’r trydydd, sef tŷ’r offeiriad, i’r de o’r afon yn fwy drylliedig ac wedi’i drosi yn gorlan. Mae safleoedd yr holl eglwysi cynnar ym mhlwyf Llandygái wedi’u dinistrio sef yr Hen Eglwys ger Ffynnon Bach ym Modfeurig; Eglwys Bryn y Byrddau, a safai ger Llyn Meurig ond a gladdwyd dan domennydd y chwarel; Eglwys Cororion, un o nifer o safleoedd ar lan y llyn; a Bryn Darlwyn a safai ychydig i’r gorllewin o safle Castell y Penrhyn. Mae dechreuad yr holl eglwysi hyn yn fater o gryn benbleth gan nad oes ffynonellau dogfennol na thystiolaeth archeolegol i gadarnhau eu cysylltiadau hanesyddol. Credir fod ganddynt gysylltiad ag offeiriadaeth cyfnod y Tywysogion yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg. Ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif sefydlwyd Abaty Aberconwy gan fynaich Urdd y Sistersaidd o Ystrad Fflur a dderbyniodd siarter gan Lywelyn Fawr. Cyn i Edward I symud y fynachlog i Faenan yn 1283 ystyrir fod cylchdaith wedi’i sefydlu drwy ucheldir Eryri a bod llwybr yr offeiriaid yn tarddu o Aberconwy drwy Garth Celyn yn Abergwyngregyn, i Lanerchyn ac ymlaen i Giltwllan, hyd nes cyrraedd Eglwys Nant Ffrancon a arferai fod ar dir Tŷ Gwyn. Wedi croesi Afon Ogwen ger Bryn yr Hwyaid a chyrchu ymlaen ar y gwastad hyd at Bont y Beudy Llwyd mae’r llwybr yn rhannu, un yn arwain i’r Benglog ac ymlaen i Gapel Curig a’r llall yn dringo’n serth hyd at safle’r Hafod. Yno mae’r llwybr eto yn rhannu yn ddau, un yn dringo i gyfeiriad Bwlch y Cywion a’r llall i gyfeiriad Y Garn.  Mae’n deg nodi nad oes sicrwydd y defnyddid y llwybrau hyn yn y Canol Oesoedd cynnar, ond mewn mannau mae rhannau o’r llwybrau hyn wedi’u dynodi â cherrig mawr, ac mae hyn yn arbennig o wir yn yr ardal rhwng Pont y Beudy Llwyd a‘r Hafod.

Mae’n anodd gwybod pryd yn union y peidiodd y gymuned ag addoli yn yr eglwysi cynnar a thrwy hynny dorri’r cysylltiad â Thywysogion Gwynedd, Abaty Aberconwy a’r ffydd Gatholig, ond mae’n debyg mai’r goresgyniad a achosodd y rhwyg.  Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd y ddwy fam eglwys, Llanllechid a Llandygái, yn rhan o drefn ffurfiol Eglwys Loegr a’u hymlyniad i frenhiniaeth y deyrnas ac nid oedd gofyn mwyach am wasanaeth Catholig yn eglwysi cynnar yr ucheldir.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

  1. Hughes, H. L. North. 1924. The Old Curches of Snowdonia. Bangor

Anne R Jones. Gorffennaf 2008. Llwybr yr Offeiriaid. Llais Ogwan. t. 27.

Frances Lynch, Chris Musson. 2004.  A Prehistoric and Early Medieval complex at Llandygai, near Bangor, North Wales. Archaeologia Cambrensis. 150 (2001). tt. 17-142.

Advertisements

Eglwys Llanllechid

Yn ôl traddodiad danfonodd uchelwr o Lydaw, Ifor Hael, ei fab Tegai a’i ferch Llechid, yn genhadon i Gymru yn ystod y seithfed ganrif Oed Crist gan sefydlu’r eglwysi sy’n dwyn eu henwau yn Nyffryn Ogwen.  Cyfeiriwyd at yr eglwys ganoloesol gyntaf yn Llanllechid mewn rhestr gwerth o Norwich yn dyddio i 1284, ond ni chanfyddir enw rheithor cyntaf yr eglwys, Robert Evans, Deon Bangor, hyd 1534. Disgrifiwyd yr eglwys fel adeilad hir ac isel yn cynnwys corff yn mesur 14.9 medr (49 troedfedd) wrth 14.6 medr (48 troedfedd) ei hyd a 6 medr (20 troedfedd) wrth 14.6 medr (48 troedfedd) yn y gangell. Yr oedd iddi lawr carreg a lle i 214 o gymunwyr addoli. Yn y pen deheuol adeiladwyd capel gweddi bychan, ond dengys bras gynllun o’r eglwys yn 1768 fod adeilad bychan yn cydio yn y pen dwyreiniol yn ogystal, gan roddi i’r adeilad siâp llythyren C y tu wyneb allan.

eglwys-llanllechid-1768
Manylyn o fap Arolwg y Penrhyn 1768 yn dangos braslun o ffurf eglwys ganoloesol Llanllechig. O Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Nodir fod seiliau’r eglwys gynnar wedi’u lleoli i’r dwyrain o’r eglwys bresennol. Amgylchynwyd yr eglwys gan y fynwent hirsgwar ei ffurf gyda mur uchel yn ei chau ar ymyl y ffordd, ond yr oedd gweddill y fynwent yn agored i’r caeau a’i hamgylchynai. Yr oedd y fynedfa yn arwain o’r ffordd ar ymyl y dwyrain.

porth-eglwys-llan-1
Porth eglwys wreiddiol Llanllechid o’r canol oesoedd a gynhwyswyd o fewn adeiladwaith yr eglwys bresennol

Mae porth presennol yr eglwys yn dyddio o gyfnod y canol oesoedd ac felly dyma’r unig nodwedd o’r eglwys wreiddiol sydd wedi goroesi i’r presennol

Cynhaliwyd ymchwiliad gan esgob Bangor yn 1623 i’r holl gwynion yn erbyn offeiriaid ei esgobaeth. Yn Llanllechid cydnabyddid mai dim ond tri gwasanaeth y flwyddyn a gynhelid, er bod traddodiad yn mynnu mai yn y Pasg yn unig y cynhelid y gwasanaeth blynyddol. Achwynwyd hefyd fod ceffylau’r rheithor y Dr Gruffydd William (1587?- 1673) yn halogi’r fynwent. Y Dr Gruffydd hwn oedd rheithor Llanllechid ac am gyfnod byr ei arhosiad cyflwynodd eglwys Llanllechid i wleidyddiaeth wenwynig yr eglwys, y frenhiniaeth a’r senedd yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Brodor o gylch Llanrug oedd Gruffydd Williams. Addysgwyd ef yn lleol cyn mynd yn fachgen 16 oed i ysgol Eglwys Grist, Rhydychen. Oddi yno aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt gan raddio yn 1606. Cymhwysodd ei hun ymhellach drwy ennill nifer o raddau uwch gan gynnwys gradd Doethor mewn Diwinyddiaeth yn 1621. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1607 a dechreuodd ddringo yn gyflym iawn drwy rengoedd yr eglwys. Bu’n ddarlithydd yng ngholeg eglwys gadeiriol Sant Paul a derbyniodd reithoriaeth un o blwyfi’r ddinas drwy ddylanwad ei gyfaill a’i noddwr John Williams (gweler Tŷ John Iorc a Y Dalar Hir). Yn anffodus iddo ataliwyd ei yrfa eglwysig yn 1616 pan bregethodd, fel cefnogwr brwd i’r brenin, yn erbyn y Piwritaniaid a chyhoeddi llyfr The Resolutions of Pilate nad oedd yn dderbyniol gan esgob Llundain. Gwaharddwyd ef rhag pregethu ond drwy ymyrraeth ffafriol ar ei ran gan Archesgob Caergaint penodwyd ef yn rheithor Llanllechid. Mae blynyddoedd ei arhosiad yn Llanllechid yn cyfateb i gyfnod rhwng 1617 ac 1621, ond nid i 1634 fel y nodir gan Hugh Derfel. Nid oedd yn gyfnod hawdd oherwydd croesodd gleddyfau diwinyddol a gwleidyddol â Lewis Bayly, esgob Bangor, a oedd yn Biwritan rhonc. Unwaith yn rhagor achubwyd ei gam gan archesgob Caergaint, ond erbyn 1624 ymadawodd am Gaergrawnt ac yn 1625 penodwyd ef yn gaplan teuluol Iarll cyntaf Penfro.

Dychwelodd yn ôl i’r gogledd yn 1626 a derbyniodd reithoriaeth Trefdraeth ym Môn. Penodwyd ef yn gaplan brenhinol yn 1636 a’r un flwyddyn gwnaed ef yn ddeon eglwys  gadeiriol Bangor, swydd a gadwodd mewn enw o leiaf hyd ddiwedd ei oes. Bu’n agos at gael ei wneud yn diwtor i’r Tywysog Charles a Dug Caerloyw yn 1636 ond ni enillodd gefnogaeth yr archesgob William Laud ac aeth y swydd i ffefryn arall. Yn 1641 cysegrwyd Griffith yn esgob Ossory (Swydd Kildare) yn Iwerddon yn yr un flwyddyn ag y derbyniodd ei gydwladwr a’i gyfaill John Williams ffafriaeth y brenin a’i wneud yn esgob Caerefrog. Fis yn unig wedi ei ddyrchafu yn Ossory gorfu i Griffith ffoi o Iwerddon pan dorrodd gwrthryfel allan yn y wlad a dihangodd i’w gartref yn swydd Northampton. Yr oedd y blynyddoedd a ddilynodd rhwng 1645 a’r Adferiad yn 1660 yn rhai eithriadol gythryblus ac ansefydlog yn ei fywyd wrth iddo deithio o un man i’r llall yn ddi-angor, weithiau yn Northampton neu Rydychen, yn Llundain neu Iwerddon, ac am gyfnod estynedig yn Llanllechid. Difrodwyd ei gartref yn Northampton gan filwyr y Weriniaeth gan adael ei wraig a’i blant yn dlodion, ac ar daith o Ddulyn i Gymru yn 1647 ymosodwyd arno gan ddwyn ei arian a’i adael ar ofyn ei gyfeillion. Drwy’r cyfnod hwn yr oedd ei fywyd mewn perygl ac mae’n rhyfeddol na chafodd ei garcharu a’i ddienyddio o ystyried mai ef oedd un o awduron mwyaf cyson , toreithiog a tanbaid ei gyfnod yn ei gondemniad o’r Senedd a chulni ei chrefydd Biwritanaidd. Llosgwyd ei gyfrol The Grand Rebellion yn gyhoeddus yn 1647 ac yn ei gyfrol fawr The Great Antichrist Reveled yn 1660 mae’n disgrifio’r llywodraeth yn San Steffan fel ‘a collected pack or multitude of hypocritical, heretical, blasphemous and most scandalous wicked men that have fulfilled all the prophecies of the Scripture’. Pa ryfedd felly nad oedd ei feirniadaeth yn dderbyniol gan ei elynion!

Ond pam y dychwelodd i Lanllechid tua 1647? Yno yr oedd ganddo eiddo a brynodd, mae’n debyg, yng nghyfnod ei arhosiad cyntaf fel offeiriad yr eglwys yn 1617. Ef oedd perchennog Plas Hwfa, yn ogystal ag un tyddyn, pedwar tŷ a naw cae, eiddo tipyn llai rhodresgar na’r hyn yr oedd yn gyfarwydd ag o mewn rhannau eraill o’r wlad, ond eiddo a’i cynhaliodd yn llafurio fel tyddynwr cyffredin drwy gyfnod estynedig ei arhosiad. Tybed a fyddai wedi cyfarfod â’i noddwr mewn dyddiau gwell, John Williams, a ffodd hefyd, yn ôl traddodiad, i Ddyffryn Ogwen? Go brin, efallai, gan fod John yn chwarae ffon ddwybig yn ystod y cyfnod hwn yn cyfryngu gyda’r Seneddwyr ar ôl cael ei amddifadu o’i loches yng nghastell Conwy. Serch hynny yr oedd Griffith yn bresennol yng nghynhebrwng John yn eglwys Llandygai yn 1650.

Sut dylid gwerthfawrogi bywyd Griffith Williams yr offeiriad gyda’i gysylltiadau brenhinol a’r offeiriad gwrthodedig a alltudiwyd i Lanllechid? Mewn oes eithriadol dymhestlog a gwenwynig ei chysylltiadau gwleidyddol gellir awgrymu mai offeiriad bydol yn hytrach nag un ysbrydol ydoedd, gyda’i uchelgais ar ddringo ysgol hierarchaidd yr eglwys a chadw ffafrau’r frenhiniaeth. Ni ellir amau ei allu ysgolheigaidd, ei ddewrder mewn print na’i deyrngarwch i’r brenin a’i harweiniodd at dlodi personol. Nid oedd cyfaddawdu yn rhan o’i gymeriad ac yn ystod cynni eithaf ei gyfnod yn Llanllechid gwrthododd fywoliaeth fras eglwys yn swydd Gaerhirfryn yn ogystal â chynnig o dâl o £100 y flwyddyn gan y Senedd ar yr amod y byddai’n ymostwng i’r drefn. Ar y llaw arall yr oedd ei deyrngarwch i’r brenin yn fwy felly nag i’w deulu. Cafodd ei wysio gerbron yr uchel gomisiwn yn 1636 am esgeuluso ei wraig a gorfu iddo arwyddo ymrwymiad gwerth £500 y byddai o hynny ymlaen yn ei pharchu fel y dylai bonheddwr barchu ei wraig. Ac yn Llanllechid mae’n bur debyg y byddai ei geffylau wedi derbyn mwy o’i sylw na’i blwyfolion. Ond ar ei farwolaeth nid anghofiodd ei ddyled i Lanllechid. Yn ei ewyllys yn 1671 barnodd fod gwerth trethadwy ei eiddo yn y plwyf i’w ddefnyddio er sefydlu elusen i gynnal y tlodion, ymrwymiad o ddyngarwch gan ŵr eithriadol fydol ei fuchedd.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Dodd, A.H.. 1968. A History of Caernarvonshire, 1284-1900. Caernarvonshire Historical Society. Caernarfon.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 1953. Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain

Llyn Meurig

Diflannodd Llyn Meurig o dan domennydd rwbel Chwarel y Penrhyn bron i ddau gan mlynedd yn ôl ond o bryd i’w gilydd mae’n mynnu anfon ei ddyfroedd i orlifo’r ffordd ger y fynedfa i Fryn Meurig.

llyn-meurig-1768-a
Ardal Llyn Meurig yn 1768 lle gwelir safle chwarel Cae Braich y Cafn (y Penrhyn yn ddiweddarach) ar y chwith eithaf; dyffryn Afon Galedffrwd yn y canol; ardal Cilgeraint a Thanysgrafell ar y dde eithaf. O fap Arolwg y Penrhyn 1768, Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Ar derfyn y ddeunawfed ganrif yr oedd ardal Llyn Meurig yn denu sylw arbennig oherwydd ei botensial diwydiannol mewn perthynas â datblygiad cynnar chwarel Cae Braich y Cafn. Ar y llethrau rhwng Hen Dyrpeg a Choed y Parc sefydlwyd nifer o dyddynnod, ac yn nyffryn y Galedffrwd uwchlaw Coed y Parc yr oedd clytwaith o gaeau bychan yn perthyn i bedwar tyddyn Cilgeraint. I’r de i gyfeiriad Llyn Meurig yr oedd pedwar tyddyn arall wedi’u sefydlu yn y Ddôl a Thŷ Du, a fferm fechan ym Mryn Llys. Mae enw un deiliad yn mynnu sylw arbennig sef William Williams. Ef oedd deiliad Tyddyn y Ddôl a oedd yn dyddyn o 14 acer, ac yr oedd hefyd yn rhan-ddeiliad pedwar rhandir arall gerllaw gan gynnwys rhandir mwyaf Cae Braich y Cafn a oedd yn 190 acer ei faint.

Yn 1765 arwyddwyd cytundeb rhwng stad y Penrhyn ac wyth deg o gloddwyr yn caniatáu iddynt godi llechi ar ffridd Cae Braich y Cafn. Mae enw William Williams y Ddôl yn ymddangos fel un o’r cloddwyr ac mae rhai o ddeiliaid eraill y tyddynnod a grybwyllwyd uchod hefyd ar restr y cloddwyr. Yn 1782 prynodd Richard Pennant brydlesau’r pedwar ugain cloddiwr am £2 yr un gan ddileu cytundeb gwreiddiol 1765. Galluogodd awdurdodi ei berchenogaeth ar y chwarel yn y modd hwn i Pennant ei throsi yn gyfundrefn gyflawn a oedd yn atebol i orchymyn un rheolwr. Y rheolwr hwnnw oedd William Williams, y polimath galluog o’r Tŷ Mawr yn Llandygái a chynllunydd cyntaf chwarel lechi integredig Cae Braich y Cafn. Dengys cynllun cyntaf y chwarel, sy’n dyddio o 1793,fod William Williams wedi ei datblygu yn gyfres o dyllau dyfnion i ddilyn prif hollt y graig tua’r gorllewin ac erbyn troad y ganrif yr oedd y gloddfa yn cyflogi hyd at dri chant o weithwyr. Y cwestiwn nad oes ateb pendant iddo ydyw ai William Williams y rheolwr, yw’r un dyn â’r llech gloddiwr cynnar yn chwarel Cae Braich y Cafn a oedd hefyd yn ddeiliad tyddyn y Ddôl?

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yntau ar ymweliad i ryfeddu at chwarel Cae Braich y Cafn yng nghwmni Richard Pennant, awgrymodd Doctor Clever, Esgob Bangor ar y pryd, y dylai’r perchennog adeiladu eglwys er ‘ymgeledd gymwys’ i eneidiau’r gweithlu. Derbyniodd Pennant yr awgrym ac adeiladodd eglwys ar gwr y chwarel ger Llyn Meurig a’i galw yn eglwys Sant Anne yn enw ei wraig Anne Susannah. Mae’n bur debyg y cynlluniwyd yr eglwys gan Benjamin Wyatt a chyfeiriwyd ati gan Fenton fel adeilad a oedd yn cyfuno ‘simplicity with elegance’.

eglwys-llyn-meurig-1836
Manylyn o lechen gerfiedig 1836 sy’n dangos Eglwys Sant Anne ger Llyn Meurig mae’n debyg; delwedd o lyfr Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen, Gwenno Caffell, 1983.

Credir bod darlun syml ohoni, a’r unig gofnod darluniadol, wedi’i gofnodi ar un o bentanau llechi cerfiedig Dyffryn Ogwen. Yng nghysgod y llyn a’r eglwys datblygodd cymuned wladaidd yn y blynyddoedd canlynol. Gellir amgyffred ei llwyddiant drwy graffu ar fap a gyhoeddwyd yn 1841 sy’n dangos lleoliad yr eglwys mewn perthynas â hyd at un ar bymtheg o dai a bythynnod. Yr oedd rhai o’r unedau hyn mewn rhesi bychan ac eraill yn wasgarog, ond yr oedd pob un wedi’i gysylltu â gardd neu lain o dir at eu defnydd.

llyn-meurig-1841-b
Ardal Llyn Meurig yn 1841. Rhan o fap Penrhyn Ychwanegol PFA/6/166, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Cyn pen ugain mlynedd wedi cyhoeddi’r map yr oedd cymdeithas wladaidd Llyn Meurig wedi’i dryllio yn llwyr wrth i domennydd rwbel chwarel y Penrhyn, behemoth y chwyldro diwydiannol, ei thraflyncu yn llwyr. Erbyn hynny nid hon oedd chwarel William Williams ond yn hytrach greadigaeth ei olynydd James Greenfield, ac yn sgil y datblygiad hwn y sefydlwyd pentref Bethesda. O bryd i’w gilydd er hynny, bydd Llyn Meurig yn deffro i dalu’r pwyth yn ôl am feiddio ei orchuddio gan domennydd un o chwareli llechi mwyaf y byd.

Ffynhonnell 

Jones, Dafydd Glyn. 1999. Un o Wŷr y Medra. Dinbych.

Capel Carneddi

Capel Carneddi (1)
Capel Carneddi

Capel Carneddi oedd mam eglwys enwad y Methodistiaid Calfinaidd ym Methesda, ond carreg filltir yn unig oedd sefydlu’r capel yn 1816 oherwydd daethai’r enwad i’r ardal cyn hynny.

Gof o’r Felin Isaf yn Llandygái, John Williams, oedd un o’r sylfaenwyr ac ef a ysbrydolodd gychwyn nifer o achosion, a hynny yn nhai cyfeillion o debyg anian oddeutu 1787. Ar y Sul pregethid ar gylchdaith o’r Felin Isaf i Dai’n y Coed gan orffen yn Nhan y Braich ger Chwarel Cae Braich y Cafn. Ceid gwasanaethau hefyd mewn nifer o ffermydd eraill ym mhlwyf Llanllechid, yng Nghochwillan, Llwyn Penddu a Thyddyn Isaf yn ogystal ag yn chwarel Cae Braich y Cafn. Derbyniodd y sefydlwyr cyntaf lawer o wrthwynebiad ar y dechrau. Gorchmynnwyd John Williams i adael ei gartref yn y Felin Isaf gan y perchennog, Benjamin Worthington, a oedd yn Grynwr, ac ymosodwyd ar bregethwr  arall wrtho iddo draddodi ei bregeth ger mynwent Eglwys Llanllechid.

Gyda nifer yr aelodau’n cynyddu aeth Tai’n y Coed yn rhy fychan i gynnal gwasanaethau ac yn 1793 codwyd capel newydd ym mhentref Rachub. Am gyfnod byr yn unig y defnyddiwyd y capel hwn cyn penderfynu symud i leoliad newydd yn y Carneddi dan arweiniad tri blaenor. Prynwyd llain o dir ac yno ar garnedd o gerrig adeiladwyd capel newydd yn mesur 14 wrth 11 llath ar gost o £1000. Dewiswyd Carneddi fel lleoliad oherwydd ei fod ‘mewn man mwy canolog i’r boblogaeth‘, dewis a oedd braidd yn fyrbwyll efallai o gofio yr agorwyd Ffordd Bost Telford o fewn pedair blynedd gan ganoli’r boblogaeth fwy na y gwnâi’r datblygiad rhuban a oedd yn tyfu ar y ffordd drwy Carneddi i gyfeiriad Pont Uchaf. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol ar 6 Hydref 1816 ac am y blynyddoedd nesaf yr oedd hanes y capel megis yn efelychiad o ddameg yr heuwr yn y Beibl. Yn 1834 symudodd 38 o aelodau’r Carneddi i atgyfnerthu’r capel newydd a sefydlwyd yn Llanllechid yn 1827, ac yn yr un modd gadawodd 30 aelod yn 1837 i sefydlu Capel Penygroes yn Nhregarth. Nid oedd pall ar aelodaeth y capel gwreiddiol ac yn 1827 estynnwyd yr adeilad drwy ychwanegu croglofft o’i fewn, ond yr oedd hefyd benderfyniadau mwy dyrys yn aros i’w datrys.

Gyda thwf yn y boblogaeth y dewis oedd a ddylid sefydlu capel newydd mewn lleoliad mwy canolog yn y pentref, neu godi capel newydd yn y Carneddi, mater a ystyriwyd yn fanwl rhwng 1839 ac 1840. Penderfynwyd sefydlu achos newydd yn y pentref, ac o dan arweiniad dau flaenor o’r Carneddi, Owen Jones, Brynsalem a William Williams, Penygraig, aethpwyd at i adeiladu capel Jerusalem yn 1842, ac ymunodd 160 o aelodau o’r Carneddi â’r capel newydd. Cenhadaeth y Carneddi oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu eglwysi Tyn y Maes, Hermon ym Mynydd Llandygái, a Brynteg nepell i ffwrdd ar gyrion Chwarel Pantdreiniog, ac yna yn 1869, codwyd capel newydd yn y Gerlan. Yn goron ar lwyddiant yr enwad ailadeiladwyd capel y Carneddi yn 1868.

Yr oedd bri mawr ar ganu cynulleidfaol yng nghapeli’r cyfnod a chyfrifid Bethesda yn un o ganolfannau cerddorol pwysicaf Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Breintiwyd yr ardal gan nifer o gerddorion dylanwadol er nad oedd llawer ohonynt wedi derbyn mantais addysg gerddorol ffurfiol. Yn eglwys Llanllechid arweinydd y gân oedd Owen Davies (Eos Llechid), a chymaint oedd bri ei gôr fel y deuai’r Prif Weinidog, William Gladstone, i wrando’n werthfawrogol ar y canu pan ymwelai â Llanfairfechan yn ystod gwyliau’r haf. Yng nghapel Bethesda David Roberts (Alawydd) oedd arweinydd y gân a sefydlodd yntau gôr o safon nodedig yn yr eglwys. Bu nifer o gerddorion yn gysylltiedig â chapel y Carneddi ers ei sefydlu a gellir enwi Robert Davies (Asaph Llechid), Robert Moses a John Parry yn eu plith. Yr arweinydd mwyaf nodedig oedd Robert Williams, chwarelwr wrth ei alwedigaeth, a sefydlodd ddosbarthiadau cerdd yn y capel ond a fu farw yn 1828 yn ŵr ieuanc 37 oed mewn damwain angheuol yn y chwarel. Eto, er cymaint arbenigedd y canu, yr oedd rheol na cheid ‘ymyrraeth ag offerynnau meirwon yn addoliad Duw, megis y delyn, a’r organ, pibelli a chrythau… ond canu yn gerddgar, soniarus a llafar byw a rhesymol’, ac felly oherwydd y gwaharddiad ni chafwyd offeryn cerdd yng nghapel Carneddi tan 1873. Yr un gwaharddiad a olygodd na chafodd yr harmoniwm a gludwyd ar fwrdd y Mimosa gan sefydlwyr cyntaf y Wladfa ei defnyddio mewn gwasanaeth crefyddol.

Nid yw Capel Carneddi yn sefyll mwyach er gwaethaf mawredd ei gyfraniad at werthoedd ysbrydol a chymdeithasol yr ardal. Y mae ei ddifodiad yn adlewyrchiad trist ar gyflwr crefydd yn Nyffryn Ogwen heddiw. Pydredd yn yr adeiladwaith a achosodd gwymp nifer o gapeli’r ardal ond rhesymau eraill megis diffyg ffydd  a chred mewn dysgeidiaeth Gristionogol sydd i gyfrif mae’n debyg am ddiflaniad y cynulleidfaoedd.

Gwybodaeth ychwanegol gan Emyr a Heulwen Roberts, Ystradawel, Bethesda, Alwen Hughes, Cilfodan, Bethesda

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Evans, Emlyn. 1991. O’r Niwl i’r Anialwch. Dinbych.

Owen, John. 1992. Dathlu Canrif a Hanner Jerusalem, Bethesda, 1842-1992. Dinbych.

Llyn Tsieini

Traen Dŵr Coed Parc
Twmpath a choed ym Mryn Derwen sy’n nodi cwrs twnnel tanddaearol

Dros y ffordd i’r fynedfa i Fryn Derwen rhwng Grisiau Cochion a’r Felin Fawr mae twmpath enfawr yn sefyll yn y cae. Mae wal gerrig yn ei gynnal a choed pinwydd yn ei orchuddio ac ym mhen arall y cae dan gysgod tomen rwbel y chwarel mae twmpath cyfatebol wedi’i leoli.

pont tansgrafell
Terfynell y ffos ddŵr yng Nhanysgrafell

Mae’r ddau dwmpath yn nodi cwrs twnnel tanddaearol a oedd yn codi dŵr o Afon Ogwen ym Mhont Ogwen, yn ei gario i’r chwarel ar gyfer gweithio’r peiriannau yno, ac yna yn ei arllwys yn ôl i Afon Ogwen yn Llyn Tsiaeni islaw Tanysgrafell. Cynlluniwyd y ffos hefyd i waredu holl ddŵr wyneb y chwarel, ac yn arbennig y dŵr a oedd yn cronni yng ngwaelod y twll. Yn wreiddiol yr oedd modd cyrraedd at y ffos danddaearol o’r twmpathau uchod, ond bellach mae’r mynedfeydd wedi’u cau. Yn Nhanysgrafell mae’r ffos yn dod i’r wyneb drwy fwa llechi yn y derfynell ac yn llifo ymlaen am ganllath olaf y daith fel ffos agored hyd nes cyrraedd glan Afon Ogwen. Yno yr oedd cadwyni o haearn yn rheoli fflodiart y ffos, trefniant nad yw’n weithredol bellach, er bod rhai o’r cadwyni i’w gweld ar y lan gyferbyn.

Llyn tcheini
Llyn Tsieini

Cloddiwyd y ffos yn 1847 gan griw o fwyngloddwyr a ddaeth i’r ardal o Ferthyr Tudful. Perthynent i enwad y Mormoniaid a sefydlwyd capel ganddynt ym Mhenygraig. Mae’r capel bellach yn ddau dŷ yn Stryd John ond mae plac gwag ar y mur uwchlaw yn nodi mai hwn oedd safle capel Bryn Salem. Nid arhosodd y Mormoniaid yn hir ym Methesda, arhosiad byr o lai na deng mlynedd, cyn codi eu pac ac ymfudo at eu cyd addolwyr yn Salt Lake City yn yr Unol Daleithiau.  Meddai Huw Derfel Hughes, mewn cyfeiriad deifiol at eu  crefydd dan bennawd Saint y Dyddiau Diweddaf ‘yr oeddynt yn fwy o wrthrychau tosturi nag i ddigio wrthynt ac yn eu pregethau yn gyffredin bradychent fwy o’r ffŵl nag o’r cnaf … cyn i fechgyn y gloddfa eu cael yn brin’.

Capel y Mormoniaid
Capel y Mormoniaid yn Stryd John

Ffynhonnell

Derfel Hughes, Hugh. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Capel Bethania

Capel BethaniaCapel Bethania oedd yr olaf o addoldai Bethesda i’w adeiladu, ac mae’n perthyn i gynllun a ddatblygodd  o 1875 ymlaen i wella’r fynedfa o’r gogledd i Fethesda. Adeiladwyd y capel gan enwad yr Annibynwyr yn 1885 ar safle twll hen chwarel Llety’r Adar, ac yn groes i’r arfer lleol defnyddiwyd brics llachar coch i’w godi –  brics a fewnforiwyd ar reilffordd y LNWR a oedd newydd agor rhwng Bangor a Bethesda yn 1884. Cynlluniwyd y capel gan y Parch. Thomas Thomas, arch gynllunydd capeli Cymru ac mae’n un o gampweithiau olaf y gŵr hwn cyn iddo farw yn 1888. Mae’r capel yn arddull Eidalaidd Thomas ac yn un o 900 o gapeli a gynlluniodd drwy Gymru yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Thomas oedd hefyd yn gyfrifol am gynllunio Capel Tabernacl y Bedyddwyr ym Methesda yn 1865 ac am ail gynllunio capel Carmel yr Annibynwyr yn Rachub yn 1860.

Capel ‘split’ oedd Bethania oddi wrth gapel Bethesda, prif addoldy’r Annibynwyr yn y pentref, yn dilyn rhwyg ymhlith y swyddogion a’r gynulleidfa.  Un o brif flaenoriaid capel Bethesda oedd W. J. Parry, gŵr busnes eithriadol ddylanwadol ym Methesda a Chymru’r cyfnod. Yn 1902 priododd Parry am y drydedd waith â Saesnes o Dudley ger Birmingham. Oherwydd nad oedd swyddogion Capel Bethesda am ganiatáu gwasanaethau yn Saesneg ar ei chyfer symudodd Parry ei aelodaeth i Fethania lle gwireddwyd ei ddymuniad i gael oedfa Saesneg ar fore Sul gan ddyfnhau’r rhwyg rhwng y ddau gapel. Ond bellach, fel yn achos capel Bethesda yr ochr arall i’r pentref, cau fydd tynged drysau capel Bethania yn y dyfodol agos.

Ffynonellau

Hughes, Steven.  2005.  Thomas Thomas, 1817-88: the First National architect of Wales. Archaeoligia Cambrensis, 152 (2003), 69-166

Williams, J. Ll. W. 2009. Portread o fywyd teuluol W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 70, 85-106

 

Capel Nant y Benglog

Exeter Hall oedd un o neuaddau mwyaf Llundain yn y ddeunawfed ganrif. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ym 1831 ar ochr dde y Strand. Daliai ei neuadd fach oddeutu 1000 o bobl ac roedd 4000 yn gallu eistedd yn ei neuadd fawr. Yn ystod cyfnod ei gogoniant defnyddid y neuaddau i gynnal cyfarfodydd crefyddol a dyngarol. Exeter Hall oedd cartref y Protestant Reformation Society a’r Protestant Association a daeth yr enw yn gyfystyr ag ymgyrchoedd y cyfnod yn erbyn caethwasanaeth. Chwalwyd yr adeilad yn 1907 a heddiw y Strand Palace Hotel sydd ar y safle. Ond yr enw yn unig sy’n cysylltu Exeter Hall â Chapel Nant y Benglog neu Gapel Bryn Gogwydd i ddefnyddio’i enw arall. Y capel hwn, gyda’i naw set i’r aelodau, set fawr i dri a’r pulpud, yw capel lleiaf yr Annibynwyr yng Nghymru, a chyda dychan ysgafn y câi ei gymharu â neuaddau gorwych y brif ddinas.

capel nant y benglog (1)
Capel Nant y Benglog

Agorwyd y capel yn 1853 wedi i’r aelodau benderfynu ei hadeiladu yn hytrach na gorfod marchogaeth i Eglwys Ciltwllan fel y gwneid yn ei dyddiau cynnar, neu yn ddiweddarach, deithio i Gapel Bethesda. Lleolwyd y capel ar fin Ffordd Bost Telford ar safle rhaniad y dŵr rhwng Afon Bodesi a lifai o dan Bont Gwern Gof i’r Afon Denau a Llyn Ogwen, ac Afon Llugwy a lifai i Nant y Benglog a’r dwyrain o dan Bont Rhyd Goch. Cafwyd prydles ar y safle gan Yr Arglwydd Penrhyn a bu tair o ferched, Elisabeth Evans, Glan Llugwy; Sidi Owen, Bodesi a Beti Thomas, Gwern Gof Isaf yn cynorthwyo’r dynion i godi cerrig o’r caeau yng ngolau’r lleuad i adeiladu’r capel.

Yn wreiddiol lleolwyd stabal i geffylau gerllaw’r tŷ capel ond pan atgyweiriwyd y capel ym 1929 ychwanegwyd hwn at y tŷ.  Roedd dwy lusern olew bres a chanwyllbrennau pres a ddaliai ganhwyllau gwêr yn goleuo’r capel. Mewn stormydd o eira gallai’r eira lenwi’r capel drwy rigolau yn y drws ac o reidrwydd fe fyddai’n rhaid gohirio’r oedfa. Fel arfer byddai’r pregethwr yn aros o nos Sadwrn tan fore Llun ac fe’i cyrchid â char a merlen o orsaf Betws-y-coed neu Fethesda yn ôl y galw. Pan ddathlodd y capel ei ganmlwyddiant yn 1953 cynhaliwyd cyfarfod cofio mewn pabell yn yr ardd â thyrfa o 800 yn bresennol. Er cymaint y gwamalu mae’r achos yn parhau yng nghapel Nant y Benglog tra bo rhodres Exeter Hall a’r addoli yng nghapel Bethesda wedi hen ddistewi.

Capel y Benglog

Cadw ni Arglwydd rhag y saeth a ehedo liw dydd a rhag yr haint a dramwyo liw nos.

Ffynhonnell

Roberts, Margaret, 1979. Oes o Fyw ar y Mynydd. Gwasg Gwynedd.

Eglwys Tanysgrafell

Mae paham y penderfynwyd adeiladu eglwys a mynwent gysylltiedig yn Nhanysgrafell yn  ddirgelwch. Adeiladwyd yr eglwys ym 1847, a’i chysegru y flwyddyn ganlynol, i fod yn gangen o eglwys St Ann, yr addoldy gwreiddiol a safai gerllaw Llyn Meurig cwta filltir i’r de o Danysgrafell.

Ystyriwyd y dylid sefydlu’r gangen atodol er mwyn gwasanaethu’r cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth ardal wasgaredig Coed y Parc wrth i chwarel y Penrhyn ehangu yn hanner cyntaf y ganrif. Dewiswyd lleoli’r datblygiad ar safle eithriadol gyfyng yng nghysgod craig enfawr mewn coedlan drwchus, a derbyniwyd nawdd gan Edward Gordon Douglas Pennant, Barwn 1af y Penrhyn, i’w hadeiladu. Cynhaliwyd gwasanaethau’n rheolaidd yn yr eglwys ar y Suliau a bu’n gartref i Ysgol Sul lewyrchus hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif. Byrhoedlog, er hynny, fu tymor ei gwir bwysigrwydd yn arbennig wedi i eglwys newydd St Ann gael ei hadeiladu yn 1865 ar y llethr uwchlaw ym Mryn Eglwys.

Mae’n anodd dirnad addasrwydd y safle yn Nhanysgrafell onid oedd yn fwriad ar y cyntaf i sefydlu pentrefan ehangach na’r dyrnaid o dai sy’n sefyll yng nghysgod craig yr eglwys. Gellir mesur pwysigrwydd yr eglwys drwy ystyried cylch eang y claddedigaethau sydd yn y fynwent.

Mynwent Eglwys Tanysgrafell
Mynwent Tanysgrafell

Yn naturiol yr oedd mwyafrif y meirwon yn byw yng nghwmpawd agos Coed y Parc, yn arbennig rhwng 1850 ac 1860, ond mae hefyd yn cynnwys ymadawedig o gylch ehangach sy’n ymestyn i Dy’n y Maes, Nant y Benglog, Rachub, a Bryntirion ym Methesda. Tybed nad oedd yn Eglwys wreiddiol Sant Ann ger Llyn Meurig gladdfa gynharach ac i fynwent Tanysgrafell gymryd ei lle wrth i domennydd Chwarel y Penrhyn wasgu yn y lleoliad cyntaf. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r eglwys a chafodd ei dymchwel dan amodau pur amheus yn ystod chwedegau’r ganrif gan adael mynwent ddrylliedig i goffáu gwerin a ddioddefodd haint a chynni wrth sefydlu cymdeithas ddiwydiannol ar lethrau Bryn Eglwys a Choed y Parc.

Adfeilion Eglwys Tanysgrafell
Adfeilion Eglwys Tanysgrafell

Ffynhonnell

Cofrestr Mynwent Eglwys Tanysgrafell, Bethesda, M270, Cymdeithas  Hanes Teuluoedd Gwynedd