Ffordd fawr Thomas Telford

Lot 23 - Fig b Telford
Cynllun gwreiddiol  llwybr y ffordd bost newydd o Tŷ’n Tŵr i Bont y Pandy – Map drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau Cenedlaethol, Kew , PRO Work 6/89, 1815-21
8 Telford Nant ffrancon
Ffordd bost Telford yn Nant Ffrancon

Ffordd bost Telford ydi’r A5 presennol, a heb ei hadeiladu rhwng 1815 ac 1819 gan beiriannydd ffyrdd pwysicaf Prydain ei gyfnod ni fyddai pentref Bethesda yn bod heddiw. Drwy gynllunio llwybr cwbl newydd i’r  ffordd i redeg o Bont Ogwen i Bont y Pandy ar ochr ddwyreiniol Afon Ogwen gosododd y seiliau angenrheidiol i sefydlu’r pentref. Deddf  Uno 1801 rhwng Prydain a’r Iwerddon oedd y rheswm dros adeiladu ffordd i gysylltu  prifddinasoedd Llundain a Dulyn. Penodwyd Telford i gynllunio ac adeiladu’r prosiect. Hwn oedd cynllun peirianyddol mwyaf ei ddydd, a’r cyntaf i dderbyn cefnogaeth ariannol lawn gan y Llywodraeth. Cafodd Telford y cyfarwyddyd i adeiladu ffordd ddiogel ar gyfer cludo cerbydau cyflym, gyriant pedwar ceffyl ac iddi wyneb sych a llyfn a gwteri digonol a oedd wedi’i diogelu rhwng muriau cadarn. Yn y mannau mwyaf serth nid oedd y gogwydd i fod yn fwy na 1:40 ac roedd ei lled i aros yn gyson rhwng 28 a 30 troedfedd.  Wedi dewis y llwybr mwyaf ymarferol a’i nodi gyda phegiau, a’i rannu yn adrannau unigol, ei dasg nesaf oedd gwahodd ceisiadau gan gontractwyr i wneud y gwaith yn unol â gofynion y dasg ac o fewn amserlen benodol. Y  contractwr a gynigai’r pris isaf fyddai’n ennill y cytundeb.

thomas telford
Thomas Telford yn ŵr ieuanc oddeutu 35 oed

Rhwng Tachwedd 1815 a Thachwedd 1818 yr oedd o leiaf chwe chontract yn cydredeg rhwng Llyn Ogwen a Llandygái. Cyfanswm cost y prosiectau hyn oedd £10,812 sy’n cyfateb i £1,051,000 yn arian heddiw. Agorwyd y ffordd yn swyddogol yn 1826 gan dorri’r siwrnai o Lundain i Gaergybi o 41 awr yn 1815 i 28 awr yn 1831. Nid oedd teithio yn rhad  – y gost i deithio’n gysurus o fewn y cerbyd oedd chwe cheiniog y filltir a thair ceiniog i’r dewr ar y tu allan. Pris y daith gyfan oedd £38.11.4 heb sôn am gostau ychwanegol talu’r ostleriaid a cheidwaid y tollbyrth. Byr fu tymor gorchest Telford oherwydd yn 1850 gorffennwyd adeiladu’r rheilffordd rhwng Llundain a Chaergybi gan gynnig taith fwy cysurus, rhatach a chyflymach i’r teithiwr i Ddulyn. Yn 1851 collodd y ffordd gymhorthdal y Llywodraeth i’w chynnal fel  priffordd ryngwladol, ond i Fethesda hon oedd yr allwedd i lwyddiant dyfodol y pentref.

Gweler hefyd gofnodion: Cilfachau TelfordGwesty’r Douglas ArmsPont y Benglog; Rhes y GraigTyrpeg Lôn Isa

Ffynonellau

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. Council British Archaeology/CADW. York.

J.Ll. W. Williams; Lowri W. Williams 2015. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 76, 35-60.

Advertisements

Chwarel y Penrhyn 1

Fig 1Chwarel Penrhyn 1808
Chwarel y Penrhyn yn 1808. Engrafiad S Rawle o lun gan J. Dixon, Casgliad Tirlun Cymru. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

 

Ystyrir Chwarel y Penrhyn yn un o’r enghreifftiau gorau o ddiwydiant a ddatblygwyd gan unigolyn a berchnogai’r tir a’r adnodd yn ogystal â’r cyfalaf angenrheidiol i gyflawni’r datblygiad. FFig 3 Richard pennantY gŵr hwn oedd Richard Pennant (1737? – 1808) a ddaeth yn berchen ar y stad yn 1764 pan briododd ag etifeddes y Penrhyn, Anne Susannah. Fel Aelod Seneddol dros Lerpwl fe wyddai am ofynion y farchnad am lechi ac yr oedd ei gysylltiadau masnachol, a’i gyfoeth, ynghlwm â phlanhigfeydd siwgr yn Jamaica.  Rhwng 1782, pan brynodd brydlesau wyth deg o gloddwyr ar ffridd Cae Braich y Cafn, ac 1808, sef blwyddyn ei farwolaeth, yr oedd yr incwm a dderbyniai o’r chwarel wedi codi o £80 i £7,000. Yn yr un cyfnod cynyddodd y gweithlu o 80 i 600, ac ehangodd y cynnyrch o tua 1,000 tunnell i 20,000 tunnell y flwyddyn.

 

Ffig 2 Chwarel Penrhyn 1793
Cynllun W. Jones, Bangor o Chwarel y Penrhyn yn 1793 – atodiad yn Chwareli a Chwarelwyr, W. J. Parry 1897.

Adeiladodd Richard Pennant ffordd newydd yn 1790 i gysylltu’r lanfa yn Abercegin â’r chwarel ac ar ei hyd teithiai 120 o droliau i gludo’r llechi i’w llwytho i longau yr oedd ef yn berchen arnynt yn y cei. Yn 1801 ehangodd y lanfa yn borthladd hwylus i alluogi degau o longau i’w defnyddio ar y tro. Yna, buddsoddodd £5,000 ar ddatblygu tramffordd chwe milltir o hyd i gysylltu gyda’r chwarel, datblygiad nas gwelwyd ei debyg o’r blaen yn chwareli eraill y gymdogaeth. Drwy ddefnyddio’r dramffordd gallai deuddeg dyn ac un ar bymtheg o geffylau gario holl gynnyrch y chwarel i’r cei gan arbed defnyddio’r holl droliau. Sefydlodd holl gyfundrefn y chwarel a hynny er gwaethaf wynebu rhwystrau mawr yn y farchnad a achoswyd gan y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrydain a pholisi’r llywodraeth gartref o osod treth ar lechi ar gyfer toi. I gryfhau’r farchnad adeiladodd ffatri i gynhyrchu llechi sgwennu yn y porthladd ac yng Nghoed y Parc sefydlodd felin gerrig i lifio llechfeini mawr yn drawstiau, cistiau a cherrig beddau. Yn 1819 pan fu Anne Susannah farw yr oedd cynnyrch y chwarel yn 24,418 tunnell; gwerth y cynnyrch yn £50,000 ac roedd ganddi weithlu cyflogedig o 800. Chwarel y Penrhyn oedd prif gynhyrchydd llechi Prydain a’r byd.

 

P Q Greenfield 1825
Cynllun Greenfield o Chwarel y Penrhyn yn 1826 – Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. –Mapiau Penrhyn PFA/6/320. Plan of Penrhyn Slate Quarry plan showing new work in progress, 1826

Gellir priodoli llawer o lwyddiant y cyfnod cynnar i arweiniad dau o reolwyr cyntaf y chwarel. Datblygodd William Williams, o’r Tŷ Mawr yn Llandygái, y chwarel yn gyfres o dyllau dyfnion yn dilyn hollt y gwely llechfaen ar echel o’r dwyrain i’r gorllewin. Ei olynydd yn 1802 oedd James Greenfield, brodor o swydd Sussex, ac ef a gynlluniodd y chwarel yn gyfres o bonciau cymesur yn dringo yn uchel hyd lethr y Fronllwyd, cynllun a efelychwyd yn holl chwareli eraill y fro lle’r oedd yr amodau yn caniatáu. Yr oedd hyblygrwydd y cynllun yn fanteisiol gan fod pob ponc wedi ei chysylltu â chyfres o elltydd, a dengys cynllun cynnar o’r chwarel yn 1822 fod dwy brif allt yn cysylltu’r ponciau ar naill ochr y gwaith.

 

Mantais enfawr chwarel y Penrhyn oedd ei lleoliad rhwng dwy afon – afonydd Ogwen a Chaledffrwd – a’r fantais felly o ddefnyddio eu dyfroedd fel adnodd, cyfleuster nad oedd at ofyn hwylus chwareli plwyf Llanllechid heb gynlluniau costus a thrafferthus. Mor gynnar ag 1793, yn ystod cyfnod William Williams, dengys cynllun y chwarel ddwy olwyn ddŵr yn gweithio offer i sychu tyllau’r Hen Chwarel a Chwarel Nantwich gan arllwys y dŵr i ffosydd pwrpasol. Yn fuan wedyn wrth i’r gloddfa ehangu i gynnwys un twll dwfn daeth yn amlwg fod rhaid datblygu cynllun cynhwysfawr i waredu’r holl ddŵr wyneb a gasglai yn naturiol trwy ddefnyddio peiriannau er mwyn iddo beidio â chrynhoi yng ngwaelod y twll. I gyflawni’r gofyn agorwyd traen tanddaearol yn 1847 o’r chwarel at lan Afon Ogwen yn llyn Tsieini ger Tanysgrafell gryn filltir a hanner i ffwrdd o’i tharddle. Dyma ffos sydd yn un o ryfeddodau cudd Dyffryn Ogwen hyd heddiw. Yn ogystal, defnyddid dŵr o’r ffos i greu ynni yn y chwarel drwy gysylltiad o Afon Ogwen ym Mhont Ogwen. Yn yr un modd defnyddid dŵr o Afon Galedffrwd i weithio peiriannau’r Felin Fawr yng Nghoed y Parc drwy gyfrwng dwy olwyn ddŵr, un yn gyrru peirianwaith y felin gerrig a’r gweithdai, a’r llall yn gwasanaethu megin y ffowndri. I gryfhau’r cyflenwad adeiladwyd cronfa arbennig, Llyn y Mynydd, yng Ngwaun Cefnau uwchlaw Tan y Bwlch ym Mynydd Llandygái, ac ail gronfa lai yng Nghoed y Parc i reoli’r cyflenwad. Yn y Felin Fawr ailgyfeiriwyd gwely’r afon i ddanfon y llif, a dŵr gwastraff y peiriannau, yn gyfleus o dan y safle a heibio’r Felin Isaf i lifo’n ddirwystr i Afon Ogwen. Yn y chwarel, wrth i’r twll agor yn ddyfnach roedd angen dull effeithiol i gyrraedd at y gwahanol bonciau lle byddai gelltydd yn anymarferol, defnyddiwyd dyfais y tanciau dŵr. Yn y ddyfais hon cysylltwyd dwy siafft gyfochrog i bob tanc a chaets di-dalcen yn teithio yn y ddwy a phwysau dŵr yn y caets ar i lawr yn codi’r caets llawn ar i fyny. I weithio’r tanciau, a gyflwynwyd i’r chwarel gyntaf oddeutu 1850, agorwyd ffos bwrpasol i bibellu dŵr o gronfa fechan Llyn Owen y Ddôl a adeiladwyd ar Afon Marchlyn gan gyflenwi hyd at wyth tanc. Ymunai’r dŵr gwastraff ar waelod y siafftiau â’r prif draen y cyfeiriwyd ati yn gynharach.

Ffig 5 Engrafiad 1850
Chwarel y Penrhyn yn 1850. Lithograff gan Day a’i fab, Casgliad Tirlun Cymru, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Erbyn canol y ganrif yr oedd chwarel y Penrhyn wedi datblygu yn un gloddfa ar gynllun integredig: y twll a’r ponciau ar wyneb y Fronllwyd yn cyflenwi’r deunydd bras, a’r gwaith o hollti a naddu’r clytiau yn digwydd ar wastad eang ponc Red Lion. Yno hefyd y lleolwyd prif swyddfeydd gweinyddol y chwarel. Tu draw, yn gyrten symudol tua’r gorllewin, gogledd a’r dwyrain roedd y tomennydd rwbel, gwastraff y broses o ennill un dunnell o lechi defnyddiol i gan tunnell o wastraff. Erbyn chwedegau’r ganrif yr oedd goror y tomennydd wedi gorchuddio Llyn Meurig a chwalu cymuned Glan Meurig. Yn uno’r holl unedau yr oedd rhwydwaith o reiliau haearn i gynnal trafnidiaeth fewnol y chwarel ac o ganolfan y Felin Fawr, prif ganolfan cynnal a chadw’r gwaith, rhedai’r dramffordd geffylau i gysylltu â phorthladd Porth Penrhyn a marchnadoedd Prydain a’r byd. Erbyn canol y ganrif yr oedd llwyddiant masnachol y chwarel yn ei anterth. Gweithiai oddeutu 2,500 o ddynion yno gan greu elw o £100,000 y flwyddyn i’r perchennog bryd hynny, yr Arglwydd Edward Gordon Douglas Pennant.

Ffynonellau 

Pritchard, D. Dylan. 1942. The Financial Structure of the Slate Industry of North Wales, 1780-1830. Quarry Managers’ Journal, December 1942.

Roberts, T. Theo. 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn) – ei hanes a’i rhamant. Dinbych.

Jones, Dafydd Glyn . 1999. Un o Wŷr y Medra. Dinbych.

Hughes, J. Elwyn a Hughes, Bryn. 1979. Chwarel y Penrhyn Ddoe a Heddiw. Caernarfon.

Sgwâr Rachub

Y sgwâr ydy canolbwynt pentref Rachub, man cyfarfod Allt Cefn Bedw o Fryn Bella, ffordd yr Allt Goch o Dalybont, ei hestyniad ymlaen i Garneddi ac, yn olaf, Stryd Fawr y pentref. Yno yn 1850 yr oedd buddiannau prif stadau’r fro hefyd yn mynnu prancio’n rhodresgar, megis mewn ffilm Western heb y gynnau! Ystyriwch, wrth gerdded i gyfeiriad Carneddi, ar y chwith roedd tafarn y Royal Oak ar dir stad annibynnol Plas Pistyll; gyferbyn roedd tafarn y Bardsey Island ar dir stad Coetmor; i’r dde roedd Cae’r Groes, cae agored yn perthyn i Fferm Talysarn ar dir stad Penrhyn; ac ar y gongl ddwyreiniol roedd Ysgol Wladwriaeth yr Achub, yr ysgol fel petai’n cadw’r heddwch rhwng rhengoedd y stadau cystadleuol.

Ffig 4 Ysgol
Ysgol y Wladwriaeth a adeiladwyd yn 1828

Sefydlwyd yr ysgol yn 1828, y gyntaf o ysgolion y Wladwriaeth yn Nyffryn Ogwen i gynnig addysg i blant yr eglwys. Noddwyd yr ysgol gan ficer Llanddeiniolen, ac yn 1863 yr oedd 95 o fechgyn a 108 o enethod ar y gofrestr o dan ofal un athro trwyddedig ac un athrawes. Wrth i’r pentref dyfu sefydlwyd ysgol i blant o gartrefi anghydffurfiol yn 1853 ac adeiladwyd Ysgol Frytanaidd ar dir Plas Pistyll, y tro hwn â nawdd gan un wraig gyffredin. Ffig 7 Capel CarmelYn llechu i’r dwyrain ar fin y Stryd Fawr mae capel Carmel yr Annibynwyr a ailgynlluniwyd yn 1860 gan un o benseiri enwocaf capeli Cymru y Parchedig Thomas Thomas.

A beth oedd hanes y ddwy dafarn? Mae’r Royal Oak yn dal ar agor yn dysteb i annibyniaeth Stad Bryn Pistyll. Nid felly y Bardsey Island sy’n diflannu o restrau tafarnau’r fro toc wedi 1874. Nid disychedu oedd y rheswm am ei diflaniad ond yn hytrach benderfyniad yr Arglwydd Penrhyn i gau’r holl dafarnau a oedd ar dir ei stad, wedi iddo, yn achos y Bardsey brynu stad Coetmor yn 1855. Trodd y Bardsey Island yn dyddyn Llwyn Bleddyn Isaf a thrwy gytundeb yn 1894 ychwanegwyd dwy acer a hanner o dir at yr ofalaeth. Ond er cof am y dyddiau gynt mae hen enw ar lafar y dafarn yn aros sef ‘Rynys.

Mae gweddill daearyddiaeth y sgwâr yn adrodd cyfrolau am ddylanwad cyfoeth mewn cynllunio. Ar dir Cae’r Groes, ar y chwith wrth wynebu Carneddi, adeiladwyd y tai yn rhes igam-ogam, y mwyafrif ohonynt o gynllun gwahanol ond wedi eu hadeiladu, hyd y gwelir, o gerrig bras heb eu torri. Ar y llaw arall ar ochr arall y ffordd ar stad y Penrhyn mae rhes o dai unffurf eu cynllun a adeiladwyd o feini a saernïwyd yn gywir.

Mae holl hanes cystadleuol stadau Dyffryn Ogwen ar glo ym meini mud y tai o bob tu i sgwâr Rachub.

Ffos Coetmor

Mae ffos Coetmor yn tarddu ym mhen uchaf Gwaun Cwys Mai gan godi dŵr o Afon Ffrydlas. O’i tharddiad i’r man lle mae’n llifo i afon Ogwen mae’n mesur oddeutu pedwar cilomedr mewn hyd ac mae’n disgyn tua 280 metr mewn graddiant.

Ffig 1 Ffos Coetmor - Copi
Y maen hirfain sy’n nodi rhaniad y dŵr yn Afon Ffrydlas a tharddiad Ffos Coetmor. Daw’r llun drwy ganiatâd o archif lluniau y diweddar Ifor Williams, Coetmor 

Nodir man ei tharddiad yn Afon Ffrydlas gan faen hirfain sy’n sefyll ar raniad y dŵr. Oddi yno mae’r ffos yn crymanu i gyfeiriad Bwlch Molchi cyn gwyro eto i ddilyn godre Moel Faban a disgyn i wastatir ysgwydd ddwyreiniol Dyffryn Ogwen yn Llidiart y Gweunydd. Yna mae’n llifo ar dir gwastad drwy Hen Barc i gyfeiriad Fferm Coetmor. O Goetmor i ymuno ag afon Ogwen mae ei chwrs yn gymharol fyr ond ar lan yr afon estynnwyd y ffos mewn addasiad diweddarach i lifo’n gyfochrog â’r afon hyd nes cyrraedd melin Coetmor gryn hanner milltir i’r gogledd.

 

 

 

Gwelir y cofnod cyntaf am y ffos yn 1786 ar fap o dir comin plwyf Llanllechid. Er hynny, mae’n  perthyn i gyfnod llawer cynharach yn hanes Dyffryn Ogwen, er nid i gyfnod y Rhufeiniaid fel sydd wedi ei nodi ar rai o fapiau’r Arolwg Ordnans. Er nad oes dogfennau i gadarnhau dyddiad ei ffurfio mae’n weddol bendant ei bod yn gysylltiedig â phlasty Canol Oesol Coetmor, sef cartref hen deulu pendefigaidd y gellir olrhain ei dras yn ôl i’r bymthegfed ganrif ac, yn ôl traddodiad, i gyfnod cynharach yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oedd gan y plasty gyflenwad parhaol o ddŵr yn llifo i’r safle ac, felly, rhaid oedd goresgyn y diffyg drwy lunio ffos, a Ffos Coetmor oedd datrysiad y broblem. Yng Nghoetmor mae’r ffos yn llifo drwy Gae Llyn ac yno gwelir fod ei llwybr wedi ei gysylltu â dau hen gafn a fyddai yn y gorffennol pell wedi cynnal olwynion dŵr at wasanaeth y plasty hynafol. Pan adeiladwyd y Coetmor presennol oddeutu 1870 lluniwyd llyn arbennig ar gyfer y fferm wedi ei leoli i’r dwyrain ar ymyl Lôn Bach Odro.

Dŵr o’r ffynhonnell hon oedd yn bwydo un olwyn ddŵr a safai wrth dalcen yr ysgubor, ac ynni o’r olwyn hon a oedd yn gyfrifol am droi holl offer y fferm ar gyfer dyletswyddau megis corddi a malu bwyd yr anifeiliaid. Dibynnai llawer o ffermydd Dyffryn Ogwen ar ynni dŵr i gyflawni eu dyletswyddau. Yn ogystal â bwydo fferm Coetmor yr oedd ffos Coetmor yn danfon dŵr i Dyddyn Sabel a Chae Ifan Gymro ac yr oedd nifer o ffosydd eraill yn yr ardal yn cyflawni’r un gofyn i ffermydd eraill. Dim ond olion nifer o’r ffosydd sydd i’w gweld megis creithiau ar y tir bellach. Er enghraifft derbyniai Tan y Foel ddŵr o Ffos Fawr Pantdreiniog a Bryn Owen ddŵr o ddyfroedd chwarel Bryn Hafod y Wern, a derbyniai hen weithdy Pont y Pandy ddŵr o Afon y Llan. Mae’n amlwg fod llawer mwy o’r ffosydd hyn i’w cofnodi yn y dyffryn.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Addasiad David A. Jenkins o gynllun Johnson, 1855 yn dangos yr argae ddŵr yn chwarel Llety’r Adar sy’n derbyn dŵr o Ffos Coetmor, drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, Mapiau Penrhyn PFA/6/173, Volume of maps of Penrhyn Lands, Pandy Bridge to Tŷ’n y Maes

 

Chwaraeodd ynni dŵr ran eithriadol bwysig mewn sefydlu diwydiant cynnar yn Nyffryn Ogwen yn ogystal, ac fel y byddai’r disgwyl roedd lleoliad ger Afon Ogwen yn eithriadol ddefnyddiol. Ar lan yr afon yng Nghae Star y sefydlwyd stad ddiwydiannol gynharaf y dyffryn gyda ffatri wlân, melin gerrig, melin bwyd anifeiliaid, lladd-dy a bragdy ymhlith y cyfleusterau a ddibynnai ar ddŵr yr afon. Cyflenwai’r afon yn ogystal ynni i Chwarel y Penrhyn ac i Chwarel Dôl Goch, i felin Coetmor a’r pandy ym Mhont y Pandy a dŵr i droi y ddwy felin rawn a safai un o bob tu’r afon yn Nhal-y-bont. Yr oedd holl chwareli plwyf Llanllechid, ac eithrio Chwarel Tan y bwlch, hefyd yn ddibynnol ar ynni dŵr i’w gweithio, a threfnwyd ffosydd pwrpasol i’w cyflenwi. Tarddai ffos Coetmor o afon Ffrydlas i gyflenwi dŵr i chwarel Llety’r Adar; tarddai ffos fawr Pantdreiniog, eto o afon Ffrydlas, i gyflenwi chwarel Pantdreiniog, a tharddai ffos o afon bellennig yr Afon Wen yng Nghwm Caseg i chwarel Bryn Hafod y Wern.

Yr hyn sy’n wych yn Nyffryn Ogwen heddiw wrth gwrs yw bod cynllun newydd Ynni Ogwen ar droed i greu ffynhonnell ynni o ddyfroedd Afon Ogwen uwchlaw Ogwen Banc i gynhyrchu nid yn unig drydan ond hefyd er budd cymunedol ac amgylcheddol. Byddai cynllunwyr ffos Coetmor wedi bod yn gefnogol iawn i’r fenter ond yn rhyfeddu mae’n siŵr at gynnyrch y dechnoleg. ‘Trydan? … Beth ydy trydan’?

 

Ffynonellau

J.Ll.W.Williams a D.A.Jenkins.  1993. ‘Dŵr a Llechi ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda- agweddau ar ddatblygiad diwydiant yn Nyffryn Ogwen’. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 54. tt. 29-62.

J.Ll.W. Williams a D.A. Jenkins. 2010. ‘Ffos Coetmor: ffos ddŵr gynharaf Dyffryn Ogwen’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 71, tt. 10-

Tramffordd y Chwarel

Llun1
Cynllun tramffordd y chwarel o Black’s Guide to Wales, 1853, drwy garedigrwydd a chaniatâd Emyr Roberts, Bryn Derwen Bach

 

Adeiladwyd Ffordd y Lord ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn bennaf er hwyluso danfon llechi chwarel Cae Braich y Cafn (chwarel y Penrhyn) i Aber Cegin. Sylweddolwyd yn fuan nad oedd seiliau’r ffordd yn ddigon cadarn i dderbyn traul y cannoedd o geffylau a throliau a’i tramwyai’n flynyddol. Cymhlethwyd y sefyllfa ymhellach yn 1797 pan gododd y Llywodraeth dreth o hyd at £2.5 swllt y chwarter ar geffylau. Nid oedd ryfedd felly fod dyfeisio dulliau rhatach a diogelach o symud nwyddau trwm o le i le yn fater o gryn bwysigrwydd i feistri diwydiant cyfnod cynnar y Chwyldro Diwydiannol. A phwy feddyliai fod Dyffryn Ogwen yn rhan o ‘labordy’ dyfeisgarwch technegau cludiant yn 1800? Y dewis i berchnogion y chwarel oedd adeiladu camlas neu dramffordd i gysylltu deupen y llwybr rhwng y gloddfa a’r porthladd yn Aber Cegin. Y cynllun cwbl chwyldroadol a ddewiswyd oedd adeiladu tramffordd a olygai y gallai un ceffyl dynnu o leiaf chwe wagen yn cludo hyd at dunnell o lechi yr un. O ganlyniad mae’r dramffordd a gynlluniwyd yn un o’r rhai cyntaf o’i bath a ddatblygwyd ym Mhrydain.

Map tramffordd
Llwybr tramffordd y chwarel yn 1801 drwy garedigrwydd a chaniatâd Owen G. Jones, Erw Las

Mae’n debyg mai Thomas Dadford oedd cyfarwyddwr y prosiect a hynny mewn cydweithrediad â Benjamin Wyatt, prif asiant stad y Penrhyn. Roedd Dadford yn gynllunydd enwog ac yn adeiladydd camlesi cynnar ac yn ddyfeisiwr arbrofol mewn ffyrdd haearn. Adeiladwyd tramffordd gynnar rhwng Aber Cegin a’r Felin Isaf yn Llandygái, ond gorchwyl anos oedd ei hymestyn i gyrraedd chwarel a oedd rai cannoedd o fetrau’n uwch na Llandygái. Mewn ardal o lethrau serth cynlluniwyd y dramffordd i ddilyn llwybr mor wastad â phosibl drwy ddyffryn Afon Ogwen o Goed y Parc i Landygái, ac oddi yno hyd wastadedd Tŷ Newydd at Bont Marchogion i gyrraedd Aber Cegin. Serch hynny yr oedd yn rhaid adeiladu tair gallt i gysylltu’r mannau gwastad, y gyntaf ohonynt yn Tanysgrafell, yr ail gerllaw Dinas a’r drydedd uwchlaw Pont Marchogion. Yr oedd pob gallt yn gweithio drwy ostwng tair wagen lawn i godi tair wagen wag gydag olwyn drwm yn dirwyn y ceblau ac yn rheoli eu gweithrediad. Gallasai hyd at ddeuddeg dyn yn unig reoli gwasanaeth yr holl dramffordd. Roedd safle cychwyn y dramffordd gerllaw Ogwen Banc yn ne-ddwyrain y chwarel ac o’r fan hon yr oedd yn chwe milltir a chwarter o hyd at Aber Cegin.

Rheiliau haearn ar drawstiau llechi a ffurfiai wely’r ffordd ac roedd bwlch o 0.6 metr rhwng y rheiliau. Mewn adroddiad yn 1803 meddai Wyatt wrth ddisgrifio ffurf yr olwyn: ‘The wheel made use of on this rail has a concave rim, so contrived in its form, and the wheels so fixed on their axles, as to move with the greatest facility in the sharpest curves that can be required’ .Yn yr un adroddiad mae’n cyfeirio at addasrwydd rheiliau oedd â wyneb hirgrwn iddynt i gadw’r olwyn yn ei lle yn hytrach na rhai fflat gyda chantel main ar un ochr, ond mae’n ychwanegu y gallasai ymyl finiog y rheilen greu niwed i garnau’r ceffylau. Mae’n bur debyg mai wagenni pren gyda phedair olwyn o haearn bwrw yn eu cynnal a ddefnyddiwyd a phob un ohonynt yn cludo llwyth o hyd at dunnell o lechi. Byddai trafnidiaeth o chwe thrên y dydd yn defnyddio’r dramffordd wedi eu trefnu’n ofalus i oddiweddyd ar y gelltydd rhwng y mannau gwastad. Golygai hyn y gallasai cyfanswm o hyd at 144 tunnell o lechi’r dydd gyrraedd y porthladd. Ceffylau oedd tywyswyr y wagenni, gyda dau neu bedwar yn arwain pob rhediad.

Agorwyd y dramffordd ym mis Mehefin 1801 gyda dau geffyl John Gruffydd Tŷ’n Clwt yn tynnu pedair wagen, ond cymaint oedd llwyddiant y cynllun hyd nes bod un rhediad yn 1866 yn cynnwys 55 wagen a’r llwyth oddeutu can tunnell. Yn 1841 adroddwyd – ‘the saving in power effected was such that…ten horses were found sufficient to conduct a traffic which had, on a common road, required four hundred’. Os llwyddodd y dramffordd yna bu’n gyfrwng i ddifetha bywoliaeth y ffermwyr hynny a ddibynnai ar logi eu ceirt a’u ceffylau i’r chwarel. Bellach gallai deuddeg dyn ac 16 ceffyl gario holl gynnyrch y chwarel i’r cei yn Aber Cegin. Dyma, wrth gwrs, fyddai dymuniad pob diwydiannwr a chyfalafwr gwerth ei halen, sef y gallu i wneud elw ar gorn y gweithiwr cyffredin – yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘progress’!

Ffynonellau

Boyd, J I C. 1985. Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford

Turner, Susan. 1975. The Padarn and Penrhyn Railways. Newton Abbot.

Wyatt, Benjamin. 1803. Repertory of Arts and Manufactures. 3 (2).

Caerberllan

Cae Berllan
Llun o Gaerberllan yn 2015

 

Mae’r rhesi tai a adeiladwyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer cartrefu gweithwyr chwarel y Penrhyn yn nodweddiadol o bensaernïaeth Dyffryn Ogwen. Cymharer er enghraifft res tai deulawr Stryd John neu Fryntirion ar dir stad annibynnol Cefnfaes â bythynnod un llawr Braichmelyn a Chaerberllan ar stad y Penrhyn.

Bryntirion
Bryntirion yn 2015

 

Mae Stryd John a Bryntirion yn dyddio i gyfnod ar ôl 1820 yn fuan wedi sefydlu pentref Bethesda, ac mae Map y Degwm yn 1844 yn dangos fod rhannau o Fraichmelyn a Chaerberllan hefyd yn sefyll bryd hynny. Adeiladwyd tai’r ddwy ardal o gerrig a’u toi â llechi yn ôl y traddodiad lleol. Oddi fewn mae cynllun y tai yn syml, mae’r tai un llawr yn cynnwys dwy ystafell ar y llawr a chroglofft uwch law, tra bo gan y tai deulawr ddwy ystafell i lawr grisiau a dwy yn y llofft. Cysgodir drysau tai Caerberllan a Braichmelyn gan fargod isel a chyplysir hwy â gardd helaeth naill o flaen neu y tu cefn i’r tŷ yn unol â threfn cynllunio stad y Penrhyn. Nodwedd arall gyffredin i’r rhesi hyn oedd lleoli’r cwt glo o flaen y tŷ, fel y gwelir yng Nghaerberllan neu fythynnod Dol Goch ym mhen arall y pentref.

 

Braichmelyn

Braichmelyn oddeutu 1900. Delwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Mae’r  rhesi tai uchod yn perthyn i gyfnod cyn awdurdodi deddf The Improvement of the Town of Bethesda and Neighbourhood in the County of Caernarvon yn y Senedd ar 3 Gorffennaf 1854. Yr oedd amodau’r ddeddf yn awdurdodi bod datblygiadau’r dyfodol i fod yn ‘sufficiently paved, drained, cleansed, lighted, regulated, and otherwise improved, and effectually supplied with sewers and water’, amodau a oedd yn caniatáu gwelliannau sylweddol i’r tai a adeiladwyd ar ôl y dyddiad hwn. Yr oedd y ddeddf hefyd yn gwahardd adeiladu cyrtiau caeedig oedd â mynedfeydd a oedd yn llai na phum troedfedd eu lled a deg troedfedd eu huchder, megis y rhai a oedd yng Nghae Star a Davis Court a Williams Court ar gyrion y Stryd Fawr. Cyfrannodd yr Arglwydd Penrhyn £4,000 at y gwelliannau hyn sydd i’w gweld er enghraifft yng nghynlluniau strydoedd tai ym Mynydd Llandygái ac ym Mhenybryn ym Methesda sy’n dyddio i gyfnod ar ôl y ddeddf.

Griff Edwards 1875
Griffith Edwards o’r llun o Bwyllgor Streic 1974

Un o breswylwyr pwysicaf Caerberllan yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Griffith Edwards a drigai yn rhif saith. Ef oedd ysgrifennydd Capel Bethesda, addoldy pwysicaf yr Annibynwyr yn y gymdogaeth ac ef hefyd oedd un o arweinwyr gweithlu Chwarel y Penrhyn yn eu brwydr i ennill cydnabyddiaeth i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn y chwarel. Golygodd ei ymlyniad i’r achos hwn dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain iddo wrthdaro yn aml â pherchnogion y chwarel. Yr oedd Griffith Edwards yn aelod o bwyllgor streic 1874 dan arweiniad Robert Parry, Y Llywydd, ac yn y llun enwog sydd o’r pwyllgor yn ymresymu â’r Hen Lord, ef sy’n sefyll y trydydd o’r chwith uwchben y bwrdd. Ym mis Mai 1885 cafodd ei gyhuddo gan George Sholto, olynydd yr Hen Lord, o gamarwain y chwarelwyr ynghylch diddymu cytundeb Pennant Lloyd a thrannoeth cafodd rybudd y byddai’n colli ei waith a’i gartref yn rhif 7 Caerberllan. Cafodd ei waith a’i denantiaeth yn ôl ymhen y mis ond gyda’r rhybudd canlynol: ‘the managers will be specially desired to report on your future conduct’.

grif edwards 1900
Griffith Edwards yn 1900, Ysgrifennydd Pwyllgor Streic 1900-03

Yr oedd Griffith Edwards yn un o arweinyddion streic 1896-7 ac yn Ysgrifennydd y Pwyllgor yn ystod Streic Fawr 1900-03. Yn sgil ei ymroddiad a’i egwyddorion cafodd ei droi allan o’i denantiaeth yng Nghaerberllan ac ni chafodd ei waith yn ôl yn y chwarel ar derfyn yr ymrafael ychwaith.

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffynonellau

Alfrey, Judith. 2001. Rural Building in nineteenth century North Wales: the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis,CXLVII (1998), tt. 199-216.

Gwyn, David. 2000. Vaunting and Disrespectful Notions:  Charles Mercier’s Portrait of the Penrhyn Quarry Committee and Lord Penrhyn. Trafodion Cymdeithas Hanes  Sir Gaernarfon, 61, tt. 99-110.

Roberts, Ernest. 1963. Bargen Bywyd fy Nhaid. Llandybïe.

 

 

Llyn Meurig

Diflannodd Llyn Meurig o dan domennydd rwbel Chwarel y Penrhyn bron i ddau gan mlynedd yn ôl ond o bryd i’w gilydd mae’n mynnu anfon ei ddyfroedd i orlifo’r ffordd ger y fynedfa i Fryn Meurig.

llyn-meurig-1768-a
Ardal Llyn Meurig yn 1768 lle gwelir safle chwarel Cae Braich y Cafn (y Penrhyn yn ddiweddarach) ar y chwith eithaf; dyffryn Afon Galedffrwd yn y canol; ardal Cilgeraint a Thanysgrafell ar y dde eithaf. O fap Arolwg y Penrhyn 1768, Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Ar derfyn y ddeunawfed ganrif yr oedd ardal Llyn Meurig yn denu sylw arbennig oherwydd ei botensial diwydiannol mewn perthynas â datblygiad cynnar chwarel Cae Braich y Cafn. Ar y llethrau rhwng Hen Dyrpeg a Choed y Parc sefydlwyd nifer o dyddynnod, ac yn nyffryn y Galedffrwd uwchlaw Coed y Parc yr oedd clytwaith o gaeau bychan yn perthyn i bedwar tyddyn Cilgeraint. I’r de i gyfeiriad Llyn Meurig yr oedd pedwar tyddyn arall wedi’u sefydlu yn y Ddôl a Thŷ Du, a fferm fechan ym Mryn Llys. Mae enw un deiliad yn mynnu sylw arbennig sef William Williams. Ef oedd deiliad Tyddyn y Ddôl a oedd yn dyddyn o 14 acer, ac yr oedd hefyd yn rhan-ddeiliad pedwar rhandir arall gerllaw gan gynnwys rhandir mwyaf Cae Braich y Cafn a oedd yn 190 acer ei faint.

Yn 1765 arwyddwyd cytundeb rhwng stad y Penrhyn ac wyth deg o gloddwyr yn caniatáu iddynt godi llechi ar ffridd Cae Braich y Cafn. Mae enw William Williams y Ddôl yn ymddangos fel un o’r cloddwyr ac mae rhai o ddeiliaid eraill y tyddynnod a grybwyllwyd uchod hefyd ar restr y cloddwyr. Yn 1782 prynodd Richard Pennant brydlesau’r pedwar ugain cloddiwr am £2 yr un gan ddileu cytundeb gwreiddiol 1765. Galluogodd awdurdodi ei berchenogaeth ar y chwarel yn y modd hwn i Pennant ei throsi yn gyfundrefn gyflawn a oedd yn atebol i orchymyn un rheolwr. Y rheolwr hwnnw oedd William Williams, y polimath galluog o’r Tŷ Mawr yn Llandygái a chynllunydd cyntaf chwarel lechi integredig Cae Braich y Cafn. Dengys cynllun cyntaf y chwarel, sy’n dyddio o 1793,fod William Williams wedi ei datblygu yn gyfres o dyllau dyfnion i ddilyn prif hollt y graig tua’r gorllewin ac erbyn troad y ganrif yr oedd y gloddfa yn cyflogi hyd at dri chant o weithwyr. Y cwestiwn nad oes ateb pendant iddo ydyw ai William Williams y rheolwr, yw’r un dyn â’r llech gloddiwr cynnar yn chwarel Cae Braich y Cafn a oedd hefyd yn ddeiliad tyddyn y Ddôl?

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yntau ar ymweliad i ryfeddu at chwarel Cae Braich y Cafn yng nghwmni Richard Pennant, awgrymodd Doctor Clever, Esgob Bangor ar y pryd, y dylai’r perchennog adeiladu eglwys er ‘ymgeledd gymwys’ i eneidiau’r gweithlu. Derbyniodd Pennant yr awgrym ac adeiladodd eglwys ar gwr y chwarel ger Llyn Meurig a’i galw yn eglwys Sant Anne yn enw ei wraig Anne Susannah. Mae’n bur debyg y cynlluniwyd yr eglwys gan Benjamin Wyatt a chyfeiriwyd ati gan Fenton fel adeilad a oedd yn cyfuno ‘simplicity with elegance’.

eglwys-llyn-meurig-1836
Manylyn o lechen gerfiedig 1836 sy’n dangos Eglwys Sant Anne ger Llyn Meurig mae’n debyg; delwedd o lyfr Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen, Gwenno Caffell, 1983.

Credir bod darlun syml ohoni, a’r unig gofnod darluniadol, wedi’i gofnodi ar un o bentanau llechi cerfiedig Dyffryn Ogwen. Yng nghysgod y llyn a’r eglwys datblygodd cymuned wladaidd yn y blynyddoedd canlynol. Gellir amgyffred ei llwyddiant drwy graffu ar fap a gyhoeddwyd yn 1841 sy’n dangos lleoliad yr eglwys mewn perthynas â hyd at un ar bymtheg o dai a bythynnod. Yr oedd rhai o’r unedau hyn mewn rhesi bychan ac eraill yn wasgarog, ond yr oedd pob un wedi’i gysylltu â gardd neu lain o dir at eu defnydd.

llyn-meurig-1841-b
Ardal Llyn Meurig yn 1841. Rhan o fap Penrhyn Ychwanegol PFA/6/166, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Cyn pen ugain mlynedd wedi cyhoeddi’r map yr oedd cymdeithas wladaidd Llyn Meurig wedi’i dryllio yn llwyr wrth i domennydd rwbel chwarel y Penrhyn, behemoth y chwyldro diwydiannol, ei thraflyncu yn llwyr. Erbyn hynny nid hon oedd chwarel William Williams ond yn hytrach greadigaeth ei olynydd James Greenfield, ac yn sgil y datblygiad hwn y sefydlwyd pentref Bethesda. O bryd i’w gilydd er hynny, bydd Llyn Meurig yn deffro i dalu’r pwyth yn ôl am feiddio ei orchuddio gan domennydd un o chwareli llechi mwyaf y byd.

Ffynhonnell 

Jones, Dafydd Glyn. 1999. Un o Wŷr y Medra. Dinbych.

Cwt Dafydd Ross

cwt-dafydd-ross-2
Cwt Dafydd Ross, delwedd o archif lluniau Mr Ifor Williams, gynt o fferm Coetmor

Nid Llanberis yw’r unig bentref yng Nghymru a all ymfalchïo fod adeilad ar gopa mynydd yn rhan o’i dreftadaeth. Mae gan Ddyffryn Ogwen hefyd adeilad ar ben un o’i chopaon. Eithr nid yw’r adeilad hanner mor grand â’r adeilad sydd ar gopa’r Wyddfa ac nid yw ychwaith yn cynnig paned o de i’r fforddolion, na thrên i’w gyrraedd. Ar gopa Moel Grach, 976 metr uwch arwynebedd y môr, lleolir cwt Dafydd Ross sy’n adeilad isel, trwsgl a garw ei olwg a adeiladwyd o gerrig bras i ymdoddi i bentwr mawr o feini. Mae cyrraedd ato, yn arbennig am y tro cyntaf, yn union fel camu i fyd hud a lledrith y tylwyth teg neu’r Mabinogi, yn arbennig felly os oes niwlen ysgafn yn ei led guddio. Mae gan y cwt do sinc isel â meini mawr wedi’u pentyrru drosto, ac islaw’r bargod mae un drws yn arwain at gell dywyll a oleuir gan olau egwan o un ffenestr ar y talcen. Ond mewn stormydd gwynt a glaw y gaeaf neu heulwen crasboeth canol haf saif y cwt, sydd dafliad carreg, fwy neu lai, o grib Carnedd Llywelyn ail fynydd uchaf Cymru, yn lecyn delfrydol i’w gyrraedd.

cwt-dafydd-ross-1
Mr Ifor Williams, gynt o Fferm Coetmor a dau gerddwr y tu allan i Gwt Dafydd Ross. Daw’r ddelwedd o archif lluniau Mr Ifor Williams.

Defnyddir Cwt Dafydd Ross heddiw fel caban ymochel i fforddolion y mynydd fel y mae arysgrif ar un o’r meini gerllaw’r drws yn ei nodi, ond yn wreiddiol fe’i hadeiladwyd fel man lle gallai bugeiliaid y fro lochesu. Adroddir mai bugail oedd Dafydd Ross, Sgotyn o ran ei fagwraeth, a gyflogwyd yn fugail yn ardal Ro Wen a Chwm Eigiau yn ystod cyfnod cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd nifer o’i gymheiriaid o’r Alban yn gweithio fel bugeiliaid ar stadau mawr bröydd Eryri. Ef a adeiladodd y cwt yn ôl tystiolaeth tafod leferydd. Yr oedd Cwt Dafydd Ross yn gyrchfan i fugeiliaid mynydd Llanllechid yn arbennig pan fyddid yn hel defaid cynefinoedd Braich Cwm Bychan a Charreg Gath ym mhellafoedd Cwm Caseg. Y cynllun oedd cyrraedd y cwt yn fuan wedi hanner nos ac ymochel yno hyd at doriad gwawr cyn dechrau hel yn gyflym a glân i lawr y gelltydd. Wedi cenedlaethau o ddefnydd aeth y cwt yn adfail hyd nes y penderfynodd nifer fechan o fugeiliaid a cherddwyr lleol, er mawr glod iddynt, ei atgyweirio i’w gyflwr presennol ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Nid cwt Dafydd Ross yw’r unig loches o’i bath ar fynydd Llanllechid. Ar gopa’r Bera safai cwt Jacob a fyddai’n gyrchfan i fugeiliaid ardal Aber a Llanfairfechan yn bennaf, ond a ddefnyddid o bryd i’w gilydd gan fugeiliaid Dyffryn Ogwen yn ogystal. Nid yw hanes y cwt hwn mor llewyrchus a chwt Dafydd Ross a bellach mae’n furddun er iddo roi degawdau o wasanaeth i hen fugeiliaid ucheldir y Carneddau.

eglwys-coetmor
Eglwys Coetmor

Nid cwt Dafydd Ross yw’r unig adeilad yn Nyffryn Ogwen sydd â chysylltiad uniongyrchol â mynyddoedd yr ardal. Mae gan gapel coffa Charles Donald Robertson ym mynwent yr Eglwys yng Nghoetmor gysylltiad llawer mwy syber na’r cwt disylw ar gopa Foel Grach. Ym mis Mawrth 1910 lladdwyd Charles  wrth iddo ddringo ar Glyder Fach ac adeiladwyd y capel syml, ond hynod deimladol, yn 1911 gan ei fam yn goffâd i’w mab. Bachgen o dras eglwysig tra enwog oedd Charles ac adwaenid ei daid a oedd yn un o brif bregethwyr yr Eglwys Anglicanaidd yn ei ddydd, Y Parch F.W. Robertson, fel ‘Robertson of Brighton’.

 

Byddai’n dda clywed gan ddarllenwyr am ragor o adeiladau sydd â chysylltiad uniongyrchol â mynyddoedd yr ardal.

Gwybodaeth gan Dafydd Jones, Fferm Coetmor, Bethesda a Wyn Roberts, Bryn Difyr, Tregarth.

Pentref Tregarth

ardal-tregarth-1768-1
Ardal Tregarth yn 1768: rhan o fap S 2205 Archif Mapiau’r Penrhyn drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Noder ddosbarthiad y caeau bychan a berthyn i’r tyddynnod; Llyn Cororion yn y gongl dde uchaf; Penygroes yn y gwaelod ar y chwith a Waen y Pandy yn y gongl chwith uchaf

O holl bentrefi Dyffryn Ogwen Tregarth yw’r mwyaf digynllun ohonynt oll. Ardal o dyddynnod a bythynnod gwasgaredig yn hytrach na phentref â chanolbwynt iddo oedd Tregarth  ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Eto mae’n ymddangos fod dau begwn yn datblygu, y naill ar ben y bryn ym Mhenygroes a’r llall ar waelod yr allt ym Mhen yr Ala. Prin oedd yr aneddiadau rhyngddynt, sy’n  egluro i raddau pam fod cyn lleied o gynllun yn perthyn i ddatblygiad y pentref.

fig6-tregarth-bryn-c-1
Cynlluniau tyddynnod ardal Tregarth yn 1768 o Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. 60 – Tyddyn y Clawdd; 61 – Tyddyn y Clawdd; 62 – Tregarth; 63 – Tregarth; 64 – Bryn Cocyn

Yn 1768 ar fap Arolwg o Stad y Penrhyn nodwedd arbennig yr ardal oedd fod yno gasgliad o dyddynnod bychan, oll yn llai na phum acer ar hugain eu maint, ar dir ponciog a chorsiog i’r gogledd o ddau begwn Penygroes a Phen yr Ala. Gwasanaethid y  tyddynnod hyn gan ddau lwybr yn arwain o Landygái, un yn mynd i gyfeiriad Penygroes drwy Gerrig Llwydion a’r ail yn mynd tua Phen yr Ala drwy Gororion a’r Gelli.

Prin fod newid wedi bod yn nosbarthiad y tyddynnod ers amser y map. Pery enwau’r mwyafrif ohonynt ac mae nifer fach ohonynt yn parhau’n dyddynnod gweithredol, megis un o’r ddau Dyn Clawdd gwreiddiol. Nodwedd arall i’r patrwm anheddu oedd datblygiad casgliad o fythynnod bychan, y mwyafrif yn llai nag acer eu maint, a’r tai hyn wedi’u cyplysu â gerddi sylweddol eu maint. Roedd y tai hyn wedi’u dosbarthu hyd y graig serth uwchlaw corstir Tanrhiw ac roeddynt wedi’u rhannu i ddwy brif ardal sef ardal Dob gan ddwyn yr enw Tregarth, a’r ardal a arweiniai o Ben y groes i gyfeiriad Chwarel Goch gan ddwyn yr enwau Braich a Thalgae. Dyma felly oedd y patrwm anheddu ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac i raddau helaeth proses o lenwi cydrhwng y bylchau agored a nodweddodd lawer o’r datblygiadau a ddilynodd weddill y ganrif.

tregarth-os-1890
Tregarth yn 1890- rhan o Fap Ordnans cyntaf 6″ i’r filltir. Noder y patrwm llinnynol yn dilyn y ffordd o Benygroes i Ben yr Ala

Chwaraeodd ardal Tregarth ran flaenllaw yn dod â chrefydd i Ddyffryn Ogwen gyda’r gwahanol enwadau yn sefydlu’n answyddogol yn rhai o dyddynnod y gymdogaeth. Ymsefydlodd yr Annibynwyr ym Mherthi Corniog; y Wesleaid ym Mryn Cul a Chaeherfin, a’r Methodistiaid yn y Felin Isaf, Llandygái. Sefydlwyd trefn fwy ffurfiol yn Nhregarth pan adeiladwyd Capel Shiloh ar gyfer enwad y Wesleaid yn 1826 a’i leoli ym Mhen yr Ala, ac yn 1837 sefydlwyd capel Penygroes gan y Methodistiaid Calfinaidd a’i godi yn y pegwn arall ar ben y bryn. Yno hefyd y sefydlwyd tlotai ar gyfer yr anghenus. Oddeutu’r un cyfnod troswyd un o’r llwybrau cynharach yn ffordd ffurfiol i gysylltu’r Ffordd Bost ym Mryn Bella â Phentir yn y gorllewin, cysylltiad a nodir ar y garreg filltir ar ystlys Pont Coetmor. Er bod y ffordd yn arwain drwy Benygroes i Ben yr Ala ac ymlaen i’r Gelli, tueddu i gadarnhau bodolaeth y ddau begwn yn hytrach na chreu undod canolog a wnâi’r ffordd hon, ac erbyn 1853 gyda adeiladu’r Eglwys yn y Gelli yr oedd pegwn  ychwanegol wedi ei ychwanegu at y pentref.

Er cymaint haelioni Edward Gordon Douglas Pennant, yr ‘Hen Lord’, yn noddi adeiladu eglwysi ac ysgolion yn y fro, ni ellir honni fod ganddo ddawn fel cynllunydd pentrefol. Tra bo’r eglwys yn y Gelli ar gwr eithaf y gymuned felly hefyd yr oedd ei benderfyniad i noddi sefydlu ysgol ym Modfeurig yn 1864, dau ddatblygiad nad oedd i gryfhau statws Tregarth fel pentref â chanolbwynt naturiol iddo. Yn yr un modd ni chaniatâi’r ‘Hen Lord’ agor tafarnau ar ei stad a chaewyd tafarn Tyn Clwt, yr agosaf at Dregarth, yn 1888. Prin oedd y ddarpariaeth ar gyfer agor siopau yn y pentref yn ogystal ac mae’n amlwg fod Tregarth yn datblygu i fod yn bentref noswylio yn unig ar gyfer gweithlu Chwarel y Penrhyn.

tregarth-1
Tyn Clawdd a’r Stesion oddeutu 1900 o archif cardiau post Dyffryn Ogwen, drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Y datblygiad nesaf o bwys oedd dyfodiad dwy reilffordd i redeg drwy Dregarth. Y gyntaf oedd y rheilffordd a agorwyd yn 1875 i gysylltu’r chwarel â Porth Penrhyn ym Mangor, a’r ail oedd rheilffordd genedlaethol yr LNWR a agorwyd yn 1884 i wasanaethu rhwng Bangor a Bethesda. Cynlluniwyd llwybr y ddwy i defnyddio gwlypdiroedd gwastad ar y naill ochr i begwn Pen yr Ala, dwy ardal a fyddai’n parhau’n ffiniol i ddatblygiadau pellach yn y pentref. Ym Mhen yr Ala adeiladwyd gorsaf ac ychydig o dai brics coch i reilffordd yr LNWR a datblygwyd glanfa ddinod ar y bont i reilffordd y chwarel. Ar y cyfan, er hynny, cymharol fychan oedd cyfraniad y ddau wasanaeth i grynhoi’r boblogaeth, a chroesffordd i basio drwyddi oedd Pen yr Ala yn hytrach na chanolbwynt i dwf pentrefol mwy cynhaliol.

Ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cam olaf yn natblygiad Tregarth oedd cynllun hynod gynhennus yr Arglwydd Penrhyn i gartrefu gweithwyr a fynnai dorri streic fawr Chwarel y Penrhyn 1900 i 1903. Bryd hynny gwariodd George Sholto Douglas-Pennant hyd at £5000 i adeiladu nifer bychan o dai ym Mhenygroes a theras arbennig rodresgar yn Nhan Rhiw. Creodd hyn gnewyllyn arall digyswllt yn y pentref a chwalu, yn y broses, nifer o hen dyddynnod megis un o’r ddau Dyn Clawdd a Thanrhiw i wneud lle i’r datblygiad newydd. Gellir gwerthfawrogi nodwedd agored a digynllun y pentref yn y pedwar cerdyn post o gyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif a welir yma.

tregarth-4img
Yr oesaf drenau, Tregarth o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Yn y cerdyn uchod tynnir sylw at sefydliadau pwysicaf y pentref gyda nodyn o eglurhad ar gefn y cerdyn, meddai’r sylwebydd yn ei orgraff ddiatalnod wreiddiol — ‘this is the part of the bottom of Tregarth, the X is the Parsonage House the is the Church the O is the station and the M is the chapel and the I is the station master’s house Its a lonely place and the people are all rotten’. Dyna gamargraff a roddai’r cerdyn o breswylwyr y pentref bach hwn ar gerdyn post nad yw’n oes arno enw’r afonydd na’r derbynnydd. Y mae, serch hynny, yn cyfleu anallu ymwelydd di-Gymraeg i gyfathrebu  mewn pentref uniaith Gymraeg a gwahanol i’r hyn a ddisgwyliai ei weld. Mae hefyd yn adlewyrchiad o allu’r trên i agor y pentref bach cymharol ddinod hwn i ddylanwadau estron o’r byd mawr beirniadol tu allan ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Cyfuniad o ffactorau felly – daearyddiaeth; dosbarthiad yr unedau poblog; perchnogaeth y meistri tir a’i hynodrwydd, ac unffurfiaeth alwedigaethol y preswylwyr – a gyfrannodd at ddatblygiad Tregarth i fod yn bentref mor wasgarog yng nghyfnod cynharaf ei ddatblygiad. Pery rhai o’r nodweddion hyn hyd heddiw gan olygu o’r herwydd mai pentref i noswylio ynddo yw Tregarth yr unfed ganrif ar hugain yn bennaf.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Jones,  John Ellis. 2012.  Arysgrif: Nodyn am ddechrau Achos Crefyddol ym Mhentref Tregarth, ger  Bangor, a’i ddiwedd. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 73. tt,28-34.

Large, Frank a Stammers, Mike. 2012.  When the Russians came to Tregarth. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 73. tt. 82-93

Ogwen Teras

ogwen-teras
Ogwen Teras ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw’r ddelwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw  Jones, Parc Moch, Bethesda

Rhwng 1846 ac 1850 rhoddwyd sylw arbennig i ymestyn Stryd Fawr pentref Bethesda i ddilyn ffordd bost Telford tua’r de. Gellir ystyried hwn fel rhan o gynllun bwriadol gan stad y Penrhyn i greu mynedfa fwy urddasol i ganol y pentref. Rhan o’r datblygiad oedd adeiladu rhes o dai tri llawr, tra pharchus, Teras Ogwen a gwesty’r Douglas Arms – y ddau ddatblygiad yn estyniadau crand i’r Stryd Fawr. Yn wynebu Ogwen Teras yr oedd coron mawreddogrwydd y datblygiad sef Capel Jerusalem a adeiladwyd yn 1843 yn deml rwysgfawr ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd yr ardal. Yn ddiweddarach yn 1856 ychwanegwyd eglwys Glanogwen ar ben y bryn gyda’i mynwent gerllaw, ac wrth ei throed yn 1851 ysgol genedlaethol Glanogwen, y ddau ddatblygiad, wrth gwrs, yn perthyn i’r eglwys Anglicanaidd.

ogwen-teras-1
Rhan o fap Johnson o Penybryn yn 1855. Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn PFA/6/173

Rhannwyd y teras ar gytundebau prydles, ac yr oedd y dewis gorau o siopau’r gymdogaeth yn ei wasanaethu. Mae cyfeirlyfr Worrall, un o gyfeirlyfrau masnach cenedlaethol Prydain ar gyfer 1874, yn rhestru’r gwasanaethau a gynigid yn y teras cymharol fyr hwn o 22 tŷ yn unig. Roedd yno fanc; drygist; dau lyfrwerthwr; argraffydd; crydd; pedwar drepar; tri grosar; dau asiant yswiriant; dau eionmyngar ac un teiliwr. Mae cyfrifiad 1871 yn manylu ar bwy oedd y breintiedig a drigai yn y teras. Yno yr oedd meddyg a’i gymhorthydd; pedwar gweinidog yr efengyl; ciwrad; gwerthwr blawd; naw drepar/teiliwr – rhai yn cyflogi gweithwyr ychwanegol ac eraill yn cyfuno hynny â bod yn grosar neu’n eionmyngar; tri gwneuthurwyr esgidiau gydag un yn cyflogi naw dyn; dau ddrygist; un ‘master’ peintar; gwneuthurwr dodrefn; argraffydd; cigydd ac, yn rhyfeddol o ystyried crandrwydd y teras, un chwarelwr. Deiliad Gwesty’r Douglas oedd John Hughes Shephard , ac roedd ef a’i deulu yn hanu’n wreiddiol o Middlesex. Roedd y gwesty yn ogystal yn cynnig gwasanaeth  ‘coaches and omnibuses to and from Bethesda’.

Ogwen Teras, felly, oedd y ffenestr i lwyddiant proffesiynol pentref Bethesda yn ystod cyfnod anterth datblygiad chwarel y Penrhyn yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffynhonnell

Davies, Geraint. ‘Community and Social Structure in Bethesda 1840-70’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , 41,tt. 107-127. 1980.