Llyn Coch

 

IMG
Llwybr ffosydd Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd David Jenkins

Llyn Coch yw’r gronfa fwyaf o’r ddwy a adeiladwyd yn arbennig i gyflenwi dŵr i weithio peiriannau chwarel Bryn Hafod y Wern uwchben Llanllechid. Lleolwyd y chwarel ar dalcen cyfyng o dir y Goron a oedd yn ymwthio allan i gyfeiriad y gorllewin ac yn ffinio â thiroedd stad y Penrhyn ar ei dwy ystlys yn y blaen. Lleolwyd y ddwy gronfa ar y ffridd i’r dwyrain o’r chwarel.

Llyn Coch
Llyn Coch
Llyn Coch
Llyn Coch ar y dde, Llyn Isaf a Chwarel Bryn, drwy ganiatâd Roland Flook

Mae cronfa Llyn Coch yn mesur oddeutu 150 medr mewn lled a 100 medr mewn hyd.  Gwarchodir y llyn o’i fewn gan glawdd uchel o bridd a meini. Yn nes at y chwarel lleolwyd yr ail gronfa, Llyn Isa, sy’n llawer llai ei maint ond â gwrthglawdd uchel yn diogelu’r dŵr.

Bwriadwyd y cronfeydd i gyflenwi dŵr i yrru peiriannau’r chwarel, ac mae’n debyg bod un, o leiaf, o’r ddwy gronfa wedi’i hadeiladu rhwng 1846 ac 1849. O ystyried cynllun y chwarel credir mai Llyn Isa oedd y gronfa gyntaf i gael ei hadeiladu a hynny i yrru olwyn ddŵr a oedd yn gweithio gallt a gysylltai â phen gogleddol twll y chwarel. Wrth i’r gloddfa ddatblygu a bod gofyn am gyfaint cryfach o ddŵr i yrru’r peiriannau, adeiladwyd cronfa Llyn Coch ar safle llawer uwch ar y ffridd i gyflawni’r gofyn ychwanegol. Ar un cyfnod yr oedd pedair olwyn ddŵr yn gyrru peiriannau dwy allt a’r pympiau a oedd yn sychu’r twll. Cysylltir cyfnod olaf datblygiad y chwarel ag adeiladu’r allt anferth a gynlluniwyd i godi rwbel i ben uchaf y tomennydd. Dibynnai gyriant yr allt hon ar bwysau dŵr yn y tanc llawn am i lawr yn gwrthbwyso’r llwyth cerrig ar y ffordd i fyny. Adeiladwyd cyfres o bentanau llechi uchel i gynnal y cafnau a drosglwyddai’r dŵr o’r gronfa i ben y domen uchaf, ac fe welir nifer o’r rhain ar ben y domen fel crib hen geiliog hyd heddiw.

Problem fwyaf chwareli plwyf Llanllechid oedd eu bod oll heb gyflenwad digonol o ddŵr ar gyfer eu hanghenion, problem na tharfodd ar ddatblygiad chwarel fawr y Penrhyn ym mhlwyf Llandygái lle harneisiwyd Afon Ogwen ac Afon Galedffrwd i ateb ei dibenion. Ym Mryn Hafod y Wern yr oedd Afon Llan yn llawer rhy fychan i gyflawni ei gofynion a olygodd fod rhaid i’w pherchnogion gyrchu dŵr o ben pellaf Cwm Caseg gryn bedair milltir a hanner o safle’r chwarel.

Afon Wen 1
Afon Wen (ar y chwith), Soglog, Foel Grach, Carnedd Llywelyn, Yr Elen ac Ysgolion Duon i’r dde yng Nghwm Caseg. Llun o archif Ifor Williams, Coetmor drwy ganiatâd.

Tarddle’r cyflenwad oedd Afon Wen ger Buarth Carreg Gath. Adeiladwyd ffos oddi yno i ddilyn cyfuchlin 1700 metr hyd lethrau’r Aryg a’r Drosgl cyn gwyro dros dalcen Mynydd Moel i gyrraedd at Allt Mawn yng Ngwaun Cwys Mai.

 

Ffos Gyrn
Ffos Bryn yn croesi Allt Mawn yn y cefndir ac yna ar gopa Llefn drwy ganiatâd Roland Flook

Yno rhoddwyd y ffos agored mewn pibellau clai rhag ei bod yn dwyn dyfroedd Afon Ffrydlas a glustnodwyd ar gyfer gweithio peiriannau chwareli Pantdreiniog a Llety’r Adar ym mhentref Bethesda. O ysgwydd Llefn disgynnai’r ffos i gyflenwi’r ddwy gronfa islaw. Oherwydd bod dŵr yn cael ei golli o’r ffos wrth i ffermwyr a physgotwyr lleol ei bylchu’n fwriadol, cyflogwyd gofalwr i’w gwarchod ac adeiladwyd cwt ‘mochal’ arbennig ar ei gyfer ar ysgwydd Llefn. Y ffos hon, er mor ddistadl ei golwg, yw un o ryfeddodau cudd diwydiant y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Nyffryn Ogwen.

Lleoliad cyfyng y chwarel ac agosrwydd at dir y Penrhyn oedd y pennaf resymau dros gau’r chwarel yn 1889. Er hynny, mae’r amgylchiadau yn eithriadol gymhleth ac yn anodd eu dehongli’n gywir. Yn 1858 prynodd stad y Penrhyn ran helaeth o dir comin y Goron ym mhlwyf Llanllechid a oedd yn cwmpasu mynydd-dir uwch rhwng Carnedd Ddafydd yn y de a  Moel Wnion a’r Gyrn yn y gogledd. Ynghlwm â’r pryniant yr oedd yr holl hawliau perthynol ynghylch rheoli a datblygu’r tiroedd hyn. Golygai hyn fod gan y Penrhyn yr hawl i reoli rhediad y dŵr yn y parthau hyn, ac mewn achos llys yn erbyn perchnogion y chwarel yn 1880 enillodd y stad yr hawl i atal y cyflenwad pe dymunai. Mae’n anodd deall paham y cymerodd y Penrhyn gymaint o amser i weithredu’r hawl hwn a thagu datblygiad y chwarel o’r cychwyn cyntaf. Nid achos yn ymwneud â’r dŵr oedd y rheswm dros ddod a’r gwaith i ben yn y diwedd ond yn hytrach ffrwgwd cyfreithiol arall a alluogodd y Penrhyn i orfodi cau’r chwarel yn derfynol yn 1889.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Williams, J.Ll.W., Jenkins, D.A.  1993. Dŵr a Llechi ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda- agweddau ar ddatblygiad diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 54. tt.29-62.

Williams, J.Ll.W., Jenkins, D.A.  1994. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda. Rhan 1. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 55. tt. 47-70.

Williams, J.Ll.W., Jenkins, D.A.  1995. Rhai nodiadau ychwanegol ar  Chwarel Bryn Hafod y Wern. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 56. tt. 87-107.

Advertisements

Bryn Meurig

BrynMeurig2

Mae Bryn Meurig yn un o dai bonedd y fro. Cafodd ei adeiladu oddeutu 1820 mae’n debyg a hynny fel cartref i feddyg cyntaf chwarel y Penrhyn. Dewiswyd lleoliad arwahanol i’r tŷ wedi’i gysgodi yng nghanol coedwig fawr ‘Y Coed’ fel yr adnabyddid coedlan Bryn Meurig yn y cyfnod hwnnw. Bryd hynny byddai golygfa hyfryd, agored yn edrych i gyfeiriad y de orllewin at Lyn Meurig. Roedd eglwys gyntaf Santes Anne ar y bryn uwchlaw tua’r gorllewin a chraith y chwarel ond megis smotyn bychan beth pellter i ffwrdd wrth droed y Fronllwyd. Mae’n dŷ urddasol â thri bargod (bay) ffenestrog, a pharaped  wedi’i fowldio yn dalcen iddo, sy’n rhoi ffurf sgwarog a chadarn i flaen yr adeilad. Gwnaethpwyd cyfnewidiau diweddarach yn ystod cyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan greu goleddf uwch i’r prif fae. Nid yw pensaer y tŷ yn hysbys, ac os cywir yr honiad ei fod wedi’i adeiladu yn ystod dau ddegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yna ni chafodd ei adeiladu gan Benjamin Wyatt, prif gynllunydd tai bonedd stad y Penrhyn. Roedd ei yrfa ef wedi dod i ben yn dilyn salwch difrifol yn 1812 ac roedd yn farw erbyn 1818.

Mae peth dirgelwch ynghylch y cysylltiad rhwng Bryn Meurig a meddygfa’r chwarel. Sefydlwyd Cymdeithas Les, rhagflaenydd yr ysbyty, yn 1787 gan Richard Pennant i warchod iechyd a buddiannau ei weithlu, yn arbennig y rhai a anafwyd mewn damweiniau yn y gwaith ac na allai weithio o’r herwydd. Penodwyd meddyg i weinyddu’r cynllun am dal o £100 y flwyddyn, ond mynnai y gŵr hwn, Dr Jones o Bentir, fyw ym Mangor. Roedd hwn yn drefniant arbennig o anhwylus a olygai fod raid symud y cleifion i lety yn ymyl y meddyg ym Mangor.

Olynwyd Dr Jones gan Dr Roberts yn 1805 ac yn 1820 adeiladwyd meddygfa newydd, a hynny ym Mangor unwaith eto. Tybed ai dyma gyfnod adeiladu Bryn Meurig yn y gobaith y byddai’r meddyg yn byw yn nes at y chwarel? Rhaid oedd aros tan 1842 cyn i ysbyty gael ei adeiladu yn y chwarel, a hynny dan awdurdod yr ‘Hen Lord’ fel y’i gelwid sef yr Arglwydd Edward Gordon Douglas Pennant. Penodwyd Dr Hamilton Alfred Roberts yn feddyg â chyfrifoldeb am yr ysbyty ac aeth i fyw i Fryn Meurig a oedd dafliad carreg fwy neu lai oddi wrth yr ysbyty ym Mryn Llwyd. Hamilton Roberts oedd y meddyg a anfarwolodd ei hun drwy fod yn un o’r rhai cyntaf drwy Brydain i ddefnyddio ether mewn llawdriniaeth, a hynny yn yr ysbyty newydd yn 1847. Ef hefyd a oedd yn gyfrifol am ail-lunio rhan o adeiladwaith y tŷ gwreiddiol. Defnyddiodd ei ddiddordeb yn y gwyddorau cynhenid drwy blannu nifer o goed dieithr i harddu amgylchedd y tŷ. Olynydd Hamilton Roberts oedd Dr John Williams a bu yntau fyw ym Mryn Meurig yn ystod ei gyfnod fel meddyg y chwarel. O ddechrau’r ganrif ddiwethaf ymlaen peidiodd y rheidrwydd i fyw ym Mryn Meurig wrth i feddygon y chwarel gyfuno’r gwaith â phractis yn y gymuned leol.

Erbyn dauddegau’r ugeinfed ganrif y teulu McCarter a oedd yn byw yno. Roedd y tad yn un o swyddogion stad y Penrhyn. Yno hefyd yr oedd rhai o athrawon ysgolion Bethesda yn lletya. Un o’r rhain oedd Edeila Wynne a ddaeth o’r coleg yng Nghaerdydd i ddysgu Cymraeg a gwyddor tŷ yn yr Ysgol Ramadeg. Cydymaith iddi ym Mryn Meurig oedd Jennie Thomas, hithau yn benodiad newydd yn Ysgol y Cefnfaes. Daeth y ddwy yn gyfeillion mynwesol ac ym mhen byr amser priododd Edeila Wynne â John Owen Williams o Ben y
Bryn, a dyna greu y cysylltiad a arweiniodd at ysgrifennu Llyfr Mawr y Plant.

Bryn Meurig1

Ffynonellau

Haslam, R., Orbach,  J., Voelcker, A. 2009.  Gwynedd (Pevsner Buildings of Wales)

Hughes, Hugh Derfel. 1866.  Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Jones , O. V.  1984 The Progress of Medicine: A History of the Caernarfon And Anglesey Infirmary 1809 -1948. Llandysul.

Y Beudy Newydd

Beudy newydd 2
Y Beudy Newydd (daw’r llun drwy ganiatâd Roland Flook)

Ar daith i’r Gyrn heibio godre Moel Faban fe welwch adeilad unig yn sefyll ar ffin eithaf stad Cefnfaes a thir agored y Goron yng Ngwaun Cwys Mai. Mae’r adeilad bellach heb ei do ac fe’i defnyddir fel rhan o gorlan i ddefaid. Cyfeirir ato fel y Beudy Newydd ond o edrych yn fanwl fe welwch fod gan yr adeilad gynllun arbennig. Mae iddo ystafell eang yn y canol, ystafell fechan yn ei ben gogleddol a chlamp o fur cerrig a phridd yn gwarchod mur y gorllewin. Yr adeilad hwn oedd cwt ffrwydron W. J. Parry, asiant i gwmni Nobel a chyflenwr ffrwydron mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cychwynnodd Parry ar ei yrfa fel gŵr busnes yn 1864 gan sefydlu ei hun yn gyfrifydd ariannol a masnachwr cyffredinol ym Methesda. Dengys ei hysbyseb yn Sutton’s Directory (1889/90) y gallai gyflawni holl anghenion adeiladu’r pentref, a mwy: ‘General MerchantIron, Lead,  Steel, Chains, Nails, Timber, Bricks, Tiles, Cement, and Lime; oils, paints, ropes, asbestos and hemp packing; grates, ranges, landers, and general ironmongery; powder, fuse caps,&’. Lleolwyd ei iard ar dir tomennydd rwbel hen chwarel Llety’r Adar ar safle a oedd yn rhan o orsaf a iard nwyddau y rheilffordd ym mhen gogleddol y pentref. Fel y nodwyd uchod ei fasnach fwyaf proffidiol oedd ei asiantaeth ffrwydron a phylor du ar gyfer cwmni Nobel o Glasgow. Enillodd yr asiantaeth yn 1877 a gwasanaethai chwareli llechi Arfon a Dyffryn Conwy; chwareli calchfaen Penmon; chwareli gwenithfaen Penmaenmawr; mwyngloddiau plwm Dyffryn Conwy a rhai o gynlluniau peirianyddol mwyaf y gymdogaeth, megis cynllun ehangu porthladd Caergybi. Ei archeb bwysicaf oedd i werthu ffrwydron i Chwarel y Penrhyn, archeb a oedd, o’i hennill yn 1875, yn cyfrannu ar gyfartaledd £1762 y flwyddyn i’w goffrau. Yn ddirybudd yn 1892, terfynwyd y cytundeb gan yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel a phrif elyn gwleidyddol  Parry, a hynny yn bennaf oherwydd ei weithgareddau gydag Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Stori arall yw honno nad yw’n gwbl berthnasol i hanes y cwt ffrwydron yng Ngwaun Cwys Mai. Cewch wybod rhagor am yr anghydfod rhwng Parry ar Arglwydd Penrhyn yn y cofnod am y Farchnad.

Mwy perthnasol fyddai gofyn pam fod Parry wedi dewis safle mor anghyfleus yn storfa i’w gynnyrch ffrwydrol? Ceir yr ateb yn yr Herald Gymraeg , rhifyn Hydref 20fed,1896:

Fflamio a Ffrwydro :‑Dinystrio Coetmor Yard. Golygfa frawychus yn Methesda.

Yn fuan wedi deuddeg o’r gloch, brydnawn Mercher, brawychwyd trigolion Bethesda gan y newydd fod ystorfa eang yr Henadur W.J.Parry ar dan, a mawr oedd y dychryn oblegid y gwyddid fod yn y lle swm o dynameit a phylorau eraill yn arfer cael eu cadw yno….Torodd y tan allan yn un o’r ystafelloedd canol….. Tybir mae casgen o olew gymerodd dan rywfodd, ac wedi i’r fflamau gyneu unwaith, buan yr ymledasant, fel ag yr oedd yr holl le …yn un goelcerth. Daeth Mr Robert Thomas, Coetmor, i’r lle yn ebrwydd, a charlamodd ar gefn ei farch i hysbysu Mr Parry a chwarelwyr Pantdreiniog,  Daethant yno ar unwaith, yn nghyda’r holl ddynion oedd yn gweithio ar adeilad yr ysgol ganolraddol, a channoedd eraill o bob rhan o’r dref. Dechreuwyd ar unwaith ar y gwaith o geisio achub hynny ellid o’r nwyddau, a theilynga pawb y ganmoliaeth uchaf am y dewrder a ddangosasant wrth ymladd a’r elfen ddinystriol.  Gwyddent yn dda fod ar y pryd swm o bylor yn cael ei gadw yn rhywle yn yr adeiladau, a chan fod y foreman oddicartref ni wyddent pa mor agos y gallai y tan fod oddiwrth y dynameit.  Buwyd am beth amser mewn penbleth yn methu a chael dwfr, ond er yr holl beryglon anturiodd nifer o ddynion i mewn i’r lle, a chludwyd y llyfrau a rhan o’r nwyddau i ddiogelwch, yn nghyda’r dodrefn. Gan fod cymaint o goed ac olew yn y lle gellir dychmygu gyda pha gyflymdra yr oedd y tan yn ymledu. Er hyn i gyd, gweithio yn ddiwyd yr oedd y dynion drwy bob perygl.  Yn ffodus iawn, daeth Mr Parry i’r lle mewn pryd i rybuddio y dynion i ddianc ymaith yn ddiymdroi, gan fod y tan wedi cyrraedd y lle yr oedd y dynameit.  Erbyn hyn yr oedd yr holl dref wedi codi mewn braw, a phawb oedd yn byw yn y tai cylchynol wedi dianc am noddfa i rywle o gymdogaeth yr ystorfa.  Rhybuddiwyd bawb i gadw yn glir ar yr heol hefyd.  Yr oedd y gerbydres ar ddyfod i mewn, ac attaliwyd hi bellder cyn cyrraedd yr orsaf. Gyda hyn wele dwrf arswydus.  Yr oedd y twrf y fath na chlybuwyd ei debyg yn yr ardal yng nghof neb sydd yn fyw,  Dywedir ei fod i’r glywed am filltiroedd.  Teimlwyd yr ysgytwad yn Upper Bangor.  Ni chreodd dim y fath fraw yn Methesda;  crynai pob man, maluriwyd ffenestri yn mhob cyfeiriad, ac yr oedd pennau y tai o amgylch yn Station‑road, wedi eu niweidio yn enfawr. Cafodd ty Mr Richard Owen, y gof, ei niweidio, a chafodd yr efail ei rhydyllio.  Cyrhaeddai’r effeithiau gan belled a’r Cafe, a gwnaed niwed i orsaf y rheilffordd.  Ni raid dywedyd fod yr holl ystordy yn gydwastad a’r llawr mewn canlyniad i’r tan a’r ffrwydrad, ac yr oedd yr olwg ar y lle yn dangos fod y tan wedi gwneuthur difrod aruthrol.  Gellid gweled malurion wedi eu lluchio i bellder mawr.  Chafwyd hyd i rai darnau yn ymyl Ty’n clwt ‑ pellder o tua chwarter milltir. Yr hyn sydd bron yn wyrthiol yw na chollodd neb ei fywyd, ac na anafwyd neb yn nglyn a’r tan na chan y darnau a luchiwyd gan y ffrwydriad.  Priodolir hyn yn fwyaf neillduol i’r ffaith fod y pylor yn y rhan bellaf i’r adeiladau, ac felly mewn lle mwy agored.  Pe buasai y malurion wedi eu lluchio i’r cyfeiriad cyferbyniol, gallasai y canlyniadau fod yn fwy difrifol. Anfonwyd i Fangor am y tan‑ddiffoddwyr, a daethant yno mewn ychydig iawn o fynydau, ond yr oedd y ffrwydriad newydd gymeryd lle erbyn hyn.  Llwyddasant i ddiffodd y tan yn ebrwydd, er fod y coed yn cyneu ar ol y ffrwydriad.  Y mae’r olygfa yn awr ar y malurion yn hynod dorcalonus. Cydymdeimlir yn fawr a theulu caredig Coetmor Hall yn ngwyneb y trychineb.  Dywedir fod y golled oddeutu £3000.

Ychwanegodd gohebydd y North Wales Chronicle fod y golled wedi ei yswirio hyd at hanner y gost. Wedi ymchwiliad, cafwyd mai achos y danchwa oedd fod un gasgen betrol tu mewn i’r adeilad, a thair arall y tu allan i’r storfa ffrwydron ac yn ôl yr asesydd difrod o Lerpwl, torrai hyn amodau’r polisi yswiriant. Cwmni’r Alliance oedd yswirwyr yr iard, a Parry oedd cynrychiolydd y cwmni ym Methesda, ac fel asiant i stad y Cefnfaes roedd wedi sicrhau fod yswiriant hanner pentref Bethesda yng ngofal y cwmni. Trwy ryfedd ffawd a graslonrwydd rhyfeddol y cwmni, penderfynwyd digolledu hanner swm y golled i Parry. Un o’r amodau oedd na châi storio ffrwydron yn iard y stesion mwyach er diogelwch y pentref ac y byddai raid cynllunio storfa i gadw pylor du a’r ffrwydron mewn ystafelloedd ar wahân. A dyna’r rheswm paham fod yr adeilad yn sefyll yn unigeddau Gwaun Cwys Mai. Ewch i’w weld, ond gofalwch fod gennych yswiriant cyn mynd!

Ffynonellau

Williams , J. Ll. W. 1997. ‘Two powder magazines in the parish of Llanllechid, Bethesda, and their significance in the industrial turmoil of the late nineteenth century.’ Gwynedd Ddiwyiannol  3, tt.7-17.

Williams, J. Ll. W. 2005.’W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda: Portread o Gyfrifydd, Masnachwr a Hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.’ Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 66, tt. 37-167.

Siet Llanllechid

Does dim nodweddion arbennig yn diffinio siet (escheat) Llanllechid. Mae’n gae bychan  sydd wedi’i leoli y tu cefn i Dan Bryn ar gychwyn y llwybr troed drwy Gors Goch i Chwarel y Bryn. Caiff y cae ei amgylchynu gan waliau uchel ac mae mynedfa iddo drwy ddôr gul sydd dan glo. Ynddo carcharir defaid coll comin Llanllechid, a chyfrifoldeb y bugail mynydd yw edrych ar ei ôl. Ar un amser yr oedd parc siet llawer mwy wedi’i leoli ar y ffridd rhwng Tŷ’n Stabal a phentref Rachub. I’r cae hwn y cesglid defaid coll y mynydd i’w hadfer gan eu perchnogion tra byddai’r gweddill heb nod yn cael eu trosglwyddo i siet Llanllechid. Ar Hydref 29ain, diwrnod Ffair Llan, y byddai’r gweddill hwn yn cael eu gwerthu yn y sêl ‘siet’ arbennig, defod a oedd yn rhan o gyfrifoldeb gweinyddol hen bencadlys amaethyddol plwyf Llanllechid.

Cofnododd William Williams (1738-1817) yn ei arolwg o Sir Gaernarfon yn 1808, fod mwy na 4000 acer o dir plwyf Llanllechid yn gomin â hawl gan bob ffermwr yn y plwyf i bori ei anifeiliaid yn ddiwaharddiad arno. Mae’n amlwg fod hawl mor benagored o’i fath yn creu trafferthion ac yn 1846 sefydlwyd Pwyllgor Gwarchod Comin Llanllechid i lunio cyfundrefn ar gyfer diogelu’r comin. Penderfynwyd yn y pwyllgor cyntaf, a gynhaliwyd yn nhafarn y Red Lion yn Llanllechid, ar dri gorchymyn gwarchodol. Yn gyntaf, y rhoddid caniatâd i bob ffermwr gadw tair dafad i bob acer o’i ddaliadaeth yn y plwyf, ond y byddai’n rhaid i’r deiliad dalu dau swllt am bob dafad a fyddai dros y cyfri penodedig. Yn ail, cytunwyd na chai ffermwr yr hawl i ail osod ei gyfran ef o’r comin i ffermwr arall. Yn drydydd, penderfynwyd codi dirwy o ugain swllt y diwrnod ar dresmaswyr a fyddai’n torri brwyn ar y comin cyn y dydd cyntaf o Awst.

Erbyn mis Chwefror 1849 yr oedd yn amlwg fod buddiannau cymuned Llanllechid cymaint fel yr oedd gofyn am  swyddog arbennig i’w gwarchod, a phenderfyniad y pwyllgor oedd penodi ‘cwnstabl’ i warchod y plwyf, y cyntaf o’i fath yn hanes yr ardal mae’n debyg. Ymhlith ei ddyletswyddau yr oedd gwarchod y comin rhwng misoedd Ebrill a Medi rhag pobl a oedd yn niweidio’r borfa drwy dorri tywyrch. Disgwylid i’r cwnstabl ymweld â’r comin rhwng Penisarnant a chwarel Bryn Hafod y Wern ar nifer o amseroedd yn ystod yr wythnos ac roedd un ymweliad i ddigwydd ar nos Sadwrn pob wythnos. I’w gynorthwyo penderfynwyd penodi pymtheg o gwnstabliaid yn warchodwyr gwirfoddol o blith ffermwyr cymwys neu rai a fynnai gyfrannu at y gwaith. Gwnaethpwyd newid pellach yn 1852 pan benderfynwyd cyflogi gwarchodwr llawn amser i ofalu am fuddiannau’r comin yn unig. Telid wyth swllt a chwe cheiniog yr wythnos am ei wasanaeth ac roedd caniatâd iddo hefyd dderbyn yn ychwanegol hanner gwerth y defaid a oedd yn tresbasu ar y comin. Erbyn 1859 yr oedd cae tresbas wedi’i sefydlu ym mhentref Llanllechid ac roedd cynnig gerbron y dylid adeiladu tŷ i’r swyddog i ofalu am y cae. Mae’n amlwg fod costau cynnal y gyfundrefn yn troi yn faich erbyn chwedegau’r ganrif gyda chyflog y gwarchodwr bellach yn 14 swllt yr wythnos. Ym mis Chwefror 1861 penderfynwyd y dylid diddymu’r swydd yn gyfan gwbl, penderfyniad anymarferol oherwydd ddau fis yn ddiweddarach gorfu i’r pwyllgor ymddiried gwasanaeth gwarchod y comin i ofal wyth o ffermwyr gwirfoddol.

Yr hyn sy’n ddiddorol am holl drafodaethau’r pwyllgor yw diddordeb gwarcheidiol stad y Penrhyn yn y penderfyniadau. Er enghraifft, yn 1849 yr oedd hanner cyflog y gwarchodwr i’w dalu o goffrau Treth y Tlodion a’r hanner arall i’w warantu gan yr Arglwydd Penrhyn. Yn yr un modd yr oedd hanner pris cot y plismon, sef 20 swllt, i’w dalu gan y pwyllgor ac roedd cais i berchennog y stad dalu’r hanner arall. Ni basiwyd yr un penderfyniad heb fod arno yn gyntaf sêl bendith rheolwr stad y Penrhyn, boed hwnnw yn Mr Wyatt neu Mr Ironmonger, er mewn gwirionedd, penderfyniadau ynghylch tir y Goron ac nid perchnogaeth y Penrhyn oedd dan drafodaeth.

Gwybodaeth – Cofnodion Pwyllgor Gwarchod Comin Llanllechid – drwy law Edgar Roberts, Llanfairpwll.

Ffynhonnell

Jones, Emyr Gwynne. 1973. ‘A Survey of the ancient and present state of the county of Caernarvon, by William Williams (Part 2’). Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 34. tt. 112-162

Tyrpeg Lôn Isa

Tolldy Lôn Isa%27
Tyrpeg Lôn Isa

Gwta dri chan metr i’r gogledd o Bont y Pandy, ac ar gychwyn yr hen ffordd bost i Dyddyn Iolyn mae tyrpeg Lôn Isa, a thros y ffordd iddo mae  cwt pwyso. Y ddau adeilad yma yw’r unig gyfuniad o’u bath sydd wedi goroesi ar ffordd bost Telford rhwng yr Amwythig a Chaergybi. Arian y tollbyrth oedd yn cynnal cost adeiladu a chynnal a chadw’r ffordd ac mae lleoliad strategol tyrpeg Lôn Isa, a’i gymar ger Tŷ’n Tŵr, yn amlwg yn rhagweld datblygiad pentref Bethesda a fyddai’n tyfu hanner y ffordd rhwng y ddau adeilad. Adeiladwyd y tollbyrth i gyfateb i gynllun manwl Telford ar gyfer adeilad un llawr ar gynllun croes gyda chyntedd yn ymestyn i’r ffordd i ffurfio’r bwth casglu arian. Dros y ffordd roedd cwt i bwyso llwythi troliau, a rhyngddynt roedd giât a dwy gamfa dro i hwyluso mynediad i gerddwyr.

Cwt Pwyso Lôn Isa%27
Cwt pwyso Lôn Isa

Dyddiad adeiladu tyrpeg Lôn Isa oedd 1820, dyddiad arwyddocaol iawn yn hanes  Dyffryn Ogwen pan sefydlwyd capel Bethesda a roddodd ei enw, wrth gwrs, i’r pentref. Meddai Telford mewn adroddiad i bwyllgor arolygu’r Llywodraeth – ‘A new toll house has been built by Mr Pennant and rented by the Commisioners who have constructed an iron gate and a weighing machine’, a rhwng Medi a Tachwedd yr oedd prysurdeb mawr ynghylch yr adeiladu. Cofnodir bod giât yr hen dollborth ar y Ffordd Dyrpeg yn Hendyrpeg wedi’i symud i dollty Tŷ’n Tŵr; fod tollborth Llandygái wedi’i haltro; a physt giât a byrddau toll Tyrpeg Lôn Isa wedi’u codi. Gwnaed yr holl waith gan William Parry am £7  2  8. Y gŵr hwn oedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r cwt a’r peiriant pwyso yn Lôn Isa am swm o £54  13  11½, a Robert Jones, gofaint lleol mae’n debyg, wnaeth ddwy giât, camfa dro, y bolltau a’r sgriws ar gyfer Tyrpeg Lôn Isa, y cwbl yn costio £23  11  11. Nid unrhyw hen giât a fyddai’n gymwys er hynny ond un a fyddai’n cyfateb i gynllun manwl Telford o giât oedd â phelydrau’r haul yn rhan ohoni, megis yr un sydd i’w gweld heddiw ar y fynedfa i Bont y Borth yn Nhreborth. Roedd Telford felly yn ymwybodol fod yn rhaid creu y ‘brand’ neu’r ddelwedd gywir ar gyfer y ffordd.

giat telford2
Giât ar gynllun Telford ger Treborth, Bangor

 

Ffynhonnell 

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. CBA York.

Williams, J.Ll. W .a Williams, Lowri W. 2016. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. I ymddangos yng nghyfrol  76, 2016.