Rheilffordd y Chwarel

‘Roedd hi’n dipyn o siom i Edward Gordon Douglas, Barwn cyntaf y Penrhyn, pan sylweddolodd yn 1873 fod trenau stêm yn gweithio chwareli ei gystadleuwyr yng Ngwynedd – Dinorwig gyntaf yn 1848 gan droi yn gynllun cyflawn yn 1870; Ffestiniog yn 1863, a Thalyllyn yn 1864. Ar ei ddesg yr oedd cynlluniau manwl gan Charles Spooner, rheolwr a phrif beiriannydd Rheilffordd Ffestiniog, i gyflwyno cynllun cynhwysfawr tebyg i’r un a fodolai yn Ffestiniog ar gyfer y chwarel yn ogystal ag i wasanaethu teithwyr y fro.  Onid oedd hon yn sefyllfa bryderus i berchennog chwarel y Penrhyn wrth iddo sylweddoli fod ei gystadleuwyr wedi cael y blaen arno, tra yn 1801 ei ragflaenwyr ef oedd ymysg y cyntaf ym Mhrydain i gyflwyno tramffordd ar reiliau mewn chwarel. Mewn cyflwyniad i gynllun cynharach yn 1868 awgrymodd Spooner-  ‘I have …considered that a small railway to be of the same gauge as present tramway worked by Locomotive Steam Engines between Penrhyn Quarries and Bangor Slate Wharves would greatly facilitate transit’. Yr oedd y cynllun i gynnwys llinell newydd o’r porthladd drwy ddyffryn Afon Cegin i Felin Hen ac ymlaen i Dregarth ac yno i ymuno â thramffordd y chwarel yn Dinas i ganlyn gweddill y ffordd hyd at y chwarel.  Fel yn ei gynllun yn Ffestiniog ystyriai Spooner weithio’r rheilffordd drwy ddisgyrchiant naturiol yr allt i ddanfon y llwyth o’r chwarel i’r porthladd, gan ddefnyddio trenau stêm i ddwyn y cerbydau gwag yn ôl i’r chwarel. Pris cyflawni’r cynllun fesul milltir oedd £3,250 a’r pris cyflawn dros chwe milltir a hanner fyddai £37,737 a’r pris i gynnwys cost tair injan stêm yn ogystal.

Ond Barwn ystyfnig oedd y Barwn o Landygái, ac yn 1873 derbyniodd gynllun diwygiedig gan Spooner. Yn y cynllun hwn yr oedd y Felin Fawr i’w throsi yn ganolfan cynnal a chadw i’r rheilffordd ac yr oedd gorsaf i deithwyr a nwyddau i’w hagor ger Ffordd y Garth ym Mangor a changen i gyrraedd i’r porthladd. Ar ei llwybr i’r chwarel yr oedd cyfres o orsafoedd i’w sefydlu yn Nhyddyn y Felin (Felin Hen), Tregarth a Hendyrpeg ac yn nherminws Coed y Parc byddai’n cysylltu â rhwydwaith fewnol y gloddfa. Yr oedd un ychwanegiad diddorol wedi ei gynnwys sef bod cangen i  redeg o Tŷ’n y Clwt i bentref Bethesda gydag un orsaf i’w sefydlu ger Cae Gas a’r llall ym mhen arall y pentref. Ychwanegodd Spooner gynlluniau manwl o’r injans, y wagenni nwyddau a’r cerbydau teithwyr y byddai’n argymell eu defnyddio a rhwydwaith stêm gyflawn oedd hon pe byddid yn ei derbyn. Cost yr holl brosiect, i’w gwblhau mewn blwyddyn o waith, fyddai £51,551.

20201027_155653
Linda, un o injans cwmni Hunslet, yn croesi’r draphont ger y fynedfa i’r cei ym Mhorth Penrhyn

Ond Barwn yr un mor ystyfnig oedd yn trigo yn Llandygái, ac nid oedd am dderbyn y cynllun er i Spooner gyflwyno cynllun diwygiedig arall i’w sylw. Gwraidd y broblem oedd fod y Barwn yn mynnu mai cynllun i’r chwarel yn unig ddylai gael ei gyflawni, heb roi ystyriaeth i anghenion y pentref. Yn y cyfamser yr oedd y Barwn o dan bwysau eithriadol o ddau gyfeiriad. Yn y pentref yr oedd ymgyrch ar droed gan rai o’i dinasyddion amlycaf i ddod â rheilffordd genedlaethol yr LNWR i Fethesda er mwyn gwella’r cysylltiad rhwng y chwarel a’r porthladd. Yn y chwarel, ar y llaw arall, yr oedd anesmwythyd diwydiannol pur ddifrifol yn cyniwair. Yn dilyn cwymp mawr yn y chwarel yn 1872 cyflwynwyd adroddiad pur ddamniol ynghylch diffygion trefniadaeth y gloddfa a’r angen i foderneiddio a gwella diogelwch y gweithlu. Arweiniodd yr anghydfod at streic yn 1874. Yn yr awyrgylch anffafriol hwn y penderfynwyd yn 1874 i archebu dwy injan stêm gan gwmni deWinton o Gaernarfon – Lord Penrhyn a Lady Penrhyn-  ar gost o £300 yr un. Rhoddwyd y ddwy i weithio’n fewnol rhwng ponc Red Lion a phen yr allt i‘r Felin Fawr. Yn Rhagfyr y flwyddyn ganlynol archebwyd dwy injan stêm ychwanegol gan gwmni John Beaston o Derby ar gost o £828 yr un, y ddwy eto i weithio o fewn y chwarel. Mae achlysur eu derbyn i’r gwaith wedi ei gofnodi mewn nodyn gan Francis, rheolwr y chwarel, i Arthur Wyatt, prif asiant stad y Penrhyn, ac meddai – ‘we had a trial just now on the engine in the presence of hundreds of men, women and boys from the mill; to Cilgeraint empty, and from Cilgeraint with 24 waggons …. and this is the most hard step of the line’. Y diwrnod canlynol adroddodd eto – ‘ we had the engines to work this afternoon and it is alright. But unfortunately the guard had an accident; He broke his arm. What a job. I would not for £10’.

Rheilffordd-Penrhyn-lliw
Map rheilffordd y chwarel, drwy garedigrwydd a chaniatâd O.G Jones, Erw Las, Bethesda

Gobaith mawr y Barwn oedd y byddai cyflwyno trafnidiaeth stêm i’r chwarel yn lleddfu ychydig ar yr anesmwythyd oedd yn y gwaith, ac felly yn ochelgar iawn y derbyniodd gytundeb gan Robert Algeo yn 1877 i addasu’r rheilffordd o ben allt Dinas i’r Felin Fawr, cynllun a oedd yn ei hanfod yn seiliedig ar waith cynharach Spooner. Ym mis Mawrth 1878 derbyniodd ail gynllun i adeiladu llwybr newydd i’r rheilffordd o Dinas i’r porthladd ac agorwyd yr holl rwydwaith yn derfynol ar Hydref 6ed 1879. Yn unol â dymuniad y Barwn cynllun preifat i’w weithredu er budd y chwarel yn unig oedd hwn ac ni ddymunai gyhoeddusrwydd tebyg i’r hyn a estynnwyd wrth agor rheilffordd gymunedol Spooner yn Ffestiniog.

Gweithiodd y rheilffordd yn eithriadol effeithiol o gyfnod ei hagor yn 1879 hyd at ddyddiad ei chau’n derfynol yn 1965. Mae’n hawdd i ni feirniadu penderfyniadau’r gorffennol heb sylweddoli pa mor aneffeithlon oedd y gwasanaeth erbyn chwedegau’r ugeinfed ganrif, ond yr oedd yn bur amlwg erbyn hynny na ellid rhedeg y gwasanaeth ar gost economaidd hyd y diwedd. Ac mae’n hawdd eto i ni feirniadu’r penderfyniad i chwalu’r holl gyfundrefn, ond does dim dwywaith pe byddai’r rheilffordd hon mewn bodolaeth heddiw y byddai wedi cyfrannu’n helaeth at economi Dyffryn Ogwen. A meddyliwch, beth pe byddai’r Barwn wedi awdurdodi adeiladu’r gangen i bentref Bethesda? Ond mae hanes yn gyforiog o’r ‘pe byddai!

Gwybodaeth ychwanegol gan Idris Lewis, Dolwern, Ffordd Bangor.

Ffynhonnell

J I C Boyd. 1985.  Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford

Susan Turner.  1975. The Padarn and Penrhyn Railways; and their associated systems. Newton Abbot.

Ymfudo i Unol Daleithiau’r America

Dyma erthygl gan Meirion Davies, un o’n cyfranwyr gwadd sydd eisoes wedi trafod ymfudo o Ddyffryn Ogwen i ardaloedd eraill o Gymru. Yma mae’n canolbwyntio ar ymfudo i Unol Daleithiau’r America.

Ymfudodd degau o filoedd o Gymry i Unol Daleithiau’r America yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Cyrchfan llawer oedd dinasoedd mawr, megis Efrog Newydd a Chicago. Aeth eraill i ardaloedd diwydiannol y Gogledd-ddwyrain yn nhaleithiau Vermont, Efrog Newydd, Ohio a Pennsylvania i weithio yn y chwareli llechi, y pyllau glo a’r gweithfeydd haearn. Mentrodd rhai i daleithiau canolog, fel Wisconsin i ffermio, tra denwyd eraill i fwyngloddiau aur, copr a phlwm y De-orllewin a California. Erbyn 1890 cofnodwyd dros 100,000 yn enedigol o Gymru yng nghyfrifiad yr U.D.A.

Gwelwyd tipyn o ymfudo o Fethesda i’r Unol Daleithiau. Rhwng 1845 a 1851 ymfudodd tua 1500 o Fethesda a Llanberis i ardaloedd llechi Vermont. Yn y 1880au cynnar roedd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn hybu ymfudo fel ateb i ddiweithdra adeg dirwasgiad yn y fasnach lechi. Yn ogystal roedd asiantaethau ymfudo’n denu gweithwyr medrus i symud, ac yn olaf gwelwyd ymfudo fel ymateb i streiciau, megis 1896-1897 ac 1900-1903.

Mae cofnodion ymfudwyr a laniodd yn Ellis Island, Efrog Newydd, rhwng 1893 a 1924, yn hynod fanwl. Ym mhob achos cofnodir enw’r mudwr, ynghyd â’i oed, rhyw, a gwaith. Hefyd nodir y man diwethaf iddynt fyw yn eu mamwlad, y porthladd o ble hwyliodd eu llong, eu dinasyddiaeth/cenedligrwydd, eu cyrchfan yn yr U.D.A. ac os bwriedid mudo’n barhaol ai peidio. Yn ogystal mae llawer o’r cofnodion yn cynnwys gwybodaeth megis statws priodasol; iaith; crefydd; cyfeiriad ffrind neu berthynas yn y tarddle a’r cyrchfan (os yn berthnasol); pwy dalodd am y tocyn; ac a fu’r teithiwr yn yr Unol Daleithiau o’r blaen.

Niferoedd.

Rhwng 1894 a 1924 nododd 485 o bobl eu bod wedi ymfudo o Fethesda. Mae hyn yn nifer sylweddol o feddwl mai oddeutu 9,000 – 11,000 oedd poblogaeth plwyfi Llanllechid a Llandygái yn ystod y cyfnod yma.

Nifer gymharol fychan o drigolion Bethesda a’r cylch a ymfudodd rhwng 1894 a 1902. Bu cynnydd ym 1900, ond o graffu ar ddyddiadau glanio, mae’r mwyafrif wedi cyrraedd cyn mis Tachwedd, felly ni ellir priodoli eu hymfudo i streic chwarel y Penrhyn.

Cymharol ychydig sy’n symud ym 1901 a 1902, yna gwelir cynnydd sylweddol ym mlwyddyn ola’r streic a’r ddwy flynedd ganlynol. Roedd nifer o achosion am y twf yma. Ni fyddai streicwyr amlwg yn debygol o ddychwelyd i’w swyddi. Collodd y chwarel farchnadoedd i gystadleuwyr, a dechreuodd gwledydd eraill godi trethi ar fewnforion llechi o Brydain. Hefyd, daeth teils yn rhatach i’w cynhyrchu. O ganlyniad, erbyn 1907 dim ond 1,800 a gyflogwyd yn y chwarel o’i gymharu â 2,700 cynt. Yn ogystal ni ddylid anwybyddu ffactorau cymdeithasol a phersonol a arweiniodd at ymfudo, gan fod chwerwder a chaledi’r anghydfod wedi rhwygo’r gymuned.

O 1906 hyd 1913 parhaodd lefel yr ymfudo’n ugain neu fwy’r flwyddyn, yna dirywiodd yn sylweddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymharol ychydig a ymfudodd yn y 1920au cyn i’r Unol Daleithiau gyflwyno Deddf Mewnfudo 1924.

Strwythur demograffig a chymdeithasol

Pobl ifanc oedd mwyafrif yr ymfudwyr, yn bennaf yn eu hugeiniau a’u tridegau – adlewyrchiad eu bod yn fwy “troed rydd” na phobl hŷn. Er bod mwy o ddynion na merched wedi ymfudo, nid oedd y gwahaniaeth mor amlwg â’r hyn a welwyd yng nghymoedd glo De Cymru.

O’r oedolion, roedd ychydig dros eu hanner wedi priodi. Traean yn unig o’r rhain a fudodd fel cwpl, boed hynny fel teulu niwclear gyda’u plant neu fel cyplau. Roedd yn llawer mwy cyffredin i un cymar mudo ac yna’r llall ymuno yn ddiweddarach.

Ceir tystiolaeth bellach o ddylanwad ffrindiau a theulu yn yr atebion i’r cwestiwn, “at bwy oedd y mudwr yn symud” ? Hwyliodd y mwyafrif llethol i fyw yn yr un gymuned a pherthynas neu ffrind.

Symud AtNifer
Perthynas321
Ffrind55
Neb108

Nodweddion cyflogaeth.

Roedd dipyn mwy o wrywod na benywod mewn gwaith cyflogedig. Nodwedd gymdeithasol ac economaidd o’r cyfnod yma oedd mai ychydig iawn o fenywod priod oedd yn gyflogedig. Nid oedd yr un o’r gwragedd priod a fudodd o Fethesda mewn gwaith cyflog.

Swyddi Benywod di-briodNifer
Morwyn45
Gwniyddes, hetwraig12
Athrawes, gofalwraig plant3
Clerc2
Bydwraig, nyrs2
Ysgrifenwraig1

Mae swyddi’r menywod dibriod yn debyg iawn i batrwm cenedlaethol cyfrifiadau 1891 – 1911, gyda’r mwyafrif llethol wedi eu cyflogi fel morynion, ynghyd â chanran sylweddol fel crefftwyr yn gwneud dillad. Ychydig oedd mewn swyddi proffesiynol/lled broffesiynol gan mai prin oedd y cyfleoedd addysg bellach i ferched  (yn enwedig merched o gefndir dosbarth gweithiol).

Swyddi GwrywodNifer
Chwarelwr113
Mwyngloddiwr24
Labrwr17
Cigydd, pobydd, groser10
Ffermwr, gwas ffarm, garddwr9
Saer maen7
Gwneuthurwr llechi6
Gof6
Teiliwr, gwneuthurwr oriawr4
Masnachwr3
Fferyllydd3
Pregethwr3
Plymwr, paentiwr, briciwr4
Clerc2
Saer coed2
Glöwr2
Cerddor2
Peiriannydd2
Gweithiwr rheilffordd2
Morwr2
Teithiwr masnachol1
Tyllwr1
Torrwr gwallt1
Asiant yswiriant1
Gwaith haearn1

Fel y merched, ychydig iawn o ddynion oedd mewn swyddi proffesiynol – ambell weinidog yn symud i wasanaethu mewn capeli Cymreig, ambell glerc a hefyd cerddor ac arweinydd cerdd. Yn yr un modd, ychydig oedd yn amaethwyr neu weision fferm.

Mae’n ddifyr fod cynifer yn gweithio yn y diwydiant adeiladu – seiri maen, bricwyr, plymiwr, paentiwr, seiri coed. Arwydd o’r galw cynyddol am weithwyr yn y sector yma i ddiwallu’r angen am gartrefi ar gyfer poblogaeth oedd yn tyfu’n aruthrol o gyflym.

Y swyddi mwyaf cyffredin oedd labrwyr, mwyngloddwyr a chwarelwyr. Does dim syndod fod dros gant o’r dynion yn chwarelwyr – y chwarel oedd prif gyflogwr Bethesda. Gallai’r mwyngloddwyr hefyd fod yn chwarelwyr – yn yr Unol Daleithiau yn aml fe gyfeirir atynt fel “slate miners”. Ond gallai’r mwyngloddwyr yma fod yn ddynion o Fethesda a fu’n gweithio ym mhyllau glo De Cymru cyn ymfudo i Faes Glo Pennsylvannia. Mae cyrchfannau’r mwyngloddwyr yma’n cynnwys trefi chwarelyddol a rhai glofaol.

Patrymau daearyddol

Hwyliodd 95% o’r ymfudwyr o Lerpwl. Dyma’r porthladd agosaf at Fethesda.

O edrych ar fap yr Unol Daleithiau mae’n bosib canfod y rhanbarthau oedd yn denu trigolion Bethesda. Cyrchfan y mwyafrif oedd y Gogledd-ddwyrain. Dyma leoliad y porthladdoedd oedd yn derbyn mewnfudwyr o Ewrop. Hefyd dyma ganolbwynt diwydiannol a masnachol yr Unol Daleithiau ar y pryd. Y prif gyrchfannau oedd taleithiau Pennsylvania, Efrog Newydd a Vermont.

Roedd hefyd rhywfaint o fudo i Ogledd y Canolbarth – taleithiau Illinois (Chicago) a Wisconsin. Prin iawn oedd y mudwyr i’r Gorllewin a’r De.

Gallwn fanylu ychydig ar gyrchfannau’r ymfudwyr. Aeth dros 95% ohonynt i ddinasoedd mawr neu ardaloedd diwydiannol. Llond dyrnaid yn unig a fudodd i lefydd gwledig. Nid yw hyn yn syndod, wedi’r cyfan ardal ddiwydiannol oedd Bethesda ac ychydig o ffermwyr neu weision fferm ymfudodd o Lanllechid neu Landygái.

Denwyd nifer fawr o’r mewnfudwyr i ddinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau, yn enwedig Efrog Newydd a Chicago, ble roedd amrywiaeth o swyddi ar gael. I’r dinasoedd yma y symudodd y rhan fwyaf o weithwyr yn y sectorau masnachol, adeiladu a chrefftau.

Natur economaidd cyrchfannauNifer y mudwyr
Aur/Copr/Calch3
Haearn5
Efrog Newydd29
Chicago31
Dinasoedd mawr eraill, e.e. Boston, Milwaukee, Cincinnati, Buffalo.39
Glo89
Llechi206

Aeth un neu ddau o Fethesda i weithio ym mwyngloddiau aur a chopr y De-orllewin ac ychydig yn fwy i weithfeydd haearn Pennsylvania, ond y meysydd glo ac ardaloedd y chwareli llechi a ddenodd trwch y mewnfudwyr.

Denwyd llawer i weithio ym mhyllau glo Pennsylvania ac mae enwau llawer o’r trefi a gofnodwyd fel cyrchfannau, megis Wilkes Barre a Scranton, yn gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru. A oedd gan y mudwyr yma brofiad o weithio ym mhyllau glo De Cymru neu a aethant yn syth o’r chwarel ?

Chwareli llechi’r Gogledd-ddwyrain oedd yr atyniad mwyaf o bell ffordd – Bangor a Slatington (Pennsylvania);  Poultney, West Pawlett a Fairhaven (Vermont); Granville (Efrog Newydd). Cai’r chwarelwyr o Gymru eu hystyried fel gweithwyr profiadol a medrus a gwnaed ymdrech mawr i’w denu i ddatblygu’r diwydiant yn yr Unol Daleithiau. Bu nifer o Gymru yn allweddol i sefydliad rhai chwareli, e.e. Robert Morris Jones (brodor o Fethesda) ym Mangor, Owen Jones yn Slatington.

Nodwedd hynod o’r cofnodion glanio yw’r nifer oedd yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau o Fethesda. Roedd 73 ohonynt yn wedi bod yn America o’r blaen, sef 15% o’r teithwyr. Roedd hyn yn annisgwyl, ond o edrych ar gyfrifiadau 1891 i 1911, gwelir bod dros 70 o bobl a aned yn yr Unol Daleithiau’n byw yn Llanllechid, Llandygái a Bethesda. Mae hyn yn awgrymu fod “mudo dychwelyd” (return migration) yn weddol gyffredin. Beth a alluogodd i hyn ddigwydd a beth oedd y rhesymau achosodd y dychwelyd ?

Mae’r cwestiwn cyntaf uchod yn weddol hawdd ei ateb. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd hwylio’r Iwerydd yn fwy diogel ac yn gyflymach nag erioed o’r blaen. Yn y 1830au cymerai’r daith dros bymtheg diwrnod ond erbyn 1900 dim ond 5-6 diwrnod. Yn ogystal roedd y llongau’n fwy –  llawer yn medru cludo dros 2,000 o bobl. Golygai hyn fod cost tocynnau’n gostwng. Yn ogystal roedd cysylltiadau personol yn cynyddu – mwy o bobl yn llythrennog, gwell systemau post, telegraff traws Iwerydd.

Mae’r ail gwestiwn yn anoddach i’w ateb, gan fod rhesymau gwahanol gan bawb i ddychwelyd. Yn ddiamau ymwelwyr dros dro i Fethesda oedd y mwyafrif a gofnodwyd yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau, rhai ohonynt yn wreiddiol o Gymru, eraill yn ddisgynyddion i ymfudwyr o Gymru. Efallai eu bod wedi teithio i’w hardal enedigol i ymweld â’r teulu; i gyflwyno plant a anwyd yn yr Unol Daleithiau neu i gynorthwyo ar adegau o argyfwng teuluol. Dyma rai enghreifftiau.

Mehefin 1897. Catherine Williams yn glanio yn Ellis Island gyda’i tri phlentyn. Roedd yn dychwelyd at ei gŵr yn Slatington,  Pennsylvania. Mae cofnodion mewnfudo Prydain yn dangos iddynt hwylio o Efrog Newydd i Lerpwl fis Awst 1896, felly roeddent wedi aros ym Methesda am tua blwyddyn. Beth oedd ei rheswm am deithio ?

Mai 1911. Dychwelodd Katie Parry, 11 oed, at ei thad, Thomas, yn Efrog Newydd. Mae’n nodi ei bod wedi ei geni yn yr UDA ac yn ddinesydd i’r wlad. Dengys cofnodion mewnfudo Prydain iddi gyrraedd Lerpwl Mehefin 1910. Mae cyfrifiad Prydain am 1911 yn dangos ei bod yn aros gyda’i nain Catherine Parry , gweddw 75 oed yn 14 Water Street, Bethesda. Fe’i nodir fel disgybl ysgol 12 oed – “New York City resident. British citizen by parentage”.

Awst 1909 Osborne Jones 25 oed, chwarelwr, yn dychwelyd i West Pawlett, Vermont at ei frawd, William. Hwyliodd o Efrog Newydd i Lerpwl Gorffennaf 1908. Ei gyswllt yn ei famwlad oedd ei dad O. Jones,  3 Gwernydd, Bethesda.

Ymddengys fod y bobl a aned yn yr Unol Daleithiau a gofnodir ym Methesda yng nghyfrifiadau 1891-1911 yn dueddol o fod yn ddychwelwyr parhaol. Mae nifer o resymau i gredu hyn. Yn gyntaf, un sy’n cael ei ddisgrifio fel ymwelydd. Yn ail, mae’r mwyafrif o oedolion gwrywaidd mewn gwaith (chwarelwyr yn bennaf). Yn olaf, mae nifer o blant iau teuluoedd a fu yn America wedi eu geni ym Methesda. Dyma rai enghreifftiau.

1891. 64 Coed y Parc, Llandygái. Y penteulu oedd Margaret Jones, gweddw 27 oed a anwyd yn Llandygái. Roedd ganddi ddau blentyn – William, 7 oed, wedi ei eni yn Llanllechid ac Ellen, dwy flwydd oed, yn enedigol o Philadelphia. Felly symudodd Margaret i’r Unol Daleithiau rywbryd wedi 1884 a dychwelyd ym 1889 neu’n hwyrach. A fu ei gŵr farw yn yr Unol Daleithiau ?

1901. 116 Caegroes, Bethesda. Rowland Thomas, penteulu – chwarelwr 49 oed yn enedigol o Bentraeth, Ynys Môn a’i wraig Grace, 50 oed yn enedigol o Lanllechid. Yn cydfyw gyda hwy mae eu merch, Grace Hughes, a anwyd yn America ym 1875. Roedd gan Grace dri o blant – Lizzie, 5 oed a anwyd yn America, Willie 3 mlwydd oed a Roland 2 fis oed, y ddau wedi eu geni yn Llanllechid. O’r wybodaeth yma gallwn ddweud fod tair cenhedlaeth o’r teulu wedi byw yn yr Unol Daleithiau. Cofnodir Grace yn cyrraedd Lerpwl, Hydref 1898, fel Mrs John Hughes, gyda’i phlant Lizzie ac Ethel (bu farw Ethel ym 1900). Ym 1901 roedd John Hughes yn absennol – efallai ei fod yn un o’r rhai a fudodd i chwilio am waith oherwydd streic Chwarel y Penrhyn.

Mae’n debygol fod amrywiaeth o resymau wedi achosi pobl i ddychwelyd yn barhaol. Marwolaeth neu salwch aelod o’r teulu yng Nghymru neu yn yr Unol Daleithiau. Methiant economaidd neu gymdeithasol yn America. Hiraeth am eu hardal enedigol neu eu teulu a ffrindiau.

Efallai mai’r bwriad gwreiddiol oedd mudo am gyfnod ac yna dychwelyd i Gymru. Mae ymchwil i fewnfudwyr o Pakistan i Brydain wedi’r Ail Ryfel Byd wedi canfod yr hyn a elwir yn “freuddwyd dychwelyd” (myth of return). Gallai’r un freuddwyd fod wedi bodoli ymhlith nifer o ymfudwyr Cymreig.

Yng nghyd-destun y syniad uchod mae angen pwysleisio fod pob un o’r rhai a anwyd yn America ond a gofnodwyd ym Methesda yn ystod cyfrifiadau 1891 – 1911 yn siarad Cymraeg. Fel y soniwyd cynt, roedd llawer o gymunedau Cymraeg eu hiaith yn yr Unol Daleithiau a sefydliadau fel y capeli’n gymorth i barhad yr iaith a’r diwylliant. Derbyniwyd y Cymry yn llawer haws gan yr Americanwyr nag ambell grŵp arall o fewnfudwyr  – medrent Saesneg; roeddent yn Brotestaniaid ac yn aml yn weithwyr medrus. Eto i gyd, yn yr un modd a mewnfudwyr o wledydd eraill, roedd yn cymryd tair neu bedair cenhedlaeth iddynt gymathu (assimilate/integrate) yn llwyr.

Casgliad.

Mudodd cannoedd o bobl o Fethesda i’r Unol Daleithiau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Rhesymau economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am yr ymfudo. Ymhlith y ffactorau gwthio oedd tlodi, streiciau, dirwasgiad a dirywiad y diwydiant llechi yng Nghymru. Yr hyn oedd yn eu denu i America oedd y gobaith am waith, yn enwedig yn y dinasoedd mawr neu yn yr ardaloedd diwydiannol.

Ni ddylid anghofio fod elfennau cymdeithasol yn bwysig wrth benderfynu ymfudo. Roedd datblygiad cymunedau Cymraeg yn gwneud y broses o ymsefydlu yn y wlad newydd yn haws ac ar lefel unigol gallwn weld pwysigrwydd ffrindiau a theulu i’r broses yma.

Yn olaf, nid oedd ymfudo o reidrwydd yn daith unffordd. Mae cofnodion mudo a’r cyfrifiad yn dangos fod nifer sylweddol yn ail groesi’r Iwerydd, rhai ar ymweliad dros dro, eraill yn dychwelyd yn barhaol.

Plasty Canoloesol y Penrhyn

Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif deiliad y Penrhyn oedd Gwilym ap Gruffydd (1370-1430) gŵr a gymerodd gamau breision trachwantus i ymledu a chadarnhau ei stad. Yn hanesyddol, ef oedd un o’r perchnogion tir cyntaf a fanteisiodd i ledu gorwelion ei diriogaeth drwy brynu tir yn hytrach na thrwy ei ennill fel rhan o etifeddiaeth neu mewn brwydr. Drwy gyfuniad o gyfoeth, ystryw ac efallai rym, llwyddodd Gwilym ap Gruffydd i oresgyn y drefn frodorol Gymreig o ddosrannu tir yn gyfrannog. O 1352 ymlaen, yn dilyn tanseilio’r drefn Gymreig gan goncwest Edward I, digwyddodd cyfnewidiadau tiriogaethol sylweddol yn yr ardal ac erbyn 1413 yr oedd Gruffydd yn berchen ar drefgor Gymreig Cororion ac yn derbyn rhent o £14.7.0 gan ei denantiaid. Mae cofnod cyntaf y plasty yn dyddio i 1413 ac felly mae ym mherchnogaeth teulu Gwilym ap Gruffydd. Fodd bynnag, credir fod tiriogaeth y stad yn perthyn i gyfnod cynharach yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac fe’i cysylltir â Gafael Gron ap Eden. Y bymthegfed ganrif oedd un o gyfnodau oes aur y Penrhyn pan oedd yn enwog drwy Gymru am y croeso a’r lletygarwch a geid yno i feirdd mwyaf clodfawr y glêr. Un o’r ymwelwyr cyson oedd Guto’r Glyn, a ystyrir ymysg y disgleiriaf o’r holl feirdd, a chanodd ef ddau gywydd mawl i William Fychan ap Gwilym, sef mab Gwilym o’r Penrhyn, a ddigwyddai hefyd fod yn siambrlen Gwynedd i ychwanegu at ei glod.

Dan law Gwilym ap Gruffydd a’i linach yr oedd y stad yn endid tra llwyddiannus hyd at ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg pan ddaeth i feddiant John Williams (1582-1650), y clerigwr a’r cyfryngwr brenhinol a enillodd enwogrwydd am gyfnod byr yn ei hanes pan urddwyd ef yn Archesgob Caerefrog yn 1641. Fel disgynnydd teulu’r Penrhyn ar ochr ei dad daeth yn berchen ar y stad, ond fel gŵr oedd â’i bennaf ddiddordeb mewn gwleidydda yng nghoridorau awdurdod y cyfnod, prin y talodd unrhyw sylw i wella ei chyflwr, a hyd yn oed yn ystod cyfnod ei alltudiaeth i Wynedd ar ôl 1642 mynnodd fyw yng nghastell Conwy gan farw yng Nghloddaeth ger Llandudno yn 1650.

Yn y ddeunawfed ganrif aeth y stad i ddwylo rhanedig teulu Warburton o Winnington yn swydd Gaerllion ar y naill law a theulu’r Yonge o Ddyfnaint ar y llall. Yn 1765 priododd Anne Susannah, merch y Cadfridog Warburton a Richard Pennant (1737?-1808) a thrwy’r briodas etifeddodd Richard Pennant gyfran y Warburtons o’r stad. O flwyddyn ei briodas ymlaen dechreuodd Pennant ar y broses o adfeddiannu cyfran teulu’r Yonges o’r etifeddiaeth gan lwyddo ym 1781 i gyfannu’r holl stad yn un berchnogaeth. Ei wobr oedd perchnogi 13,271 acer o dir ym mhlwyf Llandygái a 7,936 acer ym mhlwyf Llanllechid. O’r cyfansymiau hyn roedd 6,069 acer yn rhan isaf Llandygái; 3,779 yn rhan isaf Llanllechid; 5,548 yn Nant Ffrancon a 5,483 yn Nant y Benglog. Yn dilyn cenedlaethau o esgeulustod a diffyg cyfalaf yr oedd y stad mewn cyflwr truenus ond defnyddiodd Pennant ei fuddsoddiad o berchnogi stad siwgr enfawr ym mhlwyf Clarendon yn Jamaica i drawsnewid stad y Penrhyn o’i chyflwr canoloesol dirwasgedig i fod yn rym economaidd yn chwyldro diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Elwodd Richard Pennant ar ddatblygu chwarel lechi Cae Braich y Cafn i fod yn chwarel lechi fwyaf y byd a buddsoddodd yn drwm i greu isadeiledd cadarn i’w anturiaeth drwy adeiladu ffyrdd, porthladd a thramffordd i gynnal y chwarel tra ar yr un pryd wella cyflwr amaethyddol y stad drwy blannu coed a mynnu gwell arferion mewn hwsmonaeth, amaethu cnydau a thir pori.

Nid gŵr rhyddfrydig ac elusengar oedd Richard Pennant ond cyfalafwr hirben a chystadleuol, ac unben patriarchaidd. Ei gartref, fel cartref ei ragflaenwyr, oedd hen blasty canoloesol y Penrhyn. Yn Arolwg y Penrhyn 1768 ceir bras gynllun o safle’r plasty gwreiddiol. Mae’n amlwg y dewisiwyd y safle yn ofalus fel canolfan cyfarfod nifer o lwybrau pwysig – i’r de y ffordd yn cysylltu â Llandygái,  i’r gogledd y cysylltiad uniongyrchol â Ffordd Domas, y prif lwybr rhwng Aber Cegin a thref Bangor yn y gorllewin ac Aber Ogwen ac ymlaen i Gonwy yn y dwyrain gan groesi rhyd, neu efallai bompren, dros Lyn y Celanedd ar afon Ogwen. Dengys y cynllun fod y plasty bonheddig ar ffurf dau adeilad wedi eu hamgáu gan gwrt sgwâr ei ffurf. Mae un o’r adeiladau yn hirsgwâr ei gynllun a’r llall gydag ychwanegiadau byr yn ymestyn o’r ddau dalcen i roddi bras ffurf llythyren C i’r adeilad. Mae’n bur debyg mai hwn oedd ôl y nodwedd y tŷ gwreiddiol, bonheddig, a oedd yn dyddio o’r canol oesoedd. Darganfuwyd llun o’r plasty gwreiddiol yn llaw yr artist Cymreig enwog Moses Gruffydd, er efallai nad yw bras gynllun 1768 a’r llun yn cydweddu yn union. Nodweddion arbennig y llun yw’r ddwy ffenestr yn arddull y bedwared ganrif ar ddeg a fyddai  wedi goleuo’r neuadd; y prif ddrws gyda chantel pigfain a roddai fynediad i’r tŷ a’r neuadd; a’r tŵr a fyddai’n cynnwys grisiau ar dro yn arwain i’r ystafelloedd cysgu ar ochr y gogledd. Yr oedd ystafelloedd cysgu cyffelyb ar adain ddeheuol y tŷ.

Yn 1782 rhoddodd Richard Pennant gyfarwyddyd i Samuel Wyatt, pensaer yn Llundain a brawd ei asiant Benjamin, i ail lunio’r adeilad gwreiddiol ar ffurf manordy castellog o’r canol oesoedd. Afraid dweud y byddai gan Anne Susannah, ei wraig uchelgeisiol ac unbenaethol, ei dymuniad a’i chyfraniad i ‘foderneiddio’ yr hen dŷ. Onid hi wrth gwrs ddeisyfodd gynllunio nifer o adeiladu arbennig o ffansi ar y stad, gan gynnwys baddondy ar lan y Fenai; pafiliwn i syllu ar ryfeddod y chwarel ym Mhont Ogwen, llaethdy ym Mhen Isa’r Nant a fferm arbrofol yn Nolawen ar gwr Nant Ffrancon.  Yn rhyfeddol plethwyd rhannau o’r ddau dŷ gwreiddiol i adeiladwaith y castell rhodresgar a adeiladwyd yn 1825 gan y pensaer Hopper i ddominyddu safle cartref gwreiddiol teulu’r  Penrhyn. Yr oedd hen ddiwylliant Cymreig teulu’r Penrhyn wedi diflannu erbyn i Richard Pennant ddod yn berchennog ar yr hen blasty, ond y fwyell farwol oedd adeiladu’r horwth castell presennol gan ei olynydd balch George Hay, ei bensaernïaeth neo-Normanaidd yn symbol o goncwest cyfalafiaeth estron dros y gymdeithas ddiymadferth frodorol Gymreig.

Ffynonellau

Eurig Salisbury, Barry J. Lewis.  2014 Guto’r Glyn: a life. Gwefan httpc://www.gutorglyn.net

RCAMW. 1964 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 3 West. HMSO, London

John Rolant Jones. 1955. Traethawd MA heb ei gyhoeddi, Prifysgol Bangor.

J.Ll. W. Williams; Lowri W. Williams. 2011. Etifeddiaeth Richard Pennant Ysw yn Nyffryn Ogwen 1768: ‘gŵr deallus, llygadog ac anturiaethus oedd efe a bu o fawrfendith i’r wlad hon’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,72,29-53.