Tŷ’n Tŵr ‘Village’

Ty'n Twr 1768 delwedd 1
Tŷ’n Tŵr yn 1765

Mae’n rhyfedd cyfeirio at Tŷ’n Tŵr (gwelir hefyd Ty’n Twr a Tyn Twr) fel ‘village’ ond dyna yw’r cyfeiriad yng nghyfrifiad 1851, ac ar fap Johnson o’r ardal yn 1855 ymddengys Braichmelyn fel atodiad yn unig i dreflan gynharach Tŷ’n Tŵr. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd undod fferm wreiddiol Tŷ’n Tŵr, sef y ffermdy canol oesol y cyfeirir ato heddiw fel Tŷ John Iorc, yn prysur ddiflannu wrth i’r caeau gael eu trosi’n strydoedd o dai ym Mraichmelyn a Chaerberllan ar gyfer gweithlu Chwarel y Penrhyn. Gellir dyddio datblygiad cychwynnol y rhesi tai i gyfnod trothwy map y Degwm yn 1840 ac erbyn i Johnson gyflwyno ei fap yn 1855 yr oedd strydoedd Caerberllan a Braichmelyn wedi datblygu yn sefydliadau llawer mwy a llawer pwysicach na’r cnewyllyn hynafol gwreiddiol wrth y bont yn Nhŷ’n Tŵr.

Bethesda 1822 crop delwedd 2
Ty’n Tŵr yn 1822 – manylyn o Fap Llanllechid drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

Sefydlwyd treflan Tŷ’n Tŵr cyn 1822. Yno ar dir Stad y Penrhyn adeiladwyd pump o dai traddodiadol un llawr â siambr a chroglofft, wedi eu cywasgu rhwng cysgod y graig a glan Afon Ogwen ac yn ychwanegiad i’r ffermdy gwreiddiol. Yng nghyfrifiad 1841 yr oedd un o’r tai yn gartref i Owen Williams, chwarelwr 40 oed yn wreiddiol o Landwrog, a’i wraig Margaret, hi yn anedig yn ôl y cyfrifiad o Lanllechid, er bod traddodiad teuluol yn dweud yn wahanol. Ystyrid fod Margaret o deulu Albanaidd a oedd wedi ymgartrefu yn Llanberis ond a symudodd i Dyddyn Gogrwn, Pentir drwy drefniant gydag Assheton-Smith er mwyn ei alluogi ef i ddatblygu chwarel fawr Dinorwig. Boed hynny fel y bo, yn Nhŷ’n Tŵr ganed saith o feibion i Owen a Margaret rhwng 1831 ac 1850. Owen William Davies oedd enw priod y gŵr ond gollyngodd y Davies a daeth Williams yn gyfenw i’r teulu. Mae hanes y saith mab yn ddrych i’r hyn y gellid ei adrodd am deuluoedd llawer o chwarelwyr Dyffryn Ogwen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg – troeon yr yrfa megis nad ydynt o reidrwydd yn bwysig ond sydd yn werthfawr oherwydd eu bod yn gyffredin.

Yn yr achos hwn mae’r cyffredin yn gofnod o ymlediad y teulu – mae hanes y mab hynaf yn annelwig; boddwyd brawd arall yn llanc 17 oed oddi ar arfordir De Affrica; ymfudodd un arall i Awstralia; a symudodd y brawd iau i Fangor i weithio mewn iard goed. Gellir manylu ar hanes y tri mab oedd weddill. Chwarelwyr oedd John ac Owen ond prentisiwyd Richard i fod yn saer coed llongau. Bu i’r tri briodi a magu teulu, er bod John ac Owen yn hir cyn gadael y nyth yn Nhŷ’n Tŵr. Yr oedd Richard yn ŵr llwyddiannus a dilynodd yrfa fel casglwr a swyddog trethi gan ychwanegu at ei statws cymdeithasol. Prynodd ddarn o dir ym Mhenybryn ac adeiladu arno ei gartref a’i enwi yn Ivy House. Danfonodd un o’i ferched i ysgol breswyl Dr Williams yn Nolgellau ac aeth hi ymlaen i raddio o’r brifysgol yn Aberystwyth.  Yn ystod ei yrfa dringodd Owen i swydd marciwr yn Chwarel y Penrhyn ac fe aned dau fab iddo, un yn chwarelwr a’r llall yn ffitar yn y chwarel. Pan ddaeth cyfnod adfyd y Streic Fawr 1900-03, parhaodd teulu Owen i weithio yn y chwarel a dioddefodd y tad a’r meibion nifer o ymosodiadau ciaidd.

A beth, tybed, oedd hanes John? Bernir ei fod yn ŵr tawel, uchel ei barch yn y gymuned. Collodd ei wraig gyntaf pan oedd hi yn 31 mlwydd oed yn Rhagfyr 1877 ac ymhen y flwyddyn bu farw eu mab bychan yn dair blwydd oed, ond yr oedd ganddo hefyd ferch o’r briodas hon a briododd yn y man a bu’n byw drws nesa i’r tŷ lle’i maged. Yr oedd ei thad yn amlwg yn ŵr hirben a llwyddodd, gyda’i frawd Richard, i fuddsoddi swm o £80 mewn llong yn Lerpwl, swm enfawr o ystyried mai chwarelwr cyffredin ydoedd wrth ei alwedigaeth. Ailbriododd â merch oedd ddeunaw mlynedd yn iau nag ef a ganed un mab iddynt. Yn ei dro aeth yntau i Brifysgol Bangor i fod yn beiriannydd. Hyd y gwyddys nid aeth John yn ôl i’r chwarel fel ei frawd Owen yn ystod  y streic fawr, yr oedd bellach yn ŵr bregus ei iechyd a bu farw yn 1908 yn 74 oed. Ar ddiwrnod ei gynhebrwng adroddir fod brodyr ei wraig, teulu o gyff radicalaidd o Nant y Tŷ ar gyrion Gwaun Cwys Mai ym Methesda, wedi gwrthod dod i’r tŷ ond iddynt gael eu perswadio i sefyll ar y cyrion i dalu parch i aelod o deulu yr oeddynt hwy yn eu hystyried yn fradwyr yn ystod y streic.

Mae’r stori felly yn gofnod o freuder perthynas teulu o dan amgylchiadau blin mewn cyfnod anodd yn hanes Dyffryn Ogwen.

Bythynnod Tŷ’n Tŵr heddiw

Hengorau Llandygái

Hengorau a safleoedd perthynol yn Llandygái yn dilyn eu darganfyddiad o lun awyr a dynnwyd ym mis Mehefin 1960

Yn fuan yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf wrth hedfan uwch y caeau i’r gorllewin o’r Tŷ Newydd yn Llandygái gwelwyd argraff yn y pridd islaw o ddau gylch anferth mewn safle a ddefnyddiwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach i adeiladu  parc diwydiannol Llandygái ar ei ganol. Arweiniodd y darganfyddiad at ymgyrch yn 1966/67 i archwilio’r ddau gylch, yn ogystal â safleoedd perthnasol eraill a oedd yn y cae.  Llwyddwyd i archwilio deg y cant yn unig o’r olion archaeolegol mewn cae sydd yn 15 hectar (38 acer) ei faint . Canlyniad yr archwiliadau oedd sefydlu fod y ddau gylch yn rhan o ardal gysegredig a oedd mewn bri yn Llandygái yn ystod cyfnod diweddar yn yr Oes Neolithig a ddyddiwyd gan asesiadau carbon14 i rhwng 3,100 a 2,700 CC.

delwedd 2
Cynllun y ddwy hengor yn Llandygái yn dilyn eu harchwiliad

Ym Mhrydain un o brif nodweddion y cyfnod dan sylw yw’r cylchoedd enfawr eu maint  a adweinir  fel hengorau (henges), ac mae’r ddau gylch yn Llandygái yn enghreifftiau arbennig o’r math hwn o heneb. Prif nodwedd yr hengor yw bod banc o bridd a ffos ddofn yn amgylchynu ei ffurf allanol gan warchod cylch eang, agored, oddi fewn, gydag un fynedfa, ac mewn rhai enghreifftiau ddwy adwy, yn arwain i’r cyfrin gylch. Yn Llandygái trawsfesur y ddau gylch mewnol, yn fras, yw 50 metr, gan greu llwyfan estynedig ei faint yng nghanol y ddwy heneb. Yn y mwyafrif llethol o hengorau Prydain cloddiwyd y ffos ar ochr fewnol y cylch gyda’r banc pridd a cherrig, cynnyrch y cloddio, wedi ei godi ar yr ymyl allanol – felly nid safleoedd amddiffynnol mohonynt, O’r ddau gylch yn Llandygái hengor y de sy’n cyfateb i’r cynllun hwn, ond perthyn heneb y gogledd i griw bychan o eithriadau ym Mhrydain lle’r adeiladwyd y banc pridd yn fewnol a’r ffos yn allanol.  I’r nifer prin o safleoedd o’r math hwn perthyn un cylch sydd o bwysigrwydd eithriadol, sef cylch yr hengor a sefydlodd safle unigryw Côr y Cewri (Stonehenge) yn y lle cyntaf, a hynny mewn cyfnod cyn i’r meini enfawr gael eu codi o fewn y cylch. Ac fel mae’n digwydd y cymal ‘henge’ yn enw Côr y Cewri a ddefnyddiwyd gan archaeolegwyr yn label tylwythol cyfleus ar y mathau hyn o henebion Neolithig fel y’u disgrifiwyd uchod.

Dros gyfnod hir eu bodolaeth llwyfannau agored oedd yn y ddau gylch yn Llandygái, ond mae’n amlwg fod prysurdeb arbennig wedi digwydd o fewn eu cynteddau. Yn blith draphlith, heb ddilyn cynllun manwl, agorwyd nifer o bydewau bychan yn y ddau lwyfan ac ynddynt claddwyd cymysgedd o arteffactau, gan gynnwys teilchion llestri pridd, cerrig amrywiol, golosg, cnau cyll a llafnau o gallestr a bwyeill carreg. Mae rhai o’r eitemau hyn yn gynnyrch masnach, nifer o’r llafnau callestr o dde Lloegr, un o’r bwyeill o Ardal y Llynnoedd, un arall o Sir Benfro a gweddillion y drydedd o’r Graig Lwyd, Penmaenmawr, oll yn gynnyrch rhai o chwareli bwyeill pwysicaf Prydain y cyfnod. Mae rhai o’r creiriau yn faluriedig iawn a hynny drwy fwriad gan y rhai a’u cuddiodd yn y pydewau. Ystyrir fod y creiriau yn ymdebygu i offrwm na wyddom ni bellach beth oedd eu harwyddocâd. Nid safleoedd i gladdu’r meirw oedd yr hengorau. Serch hynny, yn y fynedfa i’r ddwy hengor lleolwyd pydewau i gynnwys corfflosgiadau mwy nag un person yn gymysg, ac mewn safle canolog yng nghylch y de claddwyd corfflosgiad arall mewn pydew. Credir y defnyddiwyd y corfflosgiadau i arwyddo sancteiddrwydd y safleoedd cysegredig hyn, tra bo cynllun yr hengor yn ei chyfanrwydd yn diffinio’r cylch mewnol rhag y byd seciwlar allanol, tra ar yr un pryd yn galluogi lleygwyr y ‘werin’, megis, i arsyllu o bellter y clawdd allanol ar y cyfrin mewnol, gyda’r ffos yn ‘wahanfur’ terfyn rhwng y ddau fyd. Dyna un dadansoddiad, gor-ffansiol efallai, wrth geisio treiddio i feddwl deallusol cymdeithas ddiflanedig bum mileniwm o oed, a adnabyddir heddiw drwy ei arteffactau bydol a’i chofadeiliau drylliedig yn y tirlun presennol.

delwedd 3
Llun awyr o Arbor Law yn swydd Darby heneb a rydd syniad o sut fath o safle oedd hengor y de yn Llandygái yn wreiddiol. Yn Arbor Law ychwanegwyd cylch cerrig o fewn y safle fel yn yr hengor sylfaenol ym Mryn Celli Ddu cyn adeiladu’r gromlech yno o fewn y cylch

Henebion sy’n perthyn i Brydain yn unig yw’r hengorau – eu dosbarthiad yn ymestyn o ogledd yr Alban i dde ddwyrain a de orllewin Lloegr – ac nid oes ffurfiau tebyg na chysylltiadau materol rhyngddynt a’u cyfoeswyr Neolithig ar gyfandir Ewrop. Adweinir y safleoedd o luniau awyr, yn bennaf fel marc cnwd neu liwiau amrywiol yn y pridd fel yn Llandygái, a’u nodweddion amlwg wedi eu dinistrio gan ganrifoedd o amaethu’r tir. Mae iddynt gysylltiad agos ag ardaloedd llawr gwlad bras eu hamaeth a dyffrynnoedd afonydd pwysig megis afon Tafwys ac afon Don yn Efrog, ond yng Nghymru nid yw eu dosbarthiad yn niferus – wyth yw’r rhif presennol, dwy yn nyffryn yr Hafren yn ardal y Trallwng, dwy arall yn y de orllewin ym Mhenrhyn Gwyr a dyffryn Tywi, a dwy ym Môn – y cylch allanol ym Mryn Celli Ddu a Chastell Bryn Gwyn yn ardal y Fenai – ond gyda nifer mwy yn aros i’w cadarnhau megis yn nyffryn afon Dyfrdwy a Bro Morgannwg.

Yn Llandygái mae tiriogaeth y cylchoedd yn rhan o ardal gysegredig ei dylanwad, un o nifer sydd wedi eu diffinio bellach ym Mhrydain. Amlygir yr ardaloedd hyn gan gymysgedd o henebion gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yn ffurfiau cylchog – rhai yn hengorau agored, eraill gyda gosodiad o feini ar gantel y ffos, megis ym Mryn Celli Ddu, a chynifer yn cynnwys cylchoedd o goed trwchus, megis drysfa, o’u mewn. Ystyrir fod y tirlun defodol wedi ei sefydlu yn gyntaf mewn perthynas â henebion eithriadol enigmatig y cyfeirir atynt fel cwrsws – megis rhodfa hir a chul a amlinellir gan ffos a banc ar y naill ochr, ac a all fod o hyd amrywiol, gyda’r enghraifft fwyaf ym Mhrydain yn 9.6 cilomedr rhwng ei deupen. Yn Llandygái amlygir y cwrsws ar ymyl y dwyrain o’r safle, ei lwybr yn diflannu dan wyneb y cae criced, ond ei swydd yn sefydlu sancteiddrwydd yr ardal gyda’r ddwy hengor ddefodol yn dilyn yn ddiweddarach dros gyfnod o amser. Tystiolaeth debyg a geir ger y Trallwng gyda chwrsws estynedig Sarn y Bryn Caled yn sefydlu ei nod i weddill henebion yr ardal gysegredig hon, a thirlun defodol tebyg, yn cynnwys cwrsws a chylchoedd seremonïol, a ddarganfuwyd mewn archwiliadau yn ardal Walton ar y ffin yn Sir Faesyfed. 

Ond mae’r ardaloedd hyn yn bitw eu maint a’u dylanwad tebygol mewn cymhariaeth â phrif ardal seremonïol Prydain a sefydlwyd yn ardal estynedig Côr y Cewri yn swydd Wiltshire. Nodweddir yr ardal hon gan gymhlethiad eithriadol o safleoedd defodol gyda’u bri yn parhau drwy gyfnod y Neolithig ac yn atynfa i feddrodau tywysogaidd yn yr Oes Efydd a ddilynodd. Mae rhai o’r hengorau i’w canfod gan anferthedd eu maint – Avebury, gyda chylch mewnol sy’n 11.5 hectar  o faint wedi ei amgylchynu gan ffos 347 metr, a banc allanol 426 metr eu trawsfesurau, a dyfnder y ffos yn 9 metr a’i lled ar y brig yn 20 metr: Durrington Walls, y llain fewnol yn 12 hectar ei faint, ac amcangyfrifir i’r ffos amgylchynol, sy’n 6 metr ei ddyfnder, gymryd 900,000 awr o lafur dyn i’w chloddio.

delwedd 6

Oddi fewn i’r hengor darganfuwyd adeiladau o goed anferth ar ffurf temlau, ac yn eu cynteddau cynhaliwyd gwleddoedd rhyfeddol hael, yn gloddesta yn bennaf ar wartheg, gydag arteffactau o lestri pridd a challestr wedi eu malu’n fwriadol yn gymysg ag esgyrn yr anifeiliaid. Credir fod dibenion cymdeithasol ynghlwm â’r hengorau hyn a fyddai’n caniatáu i aelodau o’r llwythau brodorol ymgynnull i gyfathrachu, i loddesta ac i fasnachu, ond eu prif nod oedd gwasanaethu fel canolfannau cwlt a defodaeth gyda’u dylanwad yn treiddio drwy bob agwedd o fywyd cymdeithasol, crefyddol ac economaidd y gymdeithas.

delwedd 5
Llun o’r ffos yn Avebury yn 1922 mewn cloddiad gan berchennog y pentref bryd hynny Alexander Keiller. Noder ei dyfnder ac ar gongl chwith isaf y llun domen o gyrn ceirw a ddefnyddiwyd fel ceibiau i agor y ffos gan y brodorion oddeutu 2,500 o flynyddoedd

Yn y cyswllt hwn mae cylchoedd Llandygái yn fychan iawn mewn cymhariaeth â mega-hengorau ardal Côr y Cewri, ond yr un oedd y cymhelliad, yn ogystal â’r llafur, a oedd yn angenrheidiol i sefydlu, adeiladu a chynnal y ddwy hengor yn y lle cyntaf. Golygai adeiladu’r hengorau weithredu contractau peirianyddol enfawr, a hynny ar raddfa genedlaethol dros gyfnod y mil blwyddyn o’u bodolaeth ym Mhrydain, gan gofio mai bôn braich a cheibiau o gyrn ceirw oedd y prif adnoddau i gyflawni’r holl waith. Yn ddiweddar archwiliwyd safle ger Catraeth yng ngogledd sir Efrog sydd ar raddfa enfawr – dau gylch hirgrwn, un o fewn y llall, cylchfesur yr allanol yn 610 metr a’r mewnol yn 480 metr, y naill yn amgáu ardal o 2.75 hectar a’r llall o 1.8 hectar. I sefydlu’r cylchoedd defnyddiwyd oddeutu 2,000 o bolion coed anferth wedi eu cynnal yn barau mewn tyllau arbennig, a’r holl gyfanwaith yn sefydlu o’i mewn bro o bwysigrwydd defodol eithriadol, bur debyg, i gymunwyr credoau’r cyfnod. Yn fwy diweddar canfuwyd fod cylch allanol tebyg yn gwarchod holl ardal gysegredig Côr y Cewri.

Cyn gwireddu prosiectau mor anferth eu maint yr oedd yn amlwg fod llafur a chydweithrediad yr holl gymuned yn angenrheidiol, ond pa fath o awdurdod a fyddai yn trefnu ac yn goruchwylio gwaith o’r fath, gan gynnwys cylchoedd Llandygái yn eu plith, a hynny 5,000 o flynyddoedd yn ôl? Ai awdurdod hierarchaidd? Un pendefigaidd, efallai? Un canolog? Ynteu awdurdod gorthrymus? Cwestiynau nad oes iddynt atebion pendant, ond yn y gofyn mae un o hanfodion pwysicaf disgyblaeth yr archaeolegydd. Beth bynnag fo’r atebion cywir yr un amodau oedd yn gyfrifol am adeiladu’r cylchoedd yn Llandygái fel yn ardal Côr y Cewri. Ond gall breuder y cof fod yr un mor ddinistriol â breuder pob adeilad a phob cyfundrefn ysbrydol dros amser. Yn Llandygái, fil a hanner blwyddyn yn ddiweddarach, a defodaeth yr hengorau bellach wedi cilio o’r tir, defnyddiwyd hengor y gogledd i adeiladu tŷ ar ei ganol gan fanteisio ar ei safle amddiffynnol. Perthyn y tŷ i gyfnod yr Oes Haearn y gellir ei ddyddio’n fras i gyfnod rhwng 700CC a dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain yn y ganrif gyntaf Oed Crist. Canfuwyd amlinell y tŷ  yn y cylchoedd o bolion coed a ddefnyddiwyd i gynnal ei do gwellt ac i adeiladu fframwaith ei fur allanol o blethwaith o frigau a ddiddoswyd gan drwch o ddwb a chlai. Annedd i deulu fyddai hon a’u credoau hwy yn dra gwahanol i rai’r gymdeithas a gloddiodd y ffos ac adeiladu’r banc a roddodd fodolaeth i’r safle yn y lle cyntaf. Ac yn y cae cofnodwyd brith olion fframwaith o gaeau bychain a roddodd gynhaliaeth i deulu’r annedd – cae’r ddefod yn troi’n gae’r ymborth. Ond cofiwch, chwi fforddolion y presennol, pan fyddwch wrth gownter Screwfix yn Llandygái y tro nesaf yn prynu cynegwarth o hoelion, eich bod yn troedio tir a oedd ar un amser, bell bell yn ôl mewn hanes, yn eithriadol gysegredig i frodorion hen, hen gymuned ddiflanedig a oedd gynt yn tra-arglwyddiaethu yn Nyffryn Ogwen.

Ffynhonnell

Frances Lynch a Chris Musson, 2004.  A prehistoric and early medieval complex at Llandegai, near Bangor, North Wales. Archaeologia Cambrensis, 150 (2001),17-142.

Eglwys newydd Llanllechid

IMG_2203
Eglwys bresennol Llanllechid

Adeiladwyd eglwys bresennol Llanllechid yn 1845 ar safle hen eglwys a mynwent sydd yn dyddio’n ôl i’r Canol Oesoedd cynnar. Cynllunydd yr eglwys oedd Henry Kennedy i gynllun Gothig ,arddull a oedd yn dra phoblogaidd yn ei gyfnod fel sydd i’w ganfod yn adeiladwaith neo-Normanaidd castell Penrhyn, yr enghraifft fwyaf coegwych o’i fath yn Nyffryn Ogwen. Noddwyd ailadeiladu’r eglwys gan Edward Gordon Douglas, Barwn cyntaf y Penrhyn, fel rhan o’i gyfraniad yn ystod blynyddoedd canol y ganrif i adlunio neu gynllunio o’r newydd dwy eglwys ym mhlwyf Llanllechid a phum eglwys ym mhlwyf Llandygái. Yn achos eglwys Llanllechid cafwyd cyfraniad ychwanegol gan yr Incorporated Church Building Society, cymdeithas wirfoddol a sefydlwyd yn 1818 i hyrwyddo adeiladu ac adfer eglwysi Anglicanaidd yng Nghymru a Lloegr. Adeiladwyd yr eglwys newydd ychydig i’r gorllewin o safle’r eglwys wreiddiol ac ehangwyd y fynwent a’i hamgylchynu gyda wal gerrig uchel. Ychwanegwyd at y fynedfa wreiddiol o’r ffordd yn y dwyrain gydag ail fynedfa o’r gorllewin o gyfeiriad Talysarn. Ar y llwybr olaf hwn y mynychai’r offeiriad yr eglwys o’r ficerdy newydd a adeiladwyd yn 1865 ar dir Tai’n y Coed, ger Pont y Pandy i gymryd lle’ r tŷ gwreiddiol ym Maes y Groes.

Cynhwyswyd yn adeiladwaith yr eglwys bresennol borth a chawg dŵr y fynedfa o’r eglwys hynafol a chredir hefyd fod y fedyddfaen yn wrthrych gwreiddiol ond iddo gael ei adlunio mewn cyfnod diweddarach. Perthyn y ddeiol garreg hefyd i gyfnod cynharach, y teclyn amser a gyflwynwyd i’r eglwys yn 1794 gan Dafydd Wilson, bardd a’r ysgolfeistr a gadwai ysgol yn Llanllechid cyn gadael i fod yn ecseismon yn Llangollen ac yn ddiweddarach yn Nefyn a Phwllheli.

Un o’r dylanwadau pwysicaf yn adfywiad yr Eglwys Anglicanaidd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Mudiad Rhydychen. Tyfodd y mudiad hwn o’i sefydlu yn Rhydychen yn nhri a phedwardegau’r ganrif i ddylanwadu’n rymus ar ffurfioldeb yr Eglwys, a derbyniwyd athrawiaeth fwy ysbrydol y mudiad yn frwd gan esgob Bangor y cyfnod, Christopher Bithell.  Pwysleisiai’r mudiad sancteiddrwydd ac urddas yr addoli, boed hynny yn nhrefn y gwasanaeth, purdeb y gwrthrychau, gogoniant y gwisgoedd a seremonïau cymhleth, uwch eglwysig y defodau, a hyn oll i’w cynnal mewn awyrgylch gymen a phur adeiladau a gynlluniwyd i bensaernïaeth Gothig, ple roedd hynny’n bosibl. Un o gynheilyddion mwyaf blaenllaw y Mudiad yn esgobaeth Bangor oedd y bardd a’r clerigwr Morris Williams, neu Nicander, (1809-74), a ddaeth yn gurad i Lanllechid rhwng 1845 ac Ionawr 1847. Ganed ef yng Nghaernarfon ond cafodd ei fagu yn Llangybi gan deulu a oedd,  yn ddiddorol iawn, yn Fethodistiaid Calfinaidd cynnar yn ardal Eifionydd. Prentisiwyd ef yn saer, ac yn ei ieuenctid meithrinwyd ef a chyfrannodd i gymdeithas lengar ei fro o dan arweiniad beirdd megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn. Rhywsut, ac yn annisgwyl efallai, sicrhaodd le yn Ysgol y Brenin, Caer ac oddi yno aeth ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen a graddiodd oddi yno. Ordeiniwyd ef i’r Eglwys a gwasanaethodd gyntaf fel curad ym Mhentir cyn symud i Lanllechid. Yn ddiweddarach bu’n rheithor mewn nifer o eglwysi ym Môn. Cyfrannodd yn helaeth i’r byd llenyddol Cymreig ac ef a fu’n gyfrifol am ddiwygio’r Gymraeg yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, ac, mewn cywair gwahanol, cyfieithodd Chwedlau Esop i’r Gymraeg.

Fel y nodwyd eisoes yr oedd Nicander yn un o nifer o arloeswyr Mudiad Rhydychen yn esgobaeth Bangor, ond derbyniodd y mudiad hwn wawd a chynddaredd eglwysi anghydffurfiol Cymru yn ystod y cyfnod. Y cyhuddiad pennaf oedd bod y mudiad yn gwthio arferion Pabyddol i drefniadaeth ysbrydol yr Eglwys Anglicanaidd. Gellir ystyried y byddai’r feirniadaeth hon yn destun gwrthdrawiad moesol yn Llanllechid byth ers sefydlu capel mawr y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref yn 1827 i herio awdurdod yr hen grefydd sefydliadol. Os brwydr foesol ydoedd hon i ennill eneidiau yna gellir mesur y gystadleuaeth gan nifer y cymunwyr – roedd gan y capel mawr 327 o gymunwyr tra oedd 204 yn mynd i’r eglwys, hynny yw, buddugoliaeth i ymneilltuaeth pe gosodid y meini prawf mewn rhif yn hytrach nag mewn cred ysbrydol. Serch hynny, cynlluniwyd yr eglwys newydd i ddal 495 o gymunwyr.

Erbyn hanner olaf y ganrif datblygodd eglwys Llanllechid enw da am arbenigedd ei chanu eglwysig. Sefydlwyd y traddodiad gan Owen Davies, Eos Llechid (1828-1898),arweinydd medrus a chyfansoddwr toreithiog anthemau, cerddor hunan addysgedig, a gŵr a gymerodd urddau eglwysig yn hwyr yn ei yrfa yn 1877 ar ôl bod yn chwarelwr am gyfran helaeth o’i oes yn chwarel y Penrhyn. Yn 1848 penodwyd ef yn arweinydd côr eglwys Llanllechid, a lledodd ei enw da drwy Gymru a bu galw arno i arwain gŵyl gorawl eglwysig Llandaf ar fwy nag un achlysur a gwyliau tebyg yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Ymwelydd  ar fwy nag un achlysur i fwynhau’r canu yn eglwys Llanllechid oedd y prifweinidog William Gladstone. Yr oedd ganddo ef gysylltiad agos â Phenmaenmawr lle byddai’n treulio ei wyliau haf yn aml, ac ar ôl ei ymweliadau â’r eglwys dywedir y byddai’n aros yn nhafarn y Red Lion am na chai aros yng Nghastell y Penrhyn oherwydd y gwahaniaeth barn boliticaidd rhyngddo ef a pherchennog y plasty, yr Arglwydd Penrhyn, er bod perthynas rhwng Gladstone a gwraig sgweiar y plas.

Ar ôl mil a hanner o flynyddoedd o weinidogaethu yn wych, yn wachul, yn ymroddgar ac mewn segurdod, ac ar benderfyniad pwyllgor yn 2003 , terfynwyd yn ddisymwth ar ymdrechion eglwys Llanllechid i gadw eneidiau’r plwyf yn y ffydd Gristnogol.  Mawr yw dyled Dyffryn Ogwen i’r ymdrech fawr honno.

y drws
Y drws gwreiddiol yn perthyn i’r eglwys o’r canol oesoedd

CYWIRO – mewn nodyn cynharach ar Eglwys Llanllechid ar y wefan cofnodwyd fod porth presennol yr eglwys yn dyddio i’w chyfnod cychwynnol yn y Canol Oesoedd.  Perthyn y porth hwn i gyfnod ail adeiladu’r eglwys, ac mae’r porth gwreiddiol sydd yn y llun uchod i’w weld islaw’r porth modern.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.  Bethesda

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 1953.  Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.

William Parry. 1867. Llyfr Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llanddegai . Hefyd Ychwanegiad i’r uchod hyd 1920, Robert Parry. Argraffwyd  Dolgellau yn 1920.