Bodforus

Dyma gyfraniad arall gan gyfrannwr gwadd sef Yr Athro Iolo Wyn Williams, gynt o Dal y Cae, Tregarth ond yn awr o Fangor.

Bodforus
Bodforus

Mae  archwilio a chofnodi gam wrth gam fy nghoeden deulu wedi datgelu ffeithiau cwbl annisgwyl am hanes fy llinach i. Cefais fy magu yn y Bermo yn fab i brifathro’r ysgol gynradd leol yno, y prifardd W. D Williams. Roedd yntau wedi ei eni a’i fagu yng Nglanrafon ger Corwen yn yr hen Sir Feirionnydd. Prin y disgwyliwn ddarganfod fod  un rhan o’m tylwyth yn hanu o Ddyffryn Ogwen.

Mae’r cofnod hwn yn ymwneud â Morris Jones, yr  ‘hen broffwyd’ fel y’i gelwid, a drigai ym Modforus ar fin y ffordd bost ger Braichmelyn. Ganed yr hen broffwyd yn 1782, ym Mraich y Cafn, plwyf Llandygái  medd un ffynhonnell ,  lleoliad bryd hynny a fyddai’n agos at ymyl y chwarel a ddatblygodd ychydig yn ddiweddarach yn chwarel y  Penrhyn.  Yr oedd yn un o ddeuddeg o blant Sion William (B)ellis o Fraich Talog, Tregarth. Ceir disgrifiad manwl iawn o osodiad Morris a’i frawd Thomas  gan y Parch Griffith Jones , Tregarth, fel dynion ‘yn gryfion iawn nid corachod dan size,  pob un yn ddwy lath o hyd, yn wrhyd. Yr oeddynt yn esgyrniog iawn a chymalau mawr, eu crwyn yn llac amdanynt, fel na pe buasent eu llond. Yr oedd Morris yn fwy ac yn lletach na Thomas yn 10 ugain neu 11 ugain o bwysau’.  Mae’n rhyfeddol fel mae manylion o’r fath yn creu darlun annisgwyl o’r gwrthrych tra bo manylion mwy perthynol am amgylchiadau ei waith a’i deulu yn llawer anos eu canfod.  Yr oedd yn briod â Catrin, merch o Ddolwyddelan, a ganed iddynt ddeg o blant – naw bachgen ac un ferch . Fel Morris Jones, Y Chwarel, yr adweinid ef gyntaf , ond wrth i’w deulu ehangu llwyddodd i gael prydles ar ddarn o dir gan yr Arglwydd Penrhyn  a chyda benthyciad ariannol gan hen Gristion o’r enw Owen Jones, Machine, adeiladodd ei gartref ym Modforus.  Trigai cyfanswm o bymtheg person yn y tŷ ar un cyfnod. Ymfudodd pump o’r meibion America a bu farw dau fab arall cyn eu rhieni. Chwarelwr oedd Morris wrth ei alwedigaeth ac mae’n rhyfeddol sut y llwyddodd i ddilyn gyrfa eithriadol lwyddiannus fel pregethwr a pharhau i weithio yn ddyddiol yn y gloddfa.

Fel ‘yr hen broffwyd’ y cyfeirid at Morris Jones yn Nyffryn Ogwen ond adwaenid ef hefyd fel y Parch Morris Jones, Jerusalem.  Ef oedd gweinidog cyntaf capel Jerusalem, prif gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref.  Ond sut y bu i’r gŵr distadl, ond ffyddlon hwn, gyrraedd i’r  fath offeiriadaeth?  I ateb hynny mae angen ceisio gosod Morris Jones o fewn cyd-destun ei gyfnod. Fel cynifer o ŵyr o bob oedran drwy Gymru ar dro’r ddeunawfed ganrif cael ei achub wnaeth Morris Jones. Adroddir ei fod ef a’i gyfoedion ar y ffordd i dafarn neilltuedig yn Nhyn y Maes pan gafodd dröedigaeth a newidiodd gwrs ei fywyd.  Oddeutu 1812 y dechreuodd bregethu pan oedd yn ŵr aeddfed 30 oed. Nid ar chwarae bach y byddai dynion yn penderfynu mynd i bregethu yn nyddiau maboed i gyflwyno dogma gaeth ysbrydol i gymdeithas  Gymreig a bortreadwyd fel un eithriadol annuwiol ar derfyn y ddeunawfed ganrif.  Mae Llechidon yn rhagymadrodd ei lyfr ar enwogion Llanllechid a Llandygái , a gyhoeddwyd yn 1866, yn hallt iawn ei feirniadaeth o lacrwydd ac oferedd y gymdeithas leol cyn dyfodiad crefydd i buro’r awyrgylch.  Mewn tai a ffermydd y cynhelid y cyfarfodydd crefyddol cyntaf ac enwir aelwydydd Lôn Isaf, Abercaseg, Tai’n y Coed a Braich Talog fel rhai o’r mannau cychwynnol.  Roedd y Felin Isaf yn Llandygái hefyd yn gyrchfan nodedig i’r efengylwyr cynnar. Hwn oedd cartref John Williams, un o brif sylfaenwyr Anghydffurfiaeth yn yr ardal a  gŵr a ddioddefodd gam eithriadol yn 1787 pan orfodwyd ef gan Samuel Worthington, perchennog y Felin Isaf a Chrynwr wrth ei ddaliadau crefyddol, i adael ei gartref oherwydd y mynnai bregethu yn y tŷ. Gorchwyl mwy peryglus  fyddai pregethu yn yr awyr agored a chofnodir fel y lluchiwyd cerrig at George Lewis wrth iddo bregethu yn Nhregarth yn 1784 wedi i’r si fynd ar led ei fod yno i ‘dwyllo’r’ bobol. Yn Llanllechid oddeutu’r un amser ymosodwyd ar bregethwr arall gan dri dyn wrth bregethu i griw a ymgasglodd ger fynedfa’r eglwys.

Perthynai Morris Jones i gyfnod ychydig mwy goddefgar  pan oedd yr enwadau yn sefydlu addoldai sefydlog yn y dyffryn.  Cychwynnodd bregethu gyda’r Annibynwyr cyn ymuno â’r trefnyddion Calfinaidd yng nghapel Carneddi  yn 1817, ond yna yn 1842 ymaelododd â chapel newydd Jerusalem pan gafodd ei agor fel addoldy pwysicaf yr enwad yn yr ardal. Ystyrid ef yn bregethwr grymus gyda ‘llais clir a soniarus’ a cheir nifer o bortreadau diddorol sy’n cwmpasu ei gyfraniad fel negesydd yr efengyl. Disgrifir ef gan Hugh Derfel fel ‘dyn dirodres ymdrechgar dros Grist ac yn gynghorwr da bob amser’.  Cyfeirir at ei ddull syml a ffraeth o draddodi ac amlygir ei  fod yn ddoeth a phwrpasol  ei gyfraniad er na fyddai’n pregethu am fwy na chwarter awr. Yn yr holl deyrngedau pwysleisid nad oedd yn ddyn ‘dysgiedig’ ac mae Llechidon braidd yn ddifalch wrth gyfeirio nad oedd ‘wedi ei gynysgaethu â rhyw dalentau dysglaer iawn;  eto yr oedd yn meddu ar ddoniau neilltuol, a chawn ambell waith y meddyliau mwyaf ardderchog ganddo, teilwng o enaid gwir fawr’.  Pwysleisir fwy nag unwaith ei ffyddlondeb a’i deyrngarwch ond canfyddir nifer o hen gyfeiriadau digon gwasaidd ymysg y canmol, rhai megis na chafodd ‘fanteision  addysg ond llafuriodd trwy lawer o anfanteision’, neu ei fod ‘yn dalentog a byddai ganddo weithiau ambell ruthr o huawdledd a synnai bawb’.

Ar gychwyn ei yrfa yr oedd  yn deithiwr mawr yn ‘brasgamu’ hyd fynyddoedd ei gymdogaeth haf a gaeaf i ledaenu ei neges.  Ar lawer Saboth byddai’n cychwyn am Gwm Eigia ac wedi cyrraedd y mynydd tynnai ei esgidiau i groesi’r Aryg cyn esgyn i lawr i Gwm Eigia a Chedryn i bregethu. Am flynyddoedd bu’n cerdded i bregethu yn Llanberis – pregeth yn y bore yn Nrws y Coed, am ddau yn Llanberis,  ac yn yr hwyr oedfa yn Nhai Duon.  Teithiai yn aml i Ddolwyddelan, cartref genedigol ei wraig, a chyfeirir ato fel sefydlydd cyntaf yr enwad yn yr ardal honno. Golygai  cerdded i gadw rhai o’r cyhoeddiadau hyn gychwyn o Fodforus am dri yn y bore a chyrraedd gartref wedi naw yn y nos. Mae’n amlwg y byddai’n cael ei dalu am yr oedfaon hyn er y byddai’r tâl yn amrywio’n  fawr o le i le yn dibynnu ar gryfder yr achos. Fel y nododd un o’i gofianwyr  ‘pan oedd yr achos yn isel yn nechreuad ei weinidogaeth bu yn mynd i bell ffordd a chael ond 1s 6c am ei lafur a gwyddus un tro ond 6c’.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa wedi iddo ennill ei blwyf fel pregethwr poblogaidd, gallai deithio yn llawer mwy cyfforddus mewn cerbyd, yn arbennig wedi i ffordd fawr Telford gael ei hagor rhwng 1820 ac 1825. Yn ddiweddarach fyth yn ystod deng mlynedd olaf ei oes roedd y rheilffordd wedi ei hadeiladu rhwng Caer a Chaergybi gan ledaenu maes ei genhadaeth i weddill Gogledd Cymru. O ganlyniad bu’n pregethu cyn belled â’r Bala, Sir y Fflint ac unwaith yn Lerpwl.   Ar un o’i deithiau  i bregethu y mabwysiadodd ei enw fel ‘yr hen broffwyd’ . Yr oedd ef a chydymaith yn teithio mewn coets i Sir Fôn. Cyn croesi Pont y Borth aeth y gyrrwr i’r dafarn am lymaid. Proffwydodd Morris  Jones y byddai’r goets yn troi drosodd wrth groesi’r bont a phenderfynodd mai gwell fyddai iddo ef a’i gydymaith ei cherdded ar droed. Yn ebrwydd, troi drosodd fu hanes y goets gan gadarnhau rhagwelediad proffwydol y pregethwr.

Mae’n debyg y symudodd Morris Jones ei aelodaeth o gapel Carneddi i gapel newydd Jerusalem  pan agorwyd yr addoldy ym mis Hydref 1842. Ni chymerodd ran yn y pregethau a  ddigwyddodd dros ddau ddiwrnod a hanner i ddathlu’r amgylchiad ac mae’n amlwg mai gweinidog mewn enw yn unig ydoedd  hyd oni’r ordeiniwyd ef i’r weinidogaeth yn 1845 pan oedd yn 65 oed.  Ef felly oedd gweinidog cyntaf Jerusalem o 1845 hyd 1860 pan ddilynwyd ef gan y Parch Josiah Thomas.  A dderbyniai dâl am ei swydd nid oes gofnod,  er bod mantolen ariannol blynyddoedd cyntaf y capel yn wybyddus. Mae’n amlwg fod parch enfawr i Morris Jones yn y capel, fel yn y gymdogaeth, ac adlewyrchir hyn yn y teyrngedau a ymddangosodd wedi ei farwolaeth yn ŵr pedwar ugain oed yn 1862. Mae’r disgrifiad o’i gladdedigaeth a ymddangosodd yn y Faner ar Fai 28ain, 1862 yn werth ei ddyfynnu yn llawn nid yn unig oherwydd ei fod yn tanlinellu parch yr ardal at yr ymadawedig ond hefyd oherwydd ei fod yn ddarlun o drefn gosgordd angladdol yn Nyffryn Ogwen yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg: ‘ymgynullodd y dyrfa fwyaf a welsom erioed mewn claddedigaeth yn y gymdogaeth hon, yn weinidogion, diaconiaid, a chyfeillion i hebrwng ei weddillion i’w hir gartref. Cychwynnodd oddi wrth y tŷ tua dau o’r gloch, pryd y darllenodd  ac y gweddïodd y Parch Josiah Thomas. Yna ymffurfiwyd yn orymdaith drefnus, tua 30 o weinidogion o bob enwad crefyddol yn gyntaf; yna y diaconiaid o bob enwad; yna y cantorion, pa rai a ganasant ar hyd y ffordd, yn y capel, a’r eglwys ac wrth y bedd; y nesaf yr elor; yna teulu y trancedig; yna y dyrfa yn gyffredinol. Aethpwyd felly yn arafaidd i gapel Jerusalem, pa un a gafodd ei orlenwi.  Bernir fod y gynulleidfa o 12 i 15 cant’. Fel mesur o lafur Morris Jones yn Jerusalem casglodd yr aelodau £32 i roddi cofadail deilwng ar ei fedd ym mynwent Glanogwen.

Er bod Morris Jones wedi ymgysegru ei fywyd i ddilyn ei  geidwad ysbrydol yn ei fywyd bob dydd wynebai awdurdod meistri bydol ei gymdeithas.  Adroddir stori deuluol fod dau o’i feibion, Robert a Moses, wedi mynd i botsio i afon Ogwen ac iddynt gael eu dal gan y ciper. Llwyddasant i ddianc drwy foddi ci y cipar ond yr oedd eu henwau yn wybyddus a byddai disgwyl canlyniadau difrifol i’r drosedd gan y byddai stad y Penrhyn yn hawlio perchnogaeth pob ysglyfaeth a physgodyn ei thiriogaeth. Y canlyniad oedd i’r ddau frawd ymfudo i America oddeutu 1846 gan briodi yno a chychwyn llinach Americanaidd y teulu.  Mae’n ddiddorol sylwi fod ymadawiad y ddau frawd yn cyd-daro o fewn blwyddyn fwy neu lai i gychwyn gyrfa eu tad fel gweinidog capel Jerusalem.

Mab arall i Morris Jones oedd John a oedd wedi ymsefydlu yn nhyddyn Cefn ‘Rynys ym Mynydd Llandygái. Merch iddo ef, sef Jane Jones,  a symudodd i fyw i Lanrafon, Corwen, a phriodi â Thomas Williams, mab y siop, a thrwy hynny gysylltu fy llinach i gyda’r rhan hon o’r hen Sir Feirionnydd.  Ond stori arall i’w hadrodd fyddai honno!

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau  Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

William Parry (Llecheidon). 1867. Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai. Dolgellau.

Llawysgrif heb awdur a dyddiad – Crynodeb – Hanes Dechreuad a Chynnydd yr Achos Methodistaidd yn Jerusalem. Llawysgrif ym meddiant Dr Dafydd Roberts, Cae’r Wern.

R.O. 1886. Cofiant y Parch Morris Jones, Rhen Broffwyd, Jerusalem, Bethesda.  Bethesda

Advertisements

Cyfleusterau angenrheidiol

Mae cofnodi rhestr o adeiladau atodol a oedd yn rhan o gyfleusterau angenrheidiol mewn tai yn Nyffryn Ogwen yn dasg anodd bellach oherwydd diflannodd y mwyafrif wrth i’r tai gael eu moderneiddio a’r gwasanaethau gael eu cynnwys dan yr un to. Yr adeiladau perthnasol oedd y cwt glo, yr ystafell ymolchi a’r tŷ bach, cyfleusterau a fyddai gan amlaf y tu allan i’r tŷ yn arbennig mewn rhesi tai unffurf eu hadeiladwaith. Mewn ffermdy sylweddol megis Coetmor, a adeiladwyd yn 1875, lleolwyd yr ystafell ymolchi, a oedd hefyd yn gwasanaethu fel washiws, y tu allan i’r drws cefn, a chuddiwyd y tŷ bach y tu draw i gornel gul ddisylw.

Gwern Go Isa
Lle chwech Gwern Gof Isaf

Mantais fawr y ffermdai oedd y gellid lleoli’r tai bach beth pellter oddi wrth y tŷ, a’u gosod yn aml uwchlaw ffos ddŵr y gallai gwyntoedd teg ei awyru. Dyna gyfleuster na ellid ei drefnu mor gyfleus mewn rhesi tai yn y pentref wrth gwrs. Yng Nghoetmor yr oedd ail gyfleuster uwchlaw’r domen dail, ond nid oedd hon ar gyfer defnydd gwahoddedigion i’r tŷ, ond yr oedd ei chynnwys yr un mor ddefnyddiol ar gyfer priddo’r ardd a’r caeau. Does ryfedd fod Coetmor yn enwog am ei thatws!

Ar waelod yr ardd yr oedd y tai bach fel arfer, ond prin fod un o’r adeiladau hollbwysig hyn wedi goroesi erbyn hyn heb gael eu trosi yn siediau aml bwrpas. Er yn llawer llai na’r cwt glo yr oedd eu hadeiladwaith yn

Lle chwech Llanllechid
Lle chwech yn Llanllechid

fwy cymesur, a’r to wedi ei doi â llechi pwrpasol a fesurai naill ai 10×5 neu 12×6 modfedd. Roedd y llechi hyn wedi’u hollti’n arbennig ar gyfer y math hwn o gyfleuster gan y bechgyn bach a fyddai’n dysgu eu crefft yn Chwarel y Penrhyn. Cyn dyddiad sefydlu system carthffosiaeth gymunedol ar lan Afon Ogwen yn Nolgoch oddeutu’r 1850au , arferid gwagio carthion y tai bach gan gasglwr yn gyrru trol o un stryd i’r llall. Dyna swydd na fyddai rhestr hir o ymgeiswyr yn cystadlu am ei llenwi bid sicr!

 

 

Cwt glo Dolgoch
Cwt glo Dolgoch

Y cwt glo yw’r adeilad sydd wedi goroesi yn bennaf hyd heddiw. Mewn rhesi tai cynnar a adeiladwyd cyn 1850 yn y tir agored, megis Caeberllan neu Ddolgoch, lleolwyd y cytiau diaddurn hyn yn y fynedfa i’r ardd mewn safle cyfleus i’w cyflenwi a’u gwagio gan wraig y tŷ. Adeiladwyd nifer o’r cytiau hyn o bennau llifio llechi bras gyda chrawiau anghymesur yn do arnynt, megis yn yr enghreifftiau yng Nghaeberllan. Mewn llawer o resi tai diweddarach a adeiladwyd ar diroedd mwy cyfyng, megis y rhai ar lethrau serth y Gerlan sy’n dyddio o chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd cynllunio’r cwt glo yn fwy problemus.  Yr ateb yno, wrth gwrs, oedd  lleoli’r cwt glo mewn cloddfa danddaearol yn y llethr yn union gyferbyn â’r drws cefn, megis yn Stryd y

Cwt Glo Tai'r Berllan
Cwt glo Caeberllan

Ffynnon a Stryd Goronwy.  Cynllun tebyg oedd yn Stryd Hir, Gerlan, ac yno mae cwt enwocaf, er mwyaf ysgeler ei hanes yn Nyffryn Ogwen, lle carcharwyd mam y llenor Caradog Pritchard. Fel gweddill y rhesi tai adeiladwyd y cwt hwn yn rhan o wal y cae sydd dros y ffordd i’r tŷ.

Mae un adeilad domestig arall sy’n haeddu sylw yn Nyffryn Ogwen a hwn yw’r cwt rhew a adeiladwyd ym Mryn Meurig Mae’r adeilad bellach yn furddun ond fe dybir ei fod unwaith yn storfa ar gyfer rhewi bwyd, math o ragflaenydd i rewgelloedd ein cyfnod ni. Adeilad unigryw fyddai hwn wrth gwrs ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad y cynlluniwyd Bryn Meurig ar gyfer un o giperiaid y stad.

Mewn cymhariaeth â rhesi tai ym Methesda mae gan rai o brif resi tai Mynydd Llandygái gyfleusterau tra gwahanol. Cymharer er enghraifft stryd megis Llwybr Main gyda Stryd Goronwy yn Gerlan, dau ddatblygiad sy’n cydoesi fwy neu lai. A derbyn fod tirwedd y ddau ddatblygiad yn bur wahanol – Llwybr Main ar dir gwastad a Stryd Goronwy ar lethr serth – yr oedd amcan y ddau ddatblygiad mor wahanol. Yn Gerlan y bwriad oedd cywasgu’r nifer mwyaf o dai i lain cymharol fychan o dir, tra yn y Mynydd adeiladwyd stryd o dai dwbl gydag acer o dir yn gysylltiedig. Yr adnodd pennaf felly oedd y tir a fyddai’n galluogi’r deiliad i ychwanegu elfen hunangynhaliol at eu bywoliaeth drwy gadw mochyn, ychydig o ddefaid, neu hyd yn oed fuwch, yn ogystal â dilyn galwedigaeth yn y chwarel. Yn Gerlan perthynai’r tir i ddatblygydd annibynnol a rhaid oedd cywasgu’r tai er mwyn ennill y gorau o’r datblygiad. Ym Mynydd Llandygái stad y Penrhyn oedd y perchennog, fel yng ngweddill y plwyf,  ac o ganlyniad nid oedd gofyn cyfyngu ar faint y cynllun.

Ffynhonnell

Gwybodaeth ychwanegol gan Wyn Roberts, Tregarth.

Tai’r Mynydd

Y mae gan Tai’r Mynydd arwyddocâd arbennig yn hanes cymdeithasol Dyffryn Ogwen. Yn dra anffodus er hynny, dinistriwyd adfeilion y tai ar y safle hwn mewn gweithred gwbl ddianghenraid gan berchennog nad oedd yn sylweddoli pwysigrwydd hanesyddol y safle.  Y tai oedd un o’r enghreifftiau cynharaf yn Nyffryn Ogwen o’r hyn y cyfeirir ato fel pensaernïaeth nawddogol gan berchennog gwreiddiol stad y Penrhyn,  Richard Pennant, Arglwydd cyntaf y Penrhyn.

Fel  perchennog chwarel Cae Braich y Cafn, a oedd yn datblygu’n gyflym  nepell i’r de o safle Tai’r Mynydd, mae’n siŵr y byddai Pennant wedi bod yn ymwybodol  o brinder tai i gartrefu ei weithlu mewn ardal a oedd mor wledig â Dyffryn Ogwen. Wrth deithio yn yr ardal yn 1804 meddai  Bingley –‘in different parts around are scattered  the whitwashe cottages of the workmen, built from the designs of Mr Wyatt’, a rhwng 1790 ac 1800 cofnodir fod Pennant wedi  adeiladu deugain o dai a oedd yn cynnwys chwedeg tri o anheddau byw.  Mantais fawr yr arglwydd oedd fod ganddo’r cyfalaf i adeiladu tai a’i fod hefyd yn berchen ar rannau helaeth o dir yr ardal. Yn 1798 adeiladodd res o wyth tŷ ar glwt agored o’r comin ym Mynydd Llandygái. Adnabyddid y safle fel Tai’r Mynydd ac mae’r enw wedi goroesi yn enw’r  ffordd sy’n arwain at y lleoliad sydd wedi ei leoli rhwng Hirdir a’r Gefnan.  Terfynir y ffordd gan domennydd  presennol chwarel y Penrhyn ac o’r bron na thraflyncwyd  yr holl safle gan eu hymlediad bygythiol.  Mae’n bur debyg mai cynllunydd y tai oedd Benjamin Wyatt, prif asiant Stad y Penrhyn yn y cyfnod. Datblygiad gwerinol iawn fyddai hwn mae’n siŵr o’i gymharu â chynlluniau cyfoesol, mwy mawreddog Wyatt yn Ogwen Banc a Phenisa’r Nant ar gyfer  Anna Susannah,  gwraig Richard Pennant.

Cynlluniwyd Tai’r Mynydd ar gyfer chwarelwyr cyffredin ac o’r herwydd yr oedd cynllun rheolaidd a chyson yr holl safle yn unigryw o safbwynt eu gosodiad pensaernïol. Roedd y cysyniad hefyd o dai ar gyfer y gweithwyr  hefyd yn un newydd a phwysig yn hanes yr ardal. Adeiladwyd y tai yn rhes gyflawn o fythynnod un llawr syml, i gynnwys dwy ystafell a chroglofft uwchlaw. Adeiladwyd y rhes gyda cherrig bras ac roedd arnynt doeau o lechi. Roedd safon yr adeiladwaith  felly yn uwch na’r anheddau gwael a geid yn rhannau helaethaf  Cymru yn y cyfnod, gan gynnwys Dyffryn Ogwen.  Nodwedd

tai'r mynydd 1889 a
Cynllun Tai’r Mynydd yn 1889. Map OS 1889.

arbennig y tai oedd bod stribed hir a chul o dir o flaen bob uned gan gyflawni  undod rheolaidd i’r holl gynllun. Mesurai stribed yr ardd hiraf ychydig dros 55 metr o hyd wrth ddeg metr o led yn fras  (18 x 3 llath).  Mae cynllun rheolaidd yr holl safle yn dra gwahanol i gynlluniau bythynnod cyfredol a oedd gerllaw’r datblygiad. Mae’n wir fod gwahaniaeth sylfaenol  rhwng  gosodiad rheolaidd rhes o dai unffurf a bythynnod unigol , megis y rhai a safai yn gymharol agos at Dai’r Mynydd yn Braich, Talgae a Thregarth.  Roedd clwt o dir afreolaidd ei gynllun ger y bythynnod hyn a fyddai’n llai nag acer ei faint. Cymharer, er enghraifft,  gynllun rhif 62 yn Nhregarth oedd a dau lain perthynol yn mesur ychydig yn fwy nag un acer o faint, gydag un o’r unedau unigol rheolaidd ei gynllun yn Nhai’r Mynydd.

Fig6 Tregarth Bryn C
Bythynnod Tregarth yn 1768 – rhan o Arolwg Richard Pennant o stad y Penrhyn – Drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor – Archif Penrhyn ychwanegol 2944

Mae’n ddiddorol sylwi mai yn Arolwg stad y Penrhyn yn 1768 cyfeirir at y clytiau bychan sy’n gysylltiedig â’r bythynnod fel ‘gardd’ a dyna yn ogystal  oedd swyddogaeth y lleiniau hir gul yn Nhai’r Mynydd.

Sut felly y cyrhaeddodd yr aderyn brith hwn i ganol y brain ar lethrau Mynydd Llandygái? Mae’n bur debyg y dylid chwilio am gynsail i gynllun Wyatt o gyfeiriad y tu allan i Dyffryn Ogwen.  Ac y mae dau ddewis posibl,  y naill fel y llall heb ffeithiau i’w cadarnhau. Yn gyntaf gallasai Wyatt fod yn gyfarwydd â chynlluniau y ‘burgages’, sef gerddi y dinasyddion ym mwrdesdrefi  concwest Edward y cyntaf yng Nghymru.  Yng Nghaernarfon  ac yng Nghricieth mesurai’r gerddi rheolaidd hyn ychydig llai nag wyth llath mewn hyd wrth bump llath mewn lled tra bo gerddi Biwmares yn wyth llath wrth oddeutu tair llath. Mae’n annhebygol, er nad yn amhosibl, y gwyddai Wyatt am y gerddi hyn, ond mae eu maint a’u lled afreolaidd yn debygol o fynd yn erbyn eu derbyn fel y llinyn mesur cywir.

Jamaica
Stad Coates yn Jamaica 1775. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor – Mapiau Penrhyn S 2788, drwy garedigrwydd a chaniatâd. Plan of Coate’s Estate in the parish of Clarendon, Jamaica, the property of John Pennant Esq, surveyed by Rome and Burton at thr request of John Shirkle Esq, 1775 – scale 1 inch to 10 chains.

Yr ail ddewis fyddai edrych tuag at stadau siwgr teulu’r Penrhyn yn Jamaica. Yn y stadau hyn yr oedd y caethweision wedi’u lletya mewn tai unigol gyda’r hawl i ddefnyddio gardd ar gyfer plannu llysiau.  Er mae’n debyg nad ymwelodd Pennant yn bersonol â Jamaica yr oedd yn gyfarwydd â gweld cynlluniau map o’i eiddo yno, ac fel perchennog ystyrir ei fod yn ddylanwadol iawn yn cyfarwyddo  gofalaeth ei ystadau. Dywedir ei fod hefyd yn dra ymwybodol  o anghenion sylfaenol ei gaethweision o ran llety, bwyd a iechyd cymharol dda. Wedi’r cyfan, roedd pob caethwas yn fuddsoddiad ariannol i’w warchod. Yn Jamaica, yn ôl y sôn, ar derfyn pob blwyddyn derbyniai pob caethwas  ddogn o rym fel math o ‘dal’ bonws am ei lafur di dal. Gallasai’r caethwas hirben werthu ei ddogn i eraill, a chyda  caniatâd y perchennog, ddefnyddio’r arian i brynu rhandir ychwanegol gan roddi iddo elfen o hunangynhaliaeth yn ei ymdrechion i gynnal ei deulu, ond heb eto ei alluogi i ennill ei ryddid. Mae nifer o fapiau  o blanhigfeydd John Pennant, tad Richard, yn dyddio o gyfnod 1770-75 yn Jamaica. Mae un cynllun penodol  o Stad Coate’s ym mhlwyf Clarendon yn dangos yn eglur raniadau tir y stad, ac mae rhanbarth arbennig wedi’i neilltuo ar gyfer defnydd y caethweision (dynodir â W ar y map). Gwelir fod y rhanbarth hwn  wedi’i rannu yn leiniau hirgul tra bo tai y caethweision mewn rhandir cyfagos (dynodir â X ar y map).

Jamaica 2
Manylyn o fap Stad Coates uchod yn dangos rhandiroedd y caethweision

Gellir awgrymu mai y math hwn o drefniant gweinyddol o Jamaica oedd y cynsail i gynllun Richard Pennant yn Nhai’r Mynydd yn 1798 ac mai hwn oedd y cynsail o haelioni awdurdodol a ddefnyddiwyd  gan stad y Penrhyn fel  templed ar gyfer adeiladu y Gefnan yn 1843, ac  eto yn 1862 yn natblygiad cynhwysfawr, ond unffurf, cynllun Tan y Bwlch a Llwybr Main. Fel yn Jamaica, felly hefyd ar Fynydd Llandygái, y tenant drwy ei lafur oedd yn gyfrifol am adeiladu’r tŷ a chynnal yr ardd, ac yn Nyffryn Ogwen eu ‘braint’ oedd cael byw yn y tŷ hyd at derfyn y les cyn i’r stad ail berchenogi’r adeilad.  Wrth i Pennant gynllunio Tai’r Mynydd tybed faint o ymwybyddiaeth ddyngarol  Samuel Worthington, ei gyfaill o Grynwr a’i gyd ddiwydiannwr o Lerpwl, a’i dylanwadodd?  Ynteu ai gwell fyddai derbyn mai cymhelliad pennaf y cynllun oedd cyfrannu at hunan-les nawddoglyd Richard Pennant?

Ffynonellau

Gwybodaeth bersonol gan E H Douglas Pennant, Llandygái a thrafodaeth berthnasol gyda Rhian Parry, Porthaethwy.

Judith  Alfrey. 2001.  Rural Building in Nineteenth Century North Wales; the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis,,CXLVII (1998), 199-216

A.H. Dodd  1968. A History of Caernarvonshire 1284-1900. Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Dinbych

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda