Blwyddyn Newydd Dda

Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr gwefan Hanes Dyffryn Ogwen. Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen am hanes diddorol ein dyffryn yn 2021 ac y cawsoch fwyniant dros y Nadolig. Mae gennym ragor o nodiadau difyr ar eich cyfer yn 2022. Mae nifer o gyfranwyr gwadd hefyd wedi danfon cyfraniadau ac felly bydd digon i’w ddarllen!

Porth Penrhyn

IMG_20191031_0008 (2)
Abercegin – llun gan artist anhysbys o’r hafan cyn dyddiad ei throi yn borthladd swyddogol

Datblygwyd y porthladd yn Aber Cegin i allforio llechi Chwarel y Penrhyn i bedwar ban byd. Yn 1786 sicrhaodd Richard Pennant angorfa yn Aber Cegin drwy brydles gan Esgob Bangor a’i dasg yn awr oedd datblygu porthladd masnachol i dderbyn llongau i’w llwytho oddi ar y cei yn hytrach nag o’r traeth. Y ‘pwll’ yn Aber Cegin oedd pen llanw’r môr i’r afon ac yno yn 1790 adeiladwyd y cei cyntaf i dderbyn llongau o 300 i 400 tunnell. Adeiladwr o Bentir, Thomas Knowles, oedd yn gyfrifol am gyflawni’r gwaith ac ymestynnai’r cei hyd at 600 troedfedd i gyfeiriad y môr. Yn 1803 ychwanegwyd at y cei cyntaf i gyrraedd allan ymhellach i ddŵr pen llanw, datblygiad a fyddai’n caniatáu i longau gyrraedd at ddwy ochr y cei. Datblygiad pwysig arall oedd adeiladu tramffordd y chwarel yn 1801 i drosglwyddo cynnyrch y gloddfa yn effeithiol i’r cei. Cost y ddwy fenter i Pennant, y cei a’r dramffordd, oedd £170,000. I gyflawni’r gofyn mewn marchnad oedd yn ehangu’n gyflym ychwanegwyd at y cei gwreiddiol drachefn yn 1820 i dderbyn 100 o longau ac yn 1855 adeiladwyd ail gei gan greu doc mewnol rhwng yr hen a’r newydd. Bryd hynny cysylltwyd Porth Penrhyn gyda dolen i brif reilffordd yr LNWR, ond rhaid oedd aros tan 1879 cyn y troswyd  tramffordd y chwarel yn rheilffordd i drafnidiaeth stem. Fel terminws y rheilffordd adeiladwyd sied arbennig i gynnal a chadw injans stem y brif lein, ac ynddi hefyd byddai injans llai, ond prysur, y porthladd yn cael eu tanio a’u gweinyddu.

20211203_105917
Cynllun Robert Williams, mab William Williams o Borth Penrhyn yn 1803 – drwy garedigrwydd a chaniatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor

O’r cychwyn cyntaf datblygwyd y porthladd i fod yn ganolfan ddiwydiannol yn ogystal â safle masnachol. Fel un o aelodau seneddol dinas Lerpwl yr oedd gan Pennant gysylltiad agos gyda diwydianwyr y dref a masnach caethwasiaeth ryngwladol ei eiddo yn Jamaica. Ei gyfaill mawr oedd  Samuel Worthington, masnachwr blawd o Lerpwl a sefydlydd crochendy’r Herculaneum yn y ddinas. Drwy drefniant rhwng y ddau penderfynwyd mewnforio callestr o Sussex ac Iwerddon drwy Aber Cegin i’w falu yn y Felin Isaf yn Llandygái cyn ei ddanfon yn ôl i’r crochendy i wydro wyneb y llestri. Symudodd Worthington i fyw i Landygái a phenodwyd ef yn gyfrifol am werthiant cynnyrch y chwarel, swydd o fawr bwys oherwydd y dirwasgiad yn y farchnad o ganlyniad i drethiant uchel y llywodraeth ar lechi ac effeithiau’r rhyfel gyda Ffrainc. Drwy ei gysylltiadau gallai ef drefnu masnach ehangach i’r llechi a’u hallforio  i borthladdoedd pellach na Lerpwl ac Iwerddon. Yn 1801 sefydlwyd ffatri i gynhyrchu llechi ysgrifennu yn y porthladd, diwydiant nad oedd yn drethadwy, ac erbyn 1804 cynhyrchai’r gwaith 136,000 o dabledi gan ddefnyddio 3000 troedfedd o goed fframio a chyflogi rhwng 25 a 30 o fechgyn. Cymaint oedd llwyddiant y fenter hyd nes ennill marchnad eu prif gystadleuwyr yn y Swistir a difrodi’r diwydiant yno. Cymerodd y Penrhyn ofalaeth lawn o’r ffatri yn 1829 ac fe’i hehangwyd ymhellach yn 1847. Cyn hynny yr oedd diwydiannau eraill wedi eu sefydlu yno i gynnwys yn 1828 tair odyn galch ac erbyn 1874 gweithdy peirianyddol i drin yr injans stem a gyflwynwyd gyntaf i’r porthladd yn 1874. Ychwanegwyd atynt injans prif linell y chwarel yn 1878 pan adeiladwyd sied arbennig i’w cadw. Yr oedd prysurdeb y porthladd yn ei anterth yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac allforion llechi yn cyrraedd marchnadoedd Cyfandir Ewrop a’r Unol Daleithiau, a hyd at 20 llong y mis yn gadael y cei a chyfanswm o 35,000 tunnell o lechi’r flwyddyn yn cael eu hallforio. Adeiladwyd dwy lifddor gadarn i gronni dyfroedd Afon Cegin yn llyn eang i’r de o’r bont sy’n arwain i’r porthladd, ac yr oedd gan y llyn hwn bwrpas arbennig i hwyluso trafnidiaeth forol y porthladd. Pan fyddai llongau trymlwythog ar gychwyn eu mordaith, a’r llanw yn rhy isel i’w hwylio’n rhwydd,  yna agorid y llifddorau gan adael i ddŵr y llyn lifo  i’r cei gan chwyddo’r llanw isel yn ddigon uchel i hwylio’r llongau trymaf yn ddidramgwydd ar eu taith.

llun du a gwyn
Porthladd Penrhyn cyn 1900, llun drwy garedigrwydd a chaniatâd y diweddar Alaw Jones, Parc Moch

Law yn llaw â gweithgaredd prysur y porthladd yr oedd hefyd i ddatblygu fel canolbwynt gweinyddol y chwarel a stad y Penrhyn. Yn ei gyffiniau agos yr oedd Lime Grove cartref Benjamin Wyatt, asiant cyntaf stad y Penrhyn a benodwyd i’r swydd gan Richard Pennant yn 1786. Y gŵr hirben a dylanwadol hwn a benderfynodd ddatblygu aber Afon Cegin i fod yn borthladd, ac yn ystod cyfnod o 33 mlynedd o wasanaeth hyd at ei farwolaeth yn 1818 cynlluniodd nifer o ddatblygiadau pellach yn y porthladd. Mae yno gasgliad o adeiladau gweinyddol pwysig ar y cei sy’n cynnwys tŷ mawreddog Swyddfa’r Porthladd, a adeiladwyd yn 1832 i gynllun gan Benjamin Wyatt mewn arddull bensaernïol regency. Yno hefyd mae prif swyddfa weinyddol stad y Penrhyn a adeiladwyd mewn arddull italianate yn 1860. Mae pensaernïaeth yr adeiladau hyn, amrediad diwydiannol y safle, a’i brif swyddogaeth fel canolbwynt allforio llechi chwarel y Penrhyn i’r byd, yn destament i lwyddiant a hyder stad y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

porth penrhyn cynllun
Cynllun y porthladd yn 1917

Ffynhonnell

David Thomas. 1952. Hen Longau Sir Gaernarfon. Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon.

J I C Boyd. 1985.      Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford.

Elis-Williams. 1988. Bangor port of Beaumaris; the nineteenth centuary shipbuilders and shipowners of Bangor, Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd, Caernarfon.