Bodfaeo

Dyma erthygl ddifyr arall gan un o’n cyfranwyr gwadd sef y Prifardd Ieuan Wyn.

Yn ei awdl ‘Cilmeri’, mae gan Gerallt Lloyd Owen gyfres o chwe englyn yn disgrifio ymdrech lew ond aflwyddiannus deunaw milwr i amddiffyn Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ar Ragfyr 11eg, 1282 ger Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys. Fel hyn y disgrifia’r bardd hwy: ‘Deunaw gŵr dienw gynt / Ym mreuddwyd Cymru oeddynt’.

Y deunaw gŵr hyn oedd gwarchodlu personol Llywelyn. Yn yr Oesoedd Canol, ‘teulu’ oedd yr enw ar osgordd filwrol, a ‘phenteulu’ oedd eu pennaeth. Byddent wedi eu dethol yn ofalus ac wedi’u hyfforddi’n drylwyr, a byddent yn barod i farw er mwyn amddiffyn eu tywysog. Lladdwyd y deunaw cyn i Llywelyn gael ei ladd.

Mae’r cyfeiriad at y deunaw yn awdl Gerallt Lloyd Owen yn seiliedig ar yr hyn sydd ym marwnad y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch a gyfansoddwyd pan laddwyd Llywelyn  – un o gerddi enwocaf ein llên. Yn y farwnad honno, mae’r bardd yn dweud bod ei Arglwydd (Arglwydd Eryri oedd un o deitlau Llywelyn) wedi bod yn llwyddiannus cyn i’r deunaw gael eu lladd. Mae’n defnyddio’r gair ‘llwydd’ er mwyn gwrthgyferbynnu gyrfa Llywelyn gyda’r aflwydd terfynol a ddaeth i’w ran: ‘Arglwydd llwydd cyn lladd y deunaw’.

Mewn rhan arall o’i farwnad fawr, wrth disgrifio’r modd y lladdwyd Llywelyn, mae’r bardd yn enwi Bodfaeo:

O glefyddawd trwm tramgwydd arnaw,

O gleddyfau hir yn ei ddiriaw,

O glwyf am fy rhwyf ysy’m rhwyfaw,

O glywed lludded llyw Bod Faeaw!

 

(Oherwydd cwymp ergyd drom â chleddyf arno,

Oherwydd cleddyfau hir yn ei orfodi,

Oherwydd clwyf ynghylch fy rheolwr sydd yn fy rheoli,

Oherwydd clywed [am] ludded llywodraethwr Bodfaeo!)

Yn nodiadau ei golygiad o’r gerdd, fel hyn y dywed Rhian M. Andrews am Fodfaeo: ‘Trefgordd ym mhlwyf Llanllechid yn y Cwmwd Uchaf (Cwmwd Arllechwedd Uchaf) yng Nghantref Arllechwedd… Safai un o lysoedd pwysig gerllaw yn Aber a dichon mai dull o gyfeirio at y llys yw enwi’r drefgordd… .’

Tybed a oedd rheswm arall dros enwi Bodfaeo a chyfeirio at Llywelyn fel ‘llyw Bodfaeo’? Gwyddom mai yn Aber (Abergarthcelyn oedd yr enw bryd hynny) yr oedd Llys Cwmwd Arllechwedd Uchaf, ond dengys y cyfeiriad hwn fod Bodfaeo yn lle pwysig o fewn y cwmwd. A oes cysylltiad rhwng Bodfaeo a gwarchodlu personol y tywysog, sef y ‘deunaw’? Er bod y tywysog yn treulio llawer o’i amser yn teithio o lys i lys, mae tystiolaeth sy’n awgrymu’n gryf mai Garth Celyn yn Aber oedd ei gartref teuluol. Onid rhesymol yw tybio y byddai aelodau ei warchodlu yn byw yng nghyffiniau Aber? Felly, ai milwyr dethol o blith gwŷr Bodfaeo oedd y deunaw?

Mewn fersiwn gwahanol o gerdd Gruffudd ab yr Ynad Coch mewn llawysgrif arall mae’r llinell yn darllen fel a ganlyn: ‘O glywed lludded llu Bod Faeo’.

Nid ‘llyw Bodfaeo’ ond ‘llu Bodfaeo’ sydd yma, gan gyfeirio at filwyr Llywelyn – at ei fyddin – ac yn fwy penodol, o bosib’, at ei warchodlu.

Mewn llythyr a anfonwyd at Edward 1af, brenin Lloegr, mae Roger Lestrange yn adrodd bod Llywelyn yn farw, ei fyddin wedi ei threchu a’i chwalu, a ‘holl flodau ei wŷr’ wedi eu lladd. Ai cyfeiriad at y deunaw – y gwarchodlu – yw blodau’r fyddin yma?

Beth bynnag yw’r gwir, erys dau ymholiad arall y dylid ceisio’u hateb, sef beth yw elfennau’r enw Bodfaeo, a ble’r oedd y drefgordd hon?

Edrychwn ar yr enw i ddechrau. Y ffurf Bot Vaeaw mewn Cymraeg Canol sydd gan Gruffudd ab yr Ynad Coch yn ei gerdd, ac ymddangosodd y ffurfiau Bodfaeo, Bodfaio a Bodfeio wedi hynny ynghyd â ffurfiau Seisnigedig, yn eu plith Bodvayo, Bodvaio a Bodvaeo. Wrth egluro mai ‘cartref’ yw ystyr bod, fel hyn y dywed yr Athro Ifor Williams: ‘Bod ar ddechrau llu o enwau yw preswyl-fod’. A diddorol yw sylw’r Athro Melville Richards: ‘Os dechreuwn gyda’r elfen bod (yr un â’r berfenw bod) fe gawn ar unwaith fod rhyw gymaint o ystyr crefyddol iddi mewn rhai cysylltiadau.’

Beth am ail elfen yr enw, faeo? Ymddengys mai hen enw personol Maeo ydyw yn dynodi perchnogaeth tir – ac mae i’w gael mewn mannau eraill megis Nant Ynys-feio a Mynydd Ynys-feio yn Nhreherbert ger Treorci, a Mynydd Meio yn Eglwysilan ger Pontypridd. Mae’n debygol bod Faeo wedi troi’n Feio yn yr enghreifftiau hyn hefyd.

Disgrifiad Geiriadur Prifysgol Cymru o ‘trefgordd’ yw: ‘Pentrefan, tref fechan neu bentref sy’n ffurfio rhan o blwyf neu faenor neu ran o un o’r rhain fel rhaniad tiriogaethol’. Felly, beth am leoliad Bodfaeo? Gwyddom i sicrwydd fod y drefgordd hon yr ochr ddwyreiniol i Afon Ogwen ac yn rhan o diriogaeth Cwmwd Arllechwedd Uchaf. Sylw’r Athro Kenneth H. Jackson yw: ‘Bod Faew is on the coast of Caernarvonshire’, a’r hyn sydd gan Huw Derfel Hughes yw ‘Bellach gadawn y Traeth (Traeth Lafan), a deuwn gam i fyny i hendref Llanllechid, cwr nesaf yr hwn i’r môr a elwid Bodfeio…’. Mae’r Athro A.D. Carr yn lleoli canol trefgordd Bodfaeo tua hanner ffordd rhwng pentref Llanllechid a phentref Llandygái, a dengys papurau’r Penrhyn fod iddi nifer o afaelion. Fel hyn y mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn diffinio ‘gafael’: ‘Daliad o dir etifeddol gan y gyfundrefn lwythol Gymreig yn amrywio o le i le o ran ei fesur ac ar wasgar yn aml fel parseli o dir’. Mae Record of Caernarvon 1352 yn enwi wyth gafael o dan ‘Boduayo & Bogowolghy, ac mae cofnod ym mhapurau’r Penrhyn yn nodi fel a ganlyn: ‘The roll…contains the rents of the following “gafaelion” in the township of Bodfaeo’, ac mae’n rhestru chwe gafael mewn ffurfiau Seisnigedig: ‘Gavill Iarthur, Gavell Ior’ ap Kenthil, Gavell Kehelyn, Gavell Roppert, Gavell Ieva, Gavell Mad’ ap Eign’.

Bodfaeo
Cwmwd Arllechwedd Uchaf a lleoliad Bodfaeo wedi’i leoli ar ochr chwith y map

Gan fod trefgordd Cororion (Creu-wryon) ar ochr orllewinol Afon Ogwen yn ymestyn i lawr hyd at Afon Menai, mae’n bosib’ iawn bod hyn yn wir hefyd am drefgordd Bodfaeo ar yr ochr ddwyreiniol. Diddorol yw sylwi bod rhôl renti Cochwillan yn 1622 yn nodi bod gan y drefgordd ei chored ei hun – ‘Cored Vod Vaio’ – ar Afon Menai er mwyn sicrhau cyflenwad cyson o bysgod. Gwyddom hefyd fod tir Cilfodan ar un adeg – ‘yn Nhref ddegwm Bodfaio’ yn ôl Hugh Derfel Hughes yn Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Er mwyn lleoli gafaelion a therfynau’r drefgordd, byddai’n rhaid gwneud ymchwil topograffegol, a hynny trwy fynd trwy weithredoedd a rholiau rhenti ystad y Penrhyn.

Yn wahanol i Gororion, nid yw Bodfaeo yn aros fel enw lle, boed fferm neu dŷ  neu glwstwr o dai. A oedd safle benodol o’r fath yn dwyn yr enw ar un adeg? Yn Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, mae Hugh Derfel Hughes yn cyfeirio at ‘W. Griffith o Fodfaio’. A yw hyn yn awgrymu bod i’r drefgordd ryw lun ar ganolfan?

I gloi, rhaid cyfeirio at y ddiweddar Annie Rowena Jones, Hen Barc, gwraig wybodus iawn yn naearyddiaeth, enwau lleoedd, natur a hanes Dyffryn Ogwen, a gyhoeddodd lyfryn diddorol, Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid. Treuliodd ei dyddiau cynnar ar fferm Llwynpenddu ar gwr pentref Llanllechid, a chlywais gan Rosemary, nith iddi, mai’r enw ar y fuches o wartheg duon Cymreig yno oedd Buches Bodfeio. Ychydig flynyddoedd yn ôl, pan adeiladwyd tŷ newydd ym mhen uchaf Lôn Newydd, Coetmor, rhoddwyd iddo’r enw Bodfeio, a hynny ar awgrym Annie Rowena Jones. Roedd hi’n amlwg am gadw’r enw’n fyw.

Ffynonellau:

Ifor Williams, Enwau Lleoedd, Gwasg y Brython, Lerpwl 1945

Melville Richards, Enwau Tir a Gwlad, Gwasg Gwynedd, Caernarfon 1998

Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1969

Gwefan Archif Melville Richards, Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd

Lloyd Jones, Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1928

A.D. Carr, ‘Rhaniadau Gweinyddol yr Oesoedd Canol’ yn T.M. Basset a B.L. Davies (gol.), Atlas Sir Gaernarfon, Cyngor Gwlad Gwynedd, Gwasg Gee, Dinbych 1976

Kenneth Hurlstone Jackson, A Celtic Miscellany: Translations from the Celtic Literatures, Routledge & Kegan Paul, Llundain 1951

Iolo Morganwg a William Owen Pughe (gol.), The Myvyrian archaeology of Wales: Volume 1, Poetry, Llundain 1801

Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1986

Geiriadur Prifysgol Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 2002

Rhian M. Andrews, N.G. Costigan (Bosco), Christine James, Peredur I. Lynch, Catherine McKenna, Morfydd. E. Owen a Brynley F. Roberts (gol.),  Gwaith Bleddyn Fardd ac Eraill, Cyfres Beirdd y Tywysogion VII, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1996

Gerallt Lloyd Owen, Cilmeri a cherddi eraill, Gwasg Gwynedd, Caernarfon 1991

Geraint Jenkins, Cyfraith Hywel, Gwasg Gomer, Llandysul 1970

Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, Bethesda 1866

Papurau Stad y Penrhyn, Archifau Prifysgol Bangor

Casgliad Ychwanegol Castell y Penrhyn, Rentals c1410-1949, Prifysgol Bangor 2011

Record of Caernarvon 1352, Archifau Prifysgol Bangor

Advertisements

Nadolig Llawen

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr gwefan Hanes Dyffryn Ogwen. Gobeithio eich bod wedi cael mwyniant yn darllen am hanes diddorol ein dyffryn yn 2017. Mae rhagor o nodiadau wedi’u paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae nifer o  gyfranwyr gwadd hefyd wedi danfon cyfraniadau ac felly bydd digon i’w ddarllen!

Gyda phob dymuniad da.

John a Lowri

Tomen Pantdreiniog

IMG
Llun panoramig o bentref Bethesda oddeutu ugeiniau y 19g,  un o’r ychydig luniau sy’n dangos tomenni  chwarel Pantdreiniog (brig chwith y darlun). Cerdyn post o gasgliad a thrwy garedigrwydd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Adeiladwyd tomennydd rwbel llechi chwarel Pantdreiniog yn dair gris anferth i dra-arglwyddiaethu yn fygythiol uwchlaw Stryd Fawr Bethesda. Ar ganol y llawr uchaf yr oedd bwlch go sylweddol yn agor fel math o ffenestr i olygfa odidog tua’r de a chrib y Carneddau. Ond nid ffenestr i geisio twtio tirlun Dyffryn Ogwen mo hon ond yn hytrach ymgais W. J. Parry, fel pennaf gyfalafwr blysiog pentref Bethesda, i wneud ei ffortiwn.

Yn 1892 benthycodd Parry £1,000 gan Fanc y National Provincial yn Llundain. Rhaid dyfalu paham y cafodd y fath fenthyciad oherwydd nid oes cofnod pendant o’r trefniant. Ar y pryd yr oedd gan Parry ddiddordeb mewn hybu dwy ddyfais a wnaethpwyd gan wŷr lleol ym Methesda. Y gyntaf oedd dyfais i agor a chau ffenestri ‘sash’ gan ŵr o’r enw William Hughes. Teitl aruchel y ddyfais oedd The Hughes’ Window Spring Patent, ac yn 1882 derbyniodd sylw rhyngwladol a thlws aur mewn arddangosfa ym Mharis. Yn 1892 ymunodd Parry mewn partneriaeth â Hughes i gynhyrchu’r Window Spring ac mae’n debygol mai ar gyfer y fenter hon y benthycodd yr arian gan y banc. Roedd yr ail ddyfais yn eiddo i ŵr lleol arall o’r enw J. T. Welch, watshmecar wrth ei alwedigaeth. Arbrofodd â dyfeisiadau i gywasgu llwch llechi dan bwysedd heidrolig enfawr i gynhyrchu cyfres o isgynhyrchion, rhai trymion megis brics, teils, paneli ffenestri a chledrau rheilffordd, a rhai ysgafnach megis teganau tsieni, llestri a photeli o bob llun. Cychwynnodd Welch ei arbrofion yn Chwarel Pantdreiniog oddeutu 1888, chwarel yr oedd gan Parry ddiddordeb proffesiynol ynddi gan mai ef oedd asiant Stad Cefnfaes. Nodir i Parry fenthyca swm o arian yn 1889 gan y Parch J. Foulkes, gweinidog gyda’r Annibynwyr yn Aberafan, ac mae’n eithaf tebygol mai benthyciad er hyrwyddo menter y llwch oedd hwn. Yn 1892 cofrestrodd Parry y ddyfais yn y Patent Office yn Llundain dan ei enw ef a Welch a cheisiodd sefydlu priodoldeb a phwysigrwydd y ddyfais ar raddfa ryngwladol. Yn y cyfamser, derbyniwyd ymholiadau gan lu mawr o ddiwydianwyr a oedd yn awyddus i  ddatblygu’r ddyfais ymhellach a gwrthodwyd cynnig o £4,000 gan un ymgeisydd a fynnai brynu’r patent gan y  dyfeiswyr.

Ysywaeth, wynebai’r ddyfais broblemau technegol dyrys na allai’r ddau entrepreneur lleol eu datrys heb  dderbyn cyfalaf sylweddol i archwilio’n wyddonol paham fod y cynhyrchion yn eithriadol frau dan bwysau eu defnydd ymarferol yn y maes. Peryglwyd y fenter a gwerthwyd y ddyfais i ŵr o Gaerdydd yn 1891 am y swm pitw o £800. Er hynny, mae’n ymddangos fod y patent yn dal ym meddiant Parry a chymaint ei ddiddordeb yn y broses fel y ceisiodd ailsefydlu’r dechneg i gynhyrchu briciau yn chwarel Pantdreiniog yn ystod degawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf. Yn 1919 sefydlwyd y North  Wales Development Co Ltd gyda chyfalaf o £150, 000 i lansio’r cwmni  i greu amrywiol gynhyrchion o lwch y lechen ym Mhantdreiniog. Wrth gwrs W. J. Parry oedd un o brif gynrychiolwyr y sindicet ond, ysywaeth, trodd y fenter yn fethiant llwyr a daeth y cwmni i derfyn disymwth yn 1921.

Yr oedd Parry bellach yn ei henaint a bu farw yn 1927. Ond ei ddiddordeb ymarferol ef yn y ddyfais heidrolig a olygodd fod bwlch wedi ei agor yng ngris uchaf tomen lechi Pantdreiniog. A beth am y dyledion ariannol? Yn anffodus bu’r dyledion hyn yn faen tramgwydd enfawr i Parry drwy ei yrfa, ond pennod arall i’w hadrodd fyddai honno.

chwarel pantdreiniog
Chwarel Pantdreiniog – (chwith) safle y North  Wales Development Co Ltd yn y domen. (dde) tair gris tomen Pantdreiniog a’i hagosatrwydd at dai pentref Bethesda

Un nodyn bach amherthnasol i orffen. Mae’r holl luniau panoramig o bentref Bethesda wedi’u tynnu o ben tomen rwbel chwarel Pantdreiniog, llwyfan ddyrchafedig o’r radd flaenaf a fyddai wrth fodd pob ffotograffydd gwerth ei halan, ond does odid yr un llun wedi’i dynnu o’r domen ei hun i ddangos pa mor ormesol oedd ei chysgod dros yr holl gymuned.

Ffynonellau

Jean Lindsay  1974. A History of the North Wales Slate Industry. Newton Abbot.

John Ll. W. Williams . 2005. W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda: portread o Gyfrifydd, Masnachwr a Hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 66, tt. 137-167.