Pwmp codi dŵr Easton ac Amos chwarel y Penrhyn

Dyma gyfraniad a ysgrifennwyd ar y cyd ag Idris Lewis, Ffordd Bangor

20190108_101456
Llun o ffos ddŵr wyneb agored yn llifo dan y bpnt ac i’r dde o’r llun

Dŵr, yn ail i lechen, oedd un o adnoddau pwysicaf chwarel y Penrhyn. Mantais fawr y chwarel oedd ei bod wedi ei lleoli ar drothwy dwy afon – afon Ogwen yn llifo o gyfeiriad y de ac afon Galedffrwd o gyfeiriad y gorllewin. Dyfroedd yr afonydd hyn oedd yn gyrru peirianwaith y gloddfa am ran helaethaf ei bodolaeth, a chynlluniau rheoli’r dŵr wnaeth arwain at gyflawni rhai o’r amcanion mwyaf anturus a drudfawr yn hanes y gwaith. Rhaid ond nodi yn fras rai o’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol. Er enghraifft, dŵr oedd yn gyrru’r saith lifft codi a oedd yn cysylltu â rhannau isaf twll y chwarel a dŵr o nifer o gronfeydd yn nyffryn afon Galedffrwd oedd yn cyflenwi’r cyfaint angenrheidiol i weithio peirianwaith y Felin Fawr. Dŵr o Bont Ogwen oedd yn gyrru’r compresor i weithio system ager dan wasgedd i dyllu’r graig yn y chwarel. Dŵr hefyd oedd y prif reswm dros ddargyfeirio rhan o afon Ogwen ym Mhont Ogwen yn 1922 rhag bod ei dyfroedd yn bylchu a gorlifo prif dwll y chwarel islaw.

20190108_100607

Prif strata daearegol y chwarel yw’r llechfaen, craig a ffurfiwyd o haenau gwaddodion llaid a silt a  gywasgwyd dan bwysedd metamorffig enfawr yn ystod y cyfnod Ordoficaidd. Mae’n graig galed a chryno sy’n hollti’n berffaith, ond nid craig hydraidd mohoni, ac felly nid yw dŵr yn cronni yn ei chyfansoddiad megis mewn calchfaen neu dywodfaen. O ganlyniad, ffynhonnell holl ddŵr wyneb y chwarel yw’r glaw sy’n disgyn ar y Fronllwyd ac ar safle eang y gwaith, a gall hwn fod yn rhai miloedd o alwyni y dydd, yn arbennig yn dilyn glaw cyson, storm neu eira. Wrth edrych ar hagrwch y gwaith heddiw mae’n bwysig sylweddoli nad cyfres o dyllau, ponciau a thomennydd digyswllt sydd yno. Yn hytrach roedd yn gweithredu fel un cyfanwaith cytbwys, gyda phob uned yn cyd asio, y naill â’r llall, a chydbwysedd y cynllun cyflawn o dan reolaeth rhediad y dŵr. Yn hanes y chwarel yr oedd cadw rheolaeth rhwng derbyn y dŵr wyneb, yn ogystal â’r dŵr peirianyddol uchod, ac yna ei waredu o’r safle yn ddiogel, yn hanfodol bwysig i’w bodolaeth a’i llwyddiant. Oni wneid hynny yna byddai’r holl chwarel yn boddi yn ei dyfroedd.

 

20190108_113706
Trawstoriad o bwmpiau’r chwarel

Y cynllun mwyaf sylfaenol yn hanes y chwarel oedd yr un a gyflawnwyd yn 1847 pan naddwyd twnnel tanddaearol 7 troedfedd wrth 6 troedfedd drwy’r graig er mwyn gwaredu holl ddŵr y gwaith. Tyllwyd y twnnel hwn o bonc Sebastapol sydd 380 troedfedd islaw prif bonc weithredol y chwarel yn Red Lion, gan griw o fwynwyr o Ferthyr Tudful, mintai o Formoniaid wrth eu crefydd, a adawodd yr ardal ymhen y rhawg i ymsefydlu yn Salt Lake City. Mae’r draen hon, sy’n gwagio ei dŵr i afon Ogwen yn Llyn Ceini gryn 1,837 llath o’i tharddiad, wedi ei nodi yn y ffigur sy’n dangos trawstoriad ffigurol o’r chwarel. I’r draen hon mae holl ddŵr wyneb y chwarel yn llifo drwy gyfres o gamlesi agored a ddosbarthwyd hyd wyneb y ponciau ac fe gâi’r rhain eu harchwilio yn ddyddiol i’w cadw’n glir rhag bo’u llif yn cael ei atal. Mae’r ffigur hefyd yn dangos fod dŵr o un o’r tanciau codi (B, sef tanc Sebastapol), pan oedd ar waelod y siafft hefyd yn llifo’n uniongyrchol i’r draen hon, ac felly hefyd i danciau Fitzroy, George a Douglas, yr oedd eu dŵr yn arllwys i’r draen mawr drwy nifer o dwneli atodol. Ond fel y dengys y ffigur mae’r ddau danc codi nesaf yn y ffigur (tanciau Lord a Lady) yn cyrraedd i ddyfnder islaw’r draen mawr. Roedd felly angen peirianwaith arbennig i godi’r dŵr, yn ogystal ag unrhyw ddŵr wyneb o berfeddion y twll, i ymuno â’r brif ffos uwchlaw ar bonc Sebastapol.

Y tanc dyfnaf yn y chwarel oedd  tanc Princess May (A, yn y ffigur), a oedd yn cyrraedd dyfnder o 480 troedfedd islaw ponc Red Lion. Yng ngwaelod siafft y tanc hwn lleolwyd pedwar pwmp (tri thrydan, un hydrolig) gyda’r gallu i godi cyfanswm o 6,250 galwyn o ddŵr y funud dros ddau gan troedfedd i gyrraedd y ffos fawr. Lleolwyd y pympiau nesaf mewn cell ddwbl (C yn y ffigur) gerllaw siafft B. Yno yr oedd dau bwmp hydrolig yn codi 800 galwyn o ddŵr y funud i uchder o 130 troedfedd i gyrraedd y ffos fawr. Gwneuthurwyr y pympiau hyn oedd cwmni Easton ac Amos o Lundain, un o gwmnïau enwocaf Prydain ym maes peirianneg hydrolig a sefydlwyd yn 1837.  Mae dyddiad adeiladu’r ddau bwmp, y cyntaf yn 1859 a’r ail yn 1872, yn nodi’n fras gyfnod eu mabwysiadu yn y chwarel. Er mwyn diogelu’r peiriannau pwmpio yn y ddau leoliad rhag eu gorlifo gan lifeiriant enfawr, adeiladwyd  gwrthgloddiau ychwanegol i’w gwarchod, a lle’r oedd yn angenrheidiol, bympiau atodol i ddihysbyddu’r dŵr yn ddiogel.

 

img031
Pwmp codi dŵr Easton ac Amosion

Ni ellir ond rhyfeddu at anferthedd a chymhlethdod y cynlluniau peirianyddol a ddyfeisiwyd i gadw Chwarel y Penrhyn yn sych, yn ddiogel, ac mewn gwaith am yn agos i ganrif a hanner, a hynny heb gyfrif y gost mewn llafur a’r buddsoddiad o’u gweithredu. Yn sylfaenol i hyn oll yr oedd elfen o barch gan y gweithlu yn ogystal â’r weinyddiaeth at adnoddau naturiol y gwaith. Peidiodd hyn pan ddaeth y chwarel i feddiant cwmnïau rhyngwladol wedi chwedegau’r ganrif ddiwethaf oedd â’u bryd ar ganibaleiddio’r adnodd ar allor proffid cyflym. Ac yn y broses collwyd pob parch at wychder y gorffennol – chwalwyd y ponciau, chwythwyd y graig yn yfflon gyda ffrwydron, a drylliwyd rhannau helaeth o lwybrau’r camlesi dŵr. Mae tynged un o bympiau unigryw Easton ac Amos yn cyfleu’r holl ddifrawder.  Aethpwyd ati, ar gost uchel mewn llafur ac arian, i godi, ddarn wrth ddarn holl beirianwaith y pwmp o ddyfnder ei leoliad gyda’r bwriad o’i ddiogelu fel symbol bychan, ond gweladwy, i genedlaethau’r dyfodol o orchestion y gorffennol. Yn anffodus, daeth newid olyniaeth yn y weinyddiaeth a daethpwyd i benderfyniad hurt mai gwell fyddai claddu’r peiriant o dan filoedd o dunelli o sbwriel yn hytrach na’i gadw. Y fath amarch at grefftwaith unigryw y gorffennol! A’r fath eironi ein bod wedi cael gwared ar beirianwaith ynni dŵr y gorffennol ond yn sylwi ar ei fanteision ac yn buddsoddi ynddo o’r newydd yn y presennol.

Gwybodaeth ychwanegol gan Idris Lewis,  Ffordd Bangor.

Ffynhonnell

The Penrhyn Quarry – over 150 years of progress. Llyfryn heb ddyddiad; cyhoeddwyd gan The North Wales Chronicle, Bangor.

 

Eglwys Llanllechid a dadeni’r ddeunawfed ganrif

Eglwys Llan 1
Eglwys Llanllechid

Rhwng Hydref 1758 a Mai 1759 bu Evan Evans  (oedd â’r enwau barddol Ieuan Fardd ac Ieuan Brydydd Hir (1731-1788)) a oedd yn ysgolhaig, bardd, offeiriad ac yn bererin ansefydlog ei natur, yn gurad eglwys Llanllechid. Yng Nghymru hwn oedd cyfnod yr ‘eingl esgyb’ yn hanes yr Eglwys Anglicanaidd pan oedd yr holl esgobion yn Saeson uniaith heb na diddordeb na’r brwdfrydedd lleiaf i gynnal a hyrwyddo  iaith a  diwylliant Cymru.

Brodor o Ledrod yng Ngheredigion oedd Ieuan, ac fe’i haddysgwyd yn ysgol enwog Ystrad Meurig. Yn fachgen ieuanc dylanwadwyd arno yn fawr gan Lewis Morris, un o Forisiaid athrylithgar Môn a’i dysgodd yng nghelfyddyd cerdd dafod ac i werthfawrogi llenyddiaeth a hanesyddiaeth gynnar ei wlad. Yn Rhagfyr 1750 aeth i Goleg Merton, Rhydychen, ond ansefydlog fu ei arhosiad gan adael heb raddio yn 1753. Ddwy flynedd yn ddiweddarach derbyniwyd ef yn offeiriad yn eglwys Gadeiriol Llanelwy a dyna ddechrau ar ei bererindota fel curad a’i harweiniodd i nifer fawr o fywoliaethau yng Nghymru yn ogystal â nifer yn ne ddwyrain Lloegr. Yr oedd ei yrfa yn yr Eglwys yn un eithriadol rwystredig. Ni lwyddodd i sicrhau offeiriadaeth sefydlog yn unrhyw un o’r plwyfi y bu yn gwasanaethu ynddynt a gorfu iddo symud yn anfoddog a rhwystredig o un ofalaeth i’r nesaf. Ar un cyfnod cyn cyrraedd Llanllechid bu’n gaplan yn y llynges am  ddeufis, a dro arall ymunodd â’r fyddin, profiad a barhaodd am bedwar diwrnod yn unig cyn i’r awdurdodau ei atal ar ôl darganfod ei fod yn offeiriad ac awgrymu ei fod hefyd yn dioddef o iselder.

Flwyddyn cyn iddo gyrraedd Llanllechid yn 1758 treuliodd Ieuan dri mis yn copïo barddoniaeth Gymraeg o Lyfr Coch Hergest yn Rhydychen, profiad a’i hysbrydolodd i ymchwilio i lawysgrifau cynnar Cymru drwy weddill ei oes. Yn saithdegau’r ganrif noddwyd ef am gyfnod gan Syr Watkyn Williams Wynn i ddefnyddio ei lyfrgell yn Wynnstay, ond wedi treulio rhai blynyddoedd yn ymchwilio yno ni lwyddodd i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil a surodd y berthynas rhyngddo a’r noddwr. Cyfrifid Ieuan yn un o bennaf  awdurdodau Cymru ar y llawysgrifau cynnar a chymaint ei ysgolheictod oni ddaeth i gysylltiad personol â nifer o brif gasglwyr a hynafiaethwyr Lloegr a oedd yn awyddus i wybod mwy am ddiwylliant Cymru. I’r perwyl hwn y cyhoeddodd Ieuan yn 1764 gasgliad pwysig o gyfieithiadau a dadansoddiadau o farddoniaeth gynnar Cymru yn Saesneg  sef Some Specimens of the Poetry of the Welsh Bards, cyfrol a sicrhaodd athrylith ysgolheigaidd Ieuan. Yn 1770 pan oedd yn gurad ym Maesaleg yn Sir Fynwy ysgrifennodd ei ‘Englynion i Lys Ifor Hael’ a ystyrir yn un o’i gyfraniadau barddonol pwysicaf.

Llys Ifor hael, gwael yw’r gwedd, ─ yn garnau

Mewn gwerni mae’n gorwedd;

Drain ac ysgall mall a’i medd,

Mieri lle bu mawredd.

 

Yno nid oes awenydd, ─ na beirddion,

Na byrddau llawenydd,

Nac aur yn ei magwyrydd,

Na mael, na gŵr hael a’i rhydd.

 

I Ddafydd gelfydd ei gân ─ oer ofid

Roi Ifor mewn graean;

Mwy echrys fod ei lys lân

Yn lleoedd i’r dylluan.

 

Er bri arglwyddi byr glod, ─ eu mawredd

A’u muriau sy’n darfod;

Lle rhyfedd i falchedd fod

Yw teiau ar y tywod.

Yr oedd blynyddoedd olaf Ieuan yn rhai trist a chythryblus iawn. Dioddefodd ar hyd ei fywyd gan aflwydd y ddiod, efallai’r prif reswm am ei ddiffyg i ennill cydnabyddiaeth yn yr Eglwys. Ar y llaw arall rhaid nodi nad oedd hierarchaeth  yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn barod i hyrwyddo gyrfa athrylith a ymddiddorai mewn cyfoethogi diwylliant ac ysgolheictod Cymru. Dyma anghyfiawnder yr oedd Ieuan yn ymwybodol ohono gan iddo ysgrifennu traethawd llym ei gondemniad o’r agwedd hon, ond truth nas cyhoeddwyd ganddo.  Treuliodd Ieuan ddeng mlynedd olaf ei fywyd mewn anrhefn a chyni yn crwydro’r wlad ac yn byw ar garedigrwydd ei gyfeillion. Ar un cyfnod ceisiodd hyfforddiant i ddysgu Hebraeg ac Arabeg yng Nghaerfyrddin a  dro arall ceisiodd yn aflwyddiannus agor ysgol yn Aberystwyth. Drwy gydol ei oes, ac yn arbennig yn ei gyfnod olaf, yr oedd yn awyddus i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil ond ni lwyddodd i ddenu cefnogaeth ariannol  gan foneddigion Cymru i gyflawni’r gorchwyl.  Ar ei farwolaeth pwrcaswyd can cyfrol o’i ymchwiliadau gan Paul Panton o’r Plas Gwyn ym Môn fel rhan o’r nawdd a gyfrannodd i Ieuan yn ystod ei lesgedd olaf. Eraill, felly a fyddai’n derbyn y clod ac yn ymelwa o’i ysgolheictod.

Mae’n bur debyg na fyddai plwyfolion Llanllechid wedi gwerthfawrogi ysywaeth eu cysylltiad byr dymor ag athrylith Ieuan Brydydd Hir, ys dywed yr hen ymadrodd wrth ystyried doniau rhai dynion galluog ‘lle bo camp mae rhemp’.  Fel y dywedodd y bardd Siôn Dafydd Las wrth groniclo bywyd Ieuan :

‘Y gwŷr llên rhagor y lleill

A fyn gwrw’n fwy nag eraill’.

 

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 19 53.  Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.

Gweler hefyd y Bywgraffiadur Cymreig https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-EVA-1731

Gweler hefyd Eglwys Llanllechid.

Tŵr Llywelyn

Gweddillion y tŵr yn Nhyn Tŵr
Olion y tŵr ger Tyn Tŵr

Ffurfiwyd tirwedd Dyffryn Ogwen gan rewlifau anferth yn ystod Oes yr Iâ rhyw 14,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae ardal Pont Tŵr yn dwyn stamp y mowldio hwn. Ar derfyn y cyfnod, wrth i’r rhew gilio mae’n bur debyg fod llyn mawr wedi cronni ar ochr Nant Ffrancon o’r graig oedd yn creu rhwystr ar draws y dyffryn rhwng Caerberllan a’r coed ar drothwy Chwarel y Penrhyn ger Pont Tŵr. Bylchwyd y graig gan y dŵr mewn dau leoliad, sef ar wely presennol yr Afon Ogwen ac, yn ail, ar is-gangen o’r afon a fylchodd drwy Bodforus. Rhwng y ddau fwlch gadawyd craig Tyn Tŵr sydd heddiw yn stwmp ansylweddol ei faint ond a fyddai’n wreiddiol yn sefyll yn gadarn cyn bod mewn lenwi sylweddol wedi digwydd o’i amgylch.

Chwaraeodd ardal Tyn Tŵr ran holl bwysig yn hanes datblygiad Dyffryn Ogwen. Roedd hynny yn gyntaf fel man cyfarfod rhai o lwybrau pwysicaf yr iseldir cyn iddynt gysylltu â llwybrau ucheldir Nant Ffrancon. Yma felly, mewn agoriad cyfyng, lleolwyd y ffin rhwng yr iseldir a’r ucheldir gyda chyfuchlin 500 troedfedd yn dynodi man y cyfnewid. Dolen arall bwysig oedd y groesfan hynafol ar y bont dros Afon Ogwen rhwng plwyfi Llandygái a Llanllechid.

Cynllun Tyn Twr
Cynllun safle’r tŵr gan Robert Kiln (gweler y ffynhonnell isod)

Yng nghyfnod Tywysogion Gwynedd yn y drydedd ganrif ar ddeg mae’n amlwg fod gan graig Tyn Tŵr bwysigrwydd strategol arbennig. Cynllun y Tywysogion oedd cadarnhau canolbwynt eu teyrnas yn Eryri drwy warchod pyrth mynediad y dyffrynnoedd drwy adeiladu cestyll megis Dolbadarn a Dolwyddelan neu dŵr gwylio megis Dinas Emrys, ger Beddgelert. Tyn Tŵr oedd safle’r arsyllfa a reolai’r mynediad i Nant Ffrancon. Mae archwiliad archaeolegol wedi canfod bod adeilad o’r canol oesoedd cynnar wedi sefyll ar y graig ond ni lwyddwyd i gadarnhau mai hwn oedd y tŵr. Yr oedd yno ystafell yn perthyn i adeilad drylliedig, ac ymhlith y chwalfa o’i fewn yr oedd teilchion llestri Saintonge sy’n dyddio o’r 13eg a’r 14eg ganrif ymysg darnau o lestri mwy diweddar. Mae’n wybyddus yn ogystal fod brenin Lloegr, Edward y cyntaf wedi ymweld ag Abercaseg ar Orffennaf 4ydd 1284. Os ansicr y dystiolaeth archaeolegol nid felly y dystiolaeth ysgrifenedig sy’n cyfeirio mewn dogfen cyfraith tir gan y Penrhyn yn 1485 at ’le towre de Abercassek’. Ceir cyfeiriadau diweddarach at safle’r tŵr gan deithwyr cynnar, megis Pennant, ac edrydd Hugh Derfel Hughes fod yr olion yno i’w gweld mor ddiweddar a chanol y ddeunawfed ganrif.

Gweler hefyd erthygl Bodfaeo am ragor o wybodaeth am gysylltiad Tywysogion Cymru â Dyffryn Ogwen ac erthygl Tŷ John Iorc am ragor o wybodaeth am ardal Tyn Tŵr

Ffynhonnell

Robert Kiln. 2001.  John York’s Houses. Cymdeithas Archaeoleg Llandegai a Llanllechid