Cilfodan

Dyma erthygl gan un o’n cyfranwyr gwadd gan Dafydd Fôn Williams

 Mae fferm Cilfodan yn ddaliad o dir yn Nyffryn Ogwen.Yn wahanol i’r rhan fwyaf o diroedd y dyffryn, fu hi erioed ym meddiant y Penrhyn, a phrofodd hynny o fudd mawr i un teulu. Yr oedd y fferm yn ymestyn o’r mynydd uwchlaw Tyddyn Sabel, i lawr ar hyd Ffrydlas, at y ffin â fferm Pant, yna Pen y Bryn, ac i lawr ar hyd ffin Pen y Bryn i lawr i Ogwan. Yr ochr arall yr oedd yn ffinio efo Cae Ifan Gymro, ac yna ar hyd ffin stad Coetmor i Ogwan.

Ceir sôn am ei thir yn 1627, pan yw rhenti nifer o diroedd  all in the township of Bodfeio’ yn cael eu prynu oddi wrth Syr Thomas Williams, Y Faenol am £244 gan Morris ap John ap Ieuan o gwmwd Dinorwig. Gan mai aelod o deulu Cochwillan oedd y Syr Thomas Williams a werthodd y rhenti, mae’n debyg mai perthyn i Gochwillan yr oedd tir Cilfodan yn wreiddiol. Yn ôl y ddogfen hon, y caeau dan sylw yw

Pant y Cledr, Cae’r Chwarel, Cae’r Fedw Bach( alias Cae Fedw Goch Uchaf, Cae’r Fedw Goch Isa, Cae’r Cyll, Cae’r Clochydd, Cae’r Sgubor, Cae Pen y Gaer, Cae’r Fuches Hen, Cae Maes y Gaer, Cae yr Wafen ( sic)  Goch, y Cae Bychan, Cae yr Achub, Cae Brest y Gaer, Cae’r Foty, y Ffridd Uchaf, y Ffridd Isaf

Mae’r enwau yn dangos yn amlwg mai tir Cilfodan yw’r rhan fwyaf, os nad y cyfan,  o’r caeau hyn. Mae Cae Clochydd yn parhau yma. Fwy na dwy ganrif yn ddiweddarach mae les yn cael ei rhoi ‘ on a parcel of land called Cae Clochydd, bounded on the south-east by the river Ffrydlas, and on the west by the road leading from Pencarneddi to Bont Uchaf’. Mae’n ddigon hawdd, felly, adnabod ffiniau’r tir sy’n cadw ei enw mewn rhes o dai yn y Carneddi heddiw, a hwnnw’n enw sy’n bodoli ers o leiaf pedair canrif. Mae’r caeau sy’n cyfeirio at ‘gaer’ hefyd yn amlwg yn rhan o dir y fferm bresennol. Mewn dogfen o 1859 sonnir am roi les  i Robert Prees of Cilyfodan ‘ for 60 years of lands called Pen y Gaer, Pen y Gaer Bach, part of cae Fuches Hen, and Cae Fuches Ganol’, ac yn 1861 rhoddir les arall ar ‘Cae Cyll, and Cae Fuches Hen’, Yr un tiroedd yw’r rhain â’r caeau a nodir yn nogfen 1627, ond eu bod, mewn sawl achos, wedi eu rhannu ymhellach. Nid oes reswm, mewn gwirionedd, i gymryd nad oedd yr holl caeau a nodir yn 1627 yn perthyn i Gilfodan.

Ar Chwefror 10fed, 1628, gwnaed cytundeb pellach rhwng y Morris ap John ap Richard o Ddinorwig a nodwyd gydag Owen ap William ap Richard,  sef  ‘ mortgage for a period of 500 years of a close of arable land, meadow, and pasture called y Kae Garrow abutting the river called afon Ogwen in the township of Bofaio’. Enw arall ar Pant y Cledr ( sef un o’r caeau a enwir yng nghytundeb 1627) oedd Cae Garw, ( ceir ‘Cae Garw alias Pant y Cledr’ mewn dogfen arall yn 1691 ) ac fe fu tai o’r enw Cae Garw a Phant y Cledr yng nghyffiniau Pen y Graig, sy’n lleoli’r cae ble mae rhan o Fethesda heddiw hwn.

Yn 1660, yr oedd Cilfodan, hefyd, yn amlwg wedi dod i feddiant  yr Owen ap William ap Richard o Fodfeio a nodwyd, oherwydd mae cofnod ohono ef, a’i wraig, Elisabeth yn rhoi i’w mab, Ellice Owen

Gift of a messuage, tenement, and land called tythyn kil y fodan’ .

Mae’n debyg fod Cilfodan a Chae Garw yn ddau ddaliad gwahanol, gan fod cyfeiriadau at Gilfodan Uchaf a Chilfodan Isaf, gyda’r Isaf yn ymestyn i lawr at yr afon. Beth bynnag, mae’r caeau sy’n cael eu rhoi i Ellice yn gyffredinol yn rhai a enwir yn rhan uchaf Cilfodan wedi hynny. Yr hyn sydd fwyaf arwyddocaol am y weithred o roi’r tir i’r mab gan ei rieni yn 1660 yw fod y tir, am dros ddwy ganrif wedi hynny, yn aros  ym meddiant yr un teulu, sef teulu yr Ellice (Ellis)  Owen uchod, teulu y sefydlogodd eu cyfenw yn Ellis, ar ôl yr Ellice Owen hwn, mae’n debyg. Ellis fu’r teulu o ganol y 18fed ganrif ymlaen ( ar wahân i un gangen fu’n cyfnewid enw a chyfenw am ganrif wedyn ). Diddorol nodi, hefyd, ei bod yn ymddangos fod Owen yn enw ar fab, (hynaf, fel arfer),  y teulu bob cenhedlaeth wedi hynny.

Fel y nodwyd, erbyn 1691 mae’n sicr fod wedi dau ddaliad, gan fod dogfen ar gael sy’n cofnodi trosglwyddo rhan o dir Cilfodan gan Richard Rowlands a Henry Owen, Dologwen, i John Morris o Lanllechid fel gwaddol priodas. Awgryma enwau’r caeau a nodir mai’r rhan isaf Cilfodan yw hon. Diddorol iawn yw fod un cae yn 1691, fel yn 1627, yn cael ei enwi yn Cae Chwarel, sy’n gyfeiriad cynnar iawn at chwarelydda yn y dyffryn. Tybed ai dyma egin Chwarel Pantdreiniog, oedd i gyd ar dir yr hen Gilfodan?

Mae’n debyg yr arhosodd Cilfodan Uchaf yn nheulu Ellis ( er bod dogfen o 1733/34 y nodi fod y tir yn eiddo i Richard Williams, Kiltreflys, ‘yeoman’). Am Gilfodan Isaf, dengys treth tir 1792 fod gŵr o’r un enw â’r un a gafodd y tir ganrif ynghynt fel gwaddol priodas, John Morris, yn talu treth ar dir honno. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad ef oedd y perchennog, gan fod fod Owen Ellis ( perchennog y Gilfodan Uchaf ) wedi prynu’r tir ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1794, a hynny am £735, oddi wrth Maurice Jones, Gent, Bryn y Pin,  Gaerhun ( sef y Caerhun yn Nyffryn Conwy. Gyda llaw, wn i ddim a oedd Owen Ellis a Maurice Jones yn perthyn, ond, yn sicr, yn 1861, roedd ŵyr, neu or-wyr,  Owen Ellis, Owen arall, yn ffermio Bryn y Pin efo’i deulu ifanc). Beth bynnag oedd a wnelo yr ‘yeoman’ o Giltrefnus a’r lle yn 1733, mae’n amlwg mai’r Ellisiaid oedd yno o hyd, gan fod Owen Ellis yn talu treth tir ar Gilfodan Uchaf yn 1791, ac mae cyfeiriadau eraill at y teulu yng Nghilfodan yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n debyg fod gan drefn forgeisi’r cyfnod, ac o fenthyca yn erbyn tir, rywbeth i’w wneud a hyn. Beth bynnag am hynny, yn 1794, unwyd yr holl diroedd o’r afon i’r mynydd ym mherchnogaeth yr Ellisiaid. Roedd y pryniant hwn yn un hynod o ffortunus, gan iddo ddod ar yr adeg gorau posibl, o safbwynt lleoliad y tiroedd, a thwf y diwydiant llechi yn Nyffryn Ogwen. Doedd Owen Ellis ei hun ddim  yn byw yng Nghilfodan, er bod perthnasau iddo yno, gan ei fod ef yn ffermio i lawr ger Traeth Lafan. ( Gweler yr erthygl ar Cefnfaes am fwy am yr Ellisiaid )

Cyn sôn am gyfraniad Cilfodan i ddatblygiad Bethesda, dylid cyfeirio at un ffaith diddorol arall. Chwaer i’r Owen Ellis a nodir uchod oedd Elizabeth Ellis, neu, fel yr adwaenid hi ar lafar, Betsan Ellis. Yn 1771 roedd hi’n ferch ifanc yn byw yng Nghilfodan. Roedd hi’n un o’r Anghydffurfwyr cyntaf yn yr ardal, yn Fedyddwraig, a chafodd ei bedyddio, yn ôl yr hanes, mewn ffynnon ar dir Cilfodan ( neu, mewn cyfeiriad arall, yn afon Ffrydlas, ar dir y fferm ). Nodir mai yn ei chartref hi y cafwyd y bregeth Anghydffurfiol gyntaf yn yr ardal, ond mae amheuaeth ai yng Nghilfodan, ai yn y Tyddyn Isaf, y bu hynny, gan iddi symud i Dyddyn Isaf o Gilfodan. Beth bynnag am y lleoliad, gwyddom y traddodwyd y bregeth cyn 1785, gan i Betsan Ellis ymfudo i Ogledd America y flwyddyn honno.

Yn ôl at Owen Ellis, Chilfodan. Fe unodd ef diroedd y ddwy Gilfodan rhyw ddeng mlynedd wedi i Pennant uno’r gweithfeydd bychain annibynnol ar Gae Braich y Cafn. A brynodd o Gilfodan Isaf oherwydd ei fod yn rhagweld y dyfodol, neu am ei fod am fwy o dir? Pwy a ŵyr? Beth bynnag, fe brofodd yn bryniant hynod o ffodus iddo ef, a’i ddisgynyddion. Yn 1815/16 gwelwyd fod angen capel Methodistaidd mawr yn yr ardal, ac fe roddodd Owen Ellis brydles o gan mlynedd ar dir Cilfodan i adeiladu Capel Carneddi arno, a symudodd cynulleidfa fechan capel Rachub yno. Datblygodd Capel Carneddi yn fam eglwys holl gapeli Methodistaidd yr ardal. Cafodd £15 am y les, gydag ardreth blynyddol o £2.  Ar ôl 1815, y mae stryd fawr Bethesda, hefyd, yn datblygu, ac mae hon, i gyd o Gapel Bethesda ( codwyd 1820 ) i lawr at waelod y stryd, ar dir Cilfodan.

Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae fferm Cilfodan yn prysur ddadfeilio, oherwydd fod datblygiad Chwarel Cae Braich y Cafn wedi golygu twf mawr ardal Bethesda. Yng Nghyfrifiad 1841, gwelir fod na 88 o bobl yn byw mewn 44 o dai yn Llidiart y Gwenyn, ar dir Cilfodan.  Yn 1862, roedd teulu’r Ellisiaid yn derbyn rhent o rhwng £2 a £30 punt y flwyddyn am  y tai hyn. Hyd at 60au’r ganrif gwelir nifer helaeth o ddogfennau cyfreithiol sy’n dangos datblygiad Carneddi a Bethesda, a chynnydd eithriadol yng nghyfoeth yr Ellisiaid. Er enghraifft,  Chwefror 26, 1857, rhoddwyd les am 34 mlynedd ar

a parcel of land adjoining the road from Llanllechid to Carneddi, formerly part of a field called Llain y Tu uchaf i’r Ffordd, which was in turn called Cilyfodan’

er mwyn codi tri thŷ arno. Dim ond un o nifer  helaeth tebyg yw’r ddogfen hon.

Yn Nhachwedd yr un flwyddyn gwelir cytundeb rhwng Owen Ellis a Thomas Morris a John Roberts o Bantdreiniog, a Robert Griffith o Fethesda, ‘Grocer ‘

Draft lease for 51 years of certain lands called Tan y Ffordd, formerly part of Cilfoden Farm’

ar rent o £30 y flwyddyn gyntaf, a £60 y flwyddyn bob blwyddyn wedi hynny. Mae’r lleoliad, natur yr ymgymerwyr, a maint y rhent, yn awgrymu’n gryf iawn mai les i ddatblygu Chwarel Pantdreiniog yw hon.

Erbyn yr 1860au yr oedd Cilfodan Isaf, fwy neu lai, wedi diflannu’n gyfangwbl o dan y datblygiad trefol newydd o dai, siopau, swyddfeydd, a mannau busnes eraill a dyfasai yn sgil datblygiad Chwarel Cae. Ar ei thir y codwyd y Stryd Fawr bron i gyd, yr holl dai y ddwy ochr i’r stryd, a’r mwyafrif llethol o’r hyn oedd yn Fethesda a’r Carneddi, Bont Uchaf, Cae Star, Penygraig, Bryntirion, a nifer o dai bychain a elwid yn Twr Tewdws, nad oes, bellach ond un yn aros, sef Twr.

Erys Cilfodan ( Uchaf ) yn fferm hyfyw, ond gorwedd ei thir bellach rhwng ffordd Carneddi a’r mynydd. Gellir parhau i adnabod nifer o’r caeau o’u henwau dros dair canrif yn ôl. Fodd bynnag, mae gweddill ei chaeau o dan dai, ac o dan yr hen chwarel – bellach wedi ei llenwi – ambell un yn dal i gadw cof o gaeau’r fferm yn 1627 ac 1691

Ffynonellau

Dogfennau yn archifdy Prifysgol Bangor

Dogfennaeth Stad y Penrhyn

Map o diroedd y Penrhyn 1768

Hanes Methodistiaeth Arfon  Hobley

Cofnodion Cyfrifiad 1841, 1851, 1861, 1871

UNESCO a Thirlun Hanesyddol Dyffryn Ogwen

Ac mae Bethesda bellach yn rhan o gynllun Safle Treftadaeth y Byd yn hobnobio gyda Phyramidiau’r Aifft, Machu Picchu ym Mheriw, y Taj Mahal yn India a Chôr y Cewri yn Lloegr, i enwi ond dyrnaid o safleoedd byd-eang sydd ar restr dreftadaeth UNESCO! Ond gyda’r dynodiad daw cyfrifoldeb, a chyfrifoldeb sydd efallai heb ei egluro’n llawn gan y rhai sydd wedi hyrwyddo, ac a fydd o hyn allan, yn gwarchod y cynllun. Does dim dwywaith fod hwn yn gam pwysig yn hanes chwarelyddiaeth gogledd-orllewin Cymru, yn un i’w longyfarch a’i dderbyn yn wresog gan ei fod yn cynnig cyfleoedd arbennig i ddatblygiadau economaidd, amgylcheddol a diwylliannol os cânt eu datblygu yn gynaliadwy a chymeradwy er budd ein cymdeithas yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru.

Ond beth fydd ein cyfrifoldeb ni ym Methesda o fod yn rhan o’r cynllun hwn, a beth yn union sydd gan Fethesda i’w gynnig yn weladwy mewn dynodiad sydd mor uchelgeisiol ei bwyslais ar gadwraeth y safleoedd chwarelyddol a gwarchodaeth y tirlun hanesyddol? Ar un amser, yr oedd tirwedd Dyffryn Ogwen yn ddrych digymar i lafur ac ymroddiad y gorffennol. Nid hynny mo’r gwirionedd mwyach. Mae’r chwarel mewn gwaith, y pentref yn bod, a’r gymdeithas ar ei newydd wedd yn ffyniannus. Ond o edrych yn ofalus diflannodd sglein y tirlun hanesyddol drwy esgeulustod a dibristod hanner canrif a mwy o ddryllio ein treftadaeth.

Pan sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, gadawyd pob un o’r pentrefi chwarelyddol yn ynysoedd a oedd yn rhy frwnt i’w cynnwys o fewn tiriogaeth y Parc. A dyna eironi’r sefyllfa heddiw, sef mai’r ynysoedd ‘brwnt’ yw’r ‘perlau’ sydd i’w gwarchod fel rhan o’r cynllun treftadaeth. Canlyniad yr esgymuno bwriadol oedd iddo greu agwedd gwbl ddibris at gadwraeth ein treftadaeth hanesyddol. Dechreuodd yr alanastra yn Nyffryn Ogwen pan aeth Chwarel y Penrhyn i ddwylo barus cwmni rhyngwladol, a dilynwyd hyn gan gynllun y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd bryd hynny, i chwalu hen chwarel Pantdreiniog yng nghanol y pentref oherwydd peryglon y safle. Yn dra anffodus, bu i’r ddau drefniant greu agwedd o ddiffyg parch yn y gymuned at ein treftadaeth hanesyddol, ac yn fwy anffodus fyth, cafwyd yr awdurdodau cadwraethol sydd heddiw yn heidio, blithdrafflith, i warchod ein treftadaeth hanesyddol – Stad y Penrhyn, Cyngor Sir Gwynedd, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CADW, Y Comisiwn Brenhinol, Y Parc Cenedlaethol, a’r sefydliadau eraill sy’n perthyn i’r consortiwm cadwraethol – yn hepian cysgu megis wrth ddrws agored y stabal.

Chwarel penrhyn 5
Mawredd ponciau chwarel y Penrhyn cyn y distryw

Chwarel y Penrhyn oedd gem bensaernïol holl chwareli gogledd Cymru, yn gyfanwaith cymesur, urddasol a naddwyd ris wrth ris i glogwyni’r Fronllwyd drwy lafur cenedlaethau o chwarelwyr diwyd. Ac yr oedd harddwch i’w ganfod yn nhrefnusrwydd y distryw. Diflannodd yr hen ogoniant pan bwrcaswyd y chwarel gan gwmni barus rhyng-genedlaethol gan gychwyn cyfnod o ysbeilio’r gloddfa i ennill y geiniog olaf drwy ddistryw ffrwydrol direol. Yr oedd y chwarel yn hen ffasiwn ac angen ei moderneiddio, ond nid drwy fandaleiddio ei gorffennol. Chwalwyd y ponciau ar ochr chwith y gwaith, arllwyswyd miloedd ar filoedd o dunelli o rwbel i lenwi’r twll, a rhwygwyd peirianwaith y systemau heidrolig oedd wedi ei weithio drwy gydol cyfnod ei datblygiad – peiriannau a oedd yn eu dydd ymhlith y mwyaf blaengar ym myd chwarelyddiaeth. Gyda chynllunio mwy hyderus gallesid fod wedi arbed rhannau mwyaf hanesyddol y gwaith i’w gwarchod yn gofadeiliau byw ar gyfer addysgu’r dyfodol. Ac er ein gwarth, cofadail mwyaf gwarthus y chwarel yw’r ysbyty yn ei chyflwr cyfeiliornus, sefydliad a gyfrannodd yn arloesol yn ei ddydd at feddygaeth gymunedol a chenedlaethol. A gwell peidio â sôn am reilffordd y chwarel a werthwyd yn ddigywilydd yn sgrap, a’r injans stêm yn drysorau i’w gweld mewn sefydliadau mwy goleuedig ledled Prydain a’r tu hwnt, ond yr un bellach yn pwffian yn hudolus yn Nyffryn Ogwen.

A hanes tebyg sydd i gadwraeth pentref Bethesda – nid yr harddaf o bentrefi Cymru ond un sydd ag iddo gymeriad unigryw. Amgylchiadau gwahanol sydd wedi amddifadu’r pentref o’i dreftadaeth ddiwylliannol. Aethpwyd ati’n ddi-feind i chwalu y rhan fwyaf o gapeli’r fro – Carmel, Carneddi, Giatws, Hermon, Salem, Siloam, Tabernacl, Treflys,  Saron, Peniel, Penygroes, Amana, Gerlan – oll yn sefydliadau ysbrydol a diwylliannol ac yn gofgolofnau pwysig yn y tirlun hanesyddol. Paham y distryw heb ystyried dulliau mwy cynhwysol o gadwraeth gynaliadwy? A dyna hanes trist stryd fawr y pentref. Yr oedd i’r stryd fawr ei statws fel prif wythïen fasnach y gymuned, tra ei bod hi hefyd yn enghraifft gyflawn, ddiddorol o bensaernïaeth o Oes Edward a Fictoria.  Penllwydni rhyfeddol oedd penderfyniad y gymuned yn y 1970au i wrthod cael ffordd osgoi i’r pentref, gyda’r canlyniad fod yn agos i gant a mwy o lorïau’r dydd yn tagu rhwydd ddefnydd ohoni heddiw gan danseilio ei masnach a’i phriodoldeb cymdeithasol. Ac yn yr un cywair di-feind aethpwyd ati i fylchu ei hundod pensaernïol. Os mai’r bwriad oedd adnewyddu ei defnyddioldeb cymdeithasol drwy greu encil cymunedol yn Llys Dafydd drwy chwalu’r tai gwreiddiol a’u cyfnewid am grocbren erchyll ei luniad, yna aflwyddiant fu’r cynllun tra bo trafnidiaeth ddi-baid y dydd yn taranu heibio. Pa ddiben felly oedd creu adnodd prin ei ddefnydd ar draul bylchu cydbwysedd cymhlethiad unigryw yn y tirlun hanesyddol?

Yn bresennol mae 34 o safleoedd cofrestredig a phedair ardal gadwriaethol yn Nyffryn Ogwen, oll ar gofnod eu gwarchod, ac mae’n amlwg y dewisir mwy o safleoedd yn y dyfodol i atgyfnerthu’r dynodiad.  Nodir y rhestr isod gan mai ychydig a ŵyr leoliad y safleoedd na’r rhesymau o blaid eu dynodi. Yn eu plith mae rhesdai Caerberllan sy’n enghraifft arbennig o dai gwaith o gyfnod cynnar yn y 19g. Yno, mae’r pwyslais cadwraethol ar ddiogelu lluniad y tai – dim ffenestri a drysau plastig i’w anharddu a’r canopi uwch y drws ffrynt wedi eu cadw yn ddiwahân. Ond os diogelu’r tai, paham nad y gerddi a oedd yn rhan annatod o’r datblygiad gan Stad y Penrhyn? Yno yr oedd y cwt glo, y cwt golchi dillad, ac ym mhen draw’r ardd, y lle chwech. Prin fod yr un o’r adeiladau hyn yn aros – un neu ddau o gytiau glo ac un lle chwech drylliedig, yr holl gynllun yn ei gyfanrwydd wedi ei chwalu drwy esgeulustod gan y gwasanaethau cadwraethol, ac megis un enghraifft yw hon o nifer lle mae cynllunio direol wedi anharddu bythynnod a thai traddodiadol ein bro. Nid yw cadwraeth ein treftadaeth hanesyddol yn golygu cadw pob twll, tomen a thwlc yn y tirlun ond mae’n golygu ceisio gwarchod rhai enghreifftiau arbennig yn eu cyfanrwydd fel eu bod yn ddrych o’r gorffennol i’w cyflwyno i gymdeithas newydd ddeallus y presennol. A dyna fydd amcan cynllun Treftadaeth y Byd i ni yn yr ardal hon.

Nid ar chwarae bach y dewiswyd Dyffryn Ogwen i fod yn rhan o’r dynodiad, ond mae cymalau niferus yn clymu’r anrhydedd i ofynion UNESCO drwy ofalaeth corff World Heritage Watch.  Ac os bydd y warchodaeth yn anaddas yng ngolwg y corff hwn gall hynny arwain at golli statws y dynodiad fel y digwyddodd yn ddiweddar yn hanes dinas Lerpwl. Mae gan hyn ei oblygiadau hirdymor bid sicr, er na ellir yn hawdd eu deall yn ieithwedd jargonistig-gymylog cyflwyniad y cynllun. Yn Nyffryn Ogwen, mae’r cynllun yn ddewisol iawn ei ffiniau a’i gynnwys- yn ganolog ynddo mae pentrefi Bethesda, Gerlan, Mynydd Llandygái a Llandygái, ac mae rhannau ochr chwith y chwarel o’i fewn, fel mae tentaclau llwybrau rheilffordd y chwarel, Lôn Las Ogwen a Ffordd Telford i gysylltu â’r cei yn Abercegin. Nid yw Rachub, Llanllechid na Thregarth yn rhan o’r cynllun, ac yn y dynodiad ehangach nid yw Llanberis, Pen-y-groes, Llanllyfni na’r Felinheli o fewn cwmpas y tirlun dewisedig.

Yn y cyflwyniad jargonistig, cyfeirir at effeithiolrwydd y system gynllunio i warchod y ‘living urban areas’ sydd, o ddarllen rhwng y llinellau, i gynnwys traddodiadau diwylliannol cryf yr ardal, gyda chyfeiriad ymyl y ddalen megis at arfer y bröydd o ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y diwylliant. Yn ei hanfod nid cynllun diwylliannol mo’r hyn a gyflwynir yn nynodiad Treftadaeth y Byd oherwydd ei brif amcan yw cadwraeth yr elfennau ffisegol sydd yn y tirlun – cofrestrir y safleoedd o bwys, gosodir mesurau i’w gwarchod o fewn Cynllun Rheoli Lleol, a sefydlir strategaeth fonitro i werthuso effeithiolrwydd y cynllun rheoli. Ychwanegir at nifer y safleoedd yn yr ofalaeth a disgwylir bod holl werthoedd y cynllun treftadaeth yn cael eu gwarchod gan y prosesau cynllunio. Sefydlir strategaethau i hybu twristiaid i fynychu ‘eiddo’ y dynodiad ond nid oes gair am greu cynlluniau i warchod yr iaith Gymraeg o fewn y tirlun hanesyddol. Gellir barnu, o ddarllen rhwng llinellau’r argymhellion uchod, fod ton ychwanegol o fiwrocratiaeth i gael ei ychwanegu ar gefn ein cymdeithas.

Prif wers Dyffryn Ogwen i’w dysgu i Gynllun Treftadaeth y Byd UNESCO yw’r modd y tanseiliwyd gwarchodaeth ar y dreftadaeth hanesyddol drwy fynnu budrelw, drwy gamweinyddu, drwy ddiffyg cynllunio strategol, drwy arweiniad diffygiol a bwnglera ymhlith y cyrff a oedd i fod i wybod, ac a ddylai fod wedi gweithredu’n well yn y gorffennol. Gyda chymaint o drwynau’r amryfal asiantaethau a sefydliadau statudol cadwraethol yn y cafn, a ellir disgwyl llawer gwell yn y dyfodol dan gynllun mawreddog UNESCO i warchod treftadaeth frau ein hiaith a’n diwylliant hanesyddol yma yn Nyffryn Ogwen? Amser a ddengys pa frwdfrydedd fydd gan y gwas newydd o gofio ei bod yn haws sefydlu na gweithredu gwarchodaeth.

*Daw’r tri llun yn yr erthygl hon o gasgliad y diweddar Alaw Jones, Parc Moch drwy garedigrwydd a chaniatâd

Rhestr Adeiladau Rhestredig Bethesda

Capel Bethania – Gradd 2

Gwesty’r Victoria – Gradd 2

King’s Head – Gradd 2

11 Stryd John – Gradd 2

10 Stryd John – Gradd 2

18 Ffordd Penybryn – Gradd 2

16 Ffordd Penybryn – Gradd 2

Capel Jerusalem – Gradd 1

Eglwys Glanogwen  – Gradd 2

1 Rhes Ogwen – Gradd 2

2 Rhes Ogwen – Gradd 2

8 Rhes Ogwen – Gradd 2

10 Rhes Ogwen – Gradd 2

17 Rhes Ogwen – Gradd 2

22 Rhes Ogwen – Gradd 2

Cofeb y Rhyfel – Gradd 2

Carreg Filltir Telford  Rhos y Nant – Gradd 2

Pont y Gaseg – Gradd 2

Ffermdy Abercaseg – Gradd 2

Pont Abercaseg – Gradd 2

Caerberllan 1 – 12 – Gradd 2

Ardaloedd Cadwraeth

Rhes Gordon

Rhes Elfed

Lôn y Graig

Braichmelyn