Ysgolion Cynradd Llanllechid

Ar ddydd Iau, 3ydd Mehefin, 1954 agorwyd Ysgol Gynradd newydd Llanllechid gan yr Athro Syr Idris Ll. Foster. Yr oedd yr achlysur yn gyfle i ganfod hanes ymdrechion y gorffennol i sefydlu cyfundrefn addysg ffurfiol i blant y pentref a’r ardal. Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg dim ond aelodau’r dosbarth breintiedig a gai addysg ac felly hanes cyflwyno cyfleoedd i drwch poblogaeth gyffredin yr ardal a ddathlwyd drwy agor yr ysgol newydd yn Llanllechid yn 1954.

Ffig 4 Ysgol
Yr Ysgol genedlaethol ar y sgwâr

Mudiadau gwirfoddol oedd cyfranwyr sylfaenol addysg yn yr ail ganrif ar bymtheg ac yng nghwrs y ganrif sefydlwyd nifer o ysgolion elusennol o dan eu cyfarwyddyd yn Llanllechid. Gellir olrhain yr ysgol gyntaf a agorwyd o dan nawdd Ymddiriedolaeth y Welsh Trust i tua 1675. Mudiad oedd hwn a drefnwyd gan Thomas Gouge (1605?-1681), gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr a anwyd yn Llundain a’i addysgu yn ysgol Eton a phrifysgol Caergrawnt, i efengyleiddio Cymru. Hyrwyddwyd ei waith gyda thanysgrifiadau gan arweinwyr crefyddol o Loegr a Chymru a sefydlodd oddeutu 300 o ysgolion yng Nghymru gyda’r bwriad o ddysgu plant tlodion y wlad i ddarllen ac ysgrifennu, i gyfrif ac i adrodd y Catecism. Cyfrwng y dysgu oedd Saesneg, ond er budd y bobl hynaf cyfieithwyd llawer o lyfrau i’r Gymraeg, gan gynnwys argraffiad o’r Beibl, cyfraniadau annisgwyl wnaeth hyrwyddo gwaith rhai o’r mudiadau a’i dilynodd. Ar farwolaeth Gouge yn 1681 terfynwyd gwaith y mudiad a daeth yr ysgolion i ben, ond yr oedd hedyn addysg wirfoddol wedi ei hau yn Llanllechid fel yng ngweddill Cymru.

Arloeswr mawr yr ysgolion elusennol yng ngogledd Cymru oedd John Jones (1650-1727), ac yn 1689 ef oedd Deon Bangor a rheithor Aber a Llanllechid. Cyfraniad mawr y gŵr nodedig hwn oedd sylfaenu a gwaddodi ysgolion i blant tlodion yn y plwyfi yr oedd ganddo gysylltiad â hwy a threfnu mai yn y Gymraeg y dysgid Catecism Eglwys Loegr. Brodor o Bentraeth, Ynys Môn, oedd ef, ac er ei addysgu yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt deallai mai megis rhoddi’r drol o flaen y ceffyl fyddai ceisio dysgu yn Saesneg i blant plwyfolion a oedd yn uniaith Gymraeg. Agorodd ysgol yn Llanllechid oddeutu 1700 ac ymhlith eraill o’i gyfraniadau nodedig oedd dosbarthu llyfrau Cymraeg a sefydlu llyfrgelloedd ymhlith ei blwyfolion. Ei bryder mawr yn 1716 oedd bod y plant yn rhy dlawd i ddod i’r ysgol yn gyson gan eu bod yn treulio eu hamser yn cardota a gweithio ar y ffermydd mewn plwyf nad oedd ei boblogaeth yn fawr mwy na 450. Yn ei ewyllys gwaddododd naw ysgol i addysgu plant y tlawd ac yr oedd ysgol Llanllechid yn un o’r rhai a elwodd gyda chymynrodd o £100. Yn ôl ei gyfarwyddyd yr oedd llog blynyddol y swm i’w ddefnyddio i gynnal ysgol rad i ddeuddeg o blant y plwyf gyda’r nod o’u dysgu i ddarllen Cymraeg yn berffaith. Derbyniai’r ysgolfeistr £4 y flwyddyn o’r llog a’r gweddill i’w ddefnyddio i brynu llyfrau neu ddillad i’r plant tlotaf. Ychwanegwyd toll y ffordd o Fangor i Bwllheli at y gymynrodd a defnyddiwyd cymynroddion eraill i chwyddo’r swm blynyddol.

Derbyniodd John Jones gefnogaeth gan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol (SPCK) yn ei gwest addysgol. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn Llundain gan Thomas Bray yn 1698 i wrthsefyll anlladrwydd drwy ddysgu canonau’r ffydd Gristionogol. Nod deublyg y gymdeithas oedd sefydlu ysgolion elusennol a thaenu’r efengyl Gristnogol. Erbyn 1715 llwyddwyd i agor oddeutu 68 ysgol yng Nghymru gyda churadiaid yr eglwysi yn dysgu’r disgyblion i ddarllen ac ysgrifennu, ond gan mai Saesneg oedd iaith y dysgu ni ellid disgwyl y byddai ymdrechion y gymdeithas yn llwyddiannus eithriadol. Ni agorwyd ysgol yn Llanllechid, ond y gymdeithas hon a sbardunodd gychwyn mudiad addysgol Griffith Jones (1683-1761), Llanddowror a sefydlwyd ysgol lwyddiannus dan ei nawdd ef yn Nhanybwlch a bu’n weithredol o1749 hyd 1767. Er ei fod yn gefnogwr cynnar o’r SPCK yr oedd yn amheus o bwyslais y gymdeithas ar ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn hytrach nag ym mamiaith y plant. Ei ateb oedd sefydlu cyfresi o ysgolion cylchynol yn 1731 ac ef yn anad neb fu’n gyfrifol am alluog i’r Cymry fod yn genedl lythrennog, ac ar ei farwolaeth yn 1761 amcangyfrifir bod o leiaf chwarter miliwn wedi mynychu’r ysgolion dros gyfnod o dri deg mlynedd. Daeth oes yr ysgolion hyn i ben yn ystod wythdegau’r ddeunawfed ganrif.

Ar ganol y ddeunawfed ganrif yr oedd dwy ysgol led lwyddiannus yn Llanllechid, y naill yn cael ei chynnal mewn ystafell fechan y tu cefn i dŵr yr eglwys a’r llall yn nhŷ bonheddig Tanybwlch, a’r ddwy gyda’r pwyslais ar ddysgu drwy’r Gymraeg. Mantais fawr ysgol John Jones oedd bod cymynroddion yn ei chynnal i’r dyfodol, ond ei hanfantais oedd agwedd wrth-Gymreig yr Eglwys Anglicanaidd i addysg, yn arbennig felly gydag ethol Saeson yn esgobion yng Nghymru drwy gydol hanner olaf y ganrif a chychwyn y nesaf, cyfnod diffrwyth yr Eingl-esgobion. Gwrthbwys i hyn i raddau helaeth oedd llwyddiant mawr ysgolion Sul yr enwadau ymneilltuol a oedd i chwarae rhan allweddol yn addysgu plant a phobol mewn oed i fod yn llythrennog yn y cyfnod wnaeth ddilyn. Had a heuwyd gan ysgolion cylchynol Griffith Jones oedd sylfaen llythrennedd y Cymry a oedd yn uwch ar gyfartaledd nag yn unrhyw ran arall o Brydain, a’r llwyddiant hwn a oedd i fwydo gwleidyddiaeth radical yr oes a ddilynodd. Datblygodd gweithgarwch yr ysgol Sul, dan arweinyddiaeth fedrus Thomas Charles (1755-1814) o’r Bala, yn gyflym gan ysgogi’r holl enwadau Anghydffurfiol i ymuno yn yr ymdrech i gyfrannu at wybodaeth Feiblaidd y Cymry a chyfoethogi eu dealltwriaeth drwy fedru darllen. Daeth yr ysgolion yn rym dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru gyda mwy yn eu mynychu ar y Sul nag yn yr ysgolion ffurfiol yn yr wythnos. Cydnabyddir mai’r ysgol Sul oedd magwrfa llawer o arweinwyr y genedl yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffaith a wireddwyd ar ei ganfed ym mywyd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol Dyffryn Ogwen yn ogystal.

Canlyniadau cymdeithasol y Chwyldro Diwydiannol a thwf enfawr ym mhoblogaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ymhlith y ffactorau pwysicaf a greodd yr angen i sefydlu cyfundrefn addysg hyblyg a theg i blant o bob haen yn y gymdeithas. Sefydlwyd ysgol Genedlaethol gyntaf Dyffryn Ogwen yn Rachub yn 1828 ar dir a roddwyd gan glerigwr o Landdeiniolen ar gost o £155.11.11. Derbyniwyd benthyciad o £100 gan Maurice Gruffydd, prifathro olaf hen ysgol eglwys Llanllechid, a chafwyd cymorth ychwanegol o £30 gan y Gymdeithas genedlaethol. Meddai’r ysgol ar safle blaenllaw ar y sgwâr ac yn 1832 cyflog blynyddol y prifathro oedd £30 a ‘gwobr’ yr athrawes am ddysgu gwnïo oedd £3.10.0, a’r ddau i ddysgu rhwng 50 i 80 o fechgyn a merched yn gymysg. Dangosodd ymchwiliad y comisiynwyr yn 1847 (Brad y Llyfrau Gleision) pa mor ddiffygiol oedd y ddarpariaeth swyddogol yng Nghymru oherwydd safon isel yr athrawon, niferoedd y plant i’w dysgu a chyflwr gwael yr adeiladau y dysgid hwy ynddynt. Er mawr ryfeddod ni feirniadodd y comisiynwyr y ddarpariaeth yn ysgol Genedlaethol Rachub yn 1847 ond erbyn 1864 dengys y gofrestr fod 95 bachgen a 108 merched i’w dysgu gan ddau athro a oedd yn gyfrifol am yr ysgol. Er bod trwch poblogaeth Rachub megis wyth o bob deg yn Anghydffurfwyr, yr ysgol Genedlaethol oedd yr unig sefydliad i gynnig addysg ffurfiol i blant y pentref hyd nes i ysgol Frutanaidd gael ei hagor yn 1851. Derbyniwyd rhodd o £144 yn ewyllys Owen Jones, un o athrawon hen ysgol Llanllechid, i sefydlu’r ysgol ar dir Plas Pistyll a gyflwynwyd gan ei wraig ar lecyn canolog yn y pentref. Yn 1864 yr oedd 75 o ferched a 75 o fechgyn yn cael eu dysgu yn yr ysgol anenwadol hon gan ddau athro, ond gyda chefnogaeth capel Peniel y Methodistiaid  Calfinaidd yn Llanllechid.

Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg gosodwyd seiliau deublyg i addysg gynradd ym mhentref Rachub a’r rhaniad wedi ei bennu gan ddaliadau crefyddol yn hytrach na chyfarwyddyd addysgol fel y digwyddodd ym mhob pentref arall yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod. Dwy ysgol mewn pentref o lai na mil o boblogaeth a’r ddwy yn cydfyw yn weddol gytûn, er efallai mewn cystadleuaeth, ac ar brydiau dan straen pan oedd cysylltiadau diwydiannol yn bygwth creu rhaniadau cymdeithasol yn y gymdogaeth. Trosglwyddwyd yr Ysgol Frutanaidd i ofal y Cyngor Sir yn dilyn Deddf Addysg 1902 gyda’r awdurdod lleol yn gweinyddu’r gyfundrefn o hynny ymlaen, tra bod yr Ysgol Genedlaethol yn parhau i gael ei chynnal drwy roddion gwirfoddol ac elusennau hyd oni yn 1948, yn dilyn gofynion Deddf Addysg 1944, yr aeth y baich o’i chynnal yn drech na’r eglwys. Bu llawer cais i uno’r ddwy ysgol o ddauddegau’r ganrif ymlaen hyd oni ddaethpwyd i gytundeb yn 1949 i gael un ysgol yn Llanllechid ac, yn dilyn cyfnod byr pryd y gweinyddwyd yr ysgol ar y ddau safle, yr agorwyd yr ysgol newydd yn 1954.

Golygodd uno’r ysgolion fod addysg gynradd yn Llanllechid wedi ei ffurfioli ar ôl mwy na dwy ganrif o hanes ymgyrch arwrol i gyflwyno cyfundrefn addysg deg a chytbwys i blant y pentref, ac mae’n bleser cael cofnodi fod Ysgol Llanllechid heddiw ymhlith y goreuon o holl ysgolion cynradd Gwynedd. Ond rhaid talu teyrnged yn ogystal i waith gwirfoddolwyr ysgolion Sul capeli’r pentref a osododd sylfaen llythrennedd yn y Gymraeg i genedlaethau o blant, a chofnodi fod ysgol Sul capel Carmel yn dal i gyfrannu yr un mor ddylanwadol gyda’r gwaith heddiw. 

Gwybodaeth gyda diolch i Vivienne Parry, Llanfairpwll a Dilwyn Pritchard, Bron Arfon, Rachub

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

William John Lloyd. 1954.  Addysg yn Llanllechid. Rhan o anerchiad  yn seremoni agor Ysgol Gynradd Llanllechid ym mis Mehefin 1954. Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon.

Ysgol Tan Capel

Capel Bethesda

Clochydd yn eglwys Llandygái yn 1765 oedd Thomas Thomas y dylid ei anrhydeddu fel un o addysgwyr cyntaf Dyffryn Ogwen. Meddai Hugh Derfel wrth gyfeirio at athrawon cynnar y fro ‘er nad oedd yr ysgolfeistri yn drwyddedig, na dysgedig fel y deallir y geiriau heddyw, eto hwy a’r offeiriaid oedd unig oraclau yr hen amser o’r bron …yr oedd yn dda eu cael pryd hynny. Goleuasant gannwyll, ac nis diffoddir hi’.

Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sefydlwyd dwy ysgol Genedlaethol yn Nyffryn Ogwen, y naill yn Llandygái a’r llall yn Rachub, a thrwy ryfedd rawd bu i’r ddwy osgoi beirniadaeth lem y tri chomisiynydd a benodwyd gan y llywodraeth yn 1846 i ymchwilio i sefyllfa addysg yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad rhagfarnllyd, hiliol a gwrth Gymreig y comisiynwyr yn y flwyddyn ganlynol, a chyfeirir ato gyda dirmyg yng Nghymru fel adroddiad Brad y Llyfrau Gleision. Serch bod cyfrifiad crefyddol 1851 yn dangos fod 80% o boblogaeth Cymru yn Anghydffurfwyr neu’n Ymneilltuwyr prin iawn oedd ysgolion y Gymdeithas Frutanaidd – y British and Foreign School Society -yng Nghymru. Ysgogodd agwedd wrthwynebus adroddiad y comisiynwyr i’r Gymdeithas Frutanaidd sefydlu ysgolion ar gyfer plant o gartrefi Ymneilltuwyr o’r pumdegau ymlaen er mwyn gwrthbwyso dylanwad Seisnig ac Anglicanaidd y Gymdeithas Genedlaethol.

Erbyn 1864 roedd saith ysgol oedd ag athrawon trwyddedig ynddynt yn Nyffryn Ogwen – pedair gan y Gymdeithas Genedlaethol (Anglicanaidd), yn Rachub, Llandygái, Bodfeurig a Glan Ogwen; ysgol ‘rydd’ yn Nhŷ’n Tŵr; a dwy gan y gymdeithas Frutanaidd (Anghydffurfiol) yn Rachub a Charneddi. Er, gellir amau effeithiolrwydd darpariaeth a olygai bod prifathro ac un athrawes yn brwydro i ddisgyblu hyd at 280 o blant, yn fechgyn a genethod fel yn ysgol Tŷ’n Tŵr bryd hynny! Saesneg oedd iaith yr addysg yn ysgolion y ddwy gymdeithas, adlais o argymhellion y comisiynwyr ar y naill law, a’r awydd i lwyddo mewn byd o ddiwydiant a masnach ganol y ganrif ar y llaw arall. Câi dysgu elfennau addysg ffurfiol ei lesteirio gan fater yr iaith ond llwyddai’r Ysgolion Sul i roddi sylfaen gadarnach yn y Gymraeg i blant ac oedolion gan lwyddo i ddenu mwy o ddisgyblion na’r ysgolion dyddiol.

Seler capel Bethesda lle cynhelid ysgol Tan Capel

Fel rhan o’r cynllun i ail adeiladu Capel Bethesda rhwng 1872 ac 1874 cynlluniwyd ystafell helaeth dan y capel gyda’r bwriad o sefydlu ynddi ysgol Frutanaidd gan fod teimlad cryf y dylid sefydlu ysgol Frutanaidd yn y pentref ei hun i wrthbwyso dylanwad ysgol Genedlaethol Glan Ogwen. Gwrthododd yr Arglwydd Penrhyn a rhyddhau tir ar gyfer y fenter ac ariannwyd y cynllun gyda chasgliadau o gapeli Ymneilltuol y pentref. Drwy ystryw ryfygus W. J. Parry, blaenor mwyaf blaengar y capel a gŵr busnes mwyaf llwyddiannus yr ardal, trefnwyd i agor yr ysgol heb ganiatâd awdurdodau’r Llywodraeth yn Llundain. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol yn 1874, gyda Llew Tegid o’r Bala yn brifathro, gyda chymorth un athrawes a dau ddisgybl-athro i addysgu tri chant a hanner o fechgyn a genethod o gartrefi Ymneilltuol y pentref. Enw’r ysgol oedd Cefnfaes yn unol ag enw’r stad a oedd yn  ganolbwynt y pentref, ond fel ysgol Tan Capel y cyfeirid ati yn lleol.

Er cymaint rhyfyg Parry yn sefydlu’r ysgol yr oedd yn rhyfeddod iddi llwyddo mewn adeilad a oedd mor anaddas. Cafwyd adroddiad damniol ar yr ysgol gan yr arolygwyr yn 1898 yn nodi’r holl wendidau. Mesurai seler y capel oddeutu 17 metr wrth 16 metr gydag uchder yr ystafell yn llai na 4 metr (51’x 48’x11’), ac yn 1878 yr oedd 273 o blant yn mynychu’r ysgol. Nid oedd golau digonol nac awyr iach yn cyrraedd y dynjwn a gorchuddiwyd y ffenestri gyda bariau metel i warchod y gwydr rhag ei falu gan fandaliaid. Twymid yr ystafell gydag un tân glo. I ychwanegu at y caddug rhennid y seler gyda llenni cochddu trymion i greu llochesau anaddas ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau. Rhannai’r bechgyn a’r merched yr un cyfleusterau cadw cotiau a defnyddid y cyntedd ar gyfer cotiau’r plant bach. Yr oedd y llefydd chwech yn annigonol a gorfodid y plant bach i ddefnyddio’r un cyfleusterau â’r bechgyn. Rhedai carthffos o dan ystafell y plant bach a’i lleoliad yn rheswm digonol i gondemnio’r holl adeilad. Ar derfyn yr iard chwarae llifai Afon Ogwen a dderbyniai holl ysbwriel y plant o’r ffrydiau agored a lifai drwy’r llain cyfyng, ac yn Awst 1879 difrodwyd y maes chwarae wrth i lif yr afon olchi’r mur ataliol ymaith.

Gellir amgyffred pryder y prifathro mewn cyfeiriad yn Llyfr Cofnodion yr ysgol, dyddiedig y cyntaf o Ebrill 1899, sy’n nodi – ‘We had a new teacher yesterday… she has been never teaching before so, of course, could not be expected to know much of the management of a class of children’. O dan yr amodau rhyfeddol hyn sut rhaid gofyn sut yr oedd yn bosibl i blant y cyfnod dderbyn addysg gymwys? Ac eto er gwaetha’r holl rwystrau yr oedd llwyddiannau, fel y dengys praffter cymdeithas lengar a chrefyddol pentref Bethesda yn ystod cyfnod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafwyd rhybudd yn 1899 gan y Bwrdd Addysg oni symudid yr ysgol i leoliad newydd erbyn y diwrnod olaf o Fai 1901 y byddai grant cynnal y sefydliad yn cael ei atal. Clustnodwyd safle yn Twr ar ymyl gogledd eithaf stad Cefnfaes ar gyfer adeiladu’r ysgol. A dyna oedd dechrau ymgyrch bur chwerw rhwng yr Ymneilltuwyr a’r Anglicaniaid cyn y llwyddwyd i sefydlu ysgol newydd y Cefnfaes yn 1907. Dadl yr Ymneilltuwyr oedd y dylid sefydlu Bwrdd Addysg i hyrwyddo addysg y pentref yn ei chyfanrwydd ond gwrthwynebid hyn yn ffyrnig gan yr Anglicaniaid. Mewn cyfarfod ym mis Mawrth 1893 dadleuai’r Canon Morgan, offeiriad Eglwys St Cross, Talybont, y byddai sefydlu Bwrdd yn gyfystyr â chreu ‘the most destructive thing that could be introduced into Bethesda and would be infinitely worse than the Disestablishment of the Church’ ac yng nghyngerdd blynyddol ysgol Tan Capel i ddathlu dydd Gŵyl Dewi Sant yn 1901, pwysleisiai’r Cadeirydd, y Parch Isfryn Hughes gweinidog Siloam, fod gwrthwynebwyr y cynllun yn defnyddio dulliau annheilwng a chelwyddog i annog y Bwrdd Addysg i wrthod sefydlu’r ysgol. Yr oedd ariannu’r fenter hefyd yn creu anawsterau enfawr gan fod yr ymgyrch yn cyd-daro ag un o gyfnodau mwyaf dirdynnol hanes Dyffryn Ogwen pan oedd dioddefaint a chynni ar ei waethaf yn ystod cyfnod y Streic Fawr. Cost adeiladu’r ysgol newydd oedd £3500 ac erbyn mis Hydref 1902 dim ond £800 oedd wedi ei danysgrifio a dyddiad cau Tan Capel wedi ei bennu ar gyfer diwedd y flwyddyn honno. I geisio ysbrydoli’r ymgyrch trefnwyd danfon dirprwyaeth at Gyngor Eglwysi Rhyddion Dinas Lerpwl ym mis Hydref 1902 a derbyniwyd cefnogaeth ariannol i hybu’r ymgyrch ymlaen. Rhaid cydnabod i’r Bwrdd Addysg fod yn hynod gymwynasgar yn oedi’r bygythiadau i gau’r hen ysgol oherwydd yn y diwedd ni chafodd ei hagor hyd nes Tachwedd 15fed 1907.

Ysgol y Cefnfaes a Chwarel Pantdreiniog

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

J. Elwyn Hughes.2007  Canmlwyddiant Ysgol y Cefnfaes, Bethesda

W. J. Parry.  Hanes fy mywyd a’m gwaith. Bethesda

Adroddiadau yn y papurau newydd canlynol – Caernarvon and Denbigh, Mawrth 1893;  North Wales Express, Mawrth 1901, Hydref 1902, Tachwedd 1902, Gorffennaf 1909.

Sgwâr Rachub

Y sgwâr ydy canolbwynt pentref Rachub, man cyfarfod Allt Cefn Bedw o Fryn Bella, ffordd yr Allt Goch o Dalybont, ei hestyniad ymlaen i Garneddi ac, yn olaf, Stryd Fawr y pentref. Yno yn 1850 yr oedd buddiannau prif stadau’r fro hefyd yn mynnu prancio’n rhodresgar, megis mewn ffilm Western heb y gynnau! Ystyriwch, wrth gerdded i gyfeiriad Carneddi, ar y chwith roedd tafarn y Royal Oak ar dir stad annibynnol Plas Pistyll; gyferbyn roedd tafarn y Bardsey Island ar dir stad Coetmor; i’r dde roedd Cae’r Groes, cae agored yn perthyn i Fferm Talysarn ar dir stad Penrhyn; ac ar y gongl ddwyreiniol roedd Ysgol Wladwriaeth yr Achub, yr ysgol fel petai’n cadw’r heddwch rhwng rhengoedd y stadau cystadleuol.

Ffig 4 Ysgol
Ysgol y Wladwriaeth a adeiladwyd yn 1828

Sefydlwyd yr ysgol yn 1828, y gyntaf o ysgolion y Wladwriaeth yn Nyffryn Ogwen i gynnig addysg i blant yr eglwys. Noddwyd yr ysgol gan ficer Llanddeiniolen, ac yn 1863 yr oedd 95 o fechgyn a 108 o enethod ar y gofrestr o dan ofal un athro trwyddedig ac un athrawes. Wrth i’r pentref dyfu sefydlwyd ysgol i blant o gartrefi anghydffurfiol yn 1853 ac adeiladwyd Ysgol Frytanaidd ar dir Plas Pistyll, y tro hwn â nawdd gan un wraig gyffredin. Ffig 7 Capel CarmelYn llechu i’r dwyrain ar fin y Stryd Fawr mae capel Carmel yr Annibynwyr a ailgynlluniwyd yn 1860 gan un o benseiri enwocaf capeli Cymru y Parchedig Thomas Thomas.

A beth oedd hanes y ddwy dafarn? Mae’r Royal Oak yn dal ar agor yn dysteb i annibyniaeth Stad Bryn Pistyll. Nid felly y Bardsey Island sy’n diflannu o restrau tafarnau’r fro toc wedi 1874. Nid disychedu oedd y rheswm am ei diflaniad ond yn hytrach benderfyniad yr Arglwydd Penrhyn i gau’r holl dafarnau a oedd ar dir ei stad, wedi iddo, yn achos y Bardsey brynu stad Coetmor yn 1855. Trodd y Bardsey Island yn dyddyn Llwyn Bleddyn Isaf a thrwy gytundeb yn 1894 ychwanegwyd dwy acer a hanner o dir at yr ofalaeth. Ond er cof am y dyddiau gynt mae hen enw ar lafar y dafarn yn aros sef ‘Rynys.

Mae gweddill daearyddiaeth y sgwâr yn adrodd cyfrolau am ddylanwad cyfoeth mewn cynllunio. Ar dir Cae’r Groes, ar y chwith wrth wynebu Carneddi, adeiladwyd y tai yn rhes igam-ogam, y mwyafrif ohonynt o gynllun gwahanol ond wedi eu hadeiladu, hyd y gwelir, o gerrig bras heb eu torri. Ar y llaw arall ar ochr arall y ffordd ar stad y Penrhyn mae rhes o dai unffurf eu cynllun a adeiladwyd o feini a saernïwyd yn gywir.

Mae holl hanes cystadleuol stadau Dyffryn Ogwen ar glo ym meini mud y tai o bob tu i sgwâr Rachub.