Nant Tŷ

nant-y-ty-20
Paentiad J.T. Parry o Nant Tŷ, casgliad preifat drwy ganiatâd

Prin fod neb bellach yn gwybod am Nant Tŷ, y murddun sy’n swatio’n ddisylw uwchlaw ceunant Cerrig y Rhyd ger Tan y Foel ar Afon Ffrydlas. A pham dewis adrodd stori am ddyheadau ac uchelgais y teulu a drigai yn yr adfail hwn rhagor na theuluoedd adfeilion eraill cyffelyb y dyffryn? Un rheswm yw bod hanes y teulu yn wybyddus inni, ond rheswm pwysicach yw y gwnaethpwyd paentiad olew o’r tŷ gan yr artist lleol J.T. Parry (1853-1913) ac mae’r paentiad ei hun yn symbol gweladwy o uchelgais y teulu ar dro’r ugeinfed ganrif.

nant-ty-2
Murddun Nant Tŷ heddiw

Nid oes cofnod o bryd yn union yr adeiladwyd Nant Tŷ, nid oedd yno yn 1768 er bod dau gae Nant Du yn perthyn bryd hynny i fferm fynydd Cymysgmai. Yn 1841 yr oedd Nant Du yn bodoli ac roedd yn gartref i ŵr gweddw John Rowlands ac oedd yn chwarelwr 60 oed ac i’w fab 25 oed John Thomas a’i briod Mary. Cofnodir bod ganddynt ferch naw diwrnod oed o’r enw Elinor ond nid oes cofnod o John y mab sy’n ymddangos yng Nghyfrifiad 1851 yn fachgen deuddeg oed. John Thomas oedd deiliad Nant Du hyd at 1871, er ei fod wedi mabwysiadu Rowlands fel cyfenw erbyn y cyfrifiad olaf a bod enw’r tŷ wedi newid o Nant Du i Nant y Tu a Nant Tŷ. Rhwng mis Ionawr 1837 a Rhagfyr 1852 ganed saith o blant i John a Mary ac fe oroesodd tair o ferched a thri bachgen. Afraid fyddai dilyn hynt a helynt yr holl blant; bu i bob un ond un sef Robert briodi a magu teulu, ac yr oedd rhai yn fwy llwyddiannus nac eraill. Canolbwyntiwn felly ar Mary, hi oedd tin y nyth. Treuliodd rai blynyddoedd yn forwyn yn ei chartref yn Nant Tŷ cyn derbyn y cyfle i briodi â gŵr gweddw a oedd bedair blynedd ar bymtheg yn hŷn na hi. Symudodd i fyw i’w gartref ym Mhen y Bryn ac i dŷ sylweddol ei faint a llawer mwy na Nant Tŷ a adeiladwyd brin ddeng mlynedd ar hugain yn gynharach. Nid oedd teulu y Rowlansiaid yn eithriadol hapus ynghylch priodas Mary yn ôl y sôn.

penybryn-1884
Ffotograff o 1884 o’r cartref ym Mhen y Bryn y byddai Mary yn symud iddo ar ôl iddi briodi

Chwarelwr darbodus a diwylliedig oedd y gŵr hwn ac yn 1892 ganed un bachgen iddynt pan oedd Mary yn 39 oed. Yn 1908 bu farw ei gŵr gan adael Mary yn weddw, ond mewn amodau cyfforddus o ystyried cyflwr dirwasgedig Dyffryn Ogwen yn dilyn Streic Fawr 1900/03. Ar ddiwrnod ei angladd dywedir na fynnai teulu’r Rowlansiaid ddod i mewn i’r tŷ ond cytunasant i sefyll ar y ffordd gyferbyn. Ond er gwaetha’r trallod o golli ei gŵr yr oedd Mary yn uchelgeisiol iawn ar gyfer dyfodol ei  mab. Er iddo adael yr Ysgol Sir yn un ar bymtheg oed i weithio mewn swyddfa cyfreithiwr ym Methesda cofrestrodd yn 1910 i ddilyn cwrs diploma mewn peirianneg drydanol ym Mhrifysgol Bangor. Nid fel peiriannydd trydanol yr adnabyddir y mab, er iddo dreulio gyrfa yn y diwydiant, ond yn hytrach fel enillydd cyntaf medal ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 ac fel crëwr Siôn Blewyn Coch, un o hoff gymeriadau straeon cenedlaethau o blant Cymru.

nant-ty-1911
Ffotograff o Anne Rowlands, Margaret Pritchard a Daniel J Pritchard, preswylwyr olaf Nant Tŷ yn 1912

 

Yn y cyfamser John, brawd hynaf Mary, a symudodd i fyw i Nant Tŷ ac ef a’i deulu oedd yr olaf i fyw yno fel y dengys ffotograff o’i wraig Anne Rowlands sy’n sefyll o flaen y tŷ yn 1912. A dyma’r cyfnod pryd mae’n debyg y comisiynwyd J. T. Parry i beintio’r darlun o Nant Tŷ gyda’r wraig yn sefyll yn falch o flaen y drws ffrynt.

Advertisements

Cwm Idwal

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Llyn Ogwen a Nant y Benglog, Llyn Idwal a Chwm Clyd o gopa’r Garn

 

aaam-sedgwick1
Adam Sedgwick, Athro Daeareg, Prifysgol Caergrawnt

Dychmygwch eich bod yn ymweld â Chwm Idwal yn 1831 ac yn gweld dyn ar gefn ceffyl a nifer o fechgyn ieuanc yn casglu darnau o greigiau er mwyn iddo wneud astudiaeth fanwl ohonynt a’u cofnodi’n ofalus.Y gŵr oedd Adam Sedgwick (1786-1873), athro daeareg ym mhrifysgol Caergrawnt a chlerigwr ordeiniedig yn yr Eglwys Anglicanaidd yn ôl arfer y cyfnod. Y bechgyn ieuanc oedd ei fyfyrwyr, ac yn eu plith roedd llanc hynod ddisglair o’r enw Charles Darwin. Ystyriwch hefyd y cyfnod. Ym mhen gogleddol Nant Ffrancon yr oedd Richard Pennant yn gosod seiliau’r chwyldro diwydiannol yn chwarel Cae Braich y Cafn, ac ym mhen deheuol y dyffryn yr oedd rhai o feddylwyr academaidd amlycaf chwyldro dysg yn gosod sylfaeni’r gwyddorau naturiol ym meysydd daeareg ac esblygiad biolegol. Ystyrir Sedgwick yn un o dadau sylfaenol gwyddor daeareg fodern. Ef, yn dilyn ei waith yng Nghwm Idwal, a sefydlodd ddosbarthiad creigiau’r cyfnod Cambriaidd, a phriodoli’r enw Lladin ar Gymru i gyfnod eu ffurfiant. Roedd hynny yn union fel y rhoddwyd enwau llwythau Brythonig Cymru, yr Ordoficiaid a’r Silwriaid, i’r cyfnodau daearegol a ddilynodd. Digon yw nodi mai dosbarthiad y systemau hyn sy’n sefydlu trefn olyniaeth daeareg yr holl fyd erbyn hyn.

charles-darwin
Charles Darwin yn 1838 yn ŵr ifanc 30 oed; braslun gan yr arlunydd George Richmond

Yn dilyn ei ymweliad â Chwm Idwal cerddodd Darwin o Nant Ffrancon i’r Bermo gan sylwi ar dirwedd a daeareg Eryri. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach ymunodd â mordaith wyddonol y Beagle i Ynysoedd y Galápagos. Ar y fordaith sylwodd ar arfordir pegwn eithaf De America a gweld yno rewlifoedd yn llenwi’r dyffrynnoedd hyd at lannau’r môr a sylweddoli fel y gallasai grym nerthol y rhew drawsnewid y tirlun yn ei gyfanrwydd i greu mynyddoedd, dyffrynnoedd, llynnoedd a nodweddion ffisegol tebyg i’r rhai a welodd ar ei daith drwy Eryri. Digon yw nodi i ymchwil Darwin yn Ynysoedd y Galápagos arwain at gyhoeddi ei gyfrol enwog The Origin of Species a drawsnewidiodd holl gredo’r byd academaidd am esblygiad yr hil ddynol, ond stori arall yw honno na thrafodwn yn y fan hon. Mae’n ddiddorol nodi, er hynny, nad oedd Sedgwick, fel clerigwr ordeiniedig, yn fodlon derbyn damcaniaeth chwyldroadol Darwin am esblygiad y ddynol ryw.

Pe byddai Sedgwick yn fyw heddiw fe fyddai wedi rhyfeddu o wybod am hanes datblygiad y cyfnod Cambriaidd y gwnaeth ef gymaint i’w ddiffinio. Yn y cyfnod Cambriaidd, oddeutu hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl, yr oedd uwch-gyfandiroedd Pannotia a Gondwana yn hollti yn hemisffer y de ac yn graddol symud i gyfeiriad hemisffer y gogledd.

gondwonoland
Cynllun o gyfandiroedd symudol Gondwana yn ystod cyfnod y Triasig, tua 190 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Yr oedd Gondwana i dorri i fyny i ffurfio Laurentia, Baltica a Siberia. Nid oedd planhigion yn tyfu ar wyneb y cyfandiroedd hyn gyda’r canlyniad fod gwyntoedd cryfion a glaw yn golchi gwaddodion oddi ar y tir i’r moroedd bas a oedd yn cylchu’r cyfandiroedd cynnar. Yn y môr yr oedd bywyd newydd yn ffynnu ar ffurf treiliobeitau (arthropodau môr) a brachiopodau (anifeiliaid morol di-asgwrn cefn) ac yn arwain at greu amrywiaeth o ffurfiau amlgellog gwahanol. Ar ddechrau’r cyfnod Cambriaidd yr oedd cyfres o ynysoedd folcanig ar hyd ymyl ogleddol uwch gyfandir Gondwana ac yn raddol daeth y rhain at ei gilydd i ffurfio micro-gyfandir Afalonia. Mae rhan o’r micro-gyfandir hwn yn cyfateb i’r hyn sydd heddiw yn ffurfio gogledd a gorllewin Cymru. Yn y cyfnod Cambriaidd yr oedd y rhan hon yn ymsuddo i ffurfio basn morol dwfn a dderbyniai waddodion a olchwyd i mewn iddi dros gyfnod o tua 150 miliwn o flynyddoedd. Mewn cyfnodau pan oedd dyfroedd y basn yn ddwfn dyddodwyd haenau o laid a mwd. Cafodd y dyddodion hyn eu hechdynnu a’u trawsffurfio yn y cyfnod Ordoficaidd a ddilynodd i ffurfio llechfeini Cambriaidd Eryri. Yn yr un cyfnod yr oedd grymoedd tebyg yn ffurfio basnau morwrol ar ymylon micro-gyfandir Laurentia ac mewn amser yr oedd y rhain hefyd i arwain at greu haenau’r llechfeini Cambriaidd yng Ngogledd America.

nant-ffrancon-oes-yr-ia
Llun o arfordir Tierra del Fuego heddiw gyda thirwedd a rhewlifau tebyg i rai Nant Ffrancon 14 mil o flynyddoedd yn ôl

Dyma felly yn fras iawn y cefndir daearegol i sefydlu diwydiant llechi Gwynedd a thaleithiau Vermont ac Efrog Newydd yng Ngogledd America. A dyma bontio’r gagendor rhwng hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd creigiau Cambriaidd Cwm Idwal, Eryri a Gogledd America yn eistedd dros begwn y de, a chyfnod diweddar y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan aeth ymfudwyr o Fethesda a Gwynedd i sefydlu’r diwydiant llechi yng Ngogledd America. Pe gwyddai Richard Pennant am olud llechi Vermont siawns na fyddai wedi ceisio eu datblygu i ychwanegu at fuddsoddiad ei deulu ym mhlanhigfeydd siwgr y Caribî. Ond yn ystod cyfnod ei olynwyr yn Chwarel y Penrhyn yn bennaf yr ymfudodd llech gloddwyr Dyffryn Ogwen i ddatblygu golud llechi ardaloedd gogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau. Mae’n rhyfedd meddwl sut y gall un rhan o’r byd ymelwa o wasgfa economaidd rhan arall o’r byd, a thrwy hynny greu cysylltiad rhwng dwy gymdeithas mewn dau gyfandir pellennig. Byddai Sedgwick wedi rhyfeddu o ddeall hynny bid sicr!

Ffynonellau 

Roberts, Brinley. 1978. O’r Ddaear Gyntefig hyd y Presennol: y perspectif daearegol. Y Creu, Gol. R. Gareth Wyn Jones a J. Ll. W. Williams. Y Gwyddonydd, Cyfrol 16, Rhif2/3, 82-95.

James, Evan L. 1978. Y Cyfandiroedd Symudol. Y Creu. Gol. R. Gareth Wyn Jones a J. Ll. W. Williams. Y Gwyddonydd, Cyfrol 16, Rhif 2/3, 96-103.

Parc Cenedlaethol Eryri/Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad) Pamffled –Taith Darwin trwy Eryri.

Eglwys Llanllechid

Yn ôl traddodiad danfonodd uchelwr o Lydaw, Ifor Hael, ei fab Tegai a’i ferch Llechid, yn genhadon i Gymru yn ystod y seithfed ganrif Oed Crist gan sefydlu’r eglwysi sy’n dwyn eu henwau yn Nyffryn Ogwen.  Cyfeiriwyd at yr eglwys ganoloesol gyntaf yn Llanllechid mewn rhestr gwerth o Norwich yn dyddio i 1284, ond ni chanfyddir enw rheithor cyntaf yr eglwys, Robert Evans, Deon Bangor, hyd 1534. Disgrifiwyd yr eglwys fel adeilad hir ac isel yn cynnwys corff yn mesur 14.9 medr (49 troedfedd) wrth 14.6 medr (48 troedfedd) ei hyd a 6 medr (20 troedfedd) wrth 14.6 medr (48 troedfedd) yn y gangell. Yr oedd iddi lawr carreg a lle i 214 o gymunwyr addoli. Yn y pen deheuol adeiladwyd capel gweddi bychan, ond dengys bras gynllun o’r eglwys yn 1768 fod adeilad bychan yn cydio yn y pen dwyreiniol yn ogystal, gan roddi i’r adeilad siâp llythyren C y tu wyneb allan.

eglwys-llanllechid-1768
Manylyn o fap Arolwg y Penrhyn 1768 yn dangos braslun o ffurf eglwys ganoloesol Llanllechig. O Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Nodir fod seiliau’r eglwys gynnar wedi’u lleoli i’r dwyrain o’r eglwys bresennol. Amgylchynwyd yr eglwys gan y fynwent hirsgwar ei ffurf gyda mur uchel yn ei chau ar ymyl y ffordd, ond yr oedd gweddill y fynwent yn agored i’r caeau a’i hamgylchynai. Yr oedd y fynedfa yn arwain o’r ffordd ar ymyl y dwyrain.

porth-eglwys-llan-1
Porth eglwys wreiddiol Llanllechid o’r canol oesoedd a gynhwyswyd o fewn adeiladwaith yr eglwys bresennol

Mae porth presennol yr eglwys yn dyddio o gyfnod y canol oesoedd ac felly dyma’r unig nodwedd o’r eglwys wreiddiol sydd wedi goroesi i’r presennol

Cynhaliwyd ymchwiliad gan esgob Bangor yn 1623 i’r holl gwynion yn erbyn offeiriaid ei esgobaeth. Yn Llanllechid cydnabyddid mai dim ond tri gwasanaeth y flwyddyn a gynhelid, er bod traddodiad yn mynnu mai yn y Pasg yn unig y cynhelid y gwasanaeth blynyddol. Achwynwyd hefyd fod ceffylau’r rheithor y Dr Gruffydd William (1587?- 1673) yn halogi’r fynwent. Y Dr Gruffydd hwn oedd rheithor Llanllechid ac am gyfnod byr ei arhosiad cyflwynodd eglwys Llanllechid i wleidyddiaeth wenwynig yr eglwys, y frenhiniaeth a’r senedd yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Brodor o gylch Llanrug oedd Gruffydd Williams. Addysgwyd ef yn lleol cyn mynd yn fachgen 16 oed i ysgol Eglwys Grist, Rhydychen. Oddi yno aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt gan raddio yn 1606. Cymhwysodd ei hun ymhellach drwy ennill nifer o raddau uwch gan gynnwys gradd Doethor mewn Diwinyddiaeth yn 1621. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1607 a dechreuodd ddringo yn gyflym iawn drwy rengoedd yr eglwys. Bu’n ddarlithydd yng ngholeg eglwys gadeiriol Sant Paul a derbyniodd reithoriaeth un o blwyfi’r ddinas drwy ddylanwad ei gyfaill a’i noddwr John Williams (gweler Tŷ John Iorc a Y Dalar Hir). Yn anffodus iddo ataliwyd ei yrfa eglwysig yn 1616 pan bregethodd, fel cefnogwr brwd i’r brenin, yn erbyn y Piwritaniaid a chyhoeddi llyfr The Resolutions of Pilate nad oedd yn dderbyniol gan esgob Llundain. Gwaharddwyd ef rhag pregethu ond drwy ymyrraeth ffafriol ar ei ran gan Archesgob Caergaint penodwyd ef yn rheithor Llanllechid. Mae blynyddoedd ei arhosiad yn Llanllechid yn cyfateb i gyfnod rhwng 1617 ac 1621, ond nid i 1634 fel y nodir gan Hugh Derfel. Nid oedd yn gyfnod hawdd oherwydd croesodd gleddyfau diwinyddol a gwleidyddol â Lewis Bayly, esgob Bangor, a oedd yn Biwritan rhonc. Unwaith yn rhagor achubwyd ei gam gan archesgob Caergaint, ond erbyn 1624 ymadawodd am Gaergrawnt ac yn 1625 penodwyd ef yn gaplan teuluol Iarll cyntaf Penfro.

Dychwelodd yn ôl i’r gogledd yn 1626 a derbyniodd reithoriaeth Trefdraeth ym Môn. Penodwyd ef yn gaplan brenhinol yn 1636 a’r un flwyddyn gwnaed ef yn ddeon eglwys  gadeiriol Bangor, swydd a gadwodd mewn enw o leiaf hyd ddiwedd ei oes. Bu’n agos at gael ei wneud yn diwtor i’r Tywysog Charles a Dug Caerloyw yn 1636 ond ni enillodd gefnogaeth yr archesgob William Laud ac aeth y swydd i ffefryn arall. Yn 1641 cysegrwyd Griffith yn esgob Ossory (Swydd Kildare) yn Iwerddon yn yr un flwyddyn ag y derbyniodd ei gydwladwr a’i gyfaill John Williams ffafriaeth y brenin a’i wneud yn esgob Caerefrog. Fis yn unig wedi ei ddyrchafu yn Ossory gorfu i Griffith ffoi o Iwerddon pan dorrodd gwrthryfel allan yn y wlad a dihangodd i’w gartref yn swydd Northampton. Yr oedd y blynyddoedd a ddilynodd rhwng 1645 a’r Adferiad yn 1660 yn rhai eithriadol gythryblus ac ansefydlog yn ei fywyd wrth iddo deithio o un man i’r llall yn ddi-angor, weithiau yn Northampton neu Rydychen, yn Llundain neu Iwerddon, ac am gyfnod estynedig yn Llanllechid. Difrodwyd ei gartref yn Northampton gan filwyr y Weriniaeth gan adael ei wraig a’i blant yn dlodion, ac ar daith o Ddulyn i Gymru yn 1647 ymosodwyd arno gan ddwyn ei arian a’i adael ar ofyn ei gyfeillion. Drwy’r cyfnod hwn yr oedd ei fywyd mewn perygl ac mae’n rhyfeddol na chafodd ei garcharu a’i ddienyddio o ystyried mai ef oedd un o awduron mwyaf cyson , toreithiog a tanbaid ei gyfnod yn ei gondemniad o’r Senedd a chulni ei chrefydd Biwritanaidd. Llosgwyd ei gyfrol The Grand Rebellion yn gyhoeddus yn 1647 ac yn ei gyfrol fawr The Great Antichrist Reveled yn 1660 mae’n disgrifio’r llywodraeth yn San Steffan fel ‘a collected pack or multitude of hypocritical, heretical, blasphemous and most scandalous wicked men that have fulfilled all the prophecies of the Scripture’. Pa ryfedd felly nad oedd ei feirniadaeth yn dderbyniol gan ei elynion!

Ond pam y dychwelodd i Lanllechid tua 1647? Yno yr oedd ganddo eiddo a brynodd, mae’n debyg, yng nghyfnod ei arhosiad cyntaf fel offeiriad yr eglwys yn 1617. Ef oedd perchennog Plas Hwfa, yn ogystal ag un tyddyn, pedwar tŷ a naw cae, eiddo tipyn llai rhodresgar na’r hyn yr oedd yn gyfarwydd ag o mewn rhannau eraill o’r wlad, ond eiddo a’i cynhaliodd yn llafurio fel tyddynwr cyffredin drwy gyfnod estynedig ei arhosiad. Tybed a fyddai wedi cyfarfod â’i noddwr mewn dyddiau gwell, John Williams, a ffodd hefyd, yn ôl traddodiad, i Ddyffryn Ogwen? Go brin, efallai, gan fod John yn chwarae ffon ddwybig yn ystod y cyfnod hwn yn cyfryngu gyda’r Seneddwyr ar ôl cael ei amddifadu o’i loches yng nghastell Conwy. Serch hynny yr oedd Griffith yn bresennol yng nghynhebrwng John yn eglwys Llandygai yn 1650.

Sut dylid gwerthfawrogi bywyd Griffith Williams yr offeiriad gyda’i gysylltiadau brenhinol a’r offeiriad gwrthodedig a alltudiwyd i Lanllechid? Mewn oes eithriadol dymhestlog a gwenwynig ei chysylltiadau gwleidyddol gellir awgrymu mai offeiriad bydol yn hytrach nag un ysbrydol ydoedd, gyda’i uchelgais ar ddringo ysgol hierarchaidd yr eglwys a chadw ffafrau’r frenhiniaeth. Ni ellir amau ei allu ysgolheigaidd, ei ddewrder mewn print na’i deyrngarwch i’r brenin a’i harweiniodd at dlodi personol. Nid oedd cyfaddawdu yn rhan o’i gymeriad ac yn ystod cynni eithaf ei gyfnod yn Llanllechid gwrthododd fywoliaeth fras eglwys yn swydd Gaerhirfryn yn ogystal â chynnig o dâl o £100 y flwyddyn gan y Senedd ar yr amod y byddai’n ymostwng i’r drefn. Ar y llaw arall yr oedd ei deyrngarwch i’r brenin yn fwy felly nag i’w deulu. Cafodd ei wysio gerbron yr uchel gomisiwn yn 1636 am esgeuluso ei wraig a gorfu iddo arwyddo ymrwymiad gwerth £500 y byddai o hynny ymlaen yn ei pharchu fel y dylai bonheddwr barchu ei wraig. Ac yn Llanllechid mae’n bur debyg y byddai ei geffylau wedi derbyn mwy o’i sylw na’i blwyfolion. Ond ar ei farwolaeth nid anghofiodd ei ddyled i Lanllechid. Yn ei ewyllys yn 1671 barnodd fod gwerth trethadwy ei eiddo yn y plwyf i’w ddefnyddio er sefydlu elusen i gynnal y tlodion, ymrwymiad o ddyngarwch gan ŵr eithriadol fydol ei fuchedd.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Dodd, A.H.. 1968. A History of Caernarvonshire, 1284-1900. Caernarvonshire Historical Society. Caernarfon.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 1953. Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain

Blwyddyn Newydd Dda

Blwyddyn Newydd Dda i ddarllenwyr gwefan Hanes Dyffryn Ogwen a chroeso i bob darllenydd hen a newydd. Cawsom hoe bach yn ystod mis Rhagfyr gan fod Meilyr, bachgen bach Lowri a anwyd ym mis Hydref, wedi hawlio’r sylw i gyd! Mae gennym nifer o ysgrifau wedi’u paratoi ar gyfer 2017 ac fe ddylent ymddangos yn rheolaidd dros y misoedd nesaf. Rhowch wybod os oes gennych syniadau am erthyglau neu os oes gennych chi gywiriadau i’r erthyglau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi yma. Yn ôl ystadegau’r wefan mae ganddi eisoes ddarllenwyr ym mhedwar ban byd ond cofiwch sôn wrth eich teulu a’ch cydnabod amdani. Diolch i chi sydd eisoes yn  darllen y wefan a gobeithio y gwnewch fwynhau’r arlwy sydd i ddod.

Pob dymuniad da.

John a Lowri