Chwarel William Williams

williams williams
William Williams o’r Tŷ Mawr yn Llandygái

William Williams o’r Tŷ Mawr yn Llandygái, y gŵr gwybodus ac amryddawn y mae Dafydd Glyn Jones wedi ysgrifennu cofiant mor ardderchog yn clodfori ei gyfraniad a’i fywyd, oedd rheolwr chwarel lechi Cae Braich y Cafn. Hon oedd y chwarel, ar odre Y Fronllwyd ym mhlwyf Llandygái a drawsnewidiodd ardal dawel, wledig Dyffryn Ogwen yn un o fwrlwm gwyllt y Chwyldro Diwydiannol. Hon oedd y chwarel hefyd a roddodd gychwyn hael i  lwyddiant ariannol teulu’r Penrhyn yn ystod oes aur y diwydiant llechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1782 prynodd Richard Pennant brydlesau wyth deg o gloddwyr ar ffridd Cae Braich y Cafn gan sefydlu yno un chwarel wnaeth uno’r cloddfeydd afreolus a oedd ar safle’r comin cyn hynny. A William Williams, fel is-reolwr ymarferol y stad a dderbyniodd gan Richard Pennant y swydd o ddatblygu’r chwarel.

cynllun chwarel
Cynllun W. Jones, Bangor o Chwarel y Penrhyn yn 1793 – atodiad yn Chwareli a Chwarelwyr, W. J. Parry 1897.

Tybed sut chwarel oedd Cae Braich y Cafn pan fabwysiadwyd hi gan William Williams yn 1782? Ceir cipdrem ar gyflwr y gwaith mewn adroddiad, â chynllun i’w ganlyn, a gyflwynwyd i’r Arglwydd Penrhyn ym mis Mehefin 1793 gan W(illiam?) Jones o Fangor.  Yr oedd y chwarel wedi’i rhannu yn saith adran a’i datblygiad yn dilyn nifer o dyllau yn y brig llechi ar echel o’r dwyrain i’r gorllewin. Rhestrwyd y tyllau yn yr adroddiad ac mae’n amlwg fod rhai ohonynt eisoes yn hen ac eraill megis ar gychwyn.  Twll Hen Nantwich, ar drothwy de-ddwyrain y gwaith, oedd canolbwynt y chwarel gyntaf, tra bo twll Nantwich Newydd yn y broses o’i ail ddatblygu o hen gloddfa gynharach. Yr oedd y ddau dwll, Dwndwr Uchaf a Dwndwr Isaf, yn gloddfeydd newydd yn gweithio hyd at ben eithaf y gorllewin o’r wythïen lechi, ac yn amlwg i’w datblygu gyda gofal. Yr oedd twll Dwndwr Uchaf eisoes wedi torri drwy wal warcheidiol y mynydd ac yn rhybudd y byddai’r chwarel yn sicr yn y dyfodol o ymestyn ymhellach i gyfeiriad y gorllewin. Yn olaf, megis ar gychwyn eu gweithio yr oedd pyllau arbrofol Chwarel y Pwll i’r de a Phwll yr Aur i’r gogledd. Ar derfyn y gogledd o’r gwaith gwelir fod y tomennydd rwbel wedi’u trefnu i agor i’r tir agored fel na fyddent yn tagu datblygiad pellach yn y tyllau.

Mewn chwarel a oedd megis ar ei chychwyn yr oedd gofyn goresgyn nifer o rwystrau. Yn dra phwysig nodwyd ar y cynllun drywydd y graig folcanig a oedd yn brigo drwy’r chwarel ar ffurf croes. Mae’n amlwg fod presenoldeb y graig galed hon eisoes yn creu rhwystr i ddatblygiad y gwaith ac yr oedd, ymhen amser, i amlygu ei hun ym mhinacl talsyth, caled y Talcen Mawr nas chwalwyd hyd at gyfnod diweddarach yn hanes y chwarel. Rhwystr arall oedd fod dŵr yn cronni wrth i’r pyllau gael eu dyfnhau. Nodir, er enghraifft, fod angen rhyddhau dŵr o waelod twll Hen Nantwich, ac yn y cynllun fe welir fod dwy ffos yn arwain allan o’r twll gydag olwyn ddŵr yn gyrru’r peirianwaith i sychu’r safle. Yn gysylltiedig â’r holl byllau yr oedd 69 o fargeinion wedi’u gosod a’u hansawdd yn amlwg yn amrywio o’r gwael, i’r derbyniol a’r penigamp yn ôl y manylion a gyflwynwyd gan William Jones. Wedi’u gwasgaru drwy’r chwarel, ond heb gynllun arbennig i’w dosbarthiad, gwelir y waliau ar gyfer trin y cerrig ond ni roddir sylw pellach i’w nodweddion yn yr adroddiad. Mae’n agos i 30 o’r waliau wedi’u nodi yn y cynllun. Yn 1793 wynebai nifer dda o’r bargeinion broblemau ymarferol anodd cyn y byddent yn gynhyrchiol. Y broblem bennaf oedd torri pen rhydd yn y fargen i gyrraedd at graig dda, ac mewn rhai bargeinion yr oedd rwbel o gyfnod cynharach neu, yn fwy arbennig yn Nhwll Dwndwr Uchaf, gysylltiad â’r trawst folcanig, yn creu rhwystrau ychwanegol. Mewn rhai bargeinion yr oedd yn angenrheidiol dyfnhau’r twll er mwyn dadorchuddio’r lechfaen islaw, ac yn ddiddorol iawn nodir mai deuddeg ceiniog y dydd oedd y tâl am glirio’r brig yn Nantwich Newydd. Nodir enwau deiliaid pob un o’r bargeinion. Er bod rhai enwau yn cyfateb i rai o gloddwyr cyntaf y chwarel, megis John Edmwnd neu Gruffydd Jones, Tŷ Hen, ni ellir bod yn sicr faint o’r cloddwyr gwreiddiol cyn 1782 a oedd yn dal yn gweithio yn chwarel William Williams yn 1793.

Chwarel y Penrhyn yn 1808 –engrafiad
Chwarel y Penrhyn yn 1808 – engrafiad S Rawle o lun gan J. Dixon, Casgliad Tirlun Cymru. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae darlun Rawle o’r chwarel yn 1808 yn un eithriadol ddiddorol oherwydd nid yn unig mae’n portreadu cyflwr y gwaith ond hefyd mae’n darlunio amrywiol ddyletswyddau’r gweithlu. Felly, math o bortread cyfansawdd o’r chwarel a gyflwynir yn hytrach nag un o olygfa benodol. Fel y byddai disgwyl, lleolir y llun yn y twll ac amlygir ei ddyfnder drwy leoli rhai o’r dynion yn sefyll ar ei ymyl fel pe baent yn hofran yn yr entrychion. Ar ochr dde’r llun ymddengys bod dau lwyfan wedi’u creu, un uwchben y llall. Ym mlaendir y llun dangosir rhan o reilffordd amrwd ei ffurf sy’n ymddangos fel pe bai wedi’i saernïo o bren. Er ei symled, hwn oedd cyfrwng cysylltu’r ddwy bonc, fel y dengys y ddau ddyn, rybelwyr bur debyg, sy’n gofalu am y wagenni ar y rheiliau.  Y rhyfeddod yw mai dynion sy’n tynnu a gwthio’r wagenni ac nid ceffylau. Portreadir y gweithlu wrth eu gwahanol ddyletswyddau. Yn y cefndir mae dau yn pileru yn y fargen; creigwyr yn sefyll ar sgaffold ac eraill yn hongian o raff yn tyllu ar gyfer chwythu’r graig; un dyn yn glanhau am i lawr o ben y clogwyn. Yn y blaendir, ar y chwith, mae dyn yn gofalu am ddau gawg a allasai gynnwys pylor du neu ffrwydron; ychydig i’r dde mae pentwr taclus o lechi toi ond ni welir yr holltwr na’r naddwr a’u cynhyrchodd. Yng nghanol y llun, ond yn y cefndir, mae dyn yn gweithio ym môn y graig a chanddo beiriant ar ddwy droed wrth ei ymyl. Tybed ai hwn oedd y sgriw a ddyfeisiwyd gan James Greenfield i chwalu’r graig yn blygiau mawr yn ôl cyfeiriad Hugh Derfel Hughes? A phwy tybed sy’n sefyll yn y blaendir i’r dde yn fintai bwysig mewn ymgom ddofn? Tybed ai Richard Pennant a Benjamin Wyatt yw’r ddau mewn dillad parchus a hetiau uchel ar bwys eu ffyn, yn trafod gyda William Williams a’i olynydd James Greenfield? Go brin efallai, er mae’n amlwg fod pwnc y drafodaeth yn ddigon pwysig i’w chofnodi ar ddalen enfawr gan y gŵr olaf sy’n sefyll yn barchus ar ymyl y criw. Er tybed, tybed, mai ef yw’r artist Rawle sydd yn y broses o ddarlunio’r holl lun? Boed hynny fel y bo, yr hyn sy’n sicr yw fod y chwarel dan reolaeth William Williams yn fenter lwyddiannus iawn er symled y dulliau o’i gweithredu. Pan brynodd Richard Pennant brydlesau yr wyth deg o gloddwyr ar ffridd Cae Braich y Cafn yn 1782 ei incwm blynyddol oedd £80, sef gwerth y prydlesau. Yn 1808, blwyddyn marwolaeth y perchennog, yr oedd ei incwm blynyddol o’r chwarel yn £7,000. Roedd y gweithlu wedi cynyddu o 80 dyn i 600 o ddynion ac roedd y cynnyrch blynyddol wedi chwyddo o tua 1,000 tunnell i 20,000 tunnell. Ac i William Williams y mae’r clod am y llwyddiant hwn.

Ffynonellau  

XXVII – Cyfeiriadau at y plan o chwarel lechi y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Penrhyn, Mehefin 1793.   Atodiad yn W. J. Parry. 1897. Chwareli a Chwarelwyr. Caernarfon, tud. 253-255 yn cynnwys cynllun.

Advertisements

Eglwys St Ann’s

Eglwys Sant Anns
Eglwys St Ann’s cyn ei dadfeiliad – llun o archif Ifor Williams, Coetmor, drwy ganiatâd

Eglwys St Ann’s oedd yr olaf o eglwysi Dyffryn Ogwen i’w hadeiladu yn ystod cyfnod Edward Gordon Douglas Pennant, yr ‘Hen Lord’. Rhwng 1840 ac 1886 noddodd yr Arglwydd, drwy ariannu’n uniongyrchol neu drwy gyflwyno tir, adeiladu Eglwys Tanysgrafell (1847), Eglwys y Gelli, Tregarth (1853), Eglwys Crist, Glanogwen (1856) ac Eglwys St Ann’s ym Mryn Eglwys (1865). Mae’n debygol hefyd mai ef oedd y sbardun i adeiladu eglwys newydd Sant Llechid yn Llanllechid yn 1845, ac yn ddiweddarach i gyfrannu at ehangu Eglwys Sant Tegai yn Llandygai yn 1853. Yr oedd cyfraniad rhyddfrydig yr ‘Hen Lord’ i fywyd eglwysig a diwylliannol bro ei stad yn un eithriadol werthfawr o gofio hefyd fod ysgolion dyddiol yn gysylltiedig â nifer o’r eglwysi a sefydlodd.

 

Yn ninas Jerusalem Eglwys St Anne yw’r enghraifft odidocaf o eglwys o gyfnod Rhyfel y Groes ac mae’n nodi safle draddodiadol a gysylltir gyda cartref taid a nain yr Iesu ar ochr ei fam, a man geni y Forwyn Fair. Ar y pared â’r eglwys lleolwyd pyllau dŵr Bethesda. Ond nid santes yng ngwir ystyr y gair a roddodd ei henw i eglwys St Ann’s ym Mryn Eglwys ond yn hytrach, cysegrwyd yr addoldy yn enw Anne Susannah, gwraig Richard Pennant, Arglwydd cyntaf y Penrhyn. Hen grybiban ffroenuchel a hynod benderfynol oedd hi. Yn wreiddiol safai’r eglwys gerllaw Llyn Meurig ar safle a oedd gryn hanner milltir i gyfeiriad y de o leoliad yr eglwys bresennol. Erbyn cyfnod canol y ganrif yr oedd ymlediad difäol Chwarel y Penrhyn yn bygwth traflyncu safle’r eglwys wreiddiol a rheidrwydd oedd dewis lleoliad newydd ar gyfer adeiladu yr olynydd. Ond paham dewis llecyn a oedd mor anghysbell â Bryn Eglwys ar gyfer adleoli’r eglwys? Yn sgil sefydlu’r eglwys newydd ar Douglas Hill, fel y gelwid y lleoliad bryd hynny, adeiladwyd nifer bychan o dai yn ei chysgod. Yn ystod yr un cyfnod, er hynny, yr oedd datblygiad ehangach yn digwydd ym Mynydd Llandygái wrth i resi tai cyfochrog Llwybr Main a Than y Bwlch gael eu codi gan greu canolbwynt llawer mwy poblog na’r safle diarffordd a ddewiswyd ar Douglas Hill, gryn hanner milltir i ffwrdd i gyfeiriad y gogledd.  Byddai rhywun yn disgwyl mai yno felly ym Mynydd Llandygái y  byddid wedi lleoli’r eglwys newydd.

o'r tŷ
Safle amlwg meindwr eglwys St Ann’s yn nhirlun Dyffryn Ogwen

Mae lleoliad yr eglwys newydd felly yn bwrpasol, oherwydd fe’i dewiswyd nid er hwylustod i’w chymunwyr, ond yn hytrach fel symbol daearyddol gweladwy yn Nyffryn Ogwen i nodi uwch awdurdod yr Eglwys Anglicanaidd dros yr holl gyfundrefnau ysbrydol eraill a oedd mewn cystadleuaeth yn ystod cyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Pan agorwyd yr eglwys, nifer y cymunwyr oedd 160 ond 1765 oedd poblogaeth y rhan hon o blwyf Llandygái. Tybed felly mai y gweledol ac nid yr ysbrydol a oedd yn tra arglwyddiaethu pan sefydlwyd yr achos yn Eglwys St Ann’s?

Agorwyd yr eglwys ar 5 Medi 1865 ym mhresenoldeb 33 o offeiriaid gan gynnwys Esgob Bangor. Cynhaliwyd gwasanaeth Saesneg yn y bore a Chymraeg yn yr hwyr, ac meddai Hugh Derfel ‘taflodd pawb ar y pryd ei ragfarn o’r neilltu, ac aed yno, a chawsom bregethau rhagorol’. Cost adeiladu’r eglwys newydd oedd oddeutu £5,000 gyda chost ychwanegol o £1,500 i adeiladu’r persondy. Ar ddiwrnod agor yr eglwys cynhaliwyd cinio i’r gwesteion mewn pabell ar gost o £150 a ariannwyd  gan yr ‘Hen Lord’- jyncet i’w gofio bid sicr!

Yn annisgwyl, efallai, mae gan yr eglwys gysylltiad anuniongyrchol â’r Wladfa ym Mhatagonia.

bedd-ed-roberts-4-e1531949629915.jpg
Arysgrif mewn Sbaeneg ar fedd Edwyn Roberts ym mynwent St Ann’s

Y cysylltiad annisgwyl yw Edwyn Cynrig Roberts, gŵr a ystyrir yn un o sylfaenwyr y Wladfa  a chanddo hefyd gysylltiadau teuluol agos â Bethesda. Arhosodd yn Nyffryn Ogwen yn 1893 ar gychwyn taith i ymweld â chloddfeydd aur yn yr Andes yng nghwmni W. J. Parry a chydymaith arall o beiriannydd a hanai o Ddolgellau. Yr oedd arbenigwyr o Gymru wedi darganfod yr aur mewn sawl lleoliad yn yr Andes, a mor fuan ag 1886 yr oedd Michael D. Jones yn annog Cymry blaenllaw i fuddsoddi yn y fenter. Yn 1892 sefydlwyd cwmni y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate yn Llundain i ariannu cloddio’r aur ac ar ran y cwmni hwn y trefnwyd i Roberts a’i ddau gydymaith ymweld â’r cloddfeydd. O’r cychwyn cyntaf yr oedd holl fenter y Welsh Patagonian ar dir sigledig. Trefnwyd fod y tri ymwelydd i deithio draws gwlad mewn trol a cheffylau i’w tywys, taith a oedd i gymryd pedwar mis o amser i’w chwblhau. Roedd cynllunio taith a oedd mor anhygoel o ddiffaith ac anodd yr un mor anhygoel o amhosibl â cheisio rhoddi trefn ar y gweithfeydd aur wrth droed yr Andes. Yn ddisymwth, ar Fedi 17eg 1893, bu farw Edwyn Roberts a hynny ddeng niwrnod yn unig cyn cychwyn y daith arfaethedig ar Fedi 27ain. A dyna egluro sut y bu i Edwyn Roberts gael ei gladdu ym mynwent St Ann’s. A beth ddigwyddodd i Parry? Gwnaethpwyd trefniadau brys iddo ef hwylio ar ei ben ei hun i’r Ariannin ar 11 Hydref, taith a oedd i orffen yr un mor aflwyddiannus a pe byddai wedi marchogaeth drwy’r paith i gyrraedd y cloddfeydd. Ei nod oedd ‘to see to their business there and to put their business matters straight there’. Cewch ragor o hanes y daith honno yma.

 

Yr oedd gan eglwys St Ann’s gysylltiad arall annisgwyl â’r Wladfa. Drwy ymdrechion y Canon Walter Thomas, a ddaeth yn ficer yr eglwys yn 1871, y sefydlwyd Eglwys Anglicanaidd Gymraeg ei hiaith  ym Mhatagonia, a gwraig y Canon, Morfydd Eryri, a ddysgodd Sbaeneg i Hugh Davies o Lasinfryn  a benodwyd yn gaplan cyntaf yr eglwys.

Beth a feddyliai y Canon Walter Thomas a’i briod, Morfydd Eryri, o weld cyflwr presennol eglwys St Ann’s yn graddol droi yn furddun a’r fynwent lle claddwyd Edwyn Roberts yn anghyfannedd? Ac am faint y pery ei meindwr gosgeiddig yn nodwedd argraffiadol mor bwysig yn nhirlun y fro? Ysywaeth, cyflwr bregus y meindwr yw un o brif ffaeleddau’r adeilad a’r prif reswm dros ddiffyg cadwraeth gweddill corff yr eglwys.

eglwys St anne 1
Cyflwr gwael yr adeilad heddiw

Adeiladwyd y meindwr ar we mewnol o frigau haearn, a’r brigau hyn sydd bellach yn cancro ac yn gollwng eu gafael ar adeiladwaith brau y meindwr allanol. Yn eglwysi mawr y canol oesoedd yn Lloegr, megis Caersallog (Salisbury) neu Ely, adeiladwyd y meindwr ar fframwaith o goed ac mae cysylltiad y pren gyda’r adeiladwaith yn llawer sicrach ar ôl canrifoedd na’r sefyllfa druenus a ddigwydd yn St Ann’s ar ôl cwta ganrif a hanner yn unig o draul.

 

Gwybodaeth ychwanegol – Tegid Roberts,  Caernarfon; Helen Hughes, Hendyrpeg.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

J.Ll.W. Williams. 2005. W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda – portread o gyfrifydd, masnachwr a hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon. 66, tt. 137-167.

Jean Lindsay . 1996. ‘Not Eldorado’: W.J. Parry and the Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate.  Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , Cyfres newydd, Cyfrol 3. 1997. tt. 136- 163.

Bethesda, y Star ynteu’r Wern Uchaf ?

mam3
Arwyddbost Bethesda ger Cae Gas

Does dim tebyg i enwau lleoedd am greu dadl – pam a sut y daeth enw’r fan ar fan i fodolaeth a pham y’i dewiswyd rhagor nag unrhyw enw arall? Meddyliwch am y ddadl sydd ar ferwi’n gyfoes ynghylch newid enwau cynhenid ffermydd a nodweddion tirweddol am enwau Saesneg gan bobl sydd heb nag ymwybyddiaeth na pharch at iaith, diwylliant na chymuned.

Ac i raddau fe all yr un peth fod yn wir am enw ein pentref ni, Bethesda, oherwydd wedi’r cyfan enw sy’n deillio yn wreiddiol o’r Hebraeg neu’r Aramaeg yw Beth hesda. Mae’n enw ar bwll dŵr sydd â’i olion, yn ôl y dystiolaeth archaeolegol, yn y rhan Fwslemaidd o ddinas Jerwsalem heddiw. Ceir y cyfeiriad Beiblaidd at y pwll yn y bumed bennod yn yr Efengyl yn ôl Ioan sy’n adrodd:

Ar ôl hyn daeth yr Iesu i fyny i Jerwsalem i ddathlu un o wyliau’r Iddewon. Y mae yn Jerwsalem wrth Borth y Defaid, bwll a elwir Bethesda yn iaith yr Iddewon a phum cyntedd colofnog yn arwain iddo. Yn y cynteddau hyn byddai tyrfa o gleifion yn gorwedd, yn ddeillion a chloffion a phobl wedi eu parlysu. Yn eu plith yr oedd dyn a fu’n wael ers deunaw mlynedd ar hugain. Pan welodd Iesu ef yn gorwedd yno, a deall ei fod fel hyn ers amser maith, dywedodd wrtho ‘A wyt ti yn dymuno cael dy wella?’ Atebodd y claf ef, ‘Syr, nid oes gennyf neb i’m gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i’r dŵr, a thra y byddaf i ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o’m blaen i.’ Meddai Iesu wrtho, ‘Cod, cymer dy fatras a cherdda’. Ac ar unwaith yr oedd y dyn wedi gwella, a chymerodd ei fatras a dechrau cerdded’.

Yn y ddwy iaith, yr Hebraeg a’r Aramaeg, ystyr Beth hesda yw ‘tŷ trugaredd’ neu ‘tŷ gras’, enwau a fyddai yn dra addas i’w rhoi ar addoldy crefyddol. Ond gall fod hefyd ystyr arall yn y ddwy iaith i Beth hesda, sef ‘cywilydd’ neu ‘waradwydd’, ac mae’r ddeuoliaeth yn yr ystyr i’w chanfod yn ddiarwybod yn yr enw a allasai fod wedi ei ddewis yn enw swyddogol ar ein pentref ni. Yn ei gyfrol nodedig ar hanes Dyffryn Ogwen mae Hugh Derfel yn cofnodi i’r capel gael ei adeiladu ar y Wern Uchaf pan nad oedd yno ond dau dŷ, sef cartref i ŵr oedd gynt o Gochwillan ac adeilad a enwir y ‘Star’, sef tafarn a ragflaenodd adeiladu’r capel ar y stryd fawr. Nid am eiliad y byddai dewis enw tafarn yn creu gwaradwydd na chodi cywilydd, ond mae’n bur amlwg fod y tadau uniongred yn dra hyddysg yn eu Beiblau wrth fynnu dewis beth oedd enw’r pentref i fod a Bethesda a ddewiswyd. Ond pe na bai’r arweinwyr wedi mynnu rhoi’r un enw ar y ddau leoliad, yna byddai ganddynt restr arbennig o enwau y gallasant fod wedi’u dewis i’r pentref.  Enwau megis Cae Star, Cae Garw, Cefnfaes, Parciau Uchaf, Parciau Isaf, Cilhafoden neu Wern Uchaf, gyda’r mwyafrif ohonynt yn gyfeiriadau at nodweddion y lleiniau tir a fodolai cyn i’r pentref gael ei adeiladu yn y fangre hon ar gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gellir olrhain hanes y lleiniau tir hyn i elusen a sefydlwyd yn 1641 gan William Griffith o Fodfaio. Defnyddiwyd yr elusen i ddarparu gwerth deuddeg ceiniog o ‘fara gwenith iachus’ i’w rannu drwy’r flwyddyn rhwng hyd at ddeuddeg o dlodion y plwyf yn dilyn gwasanaeth boreol y Sul yn eglwys Llanllechid. Ffynhonnell yr arian oedd y rhent blynyddol o 56 swllt a delid ar ddau glwt o dir – ‘parciau uchaf’ a ‘parciau isaf’ – a oedd yn rhan o dyddyn CIlhafoden neu Cilfodan yn nhafodiaith y fro. Cyn 1866 deiliad y tyddyn oedd Owen Ellis, ffermwr dylanwadol a deiliad Cefnfaes, fferm sylweddol ei maint ar lannau’r Fenai ym mhlwyf Llanllechid. Yn dilyn ad-drefnu tir ym mhumdegau’r ganrif cymerwyd tenantiaeth Cefnfaes newydd gan Humphrey Ellis, a’r gŵr hwn a fu’n ddigon hirben i brynu 78 acer o dir tyddyn Cilhafoden am swm a oedd oddeutu £800. Y llain tir a brynodd oedd ‘parciau isaf’ ac fe’i enwodd yn Cefnfaes, er bod Cae Garw hefyd yn enw cyffredin ar y llain. Ar y clwt tir cyfyng hwn o dir y sefydlwyd cnewyllyn y pentref o 1820 ymlaen.

Mae’n rhaid aros tan 1926 cyn i anniddigrwydd ynghylch addasrwydd yr enw Bethesda ddechrau corddi’r dyfroedd. Cystadleuaeth fechan ddinod, ddidramgwydd ar y testun o roddi enw newydd ar y pentref yn Eisteddfod Goronog Bethesda (Gerlan) ym mis Ionawr 1926, oedd man cychwyn y drafodaeth. Y beirniad oedd neb llai na’r Athro Ifor Williams, un o ysgolheigion mwyaf Cymru ac awdurdod ar enwau lleoedd. Derbyniwyd 185 cynnig a’r buddugol oedd Richard Evans, prifathro Ysgol y Carneddi, a’i gynnig ef oedd ‘Nant Ogwen’. Y mis canlynol cyfarfu Cyngor Dinesig Bethesda i drafod, ymhlith materion eraill, adroddiad ynglŷn â newid enw Bethesda. Gofynnodd E.R. Jones, prifathro cyntaf Ysgol Penybryn, beth oedd barn y Cyngor ynghylch priodoldeb newid yr enw. Ymatebodd Ernest Roberts, awdur nifer o lyfrau ar hanes Dyffryn Ogwen, yn holi faint gwell a fyddai’r ardal o newid yr enw, a chynigiodd fod y mater yn cael ei adael ar y bwrdd. Ond cynigiodd E.R. Jones fod y Cyngor yn newid yr enw ar sail ei ymwybyddiaeth o‘i Gymreictod. Eiliwyd y cynnig. Ond barn William Prydderch oedd mai Cymry oedd yn gyfrifol am roddi enwau Saesneg ar heolydd y fro a gwell fyddai cadw at yr enwau hynny. Aeth yn ddadl boeth rhwng caredigion yr iaith a chefnogwyr Dic Siôn Dafydd ar y Cyngor cyn i’r cynnig gwreiddiol, a gwelliant gan John Thomas, gael eu rhoi i bleidlais. Cododd chwech o blaid newid yr enw, a thri yn erbyn. Yna, er mandad clir y bleidlais, penderfynwyd y dylai’r mater fynd yn ôl i’r pwyllgor a fu’n trafod y mater.

A byth ers hynny yno ar y bwrdd y gorwedd y mater wedi i dân yr ymgyrch redeg ei rawd, a Bethesda yw Bethesda o hyd er cymaint yr ymgecru a fu bron i ganrif yn ôl. A beth tybed a ddigwydd yn y dyfodol? A fydd eto ymgyrch i ganfod enw mwy Cymreig na Beth hesda ynteu a fydd rhaid plygu i’r drefn ddwyieithog ffasiynol a chael enw Saesneg hefyd ar ein bro? Enw cyfansawdd megis Ogwenville neu Cefnfaestown er enghraifft! A’n gwaredo, onid gwell yw cadw at urddas yr enw Hebraeg/Aramaeg presennol – Beth hesda fydd hyd byth yn Bethesda.

Seiliwyd y nodyn hwn ar gyfraniadau gan J. Elwyn Hughes a John Ll. W. Williams

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Y Beibl Cymraeg Newydd, 1988.

Herald Cymraeg, Ionawr a Chwefror 1926

J. Ll. W. Williams, Lowri Wynne Williams. 2016/17. Ai Y Star, Y Wern Uchaf ynteu Cae Garw, ac nid Bethesda, ddylai’r enw fod? – datblygiad prif bentref chwarelyddol Dyffryn Ogwen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 77, tt.105-132.