Safleoedd milwrol

Pan oedd Llywelyn Fawr yn teyrnasu yng Ngwynedd yn y drydedd ganrif ar ddeg ganrif ceisiodd warchod ei gadarnle ym mynyddoedd Eryri drwy adeiladu castell neu dŵr yn y dyffrynnoedd i atal mynediad y gelyn i’r mynyddoedd. Yn Nyffryn Ogwen sefydlodd ei dŵr amddiffynnol ym Mhont y Tŵr ar y terfyn daearyddol rhwng yr iseldir a Nant Ffrancon. Pe byddem yn troi’r cloc ymlaen i ganol yr ugeinfed ganrif rhywbeth yn debyg oedd bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn pan adeiladwyd nifer o safleoedd gwarchodol yn Nyffryn Ogwen i wrthsefyll byddin yr Almaenwyr pe byddai’n penderfynu  ymosod ar ardaloedd poblog a diwydiannol canolbarth a gorllewin Lloegr drwy gychwyn ymgyrch o Ogledd Cymru.

tanc trap bryn bella
Atalfa tanciau ger Tan y Bryn ar ffordd yr A5 islaw Brynbella

Adeiladwyd yr atalfa gyntaf ar ffurf dau floc carreg a seiliau trydydd bloc efallai, ar ymyl y ffordd bost gerllaw Tan y Bryn hanner y ffordd rhwng Pont y Pandy a Brynbella. Lleolwyd y blociau fel y byddai’r gelyn yn wynebu’r rhwystrau yn annisgwyl wrth gylchu’r tro ar y ffordd i Fethesda. Yn wrthgefn i’r bloc mae nifer o feini mawr yn y coed a fyddai’n lloches naturiol i saethwyr ychwanegol. Mae’n anodd deall paham y sefydlwyd y rhwystr hwn cyn cyrraedd y pentref gan y byddai’n arwydd fod ymosodiadau gwaeth yn eu disgwyl drwy ymdeithio drwy’r dyffryn. Yn 1940 defnyddiwyd ysgol y Cefnfaes fel man gorffwyso i filwyr gan yr Awdurdod Amddiffyn gan gymaint oedd y pryder y byddai’r Almaenwyr yn ymosodar Brydain o arfordiroedd y gorllewin.

Cynlluniwyd y Benglog fel y prif safle i amddiffyn rhag ymosodiadau’r gelyn ac yno adeiladwyd nifer o safleoedd gwarchodol. I amddiffyn y ffordd bost uwchlaw’r rhaeadr sefydlwyd colofn i gynnal gwn i saethu at danciau – spigot mortar – ac mae un arall yn gwarchod y fynedfa i Ffordd y Lord mewn safle sy’n tra-arglwyddiaethu dros olygfa eang o Nant Ffrancon. Yno hefyd mae cyfres o wyth bloc carreg wedi eu trefnu o bobtu’r ffordd gan greu rhwystr tra effeithiol i warchod y llwybr. Adeiladwyd nifer o lochesau i saethwyr i amddiffyn holl gyfanwaith strategol y Benglog. Sefydlwyd rhai sniper posts yn uchel uwchlaw’r ffordd bost tra bo pill box mwy sylweddol ei faint wedi ei guddio islaw’r ffordd ar y tu isaf i’r Benglog.

Cynlluniwyd pill box mwyaf diddorol yr holl safle ar lan ogleddol llyn Ogwen a’i leoliad wedi ei ddewis yn ofalus i atal awyrennau morwrol (sea planes) rhag glanio ar y llyn. Mae’n amlwg fod safle’r Benglog wedi ei chynllunio’n ofalus gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnwys y nifer a’r amrywiaeth mwyaf o gyfleusterau amddiffynnol ac mae’r ddarpariaeth yn llawer mwy cymhleth na’r hyn a adeiladwyd ym Mhen y Gwryd er enghraifft. Ciliodd y pwysau i warchod Prydain rhag ymosodiadau gan yr Almaen ar arfordiroedd gorllewin y wlad yn 1940 pan benderfynodd Hitler ymosod ar Rwsia yn 1941 ond yr oedd gwarchodfeydd Eryri wedi eu sefydlu o gychwyn y rhyfel ac yn barod i fod yn weithredol hyd at derfyn y gyflafan pe byddai angen.

Gwarchodwyr yr ardal oedd y Gwarchodlu Cartref neu yr Home Guard a ffurfiwyd gyntaf ym Mhrydain ym mis Mai 1940 gyda’r bwriad o gynorthwyo’r fyddin pan fyddai gofyn drwy greu rhwystrau yn lleol i arafu ymosodiadau troedfilwyr y gelyn. Ymhen ychydig fisoedd o’i ffurfio gellid cyfrif nifer y gwirfoddolwyr yn eu miloedd gyda’r rhengoedd yn cynnwys gwŷr a oedd yn rhy hen i ymuno â’r fyddin neu a ddigwyddai fod mewn swyddi o bwys i’r wlad. Ar y cychwyn yr oedd arfau yn brin a rhaid oedd dibynnu ar ynnau personol a gynnau hela cyn y pwrcaswyd gwell arfau gan yr Americaniaid ymhen amser. Daeth gweithgareddau’r Home Guard i ben yn derfynol ym mis Rhagfyr 1944. Ffurfiwyd nifer o gatrodau o’r Gwarchodlu Cartref yn Nyffryn Ogwen a phob un yn cynnwys, fwy neu lai, oddeutu pump ar hugain o aelodau dan orchymyn Is-swyddog a sarsiant. Lleolwyd y catrodau hyn ym Methesda, Rachub, Mynydd Llandygái a Thregarth a’u prif  orchwyl oedd gwylio a gwarchod llwybrau’r ardal, a hynny’n arbennig liw nos. Disgwylid, er enghraifft, i ddau aelod o gatrawd Rachub gerdded y llwybr i’r Bronnydd bob nos a byddai gorchwylion tebyg yn rhan o weithgareddau catrodau eraill yr ardal. O bryd i’w gilydd byddai ymarferion saethu a defnyddio ffrwydron wedi’u trefnu a digwyddai hyn ar Waun Llanllechid neu oddi fewn i Barc Penrhyn.

home guard rachub1
Hôm Gârd Llanllechid yn 1942 – sylwer ar ogwydd ffansi y capiau!

Yn gwbl annisgwyl, o’r awyr yr ymosodwyd ar Ddyffryn Ogwen. Am wyth o’r gloch ar nos Fawrth, 24 Medi 1940, ymosodwyd ar yr ardal gan gyrch awyr a adawodd ddwy wraig o Lanllechid yn farw. Yr oedd J.O. Williams, peiriannydd gyda chwmni trydan y North Wales Power Company, yn llygad dyst i’r ymosodiad a chofnododd adroddiad swyddogol i’w bennaeth yn Rhostyllen, Wrecsam, am yr hyn a ddigwyddodd. Dan y pennawd ‘Damage to System by Bombs’, ysgrifennodd:-

‘I happened to be returning home from Llanberis on this particular night, arriving at Bethesda just as the raid started. The mountains around were all lit up by flares which had been dropped. As I arrived at the house I heard the sound of planes approaching from the direction of the Penrhyn quarry and flying very low. These passed over in the direction of Llanllechid and Aber and in passing dropped a number of H E bombs which exploded about half a mile from my house. Two of these fell and exploded on the outskirts of Llanllechid where damage to houses was caused and where the fatalities occured. These incendiaries were  continually being dropped in the neighbourhood from other planes which were flying fairly high.. A further series of explosions shook the district and all lights went out. This occured about 9.15pm’.

Tasg y peiriannydd oedd darganfod yn union pa ddifrod a wnaethpwyd i’r gwasanaeth trydan wrth geisio archwilio’r llinellau yn ochelgar y noson honno. Cafwyd fod bylchu wedi digwydd yn ardal y chwarel wrth i fom ffrwydro ar un o’r llinellau, ond nid oedd modd trwsio’r cyflenwad hyd y diwrnod canlynol gan fod awyrennau’r gelyn yn dal i hedfan dros yr ardal tan oddeutu tri o’r gloch y bore. Adnewyddwyd y cyflenwad erbyn canol dydd y diwrnod canlynol. Bu llawer o drafod ai cyrch bwriadol oedd hwn ynteu ymosodiad ar ddamwain wrth i awyrennau’r Almaen ddychwelyd o fomio Lerpwl neu drefi cyfagos yng ngogledd Lloegr. Hwn oedd yr unig gyrch a dargedodd Ddyffryn Ogwen er i ail gyrch ddigwydd yn ardal Llanberis ym mis Gorffennaf 1941. Mae’n bwysig ystyried bod y cyrch ar Ddyffryn Ogwen yn un hir a dwys, a bod y ddau gyrch wedi digwydd yn gynnar yn y rhyfel pan oedd cynlluniau ymosodol yr Almaen wedi ystyried targedu Prydain drwy arfordiroedd gorllewin Cymru.

Mae gwallgofrwydd pob rhyfel yn gadael poen a galar a dyna’r hyn a ddigwyddodd i dri deg dau o deuluoedd ardal Dyffryn Ogwen o ganlyniad i fryntni’r Ail Ryfel Byd. Mae’r gofeb yn nodi na ellir anghofio’r rhai a aberthodd eu bywydau.

Gwybodaeth ychwanegol  gan Jane Kenney, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Bangor; Wyn Roberts, Bryn Difyr, Tregarth.

Ffynonellau 

Mark Dalton. 2013.  Defending Anglesey. Folly Books, Monkton Farleigh

Helen Hughes. 2017.  Cyrch Awyr Medi 1940. Gwefan Hanes Dyffryn Ogwen, Mis Medi,  2017

J. O. Williams, 1945. Adroddiad Swyddogol, North Wales Power Company (papurau personol heb eu cyhoeddi).

Advertisements

Ffordd y Lord


Blaen Nant3
Ffordd y Lord uwchlaw Blaen y Nant yn Nant Ffrancon

Benjamin Wyatt, gŵr o Swydd Stafford yn wreiddiol, oedd prif asiant Stad y Penrhyn o 1786 hyd ei farwolaeth yn 1818. Ef a osododd y sylfeini angenrheidiol ar gyfer datblygiad chwarel Cae Braich y Cafn i’w feistr Richard Pennant, Arglwydd cyntaf Stad y Penrhyn, a thrwy hynny drawsnewid economi holl ardal Dyffryn Ogwen. Cyn cyfnod Wyatt y dull o gario llechi o’r chwarel oedd mewn pynnau ar gefn ceffyl, gan ddilyn llwybr cul heibio i Fryn Meurig a Thanysgrafell, dros Benygroes a Phennau Bronydd, i Benlan a Llandygái ac yna ymlaen drwy Bont Marchogion i Aber Cegin ac yno lwytho’r llechi i longau ar y traeth. Cafodd Pennant brydles ar angorfa yn Aber Cegin gan Esgob Bangor yn 1786 a thasg gyntaf Wyatt oedd troi’r llwybr o’r chwarel i Aber Cegin yn ffordd gymwys.

 

Telford Figure 2
Ffordd y Lord yn Nyffryn Ogwen, drwy ganiatâd David A Jenkins, Allt St Anns, Bethesda.

Cynlluniodd Wyatt ‘Ffordd y Lord’ i ddilyn ymyl orllewinol afon Ogwen i Goed y Parc. Cwblhawyd y rhan o’r Chwarel i Bont Coetmor erbyn 1784, ei hymestyn i Landygái drwy Dinas erbyn 1786 a chyrraedd Aber Cegin yn 1788. Y cam nesaf oedd ymestyn y ffordd o Goed y Parc i Lyn Ogwen i ddilyn ochr orllewinol Nant Ffrancon i osgoi talcen enbyd y Benglog a ddisgrifiwyd gan Thomas Pennant fel un o’r mannau peryclaf i deithwyr yng Nghymru. Meddai y teithiwr Evans yn 1812: ‘Under the auspices of the public-spirited nobleman, the late Lord Penrhyn, a grand road has been cut through the immense range of lofty mountains dominated Snowdonia.   A rhoddwyd clod  arbennig gan Bingley yn 1804 – to the liberality and public spirit of Lord Penrhyn … the public are indebted  ….  the road was made a few years ago at his Lordship’s own expense’.

Telford Figure 3
Ffordd y Lord yn Nant Ffrancon, drwy ganiatâd David A Jenkins, Allt St Anns, Bethesda

Erbyn 1798 yr oedd y ffordd wedi ei hymestyn i Gapel Curig ac yno adeiladodd Pennant westy gwych i dderbyn ymwelwyr i Eryri. Heddiw y gwesty hwn yw Canolfan Plas y Brenin.  Nid masnach y chwarel felly oedd yr unig fwriad gan Pennant o adeiladu’r ffordd ond yr oedd hefyd am ei defnyddio fel atynfa i groesawu ymwelwyr i  Eryri, un o’r cynlluniau twristaidd cyntaf o’i fath  yn yr ardal bid sicr.

Royal Capel Curig 1840
Plas y Brenin yng Nghapel Curig yn 1840. Casgliad Tirlun Cymru – Snowdon from Capel Curig, Louis Haghe. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Derbyniodd y ffordd a’r gwesty gymeradwyaeth enfawr gan deithwyr y cyfnod fel y datgelir yn y cyfeiriad  hwn gan Bingley unwaith yn rhagor – ‘Lord Penrhyn has erected …a small but very comfortable inn…Those tourists, who, like myself have visited this Vale a few years ago, when the only place of accomodation was a mean pot house… and who shall now visit it with the present accomodations will be able with some justice to appreciate the spirited conduct, and truly patriotic excertions of the noble proprietor, who has not only constructed for them an inn, but who was the first to make this part of the Country passable in carriages’. Ac yna y gymeradwyaeth eithriadol i’r gwesty gan Bingley unwaith eto  ‘Few even in England will surpass in comfort, cleanliness and civility’. Yr oedd cyfnod adeiladu rhan olaf y ffordd yn cydredeg â’r rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc a arweiniodd at ddirwasgiad yn y farchnad lechi. Yn gyfrwys iawn defnyddiodd Pennant chwarelwyr di-waith i adeiladu rhannau helaeth o’r ffordd yn Nant Ffrancon.

 

 

Yn y rhan rhwng y Felin Fawr a Thai Newyddion yn Nant Ffrancon claddwyd llwybr y ffordd gan domennydd rwbel chwarel y Penrhyn ond oddi yno i Gapel Curig mae llwybr gwreiddiol Ffordd y Lord wedi’i diogelu fwy neu lai, ac yn Nant Ffrancon mae’n brif fynedfa i ffermydd Maes Caradog, Pentre a  Blaen y Nant.

Ffordd y Lord y Benglog
Ffordd y Lord yn y Benglog

Dywedir yn aml fod Ffordd y Lord yn Nant Ffrancon hefyd yn ‘Ffordd Rufeinig’, ond mae’n bur anhebygol fod hyn yn gywir er bod un awdur ar ffyrdd Rhufeinig gogledd Cymru yn dadlau o blaid ei chynnwys yn y categori hwn. Er hynny, mae’r ymchwil diweddaraf yn barnu nad oes digon o dystiolaeth  i  gadarnhau fod cynseiliau Rhufeinig i Ffordd y Lord .

 

 

Ffynonellau

William Bingley 1804. North Wales: including its Scenery, Antiquities and Customs (1st edition).

William Bingley 1839. North Wales: including its Scenery, Antiquities and Customs (3rd edition)

J.Evans 1812 North Wales – The Beauties of England and Wales, Vol 14, London.

David Hopewell. 2013. Roman Roads in North West Wales. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Bangor.

Edmund Waddelove  1999. The Roman Roads of North Wales; Recent Discoveries. Cyhoeddiad Preifat.

Capel Peniel

Capel Llan 1
Capel Peniel. Llun o archif y diweddar Ifor Williams, Coetmor, drwy ganiatâd.

Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanllechid oedd Peniel cyn iddo gael ei ddymchwel yn 1991. Sefydlwyd y capel cyntaf yn  1834 pan brynwyd addoldy bychan oedd gan y Wesleaid ar y safle am £500, swm enfawr o gofio mai megis egin enwad oedd y Methodistiaid bryd hynny. Sefydlwyd yr achos gyda 38 aelod ond cymaint oedd ei lwyddiant fel y penderfynwyd yn 1838 i ddymchwel yr hen gapel ac adeiladu capel newydd gan ychwanegu tŷ capel ato.

Fel yn hanes mwyafrif enwadau anghydffurfiol Cymru cychwynnodd achos y Methodistiaid drwy gyfarfod yn nhai unigolion o ras ac arddeliad cyn sefydlu mewn capeli cydnabyddedig. Felly hefyd yn Nyffryn Ogwen. Cynhelid gwasanaethau mewn nifer o ffermydd ym mhlwyf Llanllechid – yn y Tyddyn Isaf y traddodwyd y bregeth gyntaf yn yr ardal yn 1777 a chynhelid oedfaon yng Nghochwillan, Llwyn Penddu a Thai’n y Coed yn rheolaidd. Buan iawn yr aeth Tai’n y Coed yn rhy fychan i gynnal yr oedfaon hyn ac yn 1793 penderfynwyd sefydlu capel ar dir Plas Pistyll yn Rachub. Hwn oedd Capel yr Achub. Yn ei dro symudwyd yr achos oddi yno i gapel newydd y Carneddi yn 1816 a therfynwyd ar ddefnyddio’r hen gapel yn Rachub. Mae’n ddiddorol ceisio rhesymu pam na ddefnyddiwyd y safle i godi capel newydd Peniel arno yn 1834, penderfyniad a fyddai wedi arbed £500 i’r aelodau. Ar y pryd megis ar gychwyn yr oedd sefydlu pentref yn Rachub ac efallai i’r addolwyr ystyried mai yn Llanllechid y byddai twf mwyaf poblogaeth y dyfodol. Efallai mai rheswm pwysicach oedd y byddai sefydlu’r capel yn Llanllechid yn symbol gweledol ac ysbrydol i gystadlu â phrif sefydliad yr Eglwys Anglicanaidd ym mhlwyf Llanllechid. Yn 1834 yr oedd eglwys Llanllechid ar ei gwanaf yn dilyn blynyddoedd o esgeulustod a rhaid oedd aros hyd at 1845 cyn cael dathlu adferiad pan adeiladwyd yr eglwys newydd yno. Erbyn hynny, wrth gwrs, yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd wedi hen gartrefu a chapel Peniel ar ei ail ymddangosiad.

Capel llan 2
Pulpud Capel Peniel. Llun o archif y diweddar Ifor Williams, Coetmor, drwy ganiatâd

Beth bynnag oedd y cymhelliad i sefydlu’r capel yn Llanllechid yr oedd y penderfyniad yn un llwyddiannus iawn. Dymchwelwyd y capel am yr ail waith yn 1877 a’i godi o’r newydd am y trydydd tro. Adeiladwyd y capel  i ddal cynulleidfa o dros chwe chant a hanner o bobl mewn adeilad a gynlluniwyd yn drawiadol oddi fewn yn hanner crwn gydag oriel uwchlaw. Robert Jones, saer o Dregarth a adeiladodd y pulpud, a gosodwyd canopi arbennig uwch ei ben fel bod llais y pregethwr i’w glywed yn glir. Ychwanegwyd dwy festri at y capel , un fach ac un helaethach ei maint a chodwyd tŷ gweinidog newydd, Bryn Awelon, gyda chwt cerbyd ac ystabl i’w ganlyn. Cyfanswm cost yr holl adeiladau oedd £8,800 ac yr oedd y swm wedi ei dalu o’r bron erbyn dyddiad agor y capel. Tâl yr eisteddleoedd oedd pedair ceiniog yr aelod i’w dalu pob mis. Yr oedd nifer yr aelodau yn profi llwyddiant y capel. Yn 1878 roedd 332 o gymunwyr ac 116 o wrandawyr ynghyd â 116 o blant.

Os oedd llwyddiant materol y capel yn eglur beth felly am ei lwyddiant ysbrydol? Mae’n anodd i ni ddirnad heddiw pa mor ganolog oedd dylanwad a gweithgaredd y capel ym mywyd y gymuned yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid ar chwarae bach yr oedd unigolyn yn ymrwymo i fod yn aelod yn y capel. Yr oedd rhaglen waith wythnosol capel Peniel yn eithriadol o gaethiwus a thrwm. Ar y Sul gwrandewid ar bregeth fore a nos gyda seiat i ddilyn yn yr hwyr. Ar brynhawn Sul cynhelid yr ysgol Sul i blant, ieuenctid ac oedolion. Bob dydd Sul am bump yr oedd cyfarfod canu i ddysgu’r tonau ar gyfer cymanfa’r Groglith. Yr oedd rhaglen waith yr wythnos yr un mor gynhwysfawr. Ar nos Lun roedd cyfarfod gweddi; nos Fawrth y seiat; y Band Hope ar nos Fercher; nos Iau dosbarth darllen ar y naill â dosbarth sol-ffa, a nos Wener cyfarfod y Gobeithlu. Yn y seiat disgwylid i’r plant ddysgu testun pregeth y bore a’r bechgyn bregeth y nos, a threulid gweddill y cyfarfod yn manylu ar destunau’r ddwy bregeth. Dan nawdd y capel cynhelid nifer o eisteddfodau ac o gyngherddau safonol dros y blynyddoedd a pherthynai cwmni drama llewyrchus iawn i’r capel yn ogystal. O ganlyniad yr oedd y capel yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y gymdeithas ac os oedd y gweithgareddau yn edrych yn feichus a chaethiwus, eto yr oedd dysg a hyder ym mhob ystyr y geiriau hyn yn deillio o fod yn aelod yng nghapel Peniel, fel yn y rhelyw capeli Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwybodaeth ychwanegol gan Dilwyn Pritchard,  Cadeirydd Cymdeithas Hanes Rachub a Llanllechid.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

  1. J. Evans 1991 Capel Peniel, Llanllechid 1834-1991. Bethesda.