Cae Gwilym Ddu

Rhan o Fap Ordnans yn nodi safle Cae Gwilym Ddu ger Fferm Tyn Hendre

Enw ar fap manwl yr Arolwg Ordnans yw Cae Gwilym Ddu erbyn heddiw, ond yn wreiddiol yr oedd yn enw ar fferm fechan o 56 acer, ei lleoliad yn dringo’r allt i’r dwyrain o fferm bresennol Tyn Hendre o wastadedd arfordir y Fenai ym mhlwyf Llanllechid. Enw presennol y fferm yw Tan yr Allt ac mae bellach wedi peidio â bod yn fferm weithredol.

Ond gadewch i ni droedio’n ôl i gyfnod Tywysogion Gwynedd yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac i safle’r llys yn Abergarthcelyn yn y plwyf nesaf i’r dwyrain o Lanllechid ym mhentref Abergwyngregyn. Ac yn benodol oedwn yn y flwyddyn 1228. Bryd hynny yr oedd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth yn ŵr canol oed 55 oed a Siwan ei wraig, a oedd yn 18 mlynedd yn iau nag ef, yn 37 oed. Yr oedd hi, Joan i roddi iddi ei henw cywir, o ran ei chenedl yn ferch anghyfreithlon i’r Brenin John o Loegr, wedi ei geni yn Ffrainc, ac wedi byw yno, bur debyg, am gyfnod estynedig yn nyddiau cynnar ei maboed. A hithau yn bymtheg oed trefnwyd iddi briodi â Llywelyn yn 1205, priodas ddiplomataidd ei threfn fel y rhelyw o briodasau’r cyfnod. Ganed iddynt fab a merch – Elen a Dafydd.  Adroddir fod gan Lywelyn barch uchel at ei wraig, parch a oedd uwchlaw materoldeb trefniant eu priodas

Yn 1228 yr oedd Llywelyn y brwydro ar y ffin yn  Ceri yn erbyn byddin Hubert de Burgh, prif farnwr Lloegr ac Iwerddon, a barwn eithriadol bwerus yn y Mers, a oedd drwy ei ymosodiadau yn peryglu tiroedd Llywelyn yn ardal Trefaldwyn. Yn y frwydr cymerwyd William de Braose, Arglwydd Brycheiniog a chaselyn y Cymry, yn garcharor a rhoddwyd pridwerth o £2000 ar ei ben. Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1230 cymododd  William â Llywelyn ac i gadarnhau’r berthynas rhyngddynt trefnwyd y byddai merch hynaf William, Isabella, yn priodi â Dafydd ap Llywelyn mab ac etifedd ei dad. Ar ei ymweliad â’r Llys yn Aber ar ddechrau’r flwyddyn daliwyd William de Braose yn ystafell wely Llywelyn mewn perthynas anniwair â Siwan. Ar y pryd yr oedd yn ŵr ieuanc ym mlodau ei ddyddiau oddeutu 33 oed a Siwan yn wraig 39 oed. Gall y darllenydd ddychmygu beth daniodd y berthynas – serch, chwant, unigedd, nwyd, blys, rhamant, trais, gwirioni mewn gwendid – maent oll, efallai, yn rhesymau dilys, ac fe wnaethant oll, ynghyd â diffyg anrhydedd y berthynas symbylu Saunders Lewis a Thomas Parry i ysgrifennu dwy o ddramâu mwyaf y Gymraeg yn ein cyfnod ni, Siwan y naill a Llywelyn Fawr y llall.

Mae Brut y Tywysogion yn adrodd yn foel ganlyniad y bradychu – ‘Yn y flwyddyn honno dienyddiwyd William de Braose, Arglwydd Brycheiniog gan Llywelyn Arglwydd Gwynedd wedi iddo gael ei ddal yn ystafell wely Llywelyn gyda’i wraig Siwan merch brenin Lloegr’.

Dyddiad y dienyddio oedd 2 Mai 1230 – cred rhai i’r amgylchiad trist ddigwydd yng Nghrogen ger y Bala ond cred eraill fod y fangre yn nes gartref i’r Llys yn Aber. Yn ganlyniad i’r tramgwydd carcharwyd Siwan am flwyddyn, ond ni ddiddymwyd trefniant priodas Dafydd ac Isabella – tybed nad oedd diplomyddiaeth yn drech nag anrhydedd yn yr achos hwn?

Yn ardal Abergwyngregyn, fel y mae disgwyl, mae nifer o enwau yn dynodi pwysigrwydd y Llys a’i diroedd cysylltiol. Yno mae Henfaes, y maes gwreiddiol;  Llys Sgolaig, sef cartref y clerc yng ngweinyddiaeth y gyfundrefn; Llys Madog, ac ef oedd ysgrifennydd Llywelyn ap Gruffydd; ac yn yr ucheldir mae Hafod Nant Rhaeadr a Hafod y Gelyn, yr olaf yn fwthyn hela’r tywysogion, ac uwchlaw iddynt ffriddoedd pellach Nant Mawan, Nanhysglain a’r Cras.  Ond, mae dylanwad y Llys i’w weld hefyd yn nhir arfordir y Fenai i’r gorllewin o Abergwyngregyn ym mhlwyf Llanllechid. Mae enwau cyfredol rhai o ffermydd yr ardal -Tai’r Meibion, Tyn Hendre a’r Wig – yn nodi’r berthynas, ac yn y caeau o gylch y ffermydd hyn yn y rhenciau isel sy’n brigo’n donnau ansylweddol eu maint drwy wyneb y borfa, ac yn y llwyfannau sefydlog unionsyth sydd yn nodweddion amlwg yn nhirlun y bryn uwchlaw, gwelir rhith o’r gyfundrefn amaethyddol a gynhaliai weithgaredd y Llys.  Mae yno hefyd hen enwau a gofnodir mewn Arolwg gwerthfawr o diroedd Stad y Penrhyn a gyflawnwyd gan Richard Pennant yn 1768 bedair blynedd wedi iddo briodi aeres y Penrhyn. Rhestrir yn yr Arolwg yr holl ffermydd a berthynai i’r stad gan gynnwys maint ac enw pob cae – cofnod o’i hadolygu sydd i bob diben yn arwyddo diwedd caethglud y Canol Oesoedd yn Nyffryn Ogwen cyn i chwarel lechi fawr Richard Pennant yng Nghae Braich y Cafn ysgubo ymaith yr hen drefn a throi’r ardal yn ffenestr i’r Chwyldro Diwydiannol.  Ymhlith yr enwau personol a gofnodir yn yr Arolwg mae Elen, Barbara a Rhys Powel, personau diflanedig mewn hanes efallai, ond yno hefyd canfyddir Llwyn Ednyfed, ac Ednyfed Fychan oedd disdain Llywelyn ap Iorwerth, a Nant Heilyn, ac onid Heilyn ap Cynfrig oedd un o lysgenhadon Llywelyn ap Iorwerth.

Cynllun Cae Gwilym Ddu yn 1768, Llawysgrif Penrhyn Ychwanegol
Cofrestr caeau Cae Gwilym Ddu yn 1768, Llawysgrif Penrhyn Ychwanegol

Ond, ymhlith yr enwau personol saif un enw ben ac ysgwydd uwchlaw’r gweddill, sef y Gwilym Ddu a gofnodwyd, wrth gwrs, yn enw ar y tyddyn ar gychwyn y nodyn hwn. Canys Gwilym Ddu oedd casenw’r Cymry ar William de Breaos. Deg cae a berthynai i’r tyddyn, ac un ohonynt,  yr Allt Goed, yn fwy na hanner maint yr holl ddaliad o’r bron, ond y cae mwyaf arwyddocaol ei enw, ac un o’r rhai lleiaf onid yn 1 acer, 3 rhwd, 12 pawl o faint, yw Buarth y Garnedd – y buarth yn nodi safle caeedig, y ffald, y gadlas, neu’r cwrt yn ôl ei ystyr ehangach, a’r garnedd yn disgrifio’r crug a fyddai’n gorchuddio’r bedd.  Tybed ai yma y claddwyd gweddillion William de Breaos yn dilyn ei berthynas anfad â Siwan? Mae lleoliad y fangre yn hynod ddiddorol. Saif y buarth ar fin un o lwybrau pwysicaf y cyfnod o Gonwy i Landygái, rhagflaenydd yr hen ffordd A55 cyn dyfodiad y ffordd ddeuol bresennol, ac felly mewn safle cwbl gyhoeddus i’r byd a’r betws ei gweld. Pam felly gladdu mewn lle mor agos i’r llys, mor gyhoeddus i’r byd, ac mor amharchus ei chywilydd i’r cwcwallt? Onid tybed mai rhybudd gweledol gan y teyrn i’w holl ddinasyddion a fyddai hwn rhag iddynt feiddio troseddu a thresbasu? Ond mae yna hefyd hen air heb iddo arferiad mwyach yn y Gymraeg, sef teyrnasaidd, sy’n golygu urddasol, ac er cymaint y gwawd a’r anfri ai tybed y mynnai’r teyrn wireddu ei enw fel Llywelyn Fawr drwy gadw ei urddas?  Cewch chi ddarllenwyr benderfynu beth yw’r gwirionedd.

Lleoliad Buarth y Garnedd yn 1768. Rhan o Fap George Leigh o blwyf Llanllechid sy’n rhan o Arolwg y Penrhyn (S2203), Llawysgrif Penrhyn Ychwanegol

Cydnabod – yr ydym yn ddiolchgar i Ieuan Wyn, Talgarreg, am gyfrannu o’i wybodaeth am enwau ardal Abergwyngregyn sydd mor berthnasol i’r nodyn hwn.

Ffynhonnell

Arolwg y Penrhyn 1768, Llawysgrif Penrhyn Ychwanegol 2944. Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor.

Bryniau Gwyddelod a Phen y Bonc

Panorama Mynydd Llandygái yn 1947 – capel Hermon yn y canol blaen, Llwybr Main canol i gefn y llun, Tanybwlch ar y chwith top, safle’r Gymdeithas Gymunedol ar y dde isod. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Georgina Llewelyn, Llanfairfechan

Nodyn ar y cyd ag Idris Lewis, Dolwern, Ffordd Bangor

Pe byddai gofyn i chwi ddisgrifio Mynydd Llandygái a fuasech yn dewis ei alw yn bentref ynteu yn ardal?  O edrych ar gymunedau Dyffryn Ogwen y tu draw i Fethesda mae’r gwrthgyferbyniad rhwng  Rachub a Mynydd Llandygái yn weddol amlwg. Fel Rachub, creadigaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Mynydd ond amgylchiadau pur wahanol oedd i gyfrif am arwahanrwydd cynllun  y ddwy gymuned. Cywasgwyd Rachub yn bentref cryno i lain bychan o dir a berthynai i stad annibynnol, tra bo Mynydd yn gasgliad o dai a thyddynnod gwasgaredig ar ehangder o ddaear a berthynai yn ei gyfanrwydd i stad y Penrhyn.  A thra gellir adnabod canolbwynt i Rachub megis yn y sgwâr, nid mor hawdd yw diffinio canolbwynt tebyg yn y Mynydd. Lleolwyd yr ysgol a’r eglwys ar y cyrion ond eto gallasai trigolion Mynydd gyfeirio at y ffaith fod cynifer o’r gwasanaethau hynny sy’n angenrheidiol i greu pentref wedi bodoli yno yn ystod cyfnod ei datblygiad  – ar un amser yr oedd yno ddwy siop nwyddau, siop baco a fferins, siop cigydd, crydd, pobydd, swyddfa bost, siop chips a thri chapel,  Hermon i’r Methodistiaid Calfinaidd, Peniel i’r Wesleaid ac Amana i’r Annibynwyr – ond nid oedd yr un o’r rhain yn ddigon amlwg i weithredu fel canolbwynt daearyddol sefydlog yn y cynllun.

Mynydd Llandygái yn 1768  yn dangos y llwybr unig, di-anedd, sy’n croesi’r ‘turbary’  i gyfeiriad y de orllewin o Chwarel Goch.  Noder y tyddynnod o amgylch Llyn Meurig  a safle comin Cae Braich y Cafn i’r de ddwyrain o’r map. Map Arolwg 1768. Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. 

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yr holl ardal ar drothwy mynydd Moelyci yn anghyfannedd a chyfeirir ato yn Arolwg y Penrhyn 1768 fel ‘turbary and common 1009 acres’ a ‘Moelyci and common below 692 acres’.  Dengys map yr Arolwg o’r un flwyddyn fod nifer o dyddynnod ac anheddau bychan yn ymwthio hyd y gelltydd islaw, yn arbennig yn ardal Llyn Meurig, gyda chomin 190 acer Cae Braich y Cafn eisoes wedi ei amgáu, a ffermydd mwy wedi eu sefydlu yng Nghoed y Parc a Chilgeraint.  I’r gogledd uwchlaw Tregarth yr oedd yno gyfuniad o dai unigol a thyddynnod bychan yn ymledu yn unedau llinynnol yn Braich, Bodfeurig, Chwarel Goch a Nant y Graean, ond erys y comin yn fangre agored di-annedd.  Ymddengys fod un llwybr yn croesi’r comin o  Chwarel Goch gan arwain i’r de orllewin i gyfeiriad gweunydd Gwaun Gynfi i  gysylltu, maes o law, gydag ardal Carreg y Gath a Bigil yn Neiniolen yn hytrach nag anelu i gyfeiriad Cae Braich y Cafn a Nant Ffrancon yn y de  ddwyrain. Y llwybr hwn oedd cychwyn amgáu a phoblogi ‘turbary’ Mynydd Llandygái  a chynsail y ffordd bresennol  o Fodfeurig i Ddeiniolen.

Y cam cyntaf oedd cynllun Richard Pennant yn 1796 i blannu can acer o datws ar y ffridd agored uwchlaw Llyn Meurig fel abwyd dyngarol i leddfu newyn mewn cyfnod digon anodd yn amgylcheddol yn yr ardal, ond a oedd hefyd yn cyd-daro’n fanteisiol gydag ymgyrch etholiad sirol yr Arglwydd ar y pryd. Dichon fod arwydd graslon yr Arglwydd  hefyd wedi sefydlu polisi a weithredwyd yn ddygn yn y Mynydd gan y Penrhyn, fel mewn rhannau  eraill o’r stad, sef bod yr Arglwydd yn rhoddi yn hael arian i’r ymgeisydd i adeiladu annedd neu dwlc, ond o gwblhau’r adeilad drwy  lafur personol, byddai’r stad yn codi rhent ar yr eiddo ymhen cyfnod byr o amser.  Dwy flynedd wedi plannu’r tatws, yn 1798, ac yng nghanol y blanhigfa,  adeiladwyd rhes o wyth o dai Tai’r Mynydd, cynllun a oedd eto i sefydlu polisi o anheddu – sef tŷ a gardd helaeth yn gyfagos – ac a ailadroddwyd yn llwyddiannus yn hanes gwladychu’r Mynydd.  Dengys map y Degwm yn 1840 fel yr oedd cynlluniau i amgáu’r comin  ar gychwyn i droi’r rhostir anffrwythlon yn gyfres o dyddynnod bychan i gynnal trefn o amaethu ymgynhaliol. Y cam cyntaf oedd cynllunio gwe o lwybrau i’r de o Lyn Meurig, a’r fframwaith hon roddodd drefn i ddatblygiad anheddu Mynydd Llandygái yn ogystal â chreu mynedfeydd pwrpasol i’r chwarel.

Mynydd Llandygái ym map Degwm 1836/40. Sylwer fod enwau rhai sefydliadau oedd yno cyn amser y map wedi eu hychwanegu (e.e. Bryniau Gwyddelod a Thai’r Mynydd) yn ogystal ag enwau safleoedd a ddatblygwyd yn ddiweddarach (e.e. Capel Amana,  Llwybr Main) . Sylwer ar y datblygiad yn Nyffryn Afon Galedffrwd, Y Felin Fawr  yng Nghoed y Parc, llinell y dramffordd i’r chwarel, a safle Llyn Meurig ar ffin eithaf de y map

Yr oedd dau fath o sefydliad yn gyrru’r broses. Y cyntaf oedd sefydliad y tŷ a’r ardd helaeth a welwyd yn gyntaf yn Nhai’r Mynydd, ond a  ailadroddwyd yn y Gefnan gyfagos yn 1843, ac am y trydydd tro yng nghynlluniau rheolaidd Tan y Bwlch a Llwybr Main yn 1862. Y cynlluniau hyn sy’n rhoddi hynodrwydd arbennig i batrwm gwladoli Mynydd Llandygái, ac yn achos Tan y Bwlch a Llwybr Main golygodd sefydlu dwy res drefnus, gyfochrog, gydag acer o dir yn gysylltiedig â phob annedd ddwbl,  y cyfan yn cyfrannu cyfanswm o tua 80 o dai yn y ddau gynllun. Yr ail sefydliad oedd y bythynnod, gwasgarog eu dosbarthiad, gyda nifer o gaeau bychan ynghlwm, a oedd yn llenwi’r bylchau rhwng y blociau cynlluniedig uchod. Y norm oedd bod rhwng pedwar a chwe chae yn perthyn i bob uned i greu daliadau o rhwng pedwar a chwe acer – a dyna roddi bodolaeth i fythynnod Bryniau Gwyddelod, Bron y Foel, Plas y Nant, Bwlch y Ffordd, Geufron, Cefn’r Ynys, Cae Gybi, Ty’n Buarth, Bryn Gwalchmai, Glanrafon Bach, Pen y Bonc a llawer mwy.

Tanybwlch a Llwybr Main

Mae cynllun caethiwus y ddau floc yn cynrychioli patrwm o feddiannu gorfodol ar dirwedd yr ardal, ac yn eu hanfod dyna yn union oedd eu hamcan. Yr oedd Llwybr Main a Tanybwlch yn rhan o gynllun ehangach gan y Penrhyn i adeiladu tai ar gyfer gweithwyr y chwarel mewn cyfnod pan oedd prinder eithriadol yn stoc tai’r ardal wrth i Chwarel y Penrhyn ehangu i’w maint mwyaf yn ystod ail hanner y ganrif.  Mantais safle’r Mynydd oedd ei agosrwydd i’r chwarel, a gallasai yn ogystal  gynnig amodau brau i weithwyr y chwarel i gyfuno eu galwedigaeth yno gyda bywoliaeth ymgynhaliol ychwanegol ar dyddyn neu yn y stribedi tai.  ‘Acer and a cow’ oedd yr ymadrodd yn y rhestai, a chynhaliaeth galed, ond darbodus, oedd i’w chynnig yn y tyddynnod fel yn economi ymylol rhannau eraill o ardaloedd chwarelyddol Gwynedd.  Pedwar cae a berthynai i Fryniau Gwyddelod. Yr oedd  gŵr y tŷ yn gweithio fel glanhawr ffordd gan ysgwyddo dyletswyddau trymion y tyddyn yn ei amser hamdden gan ddibynnu ar ei wraig i ofalu am gynhaliaeth ddyddiol y tyddyn. Dwy fuwch ac ychydig o ddefaid a dofednod oedd y stoc – y gwartheg i’w godro’n ddyddiol, y defaid i wyna a’r ieir i ddodwy a’r ceiliogod i greu incwm ychwanegol at y Dolig.  Yr oedd yno ardd lysiau ar gyfer gofynion y tŷ a chyda’r llaeth dros ben arferid gwneud menyn i’w werthu yn lleol, a phe byddai gofyn, am yr wyau yn ogystal. Arferid cadw tri o’r caeau ar gyfer tyfu gwair a’r pedwerydd yn borfa haf i’r anifeiliaid, tra ond yn y gaeaf cedwid y ddwy fuwch yn y beudy i’w bwydo gyda gwair y tri chae. Nod pob tyddyn oedd bod mor hunangynhaliol â phosib ond o fewn terfynau eu maint a’u gallu. Diwrnod mawr, a mwyaf pryderus y flwyddyn, fyddai teithio i dalu’r rhent yn Lim Gro. sef Lime Grove ger Porth Penrhyn. Dim ond un tyddyn ym Mynydd Llandygái allai gynnig cynhaliaeth amser llawn i’w ddeiliad a hwn oedd Pen y Bonc,  a llefrith o’r tyddyn hwn a ddosberthid yn ddyddiol i’r gymuned  drwy gyfrwng trol a’r gaseg amyneddgar Poli.  Ac ar y penwythnosau  rownd lefrith John Pen Bonc oedd cyfrwng pres poced hogia’r fro, y llefrith i’w fesur mewn jwg o’r fudai, ond y dosbarthiad i’w rheoli gan arhosiad o hir brofiad Poli’r gaseg.

Poli a’r drol lefrith yn yr eira, John Pen Bonc ar y dde ac Idris Lewis yn hogyn bach ar y chwith. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Idris Lewis.

Erys tai a bythynnod Mynydd Llandygái, a  llawer ohonynt bellach ar eu newydd wedd, ond ciliodd yr hen gymdeithas ddarbodus megis gwlith y bore. Daeth y newid mawr yn ystod canol yr ugeinfed ganrif pan ddisodlwyd yr hen economi ymylol o gyfnod cynt gan drefn pleser o gadw diadell fechan o ddefaid neu ferlen neu geffyl er mwyn diddordeb.  Trodd  nifer o’r caeau a enillwyd drwy lafur caled o’r ffridd yn llecynnau di-gloddiau i’w mygu gan dyfiant brwyn, eithin a phrysgwydd.  Bu i’r siopau a’r capeli gau, ond erys yr eglwys yn ei safle newydd, ac adeiladwyd canolfan gymdeithasol i hyrwyddo bywyd gwahanol y gymuned fodern sy’n trigo ym Mynydd Llandygái ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Gwybodaeth ychwanegol gan Huw John Huws, Porthaethwy.

Mudo o ardal Dyffryn Ogwen

Dyma gyfraniad gan gyfrannwr gwadd Meirion Davies, Bangor

Roedd troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn gyfnod o fudo anferthol yng Nghymru. Heidiodd pobl o gefn gwlad i’r trefi diwydiannol. Yn ogystal roeddent yn symud rhwng yr ardaloedd diwydiannol ac yn allfudo dramor, yn enwedig i Ogledd America.

Gwelwyd mewnfudo sylweddol i Fethesda a’r cylch wrth i chwarel y Penrhyn ddatblygu. Tyfodd poblogaeth plwyfi Llanllechid a Llandygái o tua 2,600 ym 1801 i bron 12,000 ym 1881. Yn bennaf roedd hyn i’w briodoli i fewnfudo. Ym 1881 roedd 44% o drigolion yr ardal yn fewnfudwyr, llawer ohonynt o blwyfi gwledig Sir Gaernarfon ac Ynys Môn.

Ond yn ogystal â mewnfudo, gwelwyd mudo o Ddyffryn Ogwen, yn enwedig o’r 1880au ymlaen.

Pobl a aned yn Llanllechid a Llandygái yn byw mewn siroedd eraill yng Nghymru ac yn Lloegr 1881 – 1911
  Môn DinbychFflintMeirionnyddMorgannwgMynwyGweddill CymruLloegr Cyfanswm
 1881170 126321577133177703
 1891273 1112810650519297889
 1901186 1483911623418806201441
 1911161 1712112565493534161693

Ym 1881 roedd llawer mwy o Fethesda yn byw yn siroedd eraill y Gogledd nag yng ngweddill Cymru neu Loegr. Dyma’r patrwm daearyddol arferol – mae’r mwyafrif o bobl yn dueddol o fudo i ardaloedd cyfagos. Efallai hefyd fod hyn i’w briodoli i atyniad ardaloedd chwarelyddol Meirionnydd neu faes glo Gogledd-ddwyrain Cymru. Patrwm tebyg a geir ym 1891.

Erbyn 1901 roedd nifer y mudwyr o Fethesda i ardaloedd eraill o Gymru a Lloegr bron a dyblu.  gyda’r cynnydd mwyaf i Loegr a Morgannwg. Hefyd gwelwyd dros hanner cant yn symud i Lanwrthwl, Sir Faesyfed – gwaith ar gael yn adeiladu cronfeydd Cwm Elan.  Dros y degawd canlynol y brif nodwedd oedd twf sylweddol yn y nifer a symudodd i ardaloedd glofaol De Cymru.

O ran y mudwyr i Loegr, symudodd tua thri chwarter ohonynt i’r siroedd agosaf i Gymru – swydd Gaerhirfryn (Lerpwl a Manceinion yn bennaf) ac i raddau llai swydd Gaer.

Yn ei nofelau, “Chwalfa” a “William Jones”, mae T. Rowland Hughes yn trafod y mudo o ardaloedd chwarelyddol Gogledd Cymru i Forgannwg. Mae’n cyfeirio at ffactorau oedd yn gwthio chwarelwyr a’u teuluoedd o’r ardal, megis streic, tlodi ac anghydfod cymdeithasol, ynghyd â’r ffactorau oedd yn eu denu i gymoedd glo’r De, megis gwaith a chysylltiadau teuluol. Gall astudiaeth o Forgannwg yng nghyfrifiad 1901 daflu ychydig yn fwy o oleuni ar rai o’r ffactorau yma.

Ar yr un llaw gallai’r mudo a welir ym 1901 fod yn dystiolaeth o effaith streic Chwarel y Penrhyn. Yn ôl adroddiadau papurau newydd y cyfnod gadawodd tua mil a hanner o chwarelwyr yr ardal yn ystod yr anghydfod, llawer ohonynt yn yr wythnosau cyntaf, ac fe deithiodd nifer i gymoedd Morgannwg i chwilio am waith yn y pyllau glo. Ar y llaw arall fe allai’r cynnydd adlewyrchu atyniad datblygiad cyflym maes glo De Cymru. Dyblodd poblogaeth Morgannwg o 511,000 ym 1891 i dros filiwn erbyn 1911.

1901: Strwythur demograffig a chymdeithasol.

Roedd 80% o’r mudwyr o Fethesda i Forgannwg yn ddynion a dros hanner y rheini yn eu harddegau hwyr neu eu hugeiniau. Cymharol ychydig o fenywod a phlant ysgol oedd wedi symud. Gallai hyn fod oherwydd natur y gwaith oedd ar gael – gwaith caled, corfforol yn y pyllau glo a gyflawnwyd yn bennaf gan ddynion ifanc.  Hefyd un o nodweddion mudo’r cyfnod oedd bod y penteulu’n aml yn symud ac yna, wedi iddo ganfod gwaith ac ymsefydlu yn yr ardal newydd, byddai gweddill y teulu’n ei ddilyn.

Roedd bron i dri-chwarter yr oedolion yn lletywyr (lodgers) neu’n ymwelwyr. Mae hyn yn awgrymu fod mewnlifiad sydyn wedi digwydd. Dim ond chwarter y lletywyr yma oedd yn briod a bron y cyfan o’r rhain yno heb eu gwragedd. Mae hyn yn cadarnhau’r pwynt a wnaed yn y paragraff blaenorol. Efallai ei fod hefyd yn dystiolaeth o fudo dros dro gan chwarelwyr yn ystod y streic.

O’r oedolion priod eraill, roedd cyfran uchel ohonynt gyda chymar, naill ai o Fethesda, neu o  gymunedau chwarelyddol eraill Gogledd-orllewin Cymru, e.e.. Dyffryn Nantlle a Ffestiniog. Nifer fechan oedd wedi symud i Forgannwg a phriodi rhywun lleol.

1901: Nodweddion cyflogaeth.

Dim ond tair o’r menywod oedd mewn gwaith cyflogedig – un forwyn ac un wniyddes – swyddi cyffredin yn y cyfnod. Hefyd un yn labro ar yr wyneb mewn pwll glo.

O ran y dynion, roedd pawb dros 14 oed yn gyflogedig. Yn eu plith roedd ambell bregethwr, masnachwr, clerc neu grefftwr. Nododd rhai eu bod yn chwarelwyr llechi – ai newydd symud i’r ardal ac yn chwilio am waith, neu arwydd eu bod yn ystyried eu harhosiad ym Morgannwg yn un dros dro?

Gwaith Gwrywod o FethesdaNifer
Engine Fitter labourer1
Saer Coed1
Pobydd1
Masnachwr llechi1
Gof1
Clerc1
labrwr gwaith dur1
Pregethwr3
Chwarelwr calchfaen3
Labrwr3
Chwarelwr llechi23
Pyllau Glo137
CYFANSWM176

Cyflogwyr mawr Morgannwg oedd y gweithfeydd haearn a dur a’r pyllau glo. Dim ond pedwar o Fethesda oedd â gwaith yn y diwydiant haearn – un fel labrwr mewn gwaith dur a thri mewn chwarel calchfaen. Mewn cymhariaeth roedd 137 yn gweithio yn y pyllau glo. Yr esboniad am hyn yw y gallai chwarelwyr drosglwyddo eu sgiliau a’u profiad yn haws i’r diwydiant glo nag i’r gweithfeydd haearn a dur.

Oddi fewn i’r diwydiant glo, diddorol yw’r amrywiaeth a swyddi a gaed. Cofnodwyd rhai fel “glowyr” ac amryw yn labrwyr – heb eto ennill y profiad i wneud gwaith mwy arbenigol. Y swydd fwyaf niferus oedd torrwr, oedd yn cloddio talcen y wythïen lo. Fe’i cynorthwyid gan y rhwygwr oedd yn rhwygo’r glo. Y coediwr oedd yn gosod propiau i gynnal y to a’r trwsiwr yn trwsio unrhyw wendid neu ddifrod. Roedd eraill yn ymwneud â symud y glo i’r siafft – yr haliwr yn symud wagenni glo ar hyd traciau, yn aml gyda chymorth merlod. Y fforddolwyr oedd yn gosod y traciau yma. Cyfrifoldeb y taniwr oedd gofalu am y ffwrnais oedd yn awyru’r pwll.

Patrymau daearyddol

Ychydig iawn o Fethesda symudodd i drefi a dinasoedd yr arfordir, e.e.. Caerdydd, Penarth ac Aberafan. Yn hytrach i gymoedd Llynfi,  Cynon, Rhondda a Thaf aeth y mwyafrif. Rhwng 1880 a 1914 tyfodd diwydiant glo De Cymru ar raddfa na welwyd ei thebyg. Dim ond meysydd glo’r Ruhr yn yr Almaen ac Ohio/Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau oedd yn datblygu ar yr un raddfa. Erbyn 1913 roedd 323 pwll glo ym Morgannwg yn cyflogi dros gan mil a hanner o lowyr, felly roedd digon o waith ar gael i’r sawl oedd yn barod i fudo yno.

Yn aml roedd mudwyr o Fethesda’n symud at aelodau o’u teulu neu ffrindiau oedd eisoes wedi ymsefydlu ym Morgannwg. Dyma’r hyn a elwir yn mudo cadwyn – unigolion mentrus yn symud yn gyntaf, yna’n denu ffrindiau a theulu atynt. Roedd 90% o’r lletywyr yn byw yn yr un tŷ â phobl eraill o Fethesda neu ardaloedd chwarelyddol eraill Gogledd Cymru.

Ceir aml i enghraifft o fudwyr o Fethesda yn byw yn yr un stryd. Daw’r enghraifft orau o Flaenllechau yn y Rhondda Fach. Deuai penteulu 5 o’r 6 tŷ cyntaf yn Aberdare Road o Fethesda ac roedd pymtheg arall o Fethesda yn cydfyw â hwy – yn deulu a lletywyr.

Mae oed y plentyn ieuengaf yn profi fod llawer o’r teuluoedd wedi symud o Fethesda yn weddol ddiweddar – llawer yn y flwyddyn neu ddwy flaenorol. Gall mannau geni’r plant hefyd awgrymu tipyn am symudiadau’r rhieni. Dyma rhai enghreifftiau.

  • 2 Aberdare Road, Blaenllechau, Rhondda. Ganed William Lewis ym Methesda, a’i wraig Elizabeth yn y Felinheli.  Roedd ganddynt ddwy ferch, Ann yn ddwy flwydd oed ac wedi ei geni yn y Felinheli a Sarah a anwyd deufis cyn y cyfrifiad yn Ferndale.
  • 2 Park Terrace Pentrebach Merthyr. Roedd Thomas Davies yn wreiddiol o Lysfaen, Sir Ddinbych a’i wraig, Jane o Lanrwst. Ganwyd y ddau blentyn hynaf yn Llysfaen a’r ddau ieuengaf ym Methesda. Dwy flwydd oed oedd yr ieuengaf, felly roeddent wedi mudo ym 1899 neu’n ddiweddarach.
  • 38 Pritchard Street Treharris. Ganwyd William Owen yn Rhiwlas a’i wraig Mary yn Ebenezer (Llanddeiniolen). Ym 1894 roeddent yn byw ym Mangor, ble ganed eu plentyn hynaf. Erbyn 1896 roeddent wedi symud i Lanllechid, ble ganed y tri phlentyn, yr ieuengaf ym 1900. Felly roeddent yn fudwyr cymharol ddiweddar.
  • 3 Aberdare Road. Roedd James Murray wedi ei eni yn Enniskillen, Iwerddon a’i wraig, Hannah ym Methesda. Priodwyd hwy yn Bolton ac yno ganwyd eu plant hynaf  ym 1892 a 1897. Ganwyd yr ieuengaf ym Methesda ym 1899. A oedd y teulu wedi ymsefydlu ym Methesda ac yna symud i Forgannwg ynteu ai ymweld â’r teulu oeddent adeg yr enedigaeth ?
  • 132 Balaclava Row, Penygraig, Rhondda. Deuai Owen Owen o Frynteg, Sir Gaernarfon a’i wraig, Catherine o Fethesda. Ganwyd eu mab hynaf Owen, yn Ffestiniog. Ganwyd 3 phlentyn arall yn yr Unol Daleithiau ac un ar y llong wrth ddychwelyd i Gymru. Ganwyd y tri ieuengaf ym Mhenygraig. O edrych ar oed y plant, gallwn weld fod y teulu yn Ffestiniog tua 1882, yn yr Unol Daleithiau o 1885 i 1891 ac ym Mhenygraig erbyn 1892. Beth a’u denodd i symud yn ôl ? Nid oedd hyn yn anghyffredin – yn y cyfrifiad cofnodwyd fod bron 350 o drigolion cymoedd Rhondda wedi eu geni yn yr Unol Daleithiau.

Gwelwn wrthlif bychan o fudwyr o Forgannwg i Fethesda , gan gynnwys pobl yn dychwelyd. Un enghraifft yw teulu Thomas Jones, chwarelwr o Sir Fôn. Symudodd i Ddowlais, priodi merch leol ac yno ganwyd eu plentyn cyntaf ym 1893. Erbyn 1895 roeddent yn Llanllechid, ble ganwyd eu tri phlentyn nesaf.

Enghraifft arall yw teulu Ellis ac Anne Hughes, y ddau o Fethesda. Ym 1887 roeddent yn Nhonypandy, Cwm Rhondda. Dair blynedd yn ddiweddarach roeddent yn Wrecsam cyn dychwelyd i Lanllechid erbyn 1894. Maent yn ôl yng Nghwm Rhondda ym 1898 ond yn byw yn Rachub ym 1901.

Casgliadau.

Bu cynnydd mawr yn nifer y mudwyr o Fethesda i Forgannwg ym 1901 a 1911. Yn ddiamau mae hyn yn dystiolaeth o effaith streic Chwarel y Penrhyn ond mae hefyd yn amlygu atyniad economaidd maes glo De Cymru. Mae’r patrymau a welir yn cyd-fynd â nifer o ddamcaniaethau daearyddol am fudo, sef:

  • Mae’r mwyafrif o symudiadau’n rhai byr – llawer o’r rhain rhwng ardaloedd tebyg (yn yr achos yma ardaloedd chwareli Gogledd-orllewin Cymru). Os oes mudo dros bellter hirach, rhaid bod atyniad y cyrchfan yn gryf, ac mae’n dueddol o fod i gyfeiriad ardaloedd diwydiannol neu ddinesig.
  • Ffactorau economaidd oedd prif achos mudo’r cyfnod yma.
  • Mae’r mwyafrif o fudwyr yn ifanc ac yn ddibriod, yn enwedig os ydynt yn symud pellter hir.
  • Mae rhyw’r mudwyr yn ddibynnol ar y cyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y cyrchfan.
  • Mae cyswllt personol yn dylanwadu ar benderfyniad pobl i fudo – mudo cadwyn.
  • Am bob llif o fudwyr i gyrchfan, gwelir gwrthlif i’r tarddle. Mae nifer o’r mudwyr yma’n dychwelyd i’w cynefin (return migration).