Maes parcio digon anniddorol sydd yng Nghae Star heddiw, ond ar un adeg yn y 19g yr oedd yn ferw o fywyd, gweithgaredd a diwydiant. Yma, mewn llain cymharol fain o dir, wedi ei gywasgu rhwng y Stryd Fawr ac Afon Ogwen, yr oedd stad ddiwydiannol Bethesda yn cyflawni rhai o ofynion pentref hunangynhaliol yn ôl gofynion yr oes. Eto, yr oedd rhyw arwahanrwydd rhyfeddol yn perthyn i Gae Star er ei agosed i fwrlwm y Stryd Fawr. Nid pawb oedd yn dymuno mynychu y rhan ddirgel hon o’r pentref, yn rhannol oherwydd bod dieithrwch y fangre wedi ei ddiogelu o’r Stryd Fawr gan fynedfa drwy dwnnel isel tywyll; yn rhannol, oherwydd nad oedd ei diwydiannau yn arogli’n beraidd a derbyniol bob amser, ac yn rhannol oherwydd y syniad cyfeiliornus mai ardal ddifreintiedig iawn oedd hon na ddylid ymweld â hi.
Mae’n anodd gwybod pryd yn union y sefydlwyd Cae Star yn gartref i ddiwydiant. Mae enw’r safle yn gysylltiedig â‘r dafarn gyntaf ar y Stryd Fawr, y Star, a oedd mewn cystadleuaeth â’r capel yn 1820 i enwi’r pentref naill ai yn Bethesda neu yn Star. Ac yng Nghae Star y sefydlwyd capel cyntaf y Bedyddwyr yn y pentref drwy nawdd teulu’r Ellisiaid, perchnogion y tir a stad y Cefnfaes bryd hynny. Byr fu arhosiad y capel yno cyn symud yn 1834 i leoliad mwy bonheddig yn gymar i’r Wesleaid a’r Annibynwyr mewn triongl cyfleus rhwng Allt Penybryn a’r Stryd Fawr.

Ganed y Parch John Owen Jones, gweinidog a ddaeth ymhen amser yn ei yrfa yn brifathro Ysgol Rhagbaratol y Bala, yn Brynduntur, Stryd y Felin, Cae Star yn 1857. Sylwer ar yr enw Brynduntur! Mae awdur y cofiant i’r gweinidog, wrth ragymadroddi ar ei fachgendod, yn darlunio ymwelydd yn cyrraedd Bethesda o gyfeiriad y gogledd. Byddai’n gyntaf yn cerdded o dan bont oedd yn croesi’r ffordd o’i flaen (pont oedd yn cysylltu’r ddwy ran o chwarel Llety’r Adar), cyn sylwi ar lethr uchel ar y chwith oedd yn disgyn yn serth i wely’r afon islaw, ac ar y llechwedd safai hen dafarn o’r enw Tŷ Persi. Wedi cyrraedd y Stryd Fawr byddai’n nodi fod Twr, Lôn Pâb a Phenygraig ar y chwith, ac ar y dde gyfres o fan heolydd yn ‘rhedeg y tu cefn… megis Stryt y Rhinws, Stryt y Brewas a Stryt y Felin’. Mae map Johnson o bentref Bethesda yn 1855 yn ategu lleoliad y cyfeiriadau hyn ac yn dangos datblygiad cywasgedig y rhesi tai yng Nghae Star, er nad yw yn eu henwi, yn ogystal â lleoliad capel y Bedyddwyr fel yr oedd gynt. Dengys y map fod dwy fynedfa i’r safle o’r Stryd Fawr, y ddwy led un adeilad oddi wrth ei gilydd, ac mae’n ymddangos fod un rhan o’r llain heb ei ddatblygu ar lan yr afon yn y pen gogleddol. Nid oedd ‘Y Farchnad’ (Neuadd Ogwen y dyfodol) wedi ei hadeiladu yn y pen gogleddol yn 1855.
Dwy res o dai bychan o safon isel eu hadeiladwaith a’u cyfleusterau oedd yng Nghae Star, ac roedd yn amlwg yn ddatblygiad cynnar yn hanes y pentref. Yr oedd Stryd y Felin wedi ei chywasgu yn rhyfeddol o agos at gefnau adeiladau’r Stryd Fawr fyddai’n eu cysgodi hyd at bedwar llawr uwchlaw. Yn cefnu ar y tai o du’r Stryd Fawr yr oedd naw tafarn, o’r 18 oedd yn bresennol ar y stryd (Britannia, Blue Bell, Bull, Coach and Horses, Crown, King’s Head, Royal Oak and Welsh Harp, Ship, Wellington); tair siop bwtsiar o’r pump; ac o leiaf bedair o’r 12 siop groser oedd ar y stryd, bob un ohonynt â mynediad preifat i Gae Star drwy eu selerydd, cyfleuster a fyddai’n sicr yn tarfu ar gymeriad a mwyniant preswylwyr Stryd y Felin. Mae cyfrifiadau cynnar o Gae Star yn rhoddi syniad o brysurdeb diwydiannol yr ardal, er nad yw cyfrifiadau 1841 ac 1851 yn enwi’r ddwy stryd yn benodol. Cyfrifiad 1871 sy’n enwi’r ddwy stryd am y tro cyntaf fel Mill Street ac Ogwen Street (Stryd y Briwas wedi newid ei enw, tybed?), y ddwy yn strydoedd parchus gyda 49 tŷ yn Stryd y Felin, ac 16 tŷ yn Stryd Ogwen. Chwarelwyr bron yn ddieithriad oedd preswylwyr y tai, ond yr oedd yno groestoriad o swyddogaethau eraill yn ogystal, megis seiri, gofaint, a gwneuthurwyr esgidiau, gwniadyddesau dillad a hetiau, morwynion, golchwyr dillad a glanhawyr tai. Yn eu plith yr oedd nifer fechan o dlodion yn wŷr a merched. Ond fel y tystia cofiant y Parchedig John Owen Jones yr oedd yno hefyd bandy a melin, ac efallai friwas (bragdy), cyn ei eni yn 1857, ac fe ddechreuodd yntau weithio yn ddeuddeg oed yn y ffatri wlân oedd gerllaw ei gartref.
Mae manylion cyfrifiadau 1841 ac 1851 yn ychwanegu ychydig mwy o wybodaeth, er nad yw’n enwi’r strydoedd yn ardal y Stryd Fawr. Yn ôl y cyfrifiad, chwarelwyr oedd mwyafrif llethol preswylwyr yr holl ardal, gyda thafarnwyr a siopwyr yn gydradd amlwg yn y cyfrif, ond yr oedd rhai galwedigaethau eraill yn dal sylw: yn 1841 Hugh Owen, fuller; William Hughes, weaver; William Jones, moulder; John Williams, miller; a nifer fawr o wneuthurwyr esgidiau , ac yn 1851 gwelwyd y canlynol: dau Wool Manufacturer, tri Hand Weaver a Weaver, dau Flour Dealer a dau Brewer – er y mae’n werth ystyried nad yw pob dyn yn byw yn yr un stryd ag y mae’n gweithio ynddi.

Dengys mapiau ordnans cynnar o ardal Cae Star fod o leiaf bedwar adeilad sylweddol eu maint yn sefyll ar lan afon Ogwen, a bod o leiaf ddau, os nad tri, wedi eu cysylltu drwy lifddor a ffos gyda’r afon. Mae’n amlwg felly fod o leiaf ddwy olwyn ddŵr wedi pweru’r adeiladau hyn – y felin ar derfyn Stryd y Felin fyddai’r adeilad cyntaf i dderbyn y cyflenwad, ac ar waelod Stryd Ogwen derbyniai’r ail adeilad y dŵr o raeadr isel a ddarparwyd yn yr afon i gryfhau’r llif. Prin fod modd gwybod yn union pa ddiwydiannau oedd yng Nghae Star yn ystod cyfnod cyntaf datblygu’r safle. Mae’r Trade Books blynyddol, megis Pigot a Slaters, yn cofnodi Bethesda dan bennawd Bangor gan nodi pob cyfeiriad busnes yn benagored fel y pentref rhagor nag fel manylyn perthnasol.
Mae cyfrifiad 1871 yn arwyddo efallai fod cyfnewidiadau ar droed yng Nghae Star. Tybed a oedd y pandy a’r felin a’r friwas mewn gwaith erbyn hynny? – er mae’n rhaid cydnabod fod fuller a dau fragwr wedi eu cofnodi yn gyfochrog â’r criw arferol o chwarelwyr a gweithwyr medrus. Yno hefyd yr oedd pedwar gwneuthurwr esgidiau, un platelayer ac un iron moulder. Y diddordeb pennaf, serch hynny, yw yn y nythaid bychan, ond arwyddocaol, o wneuthurwyr brethyn (2), gwehyddion (3) a gwraig oedd yn gwau sanau oedd yn Stryd y Felin. Hanai un o’r gwneuthurwyr o Sir Fynwy, dau o’r gwehyddion a’r wraig o Fôn ac roedd y gweddill yn lleol. Gellir dilyn hanes y nythaid hwn yng nghyfrifiad 1881 pryd y canfyddir bod dwy ffatri wlân yn Stryd y Felin – un yn rhif 11 lle’r oedd lletywr o Langwyllog, Môn yn gweithio fel gwehydd, a’r pwysicaf yn rhif 33 lle’r oedd Edward Morris o Landrygarn, Môn yn cyflogi un dyn ac un bachgen yn ei ffatri. Erbyn cyfrifiad 1901 yr oedd Edward Morris wedi symud i rif 5 yn Stryd Coetmor pryd y disgrifir ef fel gweuwr gwlân a’i ferch fel gweuwraig sanau. Yn rhif 33 Stryd y Felin yr oedd Shem Morris a’i wraig yn byw, ef yn wreiddiol o Gemaes, Môn, ac yn wneuthurwr brethyn yn cyflogi lletywr ieuanc o Bwllheli fel gweuwr gwlân. Yng nghyfeirlyfr busnes blynyddol Slaters am 1883 sydd yn hysbysu prif fusnesau pentref Bethesda, dim ond un cyfeiriad sydd i fusnes yng Nghae Star ac yn arwyddocaol iawn y cyfeiriad yw – Morris Edwards, Mill Street, woollen manufacturer. Mae’n eithaf tebygol mai’r pandy a’i gae duntur cysylltiedig oedd y diwydiant cyntaf i ddiflannu o Gae Star, er i ddylanwad sylfaenol gwlân a brethyn barhau yn yr ardal hyd at ganol y 19g pan oedd Margaret Roberts, oedd yn byw yn y Stryd Fawr yn cefnu ar Gae Star, yn dal i redeg busnes bychan, ond llewyrchus, yn gweu sanau i chwarelwyr yn bennaf.
Yn y deng mlynedd rhwng cyfrifiad 1871 ac 1881 yr oedd cyfnewidiadau allweddol yn digwydd yng Nghae Star wrth i brysurdeb egnïol yr ardal ddechrau pallu. Yr allwedd bwysicaf i’r newid yw nifer y tai sydd heb breswylwyr ynddynt. Cofnodir bod saith o’r deg tŷ cyntaf yn Stryd y Felin yn ddibreswyl gyda dau dŷ arall yn y rhes yn wag, tra yn Stryd Ogwen yr oedd tri thŷ allan o’r un ar bymtheg hefyd heb breswylwyr. Mae manylion cyfrifiad 1901 ar ddechrau canrif newydd yn amlygu’n eglur faint pellach y dirywiad yng Nghae Star. Yr oedd newid sylfaenol wedi digwydd ym mhoblogaeth a chartrefedd yr ardal yn gymaint felly nes newid ei chymeriad bron yn llwyr. Yn Stryd y Felin adroddir bod o leiaf 22 tŷ yn wag, ac roedd y cyfrifiad yn nodi bod tri o’r tai bellach yn furddynnod. Yn fwy trawiadol fyth dim ond un ar ddeg chwarelwr a’u teuluoedd oedd yn byw yng Nghae Star, ond yr oedd 24 o wragedd gweddwon/dibriod a phlant, wedi eu cofrestru fel penteulu. Roedd y mwyafrif heb waith, rhai mewn swyddi distadl fel golchwragedd neu lanhawyr, a saith wedi eu cofrestru yn dlodion. Dim ond tair gwniadwraig dillad oedd ar y safle, ac o blith y dynion yr oedd un crydd, un saer, un bwtsiar, tri gyrrwr cerbyd a phedwar labrwr mewn gwaith.
Yn cydredeg â’r cyfnewidiadau cymdeithasol yr oedd patrwm diwydiannol Cae Star hefyd wedi newid. Nid oedd sôn bellach am y bragdy, os bu un o gwbl yng Nghae Star, ac mae’n bur annhebygol fod y felin, a roddodd ei henw i’r stryd, yn gweithio erbyn diwedd y ganrif. Yng nghyfrifiad 1901 datgelir mai cwmni o’r enw yr Ogwen River Slate Mill oedd yn defnyddio’r adeilad mawr ar waelod Stryd Ogwen, ac mae’n eithaf tebyg mai hwn oedd y cwmni fel Owen Richard and Son, Bethesda Slate Manufacturers and Cutters, sydd yn ymddangos yn hysbyslyfr Slaters yn 1883 ond heb nodi ei leoliad yng Nghae Star. Ac ai tybed mai yn y felin hon yr oedd mab rhif 5 Stryd y Felin yn gweithio fel slate slab planer yng nghyfrifiad 1901?

Rhywbryd yn y ganrif, ar amser amhenodol, sefydlwyd prif ladd-dy pentref Bethesda yng Nghae Star i gyflawni gofynion holl fwtseriaid y Stryd Fawr. Lleolwyd y lladd-dy yn un o’r adeiladau ar lan yr afon yng nghyffiniau Stryd Coetmor. Nepell oddi wrtho lleolwyd prif le chwech dynion y Stryd Fawr. O edrych ar restr diwydiannau Cae Star gellir amgyffred nad oedd brin yr un ohonynt yn felys eu harogleuon: y pandy, y bragdy na’r lladd-dy. Adroddir mai afon Ogwen oedd y garthffos gyfleus i garthion y lladd-dy; roedd yn llwyddiannus yn llif y gaeaf ond yn nŵr trai yr haf yr oedd yn gadael y perfeddion yn sypiau drewllyd hyd y lan. Ychwanegwch y ffaith fod lle chwech y dynion hefyd wedi ei leoli yng Nghae Star ac yn defnyddio’r un garthffos gyffredin, a gellir megis ffroeni gweddill y darlun!

Os cywir y dehongliad uchod o hanes Cae Star yna mae’n adroddiad trist am ddirywiad cyson dros amser ardal oedd unwaith yn falch o gyfraniad ei chymdeithas a’i diwydiannau at dwf pentref Bethesda. Yn raddol drwy esgeulustod a chyfnewidiadau cymdeithasol llithrodd yr ardal i gyflwr o glawstroffobia a dirwasgiad trist, i’w charcharu’n gyfleus y tu cefn i dwnnel tywyll eu mynediad i’r Stryd Fawr. Cymerodd bron i gant saith deg o flynyddoedd cyn y rhyddhawyd Cae Star o’i charchar anniben pan chwalwyd y twnnel tywyll yn 1994. Ac i ba bwrpas tybed? I greu un maes parcio di-ramant.
Diolchiadau – cyfrannodd Idris a Janice Lewis, Dolwern, a Richard Hughes, O’r Diwedd, Lôn Sarna yn sylweddol i ymchwil y nodyn hwn
Ffynhonnell
John Pritchard (Parch). 1927. Rhamant Bywyd Athro – sef hanes gyrfa’r Parch John Owen Jones, B.A, Prifathro Ysgol Rhagbaratoawl y Bala. Gwasg y Bala.