Ddiwedd y ddeunawfed ganrif fe ddaeth yn amlwg fod datblygiad Chwarel Cae Braich y Cafn yn dioddef yn enbyd oherwydd diffyg cysylltiad boddhaol rhwng y gloddfa a’r porthladd yn Aber Cegin. Ni fu agor Ffordd y Lord yn 1788 yn fesur digonol i gynnal trafnidiaeth y trolïau trwm o’r chwarel ac felly yr oedd yn angenrheidiol creu cynllun mwy uchelgeisiol. Un cynllun chwyldroadol, ond cwbl nodweddiadol o hyder a dyfeisgarwch cychwyn y Chwyldro Diwydiannol oedd adeiladu camlas i gysylltu’r chwarel â’r porthladd. Yn 1799 comisiynwyd cynllun gan Thomas Dadford, cynllunydd camlesi a thramffyrdd a chyfaill i Richard Pennant, Arglwydd y Penrhyn. Cyflwynodd gynllun ar ffurf llinell ddi-fwlch sy’n anodd i’w ddehongli gan nad oes prin gyswllt rhyngddo a thirwedd ac aneddiadau’r ardal.
Gellir dyfalu llwybr y gamlas er hynny. Problem fawr Dadford oedd goresgyn goleddf o tua 650 troedfedd mewn pellter cymharol fyr o saith milltir rhwng y chwarel a’r arfordir. Cynlluniodd gamlas mewn pum cymal a phedair incléin yn uno’r cymalau. Gan gychwyn yn y chwarel, lle byddai llyn neu fasn llwytho yn cael ei greu a chan ddilyn cyfuchlin oddeutu 650 troedfedd i groesi Afon Galedffrwd a chyfeirio ymlaen drwy Gilgeraint a Nant y Graean byddai’n cyrraedd uwchlaw Dob yn Nhregarth. Yno yr oedd yr incléin gyntaf yn cysylltu â’r ail gymal a fyddai’n arwain i gyfeiriad Felin Hen drwy Dyn Lon a Thyddyn Sarn. Lleolid yr ail incléin yn yr ardal hon a byddai’r trydydd cymal wedyn yn mynd am gyfeiriad ffermydd Coed Howel. Yn y Ffridd yr oedd y drydedd incléin a llwybr y pedwerydd cymal yn arwain drwy wastadedd Llandygái i gyrraedd Allt Marchogion a safle’r pedwerydd incléin. O’r fan honno byddai’r pumed cymal yn arwain heibio Tan y Bryn gan orffen yn y porthladd. Yn ôl cynllun y gamlas byddai’n mesur 12 troedfedd ar ei thraws, yn chwe troedfedd yn ei throed ac yn bedair troedfedd o ddwfn. Byddai cychod 20 troedfedd o hyd yn cludo tair tunnell o lechi yn nofio’i dyfroedd. Gallai un ceffyl dynnu deg o gychod ar y tro ac felly cyfanswm pob llwyth fyddai 30 tunnell.
Cost yr holl prosiect gan gynnwys cloddio’r llwybr; codi pum pont; costau deunyddiau crai a pheirianwaith yr incleiniau fyddai £3605:3:9 a gostyngiad o £205:0:0 pe defnyddid rhydau yn hytrach na phontydd. Fel sy’n berffaith amlwg bellach ni chafodd y cynllun ei fabwysiadu ac fe ddaeth cynllun tramffordd y chwarel i gymryd ei le.
Ond mae gwerth ystyried am funud y fath olygfa fyddai gweld incléin Dob yn gweithio rhywbeth yn debyg i’r allt sy’n codi cychod camlas heddiw yn Foxton ger Market Harborough sydd yn rhan Caerlŷr o Gamlas y Grand Union (gweler y llun isod).

Ffynonellau
Archifdy Prifysgol Bangor – Penrhyn Ychwanegol 2944; Mapiau Penrhyn S2203, S2205, S2207).
Boyd, J. I. C. 1985. Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford.