Cwt mawn Bwlch Molchi

Cwt Mawn
Y Cwt Mawn ger Bwlch Molchi; llun drwy ganiatâd Roland Flook

Mae cytiau mawn yn adeiladau prin iawn yn nhirlun ucheldir Eryri ond credir fod un adeilad o’r math hwn  wedi’i leoli i’r dwyrain o hafn Bwlch Molchi (cyfeirnod Arolwg Ordnans SH 637681). Mae ar ymyl rhan o Waun Cwys Mai sy’n cynnwys pydewau mawn ac nid yw ymhell o fawnog Gallt y Mawn sy’n ffurfio ymyl ddwyreiniol dyffryn Afon Ffrydlas. Adeiladwaith hynod anghelfydd sydd i’r adeilad hirsgwar. Mae’n mesur oddeutu 6.4 metr wrth 3.7 metr ac mae wedi’i lunio o gerrig bras. Byddai’n rheitiach cydnabod mewn gwirionedd fod y safle yn cyfateb i sylfaen adeilad yn hytrach nag i adfail murddun.

Roedd i’r cwt mawn swyddogaeth bur bwysig yn nhymor gwaith y cymunedau a oedd yn byw ar ffin y mynydd yn y gorffennol. Un o orchwylion y gwanwyn oedd torri mawn. Y dasg gyntaf oedd digroeni tywyrch o wyneb pwll â haearn didonni ac yna â rhaw hir finiog dorri i lawr yn drefnus i ddyfnder y pwll a chodi cyfresi o friciau mawn hirsgwar i’w sychu uwchlaw ar y geulan. Ymhen tua wythnos byddid yn dychwelyd i’r fawnog i godi’r briciau yn drionglau o dri, un bric talsyth yn y canol a bric ar ogwydd yn pwyso ar y naill ochr, i ganiatáu’r gwynt i chwythu drwyddynt i’w sychu. Gadewid i’r tociau sychu tan yr hydref pan fyddid yn dychwelyd i’w cludo i’r cwt mawn ger y tŷ neu i’w gosod mewn tas ar y fawnog. Yr oedd angen crefft arbennig i adeiladu’r das. Gosodid y briciau ar sylfaen o gerrig i ofalu bod eu gwaelod yn sych ac yna gosodid pob mawnen i wyro at i lawr fel y bo’r glaw yn rhedeg oddi arnynt. Diddosid y das drwy osod plethwaith o wiail, rhedyn neu rug yn do arni ac yna rhwymid hi i lawr er mwyn ei diogelu. Yr oedd angen oddeutu chwedeg llwyth trol i gadw tŷ yn ddiddos drwy’r flwyddyn ac ni fyddai’r tân yn cael ei ddiffodd dros nos, ond yn hytrach byddid yn ei nuddo tan y bore â shwrwd  mawn er mwyn ei gadw ynghyn drwy’r flwyddyn.

Yn  ystod cyfnod cynnar Chwarel y Penrhyn cofnodir fod siediau’r gloddfa yn cael eu cynhesu gan fawn o gorsydd Nant y Benglog, contract go drafferthus bid siŵr o gofio nad tasg hawdd fyddai cyflenwi’r cynnyrch. Saif y cwt mawn ym Mwlch Molchi ar ffin ardal o brysurdeb mawr yn ystod cyfnod cynhanes. Mae pentref cynhanes Moel Faban gerllaw ond does dim tystiolaeth i gysylltu’r cwt mawn â therfynau caeau’r safle. Mae hefyd yn yr un ardal gyfres o dwmpathau yn dilyn llwybr ffos Coetmor wrth iddi groesi mawnog Gwaun Cwys Mai. Mae’n demtasiwn ystyried bod y rhain hefyd yn fath ar hen deisi mawn, ond eto does dim tystiolaeth i gadarnhau’r cysylltiad, a byddai’n fwy perthnasol eu cysylltu â’r gwaith o agor y ffos.

Ffynonellau  

Roberts, Margaret Roberts . 1979. Oes o Fyw ar y Mynydd. Caernarfon.

Comisiwn Brenhinol ar Henebion Sir Gaernarfon, 1956, (1), lxxviii. Llundain

Advertisements

Pen y Gaer

 

Llun awyr Carneddi
Pen y Gaer o’r awyr; llun drwy ganiatâd David Longley

Mae Pen y Gaer sydd uwchlaw fferm Cilfodan yn y Carneddi yn tra-arglwyddiaethu dros bentref Bethesda a rhan helaeth o Ddyffryn Ogwen. Caer o gyfnod yr Oes Haearn ydyw ac felly mae’n dyddio mewn amser o rhwng y ganrif gyntaf Cyn Crist a’r ganrif gyntaf Oed Crist. Dewiswyd safle’r gaer yn ofalus i goroni bryncyn isel, ac adeiladwyd rhagfur o gerrig i amgylchynu cylch hirgrwn yn y canol sy’n mesur oddeutu 63 x 46 metr mewn maint. Nid oes olion adeiladau oddi fewn i’r gaer heddiw ond ni olyga hyn nad oedd nifer o dai bychan crwn yno yn wreiddiol. Gosodwyd y fynedfa ar ymyl de-orllewinol y  gaer ac yno hefyd mae rhan o’r rhagfur gwreiddiol yn aros. Adeiladwyd wal fodern i orchuddio’r rhagfur gan atgyfnerthu’r argraff mai safle amddiffynnol oedd Pen y Gaer. Gerllaw, ac i gyfeiriad y dwyrain ac ar waelod yr allt, lleolwyd tŷ crwn a lloc wedi’u hamgylchynu gan rag-glawdd isel, safle fferm fechan neu annedd efallai. Mae’r safle hon yn perthyn fwy neu lai i’r un cyfnod â’r gaer, ac mae cyfres o gaeau bychan sy’n dringo’r allt ar silffoedd pwrpasol i gyfeiriad y Foel hefyd o bosibl yn perthyn i’r un cyfnod.

Caer Tanfoel
Pen y Gaer, Tan y Foel a Charneddi o’r awyr; llun drwy ganiatâd David Longley

Ceir tair caer arall yn Nyffryn Ogwen. Mae caer Pendinas yn Nhregarth fel pe bai wedi’i lleoli mewn man strategol i reoli mynediad i geunant Afon Ogwen, tra bo’r gaer uwchlaw fferm Tŷ’n y Caeau, ger Pentir, yn gwarchod y fynedfa i ddyffryn Afon Cegin. Y gaer leiaf ei maint, os nad y lleiaf ym Mhrydain, yw’r safle sydd bellach wedi’i hynysu yng nghanol chwarel y Foel yn Rachub, ac mae’n anodd damcaniaethu pam tybed y lleolwyd caer mewn safle mor strategol anaddas.

Caer Cilfodan
Pen y Gaer wrth edrych tua’r gorllewin; llun drwy ganiatâd Roland Flook

Mae dadlau brwd ynghylch pwrpas caerau yr Oes Haearn. Dadleua un garfan mai safleoedd ar gyfer pentrefi sefydlog oeddynt, tra bo eraill yn mynnu mai eu prif swyddogaeth oedd bod yn noddfa amddiffynnol dros dro mewn cyfnod o ansicrwydd a rhyfela. Mae’n amlwg fod peth gwirionedd yn perthyn i’r ddwy farn gan fod archwiliadau archeolegol yn cadarnhau agweddau o’r ddwy ddamcaniaeth. Yn y gaer yn chwarel y Foel, er enghraifft, mae safleoedd chwech o gytiau crynion wedi’u trefnu o fewn yr amddiffynfa ac ym Mhendinas dywedir fod anheddau wedi’u distrywio mewn archwiliadau cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nas cofnodwyd yn fanwl. Yn Nhre’r Ceiri ar gopa’r Eifl, gellir gweld cynllun sefydliad cyfan o dai crynion a stordai a adeiladwyd o gerrig, a llociau agored yn perthyn iddynt ac mae archwiliadau ar safleoedd yng Nghlwyd, megis Dinorben a Moel y Gaer, yn dangos cynlluniau tebyg. Yno ceir safleoedd o dai crynion ar fframwaith o wiail a dwb sy’n gysylltiedig ag adeiladau bychan sgwâr a gynhelir gan bedwar polyn, un ym mhob congl, y dehonglir eu bod yn stordai ac yn ydlannau. Trefnwyd yr adeiladau yn ofalus ar batrwm o strydoedd cyntefig. Mewn archwiliadau manwl mewn nifer o fryngaerau mawr yn ne Lloegr awgryma’r dystiolaeth fod penaethiaid dylanwadol yn trigo yn y safleoedd hyn gan gynnig nawdd a lloches i’w taeogion yn gyfnewid am gynnyrch eu llafur ar y tiroedd sy’n amgylchynu’r bryngaerau. Er bod y darlun yn un amherffaith gan fod cynifer o’r safleoedd wedi’u dinistrio ac wedi diflannu â threigl amser, tybed a ellir awgrymu darlun tebyg ar gyfer Pen y Gaer lle mae nifer o fan dyddynnod ar y llethrau yn dibynnu ar loches y fryngaer. Pwy a ŵyr, efallai mai Pen y Gaer a Phen Dinas oedd pentrefi sefydlog cyntaf Dyffryn Ogwen!

Pen y Gaer carneddi
Cynllun Pen y Gaer; cynllun drwy ganiatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

P’run bynnag yw’r dehongliad cywir o swyddogaeth y bryngaerau mae eu maint a’u hadeiladwaith yn proffesu mai drwy gydweithrediad cymunedol y cawsant eu codi. Yn gyffredinol caerau bychan llai na hectar eu maint a ganfyddir yng ngorllewin Prydain ond ar ororau Cymru ac yn ne Lloegr ceir dosbarthiad caerau mwyaf Prydain gydag amddiffynfeydd llawer ohonynt yn amgáu arwynebedd o hyd at ddeg hectar a mwy. Mae’r amddiffynfeydd hefyd yn anferthol eu maint. Yn Maiden Castle yn Swydd Dyfnaint mae’r rhag-gloddiau pridd yn creu llethr o 25 metr uwchlaw gwaelod y ffos a gloddiwyd gan lafur cymunedol. Er mai pitw iawn yw rhag-gloddiau caerau Dyffryn Ogwen mewn cymhariaeth maent hwythau yn tanlinellu’r ffaith fod y gwaith wedi’i gyflawni o dan swyddogaeth pwyllgor dewisedig neu efallai, ac yn fwy perthnasol, awdurdod un pennaeth. Parhaodd Pen y Gaer yn safle fach ei maint a’i chynllun, ond nid felly Pendinas lle adeiladwyd rhagfur o bridd a cherrig mewn fframwaith o drawstiau coed cydnerth i gryfhau’r amddiffynfa. Ar gyfer cyflawni gwaith o’r fath mae’n rhaid felly fod adnoddau’r gymdeithas yn ddigonol i gynnal  byddin o adeiladwyr a chloddwyr dros gyfnod estynedig o amser gan eto gadarnhau’r ddamcaniaeth fod awdurdod canolog yn cynllunio ac yn awdurdodi adeiladu’r caerau hyn.

caer pendinas
Cynllun safle Pendinas; cynllun drwy ganiatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae’r rhag-gloddiau a chymhlethdod y mynedfeydd yn dweud llawer am ddulliau gwarchod y caerau rhag ymosodiadau. Yn y caerau sydd â rhagfuriau o bridd ar fframwaith coed neu fur o gerrig mae cryfder y safle yn dibynnu lawn cymaint ar y lleoliad naturiol a ddewiswyd, megis ar fryniau serth neu uwchben clogwyni peryglus, lle roedd y pwyslais ar dynnu’r gelyn mor agos at ffin y gaer cyn ymosod arnynt o uchder yr amddiffynfa. Tacteg wahanol a briodolir i’r caerau sydd ag amddiffynfeydd uchel uwchben ffosydd dyfnion lle mae’r pwyslais ar gadw’r gelyn ar waelod y dibyn er mwyn hyrddio cerrig ac arfau atynt o bellter. Dengys archwiliadau mai muriau bocs coed a cherrig oedd yr amddiffynfeydd cynharaf ond i’r rhag-gloddiau pridd a ffos eu disodli mewn cyfnod pan oedd y caerau o dan ymosodiad byddinoedd y Rhufeiniaid yn ystod concwest Prydain yn y ganrif gyntaf Oed Crist.

Mae un ychwanegiad diweddarach yn llechu ar ymyl orllewinol Pen y Gaer , sef cwt powdwr a ffrwydron a adeiladwyd gan W.J. Parry i gymryd lle y cwt cynharach a adeiladodd ar ymyl bellaf stad Cefnfaes yng Ngwaun Cwys Mai.  Perthyn y cwt i gyfnod olaf busnes ffrwydron Parry ar gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac er ei bod bellach yn ddrylliedig, ceir yno un ystafell fawr ar gyfer storio’r pylor du ac ystafell lai ar gyfer cadw’r ffrwydron. Defnyddiwyd y stordy hyd at dridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’i nodweddir gan y drws coch a fyddai’n rhybuddio o beryglon ei chynnwys. Ceir rhagor o wybodaeth am y cwt yng nghofnod Y Beudy Newydd.

Ffynhonnell

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London.

Williams, J. Ll. W. 1997. ‘Two Powder Magazines in the Parish of Llanllechid, Bethesda and their significance in the industrial turmoil of the late nineteenth century’. Gwynedd Ddiwydiannol 2, tt. 7-17.