Hau a Medi Ŷd

Dyma ail erthygl Ffrangcon Evans (1913 – 2015) am ddulliau amaethu ym Mryn Eithin, Llanllechid yng nghyfnod ei blentyndod a’i laslencyndod.

Bryn Eithin
Bryn Eithin, Llanllechid

Yn wahanol i pan fyddem yn siarad am wair, nid ‘lladd ŷd’ a ddywedem ond ‘torri ŷd’. Dyna oedd yr arfer acw.

Ŷd, ceirch ac ychydig o haidd oedd yn cael eu plannu, dim gwenith, oherwydd pwrpas yr ŷd oedd bwyd i’r anifeiliaid, ar wahân i rywfaint ar gyfer pobi gan mam a modryb. Byddai fy nhad yn mynd â’r had mewn sachau i’r cae, yna roedd ganddo fesur fel hanner casgen, yna rhoi cynfas o’i amgylch fel roedd ganddo ran i dywallt yr hadyd iddo, yna ffwrdd â fo i ddosbarthu’r had, gan ddefnyddio ei ddwy law. Roedd yn ofalus i fesur, ac yna yn wyrthiol yn fy meddwl i bryd hynny, yn gallu taflu’r had yn gywrain a didrafferth.

I dorri’r ŷd,  pladuro ar y cychwyn nes daeth y peiriant lladd gwair. Ar y peiriant roedd lle i roi sedd ychwanegol. Ar honno eisteddai’r gwas efo cribyn bren, ond bod y rhan hefo’r dannedd ar osgo ac nid yn sgwâr i’r goes. Fel roedd y wanaf yn cael ei thorri, daliwyd y gribyn arni nes oedd digon i wneud ysgub, codi y gribyn ac i lawr yn syth am yr ysgub nesaf.

Prynwyd peiriant arall cyn bo hir, roedd hwnnw yn gwneud gweithred y gwas, ond dim gwahaniaeth arall rwy’n meddwl. Tywydd mawr yn aml yn sathru’r ŷd, ac yn gorfod ei godi gyda phicwarch er mwyn i lafn y peiriant fynd o tanodd. Er y cwbl, roedd rhaid i’r bladur gael ei le, i dorri lled y peiriant o amgylch y cae.

Yr orchwyl nesaf oedd clymu’r ysgub. Dim cortyn coch, ond rhaff fer wedi ei gwneud hefo rhan o’r ysgub. Gwneud y rhaff yn hawdd ar ôl gwybod sut, – dau swp o’r ysgub, eu croesi, yna gafael hefo eich dwy law, yna dan eich cesail gan newid dwylo yr un pryd, ryw dair gwaith, a dyna chi bwt o raff, ei rhoi o amgylch yr ysgub, cwlwm a’i wthio i’r ysgub. Wedi darfod torri a chlymu’r ysgubau, yna rhoi chwe ysgub i wneud styciau. Gan fod terfyn y ffarm ar ddwy ochr yn cynnwys ffordd, roedd yn rhaid i’r rhes styciau fod yn berffaith syth, gan y byddai ryw hen wag a’i ben dros wal y lôn yn fuan iawn gyda’i gellwair. Pan yn barod i’w gario, gwthio’r styciau drosodd, er mwyn i fôn yr ysgub sychu o’r gwlith. I’r gadlas â fo, ond roedd rhaid gwneud tas. Rhedyn wedi ei dorri dros dro ar y gwaelod, yna yr ŷd. Gan ei fod yno am amser byr, sachau wedi eu hagor, a’u gwnïo oedd dros y das, a rhaffau i’w dal i lawr.

Dyrnu oedd nesa. Roedd y dyrnwr yn cael ei fenthyca gan un o ffermydd yr ardal, ac yn dŵad o ffarm i ffarm. Roedd yna ryw ddeuddeg o ffermydd yn ein cylch ni, ac un o bob ffarm yn ‘canlyn y dyrnwr’ fel y dywedir. Un flwyddyn, roeddwn adra cyn dechrau fy ngyrfa, a ’nhad yn gofyn fuaswn i yn hoffi canlyn y dyrnwr. “Buaswn” oedd yr ateb heb betruso, ac roedd yn brofiad wrth fy modd. Roedd rhaid tynnu’r injan a’r dyrnwr gyda rhes o geffylau, a chan fod yna elltydd, rhyw chwech i wyth o geffylau mewn rhes, y dyrnwr yn gyntaf a’r injan yn dilyn. Yr un a oedd yn gyfrifol am y peiriannau oedd yn gyfrifol fod popeth yn ei le erbyn dechrau dyrnu ben bore. Sachau wedi eu bachu i dderbyn y grawn yn un pen i’r dyrnwr, a’r gwellt yn cael ei daflu allan yn y pen arall. Roedd gennym ran o’r ysgubor wedi ei rhannu â choed ryw lathen o uchdwr, ac yno y gwagiwyd yr ŷd. ‘Bing’ oedd y man yn cael ei alw. Daw hyn â defnydd arall a wnaed o’r bing i gof. Roeddem yn cael dieithriaid i aros i helpu costau byw, a mam wedi addo lle i fwy nag oedd ganddi le, a chan fod y bing yn wag yn yr haf, dyma wneud gwely yn y bing i ’nhad a finnau am wythnos.

Ond yn ôl i’r dyrnu, dau ar ben y dyrnwr, un â chyllell i dorri’r rhaff o amgylch yr ysgub a’r llall i agor yr ysgub allan a’i gollwng i’r dyrnwr.  Pan ar fin darfod dyrnu, roedd rhaid rhybuddio’r ffermydd cyfagos i ddod â’u ceffylau i symud y peiriannau i’r ffarm nesaf. Roedd yna chwiban, yn gweithio oddi ar stêm o’r ingian, a phan dynnwyd ar y gadwen, clywid y chwiban drwy’r ardal, fel arwydd.

Beth am y gwellt? Wel, gwneud tas yn y gadlas, rhoi’r cynfasau arni dros dro, ond oherwydd y byddai’r das yno am gryn amser roedd rhaid ei thoi. Cyn gwneud hynny, roedd rhaid wrth raffau. Yn un cae, roedd gennym wair rhaffau yn tyfu, ond dim digon ohono at ein gwasanaeth, felly defnyddio gwellt. Pren gwneud rhaffau oedd yr unig enw rwy’n ei gofio ar y teclyn. Troi’r pren yn araf a gofalus tra roedd fy nhad yn gweithio’r gwellt drwy’i ddwylo oddi ar ei lin – digon i wneud rhaff denau, a symud yn ôl fel roedd y rhaff yn tyfu. Wedi dod i’r hyd gofynnol, rhoi’r pren ar lawr a rhoi carreg arno. Yna, pren arall a gwneud yr un fath. Galw fy mrawd neu un o’r gweision i afael yn un pren, a finnau hefo’r llall. Fy nhad yn cysylltu’r ddau ben oedd ganddo fo, ac yna rhoi’r trydydd pren yn y cysylltiad. Wedyn y tri ohonom yn troi, ond bod fy nhad yn troi yn groes i ni ein dau, – y tro yma gorfod symud yn araf ymlaen gan fod rhaff ddwbl bob amser yn fyrrach. Toi’r das hefo gwellt, llinynnau hyd y das, rhaffau drosti a phegiau coed i’w dal yn eu lle. Roeddem yn cymysgu peth o’r gwellt hefo gwair, i’w falu yn y cwt malu, ac wrth gwrs defnyddio’r gwellt fel gwely i’r anifeiliaid.

Beth am y ceirch a’r haidd? Fel byddai angen, mynd â nhw i’r felin, un ai’r Felin Hen rhwng Tregarth a Glasinfryn, neu i Felin Cochwillan ar gwr Tal-y-bont. Roeddem yn mynd i Felin Cochwillan yn amlach gan fod y cafn yn cael ei lenwi gan ddŵr o afon Ogwen ac yn sicrwydd i gael malu unrhyw adeg, ond llyn oedd yn y Felin Hen. Flynyddoedd wedyn, fe wnes i baentiad o’r olwyn ddŵr a chefn yr adeilad yng Nghochwillan.

John Hughes oeddwn i yn gofio fel melinydd. Roeddwn yn meddwl ei fod yn hen ŵr, ei wallt yn wyn, ond wedi ei orchuddio â blawd oedd o! Cofio un tro, John yn eistedd ar foncyff tu allan i’r felin yn darllen llyfr, – Rhys Llwyd y Lleuad oedd y llyfr – ac yn edrych arnaf dros ei ysgwydd. “Wyt ti wedi darllen hwn?” gofynnodd. “Do”,  meddaf finnau. A dyma sylw John: “Wel, mae’n debyg y cei di fyw i weld dyn ar y lleuad.” Bryd hynny, meddyliwn mai cellwair yr oedd o, ond gair o broffwydoliaeth ges i!

Yr unig ddefnydd o’r blawd yn y tŷ oedd mam yn gwneud bara ceirch, a chymysgu blawd haidd hefo blawd gwyn i bobi. Y bara ceirch er mwyn y brecwast. Powlen o fara wedi ei dorri’n dalpiau, bara ceirch wedi ei falu drostynt ac yna cawl poeth dros y cwbl. Brwas bara ceirch oedd o yn cael ei alw.

I gloi, mam oedd yn gyfrifol am yr ieir a’r chwiaid, a phenderfynodd fagu tyrcwns. Beth wnelo hyn ag ŷd? Wel, doedd dim angen y gribyn delyn yn y cae ŷd, gan mai grawn oedd yn debyg o fod ar ôl darfod cario, a chan nad oedd Ruth a Naomi ar gael, byddai mam yn anfon y tyrcwns i’r cae ŷd ben bora, a’r tyrcwns wrth eu bodd!

Ffrangcon Evans

Y Rheinws

Y rheinws oedd swyddfa cyfraith a threfn Bethesda. Fe’i hadeiladwyd oddeutu 1864 fel rhan o ddatblygiad  cynhwysfawr ardal Penybryn gan Edward Gordon Douglas, Barwn cyntaf stad y Penrhyn. Mae’n adeilad cadarn o gerrig nadd wedi’i leoli ar safle ar gongl y Stryd Fawr ac Allt Penybryn ac ar y ffin strategol rhwng daliadau stad y Penrhyn a stad Cefnfaes.  Gosodwyd cloc ar fur yr adeilad, a’r cloc hwn oedd yn pennu amser i drigolion pentref Bethesda. Yr oedd y jêl wedi ei leoli beth pellter i ffwrdd yn Lockupstreet, fel y  gelwid Stryd Glanrafon bryd hynny.

Penderfynwyd y dylid penodi cwnstabl i warchod yr ardal mewn pwyllgor o Gymdeithas  Comin Llanllechid a gyfarfu ym mis Chwefror 1849 yn nhafarn y Red Lion yn Llanllechid. Prif ddyletswyddau’r penodedig fyddai dwyn achosion yn erbyn meddwon yr ardal, yn arbennig meddwon ar y Sul, ac i ofalu fod y tafarndai yn cadw at oriau penodedig yn ôl y gyfraith. Yr oedd hefyd i gadw gwarchodaeth fanwl ym Methesda ar ddyddiau setlo yn y chwarel ac yn ystod yr wythnos ganlynol, yn ogystal  ag ar ddiwrnodau cyntaf ac olaf pob mis. Dyletswydd arall oedd gwarchod comin Llanllechid rhwng Penisarnant a Chwarel Bryn Hafod y Wern rhag tresbaswyr a oedd yn niweidio’r borfa drwy godi tywyrch. Disgwylid y byddai’r cwnstabl yn  ymweld â’r comin rhwng misoedd Ebrill a Medi ac y byddai un o’r ymweliadau yn digwydd ar nos Sadwrn pob wythnos. Disgwylid i’r penodedig fyw yn lleol a byddai’n derbyn cyflog o £15 – ei hanner i ddod o Dreth y Tlodion a’r hanner arall i’w dderbyn drwy raslonrwydd yr Arglwydd Penrhyn. Disgwylid i James Wyatt, asiant stad y Penrhyn, gymeradwyo’r penodiad er, yn dra diddorol,  nad oedd comin Llanllechid yn rhan o stad y Penrhyn. Yn y cyfarfod nesaf pleidleisiwyd i dalu 20 swllt am gôt i Richard Edwards y cwnstabl newydd ar yr amod fod yr Arglwydd Penrhyn yn cyfrannu’r un swm.

Wrth ystyried dyletswyddau’r cwnstabl yn 1849 ymddangosant yn ddiniwed mewn cymhariaeth â chieidd-dra’r gofynion oedd ar heddlu’r pentref yn ystod Streic Fawr 1900. Erbyn hynny yr oedd yr heddlu wedi ei drefnu yn wasanaeth sirol dan arolygiaeth unbenaethol Colonel Ruck, y prif gwnstabl. Mainc Dinas Bangor oedd yn gweinyddu cyfiawnder a Phwyllgor Heddlu Arfon, casgliad o gynrychiolwyr lleyg o wahanol sefydliadau, a oedd yn gyfrifol am oruchwylio gwaith yr heddlu. Pe mesurid graddfa’r terfysg cymdeithasol a ddigwyddodd yn ystod y streic byddai’n isel iawn ar raddfa’r cyffroadau a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o Brydain yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Y terfysg hwn a gafodd sylw cenedlaethol er hynny, a dyna’r prif reswm paham y danfonwyd ar dri achlysur unedau o’r fyddin a mintai enfawr o heddweision – hyd at gant mewn nifer ar rai amseroedd – i gadw trefn ym Methesda. Roedd y mesurau llym a orfodwyd yn ymateb i sefyllfaoedd arbennig o wrthdaro annymunol, ond, o’i adolygu, yr oeddynt hefyd yn ymgais warthus ar ran awdurdodau nerfus a dibrofiad i erlid y gymuned drwy ormes.

Gorchwyl yr heddlu oedd ceisio cynnal heddwch yr ardal drwy degwch, ond roedd yn dasg anodd ei chyflawni wrth i’r chwerwedd ddwysáu drwy’r gymuned yn ystod y streic. Ymhlith eu dyletswyddau yr oedd hebrwng dychweledigion yn ôl i’r chwarel a phlismona’r lliaws o brotestiadau torfol a gorymdeithiau swyddogol a ddigwyddai yn yr ardal yn wyneb llid a dirmyg y streicwyr tuag at y gwrthgilwyr. Mewn cwffas yn Rachub ym mis Medi 1901 anafwyd plismon pan darwyd ef â charreg a bu farw yn fuan ar ôl y digwyddiad. Nid yr anaf oedd achos ei farwolaeth ac er siom iddo darfu i Young, rheolwr y chwarel, ddatgan wrth ei feistr -‘unable to make use of the policeman’s death since being informed by Ruck he had been injured a long time previous to riot’.

Tasg arall yr un mor anodd ei chyflawni mewn ardal mor wasgarog â Dyffryn Ogwen oedd gofalu am ddiogelwch unigolion a oedd yn cwyno oherwydd iddynt ddioddef bygythiadau personol. Gwrthbwysid hynny gan gwynion yr un mor niferus am ymateb llawdrwm heddweision, yn arbennig y rhai a ddeuai o heddluoedd yn  Lloegr. Yr oedd diffyg tegwch yr awdurdodau hefyd yn fater o gryn ddiflastod mewn perthynas â chynnal yr heddlu. Trosglwyddwyd y mater i sylw’r Swyddfa Gartref yn Llundain yn dilyn danfon deiseb yn gwrthwynebu penderfyniad Pwyllgor yr Heddlu yn Ionawr 1902 i sefydlu Bethesda yn ddosbarth heddgeidwadol ar wahân fel bod holl gostau’r plismona yn disgyn ar y trethdalwyr. Ystyrid y penderfyniad yn gerydd ar yr ardal, yn arbennig felly pan fynnai mainc ynadon Bangor y dylai Ruck ddanfon saith deg pump o blismyn ychwanegol i warchod yr ardal yn ystod gwyliau Pasg y flwyddyn honno. Cost derbyn 40 plisman o Sir Amwythig oedd £285 am ddeg diwrnod, tra oedd cost plismyn Stockport yn 12 swllt y pen o gymharu â deg swllt am wasanaeth plismyn o Fôn. Cyfanswm treuliau’r heddlu am gyfnod y Pasg oedd £325 er i Ruck gydnabod na wynebwyd terfysg oddieithr i’r ychydig ffenestri a falwyd.

O adolygu gwaith y plismon yn ystod y streic fawr mae’n amlwg fod ei ddyletswyddau yn dra gwahanol i rai ei ragflaenydd ym Methesda yn 1849 gan dderbyn fod newid sylweddol yn amgylchiadau’r ddau gyfnod. Er hynny, mae’n drist cofnodi nad oedd arweiniad yr awdurdodau yn 1902 mor gyfiawn ag ymddygiad Pwyllgor y Comin yn Llanllechid. Yn 1902 ni ellid gwarantu fod holl ynadon y fainc ym Mangor nac aelodau Pwyllgor yr Heddlu yn gweithredu yn ddiduedd, fwy nag y gellid dibynnu ar gywirdeb y Prif Gwnstabl pan oedd dylanwad yr Arglwydd Penrhyn a’i swyddogion yn gysgod parhaol.  Mae pwy felly oedd yn gyfrifol am ormes dialgar y cyfnod yn gwestiwn nas atebir ar furiau’r rheinws ym Methesda heddiw.

Ffynonellau

J. Ll. W. Williams a Lowri W. Williams. Byw ar yr erchwyn – y dychweledig yn streic Chwarel y Penrhyn 1900-1903. (erthygl i’w chyhoeddi).

Cofnodion Pwyllgor Comin Llanllechid 1846-1864 = drwy law Edgar Roberts, Llanfairpwll

Llys y Gwynt, Dyffryn Ogwen a’r Rhufeiniaid

llys-y-gwynt-e1565126064921.png
Llwybr y ffordd Rufeinig rhwng Caerhun a Segontium yn Llys y Gwynt (Llinell ddu fylchog, top chwith y cynllun). Drwy garedigrwydd a chaniatâd Jane Kenney ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Mae’n rhyfedd ysgrifennu am gyfnod eithriadol bwysig a dylanwadol yn hanes Ewrop a adawodd brin ddim o’i ôl yn weledol yn Nyffryn Ogwen. Cyfeirio y mae rhywun at y cyfnod y goresgynnwyd Cymru gan fyddinoedd y Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf AD, ac am gyfnod y gwladychiad a ddilynodd hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif AD.

Yn y flwyddyn 60 oed Crist, yn ôl yr hanesydd Tacitus, digwyddodd brwydr enbyd rhwng byddin Suetonius Paulinus, rhaglaw Prydain, ac amddiffynwyr ynys Môn dan anogaeth y derwyddon. Er iddynt ennill y frwydr hon ni orchfygodd y Rhufeiniaid lwyth yr Ordoficiaid tan y flwyddyn 78/9 AD yn ystod teyrnasiad y rhaglaw Agricola. Yr oedd y brwydro yn Eryri yn hynod ffyrnig. Drylliwyd llwyth yr Ordoficiaid yn llwyr ac ni ddaeth heddwch a ffyniant economaidd i ogledd Cymru tan y drydedd ganrif. Mae’n amhosibl gwybod a ddigwyddodd unrhyw un o’r brwydrau cynnar yn Nyffryn Ogwen -ni sefydlwyd yma wersyll ymosodol fel ym Mhen y Gwryd, na gwersyll cadw’r heddwch fel ym Mryn y Gefeiliau ger Capel Curig. Serch hynny gadawodd Caradog, prif arweinydd llwyth ein cyndadau Brythonig, a phennaf wrthwynebydd y Rhufeiniaid yng Nghymru yn ystod y goresgyniad, ei enw ar fferm yn Nant Ffrancon.

Dan warchae caerau Rhufeinig yn Segontium a Canovium (Caerhun) yn Nyffryn Conwy daeth cadoediad a chyfnod o heddwch bregus i ddilyn. Cysylltwyd y ddwy gaer, fel gweddill caerau Cymru, gan gyfundrefn o ffyrdd . Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos  yn eglur fod llinell y ffordd o Gaerhun i Segontium yn dilyn y gwastatir o Bentir i safle ychydig fetrau i’r gogledd o Lys y Gwynt, ac yna  ymlaen i gyfeiriad Madryn ac Abergwyngregyn. Mae’r ymchwil hwn yn cadarnhau nad y llwybr mynyddig o Aber i Bronnydd, drwy Lanllechid i Bont Coetmor ac ymlaen i Nant y Graean, Sling a Rhyd y Groes oedd y dewis Rhufeinig. Ni ellir diystyru’r llwybr hwn fel mynedfa gynnar i groesi’r dyffryn, ond nid yw o reidrwydd yn perthyn i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn yr un modd dengys ymchwil nad oedd ffordd Rufeinig gydnabyddedig yn rhedeg drwy Nant Ffrancon i gysylltu’r gaer ym Mryn y Gefeiliau gydag arfordir y Fenai. Yn hytrach, byddai’r ffordd yn arwain drwy Nant Peris i Segontium er nad oes cadarnhad o’i llwybr ar y tir.

Mae’n amlwg nad oedd gan Ddyffryn Ogwen adnoddau apelgar i’w datblygu gan y Rhufeiniaid. Datblygwyd yr economi amaethyddol ar briddoedd mwy ffrwythlon ardal iseldir y Fenai fel mae ymchwiliadau diweddar wedi cadarnhau yn ardal Brynsiencyn ar draws y Fenai o Segontium. Yno sefydlwyd cyfundrefn helaeth o gaeau amaethyddol ac adeiladau a fyddai wedi perthyn i’r rhaglaw a oedd yn gyfrifol am y gaer ar y lan gyferbyn, ac mae manylder yr holl gynllun yn arddangos ei llwyddiant materol. Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i ddefnyddio llechi yn eu hadeiladau. Mewn archwiliad diweddar yn Nhremadog darganfuwyd llechi wedi eu cadw mewn tomen drefnus a ddefnyddiwyd i doi adeilad megis y baddondy oedd nepell o’r safle. Mae’r llechi ar ffurf triongl gyda thwll yn y copa ar gyfer eu hoelio yn nistiau’r to ac maent yn mesur oddeutu 15 centimetr mewn hyd. Nid dyma’r unig ddarganfyddiad sy’n dangos y defnyddiwyd llechen mewn adeiladwaith Rhufeinig. Perthynai adran ddiwydiannol i’r gaer yn y Brithdir ger Dolgellau ac yno yr oedd cistfaen ar gyfer trin crwyn neu orchwyl tebyg. Lloriwyd y gist â llechen enfawr a oedd wedi ei thorri a’i thrin yn gelfydd gan arbenigwr a oedd yn gyfarwydd â’i grefft. Mae’n amlwg hefyd fod llechi yn cyrraedd cyn belled â Chaer yn ystod y cyfnod. Ond nid oes ateb i’r cwestiwn ynghylch pa ardal chwarelyddol yng Ngwynedd oedd yn eu cyflenwi. Amser a ddengys ai cywir y dyfalu mai o Ddyffryn Nantlle y deuai’r cynnych.

Darganfuwyd ychydig greiriau o gyfnod y Rhufeiniaid yn Nyffryn Ogwen. Mae tri darganfyddiad yn berthnasol ond gan mai ar hap y daethant i’r fei mae manylion eu canfyddiad  yn brin. O ganlyniad mae’n anodd dehongli eu cyd-destun ac yn fwyaf arbennig eu harwyddocâd.

  1. Dwy galen gopr ger Carnedd Llywelyn

Yr oedd mwyngloddio a chynhyrchu copr yn chwarae rhan bwysig yn economi’r Ymerodraeth Rufeinig. Ond eto, er mawr ryfeddod, mae’r dystiolaeth am eu cysylltiad ymarferol â’r diwydiant yn eithriadol brin yng Nghymru. Dengys archwiliadau yn y prif fwyngloddiau copr yng ngogledd Ceredigion; Mynydd Parys ger Amlwch a’r Gogarth yn Llandudno  mai brodorion yr Oes Efydd oedd yn eu gweithio 4,000  o flynyddoedd yn ôl. Yna, cawsant eu gweithio am yr eildro yn ystod  cyfnod diweddar y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Hyd yma nid oes nemor ddim tystiolaeth  i’r Rhufeiniaid  chwarae  rhan  yn  natblygiad y mwyngloddiau hyn.  Serch hynny, mae’r calennau copr (Ingotau) yn arwydd pendant fod ganddynt gysylltiad ymarferol â’r diwydiant. Disgiau lled grwn o gopr tawdd yw’r calennau ac ynddynt roedd cynnyrch y mwyngloddiau yn cael ei ddosbarthu i’r farchnad. Mae o leiaf ugain ohonynt wedi’u darganfod, y mwyafrif ohonynt yng Ngwynedd ac arfordir Môn.  Mae enwau wedi’u stampio ar rai calennau ond nid enwau Ymerodraethol mohonynt, fel sydd ar rai ingotau plwm yn Sir Fflint, sy’n awgrymu fod y diwydiant yn nwylo unigolion neu asiantwyr a oedd serch hynny yn Rhufeinwyr. Mae darganfod dwy galen ar Garnedd Llywelyn felly yn anarferol a dweud y lleiaf o ystyried dosbarthiad llawr gwlad mwyafrif y calennau.

2.  Darn arian bath Gallienus/Valerian 255-6 AD a ddarganfuwyd ger Tyn y Maes. 

Tad a mab oedd Gallienus a Valerian a’r ddau yn rhannu swydd Ymerawdwr Rhufain am gyfnod o 253 AD hyd 260 AD, ac yna’r mab Gallienus ar ei ben ei hun o 260 hyd at 268 AD pan y’i llabyddiwyd ef. Dan drefn ddeuol y tad a’r mab Valerian oedd yn gweinyddu rhan y Dwyrain o’r Ymerodraeth a Gallienus ran y gorllewin.

3.  Celc yn cynnwys 200 darn o arian bath, teilchion llestr/i gwyn a scoriae a ddarganfuwyd yng Nghae Rhodyn, Gerlan, yn 1870 wrth ffrwydro craig yno.

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach rai llathenni yn unig o safle’r gelc gyntaf darganfuwyd scoriae, a chwpan fechan o gopr (efydd). Mae’n bur debyg mai perthyn i’r un gelc yr oedd y ddau ddarganfyddiad ond adroddir hefyd fod celc o arian bath a chwpan fechan debyg i’r uchod wedi’u darganfod bymtheng mlynedd ynghynt yn Gerlan. Mae’n amlwg fod y tair(?) celc yn dra phwysig eu cynnwys a’u harwyddocâd. Gan fod yr eitemau wedi eu colli ers eu darganfod yr wybodaeth a ddatgelir gan yr arian bath gaiff y sylw.  Cadfridog Rhufeinig oedd Postumus a  gipiodd yr hawl i fod yn ymerawdwr gorllewin yr Ymerodraeth pan wrthryfelodd y fyddin yn erbyn Gallienius yn 260 AD. Llywodraethodd o 260 AD hyd 269 AD pan y’i llofruddiwyd gan ei filwyr. Perthyn arian bath Carausius i gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn y drydedd ganrif AD. Drwy drais yr hawliodd ef i fod yn Ymerawdwr Prydain a gogledd Gâl yn 286 a llwyddodd i gadw’r swydd hyd 293 pan y’i llofruddiwyd ef gan ei weinidog cyllid.

Nid bod gan yr un o’r Ymerawdwyr ronyn o syniad ble’r oedd Ddyffryn Ogwen, fwy nag y gwyddai brodorion yr ardal wyneb pwy a stampiwyd ar y darnau pres. Felly, a oedd gan yr arian arwyddocâd arbennig?  Un o gyfraniadau sylfaenol yr Ymerodraeth Rufeinig oedd sefydlu cyfundrefn ariannol ryngwladol a oedd yn sail i uno holl barthau pellennig yr ymerodraeth o dan un faner Rhufain.  Parhaodd y gyfundrefn hon o’r drydedd ganrif CC hyd at y bedwaredd ganrif  AD ac mewn rhai mannau i gyfnodau diweddarach. Ond trefn arwynebol oedd hon a berthynai i gymdeithas imperialaidd  y concwerwyr rhyngwladol ac nid yn gymaint i fywyd ac economi y darostyngedig yng nghefn gwlad yr ymerodraeth. A dyna ddisgrifio Dyffryn Ogwen i’r dim yn y drydedd ganrif AD.  Yma cyfundrefn o gyfnewid gwerth am werth oedd yn bwysig ac nid drwy brynu a gwerthu am arian.  Ac yng Ngwynedd, fel mewn rhannau eraill o’r ymerodraeth, gallasai’r ddwy gyfundrefn fodoli ochr yn ochr yn ddidramgwydd.  Felly, nid gwerth ariannol yr arian bath yn Nhyn y Maes a Gerlan oedd yn bwysig ond yn hytrach werth defodol creiriau cymdeithas estron  o’u  cyflwyno  i ryngu bodd yr hen dduwiau Celtaidd.  Islaw yn Nhalybont carlamai’r byd rhyngwladol heibio ar y ffordd rhwng y caerau imperialaidd ond yn y Gerlan yr oedd y gymdeithas frodorol yn meithrin diwylliant gwahanol a fynnai offrymu offer mewn celciau cudd neu, fel yn achos y calennau ar Garnedd Llywelyn, yn uchelfannau eu credoau. Dyna un ffordd o ddehongli’r celciau; nid efallai’r dehongliad cywir ond un gwerth ei ystyried er hynny.

Nid oedd Dyffryn Ogwen a’i phriddoedd tenau a llaith yn apelgar i’r Rhufeiniaid a dyffryn yn arwain i erwinder Eryri yn y Benglog yn unig oedd Nant Ffrancon. Rhaid felly oedd aros am ddwy fil o flynyddoedd cyn gwireddu potensial y dyffryn a hynny drwy ddyfodiad y ffordd Dyrpeg yn 1802 a chyfraniad eithriadol Richard Pennant yn sefydlu chwarel flaengar y Penrhyn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Ffynonellau

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, Llundain

David Hopewell. 2013. Roman Roads in North West Wales. Gwynedd Archaeological Trust, Bangor