Maes awyr Glanmôr Isaf

Ni chreithiwyd Dyffryn Ogwen gan safleoedd milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond craith barhaol y gyflafan waedlyd yw’r gofeb ym Methesda sy’n nodi na ddychwelodd naw deg dau o fechgyn y fro yn ôl i’r dyffryn ar derfyn y rhyfel yn 1918. Ond eto ni ddihangodd y dyffryn yn llwyr rhag terfysg y rhyfel. Sefydlwyd ffatri yn y Bethesda United Club, sef Yr Aelwyd yn ddiweddarach, yn Nheras Penrhyn, ac yno yr oedd merched y pentref yn gwehyddu sanau i’w danfon i’r milwyr ar faes y gad ac ym mhlwyf Aber sefydlwyd ffatri i gynhyrchu margarine a sebon ar gyfer gofynion y rhyfel.

yr Aelwyd 1914
Ffatri gwneud hosanau yn yr Aelwyd , Teras Penrhyn, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Yn ogystal, lleolwyd safle o bwysigrwydd mawr yn amddiffyniad y wlad ar faes dewisol ar lannau’r Fenai yng nghwr gogleddol plwyf Llanllechid ar y terfyn â phlwyf Aber.

 

Yn 1917 pryderai awdurdodau’r llynges yn Llundain y gallai llongau tanfor y gelyn greu anhrefn i lynges Prydain ar arfordir Môn a Gogledd Cymru. I ateb y pryder sefydlwyd maes awyr yn Llangefni ar gyfer awyr longau, ond buan y sylweddolwyd y gellid gwella’r gwaith o ganfod drwy ddefnyddio awyrennau yn ogystal. Ym mis Tachwedd 1917 danfonwyd chwech awyren o Lundain i Fôn ond dim ond dwy lwyddodd i gyrraedd pen eu taith. Lladdwyd peilot un ohonynt wrth geisio glanio a diflannodd yr ail i ddyfroedd Traeth Lafan. Nid oedd y safle yn Llangefni yn ddigon da ar gyfer hedfan awyrennau a phenderfynwyd chwilio am safle mwy addas ar gyfer y gwaith. Penderfynwyd, drwy hawl gorfodaeth, greu maes awyr ar gaeau fferm Glanmôr Isaf gan ddefnyddio 50 acer o dir y fferm, yr holl ddaliadaeth yn ei chyfanrwydd fwy neu lai. Diwreiddiwyd y gwrychoedd gan greu maes ar ffurf llythyren T a chodwyd pedair sied i gadw’r awyrennau. Mae’n bosibl fod dwy redfa glanio ar y safle ond yr oedd yn rhaid osgoi pant pur sylweddol yn y tir wrth lanio. Cuddiwyd y tanwydd, cyfarpar i’r awyrennau a’r bomiau mewn ffosydd a gysgodwyd rhwng dwy goedlan gerllaw, a chartrefwyd y peilotiaid a’r staff mewn pebyll ar y maes. Sefydlwyd canolfan gyfathrebu drwy radio yn un o ysguboriau’r fferm. Agorwyd y maes awyr yn swyddogol ym mis Awst 1918 dan ofal yr RAF yn hytrach na’r Llynges a danfonwyd 18 awyren deHaviland i’r safle i gymryd lle yr hen awyrennau diwerth. Disgwylid i’r awyrennau hedfan gwyliadwriaeth dros gyfnod o awr a phumdeg munud ar y tro uwchlaw arfordir y gogledd. Ar y diwrnod cyn agor y maes awyr difrodwyd un awyren wrth lanio a lladdwyd y peilot a disgynnodd awyren arall yn ddisymwth o’r awyr i’r môr. Cafwyd nifer o ddamweiniau cyffelyb yn ystod cyfnod bodolaeth y safle gyda chanlyniadau angheuol i’r peilotiaid. Daeth defnyddioldeb y safle i ben ym mis Ionawr 1919 a chariwyd yr holl offer, y siediau a’r stôr i stesion Bangor i’w cludo ymaith. Adferwyd y tir at ddefnydd amaethyddol ym mis Mai 1919 ac ail-luniwyd terfynau’r caeau gyda ffensiau llechi yn hytrach na’r gwrychoedd. Y ffensiau hyn yw’r unig gofnod a welir heddiw ar gaeau Glanmôr Isaf o fodolaeth y maes awyr.

Yn ddiweddar, mae prosiect cenedlaethol sy’n ymchwilio i gyrchoedd ymosodol llongau tanfor oddi ar arfordir Cymru wedi cychwyn ar adnabod yr union fygythiad i lynges Prydain yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf a hynny cydweithrediad gyda Adran Eigioneg Prifysgol Bangor. Hyd yma mae’r astudiaeth wedi canfod hyd at 13 o safleoedd lle mae llongau tanfor yr Almaen a Phrydain yn gorwedd ar waelod y môr ym Mae Ceredigion ac arfordir Môn. Yn ychwanegol, canfuwyd y safle lle gorwedda un o longau hudo llynges Prydain. Llong a oedd yn edrych fel llong gargo ddiniwed oedd llong hudo ond fe gynhwysai gyfres o fagnelau cuddiedig. Serch hynny, ni ellir dweud ar hyn o bryd faint o’r suddiadau hyn y gellir eu priodoli i weithgareddau’r awyrennau a hedfanai o faes glanio Glanmôr Isaf. Mae hefyd stori ddiddorol am ymweliad dau ysbïwr tybiedig a arhosodd ym Mryn Eithin am gyfnod byr cyn i’r rhyfel dorri. Mae’n amlwg fod ymweliad y ddau, gŵr a gwraig ddigon cyffredin, wedi codi amheuaeth perchennog y tŷ, yn arbennig gan iddynt ymadael yn bur swta gan adael nifer o fapiau o’r ardal ar eu holau. Stori wneud efallai, ond un sy’n berffaith gredadwy o ystyried y cefndir er hynny.

Bron i gan mlynedd yn ddiweddarach mae’n anodd mesur llwyddiant y cynllun gwylio a diogelu’r arfordir o faes awyr Glanmôr Isaf. Fe’i sefydlwyd, fwy neu lai, ar derfyn y Rhyfel Byd cyntaf pan oedd y gyflafan ar y tir yn tynnu tua’i therfyn. Wynebodd y cynllun nifer o anawsterau gan gynnwys diffygion y maes awyr ei hun a phroblemau ychwanegol a achoswyd gan wyntoedd cryfion a glawogydd trwm. Yr oedd problemau gydag ansawdd yr awyrennau ar gwaith o’u hadnewyddu, ac nid oedd yn hawdd denu peilotiaid cymwys i’w hedfan. O ganlyniad, yr oedd nifer y damweiniau yn uchel. Er hynny, mae’n angenrheidiol gosod yr holl gynllun yn ei gyd-destun. Prin megis cychwyn oedd y cynlluniau i hedfan awyrennau gydag adenydd sefydlog yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1905 y llwyddodd Wilbur Wright i hedfan ei awyren Wright Flyer II dros bellter o dair milltir yn Dayton, Ohio. A dim ond yn 1909 y llwyddodd Louis Blériot i hedfan dros y Sianel o Ffrainc i Brydain gan ennill bet o £1000 am ei orchest. Rhwng 1900 a 1914 adeiladwyd 800 o awyrennau ym Mhrydain a’r oll ohonynt yn ddiffygiol hyd nes y cywirwyd y problemau gan Blériot. Sefydlodd yntau ffatri i adeiladu awyrennau ym Mhrydain yn 1917.

awyren W E Williams
Y ‘Bamboo Bird’, awyren W. E. Williams o Dyddyn Canol, Tregarth.

Yn yr un cyfnod yr oedd yr Athro W. E. Williams o Adran Peirianneg Drydanol Coleg y Brifysgol, Bangor, a brodor o Dyddyn Canol, Llanllechid, yn arbrofi â hedfan awyrennau y cynlluniodd ef (y Bamboo Bird) gan lwyddo i wneud hynny gyntaf ar Draeth Coch, Llanddona yn 1911. Gyda hyn mewn cof y dylid mesur llwyddiant maes awyr Glanmôr Isaf. Dim ond geiriau megis arwrol a herfeiddiol y gellir eu defnyddio felly i ddisgrifio’r peilotiaid dienw a diaddurn hynny a hedfanodd yr awyrennau hyn, ac a gollodd eu bywydau mewn rhai achosion, mewn cyfnod o ddatblygiad arloesol ym myd hedfan.

Ffynhonnell

Jane Kenney, Roland Flook, Anita Daimond, 2016. First World War Military Sites: Manufacturing and Research and development. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Adroddiad Rhif 1302, Bangor.

Ffynonellau ychwanegol

Delve, K., 2007. The Military Airfields of Britain: Wales and West Midlands, The Crowood Press, Marlborough;

Owens, Alwyn, 2008. William Ellis Williams, Pioneer of Electrical Engineering at Bangor. Trafodion Cymdeithas hanes Sir Gaernarfon, 69, 61-80.

Pratt, D. and Grant, M., 1998. Wings Across the Border Volume I, Bridge Books, Wrexham.

Sloan, R., 2001. Early Aviation in North Wales, Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst (2nd edition);

Gwybodaeth ychwanegol gan Gwilym Rees  etc a xx  Pritchard

Advertisements

Ble roedd Capel yr Achub?

Dyma gyfraniad gan un o’n cyfranwyr gwadd sef Lynda Pritchard, Rachub.

BLE ROEDD CAPEL YR ACHUB?

Dyma ddirgelwch sydd wedi llethu llawer yn yr ardal ers tro erbyn hyn. Un o’r dirgelion yw cysylltiad y Capel gyda’r pentref, wrth i ni holi ai’r  Capel a ddaeth gyntaf ynteu a enwyd pentref Rachub ar ôl y Capel? Bu union leoliad y Capel hefyd yn ddirgelwch. Erbyn hyn daeth tystiolaeth o’i leoliad, sef ar dir yng nghefn Ffordd Llanllechid ac ar safle’r cyn Ganolfan Gymdeithasol.

Mewn dwy gyfrol wahanol yn ymwneud a’r Methodistiaid gwelwn fwy o hanes yr Achos. Yn y cyntaf yn, ‘HANES DECHREUAD A CHYNNYDD Y METHODISTIAID YM MHLWYFYDD LLANLLECHID A LLANDEGAI’, gan R.O. (Richard Owen) mae’n dweud fel hyn:

‘…ar y tir hwn yr adeiladwyd y Capel Cyntaf ym Mhlwyf Llanllechid, a galwyd ef, Capel yr Achub, am mai yng nghymdogaeth yr Achub uchaf oedd yn sefyll. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1793…Ynglŷn â’r capel adeiladwyd Tŷ Capel, a llwyddwyd i gael yr hen bregethwr Thomas Hughes, Mochdre, yno i fyw, yr hyn a fu yn gaffaeliad mawr i’r lle’.

Yn y gyfrol ‘HANES DECHREUAD A CHYNNYDD Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN LLANLLECHID, SIR GAERNARFON’, gan EDWARD JONES, BANGOR (Evan Williams, Argraphydd llyfrwymydd, Market Place) 1889 cawn gadarnhad o’r wybodaeth:

‘Adeiladwyd y Capel Cyntaf yn y gymdogaeth, yr hwn a elwid “Capel Rachub”, gyda thŷ ac ystabl wrth ei dalcen, yn y flwyddyn 1793’.

O astudio cyfrol Richard Owen fe gawn ateb reit bendant i’r cwestiwn ai’r capel ynteu’r pentref ddaeth gyntaf? Dywed Richard Owen ei fod wedi enwi yn Capel yr Achub am mai yng nghymdogaeth Achub Uchaf yr oedd yn sefyll. Cytunai Edward Jones a hyn:

‘cafodd addewid am ddarn o dir cyfleus mewn lle o’r enw Rachub Uchaf (gelwid ef yn “Rachub Uchaf” i’w wahaniaethu oddi wrth llanerch arall ym mhentref Llanllechid a elwid “Rachub Isaf”)’. Mae’n glir felly mai’r enw Rachub neu Achub Uchaf a ddaeth yn gyntaf ac fel canlyniad i hyn enwyd y Capel yn ôl y man lle’r adeiladwyd.

lleoliad capel yr achub
Mae lleoliad y capel mewn coch

Cafwyd prydles ar y tir oddi wrth Evan Hughes, Brynllwyd, Llanidan, Môn am, “bum swllt y flwyddyn o Ardreth neu Ground Rent. Hyd y brydles oedd trigain mlynedd yn dechreu ar Tachwedd 12fed, 1795. Roedd y tir yn mesur 30 llath wrth 25 llath.” Llofnodwyd y brydles gan y Parch Thomas Charles, Y Bala, John Williams, (gof), a Robert Williams. Cremlyn (Wheelwright) ymysg eraill.

DRWGDEIMLAD

Achosodd adeiladu’r capel gryn ddrwgdeimlad yn lleol yn enwedig ymysg yr aelodau eglwysig, a oedd yn gorfod pasio’r adeilad ar eu ffordd i addoli yn Eglwys Llanllechid.  Mae hanes i un hen wreigan o’r enw Jane Williams, Tyddyndy, fod â chymaint o atgasedd tuag at yr adeilad nes peri iddi ddweud ei bod yn gobeithio y câi ei chladdu cyn agor y capel. Byddai gweld a chlywed pobl, (y pennau crynion fel y’u gelwid), yn mynd yno ac yn addoli yn achosi gymaint o loes iddi. Yn rhyfeddol, fel y dengys hanes, fe gafodd ei dymuniad. Agorwyd y Capel ar Ragfyr 26, 1794, yr un diwrnod ag angladd Jane Williams.

MYND  O NERTH I NERTH

Ffynnodd yr achos yng Nghapel yr Achub a bu addoli cyson yno am 23 o flynyddoedd. Erbyn 1816 roedd y capel yn rhy fach a phenderfynodd y Methodistiaid godi capel newydd yng Ngharneddi,  gan fod nifer o’r aelodau yn dod o’r cyffiniau yna. Nodir fod 80 o aelodau Capel yr Achub wedi symud i Garneddi – rhyfeddol o gofio maint Capel yr Achub sef naw llath wrth chwe llath. Cadwyd yr adeilad fel man addoli ac Ysgol Sul am nifer o flynyddoedd wedi hyn. Dengys cyfrifiad 1841 bod y safle wedi ei droi yn dri thŷ annedd. annedd. Cadarnheir y ffaith yma gan Edward Jones yn 1889 wrth iddo nodi:

“Y mae yr Hen Gapel yn aros hyd y dydd hwn ond ei fod wedi ei droi yn dai annedd ys(sic) llawer blwyddyn.” Nodir mai enw ar y stryd fechan o dri thŷ oedd Hen Gapel yng nghyfrifiad 1841. Erbyn cyfrifiad 1851 mae’r enw wedi diflannu ac er bod yr un tri theulu yn byw yn y tai yma fe’i cyfrifwyd hwy fel rhan o Rachub yn unig. Does dim sôn am stryd Hen Gapel wedyn er bod tai yn parhau ar ôl 1851.

Y tu ôl i’r Capel adeiladwyd Ysgol Frytanaidd a thŷ gan y Methodistiaid yn 1853 ar dir a roddwyd yn rhad ac am ddim gan Mrs Margaret Jones Plasypistyll. Yn ogystal â chodi’r adeilad bu’r Methodistiaid yn cyfrannu swm o arian tuag at gostau rhedeg yr ysgol:

“...adeiladwyd Ysgoldy a thy, y rhai a gostiodd y swm o £370. Yn ychwanegol ar y draul o wneud yr adeilad, telid yn flynyddol am beth amser gan y gynulleidfa Fethodistaidd tua £30 ar ddwyn yr ysgol ymlaen, ac ni chafwyd erioed gynhorthwy arianol at gynal yr Ysgol gan yr enwadau Ymneilltuol eraill yn y gymdogaeth. Mae’n deilwng o sylw for yr ysgol hon yn parhau yn flodeuog a llwyddiannus hyd heddiw.  Gan mai eiddo y Methodistiaid oedd yr Ysgoldy Brytanaidd yn ogystal a’r Capel [yn Llanllechid], fe welir fod y draul o adeiladu yr Ysgoldy  wedi ei roddi ar ddyled y Capel, ac felly fod dyled y naill a ‘r llall yn cael eu talu o’r un drysorfa.”

Bu’r adeilad ar ddefnydd fel ysgol am y can mlynedd nesaf, hyd nes i  Ysgol Llanllechid gael ei hadeiladu ar dir ger Maes Bleddyn. Parhaodd yr hen ysgol i fod o ddefnydd cyson i’r ardalwyr fel Canolfan Gymdeithasol lle cynhelid nifer o weithgareddau  am 63 o flynyddoedd wedi i’r ysgol orffen yno. Yn 2016 daeth  ei dyddiau hithau, fel Capel yr Achub i ben.

lleoliad dau
Gwelir safle Capel yr Achub ychydig i gefn  Ffordd Llanllechid.

Plasty Canoloesol y Coetmor

Llun J. T Parry o Goetmor
Llun J. T. Parry o Blasty Coetmor

Yn y Canol Oesoedd prif sefydliad bonheddig Dyffryn Ogwen, oddigerth Plas Penrhyn a Chochwillan, oedd Coetmor, cartref hen deulu pendefigaidd y gellir olrhain ei dras yn ôl i’r bymthegfed ganrif ac, yn ôl traddodiad, i gyfnod cynharach yn y drydedd ganrif ar ddeg drwy deulu a disgynyddion Ednyfed Fychan. Chwaraeodd aelodau’r teulu ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth leol yn ystod y Canol Oesoedd yng Ngwynedd, ac ar brydiau mae cyfeiriadau atynt yn ymgymryd â swyddogaethau yn Lloegr. Cofnodir, er enghraifft, fod Madog Coetmor yn brwydro ar ran Rhisiart III ym mrwydr Bosworth yn 1485, y brenin y cafwyd hyd i’w fedd di-nod ar ddamwain o dan faes parcio dinesig yng Nghaerlŷr yn ddiweddar. Yng nghyfnod y Rhyfeloedd Cartref, Robert un o feibion y teulu oedd ysgrifennydd Dug Warwick a phennaeth y llynges seneddol yn 1642. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif yr oedd ffawd y teulu ar y goriwaered. Priododd Ann, aeres y Coetmor, i mewn i deulu Puwiaid y Creuddyn ac mae’n debyg i’r teulu fynd i ddyledion mawr. James, mab o’r briodas hon, a hen lanc di-briod, oedd yr olaf o’r teulu i fyw yng Nghoetmor, cymeriad mewnblyg a phur anghyffredin yn ôl pob sôn, er iddo fod yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1776. Daeth yr olyniaeth i ben gyda James. Yn 1797, yn dilyn storm enbyd, gwnaethpwyd difrod mawr i’r plasty a symudodd James i fyw at ei chwaer ym Miwmares. Ni ddychwelodd i Goetmor a bu farw yn 1800.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Map 1855 o Coetmor

Erbyn 1866, yr oedd y tŷ yn adfail a rhan o’r adeilad wedi disgyn er fod un teulu tlawd yn dal i lechu ynddo. Meddai Hugh Derfel Hughes wrth ddisgrifio’r  tŷ yn 1866 ‘…yn lle odlau beirdd, a llais telynorion, a chrythwyr; nid oes yno heddyw ond aderyn y to, y cawci a’r ddallhuan, yn meddianu y lle’.

 

 

Cofnodwyd i’r tŷ gael ei adeiladu mewn tri chyfnod, a’r olaf yn dyddio i gyfnod Elisabeth I. Tynnwyd llun o’r plasty gan yr artist lleol J.T. Parry, ac er bod rhai nodweddion o ddychymyg yr artist yn y darlun mae’n cyfateb i’r cynllun a welir mewn mapiau cynnar o’r ardal. Darluniodd Parry y plasty fel adeilad deulawr mawreddog, gyda thyrau caerog y naill ochr i’r brif fynedfa. Rhoddodd sylw manwl i gynllun y porth gyda’i fwa gosgeiddig a’i risiau urddasol, ac mae’r darlun yn nodi ffurf y saith ffenestr gan gynnwys lleoliad y ffenestr gron uwchlaw’r drws. Chwalwyd yr hen blasty yn 1870 ac fe adeiladwyd fferm bresennol Coetmor ar y safle.

Ctnllun Coetmor 18551875
Cynllun 1855 ar y chwith a’r cynllun ynghyd â’r adeiladau presennol ar y dde. Diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolego Gwynedd. 

Yr oedd lleoliad yr hen blasty yn eithriadol agos i gefn tŷ’r fferm, ffaith sy’n egluro paham fod gardd mor eang o flaen y tŷ a ddim yn y cefn. Yn ddiweddar gwnaethpwyd archwiliad geoffisegol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd o ardal cefn y ffermdy yn y gobaith o ddarganfod seiliau’r hen blasty, ond, er mawr siom, aflwyddiannus fu’r astudiaeth oherwydd bod cymaint o sbwriel a darnau o haearn sgrap yn cymysgu’r data a gofnodwyd. Ond mae’r seiliau yno bid sicr ac efallai y gellir chwilio amdanynt eto rhyw ddydd.

Ffynonellau 

J.Ll.W.Williams a Davis A.Jenkins, 2010  Ffos Coetmor: ffos ddŵr gynharaf Dyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas hanes Sir Gaernarfon, 71, 10-28.

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.