Cilfodan

Dyma erthygl gan Dei Fôn Williams, un o’n cyfrannwyr gwadd, gyda diolch iddo.

Mae fferm Cilfodan yn ddaliad o dir yn Nyffryn Ogwen. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o diroedd y dyffryn, fu hi erioed ym meddiant y Penrhyn, a phrofodd hynny o fudd mawr i un teulu. Yr oedd y fferm yn ymestyn o’r mynydd uwchlaw Tyddyn Sabel, i lawr ar hyd Ffrydlas, at y ffin â fferm Pant, yna Pen y Bryn, ac i lawr ar hyd ffin Pen y Bryn i lawr i Ogwan. Yr ochr arall yr oedd yn ffinio efo Cae Ifan Gymro, ac yna ar hyd ffin stad Coetmor i Ogwan.

Ceir sôn am ei thir yn 1627, pan yw rhenti nifer o diroedd  all in the township of Bodfeio’ yn cael eu prynu oddi wrth Syr Thomas Williams, Y Faenol am £244 gan Morris ap John ap Ieuan o gwmwd Dinorwig. Gan mai aelod o deulu Cochwillan oedd y Syr Thomas Williams a werthodd y rhenti, mae’n debyg mai perthyn i Gochwillan yr oedd tir Cilfodan yn wreiddiol. Yn ôl y ddogfen hon, y caeau dan sylw yw

Pant y Cledr, Cae’r Chwarel, Cae’r Fedw Bach( alias Cae Fedw Goch Uchaf, Cae’r Fedw Goch Isa, Cae’r Cyll, Cae’r Clochydd, Cae’r Sgubor, Cae Pen y Gaer, Cae’r Fuches Hen, Cae Maes y Gaer, Cae yr Wafen ( sic)  Goch, y Cae Bychan, Cae yr Achub, Cae Brest y Gaer, Cae’r Foty, y Ffridd Uchaf, y Ffridd Isaf

Mae’r enwau yn dangos yn amlwg mai tir Cilfodan yw’r rhan fwyaf, os nad y cyfan,  o’r caeau hyn. Mae Cae Clochydd yn parhau yma. Fwy na dwy ganrif yn ddiweddarach mae les yn cael ei rhoi ‘ on a parcel of land called Cae Clochydd, bounded on the south-east by the river Ffrydlas, and on the west by the road leading from Pencarneddi to Bont Uchaf’. Mae’n ddigon hawdd, felly, adnabod ffiniau’r tir sy’n cadw ei enw mewn rhes o dai yn y Carneddi heddiw, a hwnnw’n enw sy’n bodoli ers o leiaf pedair canrif. Mae’r caeau sy’n cyfeirio at ‘gaer’ hefyd yn amlwg yn rhan o dir y fferm bresennol. Mewn dogfen o 1859 sonnir am roi les  i Robert Prees of Cilyfodan ‘ for 60 years of lands called Pen y Gaer, Pen y Gaer Bach, part of cae Fuches Hen, and Cae Fuches Ganol’, ac yn 1861 rhoddir les arall ar ‘Cae Cyll, and Cae Fuches Hen’, Yr un tiroedd yw’r rhain a’r caeau a nodir yn nogfen 1627, ond eu bod, mewn sawl achos, wedi eu rhannu ymhellach. Nid oes reswm, mewn gwirionedd, i gymryd nad oedd yr holl gaeau a nodir yn 1627 yn perthyn i Gilfodan.

Ar Chwefror 10fed, 1628, gwnaed cytundeb pellach rhwng y Morris ap John ap Richard o Ddinorwig a nodwyd gydag Owen ap William ap Richard,  sef  ‘ mortgage for a period of 500 years of a close of arable land, meadow, and pasture called y Kae Garrow abutting the river called afon Ogwen in the township of Bofaio’. Enw arall ar Pant y Cledr ( sef un o’r caeau a enwir yng nghytundeb 1627) oedd Cae Garw, ( ceir ‘Cae Garw alias Pant y Cledr’ mewn dogfen arall yn 1691 ) ac fe fu tai o’r enw Cae Garw a Phant y Cledr yng nghyffiniau Pen y Graig, sy’n lleoli’r cae ble mae rhan o Fethesda heddiw hwn.

Yn 1660, yr oedd Cilfodan, hefyd, yn amlwg wedi dod i feddiant  yr Owen ap William ap Richard o Fodfeio a nodwyd, oherwydd mae cofnod ohono ef, a’i wraig, Elisabeth yn rhoi i’w mab, Ellice Owen

Gift of a messuage, tenement, and land called tythyn kil y fodan’ .

Mae’n debyg fod Cilfodan a Chae Garw yn ddau ddaliad gwahanol, gan fod cyfeiriadau at Gilfodan Uchaf a Chilfodan Isaf, gyda’r Isaf yn ymestyn i lawr at yr afon. Beth bynnag, mae’r caeau sy’n cael eu rhoi i Ellice yn gyffredinol yn rhai a enwir yn rhan uchaf Cilfodan wedi hynny. Yr hyn sydd fwyaf arwyddocaol am y weithred o roi’r tir i’r mab gan ei rieni yn 1660 yw bod y tir, am dros ddwy ganrif wedi hynny, yn aros  ym meddiant yr un teulu, sef teulu yr Ellice (Ellis)  Owen uchod, teulu y sefydlogodd eu cyfenw yn Ellis, ar ôl yr Ellice Owen hwn, mae’n debyg. Ellis fu’r teulu o ganol y 18fed ganrif ymlaen ( ar wahân i un gangen fu’n cyfnewid enw a chyfenw am ganrif wedyn ). Diddorol nodi, hefyd, ei bod yn ymddangos fod Owen yn enw ar fab, (hynaf, fel arfer),  y teulu bob cenhedlaeth wedi hynny.

Fel y nodwyd, erbyn 1691 mae’n sicr fod wedi dau ddaliad, gan fod dogfen ar gael sy’n cofnodi trosglwyddo rhan o dir Cilfodan gan Richard Rowlands a Henry Owen, Dologwen, i John Morris o Lanllechid fel gwaddol priodas. Awgryma enwau’r caeau a nodir mai’r rhan isaf Cilfodan yw hon. Diddorol iawn yw fod un cae yn 1691, fel yn 1627, yn cael ei enwi yn Cae Chwarel, sy’n gyfeiriad cynnar iawn at chwarelydda yn y dyffryn. Tybed ai dyma egin Chwarel Pantdreiniog, oedd i gyd ar dir yr hen Gilfodan?

Mae’n debyg yr arhosodd Cilfodan Uchaf yn nheulu Ellis ( er bod dogfen o 1733/34 y nodi fod y tir yn eiddo i Richard Williams, Kiltreflys, ‘yeoman’). Am Gilfodan Isaf, dengys treth tir 1792 fod gŵr o’r un enw a’r un a gafodd y tir ganrif ynghynt fel gwaddol priodas, John Morris, yn talu treth ar dir honno. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad ef oedd y perchennog, gan fod Owen Ellis (perchennog y Gilfodan Uchaf ) wedi prynu’r tir ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1794, a hynny am £735, oddi wrth Maurice Jones, Gent, Bryn y Pin,  Gaerhun ( sef y Caerhun yn Nyffryn Conwy. Gyda llaw, wn i ddim a oedd Owen Ellis a Maurice Jones yn perthyn, ond, yn sicr, yn 1861, roedd ŵyr, neu or-ŵyr,  Owen Ellis, Owen arall, yn ffermio Bryn y Pin efo’i deulu ifanc). Beth bynnag oedd a wnelo yr ‘yeoman’ o Giltrefnus a’r lle yn 1733, mae’n amlwg mai’r Ellisiaid oedd yno o hyd, gan fod Owen Ellis yn talu treth tir ar Gilfodan Uchaf yn 1791, ac mae cyfeiriadau eraill at y teulu yng Nghilfodan yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n debyg fod gan drefn forgeisi’r cyfnod, ac o fenthyca yn erbyn tir, rywbeth i’w wneud a hyn. Beth bynnag am hynny, yn 1794, unwyd yr holl diroedd o’r afon i’r mynydd ym mherchnogaeth yr Ellisiaid. Roedd y pryniant hwn yn un hynod o ffortunus, gan iddo ddod ar yr adeg gorau posibl, o safbwynt lleoliad y tiroedd, a thwf y diwydiant llechi yn Nyffryn Ogwen. Doedd Owen Ellis ei hun ddim  yn byw yng Nghilfodan, er bod perthnasau iddo yno, gan ei fod ef yn ffermio i lawr ger Traeth Lafan. ( Gweler yr erthygl ar Cefnfaes am fwy am yr Ellisiaid ).

Cyn sôn am gyfraniad Cilfodan i ddatblygiad Bethesda, dylid cyfeirio at un ffaith ddiddorol arall. Chwaer i’r Owen Ellis a nodir uchod oedd Elizabeth Ellis, neu, fel yr adwaenid hi ar lafar, Betsan Ellis. Yn 1771 roedd hi’n ferch ifanc yn byw yng Nghilfodan. Roedd hi’n un o’r Anghydffurfwyr cyntaf yn yr ardal, yn Fedyddwraig, a chafodd ei bedyddio, yn ôl yr hanes, mewn ffynnon ar dir Cilfodan ( neu, mewn cyfeiriad arall, yn afon Ffrydlas, ar dir y fferm ). Nodir mai yn ei chartref hi y cafwyd y bregeth Anghydffurfiol gyntaf yn yr ardal, ond mae amheuaeth ai yng Nghilfodan, ai yn y Tyddyn Isaf, y bu hynny, gan iddi symud i Dyddyn Isaf o Gilfodan. Beth bynnag am y lleoliad, gwyddom y traddodwyd y bregeth cyn 1785, gan i Betsan Ellis ymfudo i Ogledd America y flwyddyn honno.

Yn ôl at Owen Ellis, Cilfodan. Fe unodd ef diroedd y ddwy Gilfodan rhyw ddeng mlynedd wedi i Pennant uno’r gweithfeydd bychain annibynnol ar Gae Braich y Cafn. A brynodd o Gilfodan Isaf oherwydd ei fod yn rhagweld y dyfodol, neu am ei fod am fwy o dir? Pwy a ŵyr? Beth bynnag, fe brofodd yn bryniant hynod o ffodus iddo ef, a’i ddisgynyddion. Yn 1815/16 gwelwyd fod angen capel Methodistaidd mawr yn yr ardal, ac fe roddodd Owen Ellis brydles o gan mlynedd ar dir Cilfodan i adeiladu Capel Carneddi arno, a symudodd cynulleidfa fechan capel Rachub yno. Datblygodd Capel Carneddi yn fam eglwys holl gapeli Methodistaidd yr ardal. Cafodd £15 am y les, gydag ardreth flynyddol o £2.  Ar ôl 1815, y mae stryd fawr Bethesda, hefyd, yn datblygu, ac mae hon, i gyd o Gapel Bethesda ( codwyd 1820 ) i lawr at waelod y stryd, ar dir Cilfodan.

Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae fferm Cilfodan yn prysur ddadfeilio, oherwydd bod datblygiad Chwarel Cae Braich y Cafn wedi golygu twf mawr ardal Bethesda. Yng Nghyfrifiad 1841, gwelir fod yna 88 o bobl yn byw mewn 44 o dai yn Llidiart y Gwenyn, ar dir Cilfodan.  Yn 1862, roedd teulu’r Ellisiaid yn derbyn rhent o rhwng £2 a £30 punt y flwyddyn am  y tai hyn. Hyd at 60au’r ganrif gwelir nifer helaeth o ddogfennau cyfreithiol sy’n dangos datblygiad Carneddi a Bethesda, a chynnydd eithriadol yng nghyfoeth yr Ellisiaid. Er enghraifft,  Chwefror 26, 1857, rhoddwyd les am 34 mlynedd ar

a parcel of land adjoining the road from Llanllechid to Carneddi, formerly part of a field called Llain y Tu uchaf i’r Ffordd, which was in turn called Cilyfodan’

er mwyn codi tri thŷ arno. Dim ond un o nifer  helaeth tebyg yw’r ddogfen hon. Yn Nhachwedd yr un flwyddyn gwelir cytundeb rhwng Owen Ellis a Thomas Morris a John Roberts o Bantdreiniog, a Robert Griffith o Fethesda, ‘Grocer ‘

Draft lease for 51 years of certain lands called Tan y Ffordd, formerly part of Cilfoden Farm’

ar rent o £30 y flwyddyn gyntaf, a £60 y flwyddyn bob blwyddyn wedi hynny. Mae’r lleoliad, natur yr ymgymerwyr, a maint y rhent, yn awgrymu’n gryf iawn mai les i ddatblygu Chwarel Pantdreiniog yw hon.

Erbyn yr 1860au yr oedd Cilfodan Isaf, fwy neu lai, wedi diflannu’n gyfan gwbl o dan y datblygiad trefol newydd o dai, siopau, swyddfeydd, a mannau busnes eraill a dyfasai yn sgil datblygiad Chwarel Cae. Ar ei thir y codwyd y Stryd Fawr bron i gyd, yr holl dai y ddwy ochr i’r stryd, a’r mwyafrif llethol o’r hyn oedd ym Methesda a’r Carneddi, Bont Uchaf, Cae Star, Penygraig, Bryntirion, a nifer o dai bychain a elwid yn Twr Tewdws, nad oes, bellach ond un yn aros, sef Twr.

Erys Cilfodan ( Uchaf ) yn fferm hyfyw, ond gorwedd ei thir bellach rhwng ffordd Carneddi a’r mynydd. Gellir parhau i adnabod nifer o’r caeau o’u henwau dros dair canrif yn ôl. Fodd bynnag, mae gweddill ei chaeau o dan dai, ac o dan yr hen chwarel – bellach wedi ei llenwi – ambell un yn dal i gadw cof o gaeau’r fferm yn 1627 ac 1691

Ffynonellau

Dogfennau yn archifdy Prifysgol Bangor

Dogfennaeth Stad y Penrhyn

Map o diroedd y Penrhyn 1768

Hanes Methodistiaeth Arfon  Hobley

Cofnodion Cyfrifiad 1841, 1851, 1861, 1871

Y Conservative Club

Mae dyddiau bodolaeth y Clwb uchod yn perthyn i gyfnod amhenodol yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, os nad cynt, a byddai’n rhesymol ceisio ei osod yng nghyd-destun yr hyn a ddigwyddai ym Methesda yn ystod y cyfnod cythryblus hwn yn hanes yr ardal. Yn 1886 derbyniodd George Sholto yr olyniaeth i stad y Penrhyn ar farwolaeth ei dad.  Ei gam cyntaf oedd diddymu cytundeb Pennant Lloyd, y cytundeb bregus a sefydlodd gymod yn 1874 rhwng y gweithlu a’r perchennog yn Chwarel y Penrhyn. Arweiniodd y cam byrbwyll hwn at ymraniad diwydiannol ar raddfa eithriadol flinderus a gyrhaeddodd ei benllanw mewn streic yn 1896/97 ac yn derfynol yn y streic fawr yn 1900/03.

Ar gychwyn y cyfnod hwn yn 1882 sefydlwyd y The Bethesda Temperance Cafe mewn adeilad pwrpasol a adeiladwyd yn rhan o Deras Penrhyn fel rhan o ddatblygiad gan stad y Penrhyn i adnewyddu porth y gogledd o’r pentref.  Yr oedd amcanion sefydlu y Cafe yn berffaith eglur, ei brif fwriad oedd creu canolfan ddirwestol a fyddai’n denu holl weithwyr yr ardal o’r tafarnau, yn hen ac yn ieuanc, gan gynnig iddynt adloniant a chyfleoedd i fraenaru’r meddwl. I wireddu’r ddelfryd adeiladwyd canolfan ac ynddi fyrddau chwarae billiards, darllenfa papurau newydd a neuadd amlochrog ei defnydd ar gyfer cynnal cyngherddau a darlithoedd. Ariannwyd y fenter mewn buddsoddiadau o £1 y pen gan 3000 o gefnogwyr ac yn ebrwydd talwyd cost yr adeilad a’i gynnwys, sef oddeutu £2800.

Sut y bu’r sefydliad hwn fetamorffeiddio yn Bethesda Conservative Club sy’n fater o gryn ryfeddod, ond eto efallai, nid mor annisgwyl yng nghyd-destun y cyfnod. Pennaf gyfranddaliwr y Cafe oedd yr Arglwydd Penrhyn; cadeirydd y pwyllgor rheoli oedd rheolwr stad y Penrhyn, y Cyrnol Sackville West; ac ar y bwrdd penodwyd gwraig yr Arglwydd Penrhyn; cynrychiolwyr o fyd diwydiant a busnes; cefnogwyr yr Eglwys Anglicanaidd gan gynnwys ficer Eglwys St Ann’s, ac yn olaf, megis coeg mewn drama, dri aelod o weithlu chwarel y Penrhyn.  Faint o’r aelodau hyn a drawsnewidiwyd yn bwyllgorwyr y Conservative Club nid oes gofnod, ond nodir mai Sackville West a urddwyd yn gadeirydd y clwb.  Serch hynny, mae enwau nifer a gymerodd ran i ddathlu agoriad Y Cafe yn 1882 hefyd yn ymddangos yn rhestr mynychwyr ‘y second grand entertainment this season’ a gynhaliwyd  ym mis Tachwedd 1889 yn y Conservative Club. Yn eu plith yr oedd y Parchedigion J. Morgan ac E. R. Jenkins, Mrs E. Philip Williams, gwraig ysgrifennydd y Cafe, a T. H. Owen, Brynllwyd, swyddog yn Chwarel y Penrhyn, a llywydd cynhennus y Conservative Club a fynnai ddadleuon cyhoeddus ar faterion politicaidd dibwys, yn gyntaf yn 1881 mewn gwrthdrawiad â’r Parchedig Thomas Roberts, gweinidog Capel Jerusalem, a’r ail dro yn 1885 gydag ymladdwr ffyrnicach nag ef yn W. J Parry.

 Bethesda ar fin suddo i enbydrwydd y streic fawr mae’n ddiddorol sylwi pwy arall a enwyd ymysg pwysigion yr ardal a fynychodd y ‘grand entertainment’ yn 1889. Yn eu mysg yr oedd Doctor y chwarel a’i ferch; cyfreithiwr; swyddog o swyddfa’r chwarel; preswyliwr tŷ bonedd Ogwen Banc; tafarnwr y Royal Stag; deiliad tyddynnod yr Ynys a Hirdir ym Mynydd Llandygái; a nifer o ardalwyr Bethesda, gyda’r mwyafrif yn byw mewn rhannau o’r pentref a berchenogid gan stad y Penrhyn. Yr oedd llawer mwy yn bresennol yn ôl adroddiad y North Wales Chronicle  ond cynhwyswyd hwy yn unig o dan bennawd yr etc’s.

Nid camsyniad yw dychmygu fod cynnwys y ‘grand entertainment’ ychydig yn llai uchelgeisiol ei nod na delfrydau gwreiddiol cwmni dirwestol y Cafe. Yn y cyngerdd cafwyd cymysgedd o eitemau gan unawdwyr, rhai yn canu caneuon Cymreig megis, ’Yr eneth dlawd amddifad’, ‘Merch y melinydd’ ac ‘Ar y don’, ac eraill yn perfformio amrywiaeth o ganeuon, Saesneg, rhai yn ddifri a rhai yn ddigri, gan gynnwys ‘Clara Nolan’s ball’, ‘The Young man who lived on a common’ a ‘Rootity Toot, she plays the flute’ a’r cantorion hyn wedi eu gwisgo’n addas i gyfleu rhialtwch y caneuon. Cafwyd hefyd ddatganiadau mwy syber ar y piano gan un ac ar y ffidil gan un arall, ac yn yr egwyl o ugain munud rhwng rhan gyntaf y cyngerdd a’r ail gwrandawyd ar Mr Thomas Parry, gŵr o Ddolwyddelan ac arweinydd y noson, yn traddodi ‘ a stirring political speech’.  Ysywaeth, ni chofnodwyd ei chynnwys gan golofnydd y North Wales Chronicle. Eitem gychwynnol y cyngerdd oedd, yng ngeiriau’r colofnydd unwaith eto – ‘song and chorus ‘ Land of my fathers’’, ac i goroni’r noson ‘The National Anthem’ terminated a most successful entertainment’.

Ond ymhlith tincial y llestri gweigion yr oedd cyfnod bradwrus y streic fawr ar gychwyn a buan y trodd y Conservative Club yn gyrchfan i hybu’r rhai a fynnai weithio drwy gydol yr anghydfod. Yno yr arhosai’r niferoedd ychwanegol o heddweision a ddanfonid i’r pentref o dro i dro i gadw’r heddwch, ac yno hefyd y preswyliai Percival Jones, un o’r dychweledigion cyntaf i dorri’r streic, llofnodwr cyson i gyhoeddiadau pleidiol yr awdurdodau, a gŵr y cyfeirid ato’n ddirmygus yn y Wasg Gymraeg fel ‘biliard marker yn y cafe’. Rhoddodd terfyn y streic yn 1903 derfyn hefyd i hanes sinigaidd y Bethesda Conservative Club a’i ail greu yn y flwyddyn honno yn sefydliad llai cynhennus o dan arweiniad mwy cymodlon y Bethesda United Club.

Ffynhonnell

The Conservative Club – erthygl yn The North Wales Chronicle, 23 Tachwedd, 1889.

Kennedy’s Patent Self Closing Wall Fountain – model D19 – Tapiau dŵr Mynydd Llandygái

Cyfraniad ar y cyd â Helen Hughes, Nant y Graean, Tregarth. Helen sydd yn haeddu’r clod am fod y cyntaf i sylwi ar y nodweddion pwysig yn hanes ein bro a drafodir yn y nodyn hwn.

1854 oedd y flwyddyn y derbyniodd Bethesda gyflenwad dŵr yfed am y tro cyntaf a hynny o gronfa a phurfa a adeiladwyd yn arbennig yn Tŷ Dŵr ar Afon Gaseg ger Nant y Graen ym Mraichmelyn. Cynlluniwyd y gronfa i wasanaethu dinas Bangor yn bennaf, a thrwy agosrwydd y trothwy megis, y cynhwyswyd gofynion pentref Bethesda yn y cynllun.  Deddf Gwelliant Bethesda yn 1854 wnaeth awdurdodi’r cynllun, a chyfrannodd yr Arglwydd Penrhyn £1000 at wella’r cyfleusterau yn ogystal. Golygodd y Ddeddf gadarnhau gwell safonau adeiladu tai yn y pentref, a chynlluniwyd system o garthffosydd integredig i ofalu fod glendid cyffredinol y gymdeithas ar ei mantais, tra bo’r cyflenwadau o nwy o waith cynhyrchu ar gwr gogledd y pentref yn sefydlu trefn o oleuo’r pentref. 

Ond pentref Bethesda yn unig oedd i elwa o welliannau’r Ddeddf ac nid Dyffryn Ogwen yn ei gyfanrwydd. Cyn i’r Chwyldro Diwydiannol ddechrau llygru amgylchedd y dyffryn ar derfyn y ddeunawfed ganrif, cyfres o ffynhonnau a fyddai wedi cyflawni’r gofyn am ddŵr yfed i’r gymdeithas, fel ym mhob ardal arall gyffelyb yng nghefn gwlad Cymru’r cyfnod.  Yn ein hardal ni cofnodwyd lleoliad nifer o’r ffynhonnau hyn mewn enwau caeau sydd yn Arolwg Stad y Penrhyn yn 1768. Yn y ddau blwyf, Llanllechid a Llandygái, mantais eithriadol oedd bod yn agos at gyflenwad y dŵr, boed hynny mewn tyddyn, fferm neu dreflan. Y gred oedd y byddai’n annhebygol i ddŵr y ffynnon fyth rewi, ac os oedd llyffant yn lletya yn ei dyfroedd byddai hynny yn gwarantu purdeb ei hylif. Felly, yng nghymuned Hen Gerlan ffynnon y fferm oedd yn dyfrio gofyn bythynnod gwreiddiol y dreflan ymhell cyn i resi tai canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gael eu hadeiladu, ac yr oedd y ffynnon yn Gwernydd at ddefnydd y rhes tai cynnar a oedd yno. Ym Methesda, ar gwr eithaf y pentref yn Nolgoch, pistyll agored ar fin ffordd fawr Telford oedd tarddle dŵr yfed preswylwyr y rhes bythynnod hyd at derfyn yr Ail Ryfel Byd. A tybed pa ran chwaraeodd y ffynnon yn sefydlu lleoliad dwy ganolfan tai pwysig ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym mhlwyf Llanllechid, y naill yn Rachub a’r llall yn Gerlan lle mae Stryd y Ffynnon yn ganolog i’r ddau ddatblygiad?

Hanes tebyg sydd ym mhlwyf Llandygái lle mae’n amlwg i ffynhonnau chwarae rhan sylfaenol bwysig yn y broses o anheddu llwyfandir agored Mynydd Llandygái yn y cyfnod yn dilyn 1768. Ni fyddai gan bob ‘ffynnon’ ei siafft o reidrwydd ond yn hytrach gallasai fod yn bwll cyfleus i oedi dŵr y ffrwd. Yr oedd yno ffynnon yn Nhŷ’n Buarth, Penllyn ar Lôn’r Ynys ac yng Nglanrafon Bach, a ffynnon, a’i dŵr i’w rannu rhwng dau dyddyn oedd ym Mryniau Gwyddelod hefyd, tra sefydlodd ffynnon ym Modfeurig leoliad y tyddyn yn Ffynnon Bach. Islaw cefnen Braich Talog yn Nhre-garth dŵr Cae Ffynnon oedd yn dyfrio tyddyn Tanrhiw ac o leiaf dri annedd arall a oedd gyfagos.

Wedi gobeithio derbyn cynllun dŵr yfed cynhwysfawr, dewis tra gwahanol oedd gan breswylwyr plwyf Llandygái chadael eu cyfoedion yn Llanllechid. Tiriogaeth yr Arglwydd Penrhyn oedd plwyf Llandygái yn ei gyfanrwydd a ‘doedd dim gofyn iddo ef brofi i’w blwyfolion ei awdurdod haelionus megis ym Methesda. Mae’n rhesymol nodi, er hynny, fod amgylchiadau’r plwyf yn dra gwahanol. Nid oedd yno gronfa i buro’r dŵr, ac i gymhlethu’r sefyllfa fwyfwy, roedd patrwm anheddu eithriadol wasgaredig a diffyg canolfannau niwcledig fel oedd yn y plwyf gyferbyn. Ond yr oedd yno ffrydiau lawer i’w harneisio yn llifo o Waun Gynfi – digon i gynllunio math o gyfundrefn amrwd a phur gyntefig, ond eto cyfundrefn led effeithiol, er budd y gymuned. Pan sefydlodd yr Arglwydd dair stryd o dai yn y Gefnan, Llwybr Main a Thanybwlch yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gofalodd fod ffos danddaearol yn rhedeg drwy gaeau perthynol y tair rhes gydag agoriadau digonol, fwy neu lai, ym mhob cae ar gyfer codi dŵr i ddisychedu’r anifeiliaid – o gofio wrth gwrs mai  un o  gynseiliau pennaf y cynllun anheddu oedd ‘an acer and a cow’. Ond yno hefyd yr oedd nifer o ‘ffynhonnau’ wedi eu dosbarthu blithdraplith,  rhai yn agos at y tai, eraill beth pellter i ffwrdd, ychydig mewn caeau ond eraill ar ymyl y ffordd neu gyffordd yn y lôn, ond oll yn byllau arbennig i oedi ffrwd y nentydd a fyrlymai’n iraidd drwy’r ardal. Mae map ordnans 1888 yn dangos yn eglur amlder y dosbarthiad, a nifer o’r safleoedd yn gynseiliau, bid sicr, i ffynhonnau ychydig yn fwy soffistigedig mewn cynllun mwy cynhwysfawr a ddilynodd yn ddiweddarach. Ymddengys i’r cynllun elfennol oroesi hyd at dro’r ganrif pan sefydlwyd cynllun mwy cymeradwy bryd hynny. Tro’r Awdurdod Lleol,  gyda chytundeb ac efallai nawdd gan berchnogion y Penrhyn, oedd datblygu cynllun mwy effeithlon a  chynaliadwy i breswylwyr plwyf Llandygái.

Cyngor Gwledig Ogwen oedd berchen ar y cynllun gyda ffynhonnell y dŵr i’w dderbyn oddi uchod yn nyfroedd Llyn Marchlyn. Ffrydiai’r dŵr oddi yno i adeilad sy’n ymddangosiadol ddigyswllt, ei bwysigrwydd yn anghofiedig erbyn heddiw, yng nghanol gweundir Gwaun Gynfi. Yno yr oedd tarddle pibell danddaearol a  yrrai’r dŵr i danc cronni ym Mhant yr Afon, Bodfeurig, i’w ddanfon ymlaen i Sling a Thregarth, cyn gorffen y daith ar Ynys Môn. Canghennau o’r bibell hon a rannai’r dŵr drwy weddill y plwyf, a gellir olrhain llwybr y cyflenwad yn y cyfresi o dapiau cymunedol a leolwyd  mewn mannau canolog hwnt ac yma i dynnu dŵr o’r sustem. Teclyn ar ddalen o haearn bwrw, a bollt yn ei ganol i agor llif y  dŵr drwy’r pig, oedd y ddyfais, ac uwchben y follt moldiwyd ar ffurf pedol y geiriau ‘T Kennedy patent’.  Gan amlaf gwarchodwyd y tapiau mewn encilion pwrpasol ym môn y wal, ond erbyn heddiw dim ond yr encilion sy’n nodi’r lleoliad, ac eithrio mewn rhai safleoedd go arbennig lle erys dyfais y tap yn ei gyfanrwydd.

Fig 4
Tudalen o gatalog cwmni Glenfield and Kennedy yn 1916 yn dangos y tap D19 ond heb nodi ei bris

Gwneuthurwr y ddyfais oedd cwmni Kennedy o Kilmarnock yn yr Alban, ac wrth gwrs enw gorwych tap y cwmni a ddefnyddiwyd yn deitl i’r nodyn hwn.  Er hynny, un o greadigaethau mwyaf distadl cwmni Kennedy oedd y D19.  Yn ei ddydd yr oedd cwmni Kennedy yn enfawr ei faint a’i bwysigrwydd, ac yn bennaf gynllunydd ffynhonnau dinesig addurnol gyda marchnad ryngwladol rymus i’w pryniant. Sefydlwyd y cwmni yn 1863 yn arbenigo mewn cynllunio a chynhyrchu gwahanol fathau o ddyfeisiadau dyfrio ac yn rhannu safle â chwmni Glenfield a oedd yn gyfrifol am gyflawni gwaith haearn bwrw’r creadigaethau. Yn 1899 ymunodd y ddau i ffurfio cwmni Glenfield and Kennedy ac mae’r dyddiad hwn yn rhoddi bras amcan o ddyddiad creu rhwydwaith dŵr yfed plwyf Llandygái. Ond er mor dderbyniol y cyflenwad, cynllun cymunedol, ac nid er hwylustod i ddrws y tŷ, a gyflwynwyd gan yr Awdurdod, ac ysywaeth nid oedd traeniad carthffosiaeth yn rhan ohono. O ganlyniad, gorchwyl pur annymunol fyddai’r dasg i’r plwyfolion gladdu’r gwastraff teuluaidd ym mhen yr ardd, ond onid oedd llwyddiant i bob gorchwyl yng nghyflawnder rhiwbob gorau’r greadigaeth a dyfai yn y gerddi hyn!

Mae’n amlwg fod cynllun tebyg wedi ei sefydlu ym mhlwyf Llanllechid i wasanaethu rhan o ogledd yr ardal nad oedd yn derbyn dŵr o gynlluniau trefol yr ardal. Mae’n berthnasol gwybod fod  rhan uchaf pentref Rachub, sef yr hen Gae Llwyn Grydd, wedi derbyn dŵr o Ffridd Corbri ar un cyfnod, tra bo rhan isaf y pentref yn derbyn dŵr o ddatblygiad a oedd yn tarddu yn Gerlan. Ar gyfer anghenion yr ardal rhwng Llanllechid a Thalybont sefydlwyd cynllun a oedd yn harneisio dyfroedd Afon Llan yn ei tharddle yng ngwaun Corbri. Yno yr oedd cwt yn dargyfeirio dŵr yr afon i’w ddanfon i danc cronni yng Nghaban Coch ac oddi yno i’w ddanfon i bentref Talybont lle’r oedd tapiau cymunedol o fath y D19 wedi eu gosod mewn mannau canolog at wasanaeth y gymuned.  

I blwyfolion Llandygái, a rhannau o Lanllechid, y dasg ddyddiol fore a nos oedd casglu dŵr o’r ffynnon, pistyll, pwmp neu dap. Roedd yn orchwyl ailadroddus, trwm a diddychymyg, ond cwbl angenrheidiol yn nhrefn y dydd. Doedd prin amser i glonc a sgwrs wrth ddisgwyl tro i godi’r hylif, ac er mor gymunedol y safleoedd buan iawn y gallasai’r gwmnïaeth gymeradwy suro os oedd dŵr y cyflenwad wedi ‘ei sbydu’ yn ôl yr ymadrodd. Wrth gerdded yr ardal heddiw, drwy edrych, dyfalu, rhyfeddu a gweld sawl adeiladwaith cymen ym môn y clawdd, neu gilfach neilltuedig yn y wal,  ac yna sylweddoli eu bod oll yn gyfrannog yn nhapestri hanes ein hardal. A sylweddoli bod angen diogelu’r ychydig sy’n aros o’r hen ddyfrleoedd bendithiol hyn, ac o weld bod  nifer eu safleoedd, ysywaeth, yn faluriedig ac ar fin tranc anghofrwydd terfynol. Ond yr oedd iddynt oll eu cyfraniad gwerthfawr i hanes ein cymdeithas, ac mae cyfrifoldeb eu gwarchod lawn cyn bwysiced i’n bro ag yw cadwraeth genedlaethol yr honglad hyll o ffoli a adeiladwyd ger pentref Llandygái.

Diolchiadau – cyfrannodd nifer o gyfeillion o’u gwybodaeth i’r nodyn hwn ac mae’n bleser cofnodi ein diolch iddynt –  Idris Lewis, Dolwern; Wynne ap Iorwerth, Glanrafon Bach; Ieuan Wyn, Talgarreg; Huw John Huws, Porthaethwy; Alwenna Williams,  Cefnddwysarn; Eluned Rowlands, Groeslon;  Brian Thompson, Tamworth; Kevin Williams, Bryn Eithin; Owie a Betty Williams, Bryn Owen, Gwilym Rees Evans, Mignant, Ceri Evans, Llanllechid, Wyn Roberts Tregarth, Margaret  Fernley Talybont, Megan a Deri Tomos, Sychnant.

Ynni Ogwen

Dyma gyfraniad gwadd gan Griff Morris o Ynni Ogwen.

Sefydlwyd Ynni Ogwen gan Bartneriaeth Ogwen fel Cymdeithas Budd Cymdeithasol. Mae’r Hydro yn cynhyrchu trydan glân trwy ddefnyddio’r ynni sydd yn llif yr Afon Ogwen.

Caiff dŵr yr afon ei hidlo trwy sgriniau mynediad sydd ag arwynebedd o 5m2 ac wedi eu lleoli ger glan orllewinol yr afon ychydig islaw Pont Ogwen.

Yn ôl rheolau Cyfoeth Naturiol Cymru mae ’n rhaid i’r trothwy uwchlaw pen ucha’r sgrin fod ychydig yn uwch na’r trothwy ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Islaw’r sgriniau mae cafnau concrid yn arwain y dŵr i bibell 1.2m o ddiamedr ac i mewn i gawg enfawr (forebay yn Saesneg) lle caiff unrhyw aer sydd wedi ei ddal yn y dŵr gyfle i ddianc cyn i’r dŵr ruthro i lawr pibell 0.9m diamedr sy’n arwain yr holl ffordd i lawr i’r pwerdy wedi ei leoli ger yr afon 16.5m islaw. Ar ei anterth mae 850 litr yr eiliad yn llifo trwy’r bibell ac mewn cyfnod o awr gall gynhyrchu hyd at 100kWh.

Mae llif yr afon yn amrywio’n fawr ac mae’n bwysig gwybod beth yw lefel yr afon ar unrhyw adeg a hefyd lefel y dŵr yn y cawg. Caiff lefel yr afon uwchlaw trothwy’r sgriniau ei fesur gan synhwyrydd wedi ei leoli ar ochr Pont Ogwen ac mae synhwyrydd tebyg y tu fewn i’r cawg yn mesur y dyfnder yno.

Tu fewn i’r pwerdy mae echelion sy’n troi’n gyflym a pheth offer sy’n symud heb rybudd. Felly mae ein gwirfoddolwyr yn gorfod bod yn ofalus iawn yno ac wrth lanhau’r sgriniau yn yr afon. Mae hi hefyd yn eithaf swnllyd y tu mewn i’r pwerdy.

Griff Morris

Mae’r llun uchod yn gymorth i egluro prif nodweddion mecanyddol y pwerdy. Daw’r dŵr i mewn trwy’r bibell las sy’n rhedeg o’r wal ar y chwith. Pe bai angen archwilio’r offer tu fewn i’r tyrbein gellir defnyddio’r olwyn ddu i gau falf i rwystro’r dŵr rhag llifo trwodd.

Lleolir y tyrbein mewn blwch metel lliw glas tywyll sydd wedi ei angori’n gadarn mewn dyfnder o goncrid. Gallwch weld yr echel lliw coch, sy’n cael ei throi wrth i lif y dŵr daro’r silindr tu fewn. Er mwyn rheoli cyflymder yr echel mae dwy fraich y naill ochr i’r blwch yn agor neu gau’r llafnau llywio. Mae’n hanfodol fod yr echel yn troi yn gyson ar 400 tro y funud. Caiff y breichiau eu codi neu ostwng gan system hydrolig olew dan bwysau.

Tu cefn i’r cyfan mae rheolaeth electroneg. Mae’r drefn yn cofio faint o drydan oedd  yn cael ei gynhyrchu ar wahanol  lefelau dŵr yn yr afon a’r cawg a defnyddir yr wybodaeth hon i benderfynu os oes angen newid lleoliad y breichiau.

Er mwyn i ni allu trosglwyddo’r trydan i’r grid cenedlaethol mae angen i’r generadur sy’n trosglwyddo’r ynni cylchol o’r echel i ynni trydanol droi ar gyflymder o 1000 tro y funud. Caiff hyn ei sicrhau trwy ddefnyddio blwch gêr gyda chyfradd o 5:2. Wrth i’r blwch gêr weithio mae’r ymdrech yn peri iddo dwymo ac mae’n hanfodol fod yr olew ynddo yn cael ei oeri. Dyna yw pwrpas y blwch gwyn gyda rhyddiadur bychan ar ei gefn. Gellir cymharu tymheredd yr olew sy’n gadael ac yn dychwelyd i’r blwch gêr wrth gyffwrdd y bibell yn ofalus.

Cludir y trydan o’r generadur trwy wifren drwchus sy’n rhedeg dan y llawr ac yn ei thro i fyny’r rhiw i’r caban mesurydd ar y lôn las uwchlaw cyn ymuno â’r grid. Pan fydd y tyrbein yn rhedeg ar ei anterth mae llif y trydan yn twymo ychydig ar y gwifrau sy’n ei gario i’r grid. Golyga hyn fod gwahaniaeth rhwng faint o drydan, wedi ei fesur mewn MWh, rydym yn ei gynhyrchu a faint rydym yn ei allforio.

Datblygodd Chwarel y Penrhyn nifer o brosiectau arloesol dros y blynyddoedd ac o gwmpas 1929 adeiladwyd system hydro oedd yn defnyddio’r afon i gynhyrchu aer dan bwysau i’w ddefnyddio i dyllu’r graig gyda driliau niwmatig. Er bod yr hen bwerdy, gyda’i dyrbein o wneuthuriad y cwmni enwog Gilkes, wedi mynd a’i ben iddo erbyn hyn mae’n parhau i ennyn edmygedd y rhai sydd â diddordeb. Does dim amheuaeth mai dyna oedd y symbyliad i sefydlu Ynni Ogwen. 

Penderfynwyd cychwyn y fenter yn gynnar yn 2016 a lluniwyd prosbectws deniadol yn apelio am fuddsoddwr. Bu’r ymateb yn anhygoel. Buddsoddodd 307 o bobl gyfanswm o £459,350 mewn cyfnod byr. Mae mwy na hanner y buddsoddiadau yn £500 neu lai ac mae dros 80% o’r buddsoddwyr yn byw yn lleol. Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi talu llog o 3% yn flynyddol i’n buddsoddwyr.

Cawsom ganiatâd cynllunio i adeiladu’r cynllun yng Ngorffennaf 2015 ac erbyn Hydref yr un flwyddyn roeddem wedi cofrestru’r cwmni gyda’r Awdurdod Goruchwylio Cyllidol (Financial Conduct Authority). Wedi hir ddisgwyl cawsom ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Ionawr 2016 oedd yn ein galluogi i gofrestru gyda OFGEM am Dariff Bwydo Mewn (Feed in Tariff) yn gynnar mis Chwefror.

Mae Ynni Ogwen yn denant i Stad y Penrhyn, perchnogion yr afon, ac i gwmni chwareli Breedon sydd piau’r tir. Ein rhent blynyddol yw’r uchafswm o £4K neu 6% o werth ein hallforion trydanol.

Rydym yn talu treth busnes blynyddol o £7627 i Gyngor Gwynedd ond hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi ein digolledu. Mae peth ansicrwydd beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae costau yswiriant oddeutu £4500 y flwyddyn..

IMG_0002
Allbwn Ynni Ogwen

Mae mesuryddion clyfar yn cofnodi faint o drydan a gynhyrchir a hefyd faint sydd yn cael ei allforio bob hanner awr. (Half Hourly Data.) Mae’r bwrdd electroneg yn y pwerdy yn arddangos y data perthnasol ac mae’n hanfodol cofnodi’r data hwn yn wythnosol; dyna un o ddyletswyddau ein gwirfoddolwyr.

Rhwng Mai 2017 a diwedd Hydref 2020 mae Ynni Ogwen wedi allforio 1,690 MWh i’r grid.

Rhoddodd Ynni Ogwen £10,000 i Bartneriaeth Ogwen i’w galluogi i wneud cais llwyddiannus am grant sylweddol i sefydlu Dyffryn Gwyrdd. Yn ystod yr argyfwng Cofid 19 diweddar fe gyfrannodd Ynni Ogwen £3,000 i Gronfa Fwyd Bethesda. Mae grŵp bach o wirfoddolwyr wedi bod wrthi’n paratoi i sefydlu elusen fydd yn gweithio hyd braich oddi wrth Ynni Ogwen ac mae hyn ar fin cael ei wireddu.

Y gobaith yw y bydd yr elusen newydd yn gymorth i ddileu’r G o GYNNI OGWEN.