Capel Carneddi

Capel Carneddi (1)
Capel Carneddi

Capel Carneddi oedd mam eglwys enwad y Methodistiaid Calfinaidd ym Methesda, ond carreg filltir yn unig oedd sefydlu’r capel yn 1816 oherwydd daethai’r enwad i’r ardal cyn hynny.

Gof o’r Felin Isaf yn Llandygái, John Williams, oedd un o’r sylfaenwyr ac ef a ysbrydolodd gychwyn nifer o achosion, a hynny yn nhai cyfeillion o debyg anian oddeutu 1787. Ar y Sul pregethid ar gylchdaith o’r Felin Isaf i Dai’n y Coed gan orffen yn Nhan y Braich ger Chwarel Cae Braich y Cafn. Ceid gwasanaethau hefyd mewn nifer o ffermydd eraill ym mhlwyf Llanllechid, yng Nghochwillan, Llwyn Penddu a Thyddyn Isaf yn ogystal ag yn chwarel Cae Braich y Cafn. Derbyniodd y sefydlwyr cyntaf lawer o wrthwynebiad ar y dechrau. Gorchmynnwyd John Williams i adael ei gartref yn y Felin Isaf gan y perchennog, Benjamin Worthington, a oedd yn Grynwr, ac ymosodwyd ar bregethwr  arall wrtho iddo draddodi ei bregeth ger mynwent Eglwys Llanllechid.

Gyda nifer yr aelodau’n cynyddu aeth Tai’n y Coed yn rhy fychan i gynnal gwasanaethau ac yn 1793 codwyd capel newydd ym mhentref Rachub. Am gyfnod byr yn unig y defnyddiwyd y capel hwn cyn penderfynu symud i leoliad newydd yn y Carneddi dan arweiniad tri blaenor. Prynwyd llain o dir ac yno ar garnedd o gerrig adeiladwyd capel newydd yn mesur 14 wrth 11 llath ar gost o £1000. Dewiswyd Carneddi fel lleoliad oherwydd ei fod ‘mewn man mwy canolog i’r boblogaeth‘, dewis a oedd braidd yn fyrbwyll efallai o gofio yr agorwyd Ffordd Bost Telford o fewn pedair blynedd gan ganoli’r boblogaeth fwy na y gwnâi’r datblygiad rhuban a oedd yn tyfu ar y ffordd drwy Carneddi i gyfeiriad Pont Uchaf. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol ar 6 Hydref 1816 ac am y blynyddoedd nesaf yr oedd hanes y capel megis yn efelychiad o ddameg yr heuwr yn y Beibl. Yn 1834 symudodd 38 o aelodau’r Carneddi i atgyfnerthu’r capel newydd a sefydlwyd yn Llanllechid yn 1827, ac yn yr un modd gadawodd 30 aelod yn 1837 i sefydlu Capel Penygroes yn Nhregarth. Nid oedd pall ar aelodaeth y capel gwreiddiol ac yn 1827 estynnwyd yr adeilad drwy ychwanegu croglofft o’i fewn, ond yr oedd hefyd benderfyniadau mwy dyrys yn aros i’w datrys.

Gyda thwf yn y boblogaeth y dewis oedd a ddylid sefydlu capel newydd mewn lleoliad mwy canolog yn y pentref, neu godi capel newydd yn y Carneddi, mater a ystyriwyd yn fanwl rhwng 1839 ac 1840. Penderfynwyd sefydlu achos newydd yn y pentref, ac o dan arweiniad dau flaenor o’r Carneddi, Owen Jones, Brynsalem a William Williams, Penygraig, aethpwyd at i adeiladu capel Jerusalem yn 1842, ac ymunodd 160 o aelodau o’r Carneddi â’r capel newydd. Cenhadaeth y Carneddi oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu eglwysi Tyn y Maes, Hermon ym Mynydd Llandygái, a Brynteg nepell i ffwrdd ar gyrion Chwarel Pantdreiniog, ac yna yn 1869, codwyd capel newydd yn y Gerlan. Yn goron ar lwyddiant yr enwad ailadeiladwyd capel y Carneddi yn 1868.

Yr oedd bri mawr ar ganu cynulleidfaol yng nghapeli’r cyfnod a chyfrifid Bethesda yn un o ganolfannau cerddorol pwysicaf Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Breintiwyd yr ardal gan nifer o gerddorion dylanwadol er nad oedd llawer ohonynt wedi derbyn mantais addysg gerddorol ffurfiol. Yn eglwys Llanllechid arweinydd y gân oedd Owen Davies (Eos Llechid), a chymaint oedd bri ei gôr fel y deuai’r Prif Weinidog, William Gladstone, i wrando’n werthfawrogol ar y canu pan ymwelai â Llanfairfechan yn ystod gwyliau’r haf. Yng nghapel Bethesda David Roberts (Alawydd) oedd arweinydd y gân a sefydlodd yntau gôr o safon nodedig yn yr eglwys. Bu nifer o gerddorion yn gysylltiedig â chapel y Carneddi ers ei sefydlu a gellir enwi Robert Davies (Asaph Llechid), Robert Moses a John Parry yn eu plith. Yr arweinydd mwyaf nodedig oedd Robert Williams, chwarelwr wrth ei alwedigaeth, a sefydlodd ddosbarthiadau cerdd yn y capel ond a fu farw yn 1828 yn ŵr ieuanc 37 oed mewn damwain angheuol yn y chwarel. Eto, er cymaint arbenigedd y canu, yr oedd rheol na cheid ‘ymyrraeth ag offerynnau meirwon yn addoliad Duw, megis y delyn, a’r organ, pibelli a chrythau… ond canu yn gerddgar, soniarus a llafar byw a rhesymol’, ac felly oherwydd y gwaharddiad ni chafwyd offeryn cerdd yng nghapel Carneddi tan 1873. Yr un gwaharddiad a olygodd na chafodd yr harmoniwm a gludwyd ar fwrdd y Mimosa gan sefydlwyr cyntaf y Wladfa ei defnyddio mewn gwasanaeth crefyddol.

Nid yw Capel Carneddi yn sefyll mwyach er gwaethaf mawredd ei gyfraniad at werthoedd ysbrydol a chymdeithasol yr ardal. Y mae ei ddifodiad yn adlewyrchiad trist ar gyflwr crefydd yn Nyffryn Ogwen heddiw. Pydredd yn yr adeiladwaith a achosodd gwymp nifer o gapeli’r ardal ond rhesymau eraill megis diffyg ffydd  a chred mewn dysgeidiaeth Gristionogol sydd i gyfrif mae’n debyg am ddiflaniad y cynulleidfaoedd.

Gwybodaeth ychwanegol gan Emyr a Heulwen Roberts, Ystradawel, Bethesda, Alwen Hughes, Cilfodan, Bethesda

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Evans, Emlyn. 1991. O’r Niwl i’r Anialwch. Dinbych.

Owen, John. 1992. Dathlu Canrif a Hanner Jerusalem, Bethesda, 1842-1992. Dinbych.

Advertisements

Y Farchnad

NeuOg.JPG
Y Farchnad neu Neuadd Ogwen fel y’i hadwaenir bellach

Fel y ‘Farchnad’ yr adwaenid yr adeilad a addaswyd yn ddiweddar i fod yn neuadd bentref aml bwrpas i drigolion Bethesda, sef Neuadd Ogwen. Dros dreigl y blynyddoedd bu sawl newid yn y ffordd y defnyddid yr adeilad. Bu’n farchnad; yn neuadd gyngerdd, eisteddfod a chyfarfodydd gwleidyddol ac yn sinema yn ystod pumdegau’r ganrif ddiwethaf. Yn 1909 llosgwyd y farchnad i’r llawr ond drwy danysgrifiadau lleol a grym ewyllys gymdeithasol adferwyd yr adeilad yn ôl i’w lawn ddefnydd erbyn 1912. Perthynai un nodwedd anghyffredin i’r adeilad, sef mai tafarn y Victoria a berchnogai’r fynedfa ac o’r herwydd roedd pedair ffenestr yn y dafarn yn agor yn uniongyrchol i gorff y neuadd. Pe byddent yn dewis gwneud hynny gallasai mynychwyr y dafarn felly glustfeinio ar bopeth a ddigwyddai yn y neuadd.

Yn ystod cyfnod cythryblus streiciau mawr 1896-97 ac 1900-03 yr oedd y neuadd yn ferw o weithgaredd ac yno y cynhelid holl gyfarfodydd pwysig yr Undeb gyda rhai o brif arweinwyr y  Mudiad Llafur yn annerch y dorf. Y mae a wnelo’r nodyn hwn â digwyddiad a ddigwyddodd ar derfyn streic 1896-97, digwyddiad a oedd i effeithio yn uniongyrchol ar ddatblygiad y streic fawr a ddilynodd yn 1900-03. Sôn yr ydym am frad un o sylfaenwyr Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru W.J. Parry. Yr oedd Parry yn gyfrifydd ac yn ddyn busnes llwyddiannus ac roedd yn berchen ar iard nwyddau a werthai amrywiaeth o ddeunyddiau at ddefnydd domestig, masnachol a diwydiannol. Roedd yn asiant i gwmni ffrwydron pwysig Nobel yn Glasgow, ac un o’i gontractau mwyaf gwerthfawr oedd gwerthu pylor (powdr) du a ffrwydron i chwarel y Penrhyn. Cymaint oedd pwysigrwydd y contract fel ei fod yn cyfrannu ar gyfartaledd £116 y mis i goffrau Parry yn y blynyddoedd rhwng 1886 ac 1892. Ym mis Gorffennaf 1892 diddymwyd y contract yn ddirybudd gan awdurdodau’r Penrhyn. Ni roddwyd rheswm ond mae’n amlwg mai gweithgareddau Parry gyda’r Undeb oedd wrth wraidd y gwrthodiad.

Yr oedd colli’r gontract yn glec enbyd i hygrededd Parry. Er cymaint ei bwysigrwydd yn lleol a’r parch a roddid iddo yn genedlaethol drwy Gymru yr oedd dyledion ariannol pur ddifrifol yn llethu ei fywyd personol. Yr oedd ganddo ddyledion mawr i’r banc ac yr oedd nifer o’i brosiectau cyfalafol mwyaf mentrus yn fethiant. Ym mis Hydref 1896 ychydig ddyddiau wedi cyhoeddi’r streic difrodwyd ei iard nwyddau mewn tân difrifol a achosodd −  drwy ei ddiofalwch − golledion enfawr a’i yrru i ymylu ar fod yn fethdalwr. Golygodd colli’r iard na allai gadw ffrwydron yng nghanol y pentref mwyach ac er iddo adeiladu cwt ffrwydron arbennig ar gyrion diarffordd Gwaun Cwys Mai, yr oedd dan bwysau cynyddol gan gwmni Nobles i gadw ei asiantaeth. Pan gychwynnodd y streic ym mis Tachwedd 1896 ychwanegodd yn ddirfawr at drafferthion Parry. Er hynny, byddai ganddo lygedyn o obaith pe deuai’r streic i ben yn fuan gan ei alluogi efallai i adennill contract y Penrhyn. Ers dechrau’r nawdegau roedd wedi ceisio ymbellhau oddi wrth weithgareddau gwleidyddol a chyhoeddus gyda’r Undeb, ond yn y cyfamser gweithredai fel cyflafareddwr anrhydeddus yn y trafodaethau rhwng y ddwy ochr. Yn y dirgel er hynny, yn ôl tystiolaeth ei lythyrau i Nobles, cynllwyniai i adennill contract y chwarel.

Dyma’r cefndir felly i’r hyn a ddigwyddodd yn y Neuadd ar Awst  21 1897 pan ddaeth streic 1896-97 i’w therfyn dan amgylchiadau eithriadol anfoddhaol heb ennill yr un o ofynion yr Undeb. Ar y diwrnod cyn y penderfyniad anfonodd Parry delegram i Nobles yn gofyn – ‘send me tonight the best terms I can offer Penrhyn for all of your goods’, a ddiwrnod y penderfyniad ysgrifennodd y llythyr canlynol – ‘I have been for the last month at the request of both sides doing what I can to settle the dispute at Penrhyn and succeeded to bring the representatives of the men and the representatives of Lord Penrhyn to agree upon terms and the mass meeting is now being held to accept or reject them. I have every confidence they will be accepted. For what I have done Lord Penrhyn’s solicitor   has promised to do all he can to get me back the quarry orders.  PS The mass meeting is over – the terms accepted, 7.30pm’. Ar yr un diwrnod ysgrifennodd lythyr ymgreiniol at Young, rheolwr unbenaethol y chwarel, yn cynnig ‘exceptional favorable prices for Nobels explosives’ ac yn ymddiheuro ‘for anything I have done to give you offence’ gan ddiolch iddo ‘for all your past favours’.

Digon yw ychwanegu na dderbyniodd Parry gontract ffrwydron y Penrhyn ac yn 1902 collodd ei asiantaeth gyda chwmni Nobles yn derfynol. Yn fwy perthnasol collodd ei safle anrhydeddus gydag Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, y corff yr ymladdodd mor ddiwyd a diflino i’w sefydlu yn 1874. Esgymunwyd ef gan yr Undeb ac mewn cywilydd nid oedd i gyfrannu mwyach i weithgareddau’r mudiad. Yn yr ymrafael creulon a ddilynodd Streic Fawr 1900-03 ymsefydlodd Parry ei hun fel arweinydd rhwysgfawr yn brwydro yn erbyn y cam a ddioddefai’r gymdeithas o dan orthrwm y streic. Gyda’i huodledd, ei hyder a’i ddawn gyhoeddus llwyddodd i dynnu sylw’r byd at gyflwr enbydus tlodion Bethesda, a thrwy ei allu i drefnu sefydlodd y Penrhyn Relief Fund ym mis Rhagfyr 1900 i gasglu arian i gynnal teuluoedd y di-waith.

Yr oedd ei ymdrechion yn rhai grymus a chlodwiw ond roedd hefyd yn gyfrwys a defnyddiai’r streic i adennill ei statws a’i ddelwedd fel ymladdwr diwyro dros y difreintiedig. Brwydrai ar y naill law yn erbyn ei wrthwynebwyr, sef yr Undeb ac ar y llaw arall yn erbyn y Barwn, George Sholto Gordon Douglas-Pennant. Byddai’n cyfeirio’n ddirmygus at ddiffygion yr Undeb yn brwydro achos y gweithwyr, ond yn ei atgasedd llwyr at y Barwn mentrodd ei alw’n ‘tyrant’ yn gyhoeddus. Arweiniodd hyn at achos o enllib a wrandawyd yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Mawrth 1903, lle y’i cafwyd yn euog a’i ddirwyo £500 a chostau ychwanegol y llys. Sefydlwyd cronfa y Libel Appeal Fund i gasglu arian i dalu’r ddirwy gan newid y nod yn gyfrwys oddi wrth y Penrhyn Relief Fund. Yn y mis canlynol gwrandawyd ar orchymyn y Barwn i wneud Parry yn fethdalwr er mwyn ei ddinistrio yn llwyr. Ni lwyddodd y mesur ond ym mis Medi 1903 talwyd £2,508 i’r llys i ryddhau Parry o’i ddyled, yn ogystal â thalu deiseb ei fethdaliad. Hebryngwyd Parry yn fuddugoliaethus i’w gartref yng Nghoetmor gan fintai yn crochlefain ‘ gwell marw yn filwr na byw yn fradwr’. O fewn mis terfynwyd y streic dan amodau yr un mor anfoddhaol â’i rhagflaenydd yn 1896-97.

Bu Parry fyw yn hen ŵr sinigaidd a siomedig yn 1927. Gwerth bydol ei holl eiddo bryd hynny oedd £230.2.0.

Gadawn i’r darllenydd ystyried pwy oedd y ‘bradwr’ yn yr holl achos truenus hwn.

Ffynonellau

Williams, J. Roose. 1978. Quarryman’s Champion; the life and activities of William John Parry of Coetmor. Dinbych.

Williams, J.Ll.W. 1996. ‘Political victimisation in Late Nineteenth Century Gwynedd: the case of W.J.Parry’. Llafur, 7(1),tt. 41-52.

Williams, J.Ll.W. 2000. ‘W.J.Parry: Quarrymen’s Champion?’ Llafur, 8(1), tt. 97-110.

Llyn Tsieini

Traen Dŵr Coed Parc
Twmpath a choed ym Mryn Derwen sy’n nodi cwrs twnnel tanddaearol

Dros y ffordd i’r fynedfa i Fryn Derwen rhwng Grisiau Cochion a’r Felin Fawr mae twmpath enfawr yn sefyll yn y cae. Mae wal gerrig yn ei gynnal a choed pinwydd yn ei orchuddio ac ym mhen arall y cae dan gysgod tomen rwbel y chwarel mae twmpath cyfatebol wedi’i leoli.

pont tansgrafell
Terfynell y ffos ddŵr yng Nhanysgrafell

Mae’r ddau dwmpath yn nodi cwrs twnnel tanddaearol a oedd yn codi dŵr o Afon Ogwen ym Mhont Ogwen, yn ei gario i’r chwarel ar gyfer gweithio’r peiriannau yno, ac yna yn ei arllwys yn ôl i Afon Ogwen yn Llyn Tsiaeni islaw Tanysgrafell. Cynlluniwyd y ffos hefyd i waredu holl ddŵr wyneb y chwarel, ac yn arbennig y dŵr a oedd yn cronni yng ngwaelod y twll. Yn wreiddiol yr oedd modd cyrraedd at y ffos danddaearol o’r twmpathau uchod, ond bellach mae’r mynedfeydd wedi’u cau. Yn Nhanysgrafell mae’r ffos yn dod i’r wyneb drwy fwa llechi yn y derfynell ac yn llifo ymlaen am ganllath olaf y daith fel ffos agored hyd nes cyrraedd glan Afon Ogwen. Yno yr oedd cadwyni o haearn yn rheoli fflodiart y ffos, trefniant nad yw’n weithredol bellach, er bod rhai o’r cadwyni i’w gweld ar y lan gyferbyn.

Llyn tcheini
Llyn Tsieini

Cloddiwyd y ffos yn 1847 gan griw o fwyngloddwyr a ddaeth i’r ardal o Ferthyr Tudful. Perthynent i enwad y Mormoniaid a sefydlwyd capel ganddynt ym Mhenygraig. Mae’r capel bellach yn ddau dŷ yn Stryd John ond mae plac gwag ar y mur uwchlaw yn nodi mai hwn oedd safle capel Bryn Salem. Nid arhosodd y Mormoniaid yn hir ym Methesda, arhosiad byr o lai na deng mlynedd, cyn codi eu pac ac ymfudo at eu cyd addolwyr yn Salt Lake City yn yr Unol Daleithiau.  Meddai Huw Derfel Hughes, mewn cyfeiriad deifiol at eu  crefydd dan bennawd Saint y Dyddiau Diweddaf ‘yr oeddynt yn fwy o wrthrychau tosturi nag i ddigio wrthynt ac yn eu pregethau yn gyffredin bradychent fwy o’r ffŵl nag o’r cnaf … cyn i fechgyn y gloddfa eu cael yn brin’.

Capel y Mormoniaid
Capel y Mormoniaid yn Stryd John

Ffynhonnell

Derfel Hughes, Hugh. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.