Cytiau Gwyddelod Allt Goch

Map Eleias Owen
Map Elias Owen o safleoedd archaeolegol Dyffryn Ogwen  a gyhoeddwyd yn 1866

Mae paham y cyfeirir at safleoedd tai o Oes Yr Haearn fel ‘Cytiau Gwyddelod’ yn ddirgelwch na ellir mo’i egluro. Heddiw mae archeolegwyr yn dotio wrth geisio dosbarthu’r safleoedd hyn i wahanol gategorïau, ond heb sylweddoli, efallai, mai ysgolfeistr lleol o Ddyffryn Ogwen oedd un o’r rhai cyntaf i geisio gwneud hynny. Yn 1866 ysgrifennodd Elias Owen ddwy erthygl yn cofnodi henebion yr ardal. Rhannodd y cytiau i dair adran  sef tai crwn unigol, tai mewn cylch amddiffynnol a llociau yn cynnwys casgliad o dai yn agor i iard. Fel y ceisiodd Owen ddangos mae ffurf yr anheddau yn newid o rai agored i rai wedi eu gwarchod, gyda maint a ffurf y lloc yn amrywio o gylch i sgwâr. Mae’n amlwg hefyd fod sawl pwrpas i’r safleoedd: roedd rhai yn dai unigol ac roedd gan eraill swyddogaeth mwy arbenigol lle roedd pwysigrwydd y lloc gyfwerth â’r annedd. Mae ffurf yr uned hefyd yn newid gydag amser, gyda rhai o’r ffurfiau syml yn perthyn i gyfnodau cynharach na’r llociau cymhleth megis y ai ar ffurf sgwâr. Ffaith arall berthnasol yw fod llawer o’r safleoedd wedi eu cysylltu â chaeau bychan, oddeutu acer neu lai mewn maint, y cyfeirir atynt fel ‘caeau Celtaidd’, enw sydd yr un mor gamarweiniol â ‘Cytiau’r Gwyddelod’, gan fod llawer ohonynt wedi eu sefydlu mewn cyfnodau cynhanes cynharach.

New Picture (12)
Llun awyr o annedd Rhiw Goch.  Delwedd drwy ganiatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth,  gyda diolch

Mae archwiliadau diweddar yn cadarnhau fod yr anheddau wedi datblygu dros gyfnod hir o amser o gychwyn yr Oes Haearn oddeutu 600 CC hyd at gyfnod y goresgyniad Rhufeinig yn y ganrif gyntaf OC, ond hanfod pwysicaf y safleoedd hyn yw iddynt ffurfio cynsail economi amaethyddol Prydain Geltaidd gyfan. Mae nifer sylweddol o’r safleoedd hyn i’w gweld yn Nyffryn Ogwen yn arbennig felly ar waun fawr Llanllechid lle mae nifer o ffurfiau cytiau a chaeau wedi eu diogelu. Ar Riw Goch, ar lwyfan dros y ffordd i Wern Bach, mae cylch lled grwn yn amgáu clwstwr bychan o dai hirgrwn gyda’r cwt mwyaf sylweddol yn mesur 30 x 20 troedfedd.

New Picture (11)
Map o safleoedd archaeolegol Dyffryn Ogwen yn 2013

Ar Foel Faban mae un o’r enghreifftiau gorau yng Nghymru o ddau dŷ, tyddynnod cynhanes bid sicr, sy’n gysylltiedig â chaeau bychan â phorfa amgaeedig sy’n dringo hyd lethr y de o’r mynydd, ac mae grŵp arall nodedig i’w gweld wrth afonig fechan yng Nghwm Caseg. Ger Talysarn mae’r dolydd hirion, cyfres o derasau sy’n ffurf arall ar gae cynhanes, wedi eu cysylltu â safle amgaeedig Coed Uchaf sydd bellach wedi ei chuddio dan eithin. Mae olion y safleoedd hyn wedi eu diogelu ar dir ffiniol y gweunydd ond ar lawr gwlad maent wedi diflannu. Dywedir er enghraifft, fod o leiaf ddeg tŷ wedi eu chwalu yng Nghiltwllan, tra bo hyd at ddeunaw annedd ym Mharc y Gelli, Tregarth ond heddiw dim ond unarddeg sy’n aros. Heddiw, gellir gwerthfawrogi gwaith Elias Owen yn gymaint mwy oherwydd iddo gofnodi lleoliadau  ’Cytiau Gwyddelod’ yn ystod cyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn i nifer gael eu difrodi a’u chwalu am byth.

Ffynonellau

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London

E. Owen, 1866, Arvona Antiqua – ancient dwellings, or cyttiau, near. Archaeologia Cambrensis vol XII (3rd series), tt.215-228, map facing t. 228.

J. Ll. W. Williams; Jane Kenney 2013 Prehistoric sites in Llanllechid and Llandygai in northern Gwynedd – a contribution using antiquarian and place name studies. Archaeoleg yng Nghymru/Archaeology in Wales. 52, tt. 101-112.

Advertisements

ADEILADAU RHESTREDIG DALGYLCH Dyffryn Ogwen

Dyma erthygl arall gan gyfranwr gwadd, sef Andre Lomozik sy’n trafod adeiladau rhestredig dalgylch plwyfi Llanllechid a Llandygái

Os ewch chi ar wefan Cyngor Gwynedd fe welwch fod tua 2,400 o safleoedd wedi eu cynnwys ar Restr Treftadaeth y sir. Gellir eu rhannu i ddwy adran – adeiladau sydd ar restr (listed buildings) oherwydd eu bod mewn cyflwr cyflawn neu weddol gyflawn, a chofadeiliau mwy bregus eu cyflwr megis gwrthgloddiau a nodweddion archaeolegol brau sydd ar gofrestr gwarchod (scheduled monuments). O’r nifer yng Ngwynedd mae tua 250 wedi eu lleoli yn nalgylch Dyffryn Ogwen. Mae’r gofrestr gwarchod yn cynnwys 26 safle ym mhlwyfi Llandygái a Llanllechid; cynnwys y rhestr adeiladau 39 uned ym Methesda, 66 ym mhlwyf Llanllechid a 157 yn Llandygái. Er mwyn cael eu cynnwys ar Restr Treftadaeth ystyrir fod gan yr holl safleoedd eu pwysigrwydd yn hanes yr ardal yn ogystal â hanes y genedl gyda’r bwriad y gellir eu gwarchod drwy gyfraith i’w gwerthfawrogi gan genedlaethau i’r dyfodol.

Mae hanes gwarchod ein treftadaeth yn cychwyn yn 1882 pan gyflwynwyd Deddf Gwarchod Henebion Hynafol, y gyntaf o’i bath ym Mhrydain. Yng Nghymru, Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, sydd heddiw yn cynnig fframwaith deddfwriaethol i warchod ein safleoedd hanesyddol.

Mae mwyafrif safleoedd archaeolegol ar y rhestr gwarchod yn cynnwys y prif gaerau o Oes yr Haearn (700CC-150CC) – Pendinas, Tŷ’n y Caeau a Phen y Gaer, Carneddi – a safleoedd tai crynion o gyfnod 250CC- 150AD yn Parc Gelli, Coed Uchaf, Rhiw Goch, Ffridd Corbri, Moel Faban a Chwm Caseg. Mae cromlech ddrylliedig Fron Deg (circa 3,000CC) hefyd ar y rhestr, yn ogystal â’r ddwy hengor (henge) o gyfnod y Neolithig, circa 2500 CC, sydd wedi eu gorchuddio gan rai o adeiladau Parc Busnes Llandygái.

Dosberthir safleoedd ar y rhestr adeiladau i dri chategori yn ôl graddfa sy’n dangos eu pwysigrwydd cymharol.

I – Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, yn genedlaethol fel arfer

II* – Adeiladau arbennig o bwysig, gyda mwy na diddordeb arbennig

II – Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy’n haeddu pob ymdrech i’w cadw.

New Picture (1)Ar restr Dyffryn Ogwen cynhwyswyd cynrychiolaeth ddiddorol sy’n amrywio o’r mwyaf mawreddog i’r eithaf dinod, gan gynnwys yr unigryw yn ogystal â’r annisgwyl.

Mae dau adeilad o bwys sydd o ddiddordeb  cenedlaethol wedi eu rhestru gyda graddfa I, sef neuadd ganol oesoedd Cochwillan, ac Eglwys Unedig Jerusalem. Adeiladwyd New PictureJerusalem yn y flwyddyn 1842-3 i gynllun gan Thomas Evans o Fangor ar gost o tua £3,400 ac yna adnewyddwyd yr adeilad tua 1872-5 ar gost o £1,778 gan Richard Davies o Gaernarfon. Prynwyd organ o neuadd dref Huddersfield yn 1903. Ac mae lle i 980 eistedd yn y capel. Rhestrwyd yr adeilad yn 24/5/1997.

 

Grand Lodge Castell Penrhyn 1819 – 1820 gradd II*

New Picture (2)Adeiladwyd y Grand Lodge fel rhan o’r wal terfyn o amgylch parc y Penrhyn, dan oruchwyliaeth William Baxter, goruchwyliwr gwaith i Stad y Penrhyn. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1819 ac aeth ymlaen i’r 20au. Awgrymwyd mai yr un gweithwyr a wnaeth adeiladu tŵr Marquis, yn Sir Fôn, a fu’n gyfrifol am y gwaith yma hefyd. Rhestrwyd y Grande Lodge am y tro cyntaf yn 3/3/1996. Mae nifer fawr o dai pentref Llandygái wedi eu rhestru yn ogystal, ynghyd â’r eglwys, a’r wal terfyn o’u hamgylch. Yn y fynwent mae bedd arbennig sef bedd Benjamin Wyatt. New Picture (3)Bu ef yn brif swyddog i Stad y Penrhyn am dros 30 mlynedd. Mae pedwar o’i blant wedi eu coffau ar y garreg bedd  hefyd. Mary, yn 20 oed, Arthur, a fu farw ym Mengal yn 28 oed, Charlotte, yn 41 oed, a James, a fu farw yn 87 oed. Mae gwraig Benjamin, sef Sarah yn gorwedd yma hefyd, bu hi farw yn 96 oed. Rhestrwyd y bedd yma gyda graddfa II*.

 

Wedi ei osod yn wal y pentref, New Picture (4)mae carreg filltir anarferol i’w weld gyda llun dwy law yn dangos y ffordd i’r teithiwr. Dangosir y pellter i Fangor neu Aber a Chonwy.

Wrth anelu i gyfeiriad Conwy ac ychydig cyn cyrraedd Pont Talybont dros afon Ogwen fe welir cafn dŵr ar ochr chwith y ffordd.   New Picture (5)

 

Adeiladwyd y cafn o garreg galch Sir Fôn, ar anogaeth George Hay Dawkins-Pennant ac agorwyd hwn yn swyddogol ar yr 17/2/1834.

 

 

New Picture (6)Ym mhentref Talybont mae Capel Bethlehem wedi ei restru yn gradd II.  Bu Edward Stephen, (Tanymarian) pregethwr, bardd, darlithydd, llenor a cherddor yn bugeilio yno cyn symud yn weinidog i  Gapel Carmel  Llanllechid yn 1856 ac aros yno hyd at ei farwolaeth yn 1885.

Mae llawer mwy o safleoedd cadwriaethol i’w gweld ar hyd y dyffryn gan gynnwys sawl pont, tair traphont, tri thŷ tafarn (Y Douglas, Victoria, Pen y Brenin) cofeb y milwyr, Tŷ’n y Tŵr- tŷ John Iorc a godwyd tua 1450 – 1500, ffermdy Abercaseg, rhes tai Caerberllan, tri chapel (Jerusalem, Bethesda, Bethania), tair eglwys (Glanogwen, Llanllechid a ‘r Gelli) a sawl fferm, cwt mochyn a phileri llechi megis ar fferm Cochwillan.

New Picture (7) A beth am ddetholion yr annisgwyl a’r unigryw? Oddi allan i Eglwys Llanllechid, gwelir deial haul a naddwyd o lechen las, chwarel Cae Braich y Cafn (Penrhyn) sy’n ddyddiedig i 1795.  A dyma dri enghraifft arall o’r annisgwyl. Yn gyntaf, corn awyru twnnel Llandygái ar Reilffordd Llundain i Gaergybi a adeiladwyd yn 1844. Agorwyd y lein yn 1848, ac fe gymerwyd y lein trosodd gan y London & North Western Railway Co yn 1859. Yn ail, carreg filltir ar ffordd yr A5 o Lundain i Gaergybi,  yn wreiddiol gosodwyd y cerrig yma o un ochr i’r lon i’r llall bob pum milltir. Ac yn olaf, Ciosg Ffon K6 wedi ei wneud i safon cynllun Giles Gilbert Scott. Cyflwynwyd gan y Swyddfa Frenhinol yn 1936. Mae’r enghraifft yma yn dyddio o deyrnasiad Siôr VI  ac mae wedi ei leoli yn sgwâr Llanllechid.

 

 

Nant Ffrancon

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Nant y Benglog a Llyn Ogwen, Llyn Idwal a Chwm a Llyn Clyd

Ymwelodd Charles Darwin (1809-1882) â Chwm Idwal yn 1831 fel myfyriwr o Brifysgol Caergrawnt yn cynorthwyo ei athro, y daearegwr Adam Sedgwick i astudio creigiau Eryri fel y trafodwyd mewn erthygl flaenorol am Gwm Idwal. Yn dilyn ei ymweliad cerddodd ar draws mynyddoedd Eryri gan gychwyn o Nant Ffrancon i Gapel Curig ac ymlaen i Ffestiniog gan orffen yn agos at y Bermo, taith a gymerodd ddeuddydd i’w chyflawni. Astudiodd nifer o greigiau perthnasol ar y daith ac yr oedd yn ymwybodol iawn o dirlun Eryri ond ni ddeallai’r prosesau a’i lluniodd.

Yn union wedi dychwelyd i’w gartref yn yr Amwythig gwahoddwyd ef i ymuno ag ymgyrch ymchwil enwog y Beagle i astudio byd natur ar Ynysoedd y Galápagos oddi ar arfordir Ecwador yn Ne America. Hwyliodd y Beagle ym mis Tachwedd 1831 a Darwin ar ei bwrdd. Erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol yr oeddynt yn archwilio arfordir Tierra del Fuego ac mae’n ysgrifennu: ‘ I was astonished when I first saw a range, only from 3000 to 4000 feet in height…with every valley filled with streams of ice descending to the sea coast. Almost every arm of the sea, which penetrates into the interior higher chain. On the coast for 650 miles northward, is terminated by tremendous and astonishing glaciers’. Mae’n amlwg i’r golygfeydd wneud argraff ddofn arno, yn enwedig pan syrthiai talpiau anferth o rew i’r môr gan greu tonnau peryglus eu maint. Bum mlynedd cyn ei farwolaeth ysgrifennodd Darwin ei hunangofiant ac mae’n cyfeirio at ei brofiad gyda Sedgwick yng Nghwm Idwal gan nodi: ‘We spent many hours in Cwm Idwal, examining all the rocks with great care… but neither of us saw a trace of the wonderful glacial phenomena all around us; we did not notice the plainly scored rocks, the perched boulders, the lateral and terminal moraines.Yet these phenomena are so conspicuous that as I declared ….a house burned down by fire did not tell its story more plainly than did this valley’. Nid Darwin oedd y cyntaf i sefydlu’r ddamcaniaeth fod gan rewlifoedd rymoedd erydu a fyddai’n newid y tirlun yn gyfan gwbl. Gwyddonwyr o’r Swistir a Norwy piau’r clod am hynny er i’w dadleuon dderbyn lawn cymaint o anghred a chroes ymresymu yn ystod yr un cyfnod ag a wnaeth damcaniaethau Darwin am esblygiad a detholiad natur.

Mae mynyddoedd Eryri yn ddrych o holl allu nerthol y rhew i drawsnewid y tirlun. Mae Cwm Idwal yn enghraifft berffaith o gwm a gafniwyd o’r mynydd, a Nant Ffrancon yn ddyffryn a ddyfnhawyd ac a ledwyd gyda rhes o ddyffrynnoedd crog – Cwm Cywion, Cwm Coch, Cwm Bual, Cwm Perfedd, Cwm Graianog a Chwm Ceunant – yn bwydo rhew o ucheldir y gorllewin. Wrth i rew y rhewlif doddi credir bod llynnoedd o ddŵr tawdd wedi gorlifo i greu nodweddion megis Bwlch Molchi a Thwll Pant Hiriol yn yr ardal. Ffenomenon ddiweddar oedd yr Oes yr Iâ hwn yng nghalendr datblygiadau daearegol y byd ac fe ddaeth i’w derfyn mor ddiweddar â deuddeg mil o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad mae’r tirlun rhewlifol yn un ffres ac arwynebol ddigyfnewid. Wrth i’r byd gynhesu yn raddol yn dilyn diflaniad y rhew digwyddodd cyfres o gyfnewidiadau y gellir eu cofnodi o’r cyfnod hwnnw tan y presennol.

Ym Mhrydain mae corsydd a llynnoedd Dyffryn Ogwen wedi chwarae rhan allweddol yn dogfennu’r cyfnewidiadau hyn. Un o ryfeddodau byd natur yw bod paill coed a phlanhigion yn cael eu diogelu mewn amgylchfyd asid, megis mewn corsydd a llynnoedd, gan olygu y gellir rhoddi disgrifiad manwl o ddosbarthiad yr holl lystyfiant a ddatblygodd yn nhrefn eu hymddangosiad ers diflaniad y rhew. Datgelir fod planhigion y twndra oer yn ceisio gwladychu tirlun newydd ei ymddangosiad ar gychwyn y cyfnod Ôl-Rewlifol oddeutu 8,000 o flynyddoedd yn ôl, ac fel y cynhesodd yr hinsawdd fod fforestydd collddail yn gwladychu’r dyffrynnoedd a gweiriau’r gweunydd yn meddiannu’r ucheldir. Yn y colofnau paill a astudiwyd o Gwm Idwal, Nant Ffrancon, ac yn arbennig o Lyn Cororion, gwelir fod fforestydd o goedydd bedw a helyg yn ymddangos gyntaf a choed gwern yn ymsefydlu yn ddiweddarach. Yn Nant Ffrancon coed gwern a helyg sy’n dominyddu ar gyrion y llyn a oedd yn raddol ddiflannu o lawr y dyffryn, a thrwy gydol hanes llysieuol Dyffryn Ogwen mae’r wernen yn cyfrannu yn sylweddol at greu darlun o ddyffryn llaith ac oer. Mae amlder yr enw ar gaeau a sefydliadau’r ardal yn tystio i hynny. Fel y cynhesodd yr hinsawdd fwyfwy mae coedlannau derw yn poblogi’r dyffrynnoedd a rhai coed yn tyfu mor uchel â 600 metr yn ôl tystiolaeth y paill o Gwm Cywion. Uchafbwynt yr amrediad llysieuol yw ymddangosiad y dderwen a choedlannau o goed collddail cymysg sy’n nodweddu llystyfiant Dyffryn Ogwen a Chymru hyd at y cyfnod presennol.

Gwelir sensitifrwydd cofnod y paill gan ei fod yn cofnodi ymyrraeth dyn yn y goedwig. O gyfnod amaethwyr cyntefig y Neolithig gwelir fod y fforestydd tan warchae wrth i baill y coed ddisgyn a phaill dieithr grawn a chwyn a ddeuai o drin y tir ymddangos am y tro cyntaf, nodweddion a ganfyddir yng ngholofnau paill Nant Ffrancon a Chororion. Cofnodir cwymp sylweddol ym mhaill y coed yng nghyfnod y Rhufeiniaid wrth i gaeau amaethyddol ledaenu eu defnydd. Gwelir hyn eto yn y ddeuddegfed ganrif wrth i goed gael eu torri ar raddfa helaeth ar gyfer adeiladu tai a llongau. Yn y ddeuddegfed ganrif dengys cofnod y paill o Lyn Cororion fod cywarch (hemp) yn cael ei dyfu yn eang yn Nyffryn Ogwen, nodwedd sydd eto yn adlewyrchu lleithder delfrydol yr ardal ar gyfer tyfu’r planhigyn hwn. Yn dilyn, credir bod hyn wedi sefydlu diwydiant creu dillad bras eu gwead a oedd ymhlith y pwysicaf yng Nghymru yn y cyfnod. Ategir y cysylltiad gan enwau ar gaeau a welir yn Arolwg y Penrhyn 1768 megis Gardd Gywarch yn ffermydd Coed Howel, Rhos Uchaf a Chilgeraint ym mhlwyf Llandygái.

Rhoddir maddeuant felly am grwydro braidd yn bell i gyrion Tierra del Fuego er mwyn cadarnhau pwysigrwydd cyfraniad Nant Ffrancon i astudiaethau gwyddorau naturiol Cymru a’r byd.

Ffynonellau

Parc Cenedlaethol Eryri/Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad) Taith Darwin trwy Eryri.

Peter Rhind a Barbara Jones. 2003 The Vegetation History of Snowdonia since the Late Glacial Period. Field Studies, 10, t. 539-552.

Christopher Ralling. 1978. The Voyage of Charles Darwin – his autobiographical writings selected and arranged by Christopher Ralling. Cyhoeddiadau y BBC, Llundain.