Bethesda ac aur y Wladfa

Aur y Wladfa
Lleoliad y cloddfeydd aur yn y Wladfa – map drwy ganiatâd Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.

Cychwynnodd yr holl helynt gyda llythyr a anfonwyd at W. J. Parry yn 1892 gan Michael D. Jones, un o sefydlwyr y Wladfa ym Mhatagonia. Ynddo mae’n gofyn am gefnogaeth gan gydwladwyr blaenllaw i ariannu cloddfeydd aur o bwys y canfu Cymry yn Corcovado, Mica, ac yn arbennig yn Tecka, wrth droed yr Andes. Yn ganolog i’r mentrau yr oedd y Capten Richards, yn wreiddiol o Sir Feirionnydd, a honnai fod ganddo gonsesiwn i fwyngloddio’r aur ond bod angen cyfalaf i ddatblygu’r mentrau. Argymhellwyd ar frys y dylid sefydlu sindicet gyda Lloyd George a’i frawd William yn ymgynghorwyr cyfreithiol, a chofrestrwyd y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate yn 1892 gyda swyddfa yn Arundel Street yn Llundain. Arwyddwyd memorandwm y sindicet gan bum Aelod Seneddol yn ogystal ag Edwyn Roberts, brodor o’r Wladfa oedd â chysylltiadau agos â Dyffryn Ogwen, a’r Capten Richards. Penodwyd Lloyd George yn gadeirydd y cyfarwyddwyr. Trosglwyddodd Richards ei hawliau ef ym Mhatagonia, yn ogystal â thystysgrifau gan Lywodraeth Ariannin i’r hawliau hyn, i ofal y sindicet. Y cyfalaf angenrheidiol i ddatblygu’r fenter oedd £10,000 gyda hanner i’w drosglwyddo yn gyfran i Richards a’r hanner arall i’w godi drwy fuddsoddiadau.

W J Parry 1
W. J. Parry yn ŵr ifanc

 

Er cymaint y brwdfrydedd nid oedd yn hawdd ennill buddsoddwyr i’r fenter. Defnyddiodd Lloyd George ei ddylanwad yn Llundain a gofynnwyd i W. J. Parry gasglu cefnogaeth yng Nghymru. Fel gŵr busnes a chyfrifydd parchus yn ei gymdogaeth bu’n eithaf llwyddiannus yn ei dasg, gan dderbyn un o’r buddsoddiadau mwyaf yn y fenter gan fferyllydd o Fethesda, T. J. Hughes, a brynodd 1100 o gyfranddaliadau. Sicrhaodd Lloyd George yntau 1000, William George 600 a Parry 250. Yr oedd cymhellion pur wahanol yn gyrru diddordeb Lloyd George a W. J. Parry yn y fenter. Ennill arian parod mawr oedd nod y ddau – George i’w ddefnyddio i ennill annibyniaeth ariannol rhag dibyniaeth ar ei frawd wrth hyrwyddo ei yrfa boliticaidd; Parry, ar y llaw arall, i’w achub rhag trafferthion ariannol dybryd a oedd yn peryglu ei fywyd proffesiynol. Yr oedd benthyciad o £1000 gan y banc yn dramgwydd parhaol iddo, ac yr oedd ei archeb ffrwydron enillfawr i chwarel y Penrhyn yn y fantol fyth ers i George Sholto, ei elyn mawr, ddilyn ei dad yn berchen ar y stad a’r chwarel. Collodd Parry yr archeb yn barhaol yn 1896 gan ddwysáu ei bryderon ariannol.

O’r cychwyn cyntaf yr oedd yr holl fenter ar dir sigledig, ac yn fuan iawn y sylweddolwyd nad oedd cynlluniau mor bell, bell i ffwrdd o Gymru am lwyddo yn yr Andes. Dechreuodd Richards agor y gloddfa yn Tecka yn Ionawr 1893 ond erbyn mis Gorffennaf yr oedd yr holl gynllun ar chwâl, a’r cloddiwr â’i fryd ar afradu ei waddol ariannol yn hytrach na datblygu’r gwaith aur. Nid Richards oedd yr unig un a geisiai elwa ar y darganfyddiadau wrth i holl ardal yr Andes droi yn ferw gwyllt afreolus a chloddwyr barus yn heidio yno i geisio ennill eu ffortiwn.

Yr oedd yn rhaid ymateb ar unwaith i sefydlogi’r sefyllfa. Yn ffodus yr oedd Edwyn Roberts ar ymweliad â Chymru ar y pryd, yn rhannol i hyrwyddo’r fenter, bur debyg, yn ogystal ag er mwyn ymweld â’i deulu yn Sir Feirionnydd a Bethesda. Wedi trafodaethau brys penderfynodd y sindicet y dylid danfon Parry, gyda Roberts a pheiriannydd mwyngloddio o Ddolgellau, George Williams, yn gymdeithion i ymweld â’r cloddfeydd aur yn yr Andes. Bwriad yr ymweliad, yng ngeiriau Parry, oedd to have Capten Richards taken up for breach of trust in the matter of his money … to see to their business there (sef y sindicet ym Mhatagonia), and to put their business matters straight there’. Trefnwyd fod y tri i deithio ar draws y paith mewn trol a cheffyl ac roedd y daith i gymryd hyd at bedwar mis i’w chwblhau. Amcangyfrifwyd y byddai’r gost yn £300, i gynnwys llogi’r ceffylau a’r wagen; i brynu cyfarpar addas, megis pebyll, arfau a gynnau ac, efallai yn bwysicach oll , one good glass to detect gold, yn ogystal â digon o fwyd, dillad a nwyddau i bara cyfnod y daith. Gwallgofrwydd llwyr oedd trefnu’r fath ymgyrch. Nid llencyn cyhyrog mo Parry bellach ond gŵr hanner cant oed oedd â dwylo meddal ac yn bendant heb brofiad o fyw fel gaucho. Yr oeddynt i gychwyn ar y daith ddiwedd Medi 1893, ond ddeng niwrnod cyn ymadael, ar 17 Medi, bu farw Edwyn Roberts yn gwbl annisgwyl ym Methesda a chafodd ei gladdu ym mynwent eglwys St. Ann.

Rhuthrwyd i newid y trefniadau a phenderfynwyd y byddai Parry ei hun yn gadael Lerpwl am Buenos Aires ar 11 Hydref 11 ar fwrdd yr RMS Britannia. Cyn gadael treuliodd wythnos yn Llundain yn derbyn cyfarwyddyd y Bwrdd Rheoli ac yna ddeuddydd gartref yn Coetmor Hall yng nghwmni Lloyd George ac arbenigwr ar fwyngloddio o’r enw Hoefer. Y gŵr hwn a ddarganfu aur yr Andes yn y lle cyntaf ac yn ddiarwybod i Parry yr oedd wedi cyflwyno adroddiad cudd i Lloyd George yn tanlinellu enbydrwydd y sefyllfa yn y cloddfeydd aur. Yr oedd y fordaith i Buenos Aires yn artaith i Parry. Cofnododd y manylion yn ei ddyddiadur sydd, o’i ddarllen, yn ddrych i’w ansicrwydd. Ynddo mae’n cyfeirio at anlladrwydd y merched ar Ynys St Vincent, yr oedd yn llygad dyst i ymosodiadau terfysgwyr yn Rio de Janeiro, a chofnododd ei artaith o fod mewn cwarantin am ddeg diwrnod ar Ynys Flores cyn cael mynediad i’r Ariannin. I’w ddifyrru cyfansoddai farddoniaeth, y cerddi yn adlewyrchu ei betruster – cerdd ar ‘Merthyrdod Steffan’, cerdd ‘Gostega: Distawa’, cerdd ‘Llef am Noddfa’ a phryddest ar y teitl ‘Ar Hwn yr Edrychaf neu Profiad y Cristion’. Yn gymdeithion i’w ddiddori yr oedd Cofiant John Jones Talysarn a Rhys Lewis gan Daniel Owen.

Cyrhaeddodd Buenos Aires ar 17 Tachwedd gan dreulio’r deg diwrnod cyntaf mewn cwarantin – nid y croeso mwyaf cwrtais i asiant stad Coetmor, Bethesda ar ei ymweliad cyntaf â’r Ariannin. Ar 2 Rhagfyr hwyliodd i Puerto Madryn gan gyrraedd yno ar 12 Rhagfyr wedi mordaith dymhestlog mewn llong eithriadol anghysurus. Yn Nhrelew ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, mewn trafodaeth â Chymro o New York, canfu’r gwirionedd am enbydrwydd y gweithfeydd aur wrth droed yr Andes gryn bum can cilomedr i ffwrdd fel yr ehed y fran. Nododd yn ei ddyddiadur – ‘from all I hear and all advice given today am inclined to return to BA and look after matters there’. Yr oedd pryderon ynghylch y gweithfeydd aur yn wybyddus i ddarllenwyr papur newydd Y Dravod ers amser fel mae’r adroddiad canlynol ym mis Medi 1892 yn ei gyfleu: ‘Tybed nad yw yn bryd cael rhyw drevn a dosbarth ar yr holl hawliau hyn, cyn yr elont yn rhy ddyrys i’w dadrys? Debygid vod hyn o gymaint pwys i’r mwynwyr eu hunain ag ydyw i’r cyhoedd, rhag eu syrthio i amryvusedd ac ymryson yn y man’.

Wedi cyfarfod cyfranddalwyr lleol y fenter am ddiwrnod cyfan penderfynodd Parry –‘after weighing all I have heard I’ve decided to return to night to BA and endeavoyr to save the property’. Felly ar 23 Rhagfyr dychwelodd i Buenos Aires gan dyngu wrth ymadael ‘I feel quite determined this morning that I shall not return to Chubut and the mine but will leave for home on Feb 21 or March 8’. Ar y cyfle cyntaf gadawodd yr Ariannin ar 24 Ionawr 1894 a chyrraedd Plymouth ar 16 Chwefror. Cyn gadael bu’n ymrafael â phroblemau’r sindicet gydag arbenigwyr mwyngloddio a swyddogion llywodraeth yr Ariannin. Cafodd ei anfon o bant i bentan gan awdurdodau nad oedd am gynnig hawliau terfynol i grŵp o ymwelwyr blysiog o Brydain. Ar y fordaith gartref ysgrifennodd adroddiad manwl yn argymell sut i osgoi trychinebau pellach a fyddai’n peryglu dyfodol y sindicet, gan nodi’r diffygion gweinyddol canolog yn Buenos Aires, yr anrhefn llwyr yn y cloddfeydd aur, a diffyg ymddiriedaeth cyfranddalwyr y Wladfa yn y fenter oherwydd dyledion ariannol Richards. Amlinellodd faint a photensial y gweithfeydd aur, er nad oedd wedi ymweld â hwy, a chyflwynodd fantolen ariannol a oedd yn amcangyfrif dyledion y sindicet yn Buenos Aires yn $11,200 ac yn y Wladfa yn $52,636.

Sinigaidd iawn oedd y croeso a dderbyniodd Parry wedi dychwelyd i Lundain. Yr oedd Lloyd George yn gandryll gan ddatgan wrth ei frawd mewn llythyr ar Chwefror 19eg –We have been deep in Patagonian waters today. The prospects so far as the property is concerned, seem to be A1, and I don’t anticipate any difficulties over the Chubutian claim. But WJP has played the fool. He ran away in a panic’. Camgymeriad mwyaf Parry oedd iddo beidio ag ymweld â’r mwyngloddiau yn yr Andes, ond yn dilyn trafodaeth fanwl ar ei adroddiad, ac ar sail ei argymhellion, penderfynwyd y dylai ddychwelyd i’r Ariannin ar fyrder. Derbyniodd y cynnig a derbyniwyd ei delerau, sef yn ei eiriau ef, –‘I was offered to go out if my calls of £75 were paid. I received £500 in fully paid up shares and was paid £50 a month for the full time I was in the service of the Company – £150 to be now paid down and all my outfit and expenses paid’. Gwnaethpwyd trefniant ei fod i ddal y llong Sorota yn Lisbon ar 7 Mawrth ar ôl treulio dau ddiwrnod yn unig yng nghwmni ei deulu ym Methesda. Ychydig a wyddai fod brad i ddilyn, ac yr oedd y ddau Jiwdas, Lloyd George a Hoffer, yno i ffarwelio ag ef wrth iddo ymadael ar y trên o Lundain am Lisbon.

Cyrhaeddodd Buenos Aires ar 25 Mawrth a’i groesawu gan ei fab Samuel a oedd wedi gweithio yn y mwynfeydd gyda Richards ers Ionawr 1893. O ganlyniad gallai dderbyn tystiolaeth llygad dyst ei fab am gyflwr y cloddfeydd. Am y pum mis nesaf ymlafniodd Parry yn ddiwyd ym Muenos Aires i geisio sefydlu buddiannau swyddogol y sindicet a bu’n eithriadol lwyddiannus o ystyried yr holl anawsterau a’i hwynebai. Ei brif nod oedd cofrestru ystatudau cyfreithiol y mwynfeydd, tasg a gwblhaodd ym mis Mawrth ond nas derbyniwyd tan fis Awst oherwydd biwrocratiaeth weinyddol llywodraeth y wlad. Ei ail orchwyl oedd cofrestru consesiynau’r sindicet gydag adran mwynfeydd y Llywodraeth, a llwyddodd i dderbyn y dogfennau priodol ar y diwrnod yr oedd yn gadael yr Ariannin ym mis Awst. Yr oedd ei drydedd dasg yn anos, sef llunio cytundebau derbyniol i gyfranddalwyr yn y Wladfa a Buenos Aires. Llwyddodd yn achos y brifddinas ond nid yn y Wladfa. Yn ystod ei arhosiad datblygodd gylch eang o gyfeillion a chydnabod, yn Gymry ac Archentwyr dylanwadol, i ofyn am eu cyngor. Arhosai mewn gwesty cyfforddus, ond derbyniai hefyd groeso yn nhai rhai o drigolion pwysig y ddinas. Yr oedd ar delerau da gyda phennaeth Adran Mwynfeydd y wlad a throsglwyddwyd iddo wybodaeth a chynlluniau am y cloddfeydd aur yn yr Andes. Mynychai eglwysi o wahanol enwadau crefyddol yn rheolaidd a chai ysbrydoliaeth o fod yn y gwasanaethau. Gwahoddwyd ef i deithio i drefi newydd Mendoza a San Juan a derbyn yno groeso swyddogol gan yr awdurdodau a theithio o amgylch y dalaith mewn steil o dan ofal milwyr arfog y Rhaglaw. Ond yr oedd cymylau duon yn casglu ar y gorwel.

Drwy gydol cyfnod ei arhosiad yn Buenos Aires danfonai Parry adroddiadau manwl o’i weithgareddau yn wythnosol i Lloyd George, ond ni dderbyniai ymateb yn ôl gan gadeirydd y cyfarwyddwyr. Ym mis Mehefin yr oedd ei arian yn dechrau prinhau, ond er egluro ei sefyllfa i’r cyfarwyddwyr, ni dderbyniodd nawdd pellach o Lundain. Hyd at fis Mehefin 1894 cadwai Parry ddyddiadur manwl yn cofnodi ei holl brofiadau ers cychwyn ar ei antur ryfeddol i Dde America, ond yn annisgwyl, ac yntau ar ganol ei ymweliad â San Juan, peidiodd ei gofnodi yn y dyddiadur. O ganlyniad ni chofnododd ei amgylchiadau yn ystod tri mis olaf ei arhosiad yn yr Ariannin, ond gellir barnu o gynnwys rhai o’i lythyrau iddo gael ei drin yn annheilwng iawn gan swyddogion y sindicet yn Llundain. Erbyn mis Medi yr oedd Parry yn dlotyn yn Buenos Aires, ac er iddo egluro ei sefyllfa a thaer erfyn fwy nag unwaith am gynhaliaeth, yr unig orchymyn a dderbyniodd oedd y dylai ddychwelyd adref. Gorfu iddo fenthyca arian gan deulu caredig o’r ddinas i dalu am ei lety a thaliadau personol eraill a bu yn hynod ffodus na chafodd ei garcharu ddwy awr cyn ymuno â’r llong i ddychwelyd adref oherwydd nad oedd wedi talu costau cyfreithiol ystatudau’r mwynfeydd. Wedi cyrraedd gartref canfu fod camau wedi eu cymryd i derfynu gweithgareddau’r sindicet a gorfu iddo ddwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn i geisio ennill y costau a’r cyflog a oedd yn ddyledus iddo yn ôl ei gytundeb. Yn y diwedd derbyniodd £150 ond gwrthodwyd talu y £70 a fenthycodd yn yr Ariannin.

A dyna oedd terfyn trist y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate ac ymwneud W. J. Parry â’r fenter. Nid elwodd ef yn ariannol o’r cwmni, fwy na’r buddsoddwyr eraill ym Methesda, ac yr oedd ei fethiant yn gnoc enbyd i’w hygrededd fel gŵr busnes parchus a hyderus. Ni lwyddodd i dalu ei ddyledion fel yr oedd wedi’i obeithio ag elw o’r sindicet. A beth am Lloyd George? Nid oedd pall ar ei yrfa ef fel gwleidydd, waeth beth oedd methiannau’r sindicet. Ceisiodd adfywio’r cwmni yn 1896 ac yng nghwmni dau aelod seneddol arall trefnodd ymweliad â’r Ariannin. Ni fentrodd yntau chwaith i’r cloddfeydd aur yn yr Andes, ond yn hytrach cafodd y tri buddsoddwr daith am ddim i awyrgylch fwynaidd tref Córdoba yn y mynydd-dir. Ni lwyddwyd i adfywio’r cwmni, ac ar 6 Rhagfyr 1900 terfynwyd yn barhaol ar weithgareddau’r sindicet.

Mae’n bur amlwg fod Parry wedi ei drin yn annheilwng iawn gan swyddogion y sindicet er iddo ymlafnio’n galed a didwyll iawn i gadarnhau dyfodol y cwmni. Ond yn y diwedd aberthwyd ef ar allor uchelgais ddidostur Lloyd George a oedd yn grediniol fod holl fethiannau’r cwmni i’w priodoli i lwfrdra Parry, canlyniad a fynegodd mewn llythyr at ei frawd William – ‘I made Parry pretty ashamed of himself for his childishness in coming back’.

Aur Esquel 1
Llun o graffiti yn gwrthwynebu cloddio yn yr Andes heddiw, gyda diolch i’r Parchedig Tegid Roberts, Caernarfon

Pe bai Parry a George yn dychwelyd i’r Wladfa heddiw byddent yn rhyfeddu o weld y gwrthwynebiad cyhoeddus tanbaid sydd yno i gynlluniau i gloddio aur yr Andes drwy ddefnyddio arian byw (mercury) i’w ennill, ac o ganlyniad y peryglon o wenwyno holl ddyffryn Afon Chubut yn y broses.

Ffynonellau

Jean Lindsay.1997. ’Not Eldorado’: W. J. Parry and the Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate. Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Cyfres newydd, Cyfrol 3. 1997, tt. 136-163.

J. Ll. W. Williams, 2005, W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda; Portread o Gyfrifydd Masnachwr a Hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 66. tt. 137-167.

Advertisements

Stryd y Gynffon

Ffordd Tanrhiw
Ffordd Tanrhiw – Cerdyn post o ddauddegau’r 19g gyda manylion perthnasol gan fforddolyn caredig.  Delwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy garedigrwydd a chaniatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda.

Mae Rhes Tanrhiw yn deras hardd o dai deulawr a adeiladwyd mewn dwy ran yn 1902. Defnyddiwyd cerrig nadd i adeiladu’r rhannau isaf tra oedd y rhannau uchaf o dan orchudd o lechi yn nhraddodiad gorau pensaernïaeth tai Stad y Penrhyn. Cyfeirir at y teras ar dafod leferydd, fel ‘Stryd y Gynffon’ neu ‘Tell Tale Terrace’, oherwydd adeiladwyd y tai ar gyfer lletya teuluoedd chwarelwyr a fynnodd weithio yn ystod Streic Fawr y Penrhyn rhwng 1900 ac 1903. Adeiladwyd nifer o dai ychwanegol yn Nhregarth a chafwyd datblygiadau tebyg, ond llai eu maint, yn Hendyrpeg a Chilgeraint. Cost yr deiladu yn Nhregarth oedd £5,000.

Gallasai’r Arglwydd Penrhyn osod y tai hyn drwy ddibyniaeth lwyr gweithwyr a oedd yn deyrngar iddo. Yr oedd llawer yn ymgeisio am y tai, yn arbennig y rhai a oedd yn cael eu herlid gan eu cymdogion mewn rhannau eraill o’r ardal. Symudodd nifer o weithwyr o Fethesda i fyw i’r tai newydd. Ymgynghorai’r Arglwydd Penrhyn â R.C. Trench, gweinyddwr y stad, ac  Emilius Young, rheolwr y chwarel, yn y dasg anodd o ddewis tenantiaid a oedd yn deyrngar i’r Arglwydd, a defnyddient adroddiadau manwl am ymddygiad pob ymgeisydd. Er enghraifft, yn Ionawr 1903 yr oedd tri chais am denantiaeth tŷ ym Mraichmelyn. Roedd un gan ŵr a oedd yn byw mewn ystafell ddosbarth yn Ysgol Tyn Tŵr ac a oedd wedi gweithio’n ffyddlon er 1901 fel saer maen; yr ail gan ŵr ieuanc afreolus a chwaraeodd ran flaenllaw mewn gwrthdystiadau ac a ddirwywyd yn dilyn gwrthdystiad yn 1900, a’r trydydd gan ffitar 30 oed a oedd angen tŷ ger y chwarel oherwydd gofynion ei waith, ac er iddo weithio yn chwarel Pantdreiniog yn ystod streic 1896/7 ystyrid ef yn weithiwr da er gwaethaf ei hoffter o’r ddiod. Nid nad oedd cywirdeb bob amser yn y manylion a gesglid, megis mewn achos  a ddigwyddodd ym mis Awst 1901 pan dderbyniodd mab Henry Jones, dirprwy lywydd Pwyllgor y Streic, denantiaeth un o dai y Penrhyn yn Nhregarth. Meddai Young wrth adrodd i Penrhyn – ‘must admit a mistake made with reference to Henry Jones’ son …exceedingly sorry any correction should be necessary’.

Problem fawr y dewiswyr oedd gosod tai yn Nhregarth a Mynydd Llandygái lle’r oedd streicwyr yn byw, ac yn arbennig felly mewn amgylchiadau pan oedd amodau’r prydlesau’n trosglwyddo yn ôl i berchnogaeth y Penrhyn. Yr oedd achosion anodd i’w datrys. Yn Llwybr Main ar farwolaeth gwraig oedrannus gwnaethpwyd cais i adnewyddu’r denantiaeth gan ei mab, sef W. H. Williams, is lywydd pwyllgor y streic. Adeiladwyd y tŷ gan ei dad ac yr oedd yntau wedi gwario hyd at £65 yn gwella’r cartref. Derbyniwyd y denantiaeth yn yr achos hwn ond mae’n debyg fod y trafodaethau’n danbaid ar brydiau yn y drafodaeth ynghylch a ddylid di-gartrefu tenantiaid. Gellir mesur maint y broblem yn Llwybr Main pan mai dim ond tri thŷ yn 1901 oedd ym meddiant chwarelwyr a oedd yn mynnu gweithio a gweddill y 26 tŷ yn nhenantiaeth streicwyr. Hwn oedd un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes Dyffryn Ogwen pan ddrylliwyd pob egwyddor a oedd yn angor i gymdeithas gymodlon. Mae Rhes Tanrhiw yn cynrychioli hawl pobol i fyw mewn heddwch a chytgord, ond ni ellid cyflawni hynny gan fod seiliau’r gymdeithas yn gaeth i ofynion teyrn a reolai’r gwaith yn ogystal â marchnad dai yr ardal.

Ffynonellau

R Merfyn Jones. 1981.  The North Wales Quarrymen 1874- 1922. Caerdydd

Jean Lindsay   1987. The Great Strike : A History of the Penrhyn Quarry Dispute of 1900-1903. Newton Abbot.