Chwarel y Foel

Chwarel y Foel uwchben Rachub
Chwarel y Foel uwchben Rachub

Olion Chwarel y Foel sydd heddiw’n tra-arglwyddiaethu’r tirlun uwchlaw pentref Rachub. Hon oedd y gloddfa lechi olaf i’w datblygu yn Nyffryn Ogwen. Perthynai i gynllun unigryw The North Wales Quarries Limted, y cwmni cydweithredol uchelgeisiol a sefydlwyd gan  W. J. Parry yn ystod y Streic Fawr yn 1902. Prif nod y cwmni oedd cynnig gwaith parhaol i chwarelwyr a oedd ar streic yn ystod yr anghydfod. Yr oedd gan y cynllun uchelgeisiol sawl rhan, gan gynnwys gweithio Chwarel Pantdreiniog ym Methesda a chyfuno chwarel newydd y Foel gyda chwarel Tan y Bwlch gerllaw.

Inclein Chwarel y Foel
Inclein Chwarel y Foel
Inclein Chwarel y Foel a Rachub islaw
Inclein Chwarel y Foel a Rachub islaw

Y cynllun yn y Foel oedd ymestyn dwy lefel gynharach o gyfnod canol y ganrif flaenorol, a chloddio yn ddyfnach mewn dau dwll dwfn a ddatblygwyd o’r newydd. Ond wynebai’r datblygwyr un broblem beirianyddol enfawr a phroblem gostus. Oherwydd lleoliad agos y gloddfa i’r pentref islaw yr oedd yn ofynnol codi’r rwbel i’r llethr uwchben. Unwyd y brif lefel â’r inclein hir sy’n graith weladwy uwchlaw’r pentref heddiw. Datblygwyd peiriant stêm i yrru’r inclein ac mae gweddillion cwt y gyrrwr yn aros gerllaw ei phen uchaf ar wastad y tomennydd. Byrhoedlog iawn oedd cyfnod gweithio’r inclein ac mae’r ffaith mai dim ond saith penrhyn bychan o rwbel sy’n perthyn i uned y tomennydd yn adlewyrchu hynny.

Byrhoedlog oedd cyfnod datblygu’r chwarel hefyd. Yn ystod y streic yr oedd arian yn dylifo i ddwylo’r datblygwyr o goffrau Undebau Llafur, cefnogwyr sosialaidd brwd a rhannau o’r wasg Seisnig. Mater arall oedd cynnal y brwdfrydedd egwyddorol hwn wedi i’r anghydfod ddod i ben. Realiti’r sefyllfa oedd fod rhaid gweithio’r chwarel dan amodau cyfalafol a buan iawn y cyffelybwyd Parry i’r Arglwydd Penrhyn fel unben didostur. Daeth y gloddfa i’w diwedd yn 1910 ac yn ddiweddarach yn y ganrif dilëwyd safle’r lefel isaf oherwydd peryglon dŵr yn crynhoi ym mhentref Rachub.

Ponc Chwarel y Foel
Ponc Chwarel y Foel

Ond erys un rhyfeddod. Yng nghanol y chwarel mae caer gyflawn ei chynllun o gyfnod Oes yr Haearn (oddeutu 600-100CC) wedi’i diogelu’n fwriadol neu  efallai ffliwc. Mae’r rhagfur yn gyflawn, y fynedfa yn wynebu’r gogledd, ffos ddofn a rhagfur ychwanegol yn gwarchod y pen deheuol ac olion chwech o gytiau crynion o’i mewn. Tybed a oedd W. J. Parry yn archaeolegwr yn ogystal â bod yn gyfalafwr? Pwy a ŵyr?

Ffynhonnell

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London

Advertisements

Tŷ Dŵr Gerlan

Fel llawer o bentrefi diwydiannol Cymru datblygodd Bethesda yn gyflym iawn yn ystod hanner cyntaf bedwaredd ganrif ar bymtheg i gartrefu’r boblogaeth newydd a oedd yn tyrru i’r ardal i weithio yn Chwarel y Penrhyn. Erbyn 1850 yr oedd canolbwynt y pentref wedi ei sefydlu’n bennaf ar dir stad Cefnfaes gyda strydoedd cyfan o dai wedi eu hadeiladu ym Mrynteg, Tan y Ffordd,  Penygraig, Tŵr, Bryntirion a’r Stryd Fawr a’i chyrion yn Cae Star. Perthynai datblygiadau cyffelyb i’r un cyfnod yn Rachub, Carneddi a Braichmelyn.

Nid drwy gynlluniau pwrpasol yr adeiladwyd nifer o’r datblygiadau hyn, a chan amlaf yr oedd ansawdd yr adeiladau yn wael a chyfleusterau cyffredinol megis dŵr a charthffosiaeth yn absennol o’r ddarpariaeth. Yn dilyn sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol ym Mangor yn 1850 lluniwyd deddf gwelliant ym Methesda yn 1854 er gosod isafswm safonau ar gyfer iechyd cyhoeddus. Mae datblygiadau tai pâr Llwybr Main a Than y Bwlch ym Mynydd Llandygái a Phenybryn ym Methesda yn brawf o’r gwelliannau a oedd i ddilyn.

Datblygiad arall o bwys oedd sefydlu cronfa ddŵr yn 1854 ar lan Afon Caseg yn Nant Graen ger Braichmelyn ar gyfer cyflenwi gofynion dinas Bangor.

Map Johnson o 1855 yn dangos lleoliad gwaith dŵr Nant Graen a llwybr y bibell ddŵr
Map Johnson o 1855 yn dangos lleoliad gwaith dŵr Nant Graen a llwybr y bibell ddŵr, trwy garedigrwydd archifdy Prifysgol Bangor

Cyn hyn yr oedd y sefyllfa ym Mangor yn ddyrys iawn gydag Afon Adda yn cyflenwi dŵr yfed yn ogystal â bod yn bibell garthffosiaeth i ran helaeth o’r dref. Roedd rhan arall yn ddibynnol ar gyflenwad o gronfa ddŵr a sefydlwyd yn 1845 gan ddrepar lleol, Hugh Roberts, ar Gae Ffynnon Ddeiniol (cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SH 575708), ac a wasanaethai gyn lleied ag 20% o boblogaeth y ddinas. Cwmni preifat ‘The Bangor Waterworks Company’, a ailsefydlwyd drwy ddeddf gwlad yn ‘Bangor Water and Gas Company’, a ddatblygodd safle Nant Graen drwy drefniant gyda’r Arglwydd Penrhyn. Yno adeiladwyd cronfa i buro’r dŵr a’i ddanfon drwy bibellau pridd i gronfa gynhaliol ar Fynydd Bangor, a thrwy drefniant cronfa Nant Graen oedd hefyd yn cyflenwi gofynion dŵr Bethesda.

Er cymaint yr ymdrech i wella safonau glendid cyhoeddus yr oedd haint y teiffoid yn ymwelydd achlysurol â Bethesda cyn iddo dorri allan yn ymosodiad ffyrnig a lledu’n gyflym drwy Ddyffryn Ogwen a Bangor ym mis Mai 1882. Buan y sylweddolwyd mai tarddle’r haint oedd tyddyn Llwynrhandir lle’r oedd carthion yn llifo i mewn i afon Llafar uwchlaw cronfa Nant Graen, ac yn ogystal, canfuwyd fod system puro yn y gronfa yn ddiffygiol gan adael i draean y dŵr lifo heb ei buro i’r cyflenwad. Yn ystod cyfnod yr haint defnyddiwyd ystafell yn ysgol Glanogwen fel ysbyty dros dro a bu nifer o farwolaethau yn y pentref, er nad yw nifer y rhai a fu farw yn 1882 yn uwch na’r cyffredin yn ôl tystiolaeth mynwent Eglwys Glanogwen.

Yn 1932 ad-drefnwyd cynllun cyflenwi dŵr Bangor drwy adeiladu cronfa a phurfa newydd ger Tyddyn Du ar Afon Lafar i’r de o Gerlan. Agorwyd y safle ar 11 Gorffennaf 1932 a gosodwyd llechen ysgrifenedig ar dalcen adeilad y Tŷ Dŵr Bach i gofnodi’r digwyddiad. Oddi fewn i’r adeilad mae tabled arall mewn llechen, mwy addurnedig na’i gymar oddi allan, yn cofnodi’r canlynol – ‘Bangor Waterworks established by Hugh Roberts of Bangor AD 1815’, ac mewn arysgrif islaw – ‘Removed from the old Nant Water Works to Bethesda in 1932’. Felly dyma gofnod o gronfa wreiddiol Cae Ffynnon Ddeiniol yn Glanadda, Bangor, ond gyda’r dyddiad anghywir 1815 wedi ei ddynodi yn hytrach na 1845, sef dyddiad cywir sefydlu  gwasanaeth arloesol Hugh Roberts i ddinasyddion Bangor.

Llun - drwy garedigrwydd Amanda a Huw Davies, Tŷ Dŵr, Gerlan,
Llun o’r lechen sy’n cofnodi sefydlu’r gwaith dŵr – drwy garedigrwydd Amanda a Huw Davies, Tŷ Dŵr, Gerlan,

Ffynonellau

Barry, F. W. 1893. Report to the Local Government Board – an extensive outbreak of Enteric Fever ar Bangor and its neighbourhooh. 29 September 1892. MS Gwynedd Health Authority

 

Jones, Peter Ellis. 1976.  The Bangor Local Board of Health 1850-188.3. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 37. 87-133

Jones, Glyn Penrhyn. 1962. Newyn a Haint yng Nghymru. Caernarfon