Y Fargen

Dyma erthygl gan un o’n cyfranwyr gwadd, Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Llechi Cymru

Bargen : “Yr Hen Drefn”, a’r “Drefn Newydd”, yn Chwarel y Penrhyn

 Mae’n siŵr mai un o’r geiriau sydd yn dod i feddwl wrth drafod hanes ein chwareli llechi yng Ngwynedd ydi “bargen”. Ond – beth yn union oedd “bargen” yn ei olygu?  Mae Dr Dafydd Gwyn, yn ei gyfrol ardderchog Llechi Cymru – Archaeoleg a Hanes yn egluro ei fod yn disgrifio tri pheth. Yn gyntaf, y cytundeb ei hunan, rhwng perchennog y graig (neu efallai ei gynrychiolydd) a’r gweithwyr. Yn ail, y criw o ddynion a gontractiwyd. Fel arfer, byddai rhwng pedwar ac wyth ohonynt, efallai yn deulu neu yn grŵp o ffrindiau. Byddai rhai yn gweithio “yn y twll”, yn greigwyr ar wyneb y graig, tra byddai’r gweddill yn gweithio “ar y lan”, yn un o’r gwaliau neu yn y siediau, yn prosesu’r llechi. Yn drydydd, byddai “bargen” yn golygu’r rhan o’r chwarel lle’r oeddynt yn gweithio. Byddai hwn yn wyneb o graig, chwellath ( tua 6 metr) o led, ar un o’r ponciau.

Creigiwr
Creigiwr

Roedd y drefn yma yn weithredol yn y rhan fwyaf o chwareli llechi Gwynedd ers tua diwedd y ddeunawfed ganrif. O’i defnyddio a’i gweithredu’n deg, gallai roi incwm cyson i’r criw o ddynion, ac elw priodol i berchennog y chwarel. Mae Ernest Roberts, yn Bargen Bywyd Fy Nhaid, yn cyfeirio at y cyfnod rhwng 1874 a 1884 fel “cyfnod euraid” Bethesda, gan briodoli hynny i gyflogau da, ac amodau gwaith rhesymol. Roedd yr amodau yma yn rhan o’r hyn a alwyd yn “Hen Drefn” yn Chwarel y Penrhyn, a’i ganlyniad oedd bod yna gysylltiad amlwg rhwng y creigwyr ar y naill law, a’r rhai oedd yn hollti a naddu yn y gwaliau ar y llaw arall. Yn syml iawn, byddai’r rhai fyddai’n gweithio’u bargeinion dan yr Hen Drefn yn gofalu eu bod yn cynhyrchu digon ar gyfer eu “setlo mawr” pob pedair wythnos, efo’r pres yn cael ei rannu rhwng y criw. Ond, rhaid sylweddoli nad oedd yr “Hen Drefn”, a threfniant y fargen, yn briodol ar gyfer pob un fyddai’n gweithio yn y chwarel. Nid oedd y  labrwyr, neu’r gyrwyr injans stêm, na’r gofaint chwaith, yn rhan o’r drefn, a byddai eu cyflogau hwy’n cael eu talu ar sail ddyddiol – dim “setlo mawr” ar eu cyfer nhw, felly.

Roedd yna anfanteision amlwg yn perthyn i’r  “Hen Drefn”, hefyd. Roedd yna honiadau cyson fod rhai o’r stiwardiaid fyddai yn gyfrifol am weinyddu’r cytundeb bargeinio yn llwgr, ac yn ffafrio criwiau fyddai’n cynnig arian iddynt. O tua 1884 ymlaen, hefyd roedd yna dueddiad i osod nifer o fargeinion yn Chwarel Penrhyn i “gontractwyr”, fyddai yn cymryd y pres “setlo mawr”, ac yna’n ei ddosbarthu i’r criwiau bargen – ar ôl cadw cyfran eu hunain. Gallai hyn arwain at densiynau enfawr, ac roedd yn un o’r ffactorau arweiniodd at y Streic Fawr yn 1900.

Gwaliau Red Lion
Gwaliau Red Lion

Ar y llaw arall, hefyd, o safbwynt y stiwardiaid a pherchnogion y Chwarel, roedd yna anfanteision. Sylweddolwyd fod gan nifer o fargeinion ( y rhan o’r chwarel) y gallu i gynhyrchu llawer mwy na’r hyn oedd mewn gwirionedd yn cael ei gynhyrchu rhwng un setlo mawr, a’r nesaf. Ar ben hynny, hefyd, roedd Chwarel y Penrhyn wedi datblygu’n gyflym mewn rhai ffyrdd penodol ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Dyma’r cyfnod ble y cychwynnwyd adeiladu’r melinau, neu’r siediau ; erbyn cwblhau’r broses yma, byddai un ar ddeg sied ar Bonc Red Lion, a thair arall ar Bonc Ffridd. Roedd cyfnod y gwaliau yn dod i ben, gyda’r siediau enfawr, efo’u byrddau llifio a’u injans naddu wedi eu gyrru gan fotors trydan (o Gwm Dyli) yn cymryd eu lle. Golygai hyn fuddsoddiad cyfalaf enfawr, felly – ac roedd rhaid sicrhau cyflenwad cyson o glytiau llechfaen ar eu cyfer, gyda’r clytiau yn cael eu llifio’n gyson cyn eu trosglwyddo i ddwylo’r holltwr a’r naddwr. Dyma, felly, yr amgylchiadau a roddodd enedigaeth i’r “Drefn Newydd” yn Chwarel y Penrhyn.

Cychwynnodd fy niweddar dad, William John Roberts, weithio yn Chwarel Penrhyn yn 1920, yn fachgen 14 oed. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am gofnodi yn fanwl ei atgofion o weithio yno; fel mae’n nodi, bu’n dyst i ddiwedd cyfnod yr “Hen Drefn”, ac i gyflwyniad araf y “Drefn Newydd”. O dan y drefn honno, nid oedd cysylltiad rhwng y creigwyr “yn y twll”, a’r holltwyr a’r naddwyr “ar y lan”. Wedi i’r crawiau gael eu llwytho ar y slediau ar y ponciau, a’u tywys at y tanciau dŵr neu’r gelltydd ar gyfer eu taith i Bonc Red Lion neu Ponc Ffridd, fyddai gan y creigwyr dim diddordeb o gwbl yn eu ffawd. Bellach, roedd eu cyflogau’n dibynnu yn llwyr ar faint o dunelli o grawiau fyddai’n cael eu danfon o’r fargen ar wyneb y graig. Ble gynt y byddai un slediad y diwrnod o bosib yn ddigon ar gyfer gweddill y criw, bellach danfonid hyd at bump slediad y diwrnod. Caent eu talu ar sail “poundage” ar gyfer pob tunnell a ddanfonid, gyda’r stiward gosod yn trafod a phenderfynu ar y swm hwnnw. Yn aml, byddai’n aros yn debyg o un cyfnod pedair wythnos, i’r nesaf. “’Run fan, a ‘run fath” fyddai’r dyfarniad!

sied hollti
Sied hollti

Yn ddefnyddiol iawn, mae fy nhad yn nodi symiau penodol. Mewn bargen sâl, rhwng 1930 a 1940, byddai hyn yn 20 ceiniog y dunnell ar gyfer crawiau da, a 5 ceiniog y dunnell ar gyfer gwastraff neu rwbel. Mewn bargen dda, gallai’r taliadau cyfatebol fod tua 65 ceiniog a 7 ceiniog. Roedd yr amrywiaeth yma yn caniatáu i greigwyr ennill cyflog teg, ond hefyd yn rhoi cymhelliad iddynt glirio bargeinion salach, gan obeithio dod at lechfaen rhywiog. Ond nid oedd pawb, o bell ffordd, yn hapus efo’r Drefn Newydd. Mae’n debyg fod rhai teuluoedd a criwiau, wrth weithio o dan yr Hen Drefn, wedi ystyried eu bargen (eu rhan o’r chwarel) fel eu heiddo personol, gan ei feithrin a’i weithio yn ofalus (“fel dresal”) dros gyfnod o flynyddoedd, a chynhyrchu digon i ildio cyflog i’w criw nhw. Bellach, roedd hynny wedi dod i ben. “Pawb drosto ei hun, a Duw dros bawb” oedd yr egwyddor newydd!

hollti
Hollti

O ran yr holltwyr a’r naddwyr yn y siediau, hefyd, roedd popeth wedi newid. Golygai’r Drefn Newydd eu bod hwythau yn cael eu talu ar sail eu cynnyrch o lechi to, efo’r marciwr yn ymweld yn rheolaidd er mwyn cofnodi eu cynnyrch. Felly, roedd o fantais iddynt gadw ati drwy’r dydd, yn llifio ar y byrddau,  yn  hollti gyda llaw, ac yna’n naddu gan ddefnyddio injan dradlio neu injan droi. Dyma ddechrau y broses o golli’r grefft o naddu llechi efo llaw, gan ddefnyddio trafal, cyllath fach, a phric mesur. Hefyd, doedd dim angen bellach i fynd “i’r twll” i helpu eu cydweithwyr i greigio – felly llai o gyfle i grwydro a chymdeithasu, ond hefyd llai o gyfle i ddianc o’r amgylchiadau llychlyd, swnllyd, yn y siediau. Dyma’r cyfnod pan ddaeth clefyd silicosis yn broblem enfawr……

Felly, i grynhoi, dan y Drefn Newydd, roedd trefniadau traddodiadol y fargen, fel y caent eu gweithredu dan yr Hen Drefn, wedi dod i ben, i raddau helaeth iawn. Roedd yna rhyw elfen o fargeinio’n parhau ar gyfer creigwyr, ond mewn gwirionedd nid oedd y creigwyr mewn sefyllfa i fargeinio yn yr un ffordd ag y bu eu tadau a’u teidiau. Aeth chwareli eraill drwy’r un broses, rhai’n llawer hwyrach na Chwarel y Penrhyn. Mae’n bosib gweld y newid fel cam arall yn y broses o fecaneiddio, gan golli rhyw elfen bychan o annibyniaeth oedd wedi goroesi o ddyddiau cynnar y diwydiant llechi. Cam arall, hefyd, yn y broses o greu gweithlu, ac o sicrhau bod asedau busnes yn cael eu defnyddio hyd at eu heithaf. Rwy’n credu, hefyd, fod y newid wedi arwain at gamau pellach ers hynny, yn y broses o geisio dyfeisio trefn talu sydd yn deg o ran gweithiwr a pherchennog, sydd yn adlewyrchu natur amrywiol daeareg llechfaen, ac hefyd yr angen i gymell gweithwyr i sicrhau’r gwerth gorau o’r graig sydd yn cael ei thrin ganddynt. Ar hyn o bryd, mae Chwarel y Penrhyn yn gweithredu trefn (ar gyfer holltwyr) ble mae pwysau’r clytiau sydd yn cael eu cyflenwi iddynt yn cael eu cofnodi; yna pwysau’r  hyn sydd yn cael ei wastraffu (oherwydd nad oes modd ei hollti) yn cael ei dynnu allan o’r cyfanswm gwreiddiol; ac yna wedyn y cyfanswm o lechi gorffenedig yn cael ei nodi. Os bydd hyn yn uwch na rhyw bwynt penodol, yna bydd swm ychwanegol (“bonus”) yn cael ei dalu i’r holltwr. Byddwn wrth fy modd yn clywed barn fy nhad, a sawl un arall hefyd, am y drefn yma!

Dafydd Roberts

Darllen pellach :

David Gwyn, Llechi Cymru – Archaeoleg a Hanes(Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2015)

Ernest Roberts, Bargen Bywyd fy Nhaid ( Llyfrau’r Dryw, 1963)