Llwybrau Coed y Parc

 

Llyn Meurig 1768 a
Coedyparc yn 1768.  Manylun o Fap Arolwg y Penrhyn 1768 gan George Leigh. Drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. Ar y map noder y llwybrau yn llinellau cul mewn lliw du gan gychwyn ym Mhont Sarnau ar y tro mawr yn Afon Ogwen (Y Clwb Rygbi bellach) cyn hollti yn ddau fel y disgrifir isod.

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd rhwydwaith ffyrdd Dyffryn Ogwen wedi ei seilio ar nifer o lwybrau cul a oedd yn rhedeg o lan y Fenai i fewndir y dyffryn ar drywydd gogledd i’r de fwy neu lai. Yn y ganrif ganlynol addaswyd y llwybrau hyn yn ffyrdd lleol cyntaf yr ardal cyn i ofynion diwydiannol a chynlluniau cyrff allanol megis y Tyrpeg a Llywodraeth Prydain newid y gyfundrefn drwy adeiladu ffyrdd ‘cenedlaethol’ drwy’r dyffryn.  Ym mhlwyf Llanllechid troswyd llwybrau cyntefig y Lôn Goed a’r Allt Goch yn ffyrdd cul y presennol, ac ym mhlwyf Llandygái y llwybr o Fangor drwy Landygái oedd y cynsail i Richard Pennant gynllunio Ffordd y Lord i wasanaethu Chwarel Cae Braich y Cafn yn 1800. Ond cyn bod chwarel yr oedd yno hefyd hen gymuned yn byw ac yn amaethu mewn nifer o dyddynnod a ffermydd bychan yn ardal Cilgeraint, Coed y Parc a Llyn Meurig, ac mae lle i gredu y gallasai cynseiliau’r gymdeithas hon ymestyn yn ôl i’r Canol Oesoedd cynnar ym Mryn y Byrddau. Yno hefyd ym Mhont y Tŵr yr oedd un o groesfannau pwysicaf yr ardal dros yr Afon Ogwen ac fe ellir cysylltu hynafiaeth y groesfan hon â thywysogion Gwynedd yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oes rhyfedd felly fod patrwm arbennig o lwybrau yn gwasanaethu’r ardal hynafol hon, ac mae Arolwg y Penrhyn yn 1768 yn ddrych i’w datblygiad a’u cyfeiriad.

Pan gynlluniodd Richard Pennant Ffordd y Lord, ei brif fwriad, fel y nodwyd eisoes, oedd gwasanaethu’r chwarel, a thrwy wneud hynny newidiodd rannau o’r hen gyfundrefn o lwybrau a fodolai yno cynt. Cynlluniodd Ffordd y Lord i arwain yn syth o Danysgrafell i’r Felin Fawr ac yno i wahanu’n ddau – un llwybr yn rhedeg drwy safle’r chwarel i ymestyn ymhellach hyd at Nant Ffrancon, y Benglog nes cyrraedd Capel Curig; yr ail, i gysylltu â Phont y Tŵr yn uniongyrchol, sef llwybr presennol y ffordd a chyn hynny yn gynsail i’r Ffordd Dyrpeg. Ond beth oedd cynllun y llwybrau a fodolai yno gyntaf?

Tanysgrafell oedd man cychwyn y llwybrau hyn. Yno yr oedd y prif lwybr o’r Dinas a Hen Dyrpeg yn dilyn ymyl Dôl Fawr Tŷ’n Clwt gan wyro y tu isaf i’r ffermdy ac anelu yn uniongyrchol i lan yr Afon Ogwen ger Pont Sarnau, a hynny ymhell cyn bod y bont fodern bresennol mewn bodolaeth, gan ddilyn ceulan afon Ogwen hyd nes croesi ceg afon Galedffrwd ar bompren. Yno yr oedd y llwybr yn hollti yn ddau. Arweiniai llwybr y gorllewin i fyny’r llethr yn gyfochrog â dyffryn afon Galedffrwd hyd at safle yn agos at geg y llwybr i Bryn Derwen Bach; oddi yno rhedai ei llwybr yn unionsyth i gyfeiriad Pont y Tŵr gan sefydlu trywydd Ffordd y Lord a’r ffordd bresennol drwy Grisiau Cochion i gyrraedd y bont.

Arweiniai ail fforch y llwybr o’r bompren drwy goedwig drwchus y Coed gan gadw yn weddol agos at lan afon Ogwen i gyrraedd, fwy neu lai, at safle’r llwybr i Bryn Derwen Bach sydd ym Mharc Meurig; oddi yno rhedai drwy’r parc gan ddilyn yn fras y llwybr troed presennol o Bont yr Inn sy’n dilyn ceulan yr afon cyn ymuno â’r llwybr cyntaf gerllaw’r ffrwd sydd yn tarddu o lyn diflanedig Llyn Meurig ychydig fetrau o geg y fynedfa i Fryn Meurig.

Yr oedd ardal Pont Tŵr a Bryn Llwyd yn fan cyfarfod nifer o lwybrau – y llwybr o’r gogledd a ddisgrifiwyd uchod,  llwybr yn croesi’r bont i’r dwyrain i gysylltu â rhwydwaith Llanllechid; llwybr yn arwain i’r de a Nant Ffrancon, sef cynsail i estyniad pellach Ffordd y Lord, a llwybrau a fyddai’n cysylltu â chomin mawr Cae Braich y Cafn i’r dwyrain, lle’r oedd egin y chwarel eto i’w datblygu, ond a oedd ar ddyddiad y map yn 1768 yn nwylo nifer o gloddwyr annibynnol. Mae llwybrau ardal Bryn Llwyd oll wedi eu cuddio gan ymlediad chwarel fawr y Penrhyn.

image3 (1)
Rhan o’r llwybr gwreiddiol sy’n arwain o Danysgrafell i gyferiad Pont Sarnau. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Beca Roberts, Bethesda.

Wrth geisio cerdded y clytwaith sy’n aros o lwybrau cynnar ardal Coed y Parc erys nifer o fannau sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r llwybrau – Tanysgrafell, ceg Afon Galedffrwd, Bryn Derwen Bach, Parc Meurig, yr afonig o Lyn Meurig, Pont y Tŵr ac ardal Bryn Llwyd. Dim ond yn yr ardal olaf y drylliwyd y patrwm gan y chwarel, ond mae’n rhyfeddol faint o’r llwybr cynnar a ddefnyddiwyd i gynllunio’r rhwydwaith presennol. Ond dim ond mewn un ardal y gellir cerdded a theimlo awel o anadl ein cyndeidiau wrth stelcian, a hwn yw’r rhan sy’n cyfeirio’r llwybr gwreiddiol o’r bwlch mawr yn y graig uwchlaw Tanysgrafell Isaf i lan Afon Ogwen a cheg yr Afon Galedffrwd. Yno mae rhin y gorffennol yn ‘aros fel hen win’.

Ysgol y Cefnfaes

llun efo'r chwarel
Ysgol y Cefnfaes yn fuan wedi agor yr adeilad yn 1907. > Hanes DO 2, Cefnfaes a Pantdreiniog

Agorwyd ysgol Ganolraddol y Cefnfaes yn 1907 wedi i ysgol Frutanaidd Tan Capel gael ei chau yn seler capel Bethesda. Chwalwyd rhesi tai’r Tŵr i wneud lle i’r adeilad newydd a oedd yng nghanol y pentref a thafliad carreg o’r stryd fawr. Cynlluniwyd yr adeilad ar ddau lawr i gynnwys neuadd ganolog a saith ystafell ddosbarth ar y llawr cyntaf; a labordy, ystafell gwaith coed a thair ystafell ar gyfer ymarferion domestig ar y llawr isaf. Yn wahanol i weddill ysgolion canolraddol y sir neilltuwyd rhan o’r ysgol fel adran i’r babanod, tra bo pum dosbarth ar gyfer plant yr adran ganolraddol. Yn ôl adroddiad Arolygwyr ei Mawrhydi o gyfnod cychwynnol yr ysgol nid oedd y disgwyliadau academaidd yn uchel. Meddent mewn cymal sy’n swnio mor nawddoglyd heddiw ag yr oedd bryd hynny – ‘the majority of the boys become quarrymen, while the girls generally do housework, either at home or in service, when they have left school. A small number of both sexes find employment in offices or as shop assistants’. Wrth gwrs yr oedd ysgol ramadeg gerllaw, a bwriad yr academi uchelaidd honedig hon oedd addysgu cenedlaethau o blant i ‘wella eu byd’ drwy ateb gofynion bröydd y tu allan i Ddyffryn Ogwen.Er cymaint dirmyg yr Arolygwyr breintiwyd ysgol y Cefnfaes â nifer o athrawon a phrifathrawon goleuedig iawn a lwyddodd i gyflwyno addysg lawnach na’r gofyn i genedlaethau o blant a thrwy hynny ddenu sylw cenedlaethol i’w camp.

Twr cefnfaes 1905
Safle wedi ei ddynodi mewn melyn yn y Twr ar gyfer adeiladu Ysgol y Cefnfaes yn 1905 > Llais Og photos Twr 1905

Y prifathro mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig ei weledigaeth a sefydlodd amcanion nodedig yr ysgol oedd J. J. Williams (1884-1950), a benodwyd yn 1915 yn ystod cyfnod anodd y Rhyfel Byd cyntaf. Ei nod fel prifathro oedd gofalu fod canonau’r cwricwlwm disgwyliedig wedi eu sefydlu, ond fod y plant hefyd yn gwerthfawrogi pob agwedd ar ddiwylliant drwy eu hymwybyddiaeth o wyddoniaeth, gwleidyddiaeth, yr amgylchfyd a’r celfyddydau. Y nod felly oedd creu personoliaethau cyflawn y byddai eu cyfraniad i’w cymdeithas, o ganlyniad, yn llawer mwy cytbwys. Ef oedd y cyntaf i sylweddoli pwysigrwydd y Gymraeg fel cyfrwng dysgu gan ddefnyddio’r iaith i gyfoethogi profiadau’r disgyblion. Addysg, drama, cerddoriaeth, celfyddyd, gwleidyddiaeth, pêl droed; yr oedd gan J. J. Williams wybodaeth drylwyr am bob un o’r meysydd hyn a’r gallu i rannu ac ysbrydoli ohonynt drwy ymgom a dadl. Dyn coeth a diwylliedig, cyfeillgar a chywir oedd efe, a’i farn bendant, hyd at fod yn bedant ar brydiau, yn codi gwrychyn ond yn creu awydd i ddarllen, i ymchwilio ac i wybod mwy. Gan ei fod yn ŵr mor ddiddorol meddai ar y ddawn o gasglu llu o gyfeillion i’w ganlyn. Yn 1923 cwblhaodd draethawd MA. yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Lerpwl.

 

Foster a JJWms,Allt Penbryn
J. J. Williams (chwith) ac Idris Foster ar Allt Penybryn

Cysylltiad J. J. Williams â’r adran hon arweiniodd at ddod â’r Athro J. Glyn Davies i sylw’r ysgol, a’i gyfraniad nodedig ef i’r ysgol oedd cyfansoddi caneuon Cerddi Huw Puw yn 1923 i’w canu gan gôr yr ysgol. Yn ei gyflwyniad i’r gyfrol ysgrifennodd J. Glyn Davies  – ‘This collection of songs began some years ago, as experiments on my own children…My old pupil, Miss Jennie Thomas, pounced down on half a dozen of these experiments, and badgered me into writing the rest for the Cefnfaes Central School. Mr J. J. Williams, the head master, another old pupil of mine, and Miss  Annie Davies… took up the songs, and tried each new experiment in turn on the children, who seemed to wolf them. The simple fact is that there was a vacuum, ready to suck in anything near the mark, so long that it was not unfamiliar Welsh, and not oppresive literary’. Dyna ei gyflwyniad a chyflwyniad hefyd i athrawes nodedig arall yn hanes yr ysgol ac yn hanes addysg Cymru yn gyffredinol, sef Jennie Thomas.

Ym Medi 1921 y daeth Jennie Thomas gyntaf i Fethesda yn brifathrawes adran y babanod yn yr ysgol. Mae’n debyg fod ei dyfodiad wedi creu peth siarad yng nghoridorau dysg Sir Gaernarfon ar y pryd. Roedd llawer yn teimlo’n chwithig fod merch ieuanc ddibrofiad, dair ar hugain oed, o’r tu allan i Fethesda, a thu allan i Gymru o ran hynny, wedi ei dyrchafu i swydd yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw’r sir. Ar ben hynny siaradai’n awdurdodol hyderus mewn Cymraeg oedd â thipyn o lediaith iddi. Dyma ‘city slicker’ go iawn mewn pentref pur fewnblyg. Hyfdra anturus prifathro gyda gweledigaeth oedd yn gyfrifol am ei phenodi gyda chymeradwyaeth ysgubol J. Glyn Davies. Ymdaflodd Jennie Thomas i’w swydd newydd gydag egni a gweledigaeth. O fewn dwy flynedd o gyrraedd cwblhaodd ei thraethawd MA gan sefydlu ei hun yn awdurdod ar broblemau addysg ddwyieithog. Yn ei swydd sylweddolodd fod prinder deunyddiau darllen graddedig ar gyfer plant o bob oed yn y Gymraeg ac aeth ati i lenwi’r bwlch drwy ysgrifennu ar gyfer plant. Cymhelliad proffesiynol oedd ganddi, felly, i ysgrifennu ac eiddo hi y weledigaeth fod angen llyfr swmpus ar gyfer darllenwyr ifanc, a hwnnw, pe bai modd wedi ei raddio’n ofalus ar gyfer darllen plant o bob oed a gallu, a hynny mewn Cymraeg graenus ond nid yn rhy lenyddol annealladwy. Dyna’r weledigaeth a arweiniodd at ysgrifennu Llyfr Mawr y Plant a gyhoeddwyd gyntaf yn 1931. A dyna gyflwyno un arall o gyfeillion mawr J. J. Williams, J Glyn Davies a Jennie Thomas sef J. O. Williams, cydawdur cyfrolau’r Llyfr Mawr ac un arall o’r criw llengar a ddatblygodd ym Methesda drwy ddylanwad a chyfeillgarwch y prifathro.

Erbyn 1931 yr oedd Jennie Thomas a J. J. Williams wedi gadael ysgol y Cefnfaes, ef i swydd yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg Penbedw, a hithau yn drefnydd addysg gynradd Sir Gaernarfon ac yn ddiweddarach yn drefnydd iaith ysgolion cynradd y sir. Olynwyd J. J. Williams gan R. E. Hughes fel prifathro ysgol y Cefnfaes, apwyntiad arall dylanwadol o addysgwr ysbrydoledig a roddodd ei stamp ar orchestion ei ddisgyblion a statws arbennig i’r Gymraeg yng ngweinyddiad yr ysgol. Cynhaliodd ynteu hefyd gysylltiad agos gyda J. Glyn Davies a ffrwyth eu cydweithrediad oedd cyhoeddi Cerddi Robin Goch yn 1934 a gyflwynwyd unwaith yn rhagor i‘r ‘famous Cefnfaes children’s choir’ i ddefnyddio ei eiriau ef yn ei ragymadrodd i’r gyfrol.

Er cymaint llwyddiannau J. J. Williams yn arbrofi a thorri tir newydd fel prifathro ysgol y Cefnfaes , eto wrth adael ei swydd yn 1930 yr oedd yn ddigon diymhongar i gofnodi ‘…excellent as many of our results have been, that the Central Schools, as at present constituted, are not the general solution of the Education problem in a neighbourhood like Bethesda’.

Ffynonellau

J. Glyn Davies. 1923. Cerddi Huw Puw. Lerpwl

J. Glyn Davies. 1934. Cerddi Robin Goch. Lerpwl

Elwyn Hughes. 2007. Canmlwyddiant Ysgol y Cefnfaes, Bethesda. Llangefni

J. Ll. W. Williams. 1991. Daear Siôn Blewyn Coch. Taliesin, 72, (Gaeaf/Gwanwyn), 21-39.