Tollty Hendyrpeg

Junction hendyrpeg
Cynllun Charles Spooner o Hendyrpeg yn 1873. Manylyn o Fapiau Penrhyn PFA/6/327, drwy garedigrwydd a chaniatâd  Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bang

Mae’n anodd i ni fforddolion prysur yr unfed ganrif ar hugain ddeall pa mor anodd oedd i drafnidiaeth ddefnyddio croesfan gymhleth Hendyrpeg cyn i’r holl safle gael ei gweddnewid i’w chyflwr presennol. Yno, mewn safle eithriadol gywasgedig, yr oedd yr hen ffordd dyrpeg yn cyfarfod â rheilffordd y chwarel ar groesffordd â phum mynedfa gul, gyda thyrpeg helaeth ei faint a gatiau croesfan y rheilffordd yn rhwystrau ychwanegol. Mae’n ofynnol ceisio dehongli cymhlethdod y safle.

Cyn 1768 yr oedd y llwybr o Benygroes i Goed y Parc yn dilyn llinell uniongyrchol, a hwn a ddefnyddiwyd gan Wyatt yn gynsail i Ffordd y Lord yn 1788. Adeiladwyd Pont Coetmor hefyd yn 1788 gan hwyluso’r defnydd o hen lwybr traws gwlad  a redai o Lanllechid i Chwarel Goch a Sling a thrwodd i Bentir. Felly, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif yr oedd croesffordd bur bwysig â phedwar mynediad yn rhan o broto-gynllun  trafnidiaeth y rhan hwn o Ddyffryn Ogwen.  Yn 1802 roddwyd pwysigrwydd ychwanegol i safle’r groesffordd pan ailgyfeiriwyd y Ffordd Dyrpeg o Bentrefoelas i Landygái i redeg drwy Ddyffryn Ogwen yn hytrach na thrwy Lanrwst a Chonwy. Cynlluniwyd y ffordd newydd i ddilyn ystlys ddwyreiniol Nant Ffrancon ond o Bont y Tŵr i Hendyrpeg defnyddiai lwybr Ffordd y Lord a gynlluniwyd gan Wyatt. O safle’r groesffordd i gyrraedd hyd at Dinas cynlluniwyd cymal newydd i’r ffordd dyrpeg drwy Goed y Ddinas i ddilyn uwchlaw gagendor cyfyng ceunant yr Afon Ogwen hyd nes cyrraedd at Dyddyn Dicwm. Canlyniad hyn oedd cymhlethu safle’r groesffordd i gynnwys pum mynediad yn hytrach na’r pedwar gwreiddiol.

Tolldy Hendyrpeg
Croesfan Hendyrpeg yn dangos y ffordd a tho’r tollty. Llun o gasgliad Alaw Jones, Parc Moch drwy garedigrwydd a chaniatâd

Ar groesffordd mor bwysig adeiladwyd y tyrpeg a rydd ei enw i’r llecyn hwn heddiw. Yr oedd cynllun y tyrpeg yn bur wahanol i gynlluniau’r tyrpegau unffurf sy’n nodweddu ffordd bost ddiweddarach Telford drwy’r dyffryn. Adeilad un llawr gyda chorn simdde canolog ydoedd gyda’r prif ddrws yn agor ar  yr ochr a wynebai’r de. Gan mai tyrpeg ar groesffordd gymhleth ydoedd casglai arian ar fwy nag un ochr. Felly o graffu ar gynllun Spooner o’r adeilad ymddengys fod y bythau casglu a wynebai’r ffordd dyrpeg ar ymyl y dwyrain ar ffurf croes, tra oedd un bwth estynedig ar ochr y gorllewin yn wynebu hen lwybr Ffordd y Lord i Benygroes a Cherrig Llwydion.

Yn cyd-ddigwydd â gyda datblygiad y ffordd dyrpeg yr oedd Richard Pennant yn adeiladu ei dramffordd ceffylau yn 1801 i wasanaethu ei chwarel ym Mraich y Cafn. A dyna ychwanegu cymhlethdod pellach i safle’r groesffordd yn Hendyrpeg. Cynlluniodd y dramffordd i redeg drwy’r groesffordd, ei llwybr i ddilyn yn gyfochrog â’r Ffordd Dyrpeg drwy’r gofod cyfyng yng Nghoed y Dinas, ac adeiladwyd tyrrau uchel o ben llechi i gynnal y dramffordd uwchlaw’r ffordd dyrpeg. Erbyn 1820 yr oedd y ffordd dyrpeg a’r tollty wedi colli eu pwysigrwydd wedi i ffordd bost newydd Telford drwy ymyl gorllewinol Dyffryn Ogwen amharu ar eu defnyddioldeb. Aethpwyd â chlwydi’r tollty i gyflawni gofynion y tyrpegau newydd ar y ffordd bost. Ond er gwaetha’r holl gyfnewidiadau ni ddinistriwyd adeilad y tollty ac ni ledwyd y fynedfa gul drwy borth y gatiau yn Hendyrpeg ychwaith. Daeth cymhlethdod pellach yn 1875 pan droswyd y dramffordd ceffylau yn rheilffordd ar gyfer trenau stêm, a bryd hynny ychwanegwyd clwydi a bocs signal i reoli trafnidiaeth y rheilffordd a thŷ ar gyfer gofalwr y groesfan.

Spooner Tanysgrafell 2
Cynllun Charles Spooner o Hendyrpeg yn 1873. Manylyn o Fapiau Penrhyn PFA/6/327, drwy garedigrwydd a chaniatâd  Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Serch hynny, yn 1873 gallasai cymhlethdod pellach fod wedi digwydd yn Hendyrpeg pe byddai’r Arglwydd Penrhyn wedi derbyn cynllun Charles Spooner i aildrefnu tramffordd y chwarel yn rheilffordd i drenau stêm. Spooner oedd cynllunydd y rheilffordd o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, cynllun cymunedol oedd hwn a oedd yn gwasanaethu’r gymuned yn ogystal â thrafnidiaeth y chwareli. Bwriad Spooner oedd creu gwasanaeth tebyg yn Nyffryn Ogwen . Yn y cynlluniau a gyflwynodd i’r Arglwydd Penrhyn yr oedd Hendyrpeg yn ganolog i’w fwriadau. Yno, yr oedd am sefydlu cyffordd oedd â’i phrif gangen yn arwain i’r chwarel a’r ail gangen yn rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd dyrpeg hyd at Dy’n Clwt cyn gwyro yn Nhanysgrafell i gyfeiriad Pont Sarnau a chanlyn ymlaen dros afon Galedffrwd i ddilyn glan afon Ogwen hyd nes cyrraedd safle ar ochr parc Bryn Meurig o’r pentref. Yno yr oedd terminws y gangen i’w sefydlu. Yr oedd gan Spooner hefyd welliant i’r cynllun a fyddai’n anfon cangen i wasanaethu pen gogleddol y pentref gydag ail orsaf i’w hadeiladu ger y gwaith nwy yn Llain y Pebyll. Mynnai’r Arglwydd Penrhyn, er hynny, reilffordd at wasanaeth y chwarel yn unig ac, o ganlyniad, gwrthododd gynllun arloesol a fyddai, o edrych yn ôl, wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad pentref Bethesda cyn dyfodiad rheilffordd yr LNWR ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

 

Parhaodd y rhwystrau ar groesffordd gyfyng Hendyrpeg hyd at oddeutu 1960 pan chwalwyd y tollborth hanesyddol; lledwyd mynedfa’r ffordd i Dregarth a daeth gwasanaeth rheilffordd y chwarel i ben. Mae llwybr y rheilffordd yn aros ar y naill ochr i’r groesfan ac erys y bocs signal fel yr unig gofadail i brysurdeb a rhwystredigaethau safle a feddai ar dollty go arbennig yn hanes Dyffryn Ogwen.

Ffynonellau

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. CBA York

J.Ll. W. Williams; Lowri Wynne Williams 2016. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.

Y tŷ â phedwar enw

Dyma erthygl gan un o’n cyfranwyr gwadd, Ieuan Wyn.

Ty'n Lôn, Tŷ Ffeltiwr, Tafarn Gelyn, Bryn Eithin Bach_
Ty’n Lôn, Tŷ Ffeltiwr, Tafarn Gelyn, Bryn Eithin Bach

Un o gaeau Bryn Eithin yn Llanllechid yw Cae Bryn Llwm. Mae Cae Bryn Llwm am y terfyn â’r ffordd o Llan ac am y terfyn â Lôn Bryn. Yng nghornel y cae hwn, ar ochr Lôn Bryn, mae yna furddun. Roedd pedwar enw gwahanol ar y tŷ hwn. Ty’n Lôn (talfyriad o Tyddyn y Lôn) oedd yr enw ar lyfrau Stad y Penrhyn ond roedd yna dri enw arall ar dafod-leferydd.

Bryn Eithin Bach oedd un enw – enw sy’n ei egluro’i hun. Tafarn Gelyn oedd un arall, ac roedd fy nhad yn dweud y byddai ei daid yn sôn am adeg a fu pan oedd y sawl a oedd yn byw ynddo yn arfer gosod torch o gelyn ar ddrws y tŷ ar ddiwrnodau gŵyl ac yn bragu cwrw yno i’w werthu i’r trigolion. Roedd gosod dail bythwyrdd – dail eiddew fynychaf – ar ddrws tŷ tafarn yn hen draddodiad. Cysylltid celyn â dyddiau byr y gaeaf oherwydd bod gwyrddni’r gelynnen yn wrthgyferbyniol i gyflwr y rhan fwyaf o goed yr adeg honno o’r flwyddyn, ac felly’n symbol o barhad. Ar ddrws tŷ tafarn, byddai’n arwydd o wres y croesogarwch na fyddai’n peidio – croeso bythwyrdd!

Mae tystiolaeth bod llawer o firi yn ystod y ddeunawfed ganrif ar y dyddiau gŵyl eglwysig hyn yn Nyffryn Ogwen fel mewn ardaloedd eraill trwy Gymru. Dywed Hugh Derfel Hughes fod y trigolion “ar y Sabbathau yn aml yn cicio pêl droed, curo bandi, ac yn ‘dyrnu’r iâr’ ”ar Ddôl Fawr Ty’n y Clwt ac ym Mhen yr Ala yn Nghregarth. Byddai ymladd ceiliogod ym Mhenardd Gron wrth Eglwys y Gelli, ac yn Chwarel Goch caed ‘Suliau Chwarel Goch’ ar y tri Sul olaf yng Ngorffennaf,  pryd y byddai canu a dawnsio i’r delyn, betio, ac yfed yn drwm. Cynhelid ‘Campiau Cerrig Lwydion’, sef ras redeg i lawr o Lidiart Cerrig Llwydion ac yna i fyny at Lidiart Lleiniau, Talgae. Gelwid yr achlysuron hyn yn ‘chwareufa gampau’, ac roedd hwyl gystadleuol y gwahanol ymrysonfeydd a dawnsfeydd yn denu niferoedd mawr o’r ardalwyr. Hefyd, roedd Gŵyl Mabsant yn ddigwyddiad blynyddol hynod boblogaidd ym mhob bro, gyda’r plwyfolion yn cofio sant eu heglwys leol drwy dreulio’r dydd yn dathlu a chael sbri.

Fel hyn y mae Hugh J. Williams yn disgrifio un o’r hen arferion yn Llanllechid: “Nos Galan Gaeaf elai y bechgyn a’r genethod ieuainc at yr eglwys, er cael gwybod, meddent, enwau y rhai fyddent eu gwragedd neu eu gwŷr y dyfodol, ac fel hyn y gwnaent. Delai pob uno’r genethod bellennau o edafedd gyda hwynt, a chan ddechrau mewn man neilltuol, amgylchent yr eglwys gan adael i’r bellen ddadrys, ac ar ôl cylchu y muriau dychwelent i’r fan y cychwynasant. Yna dechreuent ddirwyn yr edau gan adrodd yn barhaus

“Fi sy’n dirwyn, pwy sy’n dal?

Fi sy’n dirwyn, pwy sy’n dal?”

Cydiai uno’r bechgyn ieuainc ym mlaen un o’r edafedd a deuai o’r diwedd i gyfarwfyddiad ag un o’r genethod oedd yn dirwyn. Hwn fyddai ei gŵr, neu o’r un enw, a’r eneth, neu un o’i chyfenw fyddai ei wraig.”

Daeth yr arferion cymdeithasol y cyfeirir atynt i ben yn araf bach wrth i arweinwyr crefyddol fynnu y dylai’r trigolion ymarfer hunan-ddisgyblaeth. Aethpwyd ati i’w gwahardd, ond cyndyn iawn oedd sawl plwyf i gefnu ar yr hen ddifyrrwch gwerinol. Ceir ymdriniaeth â’r cyfnod trawsnewidiol hwn yn hanes arferion cymdeithasol ein gwlad gan R.T. Jenkins, a dengys sut y bu gan y Methodistiaid ran flaenllaw yn pregethu’n erbyn y chwaraeon a’r dawnsio drwy eu disgrifio fel gwagedd – yn weithgarwch a oedd yn groes i ewyllys Duw ac felly’n bechod. Mae’r hanesydd yn sôn am Twm o’r Nant yn edifarhau wrth gofio fel y byddai’n “chware a champio” ar y Suliau nes bod “Ddiw llun yn ddiallu”, hynny yw ei fod yn methu gweithio ar ddydd Llun ar ôl diota’n ormodol! Mae’r sylw yma’n arwyddocaol oherwydd rhan o fwriad arweinwyr crefydd a diwydiant yr oes oedd dyrchafu diwydrwydd a hunan-ddisgyblaeth yn rhinweddau allweddol i sicrhau cynnydd, a sefydlu patrymau newydd i ddyddiau gŵyl a gwaith wrth i’r gymdeithas amaethyddol droi’n gymdeithas ddiwydiannol.

Yr enw arall ar Dy’n Lôn oedd Tŷ Ffeltiwr oherwydd iddo fod ar un adeg yn gartref i ŵr a oedd yn ymarfer y grefft o wneud hetiau ffelt – hetiau cantel. ‘Brethyn llawban’ a ddywedai’r hen bobl am felt, a’r gair am ei gynhyrchu oedd ‘llaw bannu’, hynny yw pannu efo’r dwylo sef gwasgu, curo a phantio gwlân a rhawn ceffyl llaith a chynnes nes ei fod fel mat – yn geden o ddefnydd gwydn. Yna, ar ôl i’r geden sychu a chaledu, byddai’r ffeltiwr yn ei siapio a’i dorri i wneud het. Enw’r cae agosaf at Gae Bryn Llwm ar ochr Lôn Bryn ydy Cae Ffeltiwr, a’r enw ar Lôn Bryn am gyfnod oedd Lôn Ffeltiwr.

Ffynonellau

Hugh J. Williams, Hanes Eglwys Llanllechid, Jarvis a Foster, Bangor 1910.

Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, R. Jones, Bethesda1866.

R.T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1928

Dyffryn afon Galedffrwd

Rocar - tanciau
Tanc gwaddodion,  neu efallai waliau gerddi diweddar yn nyffryn Afon Ocar

Ar dro’r ddeunawfed ganrif, yr oedd dyffryn cul afon Galedffrwd yn ferw gwyllt gan ddiwydiant a oedd lawn mor arbennig, er yn llawer llai peryglus, na’r fenter gloddio am arsenig yn Nolawen.  Yn yr Ocar datblygwyd gwaith i adennill clai ocr o ystlys yr afon uwchlaw safle’r Felin Fawr.  Ocsid haearn sy’n gyfrifol am greu amrediad o liwiau naturiol,  sy’n amrywio o felyn, coch a haenau o gochddu, mewn clai neu dywod mân. Yn y cyfnod modern defnyddid ocr i liwio paent, ac ocr wedi ei gymysgu â saim oedd un o’r prif bigmentau ar blât lliwiau’r artistiaid hynny a oedd yn gyfrifol am baentio mewn ogofau yn ystod cyfnod yr Uwch Balaeolithig oddeutu 14,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac ym Mhafiland, ogof ar arfordir Penrhyn Gŵyr yn Ne Cymru , darganfuwyd beddrod gŵr ieuanc a’i esgyrn wedi eu gorchuddio mewn ocr coch fel pe byddai’n ymgais i roddi’r gwaed yn ôl yn y corff marw. Dyddiad y beddrod enwog hwn, a adweinir yn gamarweiniol fel y ‘ferch goch o Bafiland’,  yw oddeutu 33,000 o flynyddoedd yn ôl.  Ocr hefyd oedd y sail i liwiau melyngoch rhai o artistiaid pennaf y Dadeni gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at y bymthegfed yn Ewrop. Ac felly y mae gan ocr ei dras fonheddig sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod cyn hanes.

 

Gŵr o’r enw William Hughes o Gaernarfon a sefydlodd y gwaith ocr yn y ceunant gerllaw’r Felin Fawr yn 1793. Y rhyfel rhwng Ffrainc a Prydain, a dorrodd allan yn 1793, oedd cychwyn y gwaith ocr yn nyffryn y Galedffrwd. Ffrainc oedd prif gynhyrchwyr ocr y cyfnod cyn hynny. Darganfuwyd y broses o gynhyrchu ocr ar raddfa ddiwydiannol gan wyddonydd o Ffrainc, Jean-Etienne Astier, a hanai o Roussilion ym Mhrofons lle’r oedd clogwyni o ocr yn britho amgylchedd yr ardal. Yn 1780 sefydlodd Astier y broses a ddilynwyd gan William Hughes ar y Galedffrwd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Cyfyd hyn gwestiwn diddorol sef p’un ai dyfeisiwr ynteu efelychydd a oedd y gŵr o Gaernarfon?

Rocar Pwll
Tyllau arbrofol cloddio am ocar 

Tyrchid y clai o geuffordd gul ar ochr y dyffryn a’i falu yn gymysg â dŵr mewn melin yr oedd ceffyl yn troi ei pheirianwaith. Yna gollyngid y gymysgedd i lynnoedd setlo pwrpasol  i’w sychu drwy anweddu cyn torri’r cynnyrch yn dalpiau ar ffurf brics i’w sychu mewn odyn. Danfonid yr ocr wedi ei buro i Aberogwen i’w ddygyd oddi yno mewn llongau i farchnadoedd yng ngogledd Lloegr. Olynydd Hughes yn y gwaith oedd Joseph Wilson, gŵr lleol eto, ac ef a drosglwyddodd yr ynni i weithio’r felin yn fwy ymarferol o’r anifail i ddŵr afon Galedffrwd.  Yr oedd prif geuffordd y gloddfa wedi ei lleoli y tu cefn i’r tŷ presennol sydd ar y safle ac yn ymestyn i gyfeiriad y de oddi tan y ffordd  i Fynydd Llandygái. Mae ceg y geuffordd wedi’i chuddio gan dyfiant ac ysbwriel, ond ar ochr arall y dyffryn ar y llethr uwchlaw’r bont mae’n amlwg fod cloddfa arall wedi ei chychwyn. Mae’n bur debyg fod tŷ presennol yr Ocar wedi’i adeiladu ar safle’r felin, ond i gyfeiriad y dwyrain o safle’r bont mae’n ymddangos fod ymyl y dyffryn wedi ei derasu. Yn y drysni sydd yn y safle mae’n anodd gwybod ai nodweddion modern yw’r adeiladwaith  carreg  ar ffurf hirsgwar sydd i’w weld yno ond gallasai’r nodweddion hyn hefyd ddynodi lleoliad y tanciau gwreiddiol.  Wrth gwrs mae’r holl nodweddion sydd ar safle’r Ocar yn haeddu ymchwiliad mwy manwl a ddylai ddigwydd yn y dyfodol.

 

Pan arwyddwyd cytundeb i derfynu rhyfel Boneparte yn 1815 daeth y fenter o gloddio’r ocr hefyd i ben. Erbyn hynny yr oedd y gwaith yn nwylo  Samuel Worthington,  yr entrepreneur o Lerpwl  a fu’n sylfaenydd nifer o ddiwydiannau’r cyfnod yn Nyffryn Ogwen gan gynnwys y felin grisiant yn Llandygái. Yr oedd y gofyn am ocr hefyd wedi newid o ogoniant bwrdd lliw artistiaid y Dadeni, bellach i beintio hwyliau llongau pysgota mewn coch i’w gwarchod rhag yr heli. Ac yn nyffryn cul afon Galedffrwd  dim ond y fynedfa i’r geuffordd  lle y cloddiwyd y clai ocr sydd bellach yn aros.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid. Bethesda.

M. Bassett. 1974. Diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 35. , 73-84.