

Ffordd bost Telford ydi’r A5 presennol, a heb ei hadeiladu rhwng 1815 ac 1819 gan beiriannydd ffyrdd pwysicaf Prydain ei gyfnod ni fyddai pentref Bethesda yn bod heddiw. Drwy gynllunio llwybr cwbl newydd i’r ffordd i redeg o Bont Ogwen i Bont y Pandy ar ochr ddwyreiniol Afon Ogwen gosododd y seiliau angenrheidiol i sefydlu’r pentref. Deddf Uno 1801 rhwng Prydain a’r Iwerddon oedd y rheswm dros adeiladu ffordd i gysylltu prifddinasoedd Llundain a Dulyn. Penodwyd Telford i gynllunio ac adeiladu’r prosiect. Hwn oedd cynllun peirianyddol mwyaf ei ddydd, a’r cyntaf i dderbyn cefnogaeth ariannol lawn gan y Llywodraeth. Cafodd Telford y cyfarwyddyd i adeiladu ffordd ddiogel ar gyfer cludo cerbydau cyflym, gyriant pedwar ceffyl ac iddi wyneb sych a llyfn a gwteri digonol a oedd wedi’i diogelu rhwng muriau cadarn. Yn y mannau mwyaf serth nid oedd y gogwydd i fod yn fwy na 1:40 ac roedd ei lled i aros yn gyson rhwng 28 a 30 troedfedd. Wedi dewis y llwybr mwyaf ymarferol a’i nodi gyda phegiau, a’i rannu yn adrannau unigol, ei dasg nesaf oedd gwahodd ceisiadau gan gontractwyr i wneud y gwaith yn unol â gofynion y dasg ac o fewn amserlen benodol. Y contractwr a gynigai’r pris isaf fyddai’n ennill y cytundeb.

Rhwng Tachwedd 1815 a Thachwedd 1818 yr oedd o leiaf chwe chontract yn cydredeg rhwng Llyn Ogwen a Llandygái. Cyfanswm cost y prosiectau hyn oedd £10,812 sy’n cyfateb i £1,051,000 yn arian heddiw. Agorwyd y ffordd yn swyddogol yn 1826 gan dorri’r siwrnai o Lundain i Gaergybi o 41 awr yn 1815 i 28 awr yn 1831. Nid oedd teithio yn rhad – y gost i deithio’n gysurus o fewn y cerbyd oedd chwe cheiniog y filltir a thair ceiniog i’r dewr ar y tu allan. Pris y daith gyfan oedd £38.11.4 heb sôn am gostau ychwanegol talu’r ostleriaid a cheidwaid y tollbyrth. Byr fu tymor gorchest Telford oherwydd yn 1850 gorffennwyd adeiladu’r rheilffordd rhwng Llundain a Chaergybi gan gynnig taith fwy cysurus, rhatach a chyflymach i’r teithiwr i Ddulyn. Yn 1851 collodd y ffordd gymhorthdal y Llywodraeth i’w chynnal fel priffordd ryngwladol, ond i Fethesda hon oedd yr allwedd i lwyddiant dyfodol y pentref.
Gweler hefyd gofnodion: Cilfachau Telford; Gwesty’r Douglas Arms; Pont y Benglog; Rhes y Graig; Tyrpeg Lôn Isa
Ffynonellau
Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003 Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA Research Report 135. Council British Archaeology/CADW. York.
J.Ll. W. Williams; Lowri W. Williams 2015. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 76, 35-60.