
Pan gynlluniodd Thomas Telford un o draffyrdd cyntaf Prydain rhwng Llundain a Chaergybi yr oedd yn ymwybodol iawn o roi delwedd neu stamp gweledol ac amlwg ar ei gampwaith, sef y brand cywir o ddefnyddio’r gair modern Saesneg. Golygai hyn fod gan y pontydd, y tolltai, y gatiau a hyd yn oed y cerrig milltir eu dyluniad arbennig. Wedi’r cyfan, y cerrig milltir oedd y nodweddion mwyaf aml eu dosbarthiad ar fin y ffordd a’r mwyaf gweledol i’r teithwyr wrth i’r cerbyd ruthro heibio iddynt. Rhoddodd Telford sylw manwl i’w dyluniad ac meddai: ‘I never saw a proper milestone that I could copy. I looked for three years all over England trying to find one as a pattern and after all I could not find one that looked like a decent milestone’.

Y garreg filltir ddelfrydol a gynlluniodd oedd maen yn mesur 2.1 medr (6 troedfedd 11 modfedd) o faint, o garreg calch caled o Benmon gyda dwy droedfedd o’r maen i’w plannu yn y ddaear fel y bo’r rhan uchaf yn sefyll yn gyfochrog â ffenestr y cerbyd. Yr oedd pen y maen i fod ar ffurf triongl, yr ochrau wedi eu befelu, a gwagle yn y canol i gynnwys plât o haearn bwrw i’w leoli yn union islaw’r triongl. Yr oedd y plât i gynnwys arysgrifen mewn llythrennau bras yn nodi’r pellter mewn milltiroedd ac wythfed ran o filltir o Gaergybi i’r dafarn gyfnewid agosaf yn y ddau gyfeiriad. Yn wreiddiol yr oedd y cerrig milltir i sefyll ar un ochr y ffordd ac roeddynt wedi’u gosod fesul pum milltir. Mae’n amlwg na chadwyd at y cynllun gwreiddiol gan fod dwy garreg o fewn milltir i’w gilydd ar gyrion deupen pentref Bethesda.
Y tafarnau cyfnewid pwysicaf o Gaergybi i’r Waun oedd Mona, Bangor, Capel Curig, Cernioge (Glasfryn), Corwen a Llangollen. Yn wreiddiol rhwng Caergybi a’r Waun yr oedd 83 carreg filltir ond bellach mae nifer fawr o’r rhain wedi diflannu neu gael eu hamharchu. Yn ffodus mae’r ddwy garreg sydd ym Methesda yn sefyll yn gyflawn ac yn eu lleoliadau gwreiddiol fwy neu lai. Dywed y garreg ger Rhos y Nant fod pellter Caergybi yn 31 milltir, Bangor yn 6 milltir a Chapel Curig yn 8.3 milltir; mae carreg Dôl Goch yn nodi Caergybi 30 milltir, Bangor 5 milltir a Chapel Curig 9.3 milltir. Cyfyd y wybodaeth gwestiwn felly ynghylch statws Tŷ’n y Maes fel canolfan gyfnewid i’r Goets Fawr. Ychydig o wybodaeth a gofnodir am ei phwysigrwydd ac ymddengys ei bod yn is-ganolfan. Tybed a fyddai pob cerbyd yn aros yno ynteu fan cyfnewid cyn dringo Nant Ffrancon yn unig ydoedd? Cwestiynau i’w hymchwilio gan haneswyr Dyffryn Ogwen y dyfodol gobeithio.

Mae un garreg filltir arall i’w gweld yn Nyffryn Ogwen ac mae’n un dra gwahanol ei gwedd i gerrig milltir addurnedig Telford. Yng nghil pont Coetmor ym Mryn Bella gosodwyd carreg filltir syml sy’n mesur ychydig yn llai na metr o uchder (tua thair troedfedd). Cofnodir y manylion ar lechen las gyda’r llythrennau wedi’u torri’n ddestlus i’r wyneb: Caernarvon 10 ml, Llanddeiniolen 5¼, Felin Hen 1¾, Bethesda 1ml. Mae’n annhebygol mai hwn oedd lleoliad gwreiddiol y garreg ac mae’n fwy tebygol o fod wedi’i lleoli ar fin y ffordd yn Hendyrpeg cyn i’r tollty yno gael ei chwalu. Mae’r manylion arni yn awgrymu cysylltiad â ffordd dyrpeg 1802/05 ond efallai ei bod o gyfnod diweddarach gan nad oedd Bethesda mewn bodolaeth cyn i ffordd bost Telford gael ei hagor yn 1820. Dyma benbleth ychwanegol ar gyfer haneswyr y dyfodol!
Ffynhonnell
Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003. Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA Research Report 135. Council British Archaeology/CADW. York.