Ynni Ogwen

Dyma gyfraniad gwadd gan Griff Morris o Ynni Ogwen.

Sefydlwyd Ynni Ogwen gan Bartneriaeth Ogwen fel Cymdeithas Budd Cymdeithasol. Mae’r Hydro yn cynhyrchu trydan glân trwy ddefnyddio’r ynni sydd yn llif yr Afon Ogwen.

Caiff dŵr yr afon ei hidlo trwy sgriniau mynediad sydd ag arwynebedd o 5m2 ac wedi eu lleoli ger glan orllewinol yr afon ychydig islaw Pont Ogwen.

Yn ôl rheolau Cyfoeth Naturiol Cymru mae ’n rhaid i’r trothwy uwchlaw pen ucha’r sgrin fod ychydig yn uwch na’r trothwy ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Islaw’r sgriniau mae cafnau concrid yn arwain y dŵr i bibell 1.2m o ddiamedr ac i mewn i gawg enfawr (forebay yn Saesneg) lle caiff unrhyw aer sydd wedi ei ddal yn y dŵr gyfle i ddianc cyn i’r dŵr ruthro i lawr pibell 0.9m diamedr sy’n arwain yr holl ffordd i lawr i’r pwerdy wedi ei leoli ger yr afon 16.5m islaw. Ar ei anterth mae 850 litr yr eiliad yn llifo trwy’r bibell ac mewn cyfnod o awr gall gynhyrchu hyd at 100kWh.

Mae llif yr afon yn amrywio’n fawr ac mae’n bwysig gwybod beth yw lefel yr afon ar unrhyw adeg a hefyd lefel y dŵr yn y cawg. Caiff lefel yr afon uwchlaw trothwy’r sgriniau ei fesur gan synhwyrydd wedi ei leoli ar ochr Pont Ogwen ac mae synhwyrydd tebyg y tu fewn i’r cawg yn mesur y dyfnder yno.

Tu fewn i’r pwerdy mae echelion sy’n troi’n gyflym a pheth offer sy’n symud heb rybudd. Felly mae ein gwirfoddolwyr yn gorfod bod yn ofalus iawn yno ac wrth lanhau’r sgriniau yn yr afon. Mae hi hefyd yn eithaf swnllyd y tu mewn i’r pwerdy.

Griff Morris

Mae’r llun uchod yn gymorth i egluro prif nodweddion mecanyddol y pwerdy. Daw’r dŵr i mewn trwy’r bibell las sy’n rhedeg o’r wal ar y chwith. Pe bai angen archwilio’r offer tu fewn i’r tyrbein gellir defnyddio’r olwyn ddu i gau falf i rwystro’r dŵr rhag llifo trwodd.

Lleolir y tyrbein mewn blwch metel lliw glas tywyll sydd wedi ei angori’n gadarn mewn dyfnder o goncrid. Gallwch weld yr echel lliw coch, sy’n cael ei throi wrth i lif y dŵr daro’r silindr tu fewn. Er mwyn rheoli cyflymder yr echel mae dwy fraich y naill ochr i’r blwch yn agor neu gau’r llafnau llywio. Mae’n hanfodol fod yr echel yn troi yn gyson ar 400 tro y funud. Caiff y breichiau eu codi neu ostwng gan system hydrolig olew dan bwysau.

Tu cefn i’r cyfan mae rheolaeth electroneg. Mae’r drefn yn cofio faint o drydan oedd  yn cael ei gynhyrchu ar wahanol  lefelau dŵr yn yr afon a’r cawg a defnyddir yr wybodaeth hon i benderfynu os oes angen newid lleoliad y breichiau.

Er mwyn i ni allu trosglwyddo’r trydan i’r grid cenedlaethol mae angen i’r generadur sy’n trosglwyddo’r ynni cylchol o’r echel i ynni trydanol droi ar gyflymder o 1000 tro y funud. Caiff hyn ei sicrhau trwy ddefnyddio blwch gêr gyda chyfradd o 5:2. Wrth i’r blwch gêr weithio mae’r ymdrech yn peri iddo dwymo ac mae’n hanfodol fod yr olew ynddo yn cael ei oeri. Dyna yw pwrpas y blwch gwyn gyda rhyddiadur bychan ar ei gefn. Gellir cymharu tymheredd yr olew sy’n gadael ac yn dychwelyd i’r blwch gêr wrth gyffwrdd y bibell yn ofalus.

Cludir y trydan o’r generadur trwy wifren drwchus sy’n rhedeg dan y llawr ac yn ei thro i fyny’r rhiw i’r caban mesurydd ar y lôn las uwchlaw cyn ymuno â’r grid. Pan fydd y tyrbein yn rhedeg ar ei anterth mae llif y trydan yn twymo ychydig ar y gwifrau sy’n ei gario i’r grid. Golyga hyn fod gwahaniaeth rhwng faint o drydan, wedi ei fesur mewn MWh, rydym yn ei gynhyrchu a faint rydym yn ei allforio.

Datblygodd Chwarel y Penrhyn nifer o brosiectau arloesol dros y blynyddoedd ac o gwmpas 1929 adeiladwyd system hydro oedd yn defnyddio’r afon i gynhyrchu aer dan bwysau i’w ddefnyddio i dyllu’r graig gyda driliau niwmatig. Er bod yr hen bwerdy, gyda’i dyrbein o wneuthuriad y cwmni enwog Gilkes, wedi mynd a’i ben iddo erbyn hyn mae’n parhau i ennyn edmygedd y rhai sydd â diddordeb. Does dim amheuaeth mai dyna oedd y symbyliad i sefydlu Ynni Ogwen. 

Penderfynwyd cychwyn y fenter yn gynnar yn 2016 a lluniwyd prosbectws deniadol yn apelio am fuddsoddwr. Bu’r ymateb yn anhygoel. Buddsoddodd 307 o bobl gyfanswm o £459,350 mewn cyfnod byr. Mae mwy na hanner y buddsoddiadau yn £500 neu lai ac mae dros 80% o’r buddsoddwyr yn byw yn lleol. Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi talu llog o 3% yn flynyddol i’n buddsoddwyr.

Cawsom ganiatâd cynllunio i adeiladu’r cynllun yng Ngorffennaf 2015 ac erbyn Hydref yr un flwyddyn roeddem wedi cofrestru’r cwmni gyda’r Awdurdod Goruchwylio Cyllidol (Financial Conduct Authority). Wedi hir ddisgwyl cawsom ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Ionawr 2016 oedd yn ein galluogi i gofrestru gyda OFGEM am Dariff Bwydo Mewn (Feed in Tariff) yn gynnar mis Chwefror.

Mae Ynni Ogwen yn denant i Stad y Penrhyn, perchnogion yr afon, ac i gwmni chwareli Breedon sydd piau’r tir. Ein rhent blynyddol yw’r uchafswm o £4K neu 6% o werth ein hallforion trydanol.

Rydym yn talu treth busnes blynyddol o £7627 i Gyngor Gwynedd ond hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi ein digolledu. Mae peth ansicrwydd beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae costau yswiriant oddeutu £4500 y flwyddyn..

IMG_0002
Allbwn Ynni Ogwen

Mae mesuryddion clyfar yn cofnodi faint o drydan a gynhyrchir a hefyd faint sydd yn cael ei allforio bob hanner awr. (Half Hourly Data.) Mae’r bwrdd electroneg yn y pwerdy yn arddangos y data perthnasol ac mae’n hanfodol cofnodi’r data hwn yn wythnosol; dyna un o ddyletswyddau ein gwirfoddolwyr.

Rhwng Mai 2017 a diwedd Hydref 2020 mae Ynni Ogwen wedi allforio 1,690 MWh i’r grid.

Rhoddodd Ynni Ogwen £10,000 i Bartneriaeth Ogwen i’w galluogi i wneud cais llwyddiannus am grant sylweddol i sefydlu Dyffryn Gwyrdd. Yn ystod yr argyfwng Cofid 19 diweddar fe gyfrannodd Ynni Ogwen £3,000 i Gronfa Fwyd Bethesda. Mae grŵp bach o wirfoddolwyr wedi bod wrthi’n paratoi i sefydlu elusen fydd yn gweithio hyd braich oddi wrth Ynni Ogwen ac mae hyn ar fin cael ei wireddu.

Y gobaith yw y bydd yr elusen newydd yn gymorth i ddileu’r G o GYNNI OGWEN.

Gadael sylw