Ysgolion Cynradd Llanllechid

Ar ddydd Iau, 3ydd Mehefin, 1954 agorwyd Ysgol Gynradd newydd Llanllechid gan yr Athro Syr Idris Ll. Foster. Yr oedd yr achlysur yn gyfle i ganfod hanes ymdrechion y gorffennol i sefydlu cyfundrefn addysg ffurfiol i blant y pentref a’r ardal. Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg dim ond aelodau’r dosbarth breintiedig a gai addysg ac felly hanes cyflwyno cyfleoedd i drwch poblogaeth gyffredin yr ardal a ddathlwyd drwy agor yr ysgol newydd yn Llanllechid yn 1954.

Ffig 4 Ysgol
Yr Ysgol genedlaethol ar y sgwâr

Mudiadau gwirfoddol oedd cyfranwyr sylfaenol addysg yn yr ail ganrif ar bymtheg ac yng nghwrs y ganrif sefydlwyd nifer o ysgolion elusennol o dan eu cyfarwyddyd yn Llanllechid. Gellir olrhain yr ysgol gyntaf a agorwyd o dan nawdd Ymddiriedolaeth y Welsh Trust i tua 1675. Mudiad oedd hwn a drefnwyd gan Thomas Gouge (1605?-1681), gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr a anwyd yn Llundain a’i addysgu yn ysgol Eton a phrifysgol Caergrawnt, i efengyleiddio Cymru. Hyrwyddwyd ei waith gyda thanysgrifiadau gan arweinwyr crefyddol o Loegr a Chymru a sefydlodd oddeutu 300 o ysgolion yng Nghymru gyda’r bwriad o ddysgu plant tlodion y wlad i ddarllen ac ysgrifennu, i gyfrif ac i adrodd y Catecism. Cyfrwng y dysgu oedd Saesneg, ond er budd y bobl hynaf cyfieithwyd llawer o lyfrau i’r Gymraeg, gan gynnwys argraffiad o’r Beibl, cyfraniadau annisgwyl wnaeth hyrwyddo gwaith rhai o’r mudiadau a’i dilynodd. Ar farwolaeth Gouge yn 1681 terfynwyd gwaith y mudiad a daeth yr ysgolion i ben, ond yr oedd hedyn addysg wirfoddol wedi ei hau yn Llanllechid fel yng ngweddill Cymru.

Arloeswr mawr yr ysgolion elusennol yng ngogledd Cymru oedd John Jones (1650-1727), ac yn 1689 ef oedd Deon Bangor a rheithor Aber a Llanllechid. Cyfraniad mawr y gŵr nodedig hwn oedd sylfaenu a gwaddodi ysgolion i blant tlodion yn y plwyfi yr oedd ganddo gysylltiad â hwy a threfnu mai yn y Gymraeg y dysgid Catecism Eglwys Loegr. Brodor o Bentraeth, Ynys Môn, oedd ef, ac er ei addysgu yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt deallai mai megis rhoddi’r drol o flaen y ceffyl fyddai ceisio dysgu yn Saesneg i blant plwyfolion a oedd yn uniaith Gymraeg. Agorodd ysgol yn Llanllechid oddeutu 1700 ac ymhlith eraill o’i gyfraniadau nodedig oedd dosbarthu llyfrau Cymraeg a sefydlu llyfrgelloedd ymhlith ei blwyfolion. Ei bryder mawr yn 1716 oedd bod y plant yn rhy dlawd i ddod i’r ysgol yn gyson gan eu bod yn treulio eu hamser yn cardota a gweithio ar y ffermydd mewn plwyf nad oedd ei boblogaeth yn fawr mwy na 450. Yn ei ewyllys gwaddododd naw ysgol i addysgu plant y tlawd ac yr oedd ysgol Llanllechid yn un o’r rhai a elwodd gyda chymynrodd o £100. Yn ôl ei gyfarwyddyd yr oedd llog blynyddol y swm i’w ddefnyddio i gynnal ysgol rad i ddeuddeg o blant y plwyf gyda’r nod o’u dysgu i ddarllen Cymraeg yn berffaith. Derbyniai’r ysgolfeistr £4 y flwyddyn o’r llog a’r gweddill i’w ddefnyddio i brynu llyfrau neu ddillad i’r plant tlotaf. Ychwanegwyd toll y ffordd o Fangor i Bwllheli at y gymynrodd a defnyddiwyd cymynroddion eraill i chwyddo’r swm blynyddol.

Derbyniodd John Jones gefnogaeth gan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol (SPCK) yn ei gwest addysgol. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn Llundain gan Thomas Bray yn 1698 i wrthsefyll anlladrwydd drwy ddysgu canonau’r ffydd Gristionogol. Nod deublyg y gymdeithas oedd sefydlu ysgolion elusennol a thaenu’r efengyl Gristnogol. Erbyn 1715 llwyddwyd i agor oddeutu 68 ysgol yng Nghymru gyda churadiaid yr eglwysi yn dysgu’r disgyblion i ddarllen ac ysgrifennu, ond gan mai Saesneg oedd iaith y dysgu ni ellid disgwyl y byddai ymdrechion y gymdeithas yn llwyddiannus eithriadol. Ni agorwyd ysgol yn Llanllechid, ond y gymdeithas hon a sbardunodd gychwyn mudiad addysgol Griffith Jones (1683-1761), Llanddowror a sefydlwyd ysgol lwyddiannus dan ei nawdd ef yn Nhanybwlch a bu’n weithredol o1749 hyd 1767. Er ei fod yn gefnogwr cynnar o’r SPCK yr oedd yn amheus o bwyslais y gymdeithas ar ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn hytrach nag ym mamiaith y plant. Ei ateb oedd sefydlu cyfresi o ysgolion cylchynol yn 1731 ac ef yn anad neb fu’n gyfrifol am alluog i’r Cymry fod yn genedl lythrennog, ac ar ei farwolaeth yn 1761 amcangyfrifir bod o leiaf chwarter miliwn wedi mynychu’r ysgolion dros gyfnod o dri deg mlynedd. Daeth oes yr ysgolion hyn i ben yn ystod wythdegau’r ddeunawfed ganrif.

Ar ganol y ddeunawfed ganrif yr oedd dwy ysgol led lwyddiannus yn Llanllechid, y naill yn cael ei chynnal mewn ystafell fechan y tu cefn i dŵr yr eglwys a’r llall yn nhŷ bonheddig Tanybwlch, a’r ddwy gyda’r pwyslais ar ddysgu drwy’r Gymraeg. Mantais fawr ysgol John Jones oedd bod cymynroddion yn ei chynnal i’r dyfodol, ond ei hanfantais oedd agwedd wrth-Gymreig yr Eglwys Anglicanaidd i addysg, yn arbennig felly gydag ethol Saeson yn esgobion yng Nghymru drwy gydol hanner olaf y ganrif a chychwyn y nesaf, cyfnod diffrwyth yr Eingl-esgobion. Gwrthbwys i hyn i raddau helaeth oedd llwyddiant mawr ysgolion Sul yr enwadau ymneilltuol a oedd i chwarae rhan allweddol yn addysgu plant a phobol mewn oed i fod yn llythrennog yn y cyfnod wnaeth ddilyn. Had a heuwyd gan ysgolion cylchynol Griffith Jones oedd sylfaen llythrennedd y Cymry a oedd yn uwch ar gyfartaledd nag yn unrhyw ran arall o Brydain, a’r llwyddiant hwn a oedd i fwydo gwleidyddiaeth radical yr oes a ddilynodd. Datblygodd gweithgarwch yr ysgol Sul, dan arweinyddiaeth fedrus Thomas Charles (1755-1814) o’r Bala, yn gyflym gan ysgogi’r holl enwadau Anghydffurfiol i ymuno yn yr ymdrech i gyfrannu at wybodaeth Feiblaidd y Cymry a chyfoethogi eu dealltwriaeth drwy fedru darllen. Daeth yr ysgolion yn rym dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru gyda mwy yn eu mynychu ar y Sul nag yn yr ysgolion ffurfiol yn yr wythnos. Cydnabyddir mai’r ysgol Sul oedd magwrfa llawer o arweinwyr y genedl yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffaith a wireddwyd ar ei ganfed ym mywyd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol Dyffryn Ogwen yn ogystal.

Canlyniadau cymdeithasol y Chwyldro Diwydiannol a thwf enfawr ym mhoblogaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ymhlith y ffactorau pwysicaf a greodd yr angen i sefydlu cyfundrefn addysg hyblyg a theg i blant o bob haen yn y gymdeithas. Sefydlwyd ysgol Genedlaethol gyntaf Dyffryn Ogwen yn Rachub yn 1828 ar dir a roddwyd gan glerigwr o Landdeiniolen ar gost o £155.11.11. Derbyniwyd benthyciad o £100 gan Maurice Gruffydd, prifathro olaf hen ysgol eglwys Llanllechid, a chafwyd cymorth ychwanegol o £30 gan y Gymdeithas genedlaethol. Meddai’r ysgol ar safle blaenllaw ar y sgwâr ac yn 1832 cyflog blynyddol y prifathro oedd £30 a ‘gwobr’ yr athrawes am ddysgu gwnïo oedd £3.10.0, a’r ddau i ddysgu rhwng 50 i 80 o fechgyn a merched yn gymysg. Dangosodd ymchwiliad y comisiynwyr yn 1847 (Brad y Llyfrau Gleision) pa mor ddiffygiol oedd y ddarpariaeth swyddogol yng Nghymru oherwydd safon isel yr athrawon, niferoedd y plant i’w dysgu a chyflwr gwael yr adeiladau y dysgid hwy ynddynt. Er mawr ryfeddod ni feirniadodd y comisiynwyr y ddarpariaeth yn ysgol Genedlaethol Rachub yn 1847 ond erbyn 1864 dengys y gofrestr fod 95 bachgen a 108 merched i’w dysgu gan ddau athro a oedd yn gyfrifol am yr ysgol. Er bod trwch poblogaeth Rachub megis wyth o bob deg yn Anghydffurfwyr, yr ysgol Genedlaethol oedd yr unig sefydliad i gynnig addysg ffurfiol i blant y pentref hyd nes i ysgol Frutanaidd gael ei hagor yn 1851. Derbyniwyd rhodd o £144 yn ewyllys Owen Jones, un o athrawon hen ysgol Llanllechid, i sefydlu’r ysgol ar dir Plas Pistyll a gyflwynwyd gan ei wraig ar lecyn canolog yn y pentref. Yn 1864 yr oedd 75 o ferched a 75 o fechgyn yn cael eu dysgu yn yr ysgol anenwadol hon gan ddau athro, ond gyda chefnogaeth capel Peniel y Methodistiaid  Calfinaidd yn Llanllechid.

Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg gosodwyd seiliau deublyg i addysg gynradd ym mhentref Rachub a’r rhaniad wedi ei bennu gan ddaliadau crefyddol yn hytrach na chyfarwyddyd addysgol fel y digwyddodd ym mhob pentref arall yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod. Dwy ysgol mewn pentref o lai na mil o boblogaeth a’r ddwy yn cydfyw yn weddol gytûn, er efallai mewn cystadleuaeth, ac ar brydiau dan straen pan oedd cysylltiadau diwydiannol yn bygwth creu rhaniadau cymdeithasol yn y gymdogaeth. Trosglwyddwyd yr Ysgol Frutanaidd i ofal y Cyngor Sir yn dilyn Deddf Addysg 1902 gyda’r awdurdod lleol yn gweinyddu’r gyfundrefn o hynny ymlaen, tra bod yr Ysgol Genedlaethol yn parhau i gael ei chynnal drwy roddion gwirfoddol ac elusennau hyd oni yn 1948, yn dilyn gofynion Deddf Addysg 1944, yr aeth y baich o’i chynnal yn drech na’r eglwys. Bu llawer cais i uno’r ddwy ysgol o ddauddegau’r ganrif ymlaen hyd oni ddaethpwyd i gytundeb yn 1949 i gael un ysgol yn Llanllechid ac, yn dilyn cyfnod byr pryd y gweinyddwyd yr ysgol ar y ddau safle, yr agorwyd yr ysgol newydd yn 1954.

Golygodd uno’r ysgolion fod addysg gynradd yn Llanllechid wedi ei ffurfioli ar ôl mwy na dwy ganrif o hanes ymgyrch arwrol i gyflwyno cyfundrefn addysg deg a chytbwys i blant y pentref, ac mae’n bleser cael cofnodi fod Ysgol Llanllechid heddiw ymhlith y goreuon o holl ysgolion cynradd Gwynedd. Ond rhaid talu teyrnged yn ogystal i waith gwirfoddolwyr ysgolion Sul capeli’r pentref a osododd sylfaen llythrennedd yn y Gymraeg i genedlaethau o blant, a chofnodi fod ysgol Sul capel Carmel yn dal i gyfrannu yr un mor ddylanwadol gyda’r gwaith heddiw. 

Gwybodaeth gyda diolch i Vivienne Parry, Llanfairpwll a Dilwyn Pritchard, Bron Arfon, Rachub

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

William John Lloyd. 1954.  Addysg yn Llanllechid. Rhan o anerchiad  yn seremoni agor Ysgol Gynradd Llanllechid ym mis Mehefin 1954. Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s