Capel Peniel

Capel Llan 1
Capel Peniel. Llun o archif y diweddar Ifor Williams, Coetmor, drwy ganiatâd.

Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanllechid oedd Peniel cyn iddo gael ei ddymchwel yn 1991. Sefydlwyd y capel cyntaf yn  1834 pan brynwyd addoldy bychan oedd gan y Wesleaid ar y safle am £500, swm enfawr o gofio mai megis egin enwad oedd y Methodistiaid bryd hynny. Sefydlwyd yr achos gyda 38 aelod ond cymaint oedd ei lwyddiant fel y penderfynwyd yn 1838 i ddymchwel yr hen gapel ac adeiladu capel newydd gan ychwanegu tŷ capel ato.

Fel yn hanes mwyafrif enwadau anghydffurfiol Cymru cychwynnodd achos y Methodistiaid drwy gyfarfod yn nhai unigolion o ras ac arddeliad cyn sefydlu mewn capeli cydnabyddedig. Felly hefyd yn Nyffryn Ogwen. Cynhelid gwasanaethau mewn nifer o ffermydd ym mhlwyf Llanllechid – yn y Tyddyn Isaf y traddodwyd y bregeth gyntaf yn yr ardal yn 1777 a chynhelid oedfaon yng Nghochwillan, Llwyn Penddu a Thai’n y Coed yn rheolaidd. Buan iawn yr aeth Tai’n y Coed yn rhy fychan i gynnal yr oedfaon hyn ac yn 1793 penderfynwyd sefydlu capel ar dir Plas Pistyll yn Rachub. Hwn oedd Capel yr Achub. Yn ei dro symudwyd yr achos oddi yno i gapel newydd y Carneddi yn 1816 a therfynwyd ar ddefnyddio’r hen gapel yn Rachub. Mae’n ddiddorol ceisio rhesymu pam na ddefnyddiwyd y safle i godi capel newydd Peniel arno yn 1834, penderfyniad a fyddai wedi arbed £500 i’r aelodau. Ar y pryd megis ar gychwyn yr oedd sefydlu pentref yn Rachub ac efallai i’r addolwyr ystyried mai yn Llanllechid y byddai twf mwyaf poblogaeth y dyfodol. Efallai mai rheswm pwysicach oedd y byddai sefydlu’r capel yn Llanllechid yn symbol gweledol ac ysbrydol i gystadlu â phrif sefydliad yr Eglwys Anglicanaidd ym mhlwyf Llanllechid. Yn 1834 yr oedd eglwys Llanllechid ar ei gwanaf yn dilyn blynyddoedd o esgeulustod a rhaid oedd aros hyd at 1845 cyn cael dathlu adferiad pan adeiladwyd yr eglwys newydd yno. Erbyn hynny, wrth gwrs, yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd wedi hen gartrefu a chapel Peniel ar ei ail ymddangosiad.

Capel llan 2
Pulpud Capel Peniel. Llun o archif y diweddar Ifor Williams, Coetmor, drwy ganiatâd

Beth bynnag oedd y cymhelliad i sefydlu’r capel yn Llanllechid yr oedd y penderfyniad yn un llwyddiannus iawn. Dymchwelwyd y capel am yr ail waith yn 1877 a’i godi o’r newydd am y trydydd tro. Adeiladwyd y capel  i ddal cynulleidfa o dros chwe chant a hanner o bobl mewn adeilad a gynlluniwyd yn drawiadol oddi fewn yn hanner crwn gydag oriel uwchlaw. Robert Jones, saer o Dregarth a adeiladodd y pulpud, a gosodwyd canopi arbennig uwch ei ben fel bod llais y pregethwr i’w glywed yn glir. Ychwanegwyd dwy festri at y capel , un fach ac un helaethach ei maint a chodwyd tŷ gweinidog newydd, Bryn Awelon, gyda chwt cerbyd ac ystabl i’w ganlyn. Cyfanswm cost yr holl adeiladau oedd £8,800 ac yr oedd y swm wedi ei dalu o’r bron erbyn dyddiad agor y capel. Tâl yr eisteddleoedd oedd pedair ceiniog yr aelod i’w dalu pob mis. Yr oedd nifer yr aelodau yn profi llwyddiant y capel. Yn 1878 roedd 332 o gymunwyr ac 116 o wrandawyr ynghyd â 116 o blant.

Os oedd llwyddiant materol y capel yn eglur beth felly am ei lwyddiant ysbrydol? Mae’n anodd i ni ddirnad heddiw pa mor ganolog oedd dylanwad a gweithgaredd y capel ym mywyd y gymuned yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid ar chwarae bach yr oedd unigolyn yn ymrwymo i fod yn aelod yn y capel. Yr oedd rhaglen waith wythnosol capel Peniel yn eithriadol o gaethiwus a thrwm. Ar y Sul gwrandewid ar bregeth fore a nos gyda seiat i ddilyn yn yr hwyr. Ar brynhawn Sul cynhelid yr ysgol Sul i blant, ieuenctid ac oedolion. Bob dydd Sul am bump yr oedd cyfarfod canu i ddysgu’r tonau ar gyfer cymanfa’r Groglith. Yr oedd rhaglen waith yr wythnos yr un mor gynhwysfawr. Ar nos Lun roedd cyfarfod gweddi; nos Fawrth y seiat; y Band Hope ar nos Fercher; nos Iau dosbarth darllen ar y naill â dosbarth sol-ffa, a nos Wener cyfarfod y Gobeithlu. Yn y seiat disgwylid i’r plant ddysgu testun pregeth y bore a’r bechgyn bregeth y nos, a threulid gweddill y cyfarfod yn manylu ar destunau’r ddwy bregeth. Dan nawdd y capel cynhelid nifer o eisteddfodau ac o gyngherddau safonol dros y blynyddoedd a pherthynai cwmni drama llewyrchus iawn i’r capel yn ogystal. O ganlyniad yr oedd y capel yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y gymdeithas ac os oedd y gweithgareddau yn edrych yn feichus a chaethiwus, eto yr oedd dysg a hyder ym mhob ystyr y geiriau hyn yn deillio o fod yn aelod yng nghapel Peniel, fel yn y rhelyw capeli Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwybodaeth ychwanegol gan Dilwyn Pritchard,  Cadeirydd Cymdeithas Hanes Rachub a Llanllechid.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

  1. J. Evans 1991 Capel Peniel, Llanllechid 1834-1991. Bethesda.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s