Ffordd y Lord


Blaen Nant3
Ffordd y Lord uwchlaw Blaen y Nant yn Nant Ffrancon

Benjamin Wyatt, gŵr o Swydd Stafford yn wreiddiol, oedd prif asiant Stad y Penrhyn o 1786 hyd ei farwolaeth yn 1818. Ef a osododd y sylfeini angenrheidiol ar gyfer datblygiad chwarel Cae Braich y Cafn i’w feistr Richard Pennant, Arglwydd cyntaf Stad y Penrhyn, a thrwy hynny drawsnewid economi holl ardal Dyffryn Ogwen. Cyn cyfnod Wyatt y dull o gario llechi o’r chwarel oedd mewn pynnau ar gefn ceffyl, gan ddilyn llwybr cul heibio i Fryn Meurig a Thanysgrafell, dros Benygroes a Phennau Bronydd, i Benlan a Llandygái ac yna ymlaen drwy Bont Marchogion i Aber Cegin ac yno lwytho’r llechi i longau ar y traeth. Cafodd Pennant brydles ar angorfa yn Aber Cegin gan Esgob Bangor yn 1786 a thasg gyntaf Wyatt oedd troi’r llwybr o’r chwarel i Aber Cegin yn ffordd gymwys.

 

Telford Figure 2
Ffordd y Lord yn Nyffryn Ogwen, drwy ganiatâd David A Jenkins, Allt St Anns, Bethesda.

Cynlluniodd Wyatt ‘Ffordd y Lord’ i ddilyn ymyl orllewinol afon Ogwen i Goed y Parc. Cwblhawyd y rhan o’r Chwarel i Bont Coetmor erbyn 1784, ei hymestyn i Landygái drwy Dinas erbyn 1786 a chyrraedd Aber Cegin yn 1788. Y cam nesaf oedd ymestyn y ffordd o Goed y Parc i Lyn Ogwen i ddilyn ochr orllewinol Nant Ffrancon i osgoi talcen enbyd y Benglog a ddisgrifiwyd gan Thomas Pennant fel un o’r mannau peryclaf i deithwyr yng Nghymru. Meddai y teithiwr Evans yn 1812: ‘Under the auspices of the public-spirited nobleman, the late Lord Penrhyn, a grand road has been cut through the immense range of lofty mountains dominated Snowdonia.   A rhoddwyd clod  arbennig gan Bingley yn 1804 – to the liberality and public spirit of Lord Penrhyn … the public are indebted  ….  the road was made a few years ago at his Lordship’s own expense’.

Telford Figure 3
Ffordd y Lord yn Nant Ffrancon, drwy ganiatâd David A Jenkins, Allt St Anns, Bethesda

Erbyn 1798 yr oedd y ffordd wedi ei hymestyn i Gapel Curig ac yno adeiladodd Pennant westy gwych i dderbyn ymwelwyr i Eryri. Heddiw y gwesty hwn yw Canolfan Plas y Brenin.  Nid masnach y chwarel felly oedd yr unig fwriad gan Pennant o adeiladu’r ffordd ond yr oedd hefyd am ei defnyddio fel atynfa i groesawu ymwelwyr i  Eryri, un o’r cynlluniau twristaidd cyntaf o’i fath  yn yr ardal bid sicr.

Royal Capel Curig 1840
Plas y Brenin yng Nghapel Curig yn 1840. Casgliad Tirlun Cymru – Snowdon from Capel Curig, Louis Haghe. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Derbyniodd y ffordd a’r gwesty gymeradwyaeth enfawr gan deithwyr y cyfnod fel y datgelir yn y cyfeiriad  hwn gan Bingley unwaith yn rhagor – ‘Lord Penrhyn has erected …a small but very comfortable inn…Those tourists, who, like myself have visited this Vale a few years ago, when the only place of accomodation was a mean pot house… and who shall now visit it with the present accomodations will be able with some justice to appreciate the spirited conduct, and truly patriotic excertions of the noble proprietor, who has not only constructed for them an inn, but who was the first to make this part of the Country passable in carriages’. Ac yna y gymeradwyaeth eithriadol i’r gwesty gan Bingley unwaith eto  ‘Few even in England will surpass in comfort, cleanliness and civility’. Yr oedd cyfnod adeiladu rhan olaf y ffordd yn cydredeg â’r rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc a arweiniodd at ddirwasgiad yn y farchnad lechi. Yn gyfrwys iawn defnyddiodd Pennant chwarelwyr di-waith i adeiladu rhannau helaeth o’r ffordd yn Nant Ffrancon.

 

 

Yn y rhan rhwng y Felin Fawr a Thai Newyddion yn Nant Ffrancon claddwyd llwybr y ffordd gan domennydd rwbel chwarel y Penrhyn ond oddi yno i Gapel Curig mae llwybr gwreiddiol Ffordd y Lord wedi’i diogelu fwy neu lai, ac yn Nant Ffrancon mae’n brif fynedfa i ffermydd Maes Caradog, Pentre a  Blaen y Nant.

Ffordd y Lord y Benglog
Ffordd y Lord yn y Benglog

Dywedir yn aml fod Ffordd y Lord yn Nant Ffrancon hefyd yn ‘Ffordd Rufeinig’, ond mae’n bur anhebygol fod hyn yn gywir er bod un awdur ar ffyrdd Rhufeinig gogledd Cymru yn dadlau o blaid ei chynnwys yn y categori hwn. Er hynny, mae’r ymchwil diweddaraf yn barnu nad oes digon o dystiolaeth  i  gadarnhau fod cynseiliau Rhufeinig i Ffordd y Lord .

 

 

Ffynonellau

William Bingley 1804. North Wales: including its Scenery, Antiquities and Customs (1st edition).

William Bingley 1839. North Wales: including its Scenery, Antiquities and Customs (3rd edition)

J.Evans 1812 North Wales – The Beauties of England and Wales, Vol 14, London.

David Hopewell. 2013. Roman Roads in North West Wales. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Bangor.

Edmund Waddelove  1999. The Roman Roads of North Wales; Recent Discoveries. Cyhoeddiad Preifat.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s