Nant Tŷ

nant-y-ty-20
Paentiad J.T. Parry o Nant Tŷ, casgliad preifat drwy ganiatâd

Prin fod neb bellach yn gwybod am Nant Tŷ, y murddun sy’n swatio’n ddisylw uwchlaw ceunant Cerrig y Rhyd ger Tan y Foel ar Afon Ffrydlas. A pham dewis adrodd stori am ddyheadau ac uchelgais y teulu a drigai yn yr adfail hwn rhagor na theuluoedd adfeilion eraill cyffelyb y dyffryn? Un rheswm yw bod hanes y teulu yn wybyddus inni, ond rheswm pwysicach yw y gwnaethpwyd paentiad olew o’r tŷ gan yr artist lleol J.T. Parry (1853-1913) ac mae’r paentiad ei hun yn symbol gweladwy o uchelgais y teulu ar dro’r ugeinfed ganrif.

nant-ty-2
Murddun Nant Tŷ heddiw

Nid oes cofnod o bryd yn union yr adeiladwyd Nant Tŷ, nid oedd yno yn 1768 er bod dau gae Nant Du yn perthyn bryd hynny i fferm fynydd Cymysgmai. Yn 1841 yr oedd Nant Du yn bodoli ac roedd yn gartref i ŵr gweddw John Rowlands ac oedd yn chwarelwr 60 oed ac i’w fab 25 oed John Thomas a’i briod Mary. Cofnodir bod ganddynt ferch naw diwrnod oed o’r enw Elinor ond nid oes cofnod o John y mab sy’n ymddangos yng Nghyfrifiad 1851 yn fachgen deuddeg oed. John Thomas oedd deiliad Nant Du hyd at 1871, er ei fod wedi mabwysiadu Rowlands fel cyfenw erbyn y cyfrifiad olaf a bod enw’r tŷ wedi newid o Nant Du i Nant y Tu a Nant Tŷ. Rhwng mis Ionawr 1837 a Rhagfyr 1852 ganed saith o blant i John a Mary ac fe oroesodd tair o ferched a thri bachgen. Afraid fyddai dilyn hynt a helynt yr holl blant; bu i bob un ond un sef Robert briodi a magu teulu, ac yr oedd rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill. Canolbwyntiwn felly ar Mary, hi oedd tin y nyth. Treuliodd rai blynyddoedd yn forwyn yn ei chartref yn Nant Tŷ cyn derbyn y cyfle i briodi â gŵr gweddw a oedd bedair blynedd ar bymtheg yn hŷn na hi. Symudodd i fyw i’w gartref ym Mhen y Bryn ac i dŷ sylweddol ei faint a llawer mwy na Nant Tŷ a adeiladwyd brin ddeng mlynedd ar hugain yn gynharach. Nid oedd teulu y Rowlansiaid yn eithriadol hapus ynghylch priodas Mary yn ôl y sôn.

penybryn-1884
Ffotograff o 1884 o’r cartref ym Mhen y Bryn y byddai Mary yn symud iddo ar ôl iddi briodi

Chwarelwr darbodus a diwylliedig oedd y gŵr hwn ac yn 1892 ganed un bachgen iddynt pan oedd Mary yn 39 oed. Yn 1908 bu farw ei gŵr gan adael Mary yn weddw, ond mewn amodau cyfforddus o ystyried cyflwr dirwasgedig Dyffryn Ogwen yn dilyn Streic Fawr 1900/03. Ar ddiwrnod ei angladd dywedir na fynnai teulu’r Rowlansiaid ddod i mewn i’r tŷ ond cytunasant i sefyll ar y ffordd gyferbyn. Ond er gwaetha’r trallod o golli ei gŵr yr oedd Mary yn uchelgeisiol iawn ar gyfer dyfodol ei  mab. Er iddo adael yr Ysgol Sir yn un ar bymtheg oed i weithio mewn swyddfa cyfreithiwr ym Methesda cofrestrodd yn 1910 i ddilyn cwrs diploma mewn peirianneg drydanol ym Mhrifysgol Bangor. Nid fel peiriannydd trydanol yr adnabyddir y mab, er iddo dreulio gyrfa yn y diwydiant, ond yn hytrach fel enillydd cyntaf medal ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 ac fel crëwr Siôn Blewyn Coch, un o hoff gymeriadau straeon cenedlaethau o blant Cymru.

nant-ty-1911
Ffotograff o Anne Rowlands, Margaret Pritchard a Daniel J Pritchard, preswylwyr olaf Nant Tŷ yn 1912

Yn y cyfamser John, brawd hynaf Mary, a symudodd i fyw i Nant Tŷ ac ef a’i deulu oedd yr olaf i fyw yno fel y dengys ffotograff o’i wraig Anne Rowlands sy’n sefyll o flaen y tŷ yn 1912. A dyma’r cyfnod pryd mae’n debyg y comisiynwyd J. T. Parry i beintio’r darlun o Nant Tŷ gyda’r wraig yn sefyll yn falch o flaen y drws ffrynt.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s