Ysbyty Brynllwyd

ysbyty%27r-chwarel
Ysbyty Chwarel y Penrhyn tua 1900. Delwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda.

Yr oedd sefydlu Cymdeithas Les Chwarel y Penrhyn gan Richard Pennant yn 1787 gyda’r bwriad o wella amodau gwaith a iechyd gweithlu’r gloddfa yn gam arloesol a thra chwyldroadol yn ei ddydd. Fel perchennog byddai Pennant yn ymwybodol o beryglon eithriadol y gwaith, o nifer y damweiniau a ddigwyddai yno, ac o’r nifer uchel o ddamweiniau angheuol. Cofnodwyd bod 214 wedi eu lladd yn y chwarel rhwng 1782 a 1865. Roedd llawer o’r marwolaethau yn ganlyniad diffyg rheoli’r amseroedd y gellid defnyddio ffrwydron, sefyllfa a arweiniodd y rheolwr i orchymyn yn 1855 mai ar yr awr yn unig y caniateid tanio. O ganlyniad lleihawyd nifer y marwolaethau, ond nid o reidrwydd y peryglon na nifer y damweiniau.

Ond i ddychwelyd at y Gymdeithas Les; fe’i sefydlwyd fel math o gynllun yswiriant i dalu am feddyginiaeth i’r rhai a anafwyd a budd-dal tra oeddynt yn gwella. Cyfrannai’r chwarelwr ddau swllt y chwarter i’r gronfa, ac o gael ei anafu’n ddifrifol, byddai’n derbyn saith swllt yr wythnos tra’n absennol o’r gwaith. Penodwyd meddyg i’r Gymdeithas ar dâl o £100 y flwyddyn, ond oherwydd bod y feddygfa ym Mangor nid oedd y ddarpariaeth yn ddigonol, ac yn arbennig felly i’r rhai a anafwyd yn ddifrifol.

ysbyty-gyda-dr-mills-roberts
Ysbyty Brynllwyd tua 1914 gyda Dr Mills Roberts yn sefyll ar ymyl chwith eithaf yr adeilad (?)

Dywedir fod lles a ffyniant ei weithwyr yn agos at galon Edward Gordon Douglas Pennant, er na fuasai’r gweithwyr yn cytuno bob amser â’i syniadau am eu lles, ac yn 1842 yn fuan wedi iddo ddod i olyniaeth y Penrhyn adeiladwyd ysbyty pwrpasol ar gwr gogleddol y chwarel ym Mrynllwyd. Cynlluniwyd yr adeilad i gynnwys 13 o welyau yn ogystal â nifer o ystafelloedd gorffwys a phenodwyd y Dr Hamilton Alfred Roberts i ofalu am yr ysbyty. Y gŵr hwn oedd un o’r meddygon arloesol cyntaf i ddefnyddio nwy ether fel anesthetig mewn llawdriniaethau. Yn Llundain ym mis Rhagfyr 1846 y defnyddiwyd ether gyntaf ym Mhrydain, a dilynwyd hynny ym mis Mawrth 1847 mewn llawdriniaeth ym Mangor, er na fu i’r claf hwn oroesi’r driniaeth. Ar ddydd Gwener 9 Ebrill 1847 defnyddiwyd ether yn llwyddiannus gan Hamilton Roberts yn Ysbyty Brynllwyd mewn llawdriniaeth i dorri coes chwarelwr, a hynny ym mhresenoldeb tri llawfeddyg arall o ysbyty Bangor, ffaith sy’n cadarnhau blaengaredd gwasanaeth y chwarel. Penodwyd nifer o feddygon i olynu Hamilton Roberts, ond ar droad y  ganrif gweithredai’r ysbyty fwyfwy fel canolfan feddygol ar alw meddygon lleol gyda’r triniaethau mwyaf cymhleth i’w danfon i ofal llawfeddygon ysbyty Bangor.

Yr oedd i’r Gymdeithas Les hefyd ei llwyddiannau yn ogystal â rhai argyfyngau. Yn fuan wedi lansio’r cynllun sylweddolwyd bod rhai yn cymryd mantais annheg ar y gyfundrefn drwy ffugio anhwylderau ac o ganlyniad gostyngwyd y taliad wythnosol i 3/6 yn hytrach na’r saith swllt cychwynnol. Daeth argyfwng gwaeth i’r wyneb yn 1874 pan ddarganfuwyd, drwy graffter Robert Parry, ‘Y Llywydd’, sef arweinydd hirben pwyllgor streic 1874 a saernïodd gytundeb pwysig Pennant Lloyd, fod diffyg o £2494/9/4 yn llyfrau’r gronfa. Daeth i’r amlwg mai prif oruchwyliwr y chwarel, a weithredai fel trysorydd y Clwb Cleifion, a gamddefnyddiodd yr arian er ei les ei hun ac fe’i diswyddwyd. Gyda dwys gyfrifoldeb am y fath gamwedd cytunodd Edward Gordon Douglas Pennant, yr ‘Hen Lord’, i unioni’r diffyg ar yr amod na erlynid y troseddwr. Yn ebrwydd diflannodd y goruchwyliwr o Ddyffryn Ogwen i dde Lloegr dan gwmwl. Nid y rheolwr oedd yr unig un i geisio mantais o’r Gymdeithas Les. Yn Ionawr 1892 gwrandawyd achos yn y Llys Sirol ym Mangor a ddygwyd gan y Doctor John Williams, Brynmeurig, yn erbyn W. J. Parry Coetmor Hall, Bethesda, yn hawlio costau o £55 am wasanaethau meddygol. Williams oedd meddyg y Gymdeithas Les a rhwng 1874 a 1887 hawliai fod Parry, yn rhinwedd ei swydd fel ysgrifennydd y Gymdeithas, a thrachefn dros gyfnod o ddeuddeng mlynedd tra oedd yn byw yn ei gartref, wedi mynnu sylw personol y meddyg. Dadleuai Parry fod ganddo’r hawl i dderbyn y gwasanaeth y meddyg oherwydd dyletswyddau ei swydd a chwynai ymhellach, fod costau teithio’r meddyg i’w gartref yn afresymol o uchel. Ffiniol i weithgaredd y Gymdeithas oedd y cweryl a drwgdeimlad personol rhwng y ddau a arweiniodd i’r achos fynd i gyfraith. Eto, mae’n enghraifft ychwanegol eto o haerllugrwydd unigolion a oedd yn ceisio manteisio ar gynllun mor anrhydeddus ei amcanion.

ysbyry-chwarel-7
Adfail truenus ysbyty’r chwarel yn 2016

Mae’n drist cofnodi fod ysbyty Brynllwyd, un o’r tri ysbyty a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer chwarel llechi yng Ngwynedd, bellach yn adfail trist ei gyflwr. O’i weld heddiw mae’n gofnod annheilwng iawn i wasanaeth arbennig a dderbyniodd gweithlu Chwarel y Penrhyn am gyfnod o dros ganrif.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866.  Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Jones, O. V.  1984 The Progress of Medicine: A History of the Caernarfon And Anglesey Infirmary 1809 -1948. Llandysul.

Roberts, Ernest.  1963. Bargen Bywyd fy Nhaid. Llandybïe.

Williams, J. Ll. W. 2011.  Pobol mewn dyled: astudiaeth o gyni a haerllugrwydd yn ardal y Bala ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd. 16 (2). tt. 172-189.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s