UNESCO a Thirlun Hanesyddol Dyffryn Ogwen

Ac mae Bethesda bellach yn rhan o gynllun Safle Treftadaeth y Byd yn hobnobio gyda Phyramidiau’r Aifft, Machu Picchu ym Mheriw, y Taj Mahal yn India a Chôr y Cewri yn Lloegr, i enwi ond dyrnaid o safleoedd byd-eang sydd ar restr dreftadaeth UNESCO! Ond gyda’r dynodiad daw cyfrifoldeb, a chyfrifoldeb sydd efallai heb ei egluro’n llawn gan y rhai sydd wedi hyrwyddo, ac a fydd o hyn allan, yn gwarchod y cynllun. Does dim dwywaith fod hwn yn gam pwysig yn hanes chwarelyddiaeth gogledd-orllewin Cymru, yn un i’w longyfarch a’i dderbyn yn wresog gan ei fod yn cynnig cyfleoedd arbennig i ddatblygiadau economaidd, amgylcheddol a diwylliannol os cânt eu datblygu yn gynaliadwy a chymeradwy er budd ein cymdeithas yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru.

Ond beth fydd ein cyfrifoldeb ni ym Methesda o fod yn rhan o’r cynllun hwn, a beth yn union sydd gan Fethesda i’w gynnig yn weladwy mewn dynodiad sydd mor uchelgeisiol ei bwyslais ar gadwraeth y safleoedd chwarelyddol a gwarchodaeth y tirlun hanesyddol? Ar un amser, yr oedd tirwedd Dyffryn Ogwen yn ddrych digymar i lafur ac ymroddiad y gorffennol. Nid hynny mo’r gwirionedd mwyach. Mae’r chwarel mewn gwaith, y pentref yn bod, a’r gymdeithas ar ei newydd wedd yn ffyniannus. Ond o edrych yn ofalus diflannodd sglein y tirlun hanesyddol drwy esgeulustod a dibristod hanner canrif a mwy o ddryllio ein treftadaeth.

Pan sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, gadawyd pob un o’r pentrefi chwarelyddol yn ynysoedd a oedd yn rhy frwnt i’w cynnwys o fewn tiriogaeth y Parc. A dyna eironi’r sefyllfa heddiw, sef mai’r ynysoedd ‘brwnt’ yw’r ‘perlau’ sydd i’w gwarchod fel rhan o’r cynllun treftadaeth. Canlyniad yr esgymuno bwriadol oedd iddo greu agwedd gwbl ddibris at gadwraeth ein treftadaeth hanesyddol. Dechreuodd yr alanastra yn Nyffryn Ogwen pan aeth Chwarel y Penrhyn i ddwylo barus cwmni rhyngwladol, a dilynwyd hyn gan gynllun y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd bryd hynny, i chwalu hen chwarel Pantdreiniog yng nghanol y pentref oherwydd peryglon y safle. Yn dra anffodus, bu i’r ddau drefniant greu agwedd o ddiffyg parch yn y gymuned at ein treftadaeth hanesyddol, ac yn fwy anffodus fyth, cafwyd yr awdurdodau cadwraethol sydd heddiw yn heidio, blithdrafflith, i warchod ein treftadaeth hanesyddol – Stad y Penrhyn, Cyngor Sir Gwynedd, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CADW, Y Comisiwn Brenhinol, Y Parc Cenedlaethol, a’r sefydliadau eraill sy’n perthyn i’r consortiwm cadwraethol – yn hepian cysgu megis wrth ddrws agored y stabal.

Chwarel penrhyn 5
Mawredd ponciau chwarel y Penrhyn cyn y distryw

Chwarel y Penrhyn oedd gem bensaernïol holl chwareli gogledd Cymru, yn gyfanwaith cymesur, urddasol a naddwyd ris wrth ris i glogwyni’r Fronllwyd drwy lafur cenedlaethau o chwarelwyr diwyd. Ac yr oedd harddwch i’w ganfod yn nhrefnusrwydd y distryw. Diflannodd yr hen ogoniant pan bwrcaswyd y chwarel gan gwmni barus rhyng-genedlaethol gan gychwyn cyfnod o ysbeilio’r gloddfa i ennill y geiniog olaf drwy ddistryw ffrwydrol direol. Yr oedd y chwarel yn hen ffasiwn ac angen ei moderneiddio, ond nid drwy fandaleiddio ei gorffennol. Chwalwyd y ponciau ar ochr chwith y gwaith, arllwyswyd miloedd ar filoedd o dunelli o rwbel i lenwi’r twll, a rhwygwyd peirianwaith y systemau heidrolig oedd wedi ei weithio drwy gydol cyfnod ei datblygiad – peiriannau a oedd yn eu dydd ymhlith y mwyaf blaengar ym myd chwarelyddiaeth. Gyda chynllunio mwy hyderus gallesid fod wedi arbed rhannau mwyaf hanesyddol y gwaith i’w gwarchod yn gofadeiliau byw ar gyfer addysgu’r dyfodol. Ac er ein gwarth, cofadail mwyaf gwarthus y chwarel yw’r ysbyty yn ei chyflwr cyfeiliornus, sefydliad a gyfrannodd yn arloesol yn ei ddydd at feddygaeth gymunedol a chenedlaethol. A gwell peidio â sôn am reilffordd y chwarel a werthwyd yn ddigywilydd yn sgrap, a’r injans stêm yn drysorau i’w gweld mewn sefydliadau mwy goleuedig ledled Prydain a’r tu hwnt, ond yr un bellach yn pwffian yn hudolus yn Nyffryn Ogwen.

A hanes tebyg sydd i gadwraeth pentref Bethesda – nid yr harddaf o bentrefi Cymru ond un sydd ag iddo gymeriad unigryw. Amgylchiadau gwahanol sydd wedi amddifadu’r pentref o’i dreftadaeth ddiwylliannol. Aethpwyd ati’n ddi-feind i chwalu y rhan fwyaf o gapeli’r fro – Carmel, Carneddi, Giatws, Hermon, Salem, Siloam, Tabernacl, Treflys,  Saron, Peniel, Penygroes, Amana, Gerlan – oll yn sefydliadau ysbrydol a diwylliannol ac yn gofgolofnau pwysig yn y tirlun hanesyddol. Paham y distryw heb ystyried dulliau mwy cynhwysol o gadwraeth gynaliadwy? A dyna hanes trist stryd fawr y pentref. Yr oedd i’r stryd fawr ei statws fel prif wythïen fasnach y gymuned, tra ei bod hi hefyd yn enghraifft gyflawn, ddiddorol o bensaernïaeth o Oes Edward a Fictoria.  Penllwydni rhyfeddol oedd penderfyniad y gymuned yn y 1970au i wrthod cael ffordd osgoi i’r pentref, gyda’r canlyniad fod yn agos i gant a mwy o lorïau’r dydd yn tagu rhwydd ddefnydd ohoni heddiw gan danseilio ei masnach a’i phriodoldeb cymdeithasol. Ac yn yr un cywair di-feind aethpwyd ati i fylchu ei hundod pensaernïol. Os mai’r bwriad oedd adnewyddu ei defnyddioldeb cymdeithasol drwy greu encil cymunedol yn Llys Dafydd drwy chwalu’r tai gwreiddiol a’u cyfnewid am grocbren erchyll ei luniad, yna aflwyddiant fu’r cynllun tra bo trafnidiaeth ddi-baid y dydd yn taranu heibio. Pa ddiben felly oedd creu adnodd prin ei ddefnydd ar draul bylchu cydbwysedd cymhlethiad unigryw yn y tirlun hanesyddol?

Yn bresennol mae 34 o safleoedd cofrestredig a phedair ardal gadwriaethol yn Nyffryn Ogwen, oll ar gofnod eu gwarchod, ac mae’n amlwg y dewisir mwy o safleoedd yn y dyfodol i atgyfnerthu’r dynodiad.  Nodir y rhestr isod gan mai ychydig a ŵyr leoliad y safleoedd na’r rhesymau o blaid eu dynodi. Yn eu plith mae rhesdai Caerberllan sy’n enghraifft arbennig o dai gwaith o gyfnod cynnar yn y 19g. Yno, mae’r pwyslais cadwraethol ar ddiogelu lluniad y tai – dim ffenestri a drysau plastig i’w anharddu a’r canopi uwch y drws ffrynt wedi eu cadw yn ddiwahân. Ond os diogelu’r tai, paham nad y gerddi a oedd yn rhan annatod o’r datblygiad gan Stad y Penrhyn? Yno yr oedd y cwt glo, y cwt golchi dillad, ac ym mhen draw’r ardd, y lle chwech. Prin fod yr un o’r adeiladau hyn yn aros – un neu ddau o gytiau glo ac un lle chwech drylliedig, yr holl gynllun yn ei gyfanrwydd wedi ei chwalu drwy esgeulustod gan y gwasanaethau cadwraethol, ac megis un enghraifft yw hon o nifer lle mae cynllunio direol wedi anharddu bythynnod a thai traddodiadol ein bro. Nid yw cadwraeth ein treftadaeth hanesyddol yn golygu cadw pob twll, tomen a thwlc yn y tirlun ond mae’n golygu ceisio gwarchod rhai enghreifftiau arbennig yn eu cyfanrwydd fel eu bod yn ddrych o’r gorffennol i’w cyflwyno i gymdeithas newydd ddeallus y presennol. A dyna fydd amcan cynllun Treftadaeth y Byd i ni yn yr ardal hon.

Nid ar chwarae bach y dewiswyd Dyffryn Ogwen i fod yn rhan o’r dynodiad, ond mae cymalau niferus yn clymu’r anrhydedd i ofynion UNESCO drwy ofalaeth corff World Heritage Watch.  Ac os bydd y warchodaeth yn anaddas yng ngolwg y corff hwn gall hynny arwain at golli statws y dynodiad fel y digwyddodd yn ddiweddar yn hanes dinas Lerpwl. Mae gan hyn ei oblygiadau hirdymor bid sicr, er na ellir yn hawdd eu deall yn ieithwedd jargonistig-gymylog cyflwyniad y cynllun. Yn Nyffryn Ogwen, mae’r cynllun yn ddewisol iawn ei ffiniau a’i gynnwys- yn ganolog ynddo mae pentrefi Bethesda, Gerlan, Mynydd Llandygái a Llandygái, ac mae rhannau ochr chwith y chwarel o’i fewn, fel mae tentaclau llwybrau rheilffordd y chwarel, Lôn Las Ogwen a Ffordd Telford i gysylltu â’r cei yn Abercegin. Nid yw Rachub, Llanllechid na Thregarth yn rhan o’r cynllun, ac yn y dynodiad ehangach nid yw Llanberis, Pen-y-groes, Llanllyfni na’r Felinheli o fewn cwmpas y tirlun dewisedig.

Yn y cyflwyniad jargonistig, cyfeirir at effeithiolrwydd y system gynllunio i warchod y ‘living urban areas’ sydd, o ddarllen rhwng y llinellau, i gynnwys traddodiadau diwylliannol cryf yr ardal, gyda chyfeiriad ymyl y ddalen megis at arfer y bröydd o ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y diwylliant. Yn ei hanfod nid cynllun diwylliannol mo’r hyn a gyflwynir yn nynodiad Treftadaeth y Byd oherwydd ei brif amcan yw cadwraeth yr elfennau ffisegol sydd yn y tirlun – cofrestrir y safleoedd o bwys, gosodir mesurau i’w gwarchod o fewn Cynllun Rheoli Lleol, a sefydlir strategaeth fonitro i werthuso effeithiolrwydd y cynllun rheoli. Ychwanegir at nifer y safleoedd yn yr ofalaeth a disgwylir bod holl werthoedd y cynllun treftadaeth yn cael eu gwarchod gan y prosesau cynllunio. Sefydlir strategaethau i hybu twristiaid i fynychu ‘eiddo’ y dynodiad ond nid oes gair am greu cynlluniau i warchod yr iaith Gymraeg o fewn y tirlun hanesyddol. Gellir barnu, o ddarllen rhwng llinellau’r argymhellion uchod, fod ton ychwanegol o fiwrocratiaeth i gael ei ychwanegu ar gefn ein cymdeithas.

Prif wers Dyffryn Ogwen i’w dysgu i Gynllun Treftadaeth y Byd UNESCO yw’r modd y tanseiliwyd gwarchodaeth ar y dreftadaeth hanesyddol drwy fynnu budrelw, drwy gamweinyddu, drwy ddiffyg cynllunio strategol, drwy arweiniad diffygiol a bwnglera ymhlith y cyrff a oedd i fod i wybod, ac a ddylai fod wedi gweithredu’n well yn y gorffennol. Gyda chymaint o drwynau’r amryfal asiantaethau a sefydliadau statudol cadwraethol yn y cafn, a ellir disgwyl llawer gwell yn y dyfodol dan gynllun mawreddog UNESCO i warchod treftadaeth frau ein hiaith a’n diwylliant hanesyddol yma yn Nyffryn Ogwen? Amser a ddengys pa frwdfrydedd fydd gan y gwas newydd o gofio ei bod yn haws sefydlu na gweithredu gwarchodaeth.

*Daw’r tri llun yn yr erthygl hon o gasgliad y diweddar Alaw Jones, Parc Moch drwy garedigrwydd a chaniatâd

Rhestr Adeiladau Rhestredig Bethesda

Capel Bethania – Gradd 2

Gwesty’r Victoria – Gradd 2

King’s Head – Gradd 2

11 Stryd John – Gradd 2

10 Stryd John – Gradd 2

18 Ffordd Penybryn – Gradd 2

16 Ffordd Penybryn – Gradd 2

Capel Jerusalem – Gradd 1

Eglwys Glanogwen  – Gradd 2

1 Rhes Ogwen – Gradd 2

2 Rhes Ogwen – Gradd 2

8 Rhes Ogwen – Gradd 2

10 Rhes Ogwen – Gradd 2

17 Rhes Ogwen – Gradd 2

22 Rhes Ogwen – Gradd 2

Cofeb y Rhyfel – Gradd 2

Carreg Filltir Telford  Rhos y Nant – Gradd 2

Pont y Gaseg – Gradd 2

Ffermdy Abercaseg – Gradd 2

Pont Abercaseg – Gradd 2

Caerberllan 1 – 12 – Gradd 2

Ardaloedd Cadwraeth

Rhes Gordon

Rhes Elfed

Lôn y Graig

Braichmelyn

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s