
Ymwelodd Thomas Telford gyntaf â Dyffryn Ogwen yn 1811 gan wneud hynny yng nghwmni George Hay Dawkins, nai Richard Pennant, a’i olynydd fel Arglwydd y Penrhyn. Bu’r ddau yn marchogaeth drwy’r ardal i ddewis y llwybr mwyaf cymwys ar gyfer y ffordd bost newydd a oedd i gysylltu Llundain â Chaergybi. Dewisodd rannu’r gwaith o adeiladu’r ffordd yn nifer o adrannau – y cyntaf o Lyn Ogwen i Dŷ Gwyn; yr ail o Bont Ogwen i Bont Ffrydlas; y drydedd o Bont Ffrydlas i Bont y Pandy; y bedwaredd o Bont y Pandy i Lôn Isa. Enillwyd y contract i adeiladu’r adran o Bont Ogwen i Bont Ffrydlas gan Thomas Evans, tirfesurydd o Riwabon ac adeiladydd nifer o rannau’r ffordd yn ardal Llangollen. Pris y contract, oedd £1669 ac fe’i harwyddwyd ym mis Awst 1818. Rhan o’r contract oedd adeiladu tair pont i groesi afon Ffrydlas, afon Gaseg ac afonig y Gaseg, y gyntaf yn ôl y cynllun gyda’i bwa yn 10 troedfedd, yr ail yn 20 troedfedd a’r drydedd yn 40 troedfedd.

Yr oedd yr anghenraid i adeiladu pont dros afonig y Gaseg yn ddiddorol. Yn y tair blynedd rhwng 1798 a 1800 cofnodwyd tywydd eithriadol ddiflas yn ardal Dyffryn Ogwen – dioddefwyd sychder mawr yn ystod 1798 ac yn y ddwy flynedd ganlynol cafwyd eira a rhew eithriadol a barhaodd hyd at fis Mehefin 1799. Dilynwyd y tywydd caled ym mis Gorffennaf gan lifogydd enfawr fel canlyniad i lawiad ffrwydrol yn ucheldir y Carneddau . Fel canlyniad newidiwyd tirlun rhai mannau yn yr ardal. Disgrifiwyd yr amgylchiad gan Hugh Derfel Hughes fel .’..y digroenwyd yr Elen ac yr holltodd Afon Gaseg iddi wely newydd, nes ymffurfio yn ddwy fforch a llunio delta cyn cyrraedd yr Ogwen’.
Yn dilyn y cenlli difrodwyd nifer o brif bontydd yr ardal gan gynnwys y Bont Uchaf ar afon Ffrydlas, Pont Coed y Parc ar afon Galedffrwd a Phont Ogwen a Phont Gaseg ar eu hafonydd priodol. Yn Nant Ffrancon llithrodd y mynydd i gladdu ffermdy Pentref ac mae’r domen anferth a lithrodd dros y ffermdy gwreiddiol i’w gweld yno heddiw yn tra-arglwyddiaethu dros y fangre.
Tybed pa newid ddaw i Ddyffryn Ogwen y dyfodol wrth i effeithiau cynhesu byd eang ddwysau?
Ffynonellau
Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003 Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA Research Report 135. CBA York
Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda
J. Ll. W. Williams; Lowri Wynne Williams 2015. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 76, 35-60
Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Caernarfon – Cynlluniau XB/185 – Plan of bridge over River Gaseg, 1800