Eglwys St Cross

Delwedd 1
Eglwys St Cross yn edrych i gyfeiriad y dwyrain

Mae eglwys St Cross wedi ei lleoli ym Mhonc y Lôn ar fin yr hen ffordd Dyrpeg wreiddiol sy’n arwain o bentref Talybont i gyfeiriad y dwyrain a Than y Lôn, ac o fewn ychydig fetrau i’r de o wal amgylchynol Parc y Penrhyn. Adeiladwyd  yr eglwys yn 1892 gydag arian a gasglwyd yn wirfoddol i goffáu Edward Gordon Pennant, Arglwydd y Penrhyn, y cymwynaswr a fu’n gyfrifol am adeiladu neu ail adeiladu holl eglwysi Anglicanaidd y fro yn ystod cyfnod ei deyrnasiad. Bu ef farw yn 1886.  Cynlluniwyd yr eglwys gan y pensaer Thomas Dinham Atkinson i gynllun Neo Normanaidd braidd yn foel, sy’n cyfateb  i bensaernïaeth lem castell y Penrhyn gerllaw. Adeiladwyd y muriau allanol gyda cherrig rwbel cyffredin ond defnyddiwyd carreg galch o Benmon i amlygu adeiladwaith capanau  a fframwaith y ffenestri.  To llechi sy’n diddosi’r adeilad. Amgylchir yr eglwys gan ei mynwent.

Mae cynllun mewnol yr eglwys yn hynod syml mewn dull canol oesol clasurol sy’n adlewyrchu dylanwad uchel eglwysig yr Oxford Movement o’r cyfnod. Mae’r corff a’r gangell o’r un lled a’r un uchder gyda’r clochdy yn eu gwahanu. Pwysleisir symlrwydd y cynllun mewnol yn y fflagiau llechi ar y llawr; gan waith coed y meinciau; trawstiau cyplog nenfwd y corff a nenfwd panelog y gangell.

Delwedd 2
Ffenestr liw fendigedig Burne Jones yn yr eglwys

Mae’r ffenestr liw uwchlaw’r allor ym mhen ddwyreiniol yr eglwys yn un dra arbennig. Mae’r ffenestr ar gynllun triphlyg yn darlunio Crist yn cael ei groeshoelio. Ei chynllunydd oedd neb llai nag Sir Edward Burne-Jones (1833-1898), artist a ailsefydlodd y grefft o gynllunio ffenestri lliw fel aelod blaenllaw a thra dylanwadol o fudiad artistig y pre Rhaphelite a’r Arts and Craft Movement ym Mhrydain yn ystod chwarter olaf y 19g. Ganed Burne-Jones yn Birmingham, ei dad yn Gymro, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, a’i fwriad oedd mynd yn offeiriad. Yn y coleg daeth yn gyfeillgar â William Morris ei gyd fyfyriwr, ac ymddiddorodd y ddau ym mhob agwedd o Chwedloniaeth Arthur a manylion bywyd cymdeithasol ac artistig y Canol Oesoedd.  Gadawodd Burne-Jones y coleg heb raddio i gychwyn ei yrfa fel artist a chynllunydd yn Llundain. Yno hefyd yr aeth Morris, gŵr o ddoniau eithriadol fel artist, cynllunydd, bardd, athronydd a sosialydd o anian, ac ym mhen y rhawg sefydlwyd cylch mudiad artistig y pre Raphelite gyda Dante Gabriel Rossetti, Morris a Burne-Jones yn aelodau amryddawn a phur nodedig. Arweiniodd cyfeillgarwch y tri at gydweithredu mewn nifer o feysydd artistig ac yn 1861 i sefydlu cwmni dylanwadol Morris & Co  i gynhyrchu amrywiaeth eu cynlluniau mewn defnyddiau, tecstilau, tapestri, papur wal, dodrefn a ffenestri lliw.  Burne-Jones oedd yn gyfrifol am gynllunio’r ffenestri lliw drwy adnewyddu gydag asbri a ffresni hen grefft o’r canol oesoedd oedd wedi prysur fynd i ddifancoll. Ystyrir mai cyfnod wyth degau a nawdegau’r ganrif oedd oes aur ei gynhyrchion lle gwelir lliwiau’r gwrthrychau ar eu cyfoethocaf mewn gwrthgyferbyniad â thrymder y fframwaith plwm sy’n cynnal y gwydr.  Mae ffenestri lliw Burne-Jones yn addurno nifer fawr o adeiladau pwysig ym Mhrydain a Gogledd America sy’n cynnwys eglwysi, neuaddau cynadleddau ac ysbytai, ac felly mae presenoldeb un o’i gampweithiau yn Eglwys St Cross yn fater o falchder mawr i ni drigolion Dyffryn Ogwen. Mae’r ffenestr yn dyddio i 1908 ac fel y mwyafrif yn gynnyrch cwmni Morris & Co er bod ei chynllunydd erbyn hynny wedi marw rai blynyddoedd ynghynt. Cyfarwyddwr artistig cwmni Morris & Co erbyn hynny oedd John Henry Dearle, gŵr a oedd wedi ymdynghedu i gadw at draddodiad artistig y cynllunydd, ac mae’n bur debyg mai yn ei weithdy ef yn Abaty Merton gerllaw Llundain y gwnaethpwyd y ffenestr i gomisiwn a gyflwynwyd gan garedigion y  Penrhyn rai blynyddoedd ynghynt.

Delwedd 3
Bedd Owen Williams, Talybont yn y fynwent

Mae cyfnod adeiladu eglwys St Cross yn cydredeg â blynyddoedd blin yr anghydfod diwydiannol mawr yn hanes Dyffryn Ogwen yn rhedeg o 1896 ymlaen i 1903.  Ac ym mynwent yr eglwys y digwyddodd un o’r achlysuron chwerw hynny sy’n amlygu terfysg trist yr ymrafael.  Ar y degfed o Fehefin 1902 cynhaliwyd angladd Owen Williams o Dalybont, gŵr priod 37 oed a diacon yng nghapel Bethlehem, a fu mewn damwain ym mhwll glo Fochriw, Dowlais. Adroddwyd yn yr Herald Gymraeg fod Côr y Penrhyn – oedd ar daith casglu arian yn Ne Cymru ar y pryd – wedi hebrwng Owen Williams, a bachgen deunaw oed o Gaellwyngrydd a laddwyd yn yr un ddamwain, gartref i’w claddu yn Nyffryn Ogwen. Yn y cynhebrwng ar y prynhawn Sul mae’n amlwg fod teimladau pur anghysurus yn treiddio drwy’r dorf, yn arbennig pan sylweddolwyd fod yno o leiaf dri pherson yn bresennol oedd wedi dewis torri’r streic a dychwelyd i’r chwarel. Bygythiwyd y gwŷr hyn yn eiriol ac yn gorfforol gan nifer o ddynion oedd ar streic a hebryngwyd hwy o’r fynwent gan ddatgan y byddai’r ddau i’w claddu, y gŵr a’r bachgen, yn fyw pe byddent hwy fel streicwyr heb orfod gadael yr ardal i chwilio am waith yn groes i’r bradwyr a’u tebyg.

Delwedd 4
Carreg fedd W. J. Parry yn y fynwent

Mewn cywair tra gwahanol, ond yr un mor drist, mae yn y fynwent un bedd tra annisgwyl. O fewn trem, fwy neu lai, o olwg castell y Penrhyn y claddwyd W. J. Parry, yr ymladdwr dygn yn erbyn trahauster unbenaethol perchnogion y castell, y stad a’r chwarel. Ei brif wrthwynebydd oedd George Sholto, deiliad y Penrhyn, a phrif ysgogydd sefydlu’r eglwys. Yno yn St Cross, mewn mynwent Anglicanaidd, y gorwedda gyda’i ail wraig, Mary Pugh, a fu farw ym mis Chwefror 1900.  Cymraeg yw geiriau’r arysgrif ar y garreg fedd.  Ym mis Medi 1927 y bu Parry farw, yn ŵr balch ond siomedig, ei flynyddoedd olaf dan gwmwl dyledion ariannol a chwestiynau mawr ynghylch diffuantrwydd rhannau o’i yrfa. Ei drydedd wraig oedd Mary Guy, Saesnes o gyrion Birmingham, ac yr oeddynt yn briod er 1902.  Mae’n debyg nad oedd llawer o lawenydd yn y briodas  a barhaodd am chwarter canrif a mwy, ac mae’r ffaith iddo gael ei gladdu gyda’i ail wraig ym mynwent St Cross yn adrodd cyfrolau am ddiffyg dedwyddwch blynyddoedd olaf ei fywyd. Bu farw Mary Guy chwe blynedd yn dilyn marwolaeth ei gŵr ac fe’i claddwyd hi mewn bedd unig a diarffordd ym mynwent yr eglwys yng Nghoetmor.

Delwedd 5
Carreg fedd Mary Guy ym mynwent yr eglwys Coetmor

Yn dilyn ei marwolaeth bu ffrae deuluol chwerw ynghylch etifeddiaeth Parry.  Mae’n drist cofnodi yr halogwyd bedd Mary Guy yn fwriadol gan ddinistrio’r groes farmor oedd yn gofadail barchus ar ei bedd, a hynny mewn mynwent y mae cyflwr arbennig o drefnus i weddill ei chladdedigaethau. Flwyddyn yn dilyn marwolaeth Mary Guy yn 1933 llosgwyd cartref urddasol Parry yn Coetmor Hall i’r llawr a hynny o dan amodau eithriadol amheus.

Os diffyg dedwyddwch a amlygir yn hanes rhai o feddau mynwent eglwys St Cross, yna trawsnewidir y cywair lleddf wrth ryfeddu at ffenestr ogoneddus Burne-Jones, sy’n darlunio un o benodau mwyaf tyngedfennol Cristnogaeth, sef croeshoeliad Crist. Ac yn yr act farbaraidd honno onid oes rhaid edrych am gymod a maddeuant.

Diolch i’r Fns. Ann Williams, Llwyn Bleddyn, am hwyluso’r trefniant i gael llun o ffenestr wydr Burne-Jones.

Ffynonellau

  1. Haslam, J. Orbach, A Voelcker. 2009. Buildings of Wales.

Daily Reports Chwarel y Penrhyn Hydref 1901- Medi 1902.  Cofnodion yn Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor.

Yr Herald Gymraeg,  Mehefin 10fed 1902.

Gadael sylw