Kennedy’s Patent Self Closing Wall Fountain – model D19 – Tapiau dŵr Mynydd Llandygái

Cyfraniad ar y cyd â Helen Hughes, Nant y Graean, Tregarth. Helen sydd yn haeddu’r clod am fod y cyntaf i sylwi ar y nodweddion pwysig yn hanes ein bro a drafodir yn y nodyn hwn.

1854 oedd y flwyddyn y derbyniodd Bethesda gyflenwad dŵr yfed am y tro cyntaf a hynny o gronfa a phurfa a adeiladwyd yn arbennig yn Tŷ Dŵr ar Afon Gaseg ger Nant y Graen ym Mraichmelyn. Cynlluniwyd y gronfa i wasanaethu dinas Bangor yn bennaf, a thrwy agosrwydd y trothwy megis, y cynhwyswyd gofynion pentref Bethesda yn y cynllun.  Deddf Gwelliant Bethesda yn 1854 wnaeth awdurdodi’r cynllun, a chyfrannodd yr Arglwydd Penrhyn £1000 at wella’r cyfleusterau yn ogystal. Golygodd y Ddeddf gadarnhau gwell safonau adeiladu tai yn y pentref, a chynlluniwyd system o garthffosydd integredig i ofalu fod glendid cyffredinol y gymdeithas ar ei mantais, tra bo’r cyflenwadau o nwy o waith cynhyrchu ar gwr gogledd y pentref yn sefydlu trefn o oleuo’r pentref. 

Ond pentref Bethesda yn unig oedd i elwa o welliannau’r Ddeddf ac nid Dyffryn Ogwen yn ei gyfanrwydd. Cyn i’r Chwyldro Diwydiannol ddechrau llygru amgylchedd y dyffryn ar derfyn y ddeunawfed ganrif, cyfres o ffynhonnau a fyddai wedi cyflawni’r gofyn am ddŵr yfed i’r gymdeithas, fel ym mhob ardal arall gyffelyb yng nghefn gwlad Cymru’r cyfnod.  Yn ein hardal ni cofnodwyd lleoliad nifer o’r ffynhonnau hyn mewn enwau caeau sydd yn Arolwg Stad y Penrhyn yn 1768. Yn y ddau blwyf, Llanllechid a Llandygái, mantais eithriadol oedd bod yn agos at gyflenwad y dŵr, boed hynny mewn tyddyn, fferm neu dreflan. Y gred oedd y byddai’n annhebygol i ddŵr y ffynnon fyth rewi, ac os oedd llyffant yn lletya yn ei dyfroedd byddai hynny yn gwarantu purdeb ei hylif. Felly, yng nghymuned Hen Gerlan ffynnon y fferm oedd yn dyfrio gofyn bythynnod gwreiddiol y dreflan ymhell cyn i resi tai canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gael eu hadeiladu, ac yr oedd y ffynnon yn Gwernydd at ddefnydd y rhes tai cynnar a oedd yno. Ym Methesda, ar gwr eithaf y pentref yn Nolgoch, pistyll agored ar fin ffordd fawr Telford oedd tarddle dŵr yfed preswylwyr y rhes bythynnod hyd at derfyn yr Ail Ryfel Byd. A tybed pa ran chwaraeodd y ffynnon yn sefydlu lleoliad dwy ganolfan tai pwysig ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym mhlwyf Llanllechid, y naill yn Rachub a’r llall yn Gerlan lle mae Stryd y Ffynnon yn ganolog i’r ddau ddatblygiad?

Hanes tebyg sydd ym mhlwyf Llandygái lle mae’n amlwg i ffynhonnau chwarae rhan sylfaenol bwysig yn y broses o anheddu llwyfandir agored Mynydd Llandygái yn y cyfnod yn dilyn 1768. Ni fyddai gan bob ‘ffynnon’ ei siafft o reidrwydd ond yn hytrach gallasai fod yn bwll cyfleus i oedi dŵr y ffrwd. Yr oedd yno ffynnon yn Nhŷ’n Buarth, Penllyn ar Lôn’r Ynys ac yng Nglanrafon Bach, a ffynnon, a’i dŵr i’w rannu rhwng dau dyddyn oedd ym Mryniau Gwyddelod hefyd, tra sefydlodd ffynnon ym Modfeurig leoliad y tyddyn yn Ffynnon Bach. Islaw cefnen Braich Talog yn Nhre-garth dŵr Cae Ffynnon oedd yn dyfrio tyddyn Tanrhiw ac o leiaf dri annedd arall a oedd gyfagos.

Wedi gobeithio derbyn cynllun dŵr yfed cynhwysfawr, dewis tra gwahanol oedd gan breswylwyr plwyf Llandygái chadael eu cyfoedion yn Llanllechid. Tiriogaeth yr Arglwydd Penrhyn oedd plwyf Llandygái yn ei gyfanrwydd a ‘doedd dim gofyn iddo ef brofi i’w blwyfolion ei awdurdod haelionus megis ym Methesda. Mae’n rhesymol nodi, er hynny, fod amgylchiadau’r plwyf yn dra gwahanol. Nid oedd yno gronfa i buro’r dŵr, ac i gymhlethu’r sefyllfa fwyfwy, roedd patrwm anheddu eithriadol wasgaredig a diffyg canolfannau niwcledig fel oedd yn y plwyf gyferbyn. Ond yr oedd yno ffrydiau lawer i’w harneisio yn llifo o Waun Gynfi – digon i gynllunio math o gyfundrefn amrwd a phur gyntefig, ond eto cyfundrefn led effeithiol, er budd y gymuned. Pan sefydlodd yr Arglwydd dair stryd o dai yn y Gefnan, Llwybr Main a Thanybwlch yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gofalodd fod ffos danddaearol yn rhedeg drwy gaeau perthynol y tair rhes gydag agoriadau digonol, fwy neu lai, ym mhob cae ar gyfer codi dŵr i ddisychedu’r anifeiliaid – o gofio wrth gwrs mai  un o  gynseiliau pennaf y cynllun anheddu oedd ‘an acer and a cow’. Ond yno hefyd yr oedd nifer o ‘ffynhonnau’ wedi eu dosbarthu blithdraplith,  rhai yn agos at y tai, eraill beth pellter i ffwrdd, ychydig mewn caeau ond eraill ar ymyl y ffordd neu gyffordd yn y lôn, ond oll yn byllau arbennig i oedi ffrwd y nentydd a fyrlymai’n iraidd drwy’r ardal. Mae map ordnans 1888 yn dangos yn eglur amlder y dosbarthiad, a nifer o’r safleoedd yn gynseiliau, bid sicr, i ffynhonnau ychydig yn fwy soffistigedig mewn cynllun mwy cynhwysfawr a ddilynodd yn ddiweddarach. Ymddengys i’r cynllun elfennol oroesi hyd at dro’r ganrif pan sefydlwyd cynllun mwy cymeradwy bryd hynny. Tro’r Awdurdod Lleol,  gyda chytundeb ac efallai nawdd gan berchnogion y Penrhyn, oedd datblygu cynllun mwy effeithlon a  chynaliadwy i breswylwyr plwyf Llandygái.

Cyngor Gwledig Ogwen oedd berchen ar y cynllun gyda ffynhonnell y dŵr i’w dderbyn oddi uchod yn nyfroedd Llyn Marchlyn. Ffrydiai’r dŵr oddi yno i adeilad sy’n ymddangosiadol ddigyswllt, ei bwysigrwydd yn anghofiedig erbyn heddiw, yng nghanol gweundir Gwaun Gynfi. Yno yr oedd tarddle pibell danddaearol a  yrrai’r dŵr i danc cronni ym Mhant yr Afon, Bodfeurig, i’w ddanfon ymlaen i Sling a Thregarth, cyn gorffen y daith ar Ynys Môn. Canghennau o’r bibell hon a rannai’r dŵr drwy weddill y plwyf, a gellir olrhain llwybr y cyflenwad yn y cyfresi o dapiau cymunedol a leolwyd  mewn mannau canolog hwnt ac yma i dynnu dŵr o’r sustem. Teclyn ar ddalen o haearn bwrw, a bollt yn ei ganol i agor llif y  dŵr drwy’r pig, oedd y ddyfais, ac uwchben y follt moldiwyd ar ffurf pedol y geiriau ‘T Kennedy patent’.  Gan amlaf gwarchodwyd y tapiau mewn encilion pwrpasol ym môn y wal, ond erbyn heddiw dim ond yr encilion sy’n nodi’r lleoliad, ac eithrio mewn rhai safleoedd go arbennig lle erys dyfais y tap yn ei gyfanrwydd.

Fig 4
Tudalen o gatalog cwmni Glenfield and Kennedy yn 1916 yn dangos y tap D19 ond heb nodi ei bris

Gwneuthurwr y ddyfais oedd cwmni Kennedy o Kilmarnock yn yr Alban, ac wrth gwrs enw gorwych tap y cwmni a ddefnyddiwyd yn deitl i’r nodyn hwn.  Er hynny, un o greadigaethau mwyaf distadl cwmni Kennedy oedd y D19.  Yn ei ddydd yr oedd cwmni Kennedy yn enfawr ei faint a’i bwysigrwydd, ac yn bennaf gynllunydd ffynhonnau dinesig addurnol gyda marchnad ryngwladol rymus i’w pryniant. Sefydlwyd y cwmni yn 1863 yn arbenigo mewn cynllunio a chynhyrchu gwahanol fathau o ddyfeisiadau dyfrio ac yn rhannu safle â chwmni Glenfield a oedd yn gyfrifol am gyflawni gwaith haearn bwrw’r creadigaethau. Yn 1899 ymunodd y ddau i ffurfio cwmni Glenfield and Kennedy ac mae’r dyddiad hwn yn rhoddi bras amcan o ddyddiad creu rhwydwaith dŵr yfed plwyf Llandygái. Ond er mor dderbyniol y cyflenwad, cynllun cymunedol, ac nid er hwylustod i ddrws y tŷ, a gyflwynwyd gan yr Awdurdod, ac ysywaeth nid oedd traeniad carthffosiaeth yn rhan ohono. O ganlyniad, gorchwyl pur annymunol fyddai’r dasg i’r plwyfolion gladdu’r gwastraff teuluaidd ym mhen yr ardd, ond onid oedd llwyddiant i bob gorchwyl yng nghyflawnder rhiwbob gorau’r greadigaeth a dyfai yn y gerddi hyn!

Mae’n amlwg fod cynllun tebyg wedi ei sefydlu ym mhlwyf Llanllechid i wasanaethu rhan o ogledd yr ardal nad oedd yn derbyn dŵr o gynlluniau trefol yr ardal. Mae’n berthnasol gwybod fod  rhan uchaf pentref Rachub, sef yr hen Gae Llwyn Grydd, wedi derbyn dŵr o Ffridd Corbri ar un cyfnod, tra bo rhan isaf y pentref yn derbyn dŵr o ddatblygiad a oedd yn tarddu yn Gerlan. Ar gyfer anghenion yr ardal rhwng Llanllechid a Thalybont sefydlwyd cynllun a oedd yn harneisio dyfroedd Afon Llan yn ei tharddle yng ngwaun Corbri. Yno yr oedd cwt yn dargyfeirio dŵr yr afon i’w ddanfon i danc cronni yng Nghaban Coch ac oddi yno i’w ddanfon i bentref Talybont lle’r oedd tapiau cymunedol o fath y D19 wedi eu gosod mewn mannau canolog at wasanaeth y gymuned.  

I blwyfolion Llandygái, a rhannau o Lanllechid, y dasg ddyddiol fore a nos oedd casglu dŵr o’r ffynnon, pistyll, pwmp neu dap. Roedd yn orchwyl ailadroddus, trwm a diddychymyg, ond cwbl angenrheidiol yn nhrefn y dydd. Doedd prin amser i glonc a sgwrs wrth ddisgwyl tro i godi’r hylif, ac er mor gymunedol y safleoedd buan iawn y gallasai’r gwmnïaeth gymeradwy suro os oedd dŵr y cyflenwad wedi ‘ei sbydu’ yn ôl yr ymadrodd. Wrth gerdded yr ardal heddiw, drwy edrych, dyfalu, rhyfeddu a gweld sawl adeiladwaith cymen ym môn y clawdd, neu gilfach neilltuedig yn y wal,  ac yna sylweddoli eu bod oll yn gyfrannog yn nhapestri hanes ein hardal. A sylweddoli bod angen diogelu’r ychydig sy’n aros o’r hen ddyfrleoedd bendithiol hyn, ac o weld bod  nifer eu safleoedd, ysywaeth, yn faluriedig ac ar fin tranc anghofrwydd terfynol. Ond yr oedd iddynt oll eu cyfraniad gwerthfawr i hanes ein cymdeithas, ac mae cyfrifoldeb eu gwarchod lawn cyn bwysiced i’n bro ag yw cadwraeth genedlaethol yr honglad hyll o ffoli a adeiladwyd ger pentref Llandygái.

Diolchiadau – cyfrannodd nifer o gyfeillion o’u gwybodaeth i’r nodyn hwn ac mae’n bleser cofnodi ein diolch iddynt –  Idris Lewis, Dolwern; Wynne ap Iorwerth, Glanrafon Bach; Ieuan Wyn, Talgarreg; Huw John Huws, Porthaethwy; Alwenna Williams,  Cefnddwysarn; Eluned Rowlands, Groeslon;  Brian Thompson, Tamworth; Kevin Williams, Bryn Eithin; Owie a Betty Williams, Bryn Owen, Gwilym Rees Evans, Mignant, Ceri Evans, Llanllechid, Wyn Roberts Tregarth, Margaret  Fernley Talybont, Megan a Deri Tomos, Sychnant.