
Tal-y-bont, fel y mae’r enw yn ei gyfleu, oedd y man isaf i groesi Afon Ogwen cyn y môr ac, o ganlyniad, yno y lleolwyd un o bontydd pwysicaf yr ardal, pont a ddefnyddid ers 1764 i gario’r Ffordd Dyrpeg o Gonwy i Landygái ac ymlaen i Fangor. Mae rhan o’r hen ffordd hon yn arwain o Dan y Ffordd gyda’i dollborth heibio i safle diflanedig Capel y Gatws ac ymlaen at Eglwys St Cross i arwain drwy ran isaf pentref Tal-y-bont i groesi Afon Ogwen ar y bont. Yn ystod y 18g mae’n amlwg fod ardal Tal-y-bont yn agored iawn i’w ddifrodi gan lifogydd o Afon Ogwen fel y mae cyfres o adroddiadau yn Archif y Penrhyn yn eu mynegi. Yn 1735 adroddir bod y Weirglodd Fawr, llain deg acer o dir gwerthfawr ar lan yr afon cyn iddi ymuno â’r Fenai, yn dioddef ‘flood which yearly destroyed the hay’, ac yn 1741 penderfynwyd adeiladu ‘a great dam in Werglodd Fawr’ i geisio atal y difrod.

Yr oedd gwaeth difrod i ddigwydd yn 1768 pan adroddir am ‘a great flood which carried some of our banks away’, ac mae trafodaeth bellach yn digwydd yn 1770 rhwng Richard Hughes, asiant stad y Penrhyn a’r perchennog John Pennant, yn adrodd ‘after the great flood that carried away the Llandygái bridge … the mills were in great danger … and therefore for their safety I made a hedge in the river to prevent the river going so close to the mill dam and race’.

Mae’r adroddiad olaf yn sicr yn tynnu sylw at ansefydlogrwydd y bont holl bwysig ar y ffordd dyrpeg, ond mae hefyd yn nodi pa mor werthfawr oedd y felin yn economi’r ardal. Yr oedd dwy felin malu grawn pwysicaf y gymdogaeth wedi eu lleoli ar gwr Tal-y-bont – y Felin Uchaf i’r de a’r Felin Isaf ar y lan gyferbyn ym mhlwyf Llandygái, ond yn cyfrannu ar ei phwysiced i gymuned y pentref. Cyflawnai’r ddwy felin drwy ddefnyddio dŵr Afon Ogwen ofynion amaethyddol a diwydiannol ardal fwyaf ffyniannus y dyffryn a gynhwysai’r ffermydd pwysicaf a’r mwyaf eu maint, yn ogystal â nifer fawr o dyddynnod bychan a ysgubwyd ymaith mewn cyfnod diweddarach gan ddyfodiad y rheilffordd. O sylwi yn fanwl ar Arolwg y Penrhyn yn 1768 bernir bod pentrefan gwladaidd Tal-y-bont yn un o’r rhai mwyaf ei faint, ac efallai’r mwyaf llewyrchus, yn Nyffryn Ogwen yn ei gyfnod. Yn y pentref, os cywir ei ddiffinio fel pentref, yr oedd casgliad o bedwar tŷ a gardd, ynghyd â thyddynnod Tal-y-bont, Tyddyn Cwta, dau dyddyn Pentra Felin ac, ar y cyrion, dau dyddyn Maes y Groes. Roedd pentref Tal-y-bont yn rhan o stad y Penrhyn ac yn ddibynnol ar y stad am ei gynhaliaeth. Er ei fod wedi’i leoli ar drothwy grym gweinyddol y stad yn Llandygái, eto yr oedd pellter hyd braich megis yn caniatáu elfen o annibyniaeth, ac yn fwyaf arbennig annibyniaeth meddwl, yn rhan o grebwyll y preswylwyr.

Gellir dirnad meddylfryd annibyniaeth yng nghyfraniad pentref ac ardal Tal-y-bont yn sefydlu enwadaeth ymneilltuol yn Nyffryn Ogwen, ac mae’n amlwg fod rhyw ferw rhyfeddol yn cyniwair drwy’r ardal ar drothwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y Felin Isaf y trigai John Williams, gof wrth ei alwedigaeth, a’r gŵr a gychwynnodd enwad y Methodistiaid ym mhlwyf Llandygái oddeutu 1783. Y Tyddyn Isaf oedd cartref Elisabeth Ellis, Bedyddwraig wrth ei chredo, a deithiodd i Fochdre yn 1777 i gyrchu pregethwr i draddodi pregeth gyntaf y Methodistiaid ym mhlwyf Llanllechid a hynny yn ei thŷ. Yr oedd gan y Bedyddwyr hefyd ei chenhadon, ac er mai yng Nghilfodan y cychwynnodd yr enwad yn 1771, teulu Humphrey Ellis, fferm y Cefnfaes, gyfrannodd yn helaeth at hybu achos cynnar yr enwad ym Methesda. Ac yn Nhal-y-bont, yn hen gapel Caegwigyn, y sefydlwyd achos ymneilltuol cyntaf Dyffryn Ogwen yn 1784, a’r achos hwn ragflaenodd godi capel Bethlehem yn 1824 ar gost o £300. Yn Caegwigyn hefyd y sefydlwyd Ysgol Sul gyntaf Sir Gaernarfon yn 1788 gan William Hughes gweinidog cyntaf yr eglwys.
Ar gwr dwyreiniol y pentref sefydlwyd achos i’r Methodistiaid Calfinaidd yn y Gatws oddeutu 1799 gan Robert Thomas, saer wrth ei grefft a gododd ei dŷ a’i weithdy ar y safle lle bu’n pregethu am rai blynyddoedd cyn codi’r capel. Adeiladwyd y capel oddeutu 1864 mewn arddull Fernaciwlar gyda’r porth ar dalcen yr adeilad. Perthynai Ysgol Sul ffyniannus i’r capel hwn fel ym Methlehem. Dywedir bod yr Arglwydd Penrhyn y barod ei ganiatâd i’r adeilad fynd rhagddo, ond ar yr amod ei fod i’w guddio y tu cefn i sgrin o dai trillawr eu huchder o’i flaen. Terfynwyd yr achos yn 1996 a dymchwelwyd yr adeilad yn 1997.
Mae’n anodd dychmygu Tal-y-bont fel pentref diwydiannol ond dyna’r hyn a ddigwyddodd yn 1796 pan droswyd y Felin Isaf yn felin ar gyfer malu callestr (flint) i wydro llestri porslen yng nghrochendy’r Herculanaeum yn Lerpwl. Cynllun uchelgeisiol Samuel Worthington, cyfaill mawr i Richard Pennant sgweiar y Penrhyn, oedd y felin. Dygid y callestr o dde Lloegr i Aber Cegin a’i drosglwyddo ar un o dramffyrdd ar reiliau cynharaf Prydain i’w falu yn y felin a’i ddanfon yn ôl i Lerpwl yn yr un ffordd. Byr dymor oedd y diwydiant cyn i Worthington ganolbwyntio ar gael ei ddewis yn brif farchnatwr llechi i Chwarel Cae Braich y Cafn. Trosglwyddwyd datblygiad economaidd yr ardal i gwmni Michael Humble, marsiandwyr o Lerpwl, a arwyddodd gytundeb gyda Pennant yn 1800 i ddatblygu melinau grawn, cornfaen (chert), ac ocr. Mae’n bur debyg mai dyma’r cyfnod y troswyd y felin gallestr yn felin peilliad Penylan, y bwysicaf un yn y gymdogaeth. Yn ddiweddarach yn y ganrif cyflwynodd teulu’r Penrhyn gynllun uchelgeisiol i addasu safle’r Felin Isaf unwaith yn rhagor, yn bennaf ar gyfer anghenion diwydiannol y stad. Cynlluniwyd i agor ffos o leoliad islaw’r Felin Ucha ar Afon Ogwen i redeg am bellter o tua milltir i gyfeiriad Tal-y-bont yn y gogledd. Arweiniwyd y ffos drwy dwnnel oddeutu 600 llath o hyd cyn ei rannu’n ddau, un i gyrraedd melin peilliad Penylan a’r llall i weithio melin goed y stad o 1872 ymlaen. Er bod yr holl gynlluniau hyn yn cael eu datblygu ar draws yr afon o Dal-y-bont, eto y pentref gweithiol oedd ar ei ennill gan nad oedd pentref Llandygái ond megis eglwys a thri thyddyn ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n ddiddorol sylwi mai ar gwr pentref Llandygái y sefydlwyd gefail yr ardal, sy’n awgrymu ei bod yn rhan o ddatblygiad cynnar yn y Felin Isaf cyn i bentref model, ffroenuchel, Llandygái gael ei gynllunio.

Pan ddaeth George Hay Dawkins Pennant i olyniaeth y Penrhyn yn 1808 penderfynodd adeiladu ei gastell gorwych, i greu parc neilltuedig o’i amgylch ac i sefydlu pentref model yn Llandygái, i wasanaethu ei anghenion. Yn raddol, y pentref newydd hwn a gawsai’r sylw, yno yr adeiladwyd neuadd bentref ac y sefydlwyd ysgol a chynllunio ystâd o dai pur wahanol ar gyfer swyddogion y stad oedd yn newydd-ddyfodiaid o Loegr yn bennaf. Gadawyd Tal-y-bont yn bentref gweithiol a gwerinol ac yn bentref o Gymry yn ddiwylliannol, yn grefyddol ac yn ieithyddol.
Diolch i Einion Thomas, cyn Archifydd Prifysgol Bangor, am dynnu ein sylw i’r llawysgrifau sydd yng nghasgliad y Penrhyn – Penrhyn Castle, rhif 1642, 1735; Penrhyn Castle, Rhif 1647, 1741; Casgliad Penrhyn PFA/14/313, Hydref 17,1768, Mawrth 22, 1770. Diolch hefyd i Neville Hughes am ei gyfraniadau mewn ysgrif ac ymgom ac i Dafydd Pritchard, Glanmor Isaf, am ei gyfraniad ar hanes Capel Gatws.
Ffynonellau
Neville Hughes. 2012. Eglwys Annibynnol Bethlehem Talybont ger Bangor- dathlu canrif a hanner y capel presennol. Bangor.
J.I.C. Boyd. 1985. Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Vol.2 The Penrhyn Quarry Railways. Oxford.
E.H. Douglas Pennant. 1998. The Penrhyn Estate 1760-1997. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 59, 35-54
Megan Hughes Tomos. 2021. Capel Caegwigyn. Gwefan Hanes Dyffryn Ogwen, Mai 23 2021.