Hengorau Llandygái

Hengorau a safleoedd perthynol yn Llandygái yn dilyn eu darganfyddiad o lun awyr a dynnwyd ym mis Mehefin 1960

Yn fuan yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf wrth hedfan uwch y caeau i’r gorllewin o’r Tŷ Newydd yn Llandygái gwelwyd argraff yn y pridd islaw o ddau gylch anferth mewn safle a ddefnyddiwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach i adeiladu  parc diwydiannol Llandygái ar ei ganol. Arweiniodd y darganfyddiad at ymgyrch yn 1966/67 i archwilio’r ddau gylch, yn ogystal â safleoedd perthnasol eraill a oedd yn y cae.  Llwyddwyd i archwilio deg y cant yn unig o’r olion archaeolegol mewn cae sydd yn 15 hectar (38 acer) ei faint . Canlyniad yr archwiliadau oedd sefydlu fod y ddau gylch yn rhan o ardal gysegredig a oedd mewn bri yn Llandygái yn ystod cyfnod diweddar yn yr Oes Neolithig a ddyddiwyd gan asesiadau carbon14 i rhwng 3,100 a 2,700 CC.

delwedd 2
Cynllun y ddwy hengor yn Llandygái yn dilyn eu harchwiliad

Ym Mhrydain un o brif nodweddion y cyfnod dan sylw yw’r cylchoedd enfawr eu maint  a adweinir  fel hengorau (henges), ac mae’r ddau gylch yn Llandygái yn enghreifftiau arbennig o’r math hwn o heneb. Prif nodwedd yr hengor yw bod banc o bridd a ffos ddofn yn amgylchynu ei ffurf allanol gan warchod cylch eang, agored, oddi fewn, gydag un fynedfa, ac mewn rhai enghreifftiau ddwy adwy, yn arwain i’r cyfrin gylch. Yn Llandygái trawsfesur y ddau gylch mewnol, yn fras, yw 50 metr, gan greu llwyfan estynedig ei faint yng nghanol y ddwy heneb. Yn y mwyafrif llethol o hengorau Prydain cloddiwyd y ffos ar ochr fewnol y cylch gyda’r banc pridd a cherrig, cynnyrch y cloddio, wedi ei godi ar yr ymyl allanol – felly nid safleoedd amddiffynnol mohonynt, O’r ddau gylch yn Llandygái hengor y de sy’n cyfateb i’r cynllun hwn, ond perthyn heneb y gogledd i griw bychan o eithriadau ym Mhrydain lle’r adeiladwyd y banc pridd yn fewnol a’r ffos yn allanol.  I’r nifer prin o safleoedd o’r math hwn perthyn un cylch sydd o bwysigrwydd eithriadol, sef cylch yr hengor a sefydlodd safle unigryw Côr y Cewri (Stonehenge) yn y lle cyntaf, a hynny mewn cyfnod cyn i’r meini enfawr gael eu codi o fewn y cylch. Ac fel mae’n digwydd y cymal ‘henge’ yn enw Côr y Cewri a ddefnyddiwyd gan archaeolegwyr yn label tylwythol cyfleus ar y mathau hyn o henebion Neolithig fel y’u disgrifiwyd uchod.

Dros gyfnod hir eu bodolaeth llwyfannau agored oedd yn y ddau gylch yn Llandygái, ond mae’n amlwg fod prysurdeb arbennig wedi digwydd o fewn eu cynteddau. Yn blith draphlith, heb ddilyn cynllun manwl, agorwyd nifer o bydewau bychan yn y ddau lwyfan ac ynddynt claddwyd cymysgedd o arteffactau, gan gynnwys teilchion llestri pridd, cerrig amrywiol, golosg, cnau cyll a llafnau o gallestr a bwyeill carreg. Mae rhai o’r eitemau hyn yn gynnyrch masnach, nifer o’r llafnau callestr o dde Lloegr, un o’r bwyeill o Ardal y Llynnoedd, un arall o Sir Benfro a gweddillion y drydedd o’r Graig Lwyd, Penmaenmawr, oll yn gynnyrch rhai o chwareli bwyeill pwysicaf Prydain y cyfnod. Mae rhai o’r creiriau yn faluriedig iawn a hynny drwy fwriad gan y rhai a’u cuddiodd yn y pydewau. Ystyrir fod y creiriau yn ymdebygu i offrwm na wyddom ni bellach beth oedd eu harwyddocâd. Nid safleoedd i gladdu’r meirw oedd yr hengorau. Serch hynny, yn y fynedfa i’r ddwy hengor lleolwyd pydewau i gynnwys corfflosgiadau mwy nag un person yn gymysg, ac mewn safle canolog yng nghylch y de claddwyd corfflosgiad arall mewn pydew. Credir y defnyddiwyd y corfflosgiadau i arwyddo sancteiddrwydd y safleoedd cysegredig hyn, tra bo cynllun yr hengor yn ei chyfanrwydd yn diffinio’r cylch mewnol rhag y byd seciwlar allanol, tra ar yr un pryd yn galluogi lleygwyr y ‘werin’, megis, i arsyllu o bellter y clawdd allanol ar y cyfrin mewnol, gyda’r ffos yn ‘wahanfur’ terfyn rhwng y ddau fyd. Dyna un dadansoddiad, gor-ffansiol efallai, wrth geisio treiddio i feddwl deallusol cymdeithas ddiflanedig bum mileniwm o oed, a adnabyddir heddiw drwy ei arteffactau bydol a’i chofadeiliau drylliedig yn y tirlun presennol.

delwedd 3
Llun awyr o Arbor Law yn swydd Darby heneb a rydd syniad o sut fath o safle oedd hengor y de yn Llandygái yn wreiddiol. Yn Arbor Law ychwanegwyd cylch cerrig o fewn y safle fel yn yr hengor sylfaenol ym Mryn Celli Ddu cyn adeiladu’r gromlech yno o fewn y cylch

Henebion sy’n perthyn i Brydain yn unig yw’r hengorau – eu dosbarthiad yn ymestyn o ogledd yr Alban i dde ddwyrain a de orllewin Lloegr – ac nid oes ffurfiau tebyg na chysylltiadau materol rhyngddynt a’u cyfoeswyr Neolithig ar gyfandir Ewrop. Adweinir y safleoedd o luniau awyr, yn bennaf fel marc cnwd neu liwiau amrywiol yn y pridd fel yn Llandygái, a’u nodweddion amlwg wedi eu dinistrio gan ganrifoedd o amaethu’r tir. Mae iddynt gysylltiad agos ag ardaloedd llawr gwlad bras eu hamaeth a dyffrynnoedd afonydd pwysig megis afon Tafwys ac afon Don yn Efrog, ond yng Nghymru nid yw eu dosbarthiad yn niferus – wyth yw’r rhif presennol, dwy yn nyffryn yr Hafren yn ardal y Trallwng, dwy arall yn y de orllewin ym Mhenrhyn Gwyr a dyffryn Tywi, a dwy ym Môn – y cylch allanol ym Mryn Celli Ddu a Chastell Bryn Gwyn yn ardal y Fenai – ond gyda nifer mwy yn aros i’w cadarnhau megis yn nyffryn afon Dyfrdwy a Bro Morgannwg.

Yn Llandygái mae tiriogaeth y cylchoedd yn rhan o ardal gysegredig ei dylanwad, un o nifer sydd wedi eu diffinio bellach ym Mhrydain. Amlygir yr ardaloedd hyn gan gymysgedd o henebion gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yn ffurfiau cylchog – rhai yn hengorau agored, eraill gyda gosodiad o feini ar gantel y ffos, megis ym Mryn Celli Ddu, a chynifer yn cynnwys cylchoedd o goed trwchus, megis drysfa, o’u mewn. Ystyrir fod y tirlun defodol wedi ei sefydlu yn gyntaf mewn perthynas â henebion eithriadol enigmatig y cyfeirir atynt fel cwrsws – megis rhodfa hir a chul a amlinellir gan ffos a banc ar y naill ochr, ac a all fod o hyd amrywiol, gyda’r enghraifft fwyaf ym Mhrydain yn 9.6 cilomedr rhwng ei deupen. Yn Llandygái amlygir y cwrsws ar ymyl y dwyrain o’r safle, ei lwybr yn diflannu dan wyneb y cae criced, ond ei swydd yn sefydlu sancteiddrwydd yr ardal gyda’r ddwy hengor ddefodol yn dilyn yn ddiweddarach dros gyfnod o amser. Tystiolaeth debyg a geir ger y Trallwng gyda chwrsws estynedig Sarn y Bryn Caled yn sefydlu ei nod i weddill henebion yr ardal gysegredig hon, a thirlun defodol tebyg, yn cynnwys cwrsws a chylchoedd seremonïol, a ddarganfuwyd mewn archwiliadau yn ardal Walton ar y ffin yn Sir Faesyfed. 

Ond mae’r ardaloedd hyn yn bitw eu maint a’u dylanwad tebygol mewn cymhariaeth â phrif ardal seremonïol Prydain a sefydlwyd yn ardal estynedig Côr y Cewri yn swydd Wiltshire. Nodweddir yr ardal hon gan gymhlethiad eithriadol o safleoedd defodol gyda’u bri yn parhau drwy gyfnod y Neolithig ac yn atynfa i feddrodau tywysogaidd yn yr Oes Efydd a ddilynodd. Mae rhai o’r hengorau i’w canfod gan anferthedd eu maint – Avebury, gyda chylch mewnol sy’n 11.5 hectar  o faint wedi ei amgylchynu gan ffos 347 metr, a banc allanol 426 metr eu trawsfesurau, a dyfnder y ffos yn 9 metr a’i lled ar y brig yn 20 metr: Durrington Walls, y llain fewnol yn 12 hectar ei faint, ac amcangyfrifir i’r ffos amgylchynol, sy’n 6 metr ei ddyfnder, gymryd 900,000 awr o lafur dyn i’w chloddio.

delwedd 6

Oddi fewn i’r hengor darganfuwyd adeiladau o goed anferth ar ffurf temlau, ac yn eu cynteddau cynhaliwyd gwleddoedd rhyfeddol hael, yn gloddesta yn bennaf ar wartheg, gydag arteffactau o lestri pridd a challestr wedi eu malu’n fwriadol yn gymysg ag esgyrn yr anifeiliaid. Credir fod dibenion cymdeithasol ynghlwm â’r hengorau hyn a fyddai’n caniatáu i aelodau o’r llwythau brodorol ymgynnull i gyfathrachu, i loddesta ac i fasnachu, ond eu prif nod oedd gwasanaethu fel canolfannau cwlt a defodaeth gyda’u dylanwad yn treiddio drwy bob agwedd o fywyd cymdeithasol, crefyddol ac economaidd y gymdeithas.

delwedd 5
Llun o’r ffos yn Avebury yn 1922 mewn cloddiad gan berchennog y pentref bryd hynny Alexander Keiller. Noder ei dyfnder ac ar gongl chwith isaf y llun domen o gyrn ceirw a ddefnyddiwyd fel ceibiau i agor y ffos gan y brodorion oddeutu 2,500 o flynyddoedd

Yn y cyswllt hwn mae cylchoedd Llandygái yn fychan iawn mewn cymhariaeth â mega-hengorau ardal Côr y Cewri, ond yr un oedd y cymhelliad, yn ogystal â’r llafur, a oedd yn angenrheidiol i sefydlu, adeiladu a chynnal y ddwy hengor yn y lle cyntaf. Golygai adeiladu’r hengorau weithredu contractau peirianyddol enfawr, a hynny ar raddfa genedlaethol dros gyfnod y mil blwyddyn o’u bodolaeth ym Mhrydain, gan gofio mai bôn braich a cheibiau o gyrn ceirw oedd y prif adnoddau i gyflawni’r holl waith. Yn ddiweddar archwiliwyd safle ger Catraeth yng ngogledd sir Efrog sydd ar raddfa enfawr – dau gylch hirgrwn, un o fewn y llall, cylchfesur yr allanol yn 610 metr a’r mewnol yn 480 metr, y naill yn amgáu ardal o 2.75 hectar a’r llall o 1.8 hectar. I sefydlu’r cylchoedd defnyddiwyd oddeutu 2,000 o bolion coed anferth wedi eu cynnal yn barau mewn tyllau arbennig, a’r holl gyfanwaith yn sefydlu o’i mewn bro o bwysigrwydd defodol eithriadol, bur debyg, i gymunwyr credoau’r cyfnod. Yn fwy diweddar canfuwyd fod cylch allanol tebyg yn gwarchod holl ardal gysegredig Côr y Cewri.

Cyn gwireddu prosiectau mor anferth eu maint yr oedd yn amlwg fod llafur a chydweithrediad yr holl gymuned yn angenrheidiol, ond pa fath o awdurdod a fyddai yn trefnu ac yn goruchwylio gwaith o’r fath, gan gynnwys cylchoedd Llandygái yn eu plith, a hynny 5,000 o flynyddoedd yn ôl? Ai awdurdod hierarchaidd? Un pendefigaidd, efallai? Un canolog? Ynteu awdurdod gorthrymus? Cwestiynau nad oes iddynt atebion pendant, ond yn y gofyn mae un o hanfodion pwysicaf disgyblaeth yr archaeolegydd. Beth bynnag fo’r atebion cywir yr un amodau oedd yn gyfrifol am adeiladu’r cylchoedd yn Llandygái fel yn ardal Côr y Cewri. Ond gall breuder y cof fod yr un mor ddinistriol â breuder pob adeilad a phob cyfundrefn ysbrydol dros amser. Yn Llandygái, fil a hanner blwyddyn yn ddiweddarach, a defodaeth yr hengorau bellach wedi cilio o’r tir, defnyddiwyd hengor y gogledd i adeiladu tŷ ar ei ganol gan fanteisio ar ei safle amddiffynnol. Perthyn y tŷ i gyfnod yr Oes Haearn y gellir ei ddyddio’n fras i gyfnod rhwng 700CC a dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain yn y ganrif gyntaf Oed Crist. Canfuwyd amlinell y tŷ  yn y cylchoedd o bolion coed a ddefnyddiwyd i gynnal ei do gwellt ac i adeiladu fframwaith ei fur allanol o blethwaith o frigau a ddiddoswyd gan drwch o ddwb a chlai. Annedd i deulu fyddai hon a’u credoau hwy yn dra gwahanol i rai’r gymdeithas a gloddiodd y ffos ac adeiladu’r banc a roddodd fodolaeth i’r safle yn y lle cyntaf. Ac yn y cae cofnodwyd brith olion fframwaith o gaeau bychain a roddodd gynhaliaeth i deulu’r annedd – cae’r ddefod yn troi’n gae’r ymborth. Ond cofiwch, chwi fforddolion y presennol, pan fyddwch wrth gownter Screwfix yn Llandygái y tro nesaf yn prynu cynegwarth o hoelion, eich bod yn troedio tir a oedd ar un amser, bell bell yn ôl mewn hanes, yn eithriadol gysegredig i frodorion hen, hen gymuned ddiflanedig a oedd gynt yn tra-arglwyddiaethu yn Nyffryn Ogwen.

Ffynhonnell

Frances Lynch a Chris Musson, 2004.  A prehistoric and early medieval complex at Llandegai, near Bangor, North Wales. Archaeologia Cambrensis, 150 (2001),17-142.

Gadael sylw