Eglwys newydd Llanllechid

IMG_2203
Eglwys bresennol Llanllechid

Adeiladwyd eglwys bresennol Llanllechid yn 1845 ar safle hen eglwys a mynwent sydd yn dyddio’n ôl i’r Canol Oesoedd cynnar. Cynllunydd yr eglwys oedd Henry Kennedy i gynllun Gothig ,arddull a oedd yn dra phoblogaidd yn ei gyfnod fel sydd i’w ganfod yn adeiladwaith neo-Normanaidd castell Penrhyn, yr enghraifft fwyaf coegwych o’i fath yn Nyffryn Ogwen. Noddwyd ailadeiladu’r eglwys gan Edward Gordon Douglas, Barwn cyntaf y Penrhyn, fel rhan o’i gyfraniad yn ystod blynyddoedd canol y ganrif i adlunio neu gynllunio o’r newydd dwy eglwys ym mhlwyf Llanllechid a phum eglwys ym mhlwyf Llandygái. Yn achos eglwys Llanllechid cafwyd cyfraniad ychwanegol gan yr Incorporated Church Building Society, cymdeithas wirfoddol a sefydlwyd yn 1818 i hyrwyddo adeiladu ac adfer eglwysi Anglicanaidd yng Nghymru a Lloegr. Adeiladwyd yr eglwys newydd ychydig i’r gorllewin o safle’r eglwys wreiddiol ac ehangwyd y fynwent a’i hamgylchynu gyda wal gerrig uchel. Ychwanegwyd at y fynedfa wreiddiol o’r ffordd yn y dwyrain gydag ail fynedfa o’r gorllewin o gyfeiriad Talysarn. Ar y llwybr olaf hwn y mynychai’r offeiriad yr eglwys o’r ficerdy newydd a adeiladwyd yn 1865 ar dir Tai’n y Coed, ger Pont y Pandy i gymryd lle’ r tŷ gwreiddiol ym Maes y Groes.

Cynhwyswyd yn adeiladwaith yr eglwys bresennol borth a chawg dŵr y fynedfa o’r eglwys hynafol a chredir hefyd fod y fedyddfaen yn wrthrych gwreiddiol ond iddo gael ei adlunio mewn cyfnod diweddarach. Perthyn y ddeiol garreg hefyd i gyfnod cynharach, y teclyn amser a gyflwynwyd i’r eglwys yn 1794 gan Dafydd Wilson, bardd a’r ysgolfeistr a gadwai ysgol yn Llanllechid cyn gadael i fod yn ecseismon yn Llangollen ac yn ddiweddarach yn Nefyn a Phwllheli.

Un o’r dylanwadau pwysicaf yn adfywiad yr Eglwys Anglicanaidd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Mudiad Rhydychen. Tyfodd y mudiad hwn o’i sefydlu yn Rhydychen yn nhri a phedwardegau’r ganrif i ddylanwadu’n rymus ar ffurfioldeb yr Eglwys, a derbyniwyd athrawiaeth fwy ysbrydol y mudiad yn frwd gan esgob Bangor y cyfnod, Christopher Bithell.  Pwysleisiai’r mudiad sancteiddrwydd ac urddas yr addoli, boed hynny yn nhrefn y gwasanaeth, purdeb y gwrthrychau, gogoniant y gwisgoedd a seremonïau cymhleth, uwch eglwysig y defodau, a hyn oll i’w cynnal mewn awyrgylch gymen a phur adeiladau a gynlluniwyd i bensaernïaeth Gothig, ple roedd hynny’n bosibl. Un o gynheilyddion mwyaf blaenllaw y Mudiad yn esgobaeth Bangor oedd y bardd a’r clerigwr Morris Williams, neu Nicander, (1809-74), a ddaeth yn gurad i Lanllechid rhwng 1845 ac Ionawr 1847. Ganed ef yng Nghaernarfon ond cafodd ei fagu yn Llangybi gan deulu a oedd,  yn ddiddorol iawn, yn Fethodistiaid Calfinaidd cynnar yn ardal Eifionydd. Prentisiwyd ef yn saer, ac yn ei ieuenctid meithrinwyd ef a chyfrannodd i gymdeithas lengar ei fro o dan arweiniad beirdd megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn. Rhywsut, ac yn annisgwyl efallai, sicrhaodd le yn Ysgol y Brenin, Caer ac oddi yno aeth ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen a graddiodd oddi yno. Ordeiniwyd ef i’r Eglwys a gwasanaethodd gyntaf fel curad ym Mhentir cyn symud i Lanllechid. Yn ddiweddarach bu’n rheithor mewn nifer o eglwysi ym Môn. Cyfrannodd yn helaeth i’r byd llenyddol Cymreig ac ef a fu’n gyfrifol am ddiwygio’r Gymraeg yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, ac, mewn cywair gwahanol, cyfieithodd Chwedlau Esop i’r Gymraeg.

Fel y nodwyd eisoes yr oedd Nicander yn un o nifer o arloeswyr Mudiad Rhydychen yn esgobaeth Bangor, ond derbyniodd y mudiad hwn wawd a chynddaredd eglwysi anghydffurfiol Cymru yn ystod y cyfnod. Y cyhuddiad pennaf oedd bod y mudiad yn gwthio arferion Pabyddol i drefniadaeth ysbrydol yr Eglwys Anglicanaidd. Gellir ystyried y byddai’r feirniadaeth hon yn destun gwrthdrawiad moesol yn Llanllechid byth ers sefydlu capel mawr y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref yn 1827 i herio awdurdod yr hen grefydd sefydliadol. Os brwydr foesol ydoedd hon i ennill eneidiau yna gellir mesur y gystadleuaeth gan nifer y cymunwyr – roedd gan y capel mawr 327 o gymunwyr tra oedd 204 yn mynd i’r eglwys, hynny yw, buddugoliaeth i ymneilltuaeth pe gosodid y meini prawf mewn rhif yn hytrach nag mewn cred ysbrydol. Serch hynny, cynlluniwyd yr eglwys newydd i ddal 495 o gymunwyr.

Erbyn hanner olaf y ganrif datblygodd eglwys Llanllechid enw da am arbenigedd ei chanu eglwysig. Sefydlwyd y traddodiad gan Owen Davies, Eos Llechid (1828-1898),arweinydd medrus a chyfansoddwr toreithiog anthemau, cerddor hunan addysgedig, a gŵr a gymerodd urddau eglwysig yn hwyr yn ei yrfa yn 1877 ar ôl bod yn chwarelwr am gyfran helaeth o’i oes yn chwarel y Penrhyn. Yn 1848 penodwyd ef yn arweinydd côr eglwys Llanllechid, a lledodd ei enw da drwy Gymru a bu galw arno i arwain gŵyl gorawl eglwysig Llandaf ar fwy nag un achlysur a gwyliau tebyg yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Ymwelydd  ar fwy nag un achlysur i fwynhau’r canu yn eglwys Llanllechid oedd y prifweinidog William Gladstone. Yr oedd ganddo ef gysylltiad agos â Phenmaenmawr lle byddai’n treulio ei wyliau haf yn aml, ac ar ôl ei ymweliadau â’r eglwys dywedir y byddai’n aros yn nhafarn y Red Lion am na chai aros yng Nghastell y Penrhyn oherwydd y gwahaniaeth barn boliticaidd rhyngddo ef a pherchennog y plasty, yr Arglwydd Penrhyn, er bod perthynas rhwng Gladstone a gwraig sgweiar y plas.

Ar ôl mil a hanner o flynyddoedd o weinidogaethu yn wych, yn wachul, yn ymroddgar ac mewn segurdod, ac ar benderfyniad pwyllgor yn 2003 , terfynwyd yn ddisymwth ar ymdrechion eglwys Llanllechid i gadw eneidiau’r plwyf yn y ffydd Gristnogol.  Mawr yw dyled Dyffryn Ogwen i’r ymdrech fawr honno.

y drws
Y drws gwreiddiol yn perthyn i’r eglwys o’r canol oesoedd

CYWIRO – mewn nodyn cynharach ar Eglwys Llanllechid ar y wefan cofnodwyd fod porth presennol yr eglwys yn dyddio i’w chyfnod cychwynnol yn y Canol Oesoedd.  Perthyn y porth hwn i gyfnod ail adeiladu’r eglwys, ac mae’r porth gwreiddiol sydd yn y llun uchod i’w weld islaw’r porth modern.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.  Bethesda

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 1953.  Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.

William Parry. 1867. Llyfr Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llanddegai . Hefyd Ychwanegiad i’r uchod hyd 1920, Robert Parry. Argraffwyd  Dolgellau yn 1920.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s