Syr Ifor Williams oedd un o bennaf ysgolheigion Cymru a hogyn o Dregarth oedd o. Yr oedd ystyr enwau, ac enwau lleoedd yn arbennig, yn bynciau o gryn ddiddordeb iddo, ac yn wir Enwau Lleoedd a roddodd yn deitl i’r un o’r llyfrau mwyaf diddorol a ysgrifennodd. Yn y gyfrol mae’n sylwi ar tua ugain o enwau sy’n perthyn yn benodol i ardal Dyffryn Ogwen, ac felly beth gwell na manylu ar y modd y mae’n egluro tarddiad ac ystyr rhai o’r enwau hyn. Ond cyn cychwyn, yn ei bennod gyntaf yn y llyfr dan y teitl Rhybudd, mae’n dyfynnu sylw ei hen athro yn y coleg Syr John Morris Jones “’Fydd ‘na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd!”
Gwell dechrau gydag enwau mynydd a bryn sef pwnc ei ail bennod yn y llyfr.
Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn – y carneddau yn cyfeirio at feddfeini cerrig ar y copaon sy’n nodi yn wreiddiol feddau arwyr o gyfnodau cynhanes ond mewn cyfnod diweddarach a fabwysiadodd enwau dau o dywysogion Cymru.
Y Gludair Fawr a’r Gludair Fach – camffurf yn Saesneg yw’r ffurf Glyder, ac ystyr gludair yw pentwr o gerrig wedi eu casglu ar y copa naill ai yn naturiol neu i ffurfio carnedd gladdu.
Y Tryfan – nid tri-faen mo’r esboniad ond yn hytrach perthyn dau gymal i’r enw. Y cymal cyntaf try yn golygu blaen, a’r ail gymal ban yn golygu uchel, ac felly mynydd yn codi yn uchel iawn gyda chopa main iddo yw y Tryfan.
Y Gyrn – esbonia fod peth ansicrwydd i egluro’r enw. Gall darddu o’r hen air curn sy’n golygu pentwr, neu efallai o’r enw corn sy’n golygu pigwrn, ond sylwer mai’r ffurf luosog cyrn sydd i enw’r mynydd.
Moel Faban a Moel Grach – mae moel gydag ansoddair treigledig, megis yn y ddwy enghraifft yma, yn golygu bryn, ac nid moel yn yr ystyr o fod yn noeth megis o ben dyn heb wallt. Ond ychwanega’r awdur, wrth ystyried enw Moel Wnion, y gall moel olygu pen crwn i fynydd a dyna ddisgrifio’r copa uwchben Llanllechid.
Y Drosgl – yr ansoddair trwsgl yw tarddiad yr enw. Ystyr trwsgl i ni heddiw ydi afrosgo ond golygai’r hen enw fod iddo ystyr garw neu anhrefn yn ogystal. Ac ym mhlwyf Llanllechid gwelir y gwrthgyferbyniad rhwng Y Drosgl (garw) ar un ochr i afon Ffrydlas yng Ngweuncwysmai a’r Llefn (llyfn) ar ochr arall y dyffryn.
Eryri – mae’r enw yn tarddu o’r gair eryr y gellir ei olrhain mewn hen Gymraeg i er, or sy’n golygu codi. Fel aderyn mae’r eryr yn codi yn uwch na phob aderyn arall, ac felly mae mynyddoedd Eryri hefyd yn codi yn uchel.
Y Bera – gall fod yn gyfystyr ag enw aderyn ysglyfaethus megis y barcud.
Nant y Benglog – penglog yw asgwrn caled y pen ond gall clog hefyd olygu craig neu faen carreg. Tybed felly ai’r Benglog yw’r maen mawr yn Llyn Ogwen sydd ar drothwy Nant y Benglog, ond gall hefyd gyfeirio at y maen fel ar ffurf penglog ddynol yn ogystal.
Gerlan – enw cyfansawdd o cerdd a glan, y ddau yn golygu codiad tir. Troes Gerddlan, felly, yn Gerlan o fod yn colli’r dd yn y canol.
Drum – yn golygu cefn ac yma mae’r enw yn cymhwyso rhan o gorff dyn i olygu crib neu gefnen gul megis rhwng y ddwy garnedd Llywelyn a Dafydd.
Ffynhonnell
Ifor Williams, 1962. Enwau Lleoedd, Gwasg y Brython, Lerpwl.