Pentref Gerlan

dsc_0431-2
Manylyn o ardal y Gerlan ar Fap Arolwg Penrhyn 1768; sylwer ar Wm Williams land (Cae Ronw) a Rich Williams land (Kiltreflys). Abercaseg = Rhif 63; Tyddyn Caseg = Rhif 64; Gerlan = Rhif 65. Map drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

Gellid disgrifio Gerlan fel un o faestrefi pentref Bethesda yn union fel Carneddi, Rachub neu Fynydd Llandygái. Pentref ydoedd a adeiladwyd yn bennaf i gartrefu gweithlu Chwarel y Penrhyn mewn cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma gyfnod pan oedd y chwarel yn ei bri yn cyflogi agos i 3,000 o weithwyr a phrinder llety addas yn creu argyfwng yn yr ardal. Cyn sefydlu’r pentref cilan ddiarffordd iawn o blwyf Llanllechid oedd Gerlan megis llwybr i gyrraedd at ffermydd pellennig Ciltwllan a Gwaen y Gwral (Gwaen Gwiail) ar gwr ffriddoedd Cwm Pen Llafar. Yn wreiddiol gellid cyffelybu cynllun y pentref i wybedyn neu iâr fach yr haf – y corff yn y canol, sef safle Fferm Gerlan a Hen Gerlan ar dir stad y Penrhyn, ac ar naill ochr y corff, asgell y gogledd  yn perthyn i stad annibynnol Kiltreflys ac asgell y de ym meddiant stad annibynnol Cae Ronw. Y mae a wnelo sefydlu’r pentref felly â dau lain o dir a oedd mewn dwylo annibynnol tra bo’r canolbwynt a’r holl diroedd amgylchynol yn perthyn i stad y Penrhyn.

Yn annisgwyl, i Rachub mae’n rhaid troi i chwilio am darddiad pentref Gerlan, ac yno i stad fechan Tanybwlch a theulu y Willamsiaid, ei pherchnogion ers canol y ddeunawfed ganrif. Pan fu farw Huw Williams yn 1765 gorchmynnodd yn ei ewyllys rannu ei diroedd rhwng ei ddau fab Morris a Richard. Roedd y ddau i dderbyn nifer o diroedd gwasgaredig yn yr ardal, ond yn benodol yr oedd cyfran Morris i gynnwys Cae Ronw a chyfran Richard i gynnwys Kiltreflys, dau lain diwerth eu defnydd ar y llwybr i bendraw’r plwyf yng nghymdogaeth y Gerlan. Ar fap Arolwg y Penrhyn 1768 mae’r ddau lain wedi eu nodi y naill fel Wm Williams land (Cae Ronw), a’r llall fel Rich Williams land (Kiltreflys), ac yn wahanol i diroedd cyfagos y Penrhyn nid yw enwau’r caeau wedi’u nodi. Rhyngddynt, ac yn eu gwahanu, mae encil o dir y Penrhyn ac arno ffermdy fferm y Gerlan a oedd, mewn amser, i roi ei enw i’r pentref.  Cadarnheir pwysigrwydd yr encil ym map diweddarach Johnson, dyddiedig 1855, sy’n dangos lleoliad y fferm a’i adeiladau ym Mhen y Clwt, yn rhaniad strategol rhwng Kiltreflys i’r gogledd a Chae Ronw i’r de, y ddau lecyn wedi eu dangos ar y map yn unedau di-gynllun a bellach heb enw eu perchennog. Cyn 1860 yr unig ddatblygiadau oedd bod rhes fechan o fythynnod wedi eu sefydlu yn y Gwernydd i’r de o Gae Ronw, a bod hen feudai a stablau fferm Gerlan wedi eu haddasu yn fythynnod Hen Gerlan .

Raw016
Map Johnson o ardal y Gerlan yn 1855; sylwer ar adeiladau’r fferm ym Mhen y Clwt a manylder y caeau sy’n amgylchynu y ddau lain Kiltreflys a Chae Ronw er nas enwir hwy. Map drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

I ganlyn yr hanes, mae’n rhaid troi’r cloc ymlaen bron i ganrif gyfan i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd amgylchiadau holl blwyf Llanllechid wedi eu troi wyneb i waered a Dyffryn Ogwen yn ardal ddiwydiannol eithriadol ffyniannus yng Nghymru’r cyfnod. Erbyn hynny yr oedd peth newid wedi digwydd ym mherchnogaeth y ddau lain dinod, Cae Ronw a Kiltreflys. Yn 1833 yr oedd etifeddiaeth stad Tanybwlch wedi ei drosglwyddo i Jane, unig etifedd penteulu’r cyfnod, Morris Williams. Ymhen dwy flynedd o dderbyn yr etifeddiaeth, priododd hi â John Taylor, gŵr o Gae Bold yng Nghaernarfon, ond brodor yn wreiddiol o Cumberland. Yn sgil ei briodas ymgartrefodd ef yn Nhan y Bwlch ac o ganlyniad daeth yn berchen ar holl diroedd perthynol y stad gan gynnwys, wrth gwrs,  Kiltreflys a Chae Ronw. Erbyn canol y ganrif yr oedd problem digartrefedd yn dwysáu yn y dyffryn. Golygodd hyn fod darpar Gyngor pentref  Bethesda, a gyflwynodd nifer o welliannau buddiol yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, megis carthffosiaeth, nwy a gwell safonau adeiladu tai, hefyd yn gorfod edrych am safleoedd addas ar gyfer adeiladu tai ar gyfer y dyfodol.  A namyn tros nos, megis, troswyd dau lecyn dinod Kiltreflys a Chae Ronw yn diroedd ‘real estate’ gwerthfawr eu defnydd. Rhwng 1864 ac 1865 daethpwyd i gytundeb gyda John Taylor y byddai’n gwerthu lleiniau ar y ddau lecyn i’w prynu drwy ocsiwn gan unigolion a phartneriaid ar gyfer adeiladu nifer o gartrefi. Drwy wneud hynny sefydlwyd cynsail i greu pentref newydd, i’w adnabod fel Gerlan, a’i ddisgrifio’n feiddgar ar y pryd fel ‘model village’. Aeth Kiltreflys yn Stryd Hir, Ffordd Gerlan a’r strydoedd eraill sy’n dringo’r allt, a Chae Ronw yn Stryd y Ffynnon a Stryd Goronwy  (Ronw > Gronw >Goronwy – tybed?).

Ac yn y broses dyma sefydlu pentref newydd y gellir adnabod ei phreswylwyr, a phennu eu galwedigaethau, yng nghyfrifiad 1871. Cymerer trigolion dwy stryd fel enghreifftiau. Yn Stryd y Ffynnon trigai 28 chwarelwr,  un mowldiwr, un cyfrifydd, un saer dodrefn, un tafarnwr, un saer maen, un trwsiwr rheiliau metal, un wniadwraig, un groser ac un nyrs. Deg chwarelwr oedd yn byw yn Ffordd Gerlan, ond yr oedd yno hefyd un bwtsiar, un cyfrifydd, un ffermwr, un saer maen, un siopwr, un groser a oedd hefyd yn farchnatwr blawd, un saer dodrefn a dwy wniadwraig.

gerlan 1890
Cynllun rhesi tai Stryd y Ffynnon a Stryd Goronwy ar fap ordnans 1890 

Erbyn 1890 yr oedd Gerlan yn bentref cryno, hunangynhaliol fwy neu lai, a’i thrigolion yn ddigon hyderus i hysbysebu eu nwyddau yng Nghyfeirlyfr Busnes Worralls y flwyddyn honno. Yn Gerlan bryd hynny  yr oedd yno dair siop fwy; bwtsiar; gwerthwr dillad; barbwr; saer maen a siop y post, ac i’r sychedig rai y Gerlan Inn ers 1886, er bod ei rhagflaenydd yno yng Nghors yr Eira ers 1854. Sefydlwyd capel Treflys i enwad yr Annibynwyr yn 1866 a chapel Gerlan i’r Hen Gorff yn 1869, a thrwy raslonrwydd yr Arglwydd Penrhyn ysgol ddyddiol ar lecyn pur fain o’i stad ym Mhen y Clwt i addysgu plant y pentref yn yr iaith fain ac i feithrin eu teyrngarwch i gyflogwr mawr y fro. Ac felly yr oedd i Gerlan gyflwyno ei hun yn bentref cyflawn, llawn hyder a breintiau ar drothwy’r ganrif newydd yn 1900.  Mae’n syfrdan y gwahaniaethau a all ddigwydd i hanes pentref mewn canrif  o amser, ac nid oedd Gerlan yn eithriad i brosesau cyfnewidiol o’r fath. Heddiw does odid ddim un siop i gynnig ei chynnyrch yn y pentref, chwalwyd y ddau gapel, caewyd y dafarn, terfynwyd dysg yn yr ysgol a phrynwyd cyfran o’r tai yn dai haf ac yn ail gartrefi i ddieithriaid. Ac mae hen gymdeithas glos, gynnes a Chymreig y pentref bellach yn gwegian, a phrin fod yr un chwarelwr yn byw oddi fewn i’w ffiniau.

20201024_214102
Panorama o bentref Gerlan mewn cerdyn post dyddiedig i tua 1920. Noder Ffordd Fron Bant (chwith eithaf); Capel Treflys a strydoedd perthynol yn Kiltreflys (chwith canol); capel Gerlan a strydoedd perthynol Goronwy a Stryd y Ffynnon yng Nghae Ronw (canol); Gwernydd (canol de eithaf). Llun o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd y diweddar Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda.

Os cywir yw realaeth y darlun o bentref Gerlan heddiw, yna pam na cheir damcaniaethu unwaith yn rhagor yn rhamant y gorffennol cyn bod treflan o’r fath enw wedi bodoli? Y mae a wnelo hyn â’r enw Kiltreflys, a Treflys fel ei mabwysiadwyd gan garedigion y capel yn 1866. Yn y Canol Oesoedd y treflys oedd y sefydliad hollbwysig a oedd yn cynnal y Teyrn neu’r Arglwydd, ac ar ei ymweliadau cyson â’i lysoedd yno y byddai ef yn casglu treth cynhaliaeth ei deyrnas a gosgordd ei amddiffyniad. Yn Arllechwedd Uchaf yr oedd 50 treflys neu drefgordd yn rhan o’r cwmwd gydag afon Ogwen yn creu’r ffin gyda’r drefgor nesaf i’r gorllewin, sef Creuwyrion. Beth felly oedd y cysylltiad, os cysylltiad o gwbl, rhwng yr enw treflys ac ardal Gerlan y dyfodol?  Felly, dyma’r ddamcaniaeth – yn gam neu’n gymwys! Unwaith yn rhagor rhaid troi at dystiolaeth map 1768 a sylwi  fod y ddau lain annibynnol Kiltreflys a Chae Ronw yn ffinio â chaeau tyddynnod Abercaseg a Thyddyn Caseg, yn ogystal â chaeau fferm y Gerlan. Dau dyddyn ar lawr y dyffryn oedd Abercaseg a Thyddyn Caseg a’u caeau yn dringo hyd eithaf yr allt i Gerlan, ac er nad yw’r enw treflys yn ymddangos ar gaeau yr un o’r ddau dyddyn, eto yr oedd gan Abercaseg ei bwysigrwydd. Yno yn 1284 y gwersyllodd y Brenin Edward 1af am un noson ar ei daith goncwestol drwy Ogledd Cymru i selio ei fuddugoliaeth dros Lywelyn ein Llyw Olaf ym 1282. Pam dewis Abercaseg? Yn Nhyn Tŵr, wrth gwrs, yr oedd cadarnle Tywysogion Gwynedd gyda’r tŵr amddiffynnol yn gwarchod y groesfan bwysig dros afon Ogwen a’r fynedfa i Nant Ffrancon ac ucheldir Eryri. Y ddamcaniaeth yw mai tiroedd y gwastadedd rhwng afonydd Ogwen ac afon Gaseg a fyddai’n cyflawni gofynion y cadarnle yn Nhyn Tŵr ac y byddai’r tiroedd hyn yn ymestyn hyd at y Gerlan fel mae’r enw Treflys yn ei awgrymu. Mae’n ffaith ddiymwad fod pwysigrwydd arbennig i ardal Ty’n Tŵr a dogfen ysgrifenedig i gadarnhau ymweliad Edward 1af ag Abercaseg, ond chwi ddarllenwyr gaiff benderfynu pa mor ffansïol yw’r dehongliad am fodolaeth y treflys yn y Gerlan, ond mae’n werth ei ystyried!

Gwybodaeth – mae ymchwil manwl Dafydd Fôn Williams, Gerlan, yn ganolog i’r ysgrif hon.

Ffynhonnell

Dau Deulu Lwcus – darlith a draddodwyd gan Dafydd Fôn Williams i Gymdeithas Hanes Rachub a Llanllechid yn Ionawr 2016.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s