Pantdreiniog – y chwarel gydweithredol

Ym mis Awst 1903 wynebai Dyffryn Ogwen ei thrydedd flwyddyn o anobaith wrth i streic fawr chwarel y Penrhyn barlysu gobeithion cymdeithas ddrylliedig a oedd yn disgwyl gweld terfyn cymodlon i’r anghydfod brwnt a rannai’r ardal.

Cynlluniau o chwarel Pantdreiniog cyn 1900 ac wedi 1900. Cynlluniau drwy garedigrwydd David Jenkins, Allt Bryn Eglwys

Gyda chynni’r streic yn gwasgu a chyflwr enbydus y gymuned yn dwyn sylw cenedlaethol dechreuwyd trafod yn 1902 y posibilrwydd o drosi Chwarel Pantdreiniog yn uned gydweithredol flaengar a sefydlog pe onid gellid sicrhau nodd ariannol cynhwysfawr i gadarnhau’r fenter.  Yng nghynhadledd yr  Undeb Gydweithredol a gynhaliwyd yn Doncaster yn ystod Llungwyn 1903 derbyniwyd y cynnig yn unfrydol i sefydlu cwmni y North Wales Quarries Limited a threfnwyd i brynu chwareli Pantdreiniog, Moel Faban a Thanybwlch am £18,400.  Trefnwyd cynhadledd bwysfawr ym Methesda ym mis Awst i lansio’r ymgyrch ac nid oedd ball ar y brwdfrydedd na’r anogaeth ariannol a ddilynodd. Derbyniodd her sefydlu’r cwmni gefnogaeth barod gan Undebau gweithiol a chymwynaswyr dyngarol ledled Prydain, a derbyniwyd buddsoddiadau unigol gan unigolion a oedd â chydymdeimlad ag achos y chwarelwyr ac a fynnai drechu craidd yr anghydfod sef yr hyn a elwid yn ‘Penrhynism’.  Ac fel hunan hysbysebwr heb ei ail cyfrannodd W. J. Parry yn helaeth i gyflwyno trasiedi Bethesda i sylw cenedlaethol y wasg Seisnig ac yn ysgrifau byrlymus, y llygad-dyst C. Sheridan Jones. Penodwyd cyfarwyddwyr i arolygu’r fenter ac mae’n werth manylu pwy oedd y parchusion a etholwyd – Cadeirydd, Richard Bell, AS Derby, ac Arweinydd Undeb Gweithwyr y  Rheilffyrdd; William Abraham (Mabon), Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac AS y Rhondda; J. C. Gray, o’r Undeb Gydweithredol; Henry Vivian, o Gymdeithas Cydbartneriaeth Llafur yn Llundain; a Griffith Edwards, Ysgrifennydd Pwyllgor y Streic, a’r unig gynrychiolydd lleol ar y panel. Etholwyd W. J. Parry yn rheolwr i redeg y tair chwarel gyda Sheridan Jones yn Llundain yn ysgrifennydd y cwmni. Pencadlys y cwmni oedd Manceinion.

Y Cyfarwyddwyr yn ymweld â Chwarel Pantdreiniog yn 1904 – noder sgaffaldiau’r blondins a’r injan stêm

Yr oedd blynyddoedd cyntaf y cynllun yn lled llwyddiannus. Gwariwyd yn helaeth ar foderneiddio chwarel Pantdreiniog. Agorwyd dwy bonc newydd, Bryntirion a Coetmor, gan adnewyddu’r ystolion a oedd yn cyrraedd i waelod y twll. Sefydlwyd cynllun o wifrau dur, y ‘blondins’, i godi cerrig a rwbel o ddyfnder y twll a defnyddiwyd peiriannau stem drudfawr i weithio’r offer. Ychwanegwyd pwmp heidrolig newydd at yr hen un i sychu dŵr y twll a threfnwyd fod pibellau dur yn eu cyflenwi er sicrhau gwell defnydd ohonynt. Cyflwynwyd injans stêm i hwyluso trefn fewnol y chwarel ac adeiladwyd trydydd gris ar y tomennydd. Amgylchynwyd ymyl ddeheuol y chwarel gyda llwybr a gynlluniwyd drwy drefniant i nodi’r ffin gyda stad y Penrhyn. Rhwng Ebrill 1903 a Medi 1906 cynhyrchwyd gwerth £22,920 o lechi gwerthadwy a thalwyd £28,000 mewn cyflogau i’r gweithlu. Mynnai Parry ganolbwyntio ar ddatblygu Pantdreiniog ond yr oedd y cyfarwyddwyr yn dymuno gwario ar ddatblygu’r ddwy chwarel arall yn ogystal. Yn y broses, ac yn groes i gyngor Parry, afradwyd £10,000 ar ddatblygu’r ddwy gloddfa pan, yn ei farn ef, y gofyn oedd gwario o leiaf £60,000 cyn disgwyl i’r unedau dalu eu ffordd. Erbyn 1907 dim ond pedwar dyn oedd yn gweithio ym Moel Faban, dim un yn Nhanybwlch ac oddeutu 100 ym Mhantdreiniog. Mae’n amlwg felly fod dwy farn yn hollti’r cynlluniau o’r cychwyn cyntaf, y farn bragmataidd leol yn arwain drwy bwyll a phrofiad a’r farn estron esoterig yn mynnu drwy ddelfryd ac anwybodaeth. Ceisiodd Parry ar fwy nag un achlysur ymddiswyddo ond yr oedd Bell yn ei annog i aros drwy bledio – ‘you are the soul of the concern, and to think of giving it up now would completely cripple us’.

Ond nid hollt ymysg y cyfarwyddwyr oedd yr unig rwystr a wynebai’r cynllun, ac mae’n rhaid cydnabod bellach mai megis tân siafins oedd brwdfrydedd cychwynnol y fenter. Un o’r problemau sylfaenol oedd bod cynllun y North Wales Quarries Limited wedi ei lansio gwta dri mis yn unig cyn i’r streic lusgo i’w therfyn anfoddhaol ym mis Tachwedd 1903. Yn araf ciliodd y sylw a’r cydymdeimlad cenedlaethol â dioddefaint Dyffryn Ogwen ac yn raddol prinhaodd y ffynonellau ariannol i gynnal y fenter wrth i ddiffygion y cynllun cydweithredol ddod i’r amlwg. Un o obeithion y cynllun oedd y byddai cynnyrch y tair chwarel yn cystadlu ar y farchnad agored gan dorri monopoli cynhyrchu a gwerthu’r llechi. Ond derbyniodd y cynllun wrthwynebiad ystyfnig gan y cwmnïau mawr a oedd am ddiogelu eu marchnad, ac ar derfyn y streic buan iawn yr ail sefydlodd Chwarel y Penrhyn eu masnach mewn cystadleuaeth. Disgwylid yn ogystal y byddai undebau a chwmnïau o fewn y mudiad cydweithredol yn blaenoriaethu prynu cynnyrch y cynllun ond ar y farchnad agored mae’n amlwg na ellid disgwyl am eu cymorth yn barhaol i gadarnhau dyfodol y cwmni yn y tymor hir. Ac fel yr oedd yr arian yn prinhau felly hefyd yr oedd cymhlethdodau rhedeg y cynllun yn dod i’r amlwg. Parry fel y rheolwr oedd i ymgodymu â’r problemau hyn ac fel ffigwr amlwg mewn cymdeithas ddrylliedig ef oedd yn wynebu llach ei gyd blwyfolion o orfod diswyddo gweithwyr wrth i’r cynllun fethu. Ac i ychwanegu at yr amarch, cafodd ei feirniadu’n sarhaus yn y wasg leol am fod yn feistr llawn mor anhrugarog at ei weithwyr ym Mhantdreiniog â’r Arglwydd Penrhyn yn chwarel y Penrhyn. Rhaid cofio nad dyngarwr trugarog oedd  Parry er cymaint oedd ei ymdrech i bortreadu ei hun fel gwarchodwr annibyniaeth a chynheilydd y di-waith yn ei gymuned.

Yr oedd nifer o resymau cymhleth yn gyfrifol am fethiant cynllun cydweithredol y North Wales Quarries Limited ac nid Parry yn unig ddylai dderbyn beirniadaeth am aflwyddiant y prosiect. Ond fel chwarel W. J. Parry yr adnabyddid Chwarel Pantdreiniog, a’r chwarel hon gyfrannodd at y myth mai dyngarwr caredig a chymodlon oedd efe. Mae cofiannydd Parry, Roose Williams, wedi honni fod Chwarel Pantdreiniog wedi chwarae ei rhan fel math o labordy cymdeithasol ar gyfer profi damcaniaethau cydbartneriaeth a chydweithrediad diwydiannol, ac yn hyn o beth gellir cytuno â’r gosodiad.  Ond mae hefyd wedi honni fod Parry yn gredwr brwdfrydig ac argyhoeddedig mewn gweithredu’r damcaniaethau hyn ac yma, yn nhreigl amser, rhaid cwestiynu cywirdeb y canlyniad hwn. Gŵr busnes llygadog, di-ildio a hunanol oedd Parry yn ei hanfod a dyfodol ei gynlluniau ef a sicrwydd ariannol ei fusnesau oedd yn hawlio ei sylw fel mae ei ymrwymiad i chwarel Pantdreiniog yn ei egluro. Ond ni ellir diystyru dylanwad y chwarel hon ar dwf pentref Bethesda ac yn isymwybod ei phreswylwyr. Wrth i’r pentref ddatblygu yng nghysgod anghynnes y gloddfa tyfodd y chwarel yn symbol o’r gwrthryfel rhwng y cyflogwr a’r cyflogedig, a’i bodolaeth yn crynhoi holl ddyheadau’r gymuned i sefydlu cymdeithas a oedd yn ymwybodol o’i thras a’i gwerthoedd, a fyddai’n coleddu meddylfryd rhyddfrydig, yn gwrthod ymostwng i awdurdod anghyfiawn ac yn gwarchod egwyddorion annibyniaeth a rhyddid. Dyma oedd y prif egwyddorion a luniodd gymdeithas y pentref gam wrth gam â datblygiad ymwthiol y chwarel. Ni allai trefn unbenaethol chwarel fawr y Penrhyn fyth gystadlu â’r arbrawf goleuedig yn y chwarel fach hon ar dir annibynnol stad Cefnfaes.

Tomen Chwarel Pantdreiniog uwchlaw Lon Pâb, ysgol y Cefnfaes ar ganol y llun,y stryd fawr ar chwith y llun. Noder hefyd leoliad Tŷ Mawr (tŷ deulawr sengl wrth droed y domen ar y dde o’r llun) cartref rheolwr y chwarel yn y cyfnod cyn 1900

Mae’n syndod fod chwarel Pantdreiniog fel safle diwydiannol weledol wedi diflannu o’r pentref yn 1974 o dan gynllun gwella’r amgylchfyd a ariannwyd gan y Swyddfa  Gymreig. Dim ond y Tŷ Mawr, cartref y rheolwr ym Mryntirion, ac un o glogwyni’r twll a erys i’n hatgoffa o fodolaeth y chwarel eiconig  hon ym Methesda. Ond dair mil a mwy o filltiroedd i ffwrdd ym mhentref South Poultny yn Nhalaith Vermont yn yr Unol Daleithiau mae chwarel Pantdreiniog arall yn aros. Yno, ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf fe’i hagorwyd yn chwarel lechi, ond yn nhreigl amser camsillafwyd ei henw a Pantrhiniog ydyw bellach. Collwyd safle gweledol Pantdreiniog yn ei phentref gwreiddiol yng Nghymru ond yn ei phentref mabwysiedig yn Vermont yr enw a gollwyd. Rhyfedd o fyd!

Ffynonellau

W. J. Parry, 1906  A New Chapter in the History and Co-peration of Labour: North Wales Quarries Limited. Co-operative Printing Society Ltd. Manchester.

J Roose Williams. 1978. Quarrymen’s Champion. Dinbych.

J.Ll.W.Williams a D.A.Jenkins.  1996. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda  Rhan 2. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 57. 65-84.

J.Ll.W.Williams. 2000, W. J. Parry: Quarrymen’s Champion?  Llafur – Cylchgrawn Hanes Llafur Cymru,  8 (1), 97- 110.

J. Ll. W. Williams ‘Lle mae camp mae rhemp’ – degawd trychinebus W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda – erthygl heb ei chyhoeddi.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s