Aberogwen

20201027_142155
Llun awyr o Aberogwen

Yr oedd hafan Aberogwen yn lleoliad prysur iawn yn y ddeunawfed ganrif. Yno y byddai llechi yn cael eu llwytho i longau bychan ar ôl cael eu cludo i’r traeth mewn cewyll ar gefn ceffylau o fân chwareli cynnar y fro. Mae un o’r adroddiadau cynharaf  am y fasnach yn cydnabod danfon 21 mil o lechi o Aberogwen (‘Oggweyn’) i doi stabl mawr Castell Caer yn 1357/58 am gost o un swllt a deg ceiniog y fil. Erbyn 1682 yr oedd cost mil o lechi wedi codi i ddeg swllt ac wyth geiniog, fel y dengys cofnodion Eglwys Gadeiriol Llanelwy pan ddanfonwyd 20 mil o lechi ‘dwbl’ o Aberogwen i’r Foryd ar afon Clwyd i’w cludo i Lanelwy. Pris y cludiant i’r Foryd oedd pedwar swllt y fil. Cyfeirir at y fasnach yng nghywyddau gofyn beirdd y bymthegfed ganrif am lechi o Aberogwen i doi tai bonedd Dyffryn Clwyd, fel yng nghywydd Guto’r Glyn at Ddeon Bangor yn gofyn ar ran y bonheddwr Syr Gruffydd ap Einion o Henllan:

Annedd hardd yw’r neuadd hon
O chaid teils a choed hoelion.

Toi sy i’m bryd tŷ a siambr wen,
To brig tai Aberogwen,
Cyfrio llys, caf ar ei lled
Cerrig Gwynedd, craig gaened.

Annedd hardd yw’r neuadd hon
os ceid teils a phrennau â hoelion ynddynt.
Mae’n fwriad gennyf doi tŷ a siambr deg,
to mwyaf rhagorol tai Aberogwen,
gorchuddio llys, caf ar ei led
gerrig o Wynedd, brethyn llwyd craig.

F’ungwaith iddaw i Fangor
Fu erchi main ar fraich môr,
Carnedd o Wynedd ynys,
Coflaid llong cyfled â llys.
Rhoi’n bumil ddengmil ydd wyf,
Rhyw ddyblig nis rhôi ddeublwyf;

Fy un dasg ar ei gyfer fu gofyn meini
i Fangor ar fraich o fôr,
carnedd o wlad Gwynedd,
llond llwyth llong mor llydan â llys.
Rwy’n gosod deng mil fesul pum mil,
plyg gweddus na allai dau blwyf ynghyd ei roi;

Nid llechi yn unig oedd masnach llongau’r cyfnod cynnar fel y dengys cyfeiriadau at allforion o fân borthladdoedd yr arfordir o wlân, crwyn a menyn, a mewnforion o frag, gwenith, glo, halen, hopys a sebon, ac yn ogystal eitemau mwy egsotig yn cynnwys gwinoedd, gwirodydd, reis, siwgr ac olew olewydd. Cyfrifid Aberogwen yn rhan o borthladd Biwmares, fel hefyd Abercegin ym Mangor, ac o ganlyniad nid yw’r dystiolaeth ddogfennol yn nodi yn union gyrchfan y fasnach a ddisgrifir. Ond i Aberogwen, bid sicr, yr hwyliodd yr Elisabeth o Gaer yn 1596 i ddanfon llwyth o gwrw, bara caled, halen, haearn a nwyddau haearn i Peires Gryffith of Pethrin, Esquire, sef yr enwog ysbeiliwr Pyrs Gruffydd, sgweiar y Penrhyn. Yn ôl traddodiad, ond heb gofnod swyddogol i’w gadarnhau, adeiladodd ef long ‘in the port of Beaumaris’ (Aberogwen bur debyg), a’i hwylio i gynorthwyo llynges Prydain i orchfygu Armada Sbaen yn 1588. Serch hynny y mae tystysgrif gan Brif Lyngesydd y Deyrnas yn cofnodi i Pyrs hwylio i Abercegin yn 1600 yn gapten ar long ryfel y Grace yn tywys llong ryfel o Sbaen, y Speranza, ac yn meddiannu ei chargo o olew, olewydd, llestri pridd, sidan a nwyddau cain eraill. A dyma gofnodi un rhan o’i yrfa fel môr leidr eofn hyd nes y daliwyd ef yn harbwr Corc yn 1603 a’i ddirwyo yn drwm. Ond cenid ei glodydd ar strydoedd Bangor byth wedyn –

Llwm ac oer y gwela’ i’r Penrhyn,
Glan y Môr, ac Abercegin,
Er pan aeth y Capten Gruffydd
Dros y môr i speilio gwledydd.

Peidiodd pwysigrwydd Aberogwen fel glanfa yn y ddeunawfed ganrif wrth i berchnogion stad y Penrhyn ddatblygu porthladd Abercegin i allforio holl gynnyrch Chwarel Cae Braich y Cafn. Serch hynny, dengys cofnodion y tollau ym Miwmares fod Aberogwen yn dal i allforio llechi o’r forfa megis y tri llwyth a ddanfonwyd i Gaer yn 1730, a bod llongau o Lerpwl a Dumfries hefyd yn galw yno i’w llwytho. Pa un o chwareli plwyf Llanllechid tybed, oedd yn cyflawni’r gofyn yn Aberogwen mor gynnar yn y ddeunawfed ganrif? Chwarel Bryn Hafod y Wern fyddai’r dewis tebygol yn ôl traddodiad, ond eto heb y dystiolaeth angenrheidiol i gadarnhau’r ddamcaniaeth. Ar yr arfordir yr oedd goredau pysgod y Penrhyn yn parhau mewn bri ac yn gynnyrch incwm sylweddol i’r stad, ac yn ôl William Williams, swyddog dylanwadol i’r arglwydd cyntaf Richard Pennant ac awdur y llyfr Observations on the Snowdon Mountains a gyhoeddwyd yn 1802, fod yno hefyd yn Aberogwen welâu wystrys o gryn bwysigrwydd.

Untitled
Aberogwen yn 1910 wedi i wely Afon Ogwen gael ei unioni i lifo i’r môr gan adael Llyn y Celanedd yn wlybtir corslyd

Ciliodd y gogoniant a fu o Aberogwen gan adael traeth agored o dywod, gwymon, broc môr a heidiau o adar y glannau i bigo’u lluniaeth yn y llaid. Ond yn ôl tystiolaeth Hugh Derfel, yn ei gyfrol Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid a gyhoeddwyd yn 1866, yr oedd yno ar yr arfordir gaer gron ei chynllun gyda rhagfuriau cerrig yn ei hamddiffyn, ond yn nhreigl y blynyddoedd llithrodd hon i afael y môr a defnyddiwyd ei meini i adeiladu waliau caeau’r gymdogaeth. Yr un mor chwilfrydig yw cyfeiriad diddorol William Williams fod yno wedi ei chuddio yn nhywod y traeth weddillion carnedd o feini enfawr a gafodd ei graddol ddinistrio gan y môr dros genedlaethau dirifedi. Tybed ai beddfaen megalithig o gyfnod y Neolithig, o oed tri mileniwm cyn Crist, a gofnodir gan William  Williams? Hynny o gofio fod Aberogwen bryd hynny yn rhan o wlypdir Traeth Lafan lle mae o leiaf un fwyell garreg o’r cyfnod wedi ei chanfod i gadarnhau gwladychiad y draethell ar amser cynnar o gynhanes. Pwy a ŵyr, efallai fod Aberogwen eto i ddatgelu ei thrysorau?

IMG_1791
Glan y Fenai yn Aberogwen heddiw

Ffynonellau

David Thomas. 1952. Hen Longau Sir Gaernarfon.  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Caernarfon.

Eurig Salisbury, Barry J. Lewis . 2015.  Guto’r Glyn : a life. (Gwefan) – httpc://www.gutorglyn.net

Williams, J. Ll. W., 1996. A Neolithic axe from Traeth Lafan in the Menai Strait, Gwynedd.  Studia Celtica, 30, (1996) 277-282

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s