Y cwt barbar oedd Senedd pentref Rachub ac yno bob nos, oni bai am nos Sul, y trafodid holl agweddau ar fywyd y dreflan, y gymdogaeth a’r byd. Lleolwyd y cwt yn strategol ar y gongl rhwng y Stryd Fawr a Lôn Groes. Cwt yn hytrach na siop oedd y gyrchfan gyda seti o ryw hen fws, digon cyfforddus er pur ansad ar eu traed o frics, yno i groesawu pob cwsmer am shêf neu i gneifio’u mwng. Nid oedd na dŵr na thrydan yn rhan o gyfleusterau’r cwt a rhaid oedd cyrchu’r dŵr berw o’r drws nesaf mewn hen gwpan a chrac ynddi. Arthur Roberts oedd y barbwr hynaws; blaenor parchus yn Capel Llan, a barbwr amser hamdden oedd efe cans chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth a ddilynodd ei dad yn gymwynaswr i dwtio pennau brawdoliaeth y fro. Chwe cheiniog oedd y pris am ei gymwynas, gyda cheiniog o newid gan amlaf i blant, a’r un fyddai’r canlyniad waeth beth fyddai dyhead y ffasiwn – siortbacnseids.
Ond symbol arbennig, ac unigryw, oedd y cwt barbar o’r llu amrywiol o gyfleusterau a oedd yn plethu bywyd pentref hunangynhaliol Rachub yn endid byw – cymuned o lai na mil o eneidiau, ond un oedd â’i thras yn ymestyn yn ôl i hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac wrth gwrs lled un cae a hanner i ffwrdd i’r gogledd yr oedd yr hen sefydliad eglwysig a roddodd ei enw i blwyf Llanllechid a thyfu yng nghysgod hwnnw a wnaeth y pentref gan rannu rhai o’r dyletswyddau gweinyddol, crefyddol, cymdeithasol a gweithiol newydd gyda hen draddodiadau gwledig a chyfansoddiadol y llan o gyfnod llawer cynharach. Wrth gwrs, mantais fawr crynswth pentref Rachub oedd iddo gael ei sefydlu ar lain o dir serth a ‘achubwyd’ megis o dir comin y Goron gan warantu iddo annibyniaeth o grafangau ysig stad y Penrhyn gan sefydlu ynddo ei her, ei falchder a’i urddas o’r cychwyn cyntaf. Yr oedd iddo hefyd ei adnoddau – tair chwarel lechi ar y trothwy, os cyfrifid Chwarel y Foel yn drydedd, er na allai’r un o’r tair addo cyflogaeth sicr fel y gallai prif gynheilydd economi’r pentref yn chwarel y Penrhyn. Ac felly chwarelwyr oedd mwyafrif llethol ei phreswylwyr mewn gwaith er bod nifer o dyddynnod bychan yn rhannu’r safle i’r de a ffermydd mwy safonol eu maint yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd.

Ac yr oedd y dreflan hon yn endid clos, hunangynhaliol, fwy neu lai, tan ganol yr ugeinfed ganrif gan feddu ar yr holl gyfleusterau a oedd yn angenrheidiol i gynnal a meithrin ei phreswylwyr. Ar un cyfnod yr oedd yn y pentref dair becws, o leiaf saith o siopau bwyd yn cynnig yr amrywiaeth angenrheidiol o’r cigydd i’r groser, i lysiau, i chips, a hyd yn oed i dda da, ac yn Rhes Groes yr oedd yno siop ddillad. Yn y pentref yr oedd yno ymgymerwr yn gwerthu glo a warws i ddosbarthu diodydd pop. Gallai’r pentref gynnal dau gwmni bysiau – bysus Albert a bysus Grey Motors – ac yn Rhes Gefn sefydlwyd yr emporiwm mwyaf esoterig Dyffryn Ogwen – stiwdio dillad benthyg yr enwog John P a gyflenwodd wisgoedd i holl gwmnïau drama’r ardal a thu hwnt. Ar y sgwâr yr oedd yno unwaith ddwy dafarn, a dwy dafarn arall yn Llanllechid, y pedair yno i ddisychedu gofynion eu cwsmeriaid a fynnai ymgodymu’n groes i barchusion cul y gymdeithas ddirwestol.
Gofalid am werthoedd ysbrydol y pentref mewn tri chapel anghydffurfiol – capel Salem y Wesleaid, capel Carmel yr Annibynwyr, a chapel Bethel y Bedyddwyr, ac ar y trothwy yn Llanllechid ceid capel Peniel y Methodistiaid Calfinaidd, ac yno, wrth gwrs, yr oedd yr Eglwys Anglicanaidd i ddeiliaid ffyddlon y gyfundrefn Brydeinig o addoli. Chwaraeodd y gwerthoedd ysbrydol hyn ran annatod wrth sefydlu’r pentref ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cans yn Rachub yr agorwyd capel cyntaf y Methodistiaid yn yr ardal yn 1793 wedi i’r achos drosglwyddo o’i nythle cyntaf i lawr y lôn yn Tai’n y Coed, ei gorffori dros gyfnod o bron i bum mlynedd ar hugain yng nghapel yr Achub, ac yna ei ddanfon gyda sêl bendith ei gymunwyr i agor y fam eglwys yng nghapel y Carneddi yn 1816. Lawn cyn bwysiced i lewyrch y pentref oedd awch ei phreswylwyr am ddiwylliant ac addysg. Sefydlwyd yr ysgol wladwriaethol yn 1828, yr ysgol swyddogol gyntaf yn Nyffryn Ogwen a dilynwyd hi gan yr ysgol Frytanaidd yn 1853. Mater o farn yw pa mor llwyddiannus oedd yr addysg a drosglwyddwyd yn nosbarthiadau’r ddau sefydliad hwn o gofio tystiolaeth y disgyblion a addysgwyd dan drefn haearnaidd a Seisnig ysgolion tebyg yn yr ardal – gweler er enghraifft dystiolaeth Ernest Roberts yn Ysgol Tancapel, Bethesda neu Syr Ifor Williams yn ysgol Tregarth. Ond yr oedd llwyddiannau ysgubol, wrth gwrs, yn y disgyblion fel yn eu hathrawon. Elias Owen, prifathro ysgol yr eglwys o 1855 hyd 1871, oedd y gŵr craff cyntaf i gofnodi hynodrwydd arbennig archaeoleg yr ardal, tystiolaeth a gyflwynodd mewn erthyglau dysgedig mor gynnar ac 1866. A phe chwilid am un o ddisgyblion galluocaf y gyfundrefn Frytanaidd yna byddai enw Yr Athro W. E. Williams, mab tyddyn Tyddyn Canol, athro electroneg ym Mhrifysgol Bangor ac un o arloeswyr hedfan awyrennau ym Mhrydain, yn sicr o ddod i’r brig, ond un cynrychiolydd fyddai ef o’r fintai broffesiynol enfawr a’r llu mwy o gymdeithion cyffredin a gyfoethogodd fywyd yr ardal a thu hwnt ers sefydlu’r pentref dros agos i ddwy ganrif.
Sail ymlyniad gwleidyddol y gymdeithas oedd gwerthoedd sosialaidd oedd yn coleddu meddylfryd rhyddfrydig gan barchu egwyddorion cydraddoldeb ac annibyniaeth barn drwy ymwrthod ag awdurdod anghyfiawn. Y rhagoriaethau hyn ddaeth i’r brig yn hanes trychinebus cysylltiadau diwydiannol bregus yr ardal pan wynebodd cymdeithas y pentref gynni eithriadol yn y streiciau yn chwarel y Penrhyn ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed. Ac yn y cywair hwn y llwyddodd cynrychiolydd yr ardal ar y Cyngor Sir, yr Henadur Thomas Morris, i gyfrannu ei farn er lles ei etholwyr mewn cyfnod diweddarach yn hanes y pentref.
A rhaid peidio ag anghofio campau ysgubol tîm pêl-droed Llechid Celts yn chwarae yn fuddugoliaethus yng nghynghreiriau’r gamp yng ngogledd Cymru a balchder bro yn sbardun i’w llwyddiant gyda chnewyllyn y tîm yn fechgyn lleol i’w clodfori. Ac os am ddathlu balchder y pentref yna rhaid oedd troi allan i gefnogi ei rhianedd yn y carnifal blynyddol, oll yn eu rigelia benthyg, gan mwyaf, o emporiwm John P. Ac fel y cwt barbar symbol o lwyddiant ac urddas pentref oedd hyn oll i gadarnhau’r ymwybyddiaeth o berthyn ac o ddathlu hunaniaeth gymunedol.
Un pentref bach yng Nghymru wnaeth gyfraniad enfawr i fywyd y genedl oedd Rachub ac mae’n dal i wneud hynny, diolch byth, fel pentref balch a chlos, ond o dan amodau pur wahanol ers ei sefydlu. Ciliodd y wefr mewn crefydd a distawodd banllefau’r dilynwyr ar y cae pêl-droed. Cymuned fewnblyg yn gwerthfawrogi ei gwerthoedd sylfaenol oedd Rachub, ond bellach pentref yn edrych allan ydyw yn awr fel nifer o bentrefi tebyg ledled Cymru. Cymuned i gysgu ynddi a theithio allan ohoni yn ddyddiol, neu i ymddeol iddi ydyw yn bennaf bellach, y newid enfawr a ddigwyddodd i’w ffawd ers canol yr ugeinfed ganrif hyd at y presennol.
A dyma sut mae beirdd talcen slip Rachub yn rhagweld dyfodol y pentref –
Ymhen rhyw ganrif eto
Bydd llawer newid lle,
Bydd stemars yn dod i Rachub
A Gallongrydd yn dre.
Bydd efail yr hen Ifan
Yn storfa fawr a hardd
A’r hen Barc Moch yn borthladd
I longau Prydain Fawr.
Efallai fod y bardd wedi rhagweld sgil effeithiau cynhesu byd eang (!) ond prin y byddai wedi darogan y byddai’r efail yn mabwysiadu enwau mor annerbyniol hurt a’r Efail Swynol neu yn Saesneg The Enchanted Forge. Bobol annwyl yr enw cywir ydi’r Efail, a dyna derfyn ar y mater.
Diolchiadau i Vivienne Parry, Gwynfor Ellis, Marian Jones, Fred Doyle, Dilwyn a Lynda Pritchard a holl aelodau Cymdeithas Hanes Rachub a Llanllechid.